Connect with us
Advertisement
Advertisement

Cymraeg

Cerddwyr Cylch Teifi

Published

on

Yn Llandudoch: Cerddwyr Cylch Teifi

TERWYN TOMOS oedd ein harweinydd ym mis Ionawr, ar lwybrau diddorol Llandudoch. Dysgon ni am wahanol ardaloedd Llandudoch – nid un pentref mohono, ond sawl un, mae’n debyg!

O lan yr afon yng nghanol y pentref, cerddon ni heibio i’r Netpwl i gyffiniau Glanteifon ac wedyn ar lwybr cyhoeddus heibio i Gastell Albro nes cyrraedd y ffordd fawr gerllaw Fferm Penrallt-y-dre. I lawr wedyn ar Lwybr Llygoden i’r pentref eto, a phawb wedi gwirioni ar drywydd annisgwyl y llwybrau.

Wrth gerdded, cawsom hanes enwau diddorol gwahanol ardaloedd y pentref, a hanes y diwydiant pysgota sân ac adeiladu llongau; gwelwyd rhai adeiladau a mannau hanesyddol a hefyd cawsom olygfeydd trawiadol yn aml. Ar ôl cerdded, aeth rhai ymlaen i gael cinio yn y Fferi neu’r Cartws.

10fed Chwefror byddwn yn ardal y Mwnt a Howard Williams yn arwain. Byddwn ni’n gadael maes parcio Traeth y Mwnt (Tâl £1; SN 195 518; cod post SA42 0NB) am 10:30yb. Awn ar daith gylch o ryw ddwy awr ac ychydig yn llai na thair milltir yn bennaf ar ffyrdd tawel. Cerddwn ni ar hyd yr arfordir am ychydig i gyfeiriad Gwbert i gyrraedd yr heol fach sy’n esgyn o’r tŷ Clos-y-graig i’r mewndir. Wrth y fferm Pen-waun trown i’r chwith/dwyrain i ymuno â’r ‘briffordd’ am sbel; awn ni heibio’r heol sy’n mynd i lawr i’r traeth i gyrraedd fferm y Graig i ddilyn y llwybr ceffyl sy’n disgyn yn raddol yn ôl i’r maes parcio.

Fydd dim sticlau, a bydd esgyniad (graddol) o ryw 300 troedfedd, i gyd yn y rhan gyntaf; fel arfer, bydd peth mwd yn debygol ar y llwybrau. Gwelwn ni olygfeydd gwych o’r arfordir a thirwedd yr ardal, a sylwi ar nodweddion yr eglwys fach drawiadol; hanes y Mwnt a’r frwydr yn erbyn y Ffleminiaid (faint o enwau a welwn sy’n cyfeirio atynt?

Ar ôl cerdded, cawn gymdeithasu yng Ngwesty Gwbert.

Ym mis Mawrth, byddwn yn ardal Nanhyfer a Llwyngwair gyda Tony Haigh yn arwain, gan adael maes parcio Tafarn Tre-wern, Nanhyfer (SN 083 397; cod post SA42 0NB) am 10:30yb. Awn ar daith gylch ddwy awr tua dwy filltir a hanner, yn bennaf ar draciau a llwybrau. Byddwn ni’n ymweld ag Eglwys Nanhyfer ac wedyn â safle’r hen gastell cyn dilyn y llwybr uwchlaw Afon Nyfer i lawr, dros Bont Newydd, i gyrraedd ardal Llwyn-gwair. Awn yn ôl ar lwybr gwahanol. Ychydig o ddringo lan i’r castell (ryw 100/150 troedfedd); mae un rhan o’r llwybr i lawr i’r afon yn serth ac yn anwastad. Bydd y pwyntiau o ddiddordeb yn cynnwys: Eglwys Nanhyfer, yr ywen waedlyd a’r groes Geltaidd yn y fynwent, Castell Nanhyfer (lle bu llawer o waith cloddio yn ddiweddar), croes y pererinion, a hanes Llwyn-gwair. Gallwn gymdeithasu a chael lluniaeth yn Nhafarn Tre-wern wedyn.

