Connect with us
Advertisement
Advertisement

Cymraeg

Cytundeb Partneriaeth ffurfiol newydd rhwng S4C a’r BBC

Published

on

Heledd Gwyndaf, CIG: 'Dylid canslo'r cytundeb 'partneriaeth' hwn yn syth'

MAE AWDURDOD S4C a Bwrdd Unedol y BBC heddiw’n cyhoeddi’r cytundeb newydd fydd yn cymryd lle’r Cytundeb Gweithredu a fu’n sail i’r berthynas rhwng Awdurdod S4C ac Ymddiriedolaeth y BBC rhwng 2013 a diwedd Mawrth 2017.

Yn y Cytundeb Partneriaeth, Ariannu ac Atebolrwydd newydd yma, mae’r ddau ddarlledwr yn ymrwymo i weithio gyda’i gilydd yn greadigol er budd gwylwyr a’r gynulleidfa Gymraeg.

Mae ymrwymiad y BBC i ddatblygu a sefydlu partneriaethau adeiladol a theg yn un o hanfodion y Siarter newydd. Mae’r ymrwymiad i ddarparu cyllid i S4C yn rhan o’r Cytundeb Fframwaith a gyhoeddwyd yr un pryd. Gwelir y cytundeb hwn felly fel un o bartneriaethau craidd y BBC, yn unol â gofynion y Siarter.

Mae’r Cytundeb Partneriaeth yma yn seiliedig ar, ac yn diffinio, tair elfen sylfaenol:

  1. Y cyllid y bydd S4C yn ei dderbyn o ffi’r drwydded deledu, a natur yr atebolrwydd ariannol amdano i’r BBC;
  2. Y cyfraniad rhaglenni statudol gan y BBC o 10 awr yr wythnos o raglenni i S4C; a
  3. Natur y bartneriaeth ymarferol ehangach a fydd yn cynnwys y ddarpariaeth o wasanaethau technegol gan y BBC i S4C.

Bydd y Cytundeb Partneriaeth yn dal mewn grym hyd ddiwedd cyfnod Siarter newydd y BBC, sef hyd at 2028.

Mae cytundeb eisoes y bydd cyllid S4C o’r ffi drwydded yn parhau yn sefydlog tan 2022, pan fydd lefel y drwydded deledu’n cael ei adolygu.

Bydd gwerth y cyfraniad rhaglenni statudol yn cael ei gynnal ar y lefel bresennol, sef £19.4m y flwyddyn, hyd at yr un dyddiad.

Mae’r Cytundeb hefyd yn gwarantu parhad y trefniant i gynnal lle S4C ar yr iPlayer tan 2028.

Mae telerau’r cytundeb i ddarparu gwasanaethau technegol i S4C yng nghanolfan newydd y BBC yng nghanol Caerdydd o 2019 ymlaen yn awr wedi cael eu cytuno.

Mae’r Cytundeb Partneriaeth hwn yn rhoi manylion ynglŷn â sut y disgwylir i’r berthynas rhwng y ddau gorff gael ei gweithredu er mwyn sicrhau partneriaeth adeiladol, yng Nghymru ac ar y lefel y Deyrnas Gyfunol, a pha brosesau arolygu fydd yn cael eu darparu.

Dywedodd Cadeirydd S4C, Huw Jones: “Mae’r cytundeb newydd yma’n dangos yn glir beth fydd natur y berthynas rhwng S4C a’r BBC dros gyfnod y Siarter newydd. Mae’n rhoi elfen gref o sicrwydd a sefydlogrwydd i S4C dros y cyfnod hwn, wrth ganiatáu cyfle i adolygu’r elfennau craidd ar ôl 5 mlynedd, ac mae’n gosod her i’r ddau sefydliad adnabod cyfleoedd i gydweithio’n adeiladol er budd y gwylwyr.

“Mae’n adeiladu ar lwyddiant y Cytundeb Gweithredu diwethaf ac ar draddodiad hir o gydweithio a chyd-wasanaethu cynulleidfaoedd. Mae unwaith eto yn cadarnhau annibyniaeth S4C fel corff ac fel gwasanaeth.”

