Connect with us
Advertisement
Advertisement

Cymraeg

Cerddwyr Cylch Teifi

Published

on

ER GWAETHAF y rhagolygon gwael a chawodydd trwm, cafodd ugain Cerddwr dewr daith arbennig iawn gyda Dafydd Davies yn ardal Cwm Alltcafan, Pentre-cwrt ym mis Tachwedd. Roedd y coed hydrefol a’r ‘afon ddofn’ yr un mor hardd â’r Cwm ym mis Mehefin yng ngherdd enwog T.Llew Jones. Dysgon ni am yr hen reilffordd, cerdded trwy hen dwnnel, a chlywed am y ffatrïoedd gwlân. Aeth rhai ohonom ymlaen wedyn i gymdeithasu dros luniaeth yn Nhafarn y Daffodil.
Fis Rhagfyr 14eg, bydd Howard Williams yn ein harwain ar Aber Afon Teifi, gan adael maes parcio’r Jiwbilî rhwng Patch a Gwbert (SN163 493; Cod post SA43 1PP) am 10.30yb. Byddwn yn dilyn taith gylch o ryw ddwy awr a 2.75 milltir. Awn wrth ochr yr heol trwy Gwbert a lan y bryn i gyfeiriad y Ferwig, ar hyd y ffordd tuag at y Clwb Golff, dros y cwrs ar lwybr cyhoeddus, lawr i Waungelod a Nant y Ferwig ac yn ôl ar hyd yr heol. Mae palmant neu lwybr ar gael wrth ochr yr heol hon drwy gydol y daith. Bydd esgyniad o ryw 270 troedfedd ond ddim sticlau. Bydd ychydig o fwd ar ran fechan o’r daith. Bydd y pwyntiau o ddiddordeb yn cynnwys New Brighton; Plasty Towyn a’r beirdd; Ynys Aberteifi, ei llygod a’i llongddrylliadau; bywyd gwyllt yr aber; Pen yr Ergyd; a golygfeydd trawiadol. Gallwn gymdeithasu dros luniaeth wedyn yng Ngwesty Gwbert (wrth y fynedfa sy’n arwain at faes parcio Gwesty’r Cliff.)
Yn y flwyddyn newydd, dydd Sadwrn 11 Ionawr 2020, bydd Gareth a Mer Evans yn ein harwain yn ardal Hermon a’r Glog. Byddwn yn gadael maes parcio Capel Hermon, Hermon (ger Crymych) (SN 211 319; Cod Post SA36 0DS) am 10:30. Awn ar daith glocwedd hamddenol o ryw 2 filltir ar ffyrdd caled; cerddwn i lawr i’r Glog, trwy’r pentref, lan i heol dawel arall sy’n dod â ni’n ôl i’r man cychwyn. Fydd dim sticlau na llethrau serth. Cawn glywed am Chwarel y Glog, mwyngloddiau plwm Llanfyrnach, a’r rheilffordd.
A bydd cyfle i gymdeithasu dros luniaeth wedyn yng Nghegin Bella, Canolfan Hermon.
Darllenwch fanylion y teithiau i sicrhau eich bod yn ddigon abl i’w chyflawni heb oedi’n ormodol; dewch â dillad addas, yn enwedig esgidiau sy’n gymwys i dir gwlyb ac anwastad; a chymerwch ofal arbennig wrth groesi ffyrdd ac wrth gerdded ar hyd ffyrdd heb balmant neu ar lethrau serth. Os nad ydych chi wedi cerdded gyda ni o’r blaen, cysylltwch i gael y manylion llawn ac i ddod ar y rhestr bostio: philippa.gibson@gmail.com 01239 654561
Manylion bras ein teithiau nesaf:
D.S. Dylai’r codau post fod yn agos i’r lle iawn, ond yn aml ni fyddant yn dangos yr union le.
14 Rhagfyr: Aber Afon Teifi
Gadael maes parcio’r Jiwbilî rhwng Patch a Gwbert
(SN163 493; Cod post SA43 1PP) am 10.30yb.
Arweinydd: Howard Williams
11 Ionawr: Hermon / Y Glog (ger Crymych)
Gadael maes parcio Capel Hermon, Hermon
(SN211 319; Cod post SA36 0DS) am 10.30yb.
Arweinwyr: Gareth a Mer Evans
8 Chwefror: Ardal Abergwaun
Gadael maes parcio’r dref, Y Wesh (tâl)
(SM 954371; SA65 9NG) am 10.30yb.
Arweinydd: Siân Bowen