Bydd croeso i bawb ar bob taith. Os nad ydych wedi cerdded gyda ni o’r blaen, neu os hoffech ragor o fanylion neu i fod ar y rhestr bostio, cysylltwch â philippa.gibson@gmail.com 01239 654561

Cymraeg

Anturiaethau Aeron yn y Sioe Frenhinol

Published

on

PROFIAD newydd sy’n wynebu’r cyflwynydd Aeron Pughe yn y Sioe Frenhinol eleni wrth iddo fentro o’r sied gneifio i grwydro’r maes. Yn rhan o griw sylwebu Y Sioe 2018 ar S4C, bydd Aeron yn canolbwyntio ar yr ardaloedd ffwr a phlu, y geifr a’r moch.

“Dwi’m yn siŵr os mai promotion ydi o neu be’,” meddai Aeron. “Y cneifio dwi wedi bod yn sylwebu arno ers tua phum mlynedd, ond, o’r diwedd, dwi wedi ennill yr hawl i gael mynd allan ar gamera byw.

“Dydw i ddim wedi gwneud gymaint â’r ardaloedd hyn yn y gorffennol. Mae ‘na ddigon o geiliogod ym Machynlleth, ac ambell i fochyn a hwch, ond dim fath â’r rhai yn y Sioe!”

Bydd Aeron yn manteisio ar y cyfle i ymweld ag amryw o fannau gwahanol ar faes y Sioe eleni gan gynnwys yr ardal Goedwigaeth, y Peiriannau a chornel gyfarwydd iawn iddo, y Ffermwyr Ifanc.

“Ro’n i’n rhan o Glwb Ffermwyr Ifanc Bro Ddyfi pan oeddwn i’n ddigon ifanc i fod yn aelod, ac wedi helpu ar ôl hynny,” meddai. “Y rheswm dwi’n cyflwyno heddiw ydi oherwydd y Ffermwyr Ifanc. Mae’n neis iawn ‘mod i’n gallu mynd yn ôl yno i hyrwyddo a chyfweld â phobl o’r mudiad.”

Mi fydd Aeron yn ymuno â sawl wyneb cyfarwydd ar dîm sylwebu’r Sioe eleni, gyda Nia Roberts yn angori’r cyfan bob diwrnod o 9.00 y bore. Yr enwog Dai Jones, Llanilar fydd yn cadw llygad ar y gwartheg, Meinir Howells ar y defaid ac yn sylwebu o’r sied gneifio fydd Alun Elidyr.

Heledd Cynwal a David Oliver fydd yn sylwebu o’r Prif Gylch, gyda ffrwd fyw ar gael ar-lein ar gyfer holl gystadlaethau’r Cylch.

Bydd sylwebaeth Saesneg ar gael ar gyfer holl raglenni’r dydd ac isdeitlau Saesneg ar y rhaglenni uchafbwyntiau gyda’r nos wedi’u cyflwyno gan Ifan Jones Evans.

Bydd Ifan hefyd yn mwynhau cynnwrf y maes ar y nos Sul cyn y Sioe mewn rhaglen ragflas fydd yn edrych ymlaen at yr wythnos ac yn darlledu o Foliant y Maes.

Noddir cyfres Y Sioe 2018 gan Goleg Meirion Dwyfor, Glynllifon.

Continue Reading

Cymraeg

Prosiect Maelgi: Cymru

Published

on

Aber Afon Dyfi: Ardal yn cael eu harolygu

MEWN gwaith cyffrous ar y cyd rhwng pysgotwyr a chadwraethwyr, mae prosiect newydd oddi ar arfordir Cymru yn lansio heddiw, 17 Gorffennaf 2018, sy’n canolbwyntio ar chwalu hyd bygythiadau a hanes y maelgi (Squatina squatina), sef rhywogaeth sydd mewn perygl difrifol.

