Connect with us
Advertisement
Advertisement

Cymraeg

Gorsedd y Beirdd yn paratoi ar gyfer yr Eisteddfod

Published

on

eistedfodd1GYDAG ychydig wythnosau’n unig i fynd cyn cychwyn Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr, mae trefniadau Gorsedd y Beirdd ar gyfer yr wythnos yn rhedeg yn esmwyth, ac eleni eto, mae llawer o’r Gorseddogion wedi mynegi eu bod am gymryd rhan yn y seremonïau ar lwyfan y Pafiliwn, ynghyd âr rheini ar y Maes i urddo aelodau newydd. 

Meddai Arwyddfardd yr Orsedd, Dyfrig ab Ifor, “Rydym yn falch iawn o’r diddordeb a’r gefnogaeth gan yr aelodau eleni, ac mae’r ymateb i’r seremonïau wedi bod yn galonogol iawn, a’r ceisiadau i fod yn rhan o’r gweithgareddau’n llifo i mewn. Yn wir, mae’n debygol y byddwn wedi llenwi cyn yr wythnos, ac na fydd lle i bawb ar lwyfan y Pafiliwn yn ystod y prif seremonïau. “Mae’r neges i Orseddogion yn un syml, os ydych chi’n awyddus i fod yn rhan o’r gweithgareddau eleni, cysylltwch ar fyrder. Rydym yn awyddus i sicrhau bod lle i gynifer o aelodau â phosibl, ond yn y pendraw, mae’n rhaid i ni gael ein rheoli gan faint y llwyfan yn y Pafiliwn. Mae’r archebion ar gyfer dydd Gwener yn arbennig o boblogaidd, ac mae’n debygol na fydd modd derbyn rhagor o archebion ar gyfer y diwrnod hwn yn fuan iawn. “Ar y naill law, mae’n braf iawn bod mewn sefyllfa lle mae gweithgareddau’r Orsedd mor boblogaidd, ond ar y llaw arall, mae’n anodd meddwl ein bod yn wynebu gorfod dweud wrth rai o’r ffyddloniaid sy’n archebu’n hwyr nad oes lle ar eu cyfer eleni. Rwy’n cymryd y cyfle i annog pob un o’r rheini sydd eisoes wedi archebu lle i droi i fyny ar y diwrnod, gan y byddai’n drist meddwl ein bod wedi gorfod gwrthod lle i aelod arall a bod sedd wag ar gael ar y diwrnod yn y pendraw. “Mae Eisteddfod Sir Gâr yn argoeli i fod yn wythnos arbennig iawn. Cafodd yr Orsedd groeso brwd yn y Cyhoeddi y llynedd, a braf yw clywed bod niferoedd da wedi cystadlu am y prif wobrau. Gobeithio’n wir y bydd teilyngdod yn ystod y seremonïau ac y cawn wythnos lwyddiannus a ffyniannus ddechrau Awst.” Mae Gorsedd y Beirdd yn urddo aelodau newydd yng Nghylch yr Orsedd ar y Maes fore Llun a Gwener am 11.00. Cynhelir y seremonïau yn y Babell Lên os yw’r tywydd yn wael. Mae’r Orsedd hefyd yn cynnal tair seremoni ar lwyfan y Pafiliwn yn ystod yr wythnos, y Coroni ddydd Llun, y Fedal Ryddiaith ddydd Mercher a’r Cadeirio ddydd Gwener. Mae pob seremoni’n cychwyn am 16.30, ac mae’r Pafiliwn yn debygol o fod yn llawn ar eu cyfer. Os hoffech chi ymaelodi â Gorsedd y Beirdd, mae modd sefyll arholiadau, gyda meysydd astudio mewn barddoniaeth, cerddoriaeth, iaith a rhyddiaith. Hefyd, ceir meysydd arbennig i delynorion, datgeiniaid cerdd dant ac utganwyr. Anfonwch ebost at gwyb@ eisteddfod.org.uk neu cofiadur@ eisteddfod.org.uk am ragor o wybodaeth.

Continue Reading
Click to comment

Leave a Reply

Your email address will not be published.

Cymraeg

Mwynhewch wledd o hwyl y Pasg ym Mharc Cenedlaethol

Published

on

OS YDYCH chi’n chwilio am rywle newydd i’w ddarganfod neu eisiau hwyl i’r teulu cyfan yn ystod gwyliau’r Pasg, mae Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn addo cynnig amrywiaeth eang o weithgareddau yn ystod Blwyddyn Darganfod.

Bydd holl fwrlwm y Pasg yn aros amdanoch yng Nghastell a Melin Heli Caeriw, Pentref Oes Haearn Castell Henllys ac Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc, a bydd amrywiaeth o brofiadau eraill i’w mwynhau yn nhirwedd y Parc Cenedlaethol.

