Connect with us
Advertisement
Advertisement

Cymraeg

Pwy fydd yr arwr yn Sioe Gynradd Eisteddfod yr Urdd Meirionnydd

Published

on

BYDD LLWYFAN Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Meirionnydd 2014 dan ei sang wrth i dros 100 o blant y sir berfformio sioe gerdd newydd sbon ‘Paid ‘ Gofyn i fi’ yn ystod wythnos yr Eisteddfod yn y Bala. Mae cerddoriaeth y sioe yn seiliedig ar ganeuon Cymraeg adnabyddus grwpiau fel Edward H Dafis, Meic Stevens, Gwibdaith Hen Fr’n, Anweledig ac eraill. Fe?i haddaswyd ar gyfer y sioe gan y cyfarwyddwr cerdd, Owain Gethin Davies, gyda’r awdur Haf Llewelyn o Lanuwchllyn yn gyfrifol am y geiriau a’r sgript. Bydd y sioe yn sicr o dynnu torf i’r pafiliwn ar gyfer y perfformiad, nos Fawrth 27 Mai am 20:00. Y canwr o’r Blaenau, Gai Toms sydd wedi creu anthem newydd sbon ar gyfer y sioe o’r un enw Paid Gofyn i Fi a defnyddiwyd ei arbenigedd cerddorol hefyd ar gyfer paratoi’r traciau cefndir i’r sioe yn ei stiwdio Sbensh ym Mro Ffestiniog . Mae’r plant ysgol gynradd yn gweithio ar y sioe ers mis Ionawr gan deithio?n wythnosol o ysgolion ledled Meirionnydd i ymarfer yn Ysgol y Gader, Dolgellau. Mae’r tiwtoriaid wrth eu bodd ‘r ymateb. Yn l Y Cyfarwyddwr Artistig, Iola Ynyr, o Gwmni Fr’n Wen sy’n cydweithio ag arbenigwyr lleol ar y sioe: ‘Mae sgript afaelgar Haf Llywelyn a’r amrywiaeth yn arddulliau’r caneuon yn rhoi cyfle i’r cast serennu. Mae rhywun yn cael gwefr yn barod wrth i’r cynhyrchiad ddechrau dod at ei gilydd ac mae’r pleser mae’r plant yn ei gael wrth ymarfer yn heintus. Yn goron ar y cwbl, ceir anthem gofiadwy a gyfansoddwyd gan Gai Toms a’r cast i gloi Paid gofyn i fi. Un o’r t’m artistig sy’n teimlo’n gartrefol yn gweithio gyda’r bobl ifanc yw’r Ymarferydd Drama, Siwan Llynor o’r Bala. Mae hi bellach yn briod ac yn byw gyda’i theulu ifanc yn Ynys M’n ond mae hi’n falch iawn o fod n’l ‘adref’ yn gweithio gyda phobl ifanc sir Feirionnydd fel Cyfarwyddwr Cysylltiol y Sioe. ‘Mae’n deimlad braf iawn bod n’l adref ym Mhenllyn, yn gweithio gyda phlant, rhai ohonyn nhw’n blant i fy ffrindiau! Mae’n fy atgoffa o’r cyfleoedd y ces i yn ystod fy mhlentyndod gan yr Urdd a’r Eisteddfod Genedlaethol. Dwi’n mawr obeithio y bydd y plant yn cofio hyn fel profiad cadarnhaol, un lle maen nhw wedi ffurfio cyfeillgarwch ac un y byddan nhw’n hel atgofion melys amdano ymhen blynyddoedd i ddod.’ Mae dau o’r prif rannau yn cael eu chwarae gan Rhys Llewelyn o Ysgol O M Edwards, Llanuwchllyn ac Elan Cain Davies o Ysgol Bro Hedd Wyn, Trawsfynydd. Mae’r ddau’n edrych ymlaen at y perfformiad yn y pafiliwn. Mae’r sioe yn dilyn hanes arwyr di-glod, gydag arweinyddiaeth yn dod gan ddau unigolyn dewr annhebygol. Mae arwr amlwg y stori, yr arth o ddyn sydd i fod yn ddewr a chryf gyda byddin o farchogion ffyrnig yn aros am yr alwad i achub y dydd, yn cysgu ym mryniau Meirionnydd. Pwy yw’r arwr sy’n helpu’r plant i ymladd dyfodol eu cae chwarae? Weithiau nid ydym yn sylweddoli pwy ydi’r arwyr go iawn, y rhai sydd byth yn troi eu cefnau ac yn dweud. Mae’r sioe a’i stori hudolus yn llawn dychymyg a chreadigrwydd ac mai’n gorffen gyda negeseuon a them’u cryf sy’n berthnasol i bawb heddiw. Mae agwedd greadigol arall i’r sioe oherwydd arbenigedd lleol, sef gwaith pypedu. Yr artist Mari Elain Gwent sy?n wreiddiol o Lanuwchllyn yw dylunydd gwisgoedd a set ‘Paid’ Gofyn i Fi’. “Mae hi’n wych cael gweithio efo Mari fel artist cymunedol a dylunydd i’r sioe. Rydyn ni’n gallu dwyn ar ei harbenigedd i gyflwyno pethau newydd fel pypedau. Mae hi’n creu cymeriad yr aderyn prin Cynffon Binc y Boncen fel pyped yn ogystal’r anifeiliaid eraill fel y pili pala, siencyn y gwair a’r creaduriaid eraill. Yn ystod yr wythnosau diwethaf, dwi wedi bod yn ymweld grwpiau llai o blant yn eu hysgolion i greu’r agwedd yma o’r cynhyrchiad. Mae’r cyfan yn dod at ei gilydd yn dwt. Mae gwaith Mari yn arbennig a dwi?n edrych mlaen yn fawr i weld yr adran bypedau yn cael ei osod yn y sioe.” Cai Tomos, enw arall adnabyddus sy?n wreiddiol o Ddolgellau a Sarah Mumford sydd wedi bod yn gweithio ar goreograffi?r sioe. Mae’r criw yn ddiolchgar iawn i’r athrawon a’r gwirfoddolwyr lleol am eu cefnogaeth gydol y broses, ‘maen nhw wedi bod yn gwbl amhrisiadwy meddai Siwan Llynor.

