Connect with us
Advertisement
Advertisement

Cymraeg

Merched Parchus – Blin, blêr a gwarthus

Published

on

SENGL am y tro cyntaf ers iddi gael boobs, a nôl ble oedd hi ddeng mlynedd yn ôl yn nhŷ ei rhieni – mae’r “ffeminydd wael” a’r awdures ddiog Carys yn methu, wir yn methu. Yr unig beth sydd wedi newid yw bod ganddi 2:1 a dim hymen.

Tra bod pawb o’i hamgylch yn llwyddo i gyflawni insta-perffeithrwydd, yr unig beth sy’n lleddfu tor-calon Carys yw podlediadau Americanaidd am lofruddiaethau graffig, sy’n ddihangfa lwyr o’i realiti llwm.

Mae’n benderfynol o ail-greu ei hun yn oedolyn go iawn, ond gyda llais mewnol Carys yn mynegi ei gwir deimladau, mae ei hobsesiwn tywyll yn creu ffantasiâu gwaedlyd tra’i bod hi’n brwydro ei hofnau, #lifegoals a’i hanallu i gymryd cyfrifoldeb am ei hapusrwydd ei hun.

Er ei bod yn dibynnu ar ei ffrindiau – Lowri, Dan a Siriol – a’i theulu i ddatrys ei holl broblemau, mae niwl y straeon trosedd a’i hobsesiwn â hi ei hun yn ei dallu hi i wir broblemau ei ffrindiau.

Byddwch yn barod i binjio Merched Parchus ar-lein ar ffurf Bocs Set am y tro cyntaf ar S4C ar wasanaeth S4C Clic ar yr 12 Ebrill ac yn wythnosol ar deledu traddodiadol o 19 Ebrill.

Cyfres ffraeth, onest a thywyll, crëwyd Merched Parchus a’i wireddu gan rai o dalentau newydd mwyaf cyffrous Cymru sef Hanna Jarman (o Gaerdydd) a Mari Beard (o Aberystwyth). Mae’r ddwy, sydd wedi ysgrifennu’r gyfres ac sydd yn chwarae’r ddwy brif gymeriad Carys (Hanna) a Lowri (Mari), yn hapus iawn bod y ddrama yn mynd i arwain y chwildro digidol ar S4C.

“Sgenai’m teledu, felly wi’n gwylio popeth ar laptop,” meddai Hanna. “A fi’n gwylio pethau ar fy ffôn mwy a mwy – pethau fel YouTube a Netflix. Ac mae’r genhedlaeth sydd yn dod ar ein hôl ni’n meddwl ‘live telly? Whaaat?’ dyn nhw ddim yn ei wylio fe o gwbl. I ni mae e’n gwneud gymaint o synnwyr. Fi’n rili falch mai ni yw’r cyntaf ar S4C i gael rhywbeth wedi darlledu ar-lein yn gyntaf.”

Mae pob pennod o Merched Parchus yn cynnwys ffantasi wedi’i ysbrydoli gan y podlediad y mae Carys yn gwrando arno. Mae’r troseddi erchyll yma yn treiddio mewn i realiti Carys ag yn adlewyrchu ei meddylfryd tywyll gyda chanlyniadau gwaedlyd ac weithiau brawychus.

Felly pam yr obsesiwn gyda’r podlediau trosedd?

“Mae Hanna a fi yn eitha’ obsessed gyda straeon am lofruddiaethau a “serial killers”. Mae hi’n naturiol i ni ysgrifennu am beth ydyn ni’n gwybod felly benderfynon ni ddefnyddio elfen o “true crime” yn y gyfres,” esboniodd Mari.

Mae Hanna’n cytuno. “Ro’n ni eisiau trafod y ffaith bod llofruddiaeth nawr yn cael ei hystyried yn adloniant a bod hyn ddim yn beth iachus. Hefyd o’n ni eisiau ceisio dod o hyd i ffordd i Carys osgoi ei realiti hi ac adlewyrchu ei hiselder hi.”

