Connect with us
Advertisement
Advertisement

Cymraeg

Pobl ifanc sy’n cadw fflam Cefn Gwlad yn fyw

Published

on

Mae Tîm newydd: Ar gyfer dychwelyd Cefn Gwlad

ERS 35 mlynedd, mae’r rhaglen amaeth Cefn Gwlad wedi bod yn rhan annatod o amserlen S4C yn ogystal â bod yn un o raglenni mwya’ poblogaidd y sianel. Ond wrth i’r gyfres newydd ddechrau nos Fawrth, 27 Chwefror, bydd tîm newydd o gyflwynwyr wrth law i helpu Dai.

Y ffermwr a’r darlledwr Dai Jones, Llanilar fydd asgwrn cefn y gyfres o hyd wrth iddo gyfarfod rhagor o gymeriadau sy’n byw yng nghefn gwlad Cymru. Ond yn ymuno ag o yn y gyfres newydd bydd gwraig fferm o Geredigion, Meleri Williams, y cyflwynydd a’r ffermwr defaid Ioan Doyle, y cyflwynydd a’r wraig fferm Mari Lovgreen a’r ffermwr o Fro Ddyfi, Rhys Lewis.

Yn ogystal, cawn gwrdd ag aelod ifanca’r tîm – Elis Morris, 10 oed, o Gaerdydd – sydd, fel Dai Llanilar, wedi ei fagu yn y ddinas ond â’i fryd ar fod yn ffermwr. Yn ystod y gyfres, byddwn yn dilyn Elis wrth iddo gymryd ei gamau cyntaf i mewn i’r byd ffermio.

Ac yntau’n 74 mlwydd oed, mae digon o betrol yn y tanc gan Dai o hyd. Mae’n parhau i ffermio a darlledu gymaint ag erioed ac wedi mwynhau dros 50 mlynedd yn cyflwyno rhaglenni poblogaidd fel Sion a Siân a Cefn Gwlad yn ogystal â rhaglen radio wythnosol ar BBC Radio Cymru, Ar eich Cais. Ond mae’n edrych ymlaen at rannu awenau ei raglen enwocaf gyda’r criw newydd.

“‘Da ni ar drothwy newid mawr,” meddai Dai o’i fferm yn Llanilar. “I ddechrau, bydd y rhaglenni’n awr yn hytrach na hanner awr a dwi’n meddwl y byd o’r dewis o’r pedwar aelod newydd. Mae’r pedwar yn bobl ifanc y wlad, yn dod o gefndir amaethyddol ac wedi cael eu trwytho yng nghefn gwlad Cymru. Ac mae’n holl bwysig bod Cefn Gwlad yn cadw ei gymeriad amaethyddol, gwledig. Wedi’r cwbl, fyddai rhywun ddim yn gofyn i berson sy’n gweithio mewn siop tsips ddreifio awyren, na fydden nhw? A phobl ifanc fel y rhain sy’n cadw fflam cefn gwlad yn fyw.”

Ym mhennod gynta’r gyfres newydd bydd Dai yn teithio i Ben Llŷn i gwrdd ag Ifan Hughes, perchennog Garej Ceiri Llanaelhaearn, neu Ifan Lodge fel mae’n cael ei adnabod yn lleol. Bydd Mari, merch sydd wedi ei magu yn n Caernarfon ond sydd bellach wedi setlo ym mwynder Maldwyn, yn dysgu mwy am fenter a dyfeisgarwch gwragedd fferm sy’n llwyddo i jyglo cadw teulu, rhedeg ffarm a mentro i fyd busnes. A bydd Rhys allan yng nghanol nos i wylio Rali Nos Bro Ddyfi sy’n sgrialu heibio ei fferm.

Dros y blynyddoedd, mae Dai wedi cyfarfod toreth o gymeriadau ym mhob twll a chornel o Gymru ar gyfer Cefn Gwlad, ond oes ganddo unrhyw gyngor ar gyfer y cyflwynwyr newydd?