Continue Reading
Click to comment

Leave a Reply

Your email address will not be published.

Cymraeg

Dŵr Cymru yn cael canmoliaeth gan ddefnyddwyr

Published

on

MAE Dŵr Cymru wedi cadw ei statws fel y cwmni dŵr uchaf ei barch yng Nghymru a Lloegr yn y yn y gwaith ymchwil DU-eang diweddaraf i bwyso a mesur safonau gwasanaethau cwsmeriaid.
Mae’r cwmni nid-er-elw – sy’n gwasanaethu tair miliwn o bobl ar draws y rhan fwyaf o Gymru, Sir Henffordd a rhannau o Lannau Dyfrdwy a Sir Gaer – wedi dod allan ar y brig o blith holl gwmnïau dŵr eraill am wasanaethau cwsmeriaid, ac mae hi gyda’r gorau yn sector y cyfleustodau’n gyffredinol.
Mae’r cwmni wedi ennill ei le yn 50 Gorau yn y DU hefyd – a hi yw’r unig gwmni dŵr i gyflawni’r gamp honno.
Cafodd y cwmni sgôr o 80.1 yn yr arolwg, oedd dau bwynt yn uwch na’r cwmni dŵr nesaf, a daeth yn safle 47 yn gyffredinol yn rhestr y 50 Cwmni Gorau.
Roedd astudiaeth Barn y Sefydliad Gwasanaethau Cwsmeriaid (UKCSI) yn edrych ar ansawdd gwasanaethau cwsmeriaid ar draws 13 sector o’r economi yn y DU. Mae’n seiliedig ar yr arolygon o gwsmeriaid a gyflawnir pob chwe mis.
Mae sgôr cyffredinol Dŵr Cymru’n ei gosod yn y safle cyntaf yn y sector dŵr. Mae sgôr y cwmni 3.1 yn uwch na sgôr cyffredinol UKCSI sef 77m, a gweddill y sector sef 72.6.
Mae’r newyddion yma’n dilyn cadarnhad bod Dŵr Cymru wedi dod allan ar frig canlyniadau’r rheoleiddiwr, Ofwat, o ran boddhad cwsmeriaid ar draws Cymru a Lloegr hefyd. Yn sgoriau terfynol gwaith “gweithredu cysgodol” y Mesur o Brofiadau Cwsmeriaid (C-MeX) yn 2019-2020 – cyn iddynt gael eu cyflwyno’n barhaol eleni – cafodd Dŵr Cymru sgôr o 82.47, a hynny yn erbyn sgôr gyfartalog o 76.65 ar draws y diwydiant yng Nghymru a Lloegr ar led (17 cwmni i gyd).
Dywedodd Peter Perry, Prif Weithredwr y cwmni: “Fel cwmni nid-er-elw, ein hunig ffocws, nawr yn fwy nag erioed, yw darparu gwasanaethau ar gyfer ein cwsmeriaid ar y lefel y maent yn ei disgwyl – a rhagori ar hynny. Mae hi’n galonogol iawn felly fod cwsmeriaid yng Nghymru’n teimlo’n fwy cadarnhaol ynghylch y gwasanaeth y maent yn ei gael gennym, a’n bod ni’n parhau i gyflawni hyn er gwaetha’r sefyllfa hynod ymestynnol sydd ohoni.
“Ond rydyn ni’n gwybod hefyd bod angen i ni wrando ar ein cwsmeriaid yn fwy nag erioed i adeiladu ar y canfyddiadau cadarnhaol yma – a bydd y gwaith ymchwil yma’n darparu sylfaen bwysig i ni adeiladu arno.”