Mae dramâu sydd wedi cael ei ysgrifennu gan fenywod ar gyfer menywod yn mynd o nerth i nerth ar hyn o bryd ac mae Merched Parchus yn rhan o’r symudiad hwn.

Comisiynwyd Merched Parchus gan Gwawr Lloyd – comisiynydd drama S4C a’i chynhyrchu gan Gynyrchiadau ie ie, sy’n hybu gwaith gan fenywod ifanc yng Nghymru. Cyfansoddwyd y sgôr gan y cerddor rhyngwladol o Gaerfyrddin Cate Le Bon – y tro cyntaf i Cate gyfansoddi cerddoriaeth ar gyfer ffilm neu deledu.

Felly, oedd gweithio gyda thîm o fenywod yn brofiad da i Hanna a Mari?

“Un o’r rhesymau aethon at ie ie yn y lle cyntaf oedd ei hethos nhw. Ma Alice Lusher (Cynhyrchydd) a Catryn Ramasut (Uwch Gynhyrchydd) eisiau gweithio gyda’r talent benywaidd mwyaf blaenllaw yng Nghymru – roedd hynna’n bwysig iawn i ni,” meddai Mari.

Continue Reading

Cymraeg

Cerddwyr Cylch Teifi

Published

on

ER GWAETHAF y rhagolygon gwael a chawodydd trwm, cafodd ugain Cerddwr dewr daith arbennig iawn gyda Dafydd Davies yn ardal Cwm Alltcafan, Pentre-cwrt ym mis Tachwedd. Roedd y coed hydrefol a’r ‘afon ddofn’ yr un mor hardd â’r Cwm ym mis Mehefin yng ngherdd enwog T.Llew Jones. Dysgon ni am yr hen reilffordd, cerdded trwy hen dwnnel, a chlywed am y ffatrïoedd gwlân. Aeth rhai ohonom ymlaen wedyn i gymdeithasu dros luniaeth yn Nhafarn y Daffodil.
Fis Rhagfyr 14eg, bydd Howard Williams yn ein harwain ar Aber Afon Teifi, gan adael maes parcio’r Jiwbilî rhwng Patch a Gwbert (SN163 493; Cod post SA43 1PP) am 10.30yb. Byddwn yn dilyn taith gylch o ryw ddwy awr a 2.75 milltir. Awn wrth ochr yr heol trwy Gwbert a lan y bryn i gyfeiriad y Ferwig, ar hyd y ffordd tuag at y Clwb Golff, dros y cwrs ar lwybr cyhoeddus, lawr i Waungelod a Nant y Ferwig ac yn ôl ar hyd yr heol. Mae palmant neu lwybr ar gael wrth ochr yr heol hon drwy gydol y daith. Bydd esgyniad o ryw 270 troedfedd ond ddim sticlau. Bydd ychydig o fwd ar ran fechan o’r daith. Bydd y pwyntiau o ddiddordeb yn cynnwys New Brighton; Plasty Towyn a’r beirdd; Ynys Aberteifi, ei llygod a’i llongddrylliadau; bywyd gwyllt yr aber; Pen yr Ergyd; a golygfeydd trawiadol. Gallwn gymdeithasu dros luniaeth wedyn yng Ngwesty Gwbert (wrth y fynedfa sy’n arwain at faes parcio Gwesty’r Cliff.)
Yn y flwyddyn newydd, dydd Sadwrn 11 Ionawr 2020, bydd Gareth a Mer Evans yn ein harwain yn ardal Hermon a’r Glog. Byddwn yn gadael maes parcio Capel Hermon, Hermon (ger Crymych) (SN 211 319; Cod Post SA36 0DS) am 10:30. Awn ar daith glocwedd hamddenol o ryw 2 filltir ar ffyrdd caled; cerddwn i lawr i’r Glog, trwy’r pentref, lan i heol dawel arall sy’n dod â ni’n ôl i’r man cychwyn. Fydd dim sticlau na llethrau serth. Cawn glywed am Chwarel y Glog, mwyngloddiau plwm Llanfyrnach, a’r rheilffordd.
A bydd cyfle i gymdeithasu dros luniaeth wedyn yng Nghegin Bella, Canolfan Hermon.
Darllenwch fanylion y teithiau i sicrhau eich bod yn ddigon abl i’w chyflawni heb oedi’n ormodol; dewch â dillad addas, yn enwedig esgidiau sy’n gymwys i dir gwlyb ac anwastad; a chymerwch ofal arbennig wrth groesi ffyrdd ac wrth gerdded ar hyd ffyrdd heb balmant neu ar lethrau serth. Os nad ydych chi wedi cerdded gyda ni o’r blaen, cysylltwch i gael y manylion llawn ac i ddod ar y rhestr bostio: philippa.gibson@gmail.com 01239 654561
Manylion bras ein teithiau nesaf:
D.S. Dylai’r codau post fod yn agos i’r lle iawn, ond yn aml ni fyddant yn dangos yr union le.
14 Rhagfyr: Aber Afon Teifi
Gadael maes parcio’r Jiwbilî rhwng Patch a Gwbert
(SN163 493; Cod post SA43 1PP) am 10.30yb.
Arweinydd: Howard Williams
11 Ionawr: Hermon / Y Glog (ger Crymych)
Gadael maes parcio Capel Hermon, Hermon
(SN211 319; Cod post SA36 0DS) am 10.30yb.
Arweinwyr: Gareth a Mer Evans
8 Chwefror: Ardal Abergwaun
Gadael maes parcio’r dref, Y Wesh (tâl)
(SM 954371; SA65 9NG) am 10.30yb.
Arweinydd: Siân Bowen