“Y peth pwysig yw eu bod nhw’n bod yn nhw eu hunain. Dwi’n cofio’r diweddar Geraint Rees, cyn-gynhyrchydd Cefn Gwlad, yn dweud wrtha i pan o’n i’n trosleisio un o’r cyfresi cynnar, ‘Paid trio bod yn llenyddol, Dai. Gad hynny i’r beirdd. G’na ‘di fe yn dy ffordd dy hunan – mae e’n fwy angerddol.’ Ac alla i ddim pasio gwell gyngor ymlaen i’r criw ifanc ‘ma.”

Cymraeg

Fwynhau edrych ar y dolffiniaid o bell

Published

on

Byddwch yn ofalus: Unigolion yn agos at ddolffin (Credit: Jonathan Evans)

GYDA’R haf ar ei ffordd, yn denu ymwelwyr i fwynhau arfordir cyfoethog bywyd gwyllt Ceredigion, mae’r Cyngor yn annog aelodau’r cyhoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau arfordirol heb amharu ar fywyd gwyllt a chynefinoedd arbennig Bae Ceredigion. Daw’r alwad hon ar ôl i unigolion fynd yn agos at y dolffiniaid ym Mae Ceredigion yn ddiweddar a nofio yn eu mysg.

Mae Côd Ymddygiad Morol Ceredigion yn gofyn i ddefnyddwyr dŵr gadw pellter o 100 metr oddi wrth ddolffiniaid a llamidyddion y deuir ar eu traws yn y môr, ac i gadw pellter o 50 metr oddi wrth forloi ac adar môr sy’n nythu. Ni ddylai’r cyhoedd ar unrhyw gyfrif geisio bwydo, cyffwrdd neu nofio ymysg y dolffiniaid. Anifeiliaid gwyllt ydynt. Mae dolffiniaid yn fawr a phwerus a gallant dyfu hyd at bedwar metr o hyd. Yn ogystal ag achosi aflonyddwch sylweddol i’r anifeiliaid a’u gorfodi i gefni ar safleoedd bwydo pwysig, gall cyswllt agos hefyd wneud y bobl a’r dolffiniaid yn agored i glefydau.

Gall aflonyddu sawl gwaith achosi i’r dolffiniaid adael safleoedd bwydo pwysig a chwilio am ardaloedd mwy tawel. Gallai tarfu ar fwydo, gorffwyso a magu gael effaith hirdymor ar iechyd a lles dolffiniaid unigol a phoblogaethau ohonynt.

Dywedodd y Cynghorydd Rhodri Evans, yr aelod Cabinet sy’n gyfrifol am yr Economi ac Adfywio, “Mae bywyd gwyllt Bae Ceredigion yn ased gwych i economi ein cymunedau arfordirol ac mae hefyd yn bwysig ynddo’i hun. Dyma’r rheswm ein bod yn gofyn i drigolion ac ymwelwyr fwynhau’r dolffiniaid ac edrych ar fywyd gwyllt o bellter diogel. Er ei bod yn ddealladwy bod temtasiwn i weld yr anifeiliaid yn agos, ni allwn beryglu tarfu ar fywyd gwyllt Bae Ceredigion ac o bosibl eu gyrru i ffwrdd. Dyma’r peth olaf y mae rhywun ei eisiau”.

Sefydlwyd Côd Ymddygiad Morol Ceredigion gan Gyngor Sir Ceredigion dros ugain mlynedd yn ôl. Fe’i sefydlwyd mewn ymateb i bryderon y gymuned leol bod y dolffiniaid trwynbwl sy’n defnyddio’r dyfroedd hyn i fwydo, cymdeithasu a bridio yn dioddef mwy o bwysau oherwydd aflonyddwch gan y rhai sy’n mwynhau gweithgareddau dŵr adloniadol.

Continue Reading

Cymraeg

Sir Benfro’n dathlu Diwrnod Dosbarthiadau Gwag

Published

on

150 o ddisgyblion ysgolion cynradd: Ar Stad Ystagpwll

CYNHALIODD Ysgolion Awyr Agored Sir Benfro (PODS) ddathliad o ddysgu awyr agored ar Stad Ystagbwll yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol fis Mai i nodi’r Diwrnod Dosbarthiadau Gwag Rhyngwladol.