Continue Reading

Cymraeg

Comisiynydd yn canmol addewidion i fyfyrwyr

Published

on

BYDD myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth yn elwa ar ymroddiad newydd i gynnig cyfleoedd a chyfleusterau trwy gyfrwng y Gymraeg, wedi i’r Brifysgol lansio cyfres o addewidion newydd ar 20 Gorffennaf.
Mae ‘Addewidion Aber’ yn nodi wyth ymrwymiad gan y Brifysgol i fyfyrwyr Cymraeg yn ystod eu cwrs. Yn eu plith mae darparu:
– Cyrsiau cyfrwng Cymraeg o bob math ar draws y Brifysgol;
– Llety Cymraeg i fyfyrwyr, gan gynnwys yn Neuadd Pantycelyn ar ei newydd wedd;
– Tiwtor sgiliau academaidd i gynorthwyo myfyrwyr gyda’u hastudiaethau cyfrwng Cymraeg.
Dywedodd Dr Anwen Jones, Dirprwy Is-Ganghellor sydd yn gyfrifol am ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg Prifysgol Aberystwyth: “Mae ymestyn cyfleoedd a darpariaeth drwy gyfrwng y Gymraeg yn fater o flaenoriaeth i mi’n bersonol, ac i Brifysgol Aberystwyth fel sefydliad. Rydyn ni am i fyfyrwyr gael y profiad gorau a llawnaf oll drwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae’r addewidion hyn yn gam arall ar y ffordd i gyflawni’r uchelgais honno.
“Mae gan y myfyrwyr hawliau cyfreithiol pendant sy’n ymwneud â’r Gymraeg, wrth gwrs, ond rydyn ni am fynd gam ymhellach a chynnig rhagor o wasanaethau a chyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yn naturiol, ac fel rhan o’u bywydau academaidd a chymdeithasol.
“Mae dyfnder ein darpariaeth academaidd cyfrwng Cymraeg yn galluogi myfyrwyr i ddilyn cynlluniau gradd cyfan drwy gyfrwng yr iaith. Yn ogystal, rydym yn cynnig profiad cymdeithasol Cymraeg heb ei ail yma.
“Mae hi’n adeg gyffrous iawn yn Aberystwyth wrth i ni baratoi ail-agor drysau Neuadd Pantycelyn i fyfyrwyr unwaith eto. Heb os, dyma gyfle unwaith-mewn-bywyd i’r genhedlaeth nesaf.”
Ychwanegodd Llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth (UMCA), Morgan Lewis: “Rydym ni fel Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth (UMCA) yn ymfalchïo fod y Brifysgol yn mynd gam ymhellach gyda’i hymrwymiadau i fyfyrwyr Cymraeg er mwyn sicrhau y cânt y profiad gorau posibl.
“Mae’n bleser i weld a bod yn rhan o’r addewidion a fydd yn hwyluso a helpu llunio bywydau’r myfyrwyr yn ystod eu cyfnod yma yn Aberystwyth.”
Mae Addewidion Aber yn mynd tu hwnt i ofynion statudol Safonau’r Gymraeg.
Mae Aled Roberts, Comisiynydd y Gymraeg, yn croesawu ac yn canmol y cyhoeddiad, gan ddweud: “Mae gan fyfyrwyr yr hawl i ddefnyddio’r Gymraeg yng ngholegau a phrifysgolion Cymru ers Ebrill 2018, ac mae’n wych fod Prifysgol Aberystwyth wedi mynd gam ymhellach trwy gynnig yr addewidion hyn.
“Felly, fyfyrwyr, mae gennych chi’r hawl ac addewidion pellach gan eich Prifysgol i ddefnyddio’r Gymraeg o ddydd i ddydd. Manteisiwch ar y cyfle, a gadael i’r Gymraeg dreiddio i bob rhan o’ch bywyd yn y brifysgol.”