Rwy’n falch dros ben fod y BBC wedi gweld yn dda i adnabod ei pherthynas gydag S4C fel un o’i phartneriaethau craidd o dan y Siarter.

Dywedodd Sir David Clementi, Cadeirydd y BBC: “Mae’r cytundeb newydd hwn yn cryfhau’r bartneriaeth gwasanaeth darlledu cyhoeddus hirdymor sy’n bodoli eisoes rhwng y BBC ac S4C. Mae’n cydnabod rôl hanfodol y ddau sefydliad o ran darlledu Cymraeg – ac mae’n rhoi sylfaen gadarn ar gyfer cydweithio parhaus ar adeg pan fo newidiadau sylweddol ar droed yn y cyfryngau.

“Mae hwn yn gyfnod cyffrous ar gyfer darlledu yng Nghymru, ac rydw i’n hyderus y bydd parhau i weithio’n agos gydag S4C yn arwain at ganlyniadau creadigol, gan ddatblygu llawer o’r llwyddiannau a gyflawnwyd ar y cyd yn y blynyddoedd diwethaf.”

Mae Dyfodol i’r Iaith yn croesawu’r Cytundeb rhwng y BBC ac S4C.

Meddai Ruth Richards, prif weithredwr Dyfodol i’r Iaith: ‘Bydd y Cytundeb yn rhoi sefydlogrwydd ariannol i S4C am y deng mlynedd nesaf. Rydyn ni’n awr yn edrych ymlaen at weld y Sianel yn rhoi ei sylw i ddatblygu’r defnydd o’r datblygiadau technolegol newydd. Serch hynny, rydym am weld cynnydd yn yr arian ag gaiff S4C, o leiaf yn cydredeg â chwyddiant. Rydym hefyd am wybod beth yw’r oblygiadau i arolwg Euryn Ogwen Williams o S4C.”

“Mae Dyfodol i’r Iaith wedi cytuno bod angen ateb ariannol pragmataidd nes y bydd Llywodraeth Cymru’n gallu datblygu cyfrifoldeb am ddarlledu yng Nghymru. Mae’r cytundeb hwn i’w groesawu fel rhan o raglen gynhwysfawr o hyrwyddo’r iaith.”

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi rhybuddio bod cytundeb newydd rhwng S4C a’r BBC yn gam arall yn y broses o’r BBC yn traflyncu’r sianel.

Honna’r mudiad fod y cytundeb yn golygu y bydd gan y BBC ddylanwad mawr ar faterion golygyddol a gweinyddol S4C. Dywed y cytundeb: “Dylai’r bartneriaeth gynnwys, lle y bo’n briodol, cydweithredu ym meysydd technoleg; mynediad i’r iPlayer; datblygu prosiectau creadigol; materion golygyddol; hyrwyddo gwasanaethau’r BBC ac S4C; ac effeithlonrwydd gweithredol.”

Hefyd, mae’r mudiad yn pryderu bod y cytundeb yn rhoi grym a dylanwad dros waith darparu gwasanaethau S4C gyda manylion mewn cytundeb arall sydd heb ei gyhoeddi: “Mae S4C a’r BBC yn bwriadu cydleoli a rhannu gwasanaethau technegol ar gyfer darlledu a darparu Gwasanaethau S4C a gwasanaethau’r BBC yng Nghymru, yng nghanolfan ddarlledu newydd y BBC yn y Sgwâr Canolog, Caerdydd.”

Meddai Heledd Gwyndaf, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith: “O dan y cynlluniau yn y cytundeb hwn, mae dros hanner staff S4C yn mynd i fod yn gweithio o swyddfa’r BBC yng Nghaerdydd, bydd y BBC yn darlledu signal teledu S4C, mae rhaglenni S4C ar yr I-player, ac mae’r gorfforaeth wedi dwyn allbwn drama S4C. Ble mae diwedd y daith? Gyda’r BBC yn rheoli pob dim os nad oes rhywbeth radical yn digwydd.

