Connect with us
Advertisement
Advertisement

Cymraeg

Dim digon o bobl anabl mewn swyddi

Published

on

'Busnesau'n colli cyfle': Meddai Eluned Morgan

MAE BUSNESAU yng Nghymru yn colli’r cyfle i fanteisio ar sgiliau pobl fedrus drwy beidio â chynnig digon o gyfleoedd gwaith i bobl anabl. Dyna a ddywedodd Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, wrth gynulleidfa o reolwyr ym maes Adnoddau Dynol.

Rhoddodd y Gweinidog wybod iddynt am Nath o Rondda Cynon Taf, sydd ar y sbectrwm awtistig ac wedi cael diagnosis o Syndrom Asperger. Mae Nath wedi cael hyd i waith sy’n addas ar gyfer eu sgiliau drwy gymorth gan raglen Cymunedau am Waith Llywodraeth Cymru, sydd wedi’i hariannu gan yr UE. Mae’n siarad Cymraeg yn rhugl ac yn gallu cyfieithu dogfennau’n weddol rhwydd, ond mae’n ei chael hi’n anodd mewn sefyllfaoedd cymdeithasol. Roedd ei gynghorydd ar gyfer y rhaglen Cymunedau am Waith wedi ei helpu i fynd am swydd fel Cyfieithydd, ac ar ôl rhywfaint o gydweithrediad dwys, fe lwyddodd i gael swydd yn gweithio i’r Autism Directory Society.

Gyda chymorth y gymdeithas a’i gynghorydd, fe gafodd cymorth ariannol gan raglen Mynediad i Waith yr Adran Gwaith a Phensiynau. Yn ychwanegol at hynny, mae’n cael cymorth gan Hyfforddwr Mynediad i Waith am dair blynedd, sy’n ei helpu i aros yn y swydd. O ganlyniad i’r cymorth hanfodol y mae’n ei gael drwy raglen Mynediad i Waith, mae’n ceisio defnyddio gwahanol ddulliau a thechnegau ac yn cadw’n gadarnhaol. Mae hynny’n ei helpu i oresgyn y rhwystredigaeth y mae’n ei chael wrth gyfathrebu’n gymdeithasol.

Wrth annerch cyfarfod Lansio Fforwm Polisi Cyhoeddus y Sefydliad Siartredig Personél a Datblygu, dywedodd y Gweinidog: “Does dim digon o bobl anabl mewn swyddi. Mae ffigurau a gafodd eu rhyddhau dim ond yr wythnos diwethaf yn dangos mai 9.2% yw’r gyfran o bobl anabl ym Mhrydain Fawr sy’n gallu gweithio ond sy’n ddi-waith – sy’n fwy na dwywaith cyfran y rhai hynny nad ydyn nhw’n anabl, sef 3.6% ar hyn o bryd.

“Yn y cyfamser, yng Nghymru, dim ond 45% o bobl anabl mewn oedran i weithio sy’n gweithio ar hyn o bryd, o’i gymharu â 79% o’r rhai hynny nad ydynt yn anabl. Dyw hynny ddim yn dderbyniol. Rwy am i hyn newid, ac mae angen eich help chi arna’ i gyflawni hynny.

“Ac nid proses hollol anhunanol yw hon. Os nad ydych chi’n cyflogi croestoriad eang o’r gymdeithas, rydych chi’n colli cyfle i fanteisio ar botensial sydd heb ei wireddu o’n gweithlu medrus.”

Yn gynharach eleni cafodd Cynllun Cyflogadwyedd Llywodraeth Cymru ei lansio. Mae’r cynllun yn cydnabod bod rhai pobl yn wynebu rhwystrau sy’n eu hatal rhag cael swydd.

Un o brif gamau gweithredu’r cynllun yw darparu dull unigolyddol o fynd ati i gynnig cymorth i hybu cyflogadwyedd sy’n ymateb i anghenion unigolion ac yn ystyried amgylchiadau personol, rhwystrau, ymagweddau ac uchelgeisiau. Mae sicrhau bod cyfleoedd ar gael i bobl anabl allu dod o hyd i waith ac aros yn y gwaith yn elfen allweddol o’r dull hwnnw. Mae’r cynllun yn galw ar fusnesau i fynd i’r afael â’r rhwystrau rhag cael swydd drwy addasu swydd-ddisgrifiadau a defnyddio prosesau recriwtio arloesol.

