Connect with us
Advertisement
Advertisement

Cymraeg

Y mwnci iach yn helpu’r mwnci cloff croeso yn Nhre-fi n ond dim pleidleisie!

Published

on

garregSE’CH CHI’N MEDDWL y bydde cynnal un ddarlith i gofi o am Waldo Williams yn hen ddigon. Pwy ishe trefnu darlith bob blwyddyn sy? Conshi wedd e beth bynnag, yndyfe? Ma’ unwaith yn ddigon i ddweud popeth sydd i ddweud amdano, glei. Ond howld on Defi John. Os byse chi yng Nghas-mael y nosweth o’r blân yn gwrando ar Aled gwyn falle fysech chi’n credu’n wahanol. Yn ôl y prifardd roedd gan Waldo’r hyn a ddisgrifi odd fel empathi mowr. Yr hyn a olygai wrth hynny oedd bod gan Waldo’r gallu i ddeall dioddefaint pobol eraill.

Wel, onid oes gennym i gyd y gallu hwnnw meddech chi? Rydym yn cydymdeimlo â loes a galar a phwên cydnabod a thylwyth. Ond, na, roedd gallu Waldo i dosturio’n ymestyn ymhellach i gynnwys pobol nad oedd yn eu hadnabod yn bersonol. Ystyriai mai brodyr i’w gilydd yw pawb o bob cenedl a llwyth ar wyneb daear. Hynny yw nid oedd Waldo yn dymuno dim drwg i neb. Nid oedd yn un i ddwrdio na dial nag edliw. Ffordd tangnefedd a chariad oedd ei ffordd yn hytrach na ffordd distryw a chasineb. Amlygwyd hyn yn ei farddoniaeth meddai Aled gan esbonio mai dyna ystyr y llinell a ddewisodd yn destun i’w ddarlith -’Mor agos at ei gilydd y deuem’.

Yn wir cyn agosed y deuai pobol yng ngolwg Waldo nes eu bod yn un ac felly’n rhannu’r gynneddf o gynorthwyo ei gilydd yn hytrach na pheri anawsterau i’w gilydd. Yn hynny o beth fel sy’n deilwng i gyn-weinidog yr efengyl, a arferai wasanaethu yn Nyffryn Taf ar un adeg, cyfeiriodd Aled at gyngor yr Apostol Paul wrth Philemon ac Onesimus, y meistr a’r caethwas, i fod yn frodyr cydradd yn yr Iesu.

Soniodd hefyd am ddatganiad esgob Pabyddol cyfoes yn cyfeirio at y Pab Ffransis fel un `sydd gyda mi ac nid uwch fy mhen i`. Er mwyn darlunio’r pwynt yn gliriach cyfeiriodd at yr hyn a ddisgrifi odd fel ‘neurone empathy’ ymhlith creaduriaid. Mae’r mwnci iach, meddai, yn siŵr o roi cymorth i’r mwnci cloff a’i ymgeleddu pan ddaw’r angen. Yn wir, does dim sôn fod Waldo wedi ysgyrnygu ei ddannedd ar neb na chodi ei ddyrne mewn cynddaredd. Do, fe gafodd ei siomi droeon ond ni chwerwodd.

Parod fyddai i ddadlau am yr hyn a ystyriai’n werthoedd tragwyddol. Ymhlith y gwerthoedd hynny oedd heddychiaeth a brawdgarwch fel y dengys ei gerddi mwyaf dwys. Parod oedd i gynorthwyo ei elyn. Trafodir llawer ynghylch pwy oedd bardd Cymraeg mwyaf yr ugeinfed ganrif. Dywed rhai mai Waldo Williams sydd ar y brig. Ffafria rhai rhamantiaeth a thlysni cerddi T. Gwynn Jones. Sonia eraill am grefft R. Williams Parry. Oes yna gerdd berffeithiach na’i soned i’r ‘Llwynog’? Fe’i gwelodd â llygad camera gyda’i ‘untroed oediog’.

