Connect with us
Advertisement
Advertisement

Cymraeg

Hywel a Diarmuid – darlithwyr o fri

Published

on

garregGESUM I FY SBWYLIO’N ddiweddar. Do, wir. Clywais ribidirês o ddarlithie mewn llefydd yn ymestyn o Dyddewi i Rosygilwen. A beth sy’n well gwedwch na gwrando ar rywun sy wedi trafferthu ymchwilio’n drwyadl i ryw bwnc penodol, wedi panso paratoi ei ddeunydd mewn Cymraeg croyw ac yn traethu o safbwynt Cymreig? I chi eitha reit. Gall fod mor flasus â llond lletwad o gawl cig mochyn â sers ar ei wmed, glei.

Ma’ ishe newid o wrando a gwylio rhaglenni radio a theledu byth a hefyd a hyd yn oed darllen llyfr ambell waith. Sdim byd tebyg i ishte o fewn poerad i ddarlithydd a gwrando ar ei oslefu, ei gwircs a’i bwysleisio lleisiol. Gore gyd wrth gwrs os yw’n llawn brwdfrydedd ac yn dal sylw’r gynulleidfa. I ni gyd yn siarad yn wahanol. Wel, ag eithrio’r gwleidyddion ‘ma sy’n cael eu hyfforddi i fod yr un mor gysáct o ddiflas. Ac fe glywn ni lot mwy ohonyn nhw dros y misoedd nesaf.

Ta p’un ni, dwi wedi sôn am rai o’r darlithie nodedig yn y golofn hon; Jim Parcnest yn traethu am Jâms Niclas yn Nhyddewi, a’i frawd, Aled, yn traethu am Waldo yng Nghasmael. Buodd Hywel Gwynfryn wedyn yn traethu am ei yrfa ac am ei lyfr yn olrhain hanes ‘Ryan a Ronnie’ yng Nghrymych.

A dyna chi ddyn sy’n gwybod shwt ma’ trin geirie yw’r Monwysyn. Wel, ma fe wedi gorfod sgriptio ar gyfer cyfathrebu ar hyd ei oes o ddyddie’r rhaglen deledu ‘Heddiw’ i’r rhaglen radio Sadyrnol, ‘Helo, Sut ‘Da chi?’, a’r llu o raglenni eraill lle’r oedd yn ofynnol iddo siarad â’r gwrandawyr a’r gwylwyr, a dal eu sylw.

Cawsom glywed am ei brofiade cynnar yn Llangefni yn adrodd adnodau os nad penodau cyfan ar y Sul ac yn dysgu cerddi diri. Pa gefndir gwell i gyw berfformiwr? Chawn ni fyth ddarlledwr gyda’r fath gefndir cynnar o drin geiriau’n hyderus a chyfarwyddo â Chymraeg cyfoethog.

Gall adrodd stori gan ddewis yr union air addas, a heb hyman a hwman, baglu nac oedi, wrth gyrraedd pen talar. Gŵyr beth yw bod yn gryno oherwydd gofynion y cloc wrth ei waith bob dydd. Mae hanes ei gyfarfyddiad â Cassius Clay yn glasur erbyn hyn.

Cyfansoddodd operau roc a phantomeinie yn ogystal â chaneuon poblogaidd ar gyfer John ac Alun megis ‘Penrhyn Llŷn’. Heb anghofio am ‘Anfonaf Angel’ ar y cyd â Robart Arwyn. Cyhoeddodd gofiant i’r actor, Huw Griffith. A synno’r awen wedi rhedeg yn hesb ‘to.

Pleser wedyn oedd gwrando ar Diarmuid Johnson yn Rhosygilwen yn traethu am Waldo ar y testun ‘Gweledigaeth y Gŵr o Breseli’. Llwyddodd i gyflwyno gwedd o’r newydd arno. Mentrodd ddweud fod gan Waldo lawer o gerddi na chawsant eu cyfansoddi. Gellid fod wedi cael cyfrol gyfan o gerddi tebyg i ’Mewn Dau Gae’ os nad dwy neu dair.