Continue Reading

Cymraeg

Bwyd Epic Chris: Rhannu’r prydau calonnog

Published

on

Mastermind Cymru Selebs: Pwy fydd y lleiaf o gywilydd?

Sol: Dod â goleuni i’r tywyllwch

Raglenni Nadolig ar S4C

 

MAE 2020 wedi bod yn flwyddyn ddiddorol i ddweud y lleia’ ac yn bendant fe fydd y Nadolig yn wahanol iawn eleni. Ond un peth na fydd yn newid yw’r wledd o raglenni y bydd S4C yn eu ddarparu i ddiddanu a dathlu dros yr ŵyl. Bydd chwaraeon hefyd yn rhan ganolog o’r amserlen dros y Nadolig, gyda gemau darbi byw o’r Guinness PRO14 ar Clwb Rygbi, a gemau pêl-droed byw o’r JD Cymru Premier ar Sgorio. Felly caewch y drws, cwtshwch mewn gyda phlât o fins peis a gwydryn o rywbeth blasus a mwynhewch ….

 

SOL

Nos Lun 21 Rhagfyr, 6.30

 

Mae’r ffilm Sol yn adrodd stori bachgen ifanc sydd wedi cael ei daflu mewn i’r tywyllwch ar ôl iddo golli ei Nain yr oedd yn ei charu’n fawr iawn. Mae Sol yn cael ei anfon ar daith er mwyn dychwelyd â’r goleuni i fyd sydd yn tywyllu. Mae ei daith yn mynd ag e drwy dirlun eang wedi ei greu o atgofion Nain – gyda lluniau wedi eu casglu o’i halbwm ffotograffau. Mae e’n cael ei dywys gan Nain sy’n ferch fach ac yn dod o hyd iddi mewn sawl cyfnod arall yn ystod ei bywyd. Ar ddiwedd y daith, mae Sol yn cyrraedd Cromlech yr Haul, ac yn dod o hyd i’w Nain sydd yn aros iddo yno. Sylweddola ei fod yn gallu derbyn ei deimladau o alar gan fod ei deimladau o gariad tuag ati yn llawer fwy na phoen ei golled.

Comisiynwyd Sol gan ddarlledwyr Celtaidd S4C, TG4 a BBC Alba. Gobeithir y bydd y ffilm animeiddiedig hon yn dod â goleuni a chysur i deuluoedd â phlant ifanc wrth i’r flwyddyn mwyaf tywyll yn ein hanes diweddar ddirwyn i ben.

 

‘DOLIG EPIC CHRIS

Nos Lun 21 Rhagfyr, 8.00

 

Yn y bennod Nadoligaidd hon, mae Chris ‘Flamebaster’ Roberts yn helpu achos sy’n agos at ei galon (a’i stepen drws), Porthi Pawb. Wedi’i sefydlu yn sgil y pandemig, mae’r grŵp cymunedol yng Nghaernarfon yn darparu prydau bwyd i aelodau bregus ac oedrannus o’r gymuned.  Erbyn hyn, mae’r criw bach o wirfoddolwyr yn coginio hyd at 650 o brydau blasus yr wythnos – pob un ohonynt yn cael eu paratoi a’u dosbarthu o ffreutur ysgol uwchradd flaenorol Chris, Ysgol Syr Hugh Owen. Gyda thymor yr ŵyl rownd y gornel, mae’r tîm gweithgar wedi gofyn i’r cogydd am ffafr – gwyliwch wrth i Chris danio’r barbeciw ar ei hen iard chwarae, cyn dosbarthu bwyd calonnog i gymeriadau o’i hoff gymdogaeth, Twthill! Bydd y gyfres newydd o Bwyd Epic Chris yn dechrau ar Nos Lun 28 Rhagfyr.