Bydd Pentref Oes Haearn Castell Henllys yn rhoi cyfle i chi Brofi’r Oes Haearn ar 25 a 27 Ebrill, i brofi sut oedd bywyd 2,000 o flynyddoedd yn ôl. Codir tâl bychan am weithgareddau yn ogystal â’r pris mynediad arferol.

Bydd Diwrnodau Hwyl y Pasg ar 19, 20 a 21 Ebrill yn rhoi cyfle i chi ddarganfod sgil newydd neu ddilyn Helfa’r Pasg. Codir tâl bychan am weithgareddau yn ogystal â’r pris mynediad arferol.

Am fanylion llawn gan gynnwys yr holl ddigwyddiadau, prisiau mynediad ac amseroedd agor, ewch i www.castellhenllys.com neu ffoniwch 01239 891319.

Yng Nghastell a Melin Heli Caeriw, gallwch ymuno â Helfa’r Gwningen Basg o 13-28 Ebrill, sy’n golygu neidio o gwmpas y Castell yn chwilio am gliwiau. Dewch o hyd i’r holl gliwiau i hawlio gwobr flasus. £1 y plentyn yn ogystal â’r pris mynediad arferol.

I’r rheini sydd am roi cynnig ar rywbeth newydd, bydd Rhoi Tro ar: Y Cwrwgl ar 21, 22 a 23 Ebrill yn gyfle i chi roi cynnig ar y cwch traddodiadol un person ar Bwll Melin Caeriw, yn dilyn hyfforddiant arbenigol. Pris mynediad arferol yn ogystal â £5 am sesiwn 15 munud neu £10 am sesiwn 30 munud. Mae’n syniad da i gadw lle ymlaen llaw.

Am fanylion llawn gan gynnwys yr holl ddigwyddiadau, prisiau mynediad ac amserau agor ewch i www.carewcastle.com neu ffoniwch 01646 651782.

Yn Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc, gallwch herio Helfa Drysor y Pasg i 21 Ebrill er mwyn dod o hyd i’r cliwiau sydd wedi’u cuddio o amgylch y Ganolfan a’r tir gerllaw gyda’r nod o ddatgelu’r ateb cudd i ennill gwobr. £2 y ddalen.

Bydd y gweithdy Darganfod Celf ar 23 Ebrill yn annog plant i fod yn greadigol a chynhyrchu campwaith i fynd adref gyda nhw, ar ôl archwilio’r oriel i ddod o hyd i ysbrydoliaeth. £3 y plentyn.

Am fanylion llawn, gan gynnwys yr holl ddigwyddiadau, prisiau ac amseroedd agor, ewch i www.orielyparc.co.uk neu ffoniwch 01437 720392.

I’r rheini sydd â diddordeb mewn daeareg a hanes, bydd taith dywys Darllen y Dirwedd: Taith drwy Amser o gwmpas Penmaen Dewi ar 24 Ebrill yn datgelu cyfoeth o nodweddion hanesyddol a naturiol. Bydd y llwybr pum milltir yn pasio drwy dystiolaeth o fywyd y cyfnod Neolithig, yr Oes Haearn a’r Oesoedd Canol a bydd yn costio £4 y person.
I gadw lle ar y digwyddiadau hyn, ffoniwch 01437 720392.

I weld manylion yr holl weithgareddau a’r digwyddiadau sy’n cael eu cynnal gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol ewch i www.arfordirpenfro.cymru/digwyddiadau neu fel arall casglwch gopi o Coast to Coast.

Continue Reading

Cymraeg

Portread cignoeth o’r bobl sy’n rheoli pla

Published

on

MAE rheolwyr pla yn bobl ymroddedig sy’n cadw cefn gwlad yn lan i bawb – i’r ffermwyr sy’n gweithio yno, i warchod byd natur ac i bobl y dref i fynd i fwynhau cefn gwlad. 

Yn y rhaglen ddogfen DRYCH: Pla ar S4C nos Sul, 21 Ebrill, 9.00pm, byddwn yn dilyn amrywiaeth ddiddorol o’r bobl sy’n gwneud y swydd hollbwysig yma ar ffermydd a thiroedd agored yng ngogledd a gorllewin Cymru. O’r drudwy i’r twrch daear, o’r llwynog i’r gŵydd gwyllt, o’r wiwer lwyd i’r llygoden fawr, mae’r rheolwyr pla yn barod i’w rheoli ymhob tywydd dros y pedwar tymor.

Dyna i chi reolwyr pla Cyngor Sir Ceredigion, y Wardeiniaid Cymunedol Nigel Jones a Roy Noble, sydd wedi gweithio gyda’i gilydd ers blynyddoedd lawer ac yn dweud eu bod wrth eu bodd gyda’r gwaith o fynd i’r afael â phroblemau plâu.