Cynigiodd ddamcaniaeth fod yr un yn wir am gymaint o feirdd Cymraeg y cyfnod. Cenhedlaeth o feirdd heb gyfansoddi’n agos gymaint o gerddi ag y dylen nhw fod wedi eu cyfransoddi. Tebyg fod hyn oherwydd mai eilbeth neu weithgarwch hamdden ar gyfer steddfota oedd barddoni i’r mwyafrif ohonyn nhw.

Doedden nhw ddim yn feirdd ‘proffesiynol’ fel R. S. Thomas, W. H. Auden, Seamus Heaney neu Ted Hughes. Awgrymodd hefyd y gallai Waldo fod wedi elwa pe bai wedi treulio amser yng nghwmni llenorion a meddylwyr fel Edward Carpenter – fel roedd ei dad wedi gwneud – a D. H. Lawrence neu E. M. Forster yn hytrach na dibynnu ar ddylanwad eu gweithie llenyddol yn unig.

Roedd y Gwyddel, sydd hefyd yn Gymro, yn cynnig golwg Ewropeaidd ar waith a chefndir Waldo. Hawdd y medrai wneud hynny gan ei fod nid yn unig yn rhugl mewn nifer o ieithoedd y cyfandir, yn ogystal â’r Wyddeleg, ond yn barddoni yn yr ieithoedd hynny. Mae’n gerddor gwerin o fri hefyd.

A’r newyddion da yw y bydd yn dychwelyd i draddodi darlith Gŵyl Ddewi yn y plasdy lle bu’n Fardd Preswyl y llynedd. Bydd yn gosod beirdd y pridd megis Bois y Cilie yn eu cyd-destun Ewropeaidd o dan y teitl ‘Pen and Plough’ar nos Sadwrn olaf y mis. Yn y cyfamser ewch ati i ddarllen ei hunangofiant, ‘Y Gwyddel – o Geredigion i Galway’. Fe welwch fod yna ddylanwade arno ynte ‘fyd.

Continue Reading
Click to comment

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Cymraeg

Last ditch plea to HSBC to reverse decision to axe Welsh language phone line

Published

on

AN MS has issued a last ditch plea to HSBC to reverse its “unacceptable” decision to axe its Welsh language phone service.

Llŷr Gruffydd, who represents North Wales in the Senedd, has spoken out as January 15, the date when the phone line is due to come to an end fast approaches.

The Plaid Cymru politician said executives at the baking giant still have an “opportunity to do the right thing”.

HSBC came under fire after politicians were informed of the bank’s decision to axe its Welsh language service by letter on Wednesday, November 8.

The Senedd’s Culture Committee wrote to the corporation accusing it of “contempt” towards Welsh speakers.

It added that its “failure to maintain an approach consistent with its values is considered disingenuous and disturbing”.

The committee also questioned statements made by José Carvalho, HSBC’s head of wealth and personal banking, who spoke in front of it on November 29.

The banker said that the Welsh-language helpline receives around 22 calls a day, and that the bank had ended up “with only 6% of the calls that are coming in being answered in Welsh” by them.

However, the committee hit back saying this indicates a fundamental failure of service by the bank because it means 94% of calls to the service are not being answered in Welsh,.

The Committee said that the “low number of calls” to the line “reflects” the bank’s “inability to provide a functioning and coherent service that meets the needs of its Welsh speaking customers.”

Llŷr Gruffydd said: “HSBC still has an opportunity to do the right thing by reversing its unacceptable and wrongheaded decision to bring its Welsh language phone service to an end.

“Executives at HSBC should remember that many customers use their banking services because of its Welsh language phone service.

“The bank argues that there isn’t sufficient demand for the helpline because it receives 22 calls a day on average.

“But it’s abundantly clear from the data that with only 6% of those calls being answered in Welsh, they’ve not been coming anywhere near to providing an adequate service.

“Phone calls that are made to the helpline in Welsh should be answered in Welsh. It’s no wonder that a lot of Welsh speakers have given up on phoning it.