Gofynnir i bysgotwyr, plymwyr, plant ysgol a’r rhai hynny dros 60 mlwydd oed – a phawb arall – gymryd rhan yn y prosiect arloesol newydd hwn sy’n anelu at ddiogelu’r rhywogaeth unigryw hon, a oedd i’w gweld yn helaeth yn nyfroedd Cymru ar un adeg.

Bydd ‘Prosiect Maelgi: Cymru’, dan arweiniad yr elusen gadwraeth ryngwladol Cymdeithas Sŵolegol Llundain (ZSL) a Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), yn cael ei gynnal ochr yn ochr â deuddeg sefydliad partner arall. Nod y prosiect yw rhoi sylw i un o siarcod prinnaf y byd, trwy weithio gyda phum cymuned arfordirol ledled Cymru. Bydd data a gasglwyd o atgofion cymunedau, ymchwil hanesyddol, gwybodaeth pysgotwyr ac arolygon gwyddoniaeth dinasyddion yn helpu i adeiladu dealltwriaeth well a chynllun cadwraeth ar gyfer y rhywogaeth.

Dywedodd Joanna Barker, Rheolwr Prosiectau Morol a Dŵr Croyw yng Nghymdeithas Sŵolegol Llundain: “Mae gennym gyfle cyffrous i ddeall a gwella statws maelgwn yng Nghymru, sydd o bosibl yn un o’r cadarnleoedd olaf ar gyfer y siarc anhygoel hwn. Rydym yn gobeithio y bydd ein dull o gyfuno cadwraeth a gwyddoniaeth gymdeithasol yn helpu i ddarparu buddion i boblogaeth y maelgwn, ond hefyd i’r cymunedau lleol rydym yn gweithio â nhw, sy’n dibynnu ar y môr ar gyfer eu bywoliaeth.”

Gellir dod o hyd i faelgwn (a oedd yn gyffredin ar hyd ochr orllewinol Ynysoedd Prydain ar un adeg) yn llithro ar draws gwely’r môr gyda’u hesgyll sy’n debyg i adenydd. Maen nhw’n tyfu hyd at tua dau fetr a hanner (oddeutu wyth troedfedd) ond nid ydynt yn peri bygythiad i bobl – maen nhw’n byw ar dywod neu fwd ar waelod y môr yn bennaf, gan ysglyfaethu ar bysgod bach a molysgiaid.

Er bod eu niferoedd wedi disgyn yn helaeth ar draws dwyrain Cefnfor yr Iwerydd, y Môr Canoldir a’r Môr Du dros y ganrif ddiwethaf, mae adroddiadau ohonynt wedi cynyddu oddi ar arfordir Cymru, gan roi gobaith newydd i ddyfodol y rhywogaeth.

Dywedodd Ben Wray, ecolegydd morol gyda Cyfoeth Naturiol Cymru: “Rydym yn hynod ddiolchgar i’r 12 o bysgotwyr rydym wedi gweithio â nhw yn ystod ein prosiect peilot y llynedd, a helpodd i lywio’r prosiect cyffrous ac arloesol newydd hwn. Mae achosion o ddal y siarc ar ddamwain yn dangos y gallai Bae Ceredigion yng nghanolbarth Cymru fod yn ardal bwysig ar gyfer y rhywogaeth. Bydd y data hwn yn hanfodol er mwyn adeiladu darlun mwy clir o statws ac ecoleg maelgwn yng Nghymru, yn ogystal â llywio Cynllun Gweithredu Maelgwn Cymru – yr ydym yn gobeithio y bydd yn helpu i arwain y prosiect at lwyddiant.”