Gerallt Lloyd Owen yw dewis eraill wedyn ar gownt ei ganu am sofraniaeth cenedl a’i fynych gyfeiriadau at gyfl wr y Gymraeg yng nghyd-destun gaeafwynt ac oerni. Daw Dic Jones ac Alan Llwyd i’r ffrâm hefyd a Gwenallt. Ond yr hyn a anghofi r yw bod Waldo’n fwy na bardd. Wedi’r cyfan llawforwyn i’w heddychiaeth a’i weledigaeth o blaid dynoliaeth gyfan oedd ei farddoniaeth. Na, nid Waldo oedd bardd mwyaf yr ugeinfed ganrif. Cymro mwyaf yr ugeinfed ganrif falle a sawl canrif arall. Mae ei fawredd yn dal ar gynnydd. Dibynna ar eich chwaeth a’ch anian pwy yw’r Cymro mwyaf wrth gwrs; John Charles, Aneurin Bevan, Barry John, Lloyd George, Owain Glyndŵr . . . O leiaf mae yna ddewis ohonyn nhw.

Ond pwy sy’n debygol o adael gwaddol fydd yn dal i ddylanwadu mewn canrifoedd i ddod? Diaich i, beth am hiwmor wedyn te? Soniodd crwt ifanca’ Parcnest am hanes Waldo’n canfasio yn Nhre-fi n adeg etholiad 1959. Ceson nhw shwd groeso yn y pentre nes iddyn nhw ddychwelyd yno droeon. Drws agored, dishgled o de a chacs ymhob man. Ond pan ddaeth hi’n nosweth y cownt bach iawn oedd y pleidleisie o Dre-fi n. Ni phwdodd ond yn hytrach rhyfeddu at smaldod ac oriogrwydd pobol gan lunio pennill i nodi mai braenaru’r tir a wnaed a bod y cynhaeaf i ddod rhywbryd eto. Cymro mowr y gobaith tragwyddol. Ma’ pob darlith yn towlu goleuni o’r newydd ar gyn-brifathro dros dro Cas-mael.

Continue Reading
Click to comment

Leave a Reply

Your email address will not be published.

Cymraeg

Cân i Gymru yn nôl, nôl, nôl

Published

on

MAE hi bron yr amser o’r flwyddyn ble y gall pobl Cymru ddod at ei gilydd i ddathlu diwylliant Cymraeg ac ymfalchïo yn eu Cymreictod. Ydi, mae Cân i Gymru 2020 yn agosáu.

Gyda Elin Fflur a Trystan Ellis-Morris yn cyflwyno, caiff y gystadleuaeth ei darlledu’n fyw ar S4C o Ganolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth ar 29 Chwefror am 8.00.

Meddai Siôn Llwyd o gwmni Avanti, sy’n cynhyrchu’r rhaglen ar gyfer S4C: “Mae’r panel eleni, sef; Bryn Fôn, Georgia Ruth, Ani Glass ac Owain Roberts wedi dewis wyth can wych.

“Ond yn ogystal â chael mwynhau y caneuon gwreiddiol, newydd sbon yma, bydd Bryn Fôn yn mynd â ni nôl i’r nawdegau gyda perfformiad arbennig o Gwlad yr Rasda Gwyn i nodi ei bod hi’n dri deg blwyddyn ers i’r gân gipio tlws Cân i Gymru.

Dywedodd Bryn: “Ma’n ryfeddol meddwl fod deg mlynedd ar hugain wedi mynd heibio ers i Rasda fynd â hi. Mi fydd hi’n braf camu i’r llwyfan heb y pwysa o gystadlu.

“Dwi newydd ffeindio toriadau o hen bapurau newydd oedd fy Mam wedi cadw. Digwydd bod roedd two-page spread am Cân i Gymru 1990 yn rhestru pawb ath trwyddo. Diddorol iawn gan mod i wedi anghofio pwy arall oedd yn cystadlu. Wedi’i rhestru oedd Eryr Wen, Gareth Morlais a dwy ferch o Pen-Llyn. Ar y pryd, doedd gen i ddim syniad y bysa un o’r merchaid hynny yn dod i ganu gyda Sobin a’r Smaeliaid ychydig yn ddiweddarach.

