Connect with us
Advertisement
Advertisement

Cymraeg

Croesawu arolwg ar y defnydd o’r iaith Gymraeg

Published

on

CROESAWODD Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, a Meri Huws, Comisiynydd y Gymraeg, gyhoeddiad arolwg manwl o’r ffordd y mae pobl yn defnyddio’r

“Canlyniadau cadarnhaol ar gyfer yr iaith Gymraeg”: Meri Huws .

“Canlyniadau cadarnhaol ar gyfer yr iaith Gymraeg”: Meri Huws .

Gymraeg.

Mae Arolwg Defnydd Iaith 2013- 15 yn arolwg a gomisiynwyd ar y cyd sy’n rhoi darlun cynhwysfawr o’r defnydd y mae siaradwyr Cymraeg yn ei wneud o’r iaith.

Holwyd cwestiynau eang i oedolion a phlant sy’n siarad Cymraeg i weld pa mor dda y gallant siarad yr iaith, pa mor aml, ble a phryd y maent yn ei ddefnyddio ac â phwy. Mae’r adroddiad heddiw yn darparu’r canlyniadau o flwyddyn gyntaf yr arolwg (2013-14).

Mae’r rhan fwyaf o’r rheini sy’n rhugl yn siarad Cymraeg bob dydd ac yn defnyddio’r iaith yn rheolaidd i gael gafael ar wasanaethau ac yn y gweithle. Hefyd, mae mwy o bobl yn siarad ychydig o Gymraeg neu ychydig o eiriau yn unig. Ar yr un pryd, mae nifer y siaradwyr Cymraeg rhugl yng Nghymru ychydig yn is yn gyffredinol o’i gymharu â’r arolwg blaenorol (ond nid i raddau arwyddocaol yn ystadegol).

Mae’r arolwg hwn yn edrych ar y defnydd a wneir o’r iaith. Ond canlyniadau Cyfrifiad 2011 yw’r ffynhonnell awdurdodol o wybodaeth o hyd am y tueddiadau yn nifer y siaradwyr Cymraeg, am eu bod yn cynnig tueddiad hanesyddol hirdymor dibynadwy a data ar gyfer ardaloedd bach yng Nghymru.

Dywedodd Carwyn Jones, y Prif Weinidog: “Rwy’n falch iawn ein bod wedi cydweithio â Chomisiynydd y Gymraeg ar yr arolwg pwysig hwn – mae’n rhoi darlun amserol a defnyddiol iawn o’r defnydd a wneir o’r iaith ar draws Cymru. Mae llawer o bethau cadarnhaol yng nghanfyddiadau’r adroddiad ond mae yna heriau o’n blaenau hefyd. Mae’n adeg hollbwysig i’r iaith ac rydym, fel Llywodraeth, yn parhau’n benderfynol o fynd i’r afael â’r heriau hyn a sicrhau bod gan yr iaith ddyfodol ffyniannus a diogel. Mae annog pobl i ddefnyddio’r iaith yn eu bywydau bob dydd wrth wraidd Bwrw Mlaen, ein gweledigaeth ar gyfer dyfodol yr iaith. Bydd y Safonau newydd, a gaiff eu cyflwyno gerbron y Cynulliad ym mis Mawrth, hefyd yn garreg filltir bwysig gan greu hawliau cyfreithiol clir. Mae’n hanfodol bod pobl yn cael cyfle i ymarfer eu Cymraeg a magu hyder, a hynny mewn addysg, yn y gweithle neu’n gymdeithasol. Mae llawer iawn o waith da eisoes yn mynd rhagddo ar draws Cymru sy’n atgyfnerthu ein gweledigaeth o ganolbwyntio ar gynyddu’r defnydd o’r iaith a nifer y siaradwyr Cymraeg. Drwy gydweithio gallwn adeiladu ar hyn a sicrhau iaith fyw ar gyfer y dyfodol.”