Continue Reading

Community

Do you need new food waste and glass recycling boxes?

Published

on

IF YOU’RE A PEMBROKESHIRE householder and need a replacement food waste caddy (large and/or small) or a new recycling box for glass, then there are numerous local pick-up points where you can collect them for free.

The collection points are listed at https://www.pembrokeshire.gov.uk/waste-collections/replacement-bags-and-boxes

They are available at the following locations (opening times vary):

Leisure centres: Crymych, Fishguard, Haverfordwest, Milford Haven, Pembroke, Tenby and St Davids.

Libraries: Milford Haven, Neyland, Saundersfoot, Glan-yr-Afon in Haverfordwest, Tenby.

Customer service centres: North Wing (County Hall, Haverfordwest), Argyle Street (Pembroke Dock).

Other locations: Cilgerran Post Office, Costa Coffee at Milford Waterfront, Narberth (Bloomfield Community Centre), Newgale shop (MM Carter Gardens & Leisure), Newport Post Office, Pembroke Town Hall, Tenby Town Council, Thornton Business Park (Council depot), St Davids City Hall, and St Dogmaels Post Office.

The Council has collected food waste and glass for recycling from the kerbside for several years. These collections are now weekly and continue under the new scheme, which also collects the following:

• blue box (paper)
• blue re-usable bag (card and cardboard)
• red re-usable bags (plastic pots, tubs, bottles and trays, cartons, and metal packaging – cans, tins and foil trays.

Please note that more than half of the households in the county have new collection days. Check your personalised calendar (posted out in October) if you’re unsure of your collection day. You can also view www.pembrokeshire.gov.uk/kerbside-collection/next-waste-and-recycling-collection

Please note that containers need to be presented at the kerbside by 6:30am, as collection times are also changing.

Grey refuse bags have replaced the traditional black refuse sacks. Three grey bags will be collected once every three weeks. Larger families (six and over) can register for extra (green) bags at www.pembrokeshire.gov.uk/waste-changes

• The Council urges anyone with queries about the new service to view FAQs and other information at www.pembrokeshire.gov.uk/waste-changes

If this doesn’t answer your query, please email enquiries@pembrokeshire.gov.uk

All email enquiries are being logged but acknowledgement emails are not being sent. However, queries are being dealt with. Please don’t send a follow-up email as it adds to the volume of messages received.