Mae’r camerâu yn eu dilyn ar nifer o ffermydd y sir wrth iddyn nhw ddefnyddio gwenwyn a maglau i ddal llygod mawr, a’u hatal rhag lledaenu clefydau a bwyta porthiant anifeiliaid.

Meddai Nigel, “Mae’r llygod mawr ymhob man; maen nhw’n experts ar fyw ar unrhyw beth maen nhw’n galler gadael eu marc ar bopeth. Sach chi byth yn mynd i gael gwared arnyn nhw, y cwbl allwch ei wneud yw cadw’r numbers lawr.”

Mae Trystan Bevan, sy’n ffermio yn Eryri, yn benderfynol o reoli plâu ar dir ffermio a thir agored. Ei brif gonsyrn yw rheoli llygod mawr, gan ddefnyddio gynau a chŵn daear, ond mae hefyd yn dal tyrchod daear, sy’n troi tir pori, ac yn clirio gwyddau , sy’n domi’r tir, trwy saethu i’r awyr.

“Does gen i ddim problem hefo’r un anifail, nid lladd er mwyn lladd ydi o, ond lladd er mwyn medru parhau hefo’n busnes amaeth,” meddai Trystan.

I lawr yn Sir Benfro, mae teulu Charlie yn cadw 3,000 o wartheg godro ar ddwy fferm. Mae’r drudwennod yn bla yno gydol misoedd y gaeaf ac maen nhw’n gwario miloedd o bunnoedd yn cyflogi pobl saethu bangers i geisio atal yr adar rhag bwyta a domi dros fwyd anifeiliaid.

Mae’r ffermwr Gethin o Geredigion yn wynebu’r un heriau anodd gyda drudwennod: “Maen nhw’n torri dy galon di,” meddai, “Efallai eu bod nhw’n edrych yn dda ar y pier yn Aberystwyth, ond maen nhw’n bla yma.”

Mae Meurig Rees, swyddog cadwraeth Cymru BASC, y Gymdeithas Saethu A Chadwraeth, yn gweithio i leihau poblogaethau rhai anifeiliaid.

Rydym yn ei ddilyn ar gynefinoedd fferm a thir gwyllt wrth iddo faglu gwiwerod llwyd, sy’n bygwth bodolaeth y gwiwerod coch brodorol, ac yn saethu llwynogod, sy’n lladd defaid a dofenod.

“Mae saethu a chadwraeth yn mynd law yn llaw ‘da’i gilydd yng nghefn gwlad. Ry’n ni’n saethu un anifail i achub anifail arall“meddai Meurig.Byddwn i yn gadael y darn lladd er mwyn lladd gan ei fod yn atgyfnerthu y pwynt nad trohy hunters mo rhain.

Continue Reading

Cymraeg

Cynulliad yn dechrau dathliadau pen-blwydd ugeinfed

Published

on

AR DYDD Iau, 21 Mawrth, cyhoeddodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru raglen o ddigwyddiadau i nodi 20 mlynedd ers ei sefydlu yn 1999.

Cynhelir nifer o ddigwyddiadau dros fisoedd yr haf, gan orffen gyda gŵyl ddemocratiaeth ddiwedd mis Medi, lle bydd ffigurau blaenllaw o’r celfyddydau, chwaraeon, newyddiaduraeth a gwleidyddiaeth yn dod ynghyd ym Mae Caerdydd. Bydd y rhaglen lawn yn dathlu ac yn trafod llwyddiannau’r ugain mlynedd diwethaf, ond hefyd yn canolbwyntio ar ddyfodol Cymru ac yn ymgysylltu â phobl, grwpiau a sefydliadau ledled y wlad.

Bydd y rhaglen 20 mlynedd yn cychwyn ar 6 Mai, union ugain mlynedd ers i bobl Cymru fynd i bleidleisio am y tro cyntaf erioed yn etholiadau’r Cynulliad. Bydd y Senedd yn agor ei drysau i’r cyhoedd gael dod i ymchwilio i hanes, pwerau ac uchelgeisiau’r Cynulliad drwy amrywiaeth o weithgareddau a digwyddiadau cyhoeddus a fydd wedi’u hanelu at bob oedran. Bydd arddangosfa newydd yn cael ei dadorchuddio yn olrhain hanes datganoli yng Nghymru.

Ar y diwrnod canlynol, sef 7 Mai, bydd y Llywydd a’r Prif Weinidog yn annerch y Cynulliad yn ffurfiol gerbron aelodau a etholwyd i’r Cynulliad ers 1999. Yn ddiweddarach y noson honno, bydd Aelodau Cynulliad blaenorol a chyfredol yn dod ynghyd â llu o wahoddedigion yn cynrychioli sefydliadau cenedlaethol i ddathlu’r achlysur.

