Connect with us
Advertisement
Advertisement

Cymraeg

Mudiadau yn galw am newidiadau i’r drefn gynllunio

Published

on

MAE NIFER o fudiadau a Chymry blaenllaw wedi datgan eu cefnogaeth i ymgyrch Cymdeithas yr Iaith Gymraeg dros newidiadau i’r drefn gynllunio er mwyn cryfhau’r Gymraeg ar lefel gymunedol, cyhoeddodd y mudiad iaith heddiw. Daw’r newyddion wedi i Lywodraeth Cymru gyhoeddi Bil drafft nad yw’n cynnwys yr un cyfeiriad at y Gymraeg, a hynny er yr holl bwyslais a roddwyd ar pwysigrwydd y maes yn y Gynhadledd Fawr – ymgynghoriad y Llywodraeth ar sefyllfa’r Gymraeg. Disgwylir y bydd y ddeddfwriaeth gynllunio ddiwygiedig, wedi cyfnod o ymgynghori, yn cael ei gyflwyno iír Cynulliad yn yr Hydref eleni. Ymysg llofnodwyr y datganiad dros newidiadau i’r system gynllunio mae Cyfeillion y Ddaear Cymru, Ieuan Wyn o Gylch yr Iaith, Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, Cyngadeirydd Mudiadau Dathlu’r Gymraeg Dr Huw Thomas, Prif Weithredwr y mudiad iaith Cymuned, y cyfreithiwr Si’n Tudur a’r Bargyfreithiwr Rhys Thomas. Mae’r mudiadau ac unigolion hyn wedi cytuno i gefnogi deddfwriaeth gynllunio sy’n: * Datgan mai pwrpas y system gynllunio yw rheoli tir mewn ffordd sy’n gynaliadwy’n amgylcheddol, yn taclo tlodi ac yn hybu’r Gymraeg * Asesu anghenion lleol fel man cychwyn a o pendant i gynlluniau datblygu, yn hytrach na thargedau tai sy’n seiliedig ar amcanestyniadau poblogaeth cenedlaethol * Sicrhau bod effaith datblygiadau ar y Gymraeg yn cael ei asesu * Rhoi grym cyfreithiol i gynghorwyr ystyried y Gymraeg wrth dderbyn neu wrthod cynlluniau, drwy wneud y Gymraeg yn ystyriaeth berthnasol statudol * Sefydlu Tribiwnlys Cynllunio i Gymru, y mae cymunedau yn gallu apelio iddv Dywedodd Toni Schiavone, llefarydd Cymunedau Cynaliadwy Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: Rwy’n falch ein bod wedi derbyn cymaint o gefnogaeth i’n galwadau, ac yn dangos bod consensws yn cael ei ffurfio ynghylch pwysigrwydd y newidiadau hyn i’r gyfundrefn gynllunio. Mae’r datganiad, sy’n seiliedig ar ein cynigion deddfwriaethol amgen ni fel mudiad, yn ceisio rhoi buddiannau cymunedau’n gyntaf er mwyn taclo tlodi yn ogystal ‚ phroblemau sy’n wynebu’r iaith a’r amgylchedd. Mae gan Lywodraeth Cymru gyfle i ddangos eu bod nhw o ddifrif am sicrhau dyfodol cymunedau Cymraeg a gallu pobl i fyw yn Gymraeg. “Mae’n hanfodol bod y Gymraeg yn cael ei gwneud yn ystyriaeth berthnasol yn y maes cynllunio er mwyn iddi ffynnu dros y blynyddoedd ddod. Mae nifer fawr o ddatblygiadau tai wedi bod yn y newyddion yn ddiweddar oherwydd eu heffaith ar y Gymraeg, megis ceisiadau cynllunio am dai ym Mhenybanc, Bethesda a Bodelwyddan. Mae nifer y cymunedau sydd ‚ mwy na 70% o’r boblogaeth yn siarad Cymraeg wedi dirywio’n ddifrifol yn ystod yr ugain mlynedd diwethaf, o 92 yn 1991 i 39 yn 2011. Ychwanegodd Robin Farrar, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:’Rydyn ni wedi galw am chwyldroi’r system gynllunio fel rhan oír chwe newid polisi sydd ei angen er mwyn delio ag argyfwng y Cyfrifiad. Yn gynharach eleni, wnaethon ni gyhoeddi Bil Cynllunio amgen, ac mae’r datganiad rydyn ni wedi cyhoeddi heddiw yn crynhoi’r prif alwadau yn y Bil hwnnw. Rydym yn cynnig gweledigaeth o’r math o system a fyddai’n gweithio o blaid ein cymunedau yn hytrach na’u tanseilio. Byddwn ni’n casglu enwau ar y datganiad dros y misoedd nesaf a’u cyflwyno i’r Llywodaeth.