“Roedd hi’n dipyn o dâsg dewis wyth cân gan fod lot o geisiadau da. Mae’r pedwar ohonom yn cynrychioli gwahanol fathau o gerddoriaeth, felly dwi’n credu fod dipyn o drawsdoriad. Mae na amrywiaeth da, rhywbeth i bawb. Fydd hi’n gystadleuaeth agos iawn dwi’m yn ama gan fod sawl cân yn sefyll allan.”

Yr wyth cân sy’n cystadlu am wobr o £5,000 a’r cyfle i gynrychioli Cymru yn yr Ŵyl Ban-geltaidd eleni yw: Arianrhod gan Beth Celyn; Adref yn ôl gan Tesni Jones; Sara Williams, Roo Walker; Dawnsio’n Rhydd gan Ben Hamer a Rhianna Loren; Pan Fyddai’n 80 Oed gan Rhydian Meilir; Morfa Madryn gan Alistair James; Y Tir a’r Môr gan Rhydian Meilir; Cyn i’r Lleni Gau gan Gruffydd Wyn a Tim Goodcare ac Anochel gan Aled Mills.

Ymhlith yr wyth act bydd sawl wyneb cyfarwydd gyda rhai eisoes wedi cystadlu ac ambell un wedi ymddangos ar Britain’s Got Talent a The Voice. Efallai y bydd rhai o’r caneuon yn gyfarwydd hefyd gan fod BBC Radio Cymru am eu chwarae ac rhoi cyfle cynnar i wrando.

Mae Siôn am eich atgoffa fod ffawd y cystadleuwyr yn eich dwylo chi. “Cofiwch godi’r ffôn a pleidleisio. Neu pam ddim bod yn ran o’r gynulleidfa ar y noson? Ma’n rhad ac am ddim, yr oll sydd angen gwneud yw cysylltu â swyddfa docynnau Canolfan y Celfyddydau ar 01970 623232.”

Os ydych chi am drydar am y gystadleuaeth eleni, cofiwch ddefnyddio’r hashnod #CiG2020. Bydd manylion am sut i bleidleisio yn cael eu cyhoeddi ar y rhaglen, a’r gân fuddugol yn cael ei chyhoeddi yn fyw ar S4C yn hwyrach yn y noson.

Continue Reading

Cymraeg

Arddangos gwaith arlunwyr lleol yn Oriel y Parc

Published

on

Yn Oriel y Parc yn ystod y gwanwyn hwn: Gwaith gan Michaela Holyfield ac Yvette Brown

BYDD dwy arddangosfa newydd gyffrous gan arlunwyr lleol yn cael eu dadorchuddio y mis Chwefror hwn yn Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc, Tyddewi.
Yn dilyn ei chyfnod preswyl llwyddiannus yn 2019, bydd Michaela Holyfield, arlunydd sy’n byw yn Ninbych-y-pysgod yn dychwelyd i Oriel y Parc gyda detholiad o’i gwaith yn cael ei ddangos ar ei ben ei hun yn yr arddangosfa. Mae arddangosfa ‘Taith’ yn cael ei hysbrydoli gan y dirwedd leol a stori’r Santes Non.
Dywedodd Michaela Hollyfield: “Mae fy ngwaith yn ymdrin â motiffau, sy’n cynrychioli metaffor symbolaidd i mi yn bersonol ynghyd â’r broses o arlunio. Y mwyaf yr ydw i’n ganiatau i’r broses arlunio gael ei hannibyniaeth ei hun, y mwyaf yr ydw i’n clywed beth y mae’r darlun yn ddweud wrthyf. Mae arlunio wedi dod yn rhywbeth sy’n ymddiried yn y broses greadigol ac yn caniatáu i’r darlun ymddangos yn organig.”
Wedi’i dylanwadu gan yr arlunwyr Symbolaidd Hodler a Munch, Mynegiadaeth Haniaethol a gwaith Peter Doig, mae Michaela yn creu darnau haniaethol, llachar sy’n archwilio’r broses o arlunio.
Bydd ‘Taith’ yn cael ei arddangos yn Ystafell Tyddewi rhwng Dydd Sul, 2 Chwefror a Dydd Llun, 30 Mawrth.
Yn ogystal, bydd ‘Byd o straeon bychain’ gan Yvette Brown yn dechrau ar ddydd Sul, 2 Chwefror. Adroddwr hunanaddefedig o ‘straeon celwydd golau’.
Mae Yvette yn defnyddio mannau bychain ar gyfer gwaith celf – o bobl biwtar yn prancio ar froc môr, at adar sy’n datgelu eu cyfrinachau y tu mewn i lyfrau sydd wedi cael eu hailddefnyddio neu fynegi eu barn ar Radio 4.
Dywedodd Yvette Brown: “Mae gen i arferiad o lwytho straeon celwydd golau i fannau bychain. Yn ddiweddar, rydw i wedi bod yn ail-greu llyfrau fel eu bod yn dweud stori wahanol i’r hyn yr oedden nhw’n ei ddweud yn wreiddiol, ac rydw i’n dweud llawer o gelwyddau am adar. Hefyd, mae gen i griw bach o gymeriadau sy’n cerdded o gwmpas ar ddarnau o froc môr ac maen nhw’n ddigon caredig i’ch caniatáu chi i lunio eich straeon eich hunain amdanyn nhw.”
Bydd ‘Byd o Straeon Bychain’ yn cael ei arddangos yn Ffenestri’r Ystafell Ddarganfod tan ddydd Gwener, 28 Chwefror.
Mae Oriel y Parc yn eiddo i Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro ac yn cael ei redeg ganddo. Dyma hefyd gartref Amgueddfa Cymru-National Museum of Wales yn Sir Benfro.
Mae mynediad yn rhad ac am ddim ac mae’r adeilad yn gwbl hygyrch.
Er mwyn gweld yr arddangosfeydd, y digwyddiadau a’r gweithgareddau presennol ewch i www.orielyparc.com os gwelwch yn dda