Ychwanegodd y Gweinidog: “Dydyn ni ddim yn disgwyl ichi wneud hynny heb gyngor a chymorth. Ond, mae mwy i gyflogadwyedd na swyddi a sgiliau. Mae’n golygu ein bod ni’n sicrhau bod pob agwedd ar bolisi’r Llwodraeth – addysg, iechyd, tai a chymunedau – yn gweithio ar y cyd i helpu pobl i gael swyddi cynaliadwy. Ond, all y Llywodraeth ddim, a ddylai hi ddim, wneud hynny ar ei phen ei hunan. Rhaid inni gael cefnogaeth cyflogwyr, busnesau a gweithwyr proffesiynol fel chi i’n helpu ni.”

Cymraeg

Cyllid ychwanegol i’r afael â thlodi plant

Published

on

BYDD rhaglenni i helpu i fynd i’r afael â thlodi plant a hybu sgiliau yn derbyn cyllid ychwanegol yn y Gyllideb derfynol, dywedodd y Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans.

Bydd £12m ychwanegol yn ariannu mesurau i greu prentisiaethau ar draws Cymru a bydd £2m arall yn helpu rhieni i dalu costau anfon eu plant i’r ysgol ac yn ymestyn y rhaglen Bwyd a Hwyl lwyddiannus dros wyliau’r haf.

Bydd y Gyllideb derfynol hefyd yn cynnwys pecyn o gynigion refeniw a chyfalaf ychwanegol ar gyfer llywodraeth leol yn 2019-20 a £26m i gynyddu cymorth i fanwerthwyr stryd fawr a busnesau eraill.

Mae Cyllideb derfynol 2019-20 yn cynnwys:

• £6.8m o refeniw ychwanegol yn 2019-20 i gefnogi ymrwymiad blaenllaw Llywodraeth Cymru i gynnig 100,000 o brentisiaethau i bobl o bob oed yn ystod tymor y Cynulliad hwn

• £4.771m o refeniw ychwanegol yn 2019-20 i gefnogi tâl addysg bellach

• £2m arall i helpu i fynd i’r afael â thlodi plant drwy:

• £1.6m ychwanegol i ymestyn ymhellach y cynllun Grant Datblygu Disgyblion – Mynediad, sy’n helpu rhieni i dalu costau cyffredinol anfon eu plant i’r ysgol. Mae hyn ar ben y cyllid a gyhoeddwyd yn y Gyllideb ddrafft i ddyblu’r cynllun.

• £0.4m o refeniw ychwanegol yn 2019-20 i ymestyn y rhaglen Bwyd a Hwyl dros wyliau’r haf, sy’n rhoi bwyd a chyfleoedd dysgu i blant yn ystod gwyliau’r ysgol.

Dywedodd Rebecca Evans: “Mae prentisiaethau yn hanfodol er mwyn i bobl gael hyfforddiant galwedigaethol o ansawdd uchel a rhoi cyfleoedd i fusnesau a’r economi ffynnu.

“Rydyn ni hefyd wedi ymrwymo i fynd i’r afael â thlodi plant yng Nghymru. Mae’r cynllun Grant Datblygu Disgyblion – Mynediad a’r rhaglen Bwyd a Hwyl yn bwysig iawn i blant sydd angen ein cymorth y mwyaf.”

Mae’r dyraniadau cyllid yma ar ben y pecyn o fesurau cyllido ychwanegol i lywodraeth leol, gwerth £141.5m dros dair blynedd (2018-2021) – a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi pecyn gwerth £26m yn 2019-20 i wella ac ymestyn y cynllun rhyddhad ardrethi’r stryd fawr presennol.

Ychwanegodd y Gweinidog Cyllid: “Datblygwyd Cyllideb derfynol 2019-20 mewn cyfnod o gyni di-baid ac yng nghysgod yr ansicrwydd parhaus sy’n gysylltiedig â Brexit.

“Pan gyhoeddwyd ein cynigion drafft, gwnaethom ymrwymiad i wneud llywodraeth leol yn flaenoriaeth allweddol ar gyfer cyllid ychwanegol yn dilyn Cyllideb yr Hydref Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

“Rwy’n falch iawn ein bod ni wedi gallu gwneud dyraniadau pellach a buddsoddi yn y gwasanaethau y mae pobl yn dibynnu arnyn nhw.”

