Connect with us
Advertisement
Advertisement

Cymraeg

Cyllid ychwanegol i’r afael â thlodi plant

Published

on

BYDD rhaglenni i helpu i fynd i’r afael â thlodi plant a hybu sgiliau yn derbyn cyllid ychwanegol yn y Gyllideb derfynol, dywedodd y Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans.

Bydd £12m ychwanegol yn ariannu mesurau i greu prentisiaethau ar draws Cymru a bydd £2m arall yn helpu rhieni i dalu costau anfon eu plant i’r ysgol ac yn ymestyn y rhaglen Bwyd a Hwyl lwyddiannus dros wyliau’r haf.

Bydd y Gyllideb derfynol hefyd yn cynnwys pecyn o gynigion refeniw a chyfalaf ychwanegol ar gyfer llywodraeth leol yn 2019-20 a £26m i gynyddu cymorth i fanwerthwyr stryd fawr a busnesau eraill.

Mae Cyllideb derfynol 2019-20 yn cynnwys:

• £6.8m o refeniw ychwanegol yn 2019-20 i gefnogi ymrwymiad blaenllaw Llywodraeth Cymru i gynnig 100,000 o brentisiaethau i bobl o bob oed yn ystod tymor y Cynulliad hwn

• £4.771m o refeniw ychwanegol yn 2019-20 i gefnogi tâl addysg bellach

• £2m arall i helpu i fynd i’r afael â thlodi plant drwy:

• £1.6m ychwanegol i ymestyn ymhellach y cynllun Grant Datblygu Disgyblion – Mynediad, sy’n helpu rhieni i dalu costau cyffredinol anfon eu plant i’r ysgol. Mae hyn ar ben y cyllid a gyhoeddwyd yn y Gyllideb ddrafft i ddyblu’r cynllun.

• £0.4m o refeniw ychwanegol yn 2019-20 i ymestyn y rhaglen Bwyd a Hwyl dros wyliau’r haf, sy’n rhoi bwyd a chyfleoedd dysgu i blant yn ystod gwyliau’r ysgol.

Dywedodd Rebecca Evans: “Mae prentisiaethau yn hanfodol er mwyn i bobl gael hyfforddiant galwedigaethol o ansawdd uchel a rhoi cyfleoedd i fusnesau a’r economi ffynnu.

“Rydyn ni hefyd wedi ymrwymo i fynd i’r afael â thlodi plant yng Nghymru. Mae’r cynllun Grant Datblygu Disgyblion – Mynediad a’r rhaglen Bwyd a Hwyl yn bwysig iawn i blant sydd angen ein cymorth y mwyaf.”

Mae’r dyraniadau cyllid yma ar ben y pecyn o fesurau cyllido ychwanegol i lywodraeth leol, gwerth £141.5m dros dair blynedd (2018-2021) – a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi pecyn gwerth £26m yn 2019-20 i wella ac ymestyn y cynllun rhyddhad ardrethi’r stryd fawr presennol.

Ychwanegodd y Gweinidog Cyllid: “Datblygwyd Cyllideb derfynol 2019-20 mewn cyfnod o gyni di-baid ac yng nghysgod yr ansicrwydd parhaus sy’n gysylltiedig â Brexit.

“Pan gyhoeddwyd ein cynigion drafft, gwnaethom ymrwymiad i wneud llywodraeth leol yn flaenoriaeth allweddol ar gyfer cyllid ychwanegol yn dilyn Cyllideb yr Hydref Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

“Rwy’n falch iawn ein bod ni wedi gallu gwneud dyraniadau pellach a buddsoddi yn y gwasanaethau y mae pobl yn dibynnu arnyn nhw.”

Mae’r Gyllideb derfynol yn nodi cynlluniau gwario Llywodraeth Cymru gyfer 2019-20, ynghyd â chynlluniau cyfalaf hyd at 2021.

Mae holl ddogfennau’r Gyllideb derfynol ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg ar wefan Llywodraeth Cymru.

Bydd trafodaeth ar Gyllideb derfynol 2019-20 yn cael ei chynnal ar 15 Ionawr 2019

Continue Reading

Cymraeg

Mwynhewch wledd o hwyl y Pasg ym Mharc Cenedlaethol

Published

on

OS YDYCH chi’n chwilio am rywle newydd i’w ddarganfod neu eisiau hwyl i’r teulu cyfan yn ystod gwyliau’r Pasg, mae Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn addo cynnig amrywiaeth eang o weithgareddau yn ystod Blwyddyn Darganfod.

Bydd holl fwrlwm y Pasg yn aros amdanoch yng Nghastell a Melin Heli Caeriw, Pentref Oes Haearn Castell Henllys ac Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc, a bydd amrywiaeth o brofiadau eraill i’w mwynhau yn nhirwedd y Parc Cenedlaethol.