“Instead of scrapping the service HSBC’s should invest in it properly for at least 12 months, and that includes ensuring that it is well-advertised. Then at the end of that period it could make a much better assessment of demand.

“The bank’s pledge to ‘arrange a call back in Welsh, within 3 working days is astonishingly disrespectful to Welsh speakers, as well as utterly insensitive to the financial pressures some people will face.

“For a significant number of people, accessing their bank through Welsh is not a ‘choice’ as HSBC claimed.

“HSBC say they ‘have confirmed that all customers can bank in English’, which is frankly an attitude that belongs to the last century. It is also untrue, especially for many elderly and vulnerable people.

“There is understandably a huge amount of anger and frustration right across Wales with HSBC’s general attitude towards the Welsh language.

“Recently I was contacted by a constituent who was quite rightly angry because she had been asked by a member of HSBC’s customer care team to resend a Welsh language query in English.

“That is one of many examples of HSBC’s complete and utter disregard for Welsh speakers.

“As a Welsh speaker myself and as a member of the Senedd’s Culture Committee, I share the real sense of frustration that’s out there.

“Many of their customers in Wales have also seen their local branches close over the last decade.

“The impact of this on their older customers is particularly acute, as well as those who don’t have access to digital technology.

“Though HSBC likes to describe itself as the world’s local bank, it is abundantly clear that this is not the case in Wales as it abandons Welsh speakers and abandons our high streets by shutting down local branches.”

Continue Reading

Cymraeg

Ffermwr yn dysgu popeth y mae angen iddo wybod am ffermio modern drwy Cyswllt Ffermio

Published

on

CYFLWYNODD ei rieni ef i ochr ymarferol ‘tir a da byw’ ffermio yn ifanc iawn, ond i Dylan Morgan, a aned yn Sir Gaerfyrddin, Cyswllt Ffermio sy’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r unigolyn yma a raddiodd mewn rheoli adeiladu. Dywedodd Dylan fod Cyswllt Ffermio wedi rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arno i fod y ffermwr ifanc blaengar a hyderus ydyw heddiw.

“A’r peth sy’n wych amdano yw, nad oedd rhaid i mi eistedd trwy oriau o ddarlithoedd theori amaeth am dair blynedd!”

Dywedodd Dylan mai agwedd Cyswllt Ffermio at ei holl wasanaethau hyfforddi a throsglwyddo gwybodaeth yw cyflwyno popeth ar y lefel gywir ar gyfer ffermwyr prysur ond profiadol sy’n gweithio.

“Mae’n ddull o ddysgu ar sail ‘angen gwybod’ sy’n apelio’n fawr ataf gan fy mod yn gallu gwneud lle iddo o amgylch fy nyletswyddau fferm ac ymrwymiadau eraill,” meddai Dylan.

Nid oedd gan Dylan unrhyw fwriad i ddod yn ffermwr pan adawodd Brifysgol Abertawe yn 2011, ond ar ôl ychydig fisoedd yn unig o ffermio’n llawn amser ar fferm bîff a defaid 360 erw ei deulu ger Llanymddyfri, newidiodd ei feddwl yn llwyr.

Roedd yn amlwg yn benderfyniad cywir i’r teulu cyfan ac mae Dylan (32) bellach wedi bod yn ffermio gartref ers bron i un mlynedd ar ddeg.

“Roeddwn i wastad wedi mwynhau helpu gartref pryd bynnag roedd gen i amser rhydd, felly roeddwn i wedi hen arfer ag ochr ymarferol ffermio, ond gan na astudiais i amaethyddiaeth yn y brifysgol, roeddwn i’n teimlo bod yna lawer nad oeddwn i’n ei wybod am iechyd anifeiliaid, pridd a rheoli glaswelltir a’r holl elfennau eraill o ffermio sy’n hanfodol i wella effeithlonrwydd ar y fferm.

“Mae’n hanfodol, fel ffermwyr, fod gan bob un ohonom y wybodaeth sydd ei hangen arnom a systemau yn eu lle i chwarae ein rhan i gadw at y safonau uchaf o les anifeiliaid, cynhyrchu da byw o’r ansawdd uchaf, gan hefyd warchod ein hamgylchedd naturiol a lleihau ein hôl troed carbon.”

