Connect with us
Advertisement
Advertisement

Cymraeg

Bywyd go wyllt yn yr allt o dan y lloer

Published

on

garreg`NA CHI GRIW HWYLIOG yw criw Cerddwyr Teifi. Ma’ nhw’n cerdded unwaith y mis ac yn gwahodd tywyswyr sy’n gyfarwydd â’r fro lle mae’n nhw’n cwrdd i’w harwain. Ma’ nhw’n mentro o olwg Afon Teifi ac yn croesi’r ffin i Sir Benfro bob hyn a hyn. Dyna ddigwyddodd ym mis Ionawr pan gyrhaeddon nhw Faenclochog. Wir i chi, doedd y maes parcio ddim wedi bod mor llawn ers i’r Gymanfa Ganu ddiwethaf gael ei chynnal yng nghapel Tabernacl wrth law.

Gesum i a Gareth Jones y fraint o dywys y criw o amgylch bro’r meini. Fe wedodd rhywun ei fod wedi cownto 74 ohonom yn cerdded ling di long ar hyd y pentre. Sai’n siwr a wedd hynny’n gowir ond wen ni’n griw jogel, ta pu’n i. Pan fyddem yn oedi i adrodd ambell bennill am hyn a’r llall wedd rhaid dishgwl am getyn go hir cyn i rai o’r straglers ddala lan.

Yr arhosfan gyntaf oedd y tu fas i garej Delfan lle cyfansoddodd y prifardd Eirwyn George y cerddi a enillodd iddo ddwy goron genedlaethol. A’r cyfansoddi, wrthgwrs, yn Nelfan yn hytrach nag yn y garej ei hun. Yn groes i’r arfer cafodd ei goroni’r eilwaith pan oedd yn dal ar ei draed. Roedd yr archdderwydd wedi anghofio dweud wrtho am ishte yn y gadair.

Cafwyd englyn comisiwn ar gyfer y daith gan Eirwyn ac mae’n werth dyfynnu ei bortread o ardal Maenclochog.

Tir y manwellt a’r meini, – bro’r oerwynt,

Bro’r aradr ar berci,

Henfro’r ŵyn a’r clogwyni :

Tir ein hiaith yw’n pentre ni.

‘Na bert yn dyfe? Ma’ rhwbeth yn gryno iawn mewn englyn ond o’s e?

Awd ar hyd Feidr Danclawdd wedyn. Wedd y criw wedi rhyfeddu wrth groesi’r nentydd a cherdded trwy’r allt. Penderfynodd sawl un y bydden nhw’n dychwelyd yn y gwanwyn a’r haf pan fydde’r bacse brain yn garped. Holodd un o’r rhocesi a oedd yna dipyn o fywyd gwyllt yn y cyffinie. Yr ateb gafodd hi oedd gwahoddiad i ymuno ag un o’r tywyswyr yn yr allt ar noson loergan ac addewid y bydde pob dim yn go wyllt. Rhyw ddiwrnod fel ‘ni oedd hi.

Ceisiwyd dychmygu’r fro cyn llunio perci a chloddie a phan oedd meini, cylchoedd cerrig a chromlechi yn rhan o’r tirlun. Ni wyddom beth yn gwmws oedd eu harwyddocâd. Cred rhai fod yna dair cromlech yn y cyffinie ar un adeg. Pam? Cromlech sblit falle yn union fel y penderfynodd yr Annibynwyr godi dau gapel o fewn golwg i’w gilydd mewn cyfnod diweddarach ym Maenclochog?

Arhoswyd y tu fas i gapel Horeb y Bedyddwyr i gofnodi’r ffaith fod ‘Wncwl Wili’ y cyn-brif-weinidog, Rhodri Morgan, wedi bod yn fugail yno ar ddechre’r ganrif ddiwethaf. W. J. Rhys oedd ei enw. Adroddwyd am yr annibendod pan wahoddwyd Rhodri i achlysur yn y pentref ar sail hynny. Ond roedd yna W. J. Rees wedi bod yn weinidog yn y fro hefyd gyda’r Annibynwyr. Cafflwyd. Dewiswyd llun o’r W.J. anghywir i’w gyflwyno iddo!