Roedd 150 o ddisgyblion cynradd yn bresennol yn y digwyddiad o Ysgol Maenclochog, Ysgol Brynconin, Ysgol Hafan Y Môr, Ysgol Wirfoddol a Reolir Penrhyn, Ysgol Wirfoddol a Reolir Dinbych-y-pysgod ac Ysgol Wirfoddol a Reolir Hwlffordd.

Dywedodd Arweinydd Tîm Darganfod Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro a Chadeirydd Partneriaeth Ysgolion Awyr Agored Sir Benfro, Graham Peake: “Mae’n braf gweld cymaint o grwpiau a sefydliadau wedi ymrwymo i weithio gyda phlant lleol yn ein gofod awyr agored rhyfeddol ni.

“Rhaid i ni weithio i sicrhau bod pob plentyn yn cael profiadau awyr agored rheolaidd fel rhan o’u cyfnod yn yr ysgol oherwydd mae’n glir bod manteision sylweddol i bawb sy’n cymryd rhan.”

Cafodd y disgyblion gyfle i gymryd rhan mewn gweithdai yn y coed ac ar y lawnt gydag Ysgolion Cynaliadwy, y Cyngor Astudiaethau Maes, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Tîm y Cyfnod Sylfaen yng Nghyngor Sir Benfro a Chwaraeon Sir Benfro.

Ymhlith y gweithgareddau roedd adeiladu gyda deunyddiau naturiol, dysgu gwneud tân, cyfeiriannu, gemau o bob cwr o’r byd, ymarferion cydlynu a gweoedd bwyd ym myd natur.

Fe wnaeth pawb fwynhau’r digwyddiad a dywedodd un disgybl mai hwn oedd “diwrnod gorau ’mywyd i”.

Wrth siarad yn y digwyddiad, dywedodd Kate Evan-Hughes, Cyfarwyddwr Plant ac Ysgolion Cyngor Sir Benfro: “Mae partneriaeth Ysgolion Awyr Agored Sir Benfro’n darparu llawer o wahanol fathau o weithgareddau sy’n rhoi profiad eang i athrawon i weld y gwahanol ffyrdd o ddefnyddio’r amgylchedd dysgu awyr agored.

“Rhaid i ni ddangos sut gall dysgu yn yr awyr agored fod yn drawsgwricwlaidd ynddo’i hun a’i fod yn diwallu anghenion y cwricwlwm.”

Cafodd yr athrawon amser i gymryd rhan mewn sesiwn hyfforddi byr ar y potensial o gyflwyno pynciau yng Nghwricwlwm Cenedlaethol newydd Cymru yn yr awyr agored. Roedd yr athrawon hefyd yn teimlo bod y diwrnod yn un pleserus ac yn cynnwys llawer o wybodaeth.

Mae Ysgolion Awyr Agored Sir Benfro’n dod â sefydliadau ac unigolion arbenigol at ei gilydd gan greu partneriaeth ddeinamig sy’n cynnig cefnogaeth i ysgolion i ddatblygu eu cyfleoedd awyr agored yn gysylltiedig â dysgu ar draws y cwricwlwm.

Continue Reading

Cymraeg

Dafydd y Milfeddyg ar drin mwnci a llewpard

Published

on

Dafydd Jones: Sut ydych yn gwella llewpard brychni?

YN Y drydedd bennod yng nghyfres Y Fets ar S4C, mae’r milfeddyg Dafydd Jones yn cael ei alw i archwilio llewpard sydd mewn hwyliau drwg, a mwnci sydd wedi anafu ei gynffon. Ond sut brofiad, tybed, yw troi ei law at drin anifeiliaid mwy peryglus na’r arfer?

Dafydd, sut mae mynd ati i drin anifail fel llewpard neu fwnci?

Ychydig iawn gall rhywun wneud o ran edrych ar lewpard. Oherwydd y perygl, mae’n rhaid i rywun fynd yn ôl yr hanes yn fwy na dim byd arall. Mae’r mwncïod yn haws oherwydd bod rhywun wedi’u hyfforddi nhw i ddod i ‘nôl eu bwyd ac i ddod i eistedd ar ryw silff arbennig wrth ochr y ffens. Mae modd rhoi meddyginiaeth mewn yn y bwyd ac fe wnaethon ni roi eli ar ei gynffon heb fod o’n protestio gormod.