 

CAROL YR ŴYL

Nos Lun 21 Rhagfyr, 9.00

 

Ers dros ugain mlynedd mae Carol yr Ŵyl wedi profi i fod yn gystadleuaeth boblogaidd, gydag ysgolion cynradd led led Cymru yn cystadlu am y teitl a’r tlws arbennig, wrth gyfansoddi carol neu gân Nadolig newydd sbon. Eleni, yn sgil Covid, fe fydd y gystadleuaeth yn wahanol. Dyma gyfle i glodfori a gwobrwyo Gorau’r Goreuon! Fe fydd holl enillwyr y gystadleuaeth yn mynd benben â’i gilydd, a dau feirniad – Mari Lloyd Pritchard a Huw Foulkes – yn penderfynu yn gyntaf pwy fydd ar y rhestr fer o ddeg cân neu garol, cyn penderfynu ar y dair sy’n dod i’r brig.

Bydd hefyd cyfle i fynd yn ôl i’r ysgolion sydd wedi cyrraedd y brig yn y gorffennol. Cawn weld ambell i wyneb cyfarwydd ymhlith y cyn-ddisgyblion sydd bellach wedi mynd ati i wneud gyrfa yn y byd perfformio.

 

PROSIECT PUM MIL

Nos Fawrth 22 Rhagfyr 9.00

 

Banc Bwyd Llandysul sy’n cael sylw Trystan ac Emma i gloi’r gyfres arbennig hon, ac mae’r prosiect hwn yn un amserol tu hwnt wrth i’r banciau bwyd gynnig gwasanaeth pwysicach nag erioed o’r blaen.

Meddai Sian ap Gwynfor, “Ro ni eisiau gwneud mwy na llenwi boliau – cynnig clust, paned, sgwrs rownd y ford. Ar ôl dechrau cynnwys ryseitiau am brydau cloi a swmpus, roedd galw am gyngor ar eu paratoi.”

Ychwanegodd ei gŵr, y gweinidog Guto Prys ap Gwynfor, “Doedd cyflwr y gegin ddim ond yn caniatáu rhedeg dŵr neu wneud pot o de a’r festri yma yng Nghapel Seion yn oer a llwm.”

A fydd modd creu lle cysurus i drigolion Llandysul? A hynny mewn pryd i gasglu’r hamperau Nadolig?

Meddai Emma, “Mae’n fraint gwneud pob Prosiect, ond roedd gweld yr angen a’r gwaith sy’n mynd mewn i’r banc yn agoriad llygaid. Mae’n braf gorffen blwyddyn anodd i bawb yn gweld cymunedau’n cefnogi ei gilydd.”

 

DOLIG YSGOL NI: MAESINCLA

Nos Fercher 23 Rhagfyr, 8.00

 

Mae plant Ysgol Maesincla yn ôl! Ar ôl ennill y wobr Cyfres Ffeithiol orau yng ngwobrau BAFTA Cymru eleni, cawn ddathlu’r Nadolig yng nghwmni plant (ac athrawon!) Ysgol Maesincla wrth iddyn nhw berfformio sioe Nadoligaidd arbennig. Gyda chaneuon Nadolig adnabyddus, ond yr oll yng ngeiriau’r plant, mae cyfeirio at gamel yn “Geffyl ‘fo dau bump” a “grefi piws i fi, favourite yn tŷ ni” yn hollol naturiol i griw Maesincla.

Mae’r plant yn diolch i weithwyr allweddol fel y nyrsys, staff cartrefi’r henoed, yr heddlu yn ogystal â’u rhieni am eu gofal yn ystod y flwyddyn. I blant Maesincla, nid anrhegion yw’r peth pwysicaf eleni, ond fod Mam a Dad yn saff ac yn iach, a bod y teulu i gyd gyda’i gilydd.