“Mae S4C i fod i symud i Gaerfyrddin, dylid gwneud hynny’n gyfan gwbl. Dylid canslo’r cytundeb ‘partneriaeth’ bondigrybwyll hwn a’r cyd-leoli yng Nghaerdydd yn syth, dyna un ffordd o geisio atal y Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig rhag cael rheolaeth lwyr dros ein hunig sianel deledu Gymraeg.”

Ychwanegodd: “Os yw cymaint o fanylion â hyn eisoes wedi eu pennu yn y cytundeb hwn, beth yw diben adolygiad Llywodraeth Prydain o’r sianel? Mae’r amseriad yn edrych yn tanseilio’r adolygiad. Yr unig ateb i hyn yn y pendraw yw datganoli darlledu i Gymru: dylai penderfyniadau am ddarlledu yng Nghymru gael eu gwneud yng Nghymru.”

Cymraeg

Cofio Dic gan Idris Reynolds yw Llyfr y Flwyddyn 2017

Published

on

Chwith i'r dde: Beirnwyr Caitrin Beard ac Eirian James, Caryl Lewis, Idris Reynolds, Aneirin Karadog a beiriniad Mari George (Llun. Camera Sioned)

MEWN seremoni fawreddog yng Nghaerdydd, cyhoeddodd Llenyddiaeth Cymru mai Cofio Dic gan Idris Reynolds yw prif enillydd Cymraeg Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2017.

Daeth Cofio Dic, a gyhoeddwyd gan Wasg Gomer, i’r brig yn y categori Ffeithiol Greadigol eleni gan sicrhau cyfanswm o £4,000 i’r awdur yn ogystal â thlws arbennig wedi’i greu gan yr artist Angharad Pearce Jones. Cyflwynwyd y brif wobr i Idris gan Weinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas AC.

Cyfrol o atgofion am y Prifardd a’r cyn-Archdderwydd, Dic Jones, un o feirdd mwyaf ail hanner yr ugeinfed ganrif, yw Cofio Dic. Roedd Idris Reynolds yn un o gyfeillion Dic, a thrwy ei atgofion ohono down i wybod ychydig mwy am y dyn o dan yr wyneb a chael cip hefyd ar y gymdeithas a’r amgylchiadau a ddylanwadodd ar ei awen.

Enillydd y Wobr Farddoniaeth yw’r Prifardd Aneirin Karadog gyda’i gyfrol, Bylchau (Cyhoeddiadau Barddas). Dyma gasgliad sy’n myfyrio ar y bylchau a adewir gan golled bersonol a chyhoeddus, a cholled i iaith a diwylliant, ac am yr hyn sy’n tyfu yn y bylchau hynny drachefn. Y gyfrol fuddugol yng nghategori Ffuglen 2017 yw Y Gwreiddyn (Y Lolfa) gan Caryl Lewis, cyfrol o straeon yn ymwneud â natur, perthynas dyn â’i gyd-ddyn, henaint, cariad a cholled. Dyma’r trydydd tro i Caryl ddod i’r brig gyda gwaith o ffuglen. Derbyniodd enillwyr y categorïau wobr ariannol o £1,000 yr un. Enillydd Gwobr Barn y Bobl Golwg360 eleni yw Guto Dafydd, a swynodd ddarllenwyr Cymru gyda’i nofel Ymbelydredd (Y Lolfa).

Y panel beirniadu Cymraeg eleni yw: y beirniad llenyddol Catrin Beard; y bardd ac awdur Mari George; ac Eirian James, perchennog y siop lyfrau annibynnol arobryn, Palas Print yng Nghaernarfon.

Enillydd y brif wobr yn Saesneg yw Alys Conran gyda’i nofel gyntaf, Pigeon (Parthian). Mae’r nofel hon yn cyflwyno taith trwy atgofion plentyndod; stori am ddymuno’r annhebygol ac am bŵer iaith. Wedi dod i’r brig yng nghategori Ffuglen Saesneg Ymddiriedolaeth Rhys Davies, aeth Alys ymlaen i ennill y brif wobr a gyflwynwyd iddi gan Gadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru, Phil George. Llwyddodd i sicrhau’r hat-trick wrth iddi gipio People’s Choice Award Wales Arts Review yn ogystal.