Terfynwyd y daith ym mynwent eglwys y plwyf ar ganol y pentref. Yno ceir dwy garreg ogam. Prin y gellir bod yn fwy hynafol na hynny. Yno hefyd mae carreg fedd Dai Evans Penygraig a chwaraeodd rygbi dros Gymru yn y 1890au. Bois Plascwrt gerllaw yw ei wyrion. Mae’n stori rhyfeddol.

Yn y fynwent hefyd mae bedd Thomas Howells neu Twm Martha Fach fel y nabyddwyd y trempyn. Synnon ni’n siwr ble. Wedd hi’n arfer da ge i droi ei gorff at y clawdd yn ei gwrcwd pan ddeuai rhywun tuag ato ar y ffordd. Credai ei fod yn cwato wedyn. Mae lle i gredu ei fod yn cwato rhywle yn y fynwent ‘fyd.

A rhaid oedd esbonio mai deillio o’r Hen Wyddeleg a wna enw’r pentre o’r gair ‘clocoz’ sy’n golygu ‘tir llawn meini’. A dyna fel oedd hi mae’n siwr pan oedd llwyth y Deisi yn y cyffinie tua’r bedwaredd i’r chweched ganrif. Mae’r ddwy garreg ogam yn yr eglwys yn dyst o’u presenoldeb.

Ma’ na sôn y daw Cerddwyr Teifi nôl i fro’r meini rhyw getyn ‘to.

Continue Reading
Click to comment

Leave a Reply

Your email address will not be published.

Cymraeg

Dynes mwyaf dylanwadol datganoli’n cael sgwrs dan y lloer

Published

on

UN o ferched mwyaf dylanwadol yn hanes datganoli Cymru fydd gwestai Elin Fflur ym mhennod nesaf Sgwrs Dan y Lloer nos Lun 15 Mawrth.

Wrth i’r haul fachlud ar arfordir Ceredigion, Llywydd y Senedd, Elin Jones bydd yn croesawu Elin i’w gardd yn Aberaeron. O flaen tanllwyth o dân, cawn glywed am ei phlentyndod yn ardal Llanwnen, ger Llanbed, ei dyddiau yn cyd-ganu yn rhan o grŵp Cwlwm, a’r hyn sy’n tanio ei gwleidyddiaeth.

Bu’r tân yn ei bol am gyfiawnder yno ers yn ifanc, er nad oedd gwleidyddiaeth yn beth amlwg ar yr aelwyd adref:

“Ges i ddim fy magu ar aelwyd wleidyddol lle’r oedden ni’n trafod gwleidyddiaeth. Bydden i ddim yn gwybod sut o’dd fy rhieni i’n pleidleisio pan o’n i’n ifanc. Ond dwi’n gwybod am stori o’dd un o’n athrawon i’n dweud. Yn yr Ysgol Gynradd, fi o’dd yr un disgybl bach hynny oedd yn cwyno wrth yr athrawon bod nhw’n cael peaches and cream i bwdin amser cinio, a bod y plant yn cael semolina…a bod hynny ddim yn deg.

“Ac felly mae’r athrawes hynny wedi dweud wrtha i sawl tro ers hynny bod rhywbeth yndda i hyd yn oed bryd hynny oedd yn gweld annhegwch ac yn gwrthod cymryd hynny!”

A buan y tyfodd yr awydd i wneud gwahaniaeth. Daeth y blas cyntaf o wleidyddiaeth ynghlwm â phlaid ddigon annisgwyl:

“Un o’r etholiadau cynta’ nes i sefyll oedd yn Ysgol Uwchradd Llanbed yn 1982 – un o’r etholiadau ffug ‘na, a dwi’n cael lot o dynnu coes am hyn – ond fi oedd yr ymgeisydd Torïaidd. 15 oed o’n i; o’n i ddim wedi ffurfio ‘ngwleidyddiaeth yn llawn yn fy meddwl! Ac yn rhyfedd iawn nes i ennill yr etholiad ‘na. Ond dwi wastad yn dweud mai teamwork oedd e, achos Shân Cothi oedd fy asiant! Dyna’r tro diwetha’ i mi sefyll i’r Torïaid…nes i ddysgu o hynna ‘mlân.”