Continue Reading

Cymraeg

Colin Jackson bydd ddysgu Cymraeg

Published

on

Colin Jackson: Athletwr yn neidio ar y cyfle i ddysgu Cymraeg

GYDA medal Olympaidd yn ei feddiant, mae Colin Jackson wedi arfer a hyfforddi’n galed er mwyn cyrraedd yr uchelfannau. Ond sut fydd pencampwr y byd gwibio a chlwydo yn delio gyda’r her o ddysgu Cymraeg?
Mae Colin, a gafodd ei fagu yng Nghaerdydd, wedi cael ei enwi fel y trydydd seleb i gymryd rhan yn gyfres newydd sbon ar S4C yng Ngwanwyn 2020 sef Iaith ar Daith.
Bydd Colin yn un o bump seleb – gan gynnwys Carol Vorderman a Ruth Jones – sy’n mynd ar daith i rannau gwahanol o Gymru gyda mentor adnabyddus sy’n gallu siarad Cymraeg, i geisio dysgu Cymraeg.
Yn achos Colin, y cyflwynydd teledu a radio Eleri Siôn yw’r mentor ac mae’r ddau yn ffilmio yn Aberystwyth a Chaerdydd dros y dyddiau nesaf.
Fel rhan o Iaith ar Daith, mae’n rhaid i bob un o’r selebs gyflawni nifer o sialensiau – ac un o rheini i Colin yw dangos ei fod yn gallu deall ac ymateb i gyfweliad yn y Gymraeg.
Colin, wedi galw mewn yn stiwdios y BBC yn Aberystwyth ac yn westai arbennig ar sioe Ifan Jones Evans ar BBC Radio Cymru ar ddydd Llun, 3 Chwefror.
Yn siarad cyn y sialens, fe ddywedodd Colin: “Dw i bach yn nerfus ac yn poeni braidd. Nerfau yw fy ngelyn pennaf! Dw i’n teimlo’n rhwystredig iawn os dw i methu dod o hyd i’r geiriau i fynegi fy hunan.
“Ond dw i’n gobeithio bydda i ac Eleri yn cael lot o hwyl. Dw i’n gobeithio bydd lot o chwerthin a bydd Eleri yn mwynhau’r profiad yn ogystal â helpu fi ar y daith. Fe fydd hi’n atgoffa fi o’r pethau dw i wedi anghofio ac yn gwneud imi ail-adrodd pethau ac i wir gael teimlad o’r iaith.”
Dywedodd Colin ei fod e eisiau dysgu Cymraeg oherwydd mae’n genfigennus o’i chwaer, yr actores Suzanne Packer, a’i gallu hi i siarad Cymraeg.
“Mae fy chwaer yn dysgu ac yn gwneud yn dda iawn. Dw i’n gweld bod siarad Cymraeg yn helpu hi gael perthynas mwy agos gyda Chymru. Dw i’n teimlo bod y gallu gyda fi ond bydda i’n cymryd y peth yn ara’ deg. Erbyn adeg yma blwyddyn nesa’ fe fydda i’n rhugl!”
“Mae gen i real chwant i ddysgu Cymraeg – dw i’n meddwl bod rhaid i chi wir eisiau gwneud e – mae’n rhywbeth sy’ tu fewn i chi,” meddai Colin.
A sut mae Colin yn teimlo am wneud y cyfweliad ar sioe Ifan Evans?
“Bydd yn teimlo fel y cyfweliad hiraf dw i erioed wedi gwneud!”, medd Colin. “Ond dwi’n edrych ymlaen. Cyn belled bod Ifan yn siarad yn araf a dyw’r cwestiynau dim yn rhy gymhleth bydda i’n iawn – fe wna i oroesi!”
Yn gynharach y mis yma, fe gyhoeddodd S4C bod y cyflwynydd Carol Vorderman a’r actores ac awdur Ruth Jones yn cymryd rhan yn Iaith ar Daith.
Un o dasgau Ruth oedd dysgu sgript a chael rhan ar yr opera sebon poblogaidd Pobol y Cwm a dydd Sul diwetha’, cyflwynodd Carol y tywydd ar S4C.
Cadwch lygaid allan am fwy o newyddion ar Iaith ar Daith dros yr wythnosau nesaf pan fydd dau wyneb cyfarwydd arall yn cael eu datgelu ynghyd â’u mentoriaid.
Os fethoch chi ymddangosiad Ruth ar Pobol y Cwm ar ddydd Mawrth, Ionawr 21 gallwch chi ddal i fyny ar S4C Clic neu BBC iPlayer