For further information, please contact Anna Wilson, Press and PR Officer, on 01437 775855. The Council’s press releases are also available on the Authority’s website: www.pembrokeshire.gov.uk/newsroom

A OES ANGEN BLYCHAU AILGYLCHU GWASTRAFF BWYD A GWYDR NEWYDD ARNOCH CHI?

Os ydych yn byw yn Sir Benfro ac mae angen blwch gwastraff bwyd (mawr a/neu fach) neu flwch ailgylchu gwydr newydd arnoch, gallwch eu casglu nhw am ddim o nifer o fannau yn lleol.

Rhestrir y mannau casglu fan hyn: https://www.sir-benfro.gov.uk/casglu-gwastraf/casglu-gwastraff

Maen nhw ar gael yn y lleoliadau canlynol (amseroedd agor amrywiol):

Canolfannau hamdden: Crymych, Abergwaun, Hwlffordd, Aberdaugleddau, Penfro, Dinbych-y-pysgod a Thyddewi.

Llyfrgelloedd: Aberdaugleddau, Neyland, Saundersfoot, Glan-yr-Afon yn Hwlffordd a Dinbych-y-pysgod.

Canolfannau gwasanaethau cwsmeriaid: Adain y Gogledd (Neuadd y Sir, Hwlffordd), Stryd Argyle (Doc Penfro).

Lleoliadau eraill: Swyddfa Bost Cilgerran, Costa Coffee Glannau Aberdaugleddau, Arberth (Canolfan Gymunedol Tŷ Bloomfield), siop Newgale (MM Carter Gardens & Leisure), Swyddfa Bost Trefdraeth, Neuadd y Dref Penfro, Cyngor Tref Dinbych-y-pysgod, Parc Busnes Thornton (canolfan y Cyngor), Neuadd y Ddinas Tyddewi, a Swyddfa Bost Llandudoch.

Mae’r Cyngor wedi casglu gwastraff bwyd a gwydr i’w ailgylchu wrth ymyl y ffordd ers blynyddoedd. Bydd y casgliadau hyn yn parhau bob wythnos o dan y cynllun newydd. Mae’r Cyngor hefyd yn casglu’r canlynol:

• blwch glas (papur)
• bag glas amldro (cerdyn a chardfwrdd)
• bagiau coch amldro (potiau, tybiau, poteli a hambyrddau plastig, cartonau a deunyddiau pacio metel – caniau, tuniau a hambyrddau ffoil)

Sylwer, mae gan dros hanner aelwydydd y sir ddiwrnodau casglu newydd.

Gwiriwch eich calendr personol (a bostiwyd atoch ym mis Hydref) os nad ydych yn siŵr o’ch diwrnod casglu.

Yn ogystal, gallwch wirio’r dyddiad fan hyn:
https://www.sir-benfro.gov.uk/casglu-gwastraf/casglu-gwastraff

Mae bagiau gwastraff lliw llwyd wedi disodli’r sachau lliw du traddodiadol. Byddwn yn casglu tri bag lliw llwyd unwaith bod tair wythnos.

Gall teuluoedd sy’n cynnwys o leiaf chwe unigolyn gofrestru ar gyfer bagiau (gwyrdd) ychwanegol yn: https://www.sir-benfro.gov.uk/newidiadau-gwastraff

Mae’r Cyngor yn annog unrhyw un sydd ag ymholiadau am y gwasanaeth newydd i ddarllen y Cwestiynau Cyffredin a gwybodaeth arall ar https://www.sir-benfro.gov.uk/newidiadau-gwastraff

Os nad yw hynny’n ateb eich ymholiad, anfonwch neges e-bost at enquiries@pembrokeshire.gov.uk