Continue Reading

Cymraeg

Deg rhaglen newydd a gomisiynwyd gan S4C

Published

on

BYDD S4C yn darlledu deg comisiwn newydd fydd i’w gweld ar sgrin ym mis Medi.
Gyda thraws doriad eang o raglenni a chyfresi newydd sbon, mae S4C yn gobeithio y bydd y cydbwysedd rhwng adloniant a rhaglenni dogfen yn taro deuddeg gyda’r gwylwyr.
Ac wrth i’r sianel orfod ailadeiladu ei hamserlen yn ystod y misoedd diwethaf oherwydd y pandemig, gobeithir y bydd y comisiynau newydd yn cynnig ogwydd ffres ac amserol a byddant yn adlewyrchu’r byd fel y mae ar hyn o bryd i bobl Cymru.
“Mae’r ffocws ar adlewyrchu’r cyfnod hwn fel ag y mae ar hyn o bryd, wrth i’r cyhoedd addasu i leddfu rheolau’r clo mawr ac edrych tuag at y dyfodol,” meddai Cyfarwyddwr Cynnwys S4C, Amanda Rees.
“Dy’n ni ddim am lenwi ein hamserlen gyda rhaglenni covid; fodd bynnag, mae angen i ni fod ar y blaen gyda thrafodaethau amserol sy’n edrych ar effeithiau’r pandemig hwn.
“Mae gennym rôl i lywio ac ymgysylltu â’n dogfennau ffeithiol ond hefyd i gysuro a chodi gwên gyda’n rhaglenni adloniant cynnes.
Ry’n ni’n falch o allu dod ag amserlen llawn dop o gynnwys newydd a chyffrous i’r sgrin ym mis Medi. Ry’n ni wedi llunio ein cynnwys yn ofalus i fod yn amserol ac i ymgysylltu â’n cynulleidfa.
“Bydd cyfresi fel Gwyliau Gartre yn edrych ar fuddion gwyliau gartref, bydd cyfres hanesyddol yn edrych ar drysorau’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru, bydd Hinsawdd Covid yn edrych ar sut mae’r pandemig wedi bod o fudd i’r amgylchedd tra bydd digonedd o raglenni hwyliog hefyd yn trafod coginio, cŵn, pysgota a’r awyr agored.
“Yn sicr mae rhywbeth at ddant pawb!”
Mae comisiynau newydd yn cynnwys:
ANRHEGION MELYS RICHARD HOLT cynhyrchiad gan Cwmni Da lle bydd y cogydd patisserie talentog Richard Holt yn creu danteithion melys blasus ar gyfer y bobl anhygoel hynny yn y gymuned sy’n haeddu anrheg arbennig.
BWRDD I DRI cynhyrchiad Boom Cymru a chyfres coginio hwyliog lle mae tri wyneb cyfarwydd yn paratoi gwledd i’w gilydd – a does neb yn gwybod pwy sy’n dod i swper!
DAU GI BACH cynhyrchiad cwmni Darlun yn edrych ar fywyd trwy lygaid cŵn bach del. Byddwn yn dod i adnabod y perchnogion a chlywed straeon twymgalon sy’n sicr o godi gwen.
AM DRO cynhyrchiad Sugar Films lle mae grŵp o bobl yn cymryd eu tro i arwain taith gerdded yn yr awyr agored ac yna’n cael eu beirniadu gan y gweddill ar y daith, eu sgiliau arwain a’r picnic holl bwysig!
GWYLIAU GATRE cyfres gan gwmni cynhyrchu Rondo yn dilyn grwpiau o ffrindiau a theulu wrth iddynt gychwyn am benwythnos o wyliau lleol gyda’i gilydd a chael cyfle i ailddarganfod rhai o’r trysorau rhyfeddol ar garreg ein drws.
ADRE cynhyrchiad Boom Cymru sy’n rhoi cipolwg i mewn i gartrefi rhai o wynebau cyfarwydd Cymru.
PYSGOD I BAWB cynhyrchiad Tinopolis sy’n mynd a ni’n ar daith ar hyd arfordir Cymru i ddathlu’r amrywiaeth anhygoel o bysgod, wrth sgwrsio a gwylio’r byd yn mynd heibio.
HINSAWDD COVID cynhyrchiad Tinopolis a chyfle i weld a yw’r cyfnod cloi wedi helpu’r frwydr i achub ein planed a chreu byd llai llygredig.
YR YMDDIRIEDOLAETH GENEDLAETHOL cynhyrchiad Orchard Media lle bydd gwylwyr yn cael eu cyflwyno i rai o adeiladau harddaf ac eiconig yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru ac yn gofyn sut i warchod ein hanes mewn cyd-destun cyfoes.
DECHRAU CANU DECHRAU CANMOL cynhyrchiad Rondo Media a chyfres newydd o’r comisiwn poblogaidd sy’n dathlu emynau a chanu cynulleidfaol gan deithio Cymru yn clywed straeon rhyfeddol am ffydd a gobaith.