Bu Elin ar Gyngor Tref Aberystwyth o 1992 tan 1999, a hi oedd Maer ieuengaf y dref yn nhymor 1997-98. Ond daeth holl ffurfioldeb y rôl yn dipyn o sioc iddi:

“Do’n i ddim wedi dishgwyl yr holl rigmarôl o’dd yn dod gyda bod yn Faer. Ac wrth gwrs gwisgo’r tsiaen; mae tsiaen Maer wedi cael ei wneud ar gyfer ysgwyddau llydan dyn o’r ddeunawfed ganrif fwy neu lai, felly pan mae menyw ifanc, eiddil yn dod i geisio’i gwisgo, dyw e ddim yn ffito; mae’n slipo, ac felly dyw gwisgo’r tsiaen ddim yn un o’r pethau mwya’ cyfforddus yn gorfforol na sut o’dd o’n cael ei weld.

“Dwi’n meddwl bod angen i bobl – bobl ifanc a menywod yn enwedig i gymryd cyfrifoldebau gwahanol a rhoi eu henwau mlân, achos mae ‘na ormod o ddynion mewn gwleidyddiaeth wedi bod ar hyd y ganrif ddiwetha’.

“I fi, o’dd cerdded mewn i stafelloedd cyfarfodydd yn y 90au pu’n o’dd hwnna gyda ‘ngwaith i gyda’r Bwrdd Datblygu bryd hynny neu yn fy ngwleidyddiaeth i o fewn Plaid Cymru, yn y Cyngor Tref yn Aber, roedd yn ddynion mewn siwts llwyd i gyd, ac felly o’dd menyw’n cerdded mewn cot binc tamed bach yn wahanol, ac mae’n bwysig dod a ‘bach o liw i wleidyddiaeth.

“Pobl wahanol o gefndiroedd gwahanol, ac fe ddylai pob agwedd o fywyd fod yn hanner menywod, hanner dynion, achos dyna beth yw bywyd, ac felly mae’n bwysig fod menywod yn cymryd y cyfrifoldebau yna.”

Continue Reading

Cymraeg

Addo – adduned i gadw Cymru yn ddiogel wrth aros yn lleol

Published

on

Am fod y cyfyngiadau Coronafeirws diweddaraf yn gofyn i bobl yng Nghymru aros yn lleol, bydd Croeso Cymru yn ail-lansio ei ymgyrch Addo, gan ofyn i bobl Cymru wneud adduned wrth iddyn nhw ddechrau mentro yn eu cymunedau lleol unwaith eto i ofalu am ei gilydd, am ein tir ac am ein cymunedau.

Mae Addo yn ymwneud â phobl yn gweithio gyda’i gilydd, gan wneud adduned ar y cyd i ofalu am ei gilydd a’n gwlad.  Mae gofyn i bobl wneud adduned yn ffordd ddiddorol i bobl fuddsoddi’n emosiynol yng Nghymru a dangos eu bod yn cymryd pethau o ddifri hefyd. Drwy ymuno â ni, a gwneud adduned, byddwn ni i gyd yn chwarae ein rhan — drwy ofalu amdanon ni ein hunain ac eraill. Gellir llofnodi’r adduned rhithwir yn www.Croeso.cymru/addo

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yr Arglwydd Elis-Thomas: “Wrth inni i gyd baratoi i fentro ychydig ymhellach unwaith eto, mae’n bwysig ein bod yn aros yn lleol, a’n bod ni i gyd yn chwarae ein rhan wrth gadw Cymru’n ddiogel drwy beidio â mynd yn rhy bell.  Dyma’r amser i wneud adduned gyda’n gilydd, i wneud y pethau bach a fydd yn gwneud gwahaniaeth mawr ac i ddiogelu’r harddwch sydd o’n cwmpas ac i barchu ein cymunedau.