Enillydd Gwobr Farddoniaeth Roland Mathias 2017 yw John Freeman gyda’i gasgliad What Possessed Me (Worple Press). Enillydd y Wobr Ffeithiol Greadigol Saesneg yw Peter Lord gyda The Tradition (Parthian). Beirniaid y wobr Saesneg eleni yw: yr awdur arobryn Tyler Keevil; yr Uwch Ddarlithydd Dimitra Fimi; ac enillydd Gwobr Farddoniaeth Costa, Jonathan Edwards.

Cyhoeddwyd yr enillwyr mewn Seremoni Wobrwyo a gynhaliwyd yn The Tramshed, Caerdydd ar nos Lun 13 Tachwedd yng nghwmni beirniaid y gystadleuaeth, awduron y Rhestr Fer a’u gwesteion, cyhoeddwyr, partneriaid Llenyddiaeth Cymru ac aelodau o’r cyhoedd.

Dywedodd Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru: “Mae Seremoni Wobrwyo Llyfr y Flwyddyn yn ddigwyddiad arwyddocaol yn y calendr llenyddol yng Nghymru, ac yn gyfle gwych i ddathlu’n hawduron gorau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Llongyfarchiadau gwresog i’r holl enillwyr.”

Continue Reading

Cymraeg

Gwobrau’n dathlu’r gorau o’r diwydiant Twristiaeth

Published

on

Dafydd Elis Thomas: Gweinidog Twristiaeth

MAE GWOBRAU Twristiaeth Cenedlaethol Cymru 2018 yn gwahodd enwebiadau yn awr.

Cynhelir y gwobrau gan Croeso Cymru i ddathlu’r gorau o ddiwydiant twristiaeth Cymru – gan arddangos busnesau twristiaeth Cymru a llwyddiannau’r diwydiant.

Cynhelir y seremoni wobrwyo ddydd Iau, 8 Mawrth 2018 yng Ngwesty’r Celtic Manor, Casnewydd a gwahoddir enwebiadau yn awr ar gyfer amryw o gategorïau.

Mae categorïau’r gwobrau fel a ganlyn:

  • Gwesty Gorau
  • Gwely a Brecwast Gorau
  • Llety Hunan-ddarpar Gorau
  • Maes Carafanau, Gwersylla neu Glampio Gorau
  • Atyniad Gorau
  • Gweithgaredd Gorau
  • Digwyddiad Gorau
  • Lle Gorau i Fwyta
  • Cyrchfan Orau
  • Person Ifanc Twristiaeth y Flwyddyn
  • Gwobr Arloesi Busnesau Twristiaeth

Bydd enillwyr y gwobrau rhanbarthol yn cystadlu yn y Gwobrau Cenedlaethol ym mis Mawrth. Roedd y Gweinidog Twristiaeth, Dafydd Elis Thomas, yn bresennol yn Ngwobrau Twristiaeth Gogledd Cymru wythnos diwethaf, lle y cyhoeddwyd rhai o’r enillwyr rhanbarthol cyntaf a fydd yn cystadlu ar gyfer y Gwobrau Cenedlaethol.

Wrth sôn am y gwobrau, dywedodd y Gweinidog Twristiaeth:​ ​“Bu Gwobrau Twristiaeth Gogledd Cymru yn llwyddiant ysgubol ac mae’n wych gweld yr enillwyr yn awr yn cystadlu yng Ngwobrau Cymru. Rwy’n annog pob busnes twristiaeth ar draws gweddill Cymru i enwebu eu hunain ar gyfer y gwobrau hyn; mae’r ymdrech o gystadlu am wobrau yn gallu bod yn hynod o werth chweil, yn enwedig i godi morâl y tîm a’r staff. Wrth gwrs, mae dweud mai chi yw’r ‘gorau yng Nghymru’ hefyd yn gallu rhoi hwb i’ch busnes o safbwynt marchnata.

“Mae ansawdd yr hyn sydd i’w gynnig gan y diwydiant twristiaeth yng Nghymru yn mynd o nerth i nerth, ac mae’r Gwobrau yn gyfle i bawb ddathlu llwyddiannau’r diwydiant ac arddangos ansawdd rhagorol ein sector twristiaeth bywiog.