Continue Reading
Click to comment

Leave a Reply

Your email address will not be published.

Cymraeg

Ysgol Rhys Pritchard yn ysgol cyfrwng Cymraeg yn swyddogol

Published

on

MAE Ysgol Rhys Pritchard yn Llanymddyfri wedi dod yn ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg yn swyddogol, ar ôl cael cymeradwyaeth gan Gyngor Sir Caerfyrddin.

Rhoddodd cynghorwyr gefnogaeth unfrydol i’r cynlluniau i newid y ddarpariaeth iaith yn yr ysgol lle mae plant bellach yn dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg hyd at ddiwedd blwyddyn chwech, sef 11 oed.

Caiff Saesneg ei addysgu fel pwnc yn yr ysgol o flwyddyn 3 ymlaen, gyda’r nod o sicrhau bod yr holl ddisgyblion yn hyderus ddwyieithog erbyn diwedd eu cyfnod yn yr ysgol gynradd.

Mae’r newid hwn yn rhan o Gynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg Cyngor Sir Caerfyrddin ac mae’n unol â pholisïau cenedlaethol i gynyddu nifer y plant a’r bobl ifanc sy’n dod yn rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg.

Cafodd ymgynghoriad ffurfiol i gasglu adborth ynghylch y newidiadau arfaethedig gefnogaeth helaeth gan ddisgyblion, rhieni, staff ysgol a llywodraethwyr.

Dywedodd y Cynghorydd Glynog Davies, yr Aelod o Fwrdd Gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin dros Addysg: “Mae wedi bod yn siwrnai hir, ond un rydym wedi’i chymryd yn ofalus. Rydym wedi cyfathrebu ac ymgynghori’n drylwyr.

“Ym mis Medi y llynedd, cyhoeddwyd yr hysbysiad statudol – y cam olaf i rieni, llywodraethwyr a’r gymuned yn gyffredinol ymateb. Mae’r ysgol yn croesawu’r newid hwn – yr athrawon, y llywodraethwyr a’r plant.”

Ychwanegodd: “Rydym yn cyflawni ein nod o Sir Gâr ddwyieithog. Mae Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo ein strategaeth ac mae’r targed wedi’i osod o ran cael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae gennym 30 mlynedd i ddyblu nifer y bobl sy’n gallu siarad Cymraeg – mae’n rhaid i addysg chwarae rhan allweddol er mwyn cyflawni nod hwn.”

Mae’n adeg gyffrous i’r ysgol wrth i ddisgyblion a staff baratoi i symud i adeiladu newydd ar hen safle Ysgol Uwchradd Pantycelyn.

Disgwylir i’r gwaith gael ei gwblhau yn ystod Gwanwyn 2021. Bydd yr adeilad newydd yn darparu mwy o leoedd i ddisgyblion, yn ogystal â Chylch Meithrin integredig, neuadd gymunedol a mannau chwarae amlddefnydd.

Mae’r buddsoddiad £4.3 miliwn wedi’i ariannu’n gyfartal rhwng y Cyngor a Llywodraeth Cymru drwy fenter Ysgolion yr 21ain Ganrif.