Ym mis Mehefin, bydd aelodau Senedd Ieuenctid Cymru, sydd newydd ffurfio, yn eistedd gyda’r Cynulliad llawn ar gyfer sesiwn eithriadol ar y cyd. Ym mis Gorffennaf, bydd Cynulliad Dinasyddion, a fydd yn cynnwys aelodau cynrychiadol o’r cyhoedd, yn dod ynghyd yn y canolbarth i drafod y prif heriau y bydd Cymru yn eu hwynebu yn yr ugain mlynedd nesaf.

Dros fisoedd yr haf, bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn cynnal digwyddiadau ynghylch ystod o faterion datganoledig gyda phartneriaid mewn cymunedau ledled Cymru, gan gynnwys y Sioe Frenhinol a’r Eisteddfod Genedlaethol. Bydd arddangosfa ffotograffig wedi’i churadu ar y cyd gan Ffotogallery a’r Cynulliad Cenedlaethol yn teithio o amgylch Gymru o fis Medi ymlaen. Bydd yn cynnwys gwaith gan chwe ffotograffydd sy’n edrych ar obeithion a dyheadau Cymru yn y dyfodol.

Bydd y dathliadau 20 mlynedd o ddatganoli yn dod i ben gyda’r ŵyl ddemocratiaeth gyntaf erioed i’w chynnal ym Mae Caerdydd ym mis Medi. Dros bedwar diwrnod, bydd adeiladau’r Senedd a’r Pierhead yn cynnal cymysgedd o ddigwyddiadau, gyda sgyrsiau, arddangosfeydd a dadleuon yn ystod y dydd, ynghyd â gigs cerddoriaeth a chomedi gyda’r nos. Mae llawer o’r rhaglen yn cael ei chyflwyno mewn partneriaeth â sefydliadau cenedlaethol fel Gŵyl y Gelli, BAFTA Cymru, Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Gŵyl Gomedi Machynlleth, Chwaraeon Cymru, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol a phrifysgolion Cymru.

Dyfyniad gan y Llywydd: “Mae’r dathliad hwn yn gyfle unigryw i ystyried faint mae Cymru wedi newid dros yr ugain mlynedd diwethaf a’r effaith y mae datganoli wedi’i chael ar ein bywydau. Wrth wneud hynny, mae gennym gyfle hefyd i edrych tua’r dyfodol. Drwy’r rhaglen hon o ddigwyddiadau, ein nod yw dechrau deialog newydd gyda phobl ledled y wlad am eu huchelgeisiau ar gyfer Cymru a sut y gall y Cynulliad, cartref democratiaeth Cymru, helpu i gyflawni hynny.”

Bydd gwybodaeth bellach am bob un o’r prosiectau, y partneriaid a sut y gall aelodau’r cyhoedd gymryd rhan yn cael ei chyhoeddi maes o law. Dilynwch ein sianelau cyfryngau cymdeithasol i gael y wybodaeth ddiweddaraf.

Continue Reading
News4 hours ago

Investigation launched after fatal collision between two boats on Milford Haven waterway

POICE have confirmed that a man was killed following a collision between two boats on the waterway. Emergency services were...

News7 hours ago

‘Disagreement with landlord’ means that Haverfordwest Debenhams will close

FORTY FIVE staff will lose their jobs following the announcement that the Haverfordwest branch Debenhams will close on November 10....

News1 day ago

Chairman’s tribute to serving County Councillor who has died

THE CHAIRMAN of Pembrokeshire County Council has paid tribute to serving County Councillor Margot Bateman who has died. Councillor Bateman...

News2 days ago

KFC plans to open two drive thrus in Pembrokeshire by 2020

THERE is good news for KFC fans in Pembrokeshire – the company selected 536 locations where bosses are hoping to...

News2 days ago

Tenby: Police appeal following early hours altercation in Crackwell Lane

TENBY police are investigating a report of an altercation which occurred in Crackwell Lane, Tenby during the early hours of...

News4 days ago

Government removes refinery reference from Yellowhammer document

A DOCUMENT which the UK Government was forced to publish by the House of Commons was redacted to remove a...

News4 days ago

Milford Waterfront’s first parkrun kicks off with success

38 RUNNERS took part in Milford Waterfront’s inaugural parkrun on Saturday 7th September. Parkrun organises free, timed 5km runs for...

News6 days ago

Two arrests after drugs warrants executed in Pembroke and Pembroke Dock

THIS morning (Sept 11), a team of officers executed four warrants under the misuse of drugs act in Pembroke and...

News1 week ago

Ysgol Harri Tudur pupil taken to hospital following accident

A PUPIL from Ysgol Harri Tudur has been taken to hospital by ambulance this morning (Sept 10). The Herald understands...

News1 week ago

Fishguard RNLI respond to early morning mayday call

FISHGUARD RNLI volunteers were today (Monday 9 September) called out in the early hours to launch the all-weather lifeboat in...

Popular This Week