Yn gefnogwyr hirdymor gwasanaeth Cynghori Cyswllt Ffermio, a welodd Dylan, ei dad a ffermwyr lleol eraill yn cael cyngor ar faterion yn cynnwys cynllunio rheoli maetholion, archwiliadau carbon a rheoli glaswelltir, mae Dylan yn rhoi llawer o’i amser hamdden i’w ddatblygiad personol.

Gan ddibynnu’n drwm ar ei swyddog datblygu lleol, Alun Bowen, i roi’r wybodaeth ddiweddaraf iddo am yr hyn sydd ar gael, mae Alun wedi cyfeirio Dylan – yn aml yng nghwmni ei dad – at nifer o weithdai iechyd a lles anifeiliaid ar bynciau’n amrywio o ffrwythlondeb y ddiadell a cholledion wyna i wneud y mwyaf o gynhyrchiant buchod sugno, cloffni a rheoli tir. Mae Dylan hefyd wedi dilyn cyrsiau hyfforddi byr â chymhorthdal ac mae’n defnyddio ystod gynhwysfawr y rhaglen o fodiwlau e-ddysgu a ariennir yn llawn yn rheolaidd.

“Mae dysgu ar-lein, mewn cyfnodau byr o 20 munud, gyda chwis ar ddiwedd pob modiwl i sicrhau eich bod wedi cymryd yr holl wybodaeth allweddol i mewn, yn ffordd wych o gynyddu eich gwybodaeth.”

Mae Dylan wedi canolbwyntio’n bennaf ar bynciau iechyd anifeiliaid yn ogystal â rheoli pridd a glaswelltir oherwydd ei fod yn credu’n gryf mewn mabwysiadu agwedd gyfannol at y fferm, gydag ‘arfer gorau ym mhopeth a wnawn’ yn rhan o’u hagenda cynaliadwyedd.

“Diolch i fy ngwybodaeth a sgiliau newydd a thrwy weithredu rhai o’r systemau newydd rydym wedi dysgu amdanynt trwy Cyswllt Ffermio, rydym bellach yn bwydo’r stoc yn llawer mwy effeithlon.

“Mae hyn wedi lleihau ein mewnbynnau’n sylweddol wrth wella perfformiad stoc a chynhyrchiant ac rydym hefyd wedi lleihau lefelau cloffni.”

Mae’r teulu’n sgorio cyflwr y corff yn rheolaidd ac yn meincnodi eu holl stoc ac yn dweud bod cyfrif wyau ysgarthol a phrofi elfennau hybrin trwy Cyswllt Ffermio wedi rhoi gwybodaeth werthfawr iddynt sy’n golygu eu bod wedi lleihau eu dibyniaeth ar driniaethau gwrthlyngyrol drwy fabwysiadu dull wedi’i dargedu’n well.

Gyda’i holl gyflawniadau dysgu wedi’u storio ar-lein yn ei gofnod personol y Storfa Sgiliau, mae Dylan yn dweud bod y system yn ffordd ddefnyddiol o nodi unrhyw feysydd y mae’n dal eisiau dysgu amdanynt.

“Mae ffermio yn ddiwydiant sy’n esblygu ac felly mae angen i ffermwyr o bob cenhedlaeth wybod eu bod yn ddigon gwybodus i wynebu’r cyfleoedd a’r heriau sydd o’u blaenau.”

Mae Cyswllt Ffermio yn cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra Cymru a’i ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

I gael rhagor o wybodaeth am holl wasanaethau cymorth a hyfforddiant Cyswllt Ffermio ewch i https://businesswales.gov.wales/farmingconnect/cy neu ffoniwch eich swyddog datblygu Cyswllt Ffermio lleol.

Continue Reading

Cymraeg

Cyfle gwych i ennill gwobr yn atyniadau Awdurdod y Parc dros benwythnos Dydd Gŵyl Dewi

Published

on

BYDD tri atyniad Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn dosbarthu cennin Pedr i ymwelwyr yn rhad ac am ddim ar 4 a 5 Mawrth eleni i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi.