Mae’r Gyllideb derfynol yn nodi cynlluniau gwario Llywodraeth Cymru gyfer 2019-20, ynghyd â chynlluniau cyfalaf hyd at 2021.

Mae holl ddogfennau’r Gyllideb derfynol ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg ar wefan Llywodraeth Cymru.

Bydd trafodaeth ar Gyllideb derfynol 2019-20 yn cael ei chynnal ar 15 Ionawr 2019

Continue Reading

Cymraeg

Galw am ymrwymiad i addysg Gymraeg

Published

on

MAE YMGYRCHWYR iaith wedi galw ar y Prif Weinidog i wneud adduned blwyddyn newydd i ollwng y cynlluniau i wanhau’r ddeddf iaith bresennol, ac i fynd ati yn lle hynny i gyflwyno Deddf Addysg Gymraeg fydd yn sicrhau bod pob person ifanc yn gadael yr ysgol yn rhugl yn y Gymraeg.

Yn ei faniffesto i fod yn arweinydd y Blaid Lafur, dywedodd Mark Drakeford ei fod am ganolbwyntio ar gyrraedd y targed o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg. Doedd dim sôn am gynlluniau dadleuol y llywodraeth flaenorol i gyflwyno deddf iaith newydd wannach a fyddai’n diddymu swydd Comisiynydd y Gymraeg. Mewn ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynlluniau yn 2017, roedd 85% o’r ymatebwyr yn gwrthwynebu cael gwared ar y swydd mae Aled Roberts newydd gael ei benodi iddi.

Meddai Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, Osian Rhys: “Rydyn ni’n falch bod y Prif Weinidog newydd wedi cadarnhau ei ymrwymiad i’r targed o gael miliwn o siaradwyr erbyn 2050. Mae’n darged uchelgeisiol, ac mae angen newid sylfaenol ar draws holl waith y Llywodraeth er mwyn ei gyrraedd. Mae maes addysg yn gwbl ganolog i’r gwaith yna, ac rydyn ni’n galw ar y Prif Weinidog i wneud adduned blwyddyn newydd i gyflwyno Ddeddf Addysg Gymraeg fydd yn sicrhau, dros amser, mai Cymraeg fydd prif gyfrwng addysg i bob disgybl yn y wlad. Mae’r Gweinidog Addysg ei hunan wedi cydnabod bod angen rhoi sylw i ddeddfwriaeth yn sgil adolygiad Aled Roberts – dydy’r mân newidiadau maen nhw’n eu cynllunio ar hyn o bryd ddim yn mynd i gyflawni’r nod.

“Roedden ni’n falch bod maniffesto Mark Drakeford yn canolbwyntio ar gyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg ac nad oedd sôn am y cynlluniau annoeth presennol i wanhau’r Ddeddf Iaith. Roedd yr ymgynghoriad cyhoeddus hefyd yn dangos yn glir nad oes cefnogaeth i hynny, ac mae gwasanaethau Cymraeg yn dechrau gwella o dan y Safonau. Mae angen i’r Llywodraeth symud ymlaen nawr i feysydd eraill sydd angen sylw brys, gan ddechrau gydag addysg a dilyn esiampl Catalwnia sydd wedi bod mor llwyddiannus yn adfer y Gatalaneg drwy’r gyfundrefn addysg.”

Continue Reading

Cymraeg

Gwasanaeth newydd i ddysgwyr ar S4C yn 2019

Published

on

YDYCH chi’n un am osod addunedau blwyddyn newydd?

Boed i fwyta’n iach, cerdded 10,000 o gamau bob dydd neu i dreulio llai o amser ar eich ffôn – mae pawb yn gobeithio trawsnewid eu bywydau mewn rhyw ffordd ar ddechrau blwyddyn newydd.

Eleni, beth am osod adduned blwyddyn newydd o fath gwahanol i’ch hunain – dysgu Cymraeg, neu helpu rhywun i ddysgu Cymraeg?

Gweledigaeth Llywodraeth Cymru yw gweld miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, ac mae modd i ni gyd gyfrannu i gyrraedd y targed hwnnw mewn rhyw ffordd neu’i gilydd. Ysgogwch rywun i ddysgu Cymraeg ar ddechrau blwyddyn newydd, a gall S4C helpu gyda gwasanaeth dysgu Cymraeg newydd sbon yn galennig.