Beth oedd hanes y llewpard?

Roedd y llewpard yn gorwedd yn ei enclosure a ddim yn bwyta, oedd yn beth anghyffredin iddo fo. Roedd o mewn tipyn o oed ac wedi bod yna ers blynyddoedd. Rajah oedd ei enw fo. Es i allan i’w weld o, a dyna le’r oedd o’n gorwedd ar ei wely. Doedd o ddim isio dod allan a ddim yn dangos diddordeb mewn dim byd. Roedden ni’n gallu mynd ato fo drwy hollt yn y ffens a ddim yn gorfod mynd i mewn i’r caets. Wrth lwc, roedd modd ei drin o o’r tu allan efo’r waywffon a rhoi meddyginiaeth o gryn bellter. Rydyn ni’n ymdrechu i wneud yn siŵr bod pob anifail yn gyfforddus.

A beth am y mwnci?

Wedi brifo ei gynffon oedd y mwnci. Roedd o wedi tynnu bach o groen oddi ar ei gynffon. Doedden ni ddim yn siŵr sut roedd o wedi gwneud hynny. Mae o mewn caets mawr ar ei ben ei hun, felly mae’n annhebygol ei fod o wedi cael brathiad gan un o’r lleill.

Sut glaf oedd e?

Wnaethon ni roi pigiad iddo fe i’w roi o i gysgu ond chafodd o fawr o effaith arno fo! Mi dawelodd o, ond mae adrenalin yn gallu gweithio yn erbyn y cyffuriau ac mae’n debyg fod hyn wedi chwarae rhan. Roedd o’n dal yn effro ond lot dawelwch.

Gallwch ddilyn diwrnod anarferol Dafydd yn Y Fets nos Iau, 21 Mehefin. Hefyd yn y rhaglen, mae Sasha’r Labrador angen llawdriniaeth ar frys ac mae pawb yn gytûn bod angen i Daisy’r Sbaniel fynd ar ddiet go glou!

Continue Reading
News56 mins ago

Pembroke Dock: Police track down van after terrifying experience for runner

POLICE have tracked down two men who were in a van which allegedly followed a woman down a cycle path...

News22 hours ago

Hoax call wastes RNLI time and resources following large search

A HOAX call left RNLI crews wasting vital time and resources yesterday morning (Jun 23) as they searched for a...

News2 days ago

Police call for vigilance to report illegal raves

DYFED-POWYS POLICE is asking farmers and local landowners to be on the alert over the next few months for warning...

News3 days ago

Man who gets ‘a sexual buzz’ from touching bottoms avoids prison

A HAVERFORDWEST man who cannot stop grabbing women’s bottoms has today (Jun 22) received a suspended prison sentence. John Robert...

News3 days ago

Haverfordwest: Retailer and Pembrokeshire Council in war of words

PEMBROKESHIRE COUNTY COUNCIL has become embroiled in a war of words with a discount retailer just days before a deadline...

News3 days ago

Couple details mistakes by Health Board leading to baby’s death [VIDEO]

HYWEL DDA UNIVERSITY HEALTH BOARD has been the subject of fierce criticism in a scathing from the Public Services Ombudsman...

News3 days ago

Tenby: Traffic restrictions coming into force next month

THE TENBY Pedestrianisation Scheme – which restricts traffic from inside the town walls – starts on Monday, July 2, and...

News3 days ago

Haverfordwest: Police investigating burglary from church

DYFED-POWYS POLICE are investigating a burglary which occurred sometime between midnight on Friday, May 24 and Sunday, May 27. Sound...

News3 days ago

WW2 veteran in helicopter flight to comrade’s funeral

A WORLD WAR TWO veteran took a helicopter flight for a 560 mile round trip from his Pembrokeshire home to...

News3 days ago

Royals set to visit Pembrokeshire during summer visit

AS PART of their annual summer visit to Wales, The Prince of Wales and The Duchess of Cornwall will be...

Popular This Week