Dywedodd Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws: “Roedd cydweithio â’r Llywodraeth ar gomisiynu’r gwaith ymchwil sylweddol hwn yn bwysig i mi. Mae’n rhoi sail dystiolaeth gadarn; a bydd yn fy ngalluogi i fel Comisiynydd, y Llywodraeth a’r llu o sefydliadau a mudiadau sy’n gweithio tuag at wneud y Gymraeg yn ganolog i fywyd yng Nghymru i gynllunio’n gwaith a’n blaenoriaethau. Gall data ac ymchwil arwain at ganlyniadau cadarnhaol i ddefnyddwyr y Gymraeg, fel y mae’r ymateb i’n hymholiad i faes gofal sylfaenol wedi ei brofi. Adroddiad interim yw hwn, ac edrychaf ymlaen at weld cyhoeddi’r adroddiad llawn, yn seiliedig ar ragor o dystiolaeth, erbyn diwedd y flwyddyn. Un o swyddogaethau Comisiynydd y Gymraeg yw cynhyrchu adroddiad pum mlynedd ar sefyllfa’r Gymraeg. Bydd canfyddiadau’r arolwg hwn yn bwysig wrth i mi baratoi’r adroddiad hwnnw a bydd yn cyfoethogi’r ddealltwriaeth ynglŷn â safle’r iaith mewn gwahanol agweddau ar fywyd gan unigolion a chymunedau ar draws Cymru.”

Continue Reading
Click to comment

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Cymraeg

Effaith trist aflonyddu ar forloi a rhai bach ar arfordir Cymru

Published

on

Gyda mwy o bobl nag erioed yn ymweld â’r parth arfordirol yma yng Nghymru, mae
aflonyddu ar fywyd gwyllt ar gynnydd. Yn ddiweddar, cawsom newyddion trist fod morlo
bach wedi marw ar ôl i’w fam beidio â dychwelyd i’w fwydo yn dilyn achos o aflonyddu a
dychryn gan bobl oedd eisiau tynnu lluniau a ‘selfies’ gyda’r morlo bach.


Yn ystod y tymor magu (rhwng Awst a Rhagfyr) mae’n bosib dewch ar draws morloi bach
gwyn ar draethau neu ar greigiau ar arfordir Cymru – yn aml ar ben eu hunain. Serch hynny
maen debygol bydd y fam ger llaw, felly mae’n hanfodol cadw draw er mwyn iddi allu
ddychwelyd i fwydo’i morlo bach.


Yn ôl Sue Burton, Swyddog yr ACA ar gyfer Sir Benfro Forol “Rhaid cofio bod morloi bach
angen digonedd o ofod personol ag amser er mwyn gorffwys a thyfu. Dim ond am dair
wythnos yn unig caiff y morloi bach eu bwydo gan eu mamau cyn nes bydd yn rhaid iddynt
gofalu am eu hunain. Mae’n hanfodol felly yn ystod yr amser yma eu bod yn cael digonedd o
le heb ymyrraeth. Gall aflonyddu ar forloi arwain at eu marwolaeth”.


Mae’n bwysig iawn cofio bod y creaduriaid eiconig hyfryd yma yn anifeiliaid gwyllt.
Cadwch draw o fywyd gwyllt – Mwynhewch o bell

Continue Reading

Cymraeg

Meddygon teulu dal yma ar gyfer apwyntiadau wyneb yn wyneb

Published

on

Mae meddygon yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro yn atgoffa’u cleifion eu bod yn parhau i gynnig apwyntiadau wyneb yn wyneb i’r rhai sydd angen eu gweld.

Trwy gydol y pandemig, mae meddygfeydd wedi sicrhau bod gwasanaethau hanfodol yn parhau i redeg, gan ddefnyddio ffyrdd arloesol o gyfathrebu â’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.

Erbyn hyn mae llawer o feddygfeydd yn parhau i ddefnyddio ymgynghoriadau ffôn a galwadau fideo lle y bo’n briodol; mae hyn yn rhoi rhyddid i lawer o gleifion siarad â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol (nid o reidrwydd y meddyg teulu) yng nghysur a chyfleustra eu cartrefi eu hunain

Mae gan y rhan fwyaf o feddygfeydd systemau ar-lein megis E-Consult neu Ask My GP, lle gall cleifion ofyn cwestiwn llai brys am eu hiechyd. Gweler gwefan eich meddygfa am fwy o wybodaeth.

Mae Fy Iechyd Ar-lein yn parhau i fod yn opsiwn ar-lein 24/7 ar gyfer archebu presgripsiwn meddyginiaeth rheolaidd – mae wedi’i gynllunio i fod yn gyfleus i gleifion ac yn arbennig o ddefnyddiol i’r rhai sy’n hunan-ynysu neu’n gwarchod. Gall cleifion gofrestru ar gyfer hyn drwy eu meddygfa leol.

