Connect with us
Advertisement
Advertisement

Cymraeg

Dathlu Llyfr y Flwyddyn 2018 ar S4C

Published

on

'Mae'n gystadleuaeth agored iawn eleni': Gwion Hallam

UN O nosweithiau pwysicaf y byd llenyddol yng Nghymru yw Seremoni Wobrwyo Llyfr y Flwyddyn, a gynhelir yn flynyddol o dan ofal Llenyddiaeth Cymru. Bydd yr enwau mawr yn ymgasglu yn y Tramshed yng Nghaerdydd i gael gwybod pa lyfr sy’n haeddu’r teitl yn 2018. Bydd uchafbwyntiau’r seremoni i’w gweld ar raglen arbennig, Llyfr y Flwyddyn 2018, gaiff ei darlledu’n syth wedi’r gwobrwyo ar S4C ar nos Fawrth, 26 Mehefin.

“‘Rwy’n disgwyl ‘mlaen yn fawr,” meddai cyflwynydd y noson, Gwion Hallam, “Dwi wedi bod mewn sawl Seremoni Llyfr y Flwyddyn dros y blynyddoedd, ac fel yr awduron, dwi’n gyffrous iawn i glywed canlyniadau’r rhestrau byrion a chlywed pwy fydd yn fuddugol.”

“Dwi’n siŵr fod gwaith y beirniaid wedi bod yn anodd iawn eleni,” meddai Gwion Hallam, fu’n beirniadu’r wobr yn ôl yn 2007, pan gipiodd Llwyd Owen y wobr gyda’i gyfrol Ffydd Gobaith Cariad. “Pan o’n i’n beirniadu, yr hyn o’n i’n chwilio amdano oedd rhywbeth oedd yn cydio ynof, yn aros gyda mi – rhywbeth a agorai’r byd i mi.”

Y Prifardd Aneirin Karadog, y ddarlledwraig Beti George, a’r llenor Caryl Lewis sydd wedi cael y fraint eleni o feirniadu’r cyfrolau Cymraeg, gyda naw o’u dewis yn cyrraedd y rhestrau byrion, cyn iddynt benderfynu ar brif enillwyr y seremoni. Gellir clywed sylwadau am y cyfrolau mewn fideos byrion sy’n cael eu rhannu ar gyfryngau cymdeithasol S4C.

Cyhoeddwyd tair rhestr fer yn y Gymraeg a’r Saesneg ym mis Mai – rhestr y Wobr Farddoniaeth, Gwobr Ffuglen a Gwobr Ffeithiol Greadigol. Cyhoeddir yr enillydd ym mhob categori ar y noson, ac yna bydd un llyfr Cymraeg ac un llyfr Saesneg yn cael eu henwi’n Llyfr y Flwyddyn 2018.

“Dwi wedi darllen dros hanner cant o gyfrolau i gyd,” dywedodd y beirniad Caryl Lewis. “Mae hi wedi bod yn braf cael yr esgus i ddefnyddio’r cyfle i gymryd yr amser i ddarllen y cyfrolau.”

Fel awdur, a chyn-enillydd Llyfr y Flwyddyn, mae Caryl Lewis yn llawn cydnabod gwerth gwobrau fel hyn. “O’dd e’n hwb aruthrol pan enilles i am y tro cynta’ yn 2005 gyda Martha, Jac a Sianco,” meddai. “Fel awdur, does dim ffordd o fesur dy waith – dim bos i ddweud bo’ ti wedi gwneud joben dda, dim promotion! Mae cael dy enwi ar y rhestrau hyn yn rhywbeth amhrisiadwy i’r llenorion.”

Llwyddodd Caryl Lewis i gipio’r trebl yn 2016 gyda’i nofel, Y Bwthyn, gan ennill y categori Ffuglen, a gwobr Llyfr y Flwyddyn, yn ogystal â Gwobr Barn y Bobl. Eleni eto, Golwg360 fydd yn cyflwyno’r wobr honno i’r gyfrol sydd wedi derbyn y mwyaf o bleidleisiau’r cyhoedd.