Dyma raglen llawn hwyl a chwerthin (ac ambell ddeigryn!) gyda wynebau cyfarwydd, llawn direidi a gonestrwydd criw Maesincla wrth i ni ddathlu gwir ystyr y Nadolig.

 

KEN HUGHES YN CADW ‘DOLIG I FYNDNoson Nadolig 25 Rhagfyr, 7.00 Nôl a ni i’r byngalo clud at y cymeriad hoffus o Gricieth, Ken Hughes, wrth iddo geisio cadw ‘Dolig i fynd. Gyda’r Nadolig yn gallu bod yn gyfnod unig i’r rhai sy’n byw eu hunain, mae Ken yn benderfynol o gael hwyl dros yr ŵyl trwy wahodd Cymru gyfan i dreulio’r Nadolig yn ei gwmni.“Fy mwriad yw codi calonnau a dangos beth yw gwir ystyr y Nadolig. Mi fyddai’n rhannu anrhegion gyda’r cyfeillion sydd wedi bod yn gefn i mi trwy flwyddyn a dathlu’r ffaith fod gobaith. Mae Elis nôl yn y garej, ond mae’n llety bach mwy moethus tro hyn. Dwi wedi ei addurno iddo hefyd. Dwi’n cael sawl her gan fy ffrindiau – gobeithio bydd pawb yn mwynhau gwylio cymaint â dwi wedi mwynhau’r profiad.”Ond nid Ken yn unig sy’n lledaenu llawenydd – tybed pwy fydd yr ymwelydd arbennig sy’n codi gwên ar wyneb y dyn ei hun?

MASTERMIND SELEBS CYMRU

Noson Nadolig 25 Rhagfyr, 9.00

 

Mae rhai o wynebau cyfarwydd Cymru yn gobeithio serenu wrth i S4C ddod a chwis mwyaf adnabyddus y byd i gartrefi Cymru dros yr Ŵyl.  Mewn rhaglen arbennig o Mastermind Selebs Cymru ar ddydd Nadolig, bydd rhai o enwogion Cymru yn rhoi cynnig arni yn y gadair ddu enwog, ac yn datgelu stôr o wybodaeth mewn meysydd digon annisgwyl.

Y selebs dewr fydd yn herio’r gadair ddu yw’r cyn Brif Weinidog Carwyn Jones, y gohebydd chwaraeon a’r gyflwynwraig Catrin Heledd, yr actores Carys Eleri, yr awdur a’r llenor Anni Llŷn a’r cyflwynydd Ameer Davies-Rana.

Betsan Powys fydd yn holi’r cwestiynau gyda rownd gwybodaeth gyffredinol a rownd pwnc arbenigol, ond pwy fydd wedi dewis Strictly Come Dancing, Tîm Rygbi Cymru 1969-1979, Llyfr Mawr y Plant a Star Wars? A phwy ar ddiwedd y rhaglen, fydd yn hawlio tlws arbennig Mastermind Selebs Cymru?

 

NADOLIG AL LEWIS

Noson Nadolig 25 Rhagfyr, 9.45.

 

Ar noson Nadolig, bydd y canwr a’r cyfansoddwr Al Lewis yn mynd â ni ar daith bersonol gerddorol o Ben Llŷn i Gaerdydd. Bydd Al yn perfformio rhai o hoff ganeuon Nadoligaidd y genedl, ochr yn ochr â wynebau cyfarwydd fel Kizzy Crawford, Côrdydd a Gwenan Gibbard mewn lleoliadau unigryw ledled Cymru.

Bydd Al hefyd yn rhannu beth mae amser y Nadolig yn ei olygu iddo ef. Meddai Al, “Mi oedd hi’n bleser pur teithio o gwmpas Cymru a pherfformio efo cerddorion a ffrindiau ar ôl cyfnod mor llwm i ni gyd.