“Dyma ein cyfle i roi amlygrwydd i’r diwydiant twristiaeth a thalu teyrnged i’r sawl sy’n ymroddedig ac yn angerddol ynghylch eu busnesau, twristiaeth a Chymru.”

Yn siarad yr wythnos diwethaf yng Ngwobrau Twristiaeth Gogledd Cymru, dywedodd y Cyfarwyddwr Reolwr, Jim Jones fod ansawdd yr ymgeiswyr eleni yn tanlinellu pam bod y rhanbarth yn cael eu gydnabod fwyfwy fel lleoliad o safon byd ac sy’n cynhyrchu £2.8 biliwn bob blwyddyn ac yn cyflogi tua 40,000 o bobl.

Dywedodd: “Mae’r gwobrau wedi bod yn llwyddiannus iawn a hoffwn longyfarch yr enillwyr. Fodd bynnag, yn fy llygaid i mae pob un a enwebwyd yn enillydd ac mae pob un wedi chwarae rhan i wneud eleni yn flwyddyn lwyddiannus ar gyfer Twristiaeth Gogledd Cymru.

“Mae’r digwyddiad hwn yn arddangos y gorau o ogledd Cymru ac rydym wedi gweld cymaint o enwebiadau anhygoel. Bydd nifer o’r enillwyr bellach yn mynd ymlaen i gynrychioli Gogledd Cymru yng Ngwobrau Twristiaeth Cenedlaethol Croeso Cymru yn 2018 a dymunaf bob llwyddiant iddynt.”

Gall busnesau twristiaeth enwebu eu hunain, neu gall unrhyw un enwebu busnes sy’n enillydd teilwng yn eu barn hwy. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma (dolen allanol). Y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau yw dydd Gwener, 12 Ionawr 2018.

Continue Reading

Cymraeg

Bragu botanegol yn gwneud ‘Cwrw Gwenyn Fferyllol’

Published

on

Bragdy Bang-On: Bragu newydd

M​AE cwrw newydd sy’n cyfuno gwybodaeth am fragu ag arbenigedd y Brifysgol yn cael ei lansio yn Good Food Show y BBC yn Birmingham yfory.

Mae Mêl wedi ei greu gan Bang-On Brewery o Ben-y-bont ar Ogwr a gwyddonwyr o Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol Prifysgol Caerdydd.

Mae Neil Randle, sylfaenydd Bang-On Brewery, a’r Athro Les Baillie wedi dod ynghyd i gynhyrchu cwrw potel gan ddefnyddio’r mêl o brosiect Gwenyn Fferyllol yr Ysgol. Yn rhan o’r prosiect hwn, maent wedi gosod cychod gwenyn ar draws Caerdydd i geisio dod o hyd i fêl therapiwtig Cymreig sydd cystal â mêl enwog Manuka o Seland Newydd.

Dywedodd Neil Randle: “Cefais fy nghyflwyno i Les gan Robyn Davies, o Bartneriaeth Gwyddor Iechyd Academaidd De-ddwyrain Cymru, sy’n adnabod y ddau ohonom. Ar ôl sgwrsio am brosiectau, sylweddolodd Les a minnau y gallwn ddod ynghyd i wneud cwrw sy’n cyfuno daioni naturiol mêl gyda chynhwysion botanegol a nodwyd yn wyddonol.

Mae Les a’i dîm wedi cyfrannu at gynhyrchu mêl rhagorol sy’n cyfuno gwyddoniaeth â natur. Maent wedi defnyddio dulliau gwyddonol i nodi pa fflora a ffawna sy’n rhoi’r cynhwysion botanegol naturiol gorau er mwyn cael yr effaith mwyaf cadarnhaol wrth ei fwyta.

Yn ogystal, maent wedi profi hanner cant o amrywiaethau o hopys i asesu eu gweithgaredd gwrthfacteriaidd yn erbyn pathogenau dynol.”