“Dwi’n meddwl fod gwobr Barn y Bobl yn un hollbwysig – mae’n dangos bod y cyhoedd yn rhan o’r farn,” meddai Caryl Lewis. “Os nad oes darllenwyr, does dim pwrpas cyhoeddi.”

Caiff Caryl Lewis a Beti George eu holi gan Gwion Hallam fel rhan o’r rhaglen ar S4C, cyn i’r beirniaid answyddogol, Bethan Mair ac Ian Rowlands ymuno i drafod canlyniadau’r noson. “Mae’n gystadleuaeth agored iawn eleni,” yn ôl Gwion Hallam, “s’dim syniad ‘da fi pwy aiff â hi.”

Cymraeg

Anturiaethau Aeron yn y Sioe Frenhinol

Published

on

PROFIAD newydd sy’n wynebu’r cyflwynydd Aeron Pughe yn y Sioe Frenhinol eleni wrth iddo fentro o’r sied gneifio i grwydro’r maes. Yn rhan o griw sylwebu Y Sioe 2018 ar S4C, bydd Aeron yn canolbwyntio ar yr ardaloedd ffwr a phlu, y geifr a’r moch.

“Dwi’m yn siŵr os mai promotion ydi o neu be’,” meddai Aeron. “Y cneifio dwi wedi bod yn sylwebu arno ers tua phum mlynedd, ond, o’r diwedd, dwi wedi ennill yr hawl i gael mynd allan ar gamera byw.

“Dydw i ddim wedi gwneud gymaint â’r ardaloedd hyn yn y gorffennol. Mae ‘na ddigon o geiliogod ym Machynlleth, ac ambell i fochyn a hwch, ond dim fath â’r rhai yn y Sioe!”

Bydd Aeron yn manteisio ar y cyfle i ymweld ag amryw o fannau gwahanol ar faes y Sioe eleni gan gynnwys yr ardal Goedwigaeth, y Peiriannau a chornel gyfarwydd iawn iddo, y Ffermwyr Ifanc.

“Ro’n i’n rhan o Glwb Ffermwyr Ifanc Bro Ddyfi pan oeddwn i’n ddigon ifanc i fod yn aelod, ac wedi helpu ar ôl hynny,” meddai. “Y rheswm dwi’n cyflwyno heddiw ydi oherwydd y Ffermwyr Ifanc. Mae’n neis iawn ‘mod i’n gallu mynd yn ôl yno i hyrwyddo a chyfweld â phobl o’r mudiad.”

Mi fydd Aeron yn ymuno â sawl wyneb cyfarwydd ar dîm sylwebu’r Sioe eleni, gyda Nia Roberts yn angori’r cyfan bob diwrnod o 9.00 y bore. Yr enwog Dai Jones, Llanilar fydd yn cadw llygad ar y gwartheg, Meinir Howells ar y defaid ac yn sylwebu o’r sied gneifio fydd Alun Elidyr.

Heledd Cynwal a David Oliver fydd yn sylwebu o’r Prif Gylch, gyda ffrwd fyw ar gael ar-lein ar gyfer holl gystadlaethau’r Cylch.

Bydd sylwebaeth Saesneg ar gael ar gyfer holl raglenni’r dydd ac isdeitlau Saesneg ar y rhaglenni uchafbwyntiau gyda’r nos wedi’u cyflwyno gan Ifan Jones Evans.

Bydd Ifan hefyd yn mwynhau cynnwrf y maes ar y nos Sul cyn y Sioe mewn rhaglen ragflas fydd yn edrych ymlaen at yr wythnos ac yn darlledu o Foliant y Maes.

Noddir cyfres Y Sioe 2018 gan Goleg Meirion Dwyfor, Glynllifon.