Bydd Pentref Oes Haearn Castell Henllys yn rhoi cyfle i chi Brofi’r Oes Haearn ar 25 a 27 Ebrill, i brofi sut oedd bywyd 2,000 o flynyddoedd yn ôl. Codir tâl bychan am weithgareddau yn ogystal â’r pris mynediad arferol.

Bydd Diwrnodau Hwyl y Pasg ar 19, 20 a 21 Ebrill yn rhoi cyfle i chi ddarganfod sgil newydd neu ddilyn Helfa’r Pasg. Codir tâl bychan am weithgareddau yn ogystal â’r pris mynediad arferol.

Am fanylion llawn gan gynnwys yr holl ddigwyddiadau, prisiau mynediad ac amseroedd agor, ewch i www.castellhenllys.com neu ffoniwch 01239 891319.

Yng Nghastell a Melin Heli Caeriw, gallwch ymuno â Helfa’r Gwningen Basg o 13-28 Ebrill, sy’n golygu neidio o gwmpas y Castell yn chwilio am gliwiau. Dewch o hyd i’r holl gliwiau i hawlio gwobr flasus. £1 y plentyn yn ogystal â’r pris mynediad arferol.

I’r rheini sydd am roi cynnig ar rywbeth newydd, bydd Rhoi Tro ar: Y Cwrwgl ar 21, 22 a 23 Ebrill yn gyfle i chi roi cynnig ar y cwch traddodiadol un person ar Bwll Melin Caeriw, yn dilyn hyfforddiant arbenigol. Pris mynediad arferol yn ogystal â £5 am sesiwn 15 munud neu £10 am sesiwn 30 munud. Mae’n syniad da i gadw lle ymlaen llaw.

Am fanylion llawn gan gynnwys yr holl ddigwyddiadau, prisiau mynediad ac amserau agor ewch i www.carewcastle.com neu ffoniwch 01646 651782.

Yn Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc, gallwch herio Helfa Drysor y Pasg i 21 Ebrill er mwyn dod o hyd i’r cliwiau sydd wedi’u cuddio o amgylch y Ganolfan a’r tir gerllaw gyda’r nod o ddatgelu’r ateb cudd i ennill gwobr. £2 y ddalen.

Bydd y gweithdy Darganfod Celf ar 23 Ebrill yn annog plant i fod yn greadigol a chynhyrchu campwaith i fynd adref gyda nhw, ar ôl archwilio’r oriel i ddod o hyd i ysbrydoliaeth. £3 y plentyn.

Am fanylion llawn, gan gynnwys yr holl ddigwyddiadau, prisiau ac amseroedd agor, ewch i www.orielyparc.co.uk neu ffoniwch 01437 720392.

I’r rheini sydd â diddordeb mewn daeareg a hanes, bydd taith dywys Darllen y Dirwedd: Taith drwy Amser o gwmpas Penmaen Dewi ar 24 Ebrill yn datgelu cyfoeth o nodweddion hanesyddol a naturiol. Bydd y llwybr pum milltir yn pasio drwy dystiolaeth o fywyd y cyfnod Neolithig, yr Oes Haearn a’r Oesoedd Canol a bydd yn costio £4 y person.
I gadw lle ar y digwyddiadau hyn, ffoniwch 01437 720392.

I weld manylion yr holl weithgareddau a’r digwyddiadau sy’n cael eu cynnal gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol ewch i www.arfordirpenfro.cymru/digwyddiadau neu fel arall casglwch gopi o Coast to Coast.

Continue Reading

Cymraeg

Portread cignoeth o’r bobl sy’n rheoli pla

Published

on

MAE rheolwyr pla yn bobl ymroddedig sy’n cadw cefn gwlad yn lan i bawb – i’r ffermwyr sy’n gweithio yno, i warchod byd natur ac i bobl y dref i fynd i fwynhau cefn gwlad. 

Yn y rhaglen ddogfen DRYCH: Pla ar S4C nos Sul, 21 Ebrill, 9.00pm, byddwn yn dilyn amrywiaeth ddiddorol o’r bobl sy’n gwneud y swydd hollbwysig yma ar ffermydd a thiroedd agored yng ngogledd a gorllewin Cymru. O’r drudwy i’r twrch daear, o’r llwynog i’r gŵydd gwyllt, o’r wiwer lwyd i’r llygoden fawr, mae’r rheolwyr pla yn barod i’w rheoli ymhob tywydd dros y pedwar tymor.

Dyna i chi reolwyr pla Cyngor Sir Ceredigion, y Wardeiniaid Cymunedol Nigel Jones a Roy Noble, sydd wedi gweithio gyda’i gilydd ers blynyddoedd lawer ac yn dweud eu bod wrth eu bodd gyda’r gwaith o fynd i’r afael â phroblemau plâu.