“Mae angen i bob un ohonon ni gadw’n ddiogel er mwyn i Gymru aros ar agor a chaniatáu inni symud gyda’n gilydd tuag at fywyd mwy normal. Gallwn ni i gyd wneud hyn. Nid oes neb am inni weld cyfyngiadau’n cael eu cyflwyno unwaith eto, gan golli’r cynnydd rydyn ni wedi’i wneud. Dim ond drwy weithio gyda’n gilydd y gallwn ni helpu i gadw Cymru’n ddiogel.”

Bydd y gweithgaredd yn cael ei gyflwyno yng Nghymru i ddechrau, a bydd yn cynnwys cyfuniad o hysbysebion digidol, cysylltiadau cyhoeddus a hysbysebu y tu allan i’r cartref. Bydd yr ail gam yn cynnwys hysbysebion teledu a radio, ac yn cael ei ehangu i dargedu ymwelwyr mewn marchnadoedd allweddol ar ôl i’r cyfyngiadau gael eu codi ymhellach. Dyma un o’r ffyrdd mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda’r diwydiant a phartneriaid i reoli cyrchfannau lleol, a bydd yr ymgyrch yn cael ei hehangu i hyrwyddo negeseuon ynghylch pwysigrwydd parchu’r Cod Cefn Gwlad, gan ganolbwyntio ar fanteision treulio amser yn yr awyr agored a helpu i leihau’r pwysau ar ein mannau agored a’n tirweddau.  Bydd asedau’r ymgyrch yn cael eu rhannu â phartneriaid dros yr wythnosau nesaf i sicrhau bod negeseuon cyson am ymddygiad cyfrifol yn cael eu hyrwyddo ledled Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnig cymorth ariannol i helpu Awdurdodau Lleol i baratoi ar gyfer ailagor yr Economi Ymwelwyr, er mwyn rheoli’r Economi Ymwelwyr mewn modd gweithredol a rhoi ymyriadau ar waith ar sail ein profiadau y llynedd.

Dywedodd Julie James, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: “Rwy’n falch iawn ein bod wedi gallu cynnig cyllid i’r Awdurdodau Lleol a’r Parciau Cenedlaethol drwy’r Gronfa Galedi, i helpu i gadw Cymru’n ddiogel wrth inni wneud cynlluniau i ailagor yr economi ymwelwyr – pan fydd sefyllfa iechyd y cyhoedd yn caniatáu hynny.  Bydd yr arian hwn yn galluogi Awdurdodau Lleol i roi mesurau ar waith i liniaru pwysau a gosod cyfleusterau ychwanegol a fydd yn helpu i roi profiad cadarnhaol i bawb wrth ddarganfod Cymru.”

Dywedodd Llefarydd CLlLC ar Dwristiaeth, y Cynghorydd Huw Thomas, “Mae’r Economi Ymwelwyr yn hanfodol i economi Cymru. Mae awdurdodau lleol yn cefnogi ei ailagor yn ddiogel fesul cam ac yn ofalus. Mae croeso cynnes i gyllid y Llywodraeth ar gyfer Cynghorau a Pharciau Cenedlaethol. Bydd yn ein galluogi i gynllunio a rheoli’r economi ymwelwyr i fod yn ddiogel dros haf prysur. Byddwn yn gallu rhoi sicrwydd i gymunedau lleol a bod o fudd i’r economi, a thrwy gydweithio gallwn gynnal iechyd y cyhoedd ac ailagor yr economi.”

Mae Croeso Cymru hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â’r diwydiant ar gynllun cryfhau ac ailadeiladu ar gyfer dyfodol yr economi ymwelwyr yng Nghymru.

Gellir llofnodi’r adduned ar y wefan  www.Croeso.cymru/addo

Continue Reading

Cymraeg

Pwyllgor yn unfrydol o gefnogi datganoli darlledu

Published

on

RHAID i Gymru gael mwy o lais o ran sut mae darlledu yn cael ei ariannu a’i reoleiddio os ydym am ddatblygu cyfryngau sy’n gwasanaethu ac yn cynrychioli’r wlad yn iawn.