Continue Reading

Cymraeg

Prosiect Maelgi: Cymru

Published

on

Aber Afon Dyfi: Ardal yn cael eu harolygu

MEWN gwaith cyffrous ar y cyd rhwng pysgotwyr a chadwraethwyr, mae prosiect newydd oddi ar arfordir Cymru yn lansio heddiw, 17 Gorffennaf 2018, sy’n canolbwyntio ar chwalu hyd bygythiadau a hanes y maelgi (Squatina squatina), sef rhywogaeth sydd mewn perygl difrifol.

Gofynnir i bysgotwyr, plymwyr, plant ysgol a’r rhai hynny dros 60 mlwydd oed – a phawb arall – gymryd rhan yn y prosiect arloesol newydd hwn sy’n anelu at ddiogelu’r rhywogaeth unigryw hon, a oedd i’w gweld yn helaeth yn nyfroedd Cymru ar un adeg.

Bydd ‘Prosiect Maelgi: Cymru’, dan arweiniad yr elusen gadwraeth ryngwladol Cymdeithas Sŵolegol Llundain (ZSL) a Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), yn cael ei gynnal ochr yn ochr â deuddeg sefydliad partner arall. Nod y prosiect yw rhoi sylw i un o siarcod prinnaf y byd, trwy weithio gyda phum cymuned arfordirol ledled Cymru. Bydd data a gasglwyd o atgofion cymunedau, ymchwil hanesyddol, gwybodaeth pysgotwyr ac arolygon gwyddoniaeth dinasyddion yn helpu i adeiladu dealltwriaeth well a chynllun cadwraeth ar gyfer y rhywogaeth.

Dywedodd Joanna Barker, Rheolwr Prosiectau Morol a Dŵr Croyw yng Nghymdeithas Sŵolegol Llundain: “Mae gennym gyfle cyffrous i ddeall a gwella statws maelgwn yng Nghymru, sydd o bosibl yn un o’r cadarnleoedd olaf ar gyfer y siarc anhygoel hwn. Rydym yn gobeithio y bydd ein dull o gyfuno cadwraeth a gwyddoniaeth gymdeithasol yn helpu i ddarparu buddion i boblogaeth y maelgwn, ond hefyd i’r cymunedau lleol rydym yn gweithio â nhw, sy’n dibynnu ar y môr ar gyfer eu bywoliaeth.”

Gellir dod o hyd i faelgwn (a oedd yn gyffredin ar hyd ochr orllewinol Ynysoedd Prydain ar un adeg) yn llithro ar draws gwely’r môr gyda’u hesgyll sy’n debyg i adenydd. Maen nhw’n tyfu hyd at tua dau fetr a hanner (oddeutu wyth troedfedd) ond nid ydynt yn peri bygythiad i bobl – maen nhw’n byw ar dywod neu fwd ar waelod y môr yn bennaf, gan ysglyfaethu ar bysgod bach a molysgiaid.

Er bod eu niferoedd wedi disgyn yn helaeth ar draws dwyrain Cefnfor yr Iwerydd, y Môr Canoldir a’r Môr Du dros y ganrif ddiwethaf, mae adroddiadau ohonynt wedi cynyddu oddi ar arfordir Cymru, gan roi gobaith newydd i ddyfodol y rhywogaeth.

Dywedodd Ben Wray, ecolegydd morol gyda Cyfoeth Naturiol Cymru: “Rydym yn hynod ddiolchgar i’r 12 o bysgotwyr rydym wedi gweithio â nhw yn ystod ein prosiect peilot y llynedd, a helpodd i lywio’r prosiect cyffrous ac arloesol newydd hwn. Mae achosion o ddal y siarc ar ddamwain yn dangos y gallai Bae Ceredigion yng nghanolbarth Cymru fod yn ardal bwysig ar gyfer y rhywogaeth. Bydd y data hwn yn hanfodol er mwyn adeiladu darlun mwy clir o statws ac ecoleg maelgwn yng Nghymru, yn ogystal â llywio Cynllun Gweithredu Maelgwn Cymru – yr ydym yn gobeithio y bydd yn helpu i arwain y prosiect at lwyddiant.”