Continue Reading
News7 hours ago

Milford Haven coastguards launch six lifeboats and task helicopter to hoax call

MILFORD HAVEN Coastguard Operations Centre swung into action last night following an emergency call, tasking SIX lifeboats and a rescue...

News1 day ago

Eat Out to Help Out Launches today – with Government paying half on restaurant bills

FROM today, Monday, August 3, customers will get up to 50% off on bills when visiting participating restaurants, pubs and...

News1 day ago

Specialist officers undertaking detailed examination at tragic Lola’s home

SPECIALIST police officers at are Princess Royal Way in Haverfordwest today (Aug 3) as part of the investigation into the...

News2 days ago

First Minister eases COVID restrictions

NEW rules have come into force today (Monday Aug 3) to make it easier for family and friends to meet...

News2 days ago

Abereiddy: Child injured after jumping into Blue Lagoon

A CHILD was injured after jumping into the Blue Lagoon at Abereiddy. Emergency services were called to the scene at...

News3 days ago

Fresh Water West: Child rescued by ‘two heroic surfers’ from rip tide

Exclusive by Cerys Lafferty THERE has been a dramatic rescue at Fresh Water West tonight. A multi-agency response from the...

News3 days ago

Police ask youngsters not to gather in large groups

Police in Pembrokeshire urge youngsters to respect local communities by not gathering in large groups this weekend Officers and their...

News4 days ago

Parents warned to take extra care of their families on the beach

WITH the school summer holidays now in full swing and many families choosing to staycation rather than travel abroad, The...

News4 days ago

Police communities to stay alert to prevent raves this weekend

AS WE HEAD into the weekend, police are urging members of the public in to help them prevent illegal raves...

News5 days ago

Torch Theatre faces ‘longer term challenges’

THE TORCH THEATRE will remain closed until at least the end of October. The news came in a statement released...

Popular This Week