Mae system brysbennu dros y ffôn neu ar-lein ar waith yn y rhan fwyaf o  feddygfeydd i sicrhau bod cleifion yn siarad ag aelod clinigol o staff am eu hiechyd.

Os oes angen gweld claf wyneb yn wyneb, bydd y feddygfa’n gwneud apwyntiad â’r gweithiwr gofal iechyd proffesiynol mwyaf priodol i’w anghenion.

Dywedodd Dr Siôn James o Feddygfa Tregaron: “Hoffem atgoffa cleifion bod meddygfeydd teulu yn parhau i fod ar gael i chi. Pan fyddwch yn cysylltu â’ch meddygfa, byddwch yn siarad â’r person mwyaf addas ar gyfer eich cyflwr ac os bydd angen i’ch gweld wyneb yn wyneb, yna rhoddir apwyntiad i chi yn y feddygfa.

Gellir trin llawer o gyflyrau dros y ffôn gyda chyngor ac os oes angen, gellir rhoi presgripsiwn i fferyllfa o’ch dewis. Peidiwch ag osgoi ymofyn triniaeth.

Ar gyfer mân anhwylderau, cofiwch y gallai eich fferyllfa gymunedol helpu.”

Ychwanegodd Fferyllydd Cymunedol, Richard Evans: “Yn draddodiadol mae fferyllwyr Cymunedol wedi cynghori cleifion ar ystod eang o anhwylderau. Rydym bob amser yn argymell triniaethau addas i’r cleifion, neu os oes angen, eu cyfeirio at weithiwr gofal iechyd proffesiynol.

Yn ystod y pandemig hwn, gweinyddu presgripsiynau yw’r prif ffocws o hyd, ond mae gwasanaethau eraill ar gael, megis y Gwasanaeth Anhwylderau Cyffredin, Brysbennu a Thrin, cyflenwi meddyginiaethau mewn argyfwng a dulliau atal cenhedlu brys.

Gellir cael mynediad at y gwasanaethau hyn drwy ymgynghoriad dros y ffôn, gyda’r claf neu ofalwr/aelod o’r teulu yn casglu unrhyw feddyginiaeth angenrheidiol.

Cofiwch archebu unrhyw bresgripsiwn meddyginiaeth rheolaidd mewn pryd cyn i chi ei orffen.”

Yn ychwanegol at y wybodaeth arbenigol broffesiynol a gynigir mewn fferyllfeydd, bydd cleifion cymwys yn gallu derbyn eu brechlyn ffliw rhad ac am ddim yn y mwyafrif o’n fferyllfeydd cymunedol y gaeaf hwn. Am restr lawn o fferyllfeydd sy’n cymryd rhan, cliciwch yma https://biphdd.gig.cymru/gofal-iechyd/gwasanaethau-a-thimau/fferyllfa/brechiadau-y-ffliw-tymhorol/

I gael gwybod pa wasanaethau y mae eich fferyllfa gymunedol yn eu cynnig, ewch i: https://biphdd.gig.cymru/gofal-iechyd/gwasanaethau-a-thimau/fferyllfa/

Mae rheolau cadw pellter cymdeithasol yn parhau ar draws safleoedd gofal sylfaenol er diogelwch cleifion a staff. Bydd gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy’n gweld cleifion wyneb yn wyneb i asesu neu ddarparu triniaeth yn defnyddio’r cyfarpar diogelu personol priodol ac mae sgriniau ar waith mewn rhai cownteri a derbynfeydd

Cofiwch wisgo gorchudd wyneb pan ydych yn ymweld ag unrhyw leoliad gofal iechyd.

Continue Reading

Cymraeg

Lansio cystadleuaeth i enwi adeiladau porthladd hanesyddol

Published

on

Mae gan Ddoc Penfro hanes morwrol cyfoethog, gan ei bod yn dref filwrol ers 150 o
flynyddoedd. Heddiw, mae hen Ddociau’r Llynges Frenhinol yn borthladd masnachol
sydd â dyfodol cyffrous yn y diwydiant ynni adnewyddadwy.