Mae’r camerâu yn eu dilyn ar nifer o ffermydd y sir wrth iddyn nhw ddefnyddio gwenwyn a maglau i ddal llygod mawr, a’u hatal rhag lledaenu clefydau a bwyta porthiant anifeiliaid.

Meddai Nigel, “Mae’r llygod mawr ymhob man; maen nhw’n experts ar fyw ar unrhyw beth maen nhw’n galler gadael eu marc ar bopeth. Sach chi byth yn mynd i gael gwared arnyn nhw, y cwbl allwch ei wneud yw cadw’r numbers lawr.”

Mae Trystan Bevan, sy’n ffermio yn Eryri, yn benderfynol o reoli plâu ar dir ffermio a thir agored. Ei brif gonsyrn yw rheoli llygod mawr, gan ddefnyddio gynau a chŵn daear, ond mae hefyd yn dal tyrchod daear, sy’n troi tir pori, ac yn clirio gwyddau , sy’n domi’r tir, trwy saethu i’r awyr.

“Does gen i ddim problem hefo’r un anifail, nid lladd er mwyn lladd ydi o, ond lladd er mwyn medru parhau hefo’n busnes amaeth,” meddai Trystan.

I lawr yn Sir Benfro, mae teulu Charlie yn cadw 3,000 o wartheg godro ar ddwy fferm. Mae’r drudwennod yn bla yno gydol misoedd y gaeaf ac maen nhw’n gwario miloedd o bunnoedd yn cyflogi pobl saethu bangers i geisio atal yr adar rhag bwyta a domi dros fwyd anifeiliaid.

Mae’r ffermwr Gethin o Geredigion yn wynebu’r un heriau anodd gyda drudwennod: “Maen nhw’n torri dy galon di,” meddai, “Efallai eu bod nhw’n edrych yn dda ar y pier yn Aberystwyth, ond maen nhw’n bla yma.”

Mae Meurig Rees, swyddog cadwraeth Cymru BASC, y Gymdeithas Saethu A Chadwraeth, yn gweithio i leihau poblogaethau rhai anifeiliaid.

Rydym yn ei ddilyn ar gynefinoedd fferm a thir gwyllt wrth iddo faglu gwiwerod llwyd, sy’n bygwth bodolaeth y gwiwerod coch brodorol, ac yn saethu llwynogod, sy’n lladd defaid a dofenod.

“Mae saethu a chadwraeth yn mynd law yn llaw ‘da’i gilydd yng nghefn gwlad. Ry’n ni’n saethu un anifail i achub anifail arall“meddai Meurig.Byddwn i yn gadael y darn lladd er mwyn lladd gan ei fod yn atgyfnerthu y pwynt nad trohy hunters mo rhain.

Continue Reading

Cymraeg

Cynulliad yn dechrau dathliadau pen-blwydd ugeinfed

Published

on

AR DYDD Iau, 21 Mawrth, cyhoeddodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru raglen o ddigwyddiadau i nodi 20 mlynedd ers ei sefydlu yn 1999.

Cynhelir nifer o ddigwyddiadau dros fisoedd yr haf, gan orffen gyda gŵyl ddemocratiaeth ddiwedd mis Medi, lle bydd ffigurau blaenllaw o’r celfyddydau, chwaraeon, newyddiaduraeth a gwleidyddiaeth yn dod ynghyd ym Mae Caerdydd. Bydd y rhaglen lawn yn dathlu ac yn trafod llwyddiannau’r ugain mlynedd diwethaf, ond hefyd yn canolbwyntio ar ddyfodol Cymru ac yn ymgysylltu â phobl, grwpiau a sefydliadau ledled y wlad.

Bydd y rhaglen 20 mlynedd yn cychwyn ar 6 Mai, union ugain mlynedd ers i bobl Cymru fynd i bleidleisio am y tro cyntaf erioed yn etholiadau’r Cynulliad. Bydd y Senedd yn agor ei drysau i’r cyhoedd gael dod i ymchwilio i hanes, pwerau ac uchelgeisiau’r Cynulliad drwy amrywiaeth o weithgareddau a digwyddiadau cyhoeddus a fydd wedi’u hanelu at bob oedran. Bydd arddangosfa newydd yn cael ei dadorchuddio yn olrhain hanes datganoli yng Nghymru.

Ar y diwrnod canlynol, sef 7 Mai, bydd y Llywydd a’r Prif Weinidog yn annerch y Cynulliad yn ffurfiol gerbron aelodau a etholwyd i’r Cynulliad ers 1999. Yn ddiweddarach y noson honno, bydd Aelodau Cynulliad blaenorol a chyfredol yn dod ynghyd â llu o wahoddedigion yn cynrychioli sefydliadau cenedlaethol i ddathlu’r achlysur.