Dyna yw casgliad ymchwiliad gan Bwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu y Senedd, a gyhoeddwyd mewn adroddiad heddiw, 11 Mawrth 2021.

Bu’r ymchwiliad yn ystyried sut y gellir cryfhau llais Cymru, yn enwedig o ran penderfyniadau ynghylch cyllido a phennu cylch gwaith gwasanaethau – i gynnwys y darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus a ariennir gan ffioedd trwydded, sef BBC Cymru Wales, S4C a’r drydedd sianel, ITV Cymru – yn ogystal â thrwyddedau radio masnachol, a sut y gallai Llywodraeth Cymru gefnogi’r sector newyddiaduraeth yn well.

Roedd Aelodau’r Pwyllgor yn unfrydol yn eu casgliad bod yn rhaid i’r Senedd a Llywodraeth Cymru ennill pwerau pellach dros ddarlledu – er bod y farn ar faint y datganoli pellach hwnnw yn amrywio – gyda phenderfyniad y dylai’r adroddiad hwn ddarparu man cychwyn pendant ar gyfer rhywfaint o ddatganoli cyfrifoldebau.

Bethan Sayed AS: Cadeirydd Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu y Senedd

Eglura Cadeirydd Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu y Senedd, Bethan Sayed AS, fel a ganlyn: “Mae’r cynnwys sydd ar gael i Gymru ar y cyfryngau yn annigonol. Does gennym ni ddim y ddarpariaeth newyddion a materion cyfoes sydd ei hangen ar Gymru ac mae meysydd eraill – fel cynnwys ar gyfer plant, comedi a drama – hefyd wedi’u tangynrychioli, sy’n golygu nad ydym yn gweld adlewyrchiad o’n hunain ar ein sgriniau. Mae twf y cewri ffrydio byd-eang wedi dod â ffyniant i gynyrchiadau a wnaed yng Nghymru, ond nid yw wedi gwneud llawer i gynyddu rhaglenni sy’n portreadu bywydau pobl Cymru yn benodol.

“Mae’r Pwyllgor yn cytuno bod angen mwy o bŵer ar Gymru dros ddarlledu, er mwyn sicrhau y gallwn ddatblygu’r cyfryngau sydd eu hangen arnom fel cenedl; mae rhai’n ffafrio datganoli pwerau darlledu i’r Senedd yn llawn, ac eraill o blaid pwerau newydd mwy cyfyngedig mewn meysydd penodol.

“Roedd yn amlwg yn ôl y dystiolaeth a gawsom gan ddarlledwyr, cwmnïau cyfryngau ac academyddion yn yr ymchwiliad hwn nad yw’r strwythurau presennol yn gweithio i Gymru, ac mae’r Pwyllgor wedi dod i’r casgliad bod angen mwy o lais ar Gymru ym mhob maes darlledu. Mae hyn yn cynnwys yn benodol, datganoli S4C a phob mater arall sy’n ymwneud â darlledu Cymraeg er gwasanaeth cyhoeddus, i Gymru. Y teimlad a gawsom yn sgil y dystiolaeth yw ei bod ond yn iawn fod penderfyniadau ynghylch y cyfryngau a darlledu i bobl yng Nghymru yn cael eu gwneud yma yng Nghymru, a hoffem weld pwyllgor â pholisi’r cyfryngau’n rhan ganolog o’i gylch gwaith yn y Chweched Senedd.

“Mae’r argymhellion yn yr adroddiad hwn yn darparu man cychwyn i’r fenter hon ac mae’r Pwyllgor yn annog y Senedd a Llywodraeth Cymru yn y dyfodol, i fynd i’r afael â’r mater hwn. Ein cyfrifoldeb ni i gyd yw cyfrannu syniadau ymarferol er mwyn mynd i’r afael â’r diffyg hwn – i weithio gyda’n gilydd fel gwleidyddion, darparwyr cyfryngau a rheoleiddwyr i wneud yn siŵr fod gan Gymru lais cryf dros y cyfryngau sydd eu hangen arni.”