Ar ôl penderfynu ar y cynhwysion cudd, lluniodd Craig Jackson o Bang-On Brewery rysáit i sicrhau bod blas a chydbwysedd y cwrw yn gywir.

Ychwanegodd Craig: “Nid ydym yn gwneud honiadau ynglŷn â manteision iechyd y cwrw. Mae’n ymwneud â chynhyrchu blas gwych yn y pen draw, ond rydym yn gobeithio y gall y prosiect cydweithredol yma newid sut caiff cwrw ei yfed yn y dyfodol.”

Bydd y llwyth cyntaf o Fêl Bang-On yn cael ei lansio yn y Ganolfan Arddangos Genedlaethol yn ystod pedwar diwrnod Good Food Show y BBC (30 Tachwedd — 3 Rhagfyr) cyn mynd ar werth i’r cyhoedd. Bydd cyfran o’r elw yn mynd tuag at gefnogi prosiectau peillio a lles ar draws Cymru.

Nod hirdymor yr Athro Baillie yw cyfuno arbenigedd academaidd a gwybodaeth am fragu.

“Dyma ein cynnyrch cyntaf, ac mae’n gam i’r cyfeiriad cywir er mwyn creu diod wedi’i eplesu di-alcohol ar gyfer oedolion, a chredwn y bydd yn apelio’n fawr at y cyhoedd,”meddai Les.

“Mae hwn hefyd yn cefnogi’r fenter gymdeithasol yr ydym wedi’i sefydlu i gynorthwyo peillio, bioamrywiaeth, a hyfforddiant Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM) ar draws y ddinas.”

Mae label y cwrw newydd 4% ABV yn disgrifio Mêl fel: ‘Gwenyn Fferyllol sy’n pryderu am y byd yr ydym yn byw ynddo ac yn angerddol am ofalu amdano ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.​”​

Mae prosiect Gwenyn Fferyllol Prifysgol Caerdydd yn gweithio hefyd i nodi cyffuriau sy’n deillio o blanhigion y gellid eu defnyddio i drin pathogenau ysbytai sy’n gwrthsefyll gwrthfiotigau.

Continue Reading
News9 hours ago

Walwyn’s Castle: Major fire and explosions at Capestone Farm

EMERGENCY SERVICES are currently dealing with a major explosion and fire at Capestone Farm in Walwyn’s Castle. It is understood...

News12 hours ago

Plans submitted for £7m SkyDome project at Bluestone

BLUESTONE has submitted a planning application for its groundbreaking ‘SkyDome’ project. If Pembrokeshire County Council approves the plans, the undercover...

News12 hours ago

Have your say on proposed changes to parking charges

PEMBROKESHIRE COUNTY COUNCIL is inviting views on its proposals to make changes to car parking charges in car parks where...

News1 day ago

Winter Giant Lantern Parade: An illuminated legend in Cardigan

CARDIGAN is rejoicing after this year’s Winter Giant Lantern Parade held on 8 December. The event wove a magical spell...

News3 days ago

Fishguard: Woman tried to smuggle deported husband through port

A LITHUANIAN woman who tried to smuggle her husband back into the UK through the port of Fishguard has been...

News3 days ago

Milford Haven: Man hospitalised following two vehicle collision

A MAN was hospitalsed following a two vehicle collision yesterday morning (Dec 7) in Steynton. A silver Ford Focus was...

News4 days ago

Fishguard: Woman hurt following traffic collision

EMERGENCY SERVICES have closed a road in Fishguard following a road traffic collision. The Herald understands a woman has been...

News4 days ago

Pembroke Dock: Fire leaves woman with life threatening injuries

A WOMAN has life threatening injuries after a fire at Commercial Row in Pembroke Dock on Saturday (Dec 2), police...

News5 days ago

Councillor has ‘freedom of speech’ says Ombudsman following complaint

A PEMBROKESHIRE county councillor will not be investigated by the Local Government Ombudsman after the body decided that posts he...

News5 days ago

Abuse victim calls for Caldey monk’s remains to be removed from island

A WOMAN who was abused by Father Thaddeus Kotik on Caldey Island in the 1970s and 1980s has said she...

Popular This Week