Continue Reading

Cymraeg

Straeon rhyfeddol rhai o adeiladau Cymru

Published

on

O GALEDI’r tloty i foethusrwydd tŷ bonedd, bydd cyfres newydd sbon ar S4C yn agor y drws ar straeon rhyfeddol rhai o adeiladau Cymru.

Bydd Waliau’n Siarad yn dathlu hanes a phensaernïaeth ein gwlad drwy straeon y bobl fu’n byw neu’n gweithio mewn chwe adeilad arbennig.

Bob wythnos, bydd y cyflwynwyr Aled Hughes a Sara Huws yn cael rhwydd hynt i grwydro coridorau a chorneli un adeilad penodol.

Ffermdy hynafol yng Ngheredigion gyda chysylltiadau ag oes y tywysogion, yr abatai a’r Greal Sanctaidd gaiff eu sylw yn y rhaglen gyntaf am 8yh nos Sul 12 Ionawr 2020.

Bydd Aled a Sara yn holi pam, sut a phryd y cafodd Mynachlog Fawr ei godi drws nesa at abaty eiconig Ystrad Fflur ger Tregaron.

Maen nhw’n sgwrsio gyda Charles Arch a’i chwaer Beti Williams am eu magwraeth ar y ffarm ganol y ganrif ddiwethaf, a’r ddau yn dwyn i gof hen ffordd Gymreig o fyw ac amaethu.

Mae Aled a Sara hefyd yn clywed am gyfraniad mynachod y Canol Oesoedd at ddiogelu’n llenyddiaeth, a damcaniaeth am greu canolfan tebyg i Abaty Westminster yn Ystrad Fflur i weinyddu Cymru annibynnol.

Yn gyflwynydd y gyfres gwis Rhannu ar S4C a sioe foreol BBC Radio Cymru, mae Aled wrth ei fodd yn clywed hanesion ac atgofion gan ystod eang o gyfranwyr.

“Mae gwneud y gyfres yma wir wedi bod yn fraint,” meddai Aled, sy’n dod o Lanbedrog yn wreiddiol ond sydd bellach yn byw ar Ynys Môn.

“Dw’i a Sara wedi cael cyfle prin i fynd i mewn a chanfod mwy am chwech adeilad sy’n bwysig i’n hanes a’n hunaniaeth ni fel gwlad. Maen nhw’n gymaint mwy na waliau sych. Mae gan bob un eu straeon unigryw ac mae’r rheiny’n dod yn fyw wrth sgwrsio gyda phobl, a chlywed am eu profiadau nhw ac eraill fu’n byw neu’n gweithio yn yr adeiladau hyn.”

Mae Sara Huws yn wyneb newydd ar S4C ond fel hanesydd adeiladau mae ganddi brofiad helaeth o weithio ym maes archif a hanes pensaernïaeth.

“Beth oedd yn wych am Waliau’n Siarad oedd cael cyfle i fusnesu mewn adeiladau sydd fel arfer ynghau i’r cyhoedd. Mae llefydd fel Coleg Harlech yn rhan o’n hanes ni i gyd yng Nghymru ac roedd yn fraint cael mynediad at y lle. Mae mor bwysig i ni ddathlu ac ymfalchïo yn y trysorau pensaernïol yma, a gwneud yn siwr nad yw eu straeon yn mynd yn angof,” meddai Sara sy’n gweithio yn Adran Casgliadau Arbennig ac Archifau Prifysgol Caerdydd.

Continue Reading

Cymraeg

Eisteddfod Llangollen yn Lansio Rhaglen 2020

Published

on

MAE Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen wedi cyhoeddi ei raglen ar gyfer 2020 (7-12 Gorffennaf 2020), ac mae tocynnau nawr ar werth.
Mae’r dathliad unigryw o heddwch a harmoni rhyngwladol yn dychwelyd am y 74ain tro, gyda pherfformiadau a chystadlaethau dyddiol gan rai o artistiaid a chorau gorau’r byd, cyn dod i ben llanw gyda gwobr fawreddog Côr y Byd.