Dywedodd Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig: “Mae Cymru yn wlad falch ac eleni rydym ni’n dathlu ein Blwyddyn y Môr. Mae ein moroedd yn cefnogi cynefinoedd a rhywogaethau sy’n ysbrydoli’n fawr ac sydd o bwysigrwydd cenedlaethol a byd-eang.

“Rwy’n hynod falch o allu cefnogi’r prosiect hwn, sy’n dwyn ein cymunedau arfordirol, pysgotwyr, gwyddonwyr, grwpiau cadwraeth a’r llywodraeth ynghyd i gydweithio er mwyn darparu data y mae angen mawr amdano ynghylch y rhywogaeth hon sydd mewn perygl difrifol. Bydd y data hwn yn gwella ein dealltwriaeth o ecoleg a dosbarthiad y rhywogaeth, fel bod modd i ni warchod y rhywogaeth yn ein moroedd yn well ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Rwy’n annog ein cymunedau, o’r ifanc i’n cenedlaethau hŷn, i ymgysylltu â’r prosiect newydd a chyffrous hwn a bod yn rhan ohono.”

Bydd y prosiect yn casglu data am faelgwn ledled Cymru, gan ganolbwyntio ar ymgysylltu â rhanddeiliaid mewn pum ardal allweddol: gogledd Ynys Môn, Penrhyn Llŷn, Porthmadog i Aber-arth, Abergwaun i Aberdaugleddau, ac Abertawe i Borthcawl.

Gellir adrodd unrhyw achosion personol o weld maelgwn neu eu dal ar ddamwain trwy ddilyn y ddolen ganlynol: http://angelsharknetwork.com/#map. Gallwch gael mwy o wybodaeth am y prosiect yma: www.angelsharknetwork.com/cymru. Gall y rhai hynny sydd â diddordeb mewn bod yn rhan o’r prosiect gysylltu ag angelsharks@zsl.org i helpu i gadw un o’r siarcod prinnaf yn y byd.

Continue Reading

Cymraeg

Yn llai yng Nghymru yn curo plant

Published

on

'Dyma'r union newid o ran agwedd rydym eisiau ei weld yng Nghymru': Meddai Huw Irranca Davies

MAE NIFER y rhieni â phlant ifanc yng Nghymru sydd wedi dweud eu bod yn smacio eu plant wedi lleihau’n sylweddol a dim ond nifer fach o rieni sydd wedi dweud eu bod yn gyfforddus â’r syniad, yn ôl gwaith ymchwil newydd a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru.

Mae’r gwaith ymchwil ‘Agweddau rhieni tuag at reoli ymddygiad plant ifanc 2017’ wedi darganfod bod 11% o rieni â phlant ifanc wedi smacio eu plant yn y 6 mis diwethaf fel dull o reoli ymddygiad eu plant. Nodwyd 22% yn 2015, felly mae’r ffigwr bellach wedi haneru.

n ôl y gwaith ymchwil, roedd 81% o rieni yn anghytuno “bod angen smacio plentyn drwg weithiau”, dyma gynnydd sylweddol ers 2015 lle’r oedd 71% yn anghytuno.

Mae nifer y rhieni a ddywedodd ei bod hi’n bosibl y byddant yn smacio plentyn o dan amgylchiadau penodol wedi lleihau o 44% i 31%. O fewn y nifer hwn, dim ond 5% ddywedodd eu bod yn gyfforddus â’r syniad ac y byddent yn smacio plentyn pan fo angen, gyda 26% pellach yn dweud nad oeddent yn hoffi’r syniad, ond y byddent yn gwneud hynny os mai dyna oedd yr opsiwn olaf.

Nodwyd ystod eang o dechnegau eraill gan rieni ar gyfer rheoli ymddygiad eu plant. Y technegau a nodwyd amlaf oedd:

Canmol ymddygiad da;
Cadw at yr un arferion o ddydd i ddydd;
Dweud na; a
Dweud y drefn wrthyn nhw.