Mae’r Cyngor yn cofnodi pob ymholiad e-bost, er nad ydym yn anfon negeseuon e-bost i gydnabod ein bod wedi eu derbyn. Fodd bynnag, rydym yn delio â phob ymholiad. Peidiwch ag anfon negeseuon e-bost dilynol oherwydd bydd hynny’n ychwanegu at nifer y negeseuon mae’r Cyngor yn eu derbyn.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch ag Anna Wilson, Swyddog y Wasg a Chysylltiadau Cyhoeddus, ar 01437 775855. Mae datganiadau i’r wasg y

Continue Reading

Cymraeg

Pleser o’r Mwyaf

Published

on

DEWCH i’r Man a’r Lle yn Aberteifi i wrando ar wyth o fawrion y genedl yn cyflwyno pum peth sydd yn datgelu rhywbeth am eu hanes eu hunain, boed hynny ar ffurf hoff gerddi a darnau o ryddiaith neu wrthrychau sydd ag arwyddocâd personol.

Byddwn yn cwrdd yn fisol (heblaw Rhagfyr) rhwng Hydref a Mehefin i godi arian tuag at Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion.

Cynhelir y cyfarfod cyntaf ar ddydd Sadwrn, 19 Hydref am 11yb tan 12.30yp yng nghwmni’r Prifardd Idris Reynolds.

Tocynnau wrth y drws £5. Te, coffi a chacen £1.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Natalie Morgan (ebost: njm84@outlook.com), Helen Thomas (helenteifi@outlook.com) neu Richard Vale (riv1@aber.ac.uk).

Fe fydd y cyfarfodydd hyn yn addas i ddysgwyr profiadol, a byddwn yn paratoi taflenni geirfa i chi.

Dewch yn llu i gefnogi’r Brifwyl trwy joio mas draw!

Continue Reading
News3 hours ago

Our election prediction: No change for west Wales, same MPs will be elected

COUNTING of ballots is underway at the Pavillion at the Pembrokeshire County Showground, Haverfordwest and in Llanelli at the Selwyn...

News9 hours ago

Castlemorris: Fire fighters tackle barn blaze

FIRE FIGHTERS are tackling a barn fire at Castlemorris Equestrian & Pets centre at Pencnwc Farm, not far from Haverfordwest....

News10 hours ago

Head of volunteer police sacked for gross misconduct

DYFED-POWYS POLICE’S Head of Volunteer Police has been sacked following a disciplinary hearing. The police said in a statement: “Following...

News11 hours ago

Nurse threat accused fined

A PEMBROKE DOCK man pleaded guilty at Haverfordwest Magistrates’ Court to an offence of using threatening and abusive language towards...

News13 hours ago

Angle lifeboat volunteers spend over eleven hours at sea

ANGLE RNLI all-weather lifeboat Mark Mason was requested to launch shortly before 2am on Saturday morning 30 of November by...

News1 day ago

Your Candidates: Carmarthen West & South Pembs, and Preseli Pembs

THE PEMBROKESHIRE HERALD invited each of Pembrokeshire’s General Election candidates to provide us with a statement asking them to complete...

Community1 day ago

Education Chief to leave Council

IAN WESTLEY, Chief Executive of Pembrokeshire County Council, announced to staff and Members on Wednesday (Dec 11) that Kate Evan-Hughes,...

Community1 day ago

‘Just do it’, advises 91-year-old leisure centre member

ARE you struggling to find the motivation to keep fit? Then help is at hand! Meet the inspirational Valerie Coleman...

News1 day ago

Warning to vessels after a dozen shipping containers lost off cargo ship

MILFORD Haven Coastguard is investigating reports of up to 12 shipping containers adrift in the sea around the island of...

News2 days ago

Milford Haven: Police called to Royal British Legion

THERE was suspected break in at the Royal British Legion in Milford Haven overnight. A representative from the Legion told...

Popular This Week