Mae Porthladd Aberdaugleddau yn rhan allweddol o brosiect Ardal Forol Doc Penfro
Bargen Ddinesig Bae Abertawe gwerth £60 miliwn, a fydd yn darparu’r cyfleusterau,
y gwasanaethau a’r gofodau sydd eu hangen i sefydlu canolfan o’r radd flaenaf ar
gyfer ynni morol a pheirianneg. Fel rhan o hyn, mae angen adnewyddu pedwar
rhandy rhestredig Gradd II sy’n sownd yn siediau awyrennau Sunderland er mwyn
eu moderneiddio ar gyfer yr 21ain ganrif a’u cynnig fel gweithleoedd modern hyblyg.
Bydd y gwaith adeiladu’n dechrau ym mis Tachwedd 2021 ac yn ôl yr amserlen bydd
yn cael ei gwblhau erbyn mis Tachwedd 2022.


Heddiw, mae’r Porthladd yn lansio cystadleuaeth i enwi’r pedwar rhandy ac mae’n
gwahodd ceisiadau gan aelodau o’r gymuned. Awgrymir pedair thema: treftadaeth,
dyfodol adnewyddadwy, hanes morol a hanes cymdeithasol, ond croesewir pob
syniad.


Dywedodd Steve Edwards, Cyfarwyddwr Masnachol y Porthladd, “Mae Porthladd
Penfro yn llawn hanes ac rydyn ni am sicrhau ein bod yn cadw’r adeiladau hyn yn
ddiogel fel y gellir eu defnyddio yn y bennod gyffrous nesaf. Mae Ardal Forol Doc
Penfro yn cynnig cyfleoedd enfawr i’r dref yn ogystal â’r rhanbarth cyfan, felly mae’n
bwysig iawn ein bod yn creu llety dymunol fel y gall busnesau sefydlu eu hunain
yma. Rydyn ni am gynnwys y gymuned gyfan yn ein cynlluniau drwy wahodd enwau
cofiadwy gyda chefndir difyr er mwyn ategu’r datblygiadau.”
I gyflwyno eich awgrymiadau, ewch i i www.mhpa.co.uk/naming-competition erbyn
dydd Llun 18 Hydref.


Ariennir Ardal Forol Doc Penfro gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe, Cronfa
Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, a thrwy fuddsoddiad preifat.

Continue Reading

News1 day ago

Wales v Ireland travel advice from Transport for Wales

TRANSPORT FOR WALES is offering rugby supporters rail and bus services for Wales’ opening game of the Six Nations against...

Business2 days ago

Planning approved for change of use in Tenby’s ‘drinking quarter’

THE RESTROSPECTIVE planning applications made by Mike Evans were granted approval by national park planners. A former national park member...

News2 days ago

MP’s call for better County rail links to boost tourism

PRESELI MP Stephen Crabb has called on the Welsh Economy Minister Vaughan Gething to improve rail services into Pembrokeshire as...

News2 days ago

Dyfed-Powys police precept to rise by 7.75 per cent

POLICE and Crime Commissioner Dafydd Llywelyn has announced a 7.75 per cent rise in the Dyfed-Powys Police precept for 2023-24,...

Business4 days ago

Ferry staff concerned over rumours Pembroke Dock to Rosslare route coming to an end

CONCERNS are growing amongst Irish Ferries staff operating out of Pembroke Dock as rumours continue to circulate that the company...

News4 days ago

Man sadly passed away in hospital following incident in Haven Drive, Milford Haven

POLICE and ambulance units were despatched to a residential address in Haven Drive, Milford Haven on Friday following a 999...

News4 days ago

Police: Woman, 31, died in North Court, Haverfordwest on Monday

A WOMAN in her early thirties was tragically pronounced dead at her home in North Court, Haverfordwest on Monday (Jan...

News5 days ago

Off duty firefighters stopped to assist injured motorcyclist

THE MOTORCYCLIST who was involved in the road traffic collision on Steynton Road, Milford Haven on Sunday (Jan 29) was...

News6 days ago

Strikes: Pembrokeshire schools and classes to close this week

SEVEN Pembrokeshire schools will close and 16 will be partially closed during Wednesday’s strikes by teachers. A series of strikes...

News6 days ago

Main road into Milford Haven shut due to serious road traffic collision

THE A4076 Steynton Road in Milford Haven is shut between the Horse and Jockey public house and Milford Haven School...

Popular This Week