Dywedodd Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig: “Mae Cymru yn wlad falch ac eleni rydym ni’n dathlu ein Blwyddyn y Môr. Mae ein moroedd yn cefnogi cynefinoedd a rhywogaethau sy’n ysbrydoli’n fawr ac sydd o bwysigrwydd cenedlaethol a byd-eang.

“Rwy’n hynod falch o allu cefnogi’r prosiect hwn, sy’n dwyn ein cymunedau arfordirol, pysgotwyr, gwyddonwyr, grwpiau cadwraeth a’r llywodraeth ynghyd i gydweithio er mwyn darparu data y mae angen mawr amdano ynghylch y rhywogaeth hon sydd mewn perygl difrifol. Bydd y data hwn yn gwella ein dealltwriaeth o ecoleg a dosbarthiad y rhywogaeth, fel bod modd i ni warchod y rhywogaeth yn ein moroedd yn well ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Rwy’n annog ein cymunedau, o’r ifanc i’n cenedlaethau hŷn, i ymgysylltu â’r prosiect newydd a chyffrous hwn a bod yn rhan ohono.”

Bydd y prosiect yn casglu data am faelgwn ledled Cymru, gan ganolbwyntio ar ymgysylltu â rhanddeiliaid mewn pum ardal allweddol: gogledd Ynys Môn, Penrhyn Llŷn, Porthmadog i Aber-arth, Abergwaun i Aberdaugleddau, ac Abertawe i Borthcawl.

Gellir adrodd unrhyw achosion personol o weld maelgwn neu eu dal ar ddamwain trwy ddilyn y ddolen ganlynol: http://angelsharknetwork.com/#map. Gallwch gael mwy o wybodaeth am y prosiect yma: www.angelsharknetwork.com/cymru. Gall y rhai hynny sydd â diddordeb mewn bod yn rhan o’r prosiect gysylltu ag angelsharks@zsl.org i helpu i gadw un o’r siarcod prinnaf yn y byd.

Continue Reading

Cymraeg

Yn llai yng Nghymru yn curo plant

Published

on

'Dyma'r union newid o ran agwedd rydym eisiau ei weld yng Nghymru': Meddai Huw Irranca Davies

MAE NIFER y rhieni â phlant ifanc yng Nghymru sydd wedi dweud eu bod yn smacio eu plant wedi lleihau’n sylweddol a dim ond nifer fach o rieni sydd wedi dweud eu bod yn gyfforddus â’r syniad, yn ôl gwaith ymchwil newydd a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru.

Mae’r gwaith ymchwil ‘Agweddau rhieni tuag at reoli ymddygiad plant ifanc 2017’ wedi darganfod bod 11% o rieni â phlant ifanc wedi smacio eu plant yn y 6 mis diwethaf fel dull o reoli ymddygiad eu plant. Nodwyd 22% yn 2015, felly mae’r ffigwr bellach wedi haneru.

n ôl y gwaith ymchwil, roedd 81% o rieni yn anghytuno “bod angen smacio plentyn drwg weithiau”, dyma gynnydd sylweddol ers 2015 lle’r oedd 71% yn anghytuno.

Mae nifer y rhieni a ddywedodd ei bod hi’n bosibl y byddant yn smacio plentyn o dan amgylchiadau penodol wedi lleihau o 44% i 31%. O fewn y nifer hwn, dim ond 5% ddywedodd eu bod yn gyfforddus â’r syniad ac y byddent yn smacio plentyn pan fo angen, gyda 26% pellach yn dweud nad oeddent yn hoffi’r syniad, ond y byddent yn gwneud hynny os mai dyna oedd yr opsiwn olaf.

Nodwyd ystod eang o dechnegau eraill gan rieni ar gyfer rheoli ymddygiad eu plant. Y technegau a nodwyd amlaf oedd:

Canmol ymddygiad da;
Cadw at yr un arferion o ddydd i ddydd;
Dweud na; a
Dweud y drefn wrthyn nhw.