Bwriad Llywodraeth Cymru yw dod â chosbi plant yn gorfforol i ben yng Nghymru. Mae’r ddeddfwriaeth arfaethedig yn rhan o becyn ehangach o fesurau y mae Llywodraeth Cymru’n eu gweithredu i gefnogi plant i gael y dechrau gorau mewn bywyd, ac i gefnogi rhieni i wneud y gorau y gallan nhw.

Pan ofynnwyd i rieni a ddylai smacio plant gael ei wahardd yn llwyr, roedd y farn rhwng y rhai sy’n cytuno â’r gwaharddiad â’r rhai sy’n anghytuno yn weddol gytbwys, gyda 48% yn cytuno â gwaharddiad a 39% yn anghytuno. Yn 2015 roedd 46% yn cytuno â’r gwaharddiad a 43% yn anghytuno, felly mae newid bach wedi bod o blaid y gwaharddiad.

Gan groesawu’r gwaith ymchwil, dywedodd Huw Irranca-Davies, y Gweinidog Plant: “Rwy’n falch iawn i weld, o’r gwaith ymchwil hwn bod cyn lleied o rieni yn credu bod angen smacio plant ar adegau, a bod llai fyth o rieni yn defnyddio cosbau corfforol i reoli ymddygiad eu plant.

“Dyma’r union newid o ran agwedd rydym eisiau ei weld yng Nghymru. Er ei bod hi’n wych gweld bod 81% yn teimlo nad yw smacio plentyn yn dderbyniol ar unrhyw adeg, fel llywodraeth, rydym eisiau sicrhau bod pob rhiant yn cydnabod nad yw smacio plentyn yn dderbyniol ar unrhyw adeg. Dyma pam rydyn ni’n bwriadu cyflwyno deddfwriaeth i’w gwneud hi’n glir bod cosbi plentyn yn gorfforol bellach yn annerbyniol yng Nghymru.”

Continue Reading
News1 day ago

Neyland: Mother issues warning after boy ‘grabbed by hooded man’

THE MOTHER of a boy who was grabbed by a ‘hooded man’ in the street on Tuesday evening (Nov 13)...

News3 days ago

50,000 homes to have different bin collections over Christmas

PEMBROKESHIRE households are being urged to sign up for Pembrokeshire County Council’s free notification service as the countdown to Christmas...

News3 days ago

Can you impress? Britain’s Got Talent holding audition night

BRITAIN’S GOT TALENT is on the search to see what talents Pembrokeshire has to offer. The nation’s favourite talent show...

News3 days ago

Police operation to get uninsured drivers off the road

THIS week Dyfed-Powys Police along with other forces in England, Wales and Northern Ireland will be taking part in Operation...

News6 days ago

Pembroke Dock paedophile caught downloading child pornography again

A CONVICTED paedophile was caught downloading child pornography on a computer he had bought just hours before, a judge heard...

News6 days ago

Milford Haven: Port denies responsibility for flooded homes

THE PORT OF MILFORD HAVEN has hit back at claims from the flooded residents of Lower Priory and Havens Head...

News6 days ago

Amber weather warning: Met Office urges extreme caution

THE WEATHER WARNING for Pembrokeshire has been upgraded to amber for the rest of today (Nov 9). It is in...

News6 days ago

Haverfordwest town centre could flood this evening, businesses warned

PPROPERTY owners in Haverfordwest town centre including businesses are being warned to prepare for possible flooding tonight (Nov 9). Predicted...

News6 days ago

Stay vigilant as more heavy rain expected say Natural Resources Wales

NATURAL RESOURCES WALES is reminding people to stay vigilant as heavy rain will continue to affect parts South Wales, and...

News6 days ago

Milford Haven: Huge operation to lower flood water

MANPOWER and equipment from all over the Mid and West Wales Fire and Rescue Service area has been mobilised in...

Popular This Week