Bydd gan Gastell Caeriw, Pentref Oes Haearn Castell Henllys ac Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc nifer cyfyngedig o gennin Pedr i’w dosbarthu i bobl sy’n ymweld â’r safleoedd dros benwythnos Dydd Gŵyl Dewi.

Yn ôl y Cynghorydd Di Clements, Cadeirydd Awdurdod y Parc: “Rydyn ni’n annog cynifer â phosib o bobl i ymuno â dathliadau Dydd Gŵyl Dewi, a pha ffordd well o ddathlu diwylliant Cymru yn eich cartref na chael tusw o’r blodau lliwgar yma?

“Bydd y cennin Pedr yn cael eu dosbarthu ar sail y cyntaf i’r felin. Oherwydd mai dim ond nifer cyfyngedig fydd ar gael ar bob safle, byddwn yn annog pobl i ymweld â’r safleoedd cyn gynted â phosib ar 4 neu 5 Mawrth er mwyn manteisio ar y cynnig hwn.”

Bydd Parêd blynyddol y Ddraig hefyd yn cael ei gynnal yn Nhyddewi ddydd Sadwrn 4 Mawrth, gyda chriw o ddisgyblion ysgol ac aelodau gofal yn y gymuned yn gadael Oriel y Parc am 11am.

I gael yr amserau agor, gwybodaeth am y digwyddiad a phrisiau mynediad ar gyfer Castell Caeriw, ewch i www.arfordirpenfro.cymru/castell-caeriw/.

I gael yr amserau agor, gwybodaeth am y digwyddiad a phrisiau mynediad ar gyfer Castell Henllys, ewch i www.arfordirpenfro.cymru/castell-henllys/

I gael yr amserau agor a gwybodaeth am y digwyddiad ar gyfer Oriel y Parc, ewch i www.arfordirpenfro.cymru/oriel-y-parc/.

Continue Reading

Business24 hours ago

Stephen Crabb leads inquiry on retaining community bank services  

PRESELI Pembrokeshire MP, and Chair of the Welsh Affairs Select Committee Stephen Crabb is leading an inquiry in Parliament that...

News1 day ago

Police ask motorists to avoid A44 trunk road due to heavy snowfall

DYFED-POWYS POLICE have issued an appeal to motorists to avoid a 25 mile section of the A44 trunk road between...

Crime2 days ago

Woman will quit the booze after seeing shocking drunken video in court

A HAVERFORDWEST woman this week vowed to undertake ‘a complete alcohol abstinence’ after being shown court video footage of her...

News3 days ago

Family heartbroken by loss of ‘larger than life character’ in M4 crash

THE FAMILY of the man who died in a collision on the M4 motorway say ‘he will be greatly missed...

Business3 days ago

Victory for WASPI women but the fight goes on

A LANDMARK ruling by the Parliamentary and Health Service Ombudsman could benefit around 5,000 women in Ceredigion born in the...

Entertainment5 days ago

A night to remember: Symphonica Tywi’s ‘Film Fantastics’ was a triumph

ON SATURDAY (Mar 23), Haverfordwest High School was ablaze with the soaring melodies and dramatic scores of some of cinema’s...

News5 days ago

Memorial for all those affected by Covid-19 unveiled at County Hall

A LASTING tribute for Pembrokeshire loved ones lost during the Covid-19 pandemic and those working on the frontline has been...

Top News6 days ago

Princess of Wales announces cancer diagnosis and treatment

CATHERINE, the Princess of Wales, has shared her recent health struggles with the public, revealing a diagnosis that has sent...

Charity1 week ago

RNLI lifeguards back on patrol in Pembrokeshire for the Easter Holidays

RNLI lifeguards will be on patrol once again in Pembrokeshire ahead of the Easter holidays. This Saturday, 23 March 2024,...

Community1 week ago

Neglected Pembrokeshire poodles find their forever homes 

THIRTY poodle type dogs were in total rescued after they were found in an unsuitable environment where their owner also...

Popular This Week