Continue Reading
News2 days ago

Council pays out £2.5m in business grants to date

PEMBROKESHIRE COUNTY COUNCIL has revealed that since Wednesday, 1st April, it has already paid out £2.5 million in grants to...

News2 days ago

Man issued with two COVID-19 fines in 24 hours as police thank those following new legislation

A man has been issued with two fines in 24 hours for flouting Coronavirus legislation, as police thank those who...

News3 days ago

School staff video spreads positive message to students

A VIDEO featuring hundreds of Pembrokeshire educators, teachers and support staff is spreading a positive message to their students and...

News4 days ago

Public bus services change in Pembrokeshire

Due to the current situation there are a number of changes required to public bus services in Pembrokeshire. The County...

News4 days ago

Coronavirus patient being treated at Withybush intensive care unit, say staff

STAFF working at Withybush General Hospital in Haverfordwest have confirmed that there is a patient in intensive care suffering from...

News4 days ago

Covid-19 grants for small businesses now being distributed

PEMBROKESHIRE COUNTY COUNCIL’S Cabinet Member for Economy, Tourism, Leisure and Culture, Paul Miller, has announced that payments to businesses started...

News4 days ago

Pembrokeshire County Council Leader’s coronavirus update

PEMBROKESHIRE COUNTY COUNCIL Leader, Councillor David Simpson, has provided a further coronavirus update for Tuesday, 31st March, as follows: ‘I...

News5 days ago

Pembrokeshire County Council housing services update

FOLLOWING the most recent Government guidance, Pembrokeshire County Council’s housing department has had to cut back on all face-to-face meetings...

News1 week ago

Police turn away caravans and campervans heading for Pembrokeshire

PEMBROKESHIRE is currently closed to visitors’ is the message from Dyfed-Powys Police as officers work to prevent the spread of...

News1 week ago

Be a considerate neighbour during the coronavirus lockdown

DURING the current lockdown, Pembrokeshire County Council has seen an increased number of complaints from members of the public who...

Popular This Week