Ym mis Mehefin, bydd aelodau Senedd Ieuenctid Cymru, sydd newydd ffurfio, yn eistedd gyda’r Cynulliad llawn ar gyfer sesiwn eithriadol ar y cyd. Ym mis Gorffennaf, bydd Cynulliad Dinasyddion, a fydd yn cynnwys aelodau cynrychiadol o’r cyhoedd, yn dod ynghyd yn y canolbarth i drafod y prif heriau y bydd Cymru yn eu hwynebu yn yr ugain mlynedd nesaf.

Dros fisoedd yr haf, bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cynnal digwyddiadau ynghylch ystod o faterion datganoledig gyda phartneriaid mewn cymunedau ledled Cymru, gan gynnwys y Sioe Frenhinol a’r Eisteddfod Genedlaethol. Bydd arddangosfa ffotograffig wedi’i churadu ar y cyd gan Ffotogallery a’r Cynulliad Cenedlaethol yn teithio o amgylch Gymru o fis Medi ymlaen. Bydd yn cynnwys gwaith gan chwe ffotograffydd sy’n edrych ar obeithion a dyheadau Cymru yn y dyfodol.

Bydd y dathliadau 20 mlynedd o ddatganoli yn dod i ben gyda’r ŵyl ddemocratiaeth gyntaf erioed i’w chynnal ym Mae Caerdydd ym mis Medi. Dros bedwar diwrnod, bydd adeiladau’r Senedd a’r Pierhead yn cynnal cymysgedd o ddigwyddiadau, gyda sgyrsiau, arddangosfeydd a dadleuon yn ystod y dydd, ynghyd â gigs cerddoriaeth a chomedi gyda’r nos. Mae llawer o’r rhaglen yn cael ei chyflwyno mewn partneriaeth â sefydliadau cenedlaethol fel Gŵyl y Gelli, BAFTA Cymru, Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Gŵyl Gomedi Machynlleth, Chwaraeon Cymru, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol a phrifysgolion Cymru.

Dyfyniad gan y Llywydd: “Mae’r dathliad hwn yn gyfle unigryw i ystyried faint mae Cymru wedi newid dros yr ugain mlynedd diwethaf a’r effaith y mae datganoli wedi’i chael ar ein bywydau. Wrth wneud hynny, mae gennym gyfle hefyd i edrych tua’r dyfodol. Drwy’r rhaglen hon o ddigwyddiadau, ein nod yw dechrau deialog newydd gyda phobl ledled y wlad am eu huchelgeisiau ar gyfer Cymru a sut y gall y Cynulliad, cartref democratiaeth Cymru, helpu i gyflawni hynny.”

Bydd gwybodaeth bellach am bob un o’r prosiectau, y partneriaid a sut y gall aelodau’r cyhoedd gymryd rhan yn cael ei chyhoeddi maes o law. Dilynwch ein sianelau cyfryngau cymdeithasol i gael y wybodaeth ddiweddaraf.

Continue Reading
News21 hours ago

Milford Haven: Police called to Charles Street incident

MILFORD HAVEN police responded to an emergency call from Charles Street in Milford Haven this afternoon (May 20). Several officers...

News22 hours ago

Hakin: Young male arrested following allegation of assault

FIVE police vehicles descended on a property in Hakin at lunchtime today following a 999 call reporting an assault. Officers...

News1 day ago

Haverfordwest: Can you help police identify this man?

DYFED-POWYS POLICE is investigating the attempted theft of alcohol worth £650 from Morrisons, Haverfordwest, which happened at around 6.15pm on...

News4 days ago

Haverfordwest: Barn Street closed off after reports of man with knife

ARMED officers from Dyfed-Powys Police were called to Haverfordwest following reports of a man in possession of a bladed article....

News5 days ago

Emergency services in major drill at Waterston

A EMERGENCY SERVICES drill at Dragon LNG and SemLogistics took place earlier today (May 16) The Fire Service said on...

News6 days ago

Milford Haven: Legal battle over shed on wheels in court

THE OWNER and occupier of the residence known as Pill Priory, in Lower Priory, Milford Haven was in court last...

News1 week ago

Port sponsors Milford Youth Matters to deliver youth provision throughout 2019

THE PORT OF MILFORD HAVEN and Milford Youth Matters (MYM) have recently expanded their long-running partnership. The two organisations are...

News1 week ago

Traeth-Llyn: St Davids RNLI volunteers launch to kayaker in the water

ST DAVIDS RNLI all-weather lifeboat Norah Wortley was launched at 11:48am on Saturday (11 May) to a kayaker reportedly in...

News1 week ago

Strumble Head: Dramatic rescue follows ‘man overboard’ calls

A MAN who fell overboard from his vessel has been rescued from the water earlier today. Just after 10am today...

News1 week ago

Clynderwen: Police appeal over suspicious package

POLICE are trying to trace the source of a suspicious package which was found by a member of the public...

Popular This Week