“Ro’n i wrth fy modd yn cyd-ganu unwaith eto ac atgoffa’n gilydd pam fod y Nadolig mor bwysig. Gobeithio bydd y rhaglen yn dod a gwên i wynebau’r gwylwyr wrth iddynt gyd-ganu’r hen ffefrynnau efo fi o’u cartrefi!”.

Mae’r wledd gerddorol hon yn argoeli i fod yn ffordd wych i ddathlu’r Nadolig ac i godi canu yng nghartrefi Cymru gyfan.

Continue Reading

Cymraeg

Dathlu arwyr arbennig Cymru yng nghyfnod Covid

Published

on

FE FYDD 2020 yn aros yn hir iawn yn y cof fel blwyddyn na welsom ni erioed mo’i thebyg. Dyma flwyddyn y Pandemig – ac wrth i ni agosáu at y Nadolig a ffarwelio â’r flwyddyn mae’n bwysicach nag erioed inni gydnabod dewrder ein pobol a’n cymunedau.

Bydd rhaglen arbennig  sef Dathlu Dewrder: Arwyr 2020 ar S4C ar nos Wener, 18 Rhagfyr yn dathlu a dweud diolch wrth sawl grŵp a sawl unigolyn am eu gwaith hynod yn ystod  pandemig Covid-19 gan dalu teyrnged i arwyr tawel y cyfnod clo.

O ofalwyr mewn cartrefi gofal, i’r rheiny fu’n ateb y galw ac yn gwnïo PPEs am oriau maith, i’r rheiny gasglodd arian i goffrau sawl bwrdd iechyd, ac i’r rheiny gollodd anwyliaid – mae pawb â’u straeon a phob stori yn werth ei chlywed.

Yng nghwmni Elin Fflur ac Owain Tudur Jones fe fyddwn ni’n dweud diolch trwy gyflwyno tlws gan y gof, Ann Catrin, i’n harwyr ar ran S4C a Chymru gyfan. Mae Dathlu Dewrder: Arwyr 2020 yn addo deffro’r holl emosiynau – fe fydd y dagrau, y gwenu a’r chwerthin law yn llaw – ond, yr hyn fydd yn aros yn y cof fydd y ‘dewrder’.

Fe fydd sawl wyneb enwog yn ymuno â’r ddalthu gan gynnwys Michael Sheen, Cerys Matthews, Ben Cabango a Geraint Thomas.

Yn ystod rhaglen awr o hyd byddwn yn  clywed straeon 10 mudiad ac unigolion o bob oedran, dros Gymru gyfan gan gynnwys Rhythwyn Evans o Silian, Ceredigion, Banc Bwyd Cwmaman a Joseff, 10 oed o Gaerdydd.

Cafodd Rhythwyn ei ysbrydoli gan y Capten Tom Moore ac fe ddathlodd ei ben-blwydd yn 91 oed trwy gerdded o amgylch ei dŷ 91 o weithiau a chodi £50,000 ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Meddai Rhythwyn yn ystod y rhaglen: “O’n i wedi gweld beth wnaeth Capten Tom ei gyflawni ac o’n i’n meddwl, i raddau, gallwn i wneud rhywbeth tebyg.”

Y Capten Tom Moore wnaeth ysbrydoli Joseff hefyd i osod yr her o gerdded 100 milltir ym mis Mehefin a chodi £2,000. “Penderfynais i ar yr elusen Arch Noah (Ysbyty Plant Cymru) oherwydd roedd fy mrawd Steffan yn sâl iawn a phan dw i’n mynd lawr i’r clinig rydw i’n gweld y doctoriaid a’r nyrsys yn gweithio yn galed iawn.”

Meddai Rhian, mam Joseff a Steffan: “Da ni’n mor ddiolchgar i’r staff. Doedd dim byd yn ormod iddyn nhw. O’n nhw’n rhoi pob darn o’u hegni mewn i’w gofal. Nid yn unig i Steffan, ond i bob plentyn oedd yna. A da ni’n gwybod roedd e’n cael y gofal gorau galle fe.”