Ar 13 Ionawr bydd gwasanaeth newydd ar gyfer dysgwyr yn dechrau ar S4C, sef S4C Dysgu Cymraeg, fydd yn cynnig darpariaeth Gymraeg i ddysgwyr ar bob lefel. Bydd y gwasanaeth yn cynnwys awr o raglenni ar brynhawniau Sul a chynnwys digidol ar y gwefannau cymdeithasol.

Yn wasanaeth cyffrous newydd, bydd rhaglen newyddion ar gyfer dysgwyr, Yr Wythnos, ymlaen bob dydd Sul am 12.00, gydag Alexandra Humphreys yn edrych nôl dros rai o brif straeon a newyddion yr wythnos.

Yn dilyn y newyddion, bydd rhaglenni sydd ag iaith syml, addas ar gyfer dysgwr ymlaen ar y sianel, gan gychwyn ar 13 Ionawr gyda chyfres newydd Dan Do, ble bydd Aled Sam a Mandy Watkins yn teithio hyd a lled y wlad i ymweld â chartrefi mwyaf diddorol Cymru.

Ar ben hynny, bydd cynnwys digidol ar gael ar dudalen Facebook a Twitter S4C Dysgu Cymraeg, ar gyfer dysgwyr Cymraeg ar bob lefel. Bydd eitemau fideo yn cael eu postio yn wythnosol ar y dudalen, gyda chynnwys yr eitemau yn amrywio o newyddion, drama, gomedi neu gynnwys ffeithiol.

Bydd o leiaf un fideo bob wythnos yn cael ei deilwra’n arbennig ar gyfer dysgwyr Cymraeg ar lefel mynediad. Felly mae modd i ddysgwyr sy’n cymryd y cam cyntaf ar y daith i ddysgu Cymraeg gael budd o wasanaeth dysgwyr newydd S4C.

Gall ysgogi rhywun i ddysgu Cymraeg fod mor syml â gyrru fideo o dudalen Facebook S4C Dysgu Cymraeg i ffrind. Hawdd! Eleni, newidiwch fywyd rhywun gyda’r Gymraeg, a helpwch nhw i fod yn un o’r miliwn o siaradwyr cyn 2050.

Gwyliwch, hoffwch, dilynwch a thagiwch – S4C Dysgu Cymraeg, a byddwch yn un o’r miliwn.

Continue Reading
News2 hours ago

Milford Haven: Booms to be removed following oil spill

BOOMS installed earlier this month to contain an oil spill in the Milford Haven waterway will be removed tomorrow (Jan...

News4 hours ago

Fishguard: Sex offender caught trying to flee to Ireland

A sex offender from Bow Street near Aberystwyth who tried to move to Ireland without telling anyone has been jailed....

News6 hours ago

Cold temperatures likely to lead to icy conditions

A YELLOW weather warning is in place over Wales from 10pm tonight (Jan 16) and 11am tomorrow morning (Jan 17)....

News7 hours ago

Tenby: Five new CCTV cameras now operational

FIVE new state of the art CCTV cameras have been installed and are live and recording at Tenby. The five...

News1 day ago

Stephen Crabb: ‘I will vote to deliver Brexit tonight’

STEPHEN CRABB MP, member of parliament for Preseli Pembrokeshire, has written an open letter to his constituents explaining his position...

News1 day ago

Crymych: £40k of cannabis found at farm

CANNABIS with an estimated street value of £40k was found at a Crymych on Tuesday (Jan 14). Two people have...

News2 days ago

Llangwm: Three people hopsitalised after car enters Black Tar

THREE people were hospitalised after a car was submerged at Black Tar in Llangwm on Sunday evening (Jan 13). All...

News3 days ago

Pembroke Dock: Two arrested on suspicion of arson following caravan fire

DYFED-POWYS POLICE are appealing for witnesses following a caravan fire which occurred in Fleet St, Pennar, Pembroke Dock in the...

News4 days ago

‘We are living in a constant state of fear’, says Haverfordwest High teacher

SCHOOLS in the county of Pembrokeshire are currently in crisis, according to a serving secondary school teacher. The member of...

News5 days ago

Hakin couple accused of attacks appear in Crown Court

A COUPLE from Hakin are to stand trial accused of being involved in attacks on four different women on the...

Popular This Week