Mae’r adroddiad yn nodi 10 argymhelliad at ei gilydd, gan gynnwys y canlynol:

  • Barn y Pwyllgor yw y byddai rhoi mwy o gyfrifoldebau darlledu i’r Senedd a Llywodraeth Cymru yn gwella darpariaeth y cyfryngau yng Nghymru yn sylweddol. Dylai Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU ac Ofcom nodi sut y gellir gwella’r cynnwys a ddarperir ar y cyfryngau i gynulleidfaoedd yng Nghymru. Os nad ydyn nhw’n cefnogi datganoli darlledu ymhellach, rhaid iddyn nhw egluro pa newidiadau o dan y trefniant cyfansoddiadol presennol y dylid eu gwneud i gynyddu maint ac ansawdd cyfryngau Cymru.
  • Dylai Llywodraeth y DU ddatganoli pwerau dros S4C a materion eraill sy’n ymwneud â darlledu Cymraeg er gwasanaeth cyhoeddus, i Gymru.
  • Dylai Llywodraeth y DU reoleiddio gwasanaethau ffrydio byd-eang i gryfhau’r ecosystem cyfryngau gwasanaeth cyhoeddus. Gallai rheoleiddio o’r fath gynnwys ardollau i ariannu cynnwys gwasanaeth cyhoeddus, neu ofynion i ddarlledu cynnwys gwasanaeth cyhoeddus. Dylai Llywodraeth y DU ystyried ymestyn ardollau i gynnwys cwmnïau ar-lein mawr eraill, fel peiriannau chwilio a safleoedd rhwydweithio cymdeithasol.
  • Dylai Llywodraeth Cymru fynd ati ar unwaith i sefydlu cronfa ganolog barhaus i gefnogi newyddiaduraeth newyddion sy’n atebol ac sy’n cael ei darparu o hyd braich er mwyn sicrhau didueddrwydd.

Bydd yr adroddiad bellach yn cael ei ystyried gan Lywodraeth Cymru, ac mae dadl wedi’i threfnu yn ei gylch yn y Cyfarfod Llawn ar 24 Mawrth 2021.

Continue Reading
News6 hours ago

Tragedy above Milford Haven takeaway

DYFED POWYS POLICE has confirmed that a 20-year-old male passed away in Milford Haven last Saturday, April 17. Police were...

News1 day ago

Joinery learner through to Screwfix Trade Apprentice of the Year Finals

PEMBROKESHIRE COLLEGE joinery learner, Conor Ratcliff has made it through to the final ten in this year’s Screwfix Trade Apprentice...

News1 day ago

Pembroke Dock: Trial date set in historical rape case

A 69-YEAR-OLD man, charged with nine counts of raping a girl under the age of 16 in Pembroke Dock, will...

News1 day ago

Milford Haven man admits string of sexual assaults at Crown Court

A MILFORD HAVEN man has pleaded guilty to five sexual assaults, four involving a girl under the age of 16...

Community1 day ago

Pembrokeshire RNLI crew member completes seven marathons in seven days

BYRON GREY, 21, an RNLI volunteer at Little and Broad Haven has run 186 miles across the Pembrokeshire coast, raising...

News2 days ago

Volunteers needed to stop wallies ‘harassing’ Walrus

A LOCAL marine wildlife group has issued a social media plea for people to come forward and help protect ‘Wally...

News2 days ago

Police confirm they are investigating fatal house fire in Haverfordwest

A HOUSE fire in Siskin Close, Haverfordwest last night sadly resulted in a fatality, Dyfed-Powys Police have confirmed. A spokesperson...

News3 days ago

Multi-agency response to house fire in Siskin Close, Haverfordwest

FIRE crews are attending a domestic fire in a property on Siskin Close, Haverfordwest. As of 11.45pm on Monday evening...

News3 days ago

Outdoor hospitality given go-ahead and rules on mixing outdoors relaxed in Wales

SIX people will be able to meet outdoors in Wales from Saturday 24 April while outdoor hospitality will be allowed...

News3 days ago

Police ‘enforcement and engagement’ to curb anti-social behaviour in Tenby

POLICE in Tenby will be using enforcement and engagement in a bid to curb future incidents of anti-social behaviour, they...

Popular This Week