Mae Banc Bwyd Cwmaman – un o’r mudiadau sy’n cael clod yn ystod y rhaglen Dathlu Dewrder: Arwyr 2020 – wedi helpu dros 2,000 o bobl yn ystod y pandemig Covid-19.

Un o’r rheiny yw Sarah Davies a’i theulu sy’n cynnwys pump o blant. Meddai Sarah: “Mae 2020 wedi bod yn anodd iawn. Ar ddechrau’r lockdown dim ond un cyflog oedd yn dod mewn achos roedd rhaid i fi orffen gwaith. Roedd e’n jysd ‘ o le mae’r bwyd yn mynd i ddod’, ‘o ble mae’r arian yn mynd i ddod i dalu am yr holl filiau a rhent’?”

Ond diolch i Fanc Bwyd Cwmaman fe ddaeth Sarah a’i theulu trwy gyfnod anodd iawn. “Wnaethon’ nhw rhoi popeth i ni – o’n i mor relieved achos roedd rhywun mas ‘na yn helpu pobol. Mae ‘na lawer o deuluoedd sydd yn stryglan – maen nhw’n gweithio ond sdim lot o arian yn dod mewn,” meddai Sarah.

Ymysg eraill sydd yn cael eu hanrhydeddu mae Catrin ‘Toffoc’ Jones am ei gwaith hi gyda Côr-ona a Jessica, 10 oed o ardal Deiniolen am ysgrifennu llythyrau i henoed yr ardal er mwyn iddyn nhw beidio teimlo’n unig.

Yn goron ar y cyfan ac yn ddiweddglo perffaith i’n rhaglen fe fydd Elin Fflur yn canu cân newydd sbon fydd yn anrhydeddu ein harwyr, cân fydd yn rhoi’r flwyddyn a’n straeon anhygoel ar gof a chadw.

Continue Reading

Cymraeg

Prosiectau a gymorthir gan y Gronfa Datblygu Cynaliadwy

Published

on

BYDD pedwar prosiect cymunedol sy’n ceisio lleihau allyriadau carbon ac ymateb i’r argyfwng hinsawdd yn cael cymorth gwerth dros £39,000 gan Gronfa Datblygu Cynaliadwy Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro.

Yn ei gyfarfod ym mis Tachwedd, cytunodd Pwyllgor Cronfa’r Awdurdod i gefnogi ceisiadau gan Theatr Gwaun, Neuadd Bentref Marloes a Sain Ffraid, Mencap Sir Benfro Cyf. ac Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru.

Dywedodd Cadeirydd Pwyllgor y Gronfa, y Cynghorydd Mike James: “Roeddem wrth ein bodd o weld cymaint o amrywiaeth yn y ceisiadau a ddaeth i law gan eu bod yn dangos y ffyrdd arloesol y mae cymunedau yn y Parc Cenedlaethol yn chwarae eu rhan i ymateb i’r argyfwng hinsawdd.

“Byddem yn annog unrhyw fudiad neu grŵp a gaiff ei arwain gan y gymuned sydd angen cymorth i ariannu prosiectau a fydd yn helpu i leihau carbon a/neu ymateb i newid yn yr hinsawdd, i wneud cais cyn gynted â phosib.”
Bydd Theatr Gwaun yn defnyddio’r cyllid i osod paneli solar fel rhan o’i gwaith i leihau faint o ynni a ddefnyddir yn y theatr, sinema a lleoliad digwyddiadau.

Bydd y cyllid a roddir i Neuadd Gymunedol Marloes a Sain Ffraid yn cyfrannu at brynu a gosod System Fatris i ategu system ffotofoltäig (PV) newydd, gan alluogi’r neuadd i storio unrhyw gyflenwad pŵer ac, yn ei thro, leihau costau rhedeg a lleihau ôl troed carbon y gymuned.