Dywedodd Cyfarwyddwr Artistig yr Eisteddfod Ryngwladol, Edward-Rhys Harry, “Rydym yn falch iawn o lansio ein rhaglen o ragoriaeth gerddorol ac amrywiaeth rhyngwladol. Mae’n nod cyson gennym i ddod ag artistiaid cerddorol a dawns gorau’r byd ynghyd yma yng Nghymru, i berfformio yn ysbryd cyfeillgarwch.
“Mae’r digwyddiadau dyddiol yn adlewyrchu ein gweledigaeth o hybu heddwch trwy gerddoriaeth ac mae’r cyngherddau nos yn cynnig rhywbeth i bawb.”
Agorir rhaglen cyngherddau 2020 ddydd Mawrth 7fed Gorffennaf gyda dau o fawrion y byd canu clasurol, Aled Jones a Russell Watson. Ar nos Fercher 8fed Gorffennaf fe fydd Fusion, gydag ymddangosiad gan y Manchester Collective a’u sioe Sirocco, yn cynnig noson unigryw gyda naws yr Eisteddfod Ryngwladol yn ei hanfod wrth i elfennau cerddorol o ddiwylliannau gwahanol eistedd ochr yn ochr. Fe fydd brenhines ‘Soul’ Prydain, Beverley Knight, yn perfformio yn Llangollen am y tro cyntaf ar y nos Wener lle disgwylir sioe fyrlymus. Yr enillwyr gwobrau BRIT, James Morrison a Will Young, fydd ar frig lein-yp Llanfest 2020, mewn diweddglo gwych arall i wythnos yr Eisteddfod.

Croesawir dros 4,000 o berfformwyr i’r ŵyl flynyddol dros wythnos yr Eisteddfod, sy’n ddathliad cywrain o gerddoriaeth, diwylliant, creadigrwydd a chydweithio rhyngwladol. Mae’n hwb allweddol i dwristiaeth ddiwylliannol Gogledd Cymru gan ddenu dros 35,000 o ymwelwyr bob blwyddyn.

Continue Reading
Education5 hours ago

No opt-out for learning about religion, relationships and sexuality

PARENTS will not be able to prevent their children from learning about religion, relationships and sexuality in the new curriculum....

Business5 hours ago

Air Link Wales now flying from Haverfordwest

AVIATION company Flitestar Private Air have launched their new Air Link Wales Programme connecting Haverfordwest, Caernarfon and Cardiff with other...

News6 hours ago

Pizza chain serves up new jobs

THIRTY new jobs have been created with the opening of a national pizza chain in Haverfordwest. Domino’s opened its new...

News23 hours ago

Chopper crew helps to rescue surfer at Freshwater West

A WINDSURFER who got into difficulty was rescued from Freshwater West by rescue services on Sunday (Jan 19). HM Coastguard...

News2 days ago

Luke Evans to lead new ITV drama ‘The Pembrokeshire Murders’

MURDER MYSTERY and The Alienist star Luke Evans is to lead an ITV crime drama focused on west Wales. The...

Community2 days ago

Marisa celebrates in style with Chatty Man Alan Carr

A Slimming World Consultant from Whitland celebrated their group’s success by meeting chat show host and comedian, Alan Carr. Alan,...

News3 days ago

Question and answer session on Council’s draft budget

A PULIC meeting is being held on Wednesday, (Jan 22) where members of the public can question Pembrokeshire County Council...

News6 days ago

Police warn motorists after thefts from cars in Haverfordwest

‘LOCK your car’ drivers are warned, following a two-day spate of thefts in Haverfordwest. Eight thefts were reported between January...

News6 days ago

Milford Haven: Police appeal after hair salon burgled

POLICE in Milford Haven are investigating a burglary at Cut-Away Hair Salon, Priory Street, which occurred at approx. 3am on...

News6 days ago

Milford Haven: Appeal for information after museum windows smashed

MILFORD HAVEN MUSEUM is asking for help after vandals struck around midnight, January 15. The museum, based on The Docks,...

Popular This Week