Bwriad Llywodraeth Cymru yw dod â chosbi plant yn gorfforol i ben yng Nghymru. Mae’r ddeddfwriaeth arfaethedig yn rhan o becyn ehangach o fesurau y mae Llywodraeth Cymru’n eu gweithredu i gefnogi plant i gael y dechrau gorau mewn bywyd, ac i gefnogi rhieni i wneud y gorau y gallan nhw.

Pan ofynnwyd i rieni a ddylai smacio plant gael ei wahardd yn llwyr, roedd y farn rhwng y rhai sy’n cytuno â’r gwaharddiad â’r rhai sy’n anghytuno yn weddol gytbwys, gyda 48% yn cytuno â gwaharddiad a 39% yn anghytuno. Yn 2015 roedd 46% yn cytuno â’r gwaharddiad a 43% yn anghytuno, felly mae newid bach wedi bod o blaid y gwaharddiad.

Gan groesawu’r gwaith ymchwil, dywedodd Huw Irranca-Davies, y Gweinidog Plant: “Rwy’n falch iawn i weld, o’r gwaith ymchwil hwn bod cyn lleied o rieni yn credu bod angen smacio plant ar adegau, a bod llai fyth o rieni yn defnyddio cosbau corfforol i reoli ymddygiad eu plant.

“Dyma’r union newid o ran agwedd rydym eisiau ei weld yng Nghymru. Er ei bod hi’n wych gweld bod 81% yn teimlo nad yw smacio plentyn yn dderbyniol ar unrhyw adeg, fel llywodraeth, rydym eisiau sicrhau bod pob rhiant yn cydnabod nad yw smacio plentyn yn dderbyniol ar unrhyw adeg. Dyma pam rydyn ni’n bwriadu cyflwyno deddfwriaeth i’w gwneud hi’n glir bod cosbi plentyn yn gorfforol bellach yn annerbyniol yng Nghymru.”

Continue Reading
News1 day ago

Pembroke Dock: Former nurse jailed for 18 months

A FORMER nurse from Pembroke Dock who lied to an inquest about the death of a vulnerable patient has been...

News1 day ago

Allied Healthcare to ‘minimise disruption’ as it looks to sell and transfer services

ALLIED HEALTHCARE, who provide care services across Pembrokeshire, is exploring a range of options which include ‘the sale or transition of...

News1 day ago

Milford Haven: Round Table offering support for flood victims

MILFORD HAVEN ROUND TABLE is offering support to anyone who has suffered as a result of the flooding at Havens Head...

News1 day ago

Freshwater West: Inquest hears how pensioner ‘lost control’

A 67-YEAR-OLD man who died after he fell from a clifftop at Freshwater West ‘lost control’ as he was walking...

News2 days ago

Red Roses: MP calls for ‘urgent action’ on dangerous junction

SIMON HART MP is calling for urgent action to be taken on dangerous junctions at Red Roses and Llandowror. He...

News2 days ago

Fishguard: Police station to close, Crime Commissioner confirms

FISHGUARD POLICE STATION will close and there are three options on the table, the Police and Crime Commissioner, Dafydd Llywelyn,...

News2 days ago

Cyclist who was seriously injured near Tenby is now supporting Road Safety Week

A PE TEACHER has spoken for the first time of her battle to overcome serious injuries she suffered when a...

News3 days ago

Neyland: Mother issues warning after boy ‘grabbed by hooded man’

THE MOTHER of a boy who was grabbed by a ‘hooded man’ in the street on Tuesday evening (Nov 13)...

News5 days ago

50,000 homes to have different bin collections over Christmas

PEMBROKESHIRE households are being urged to sign up for Pembrokeshire County Council’s free notification service as the countdown to Christmas...

News5 days ago

Can you impress? Britain’s Got Talent holding audition night

BRITAIN’S GOT TALENT is on the search to see what talents Pembrokeshire has to offer. The nation’s favourite talent show...

Popular This Week