Rhoddwyd cymorth ariannol i Mencap Sir Benfro Cyf. er mwyn cyfrannu at bedwar maes o fesurau effeithlonrwydd ynni yng Ngerddi Ystagbwll, Sir Benfro yn cynnwys pibellau i gysylltu tanc casglu dŵr glaw â phwll, gwella insiwleiddio o amgylch pibellau dŵr poeth ac uned ynni solar ar gyfer gorsaf olchi.

Bydd cyllid Cronfa Datblygu Cynaliadwy Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru yn cyfrannu at wella systemau dŵr a phaneli solar ac uwchraddio systemau ar ynysoedd Sgomer a Sgogwm.

Ychwanegodd Lisa Morgan, Pennaeth Ynysoedd a Môr Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru: “Rydyn ni wedi nodi sawl maes lle gallem leihau ein hallyriadau carbon ac arbed arian, er mwyn gallu ei wario’n well ar ein gwaith cadwraeth hanfodol.

“Bydd y grant hwn yn ein galluogi i ddod â hanfodion bywyd bob dydd i Sgomer a Sgogwm, gan ddiweddaru systemau solar presennol i gymeradwyo effeithlonrwydd a gosod hidlyddion UV i wneud dŵr ffynnon yr ynys yn ddiogel i’w yfed.”

“Bydd y ddwy ynys yn gallu yfed eu dŵr ffynnon heb orfod ei ferwi’n gyntaf ac mae wardeiniaid a gwirfoddolwyr Sgogwm yn edrych ymlaen yn arw at y posibilrwydd o gael cawod boeth y tymor nesaf.”

Yn ogystal â’r pedwar prosiect llwyddiannus, gohiriwyd dau gais er mwyn cyflwyno rhagor o wybodaeth i’r pwyllgor ac roedd un yn aflwyddiannus.

Y dyddiad cau nesaf ar gyfer derbyn ceisiadau yw 12 hanner dydd, ddydd Llun 14 Rhagfyr 2020.

 

Continue Reading
News5 mins ago

Pembrokeshire residents aged 75 to 79 years to receive their first COVID vaccine

LETTERS will arrive in the coming days inviting Pembrokeshire residents aged 75 to 79 years to receive their first COVID...

News20 hours ago

A4076 reopens following accident where everyone ‘miraculously walked away’

THERE was a road traffic accident in icy and snowy conditions on the A4076 Dredgemans Hill on Sunday afternoon. Emergency...

News2 days ago

Paul Davies MS quits as Leader of the Conservatives in the Senedd

PRESELI Pembrokeshire MS Paul Davies quit as Leader of the Conservatives in the Senedd this morning. The Conservatives’ Chief Whip...

News3 days ago

Asylum seekers to be moved out of the former Penally Army Training Camp

ASYLUM SEEKERS are to be moved out of the former Penally Army Training Camp; the Home Office have confirmed. Camp...

Education4 days ago

Doubts cast over Milford Haven secondary school refurbishment

FRESH doubts have been cast over the refurbishment of Milford Haven Secondary School. At a meeting of the Schools and...

News5 days ago

Teachers to decide GCSE, AS and A-level grades in Wales

TEACHERS are set to decide GCSE, AS and A-level grades in Wales after a system replacing end-of-year exams was axed,...

News5 days ago

Committee stalls on council tax rise as Covid-19 impacts discussed

A PEMBROKESHIRE COUNTY COUNCIL committee has decided not to commit to giving their preference on the rise of council tax...

News6 days ago

Twenty asylum seekers from Penally Camp have been transferred out

TWENTY asylum seekers from Penally Camp have been transferred to alternative accommodation. There was a public outcry from local residents...

News6 days ago

Conservatives in disarray over alleged Christmas party lockdown breach

THE CONSERVATIVE Party is investigating the attendance of senior Senedd members and staff at a Christmas party held during December’s...

News6 days ago

Pembrokeshire restaurant fined over ‘gluten free’ takeaway meal

A SAUNDERSFOOT food business operator has been fined £320 for supplying a takeaway meal that contained gluten, having said that...

Popular This Week