Connect with us
Advertisement
Advertisement

Cymraeg

Proses Cyngor Caerffili O Brynu Lwfansau C eir a Gwyliau yn ‘Anghyfreithlon’

Published

on

Proses CyngorGWEITHREDODD CYNGOR Bwrdeistref Sirol Caerffili yn anghyfreithlon pan dalodd ei Brif Swyddogion i ‘brynu’ eu hawliau i Lwfans Defnyddiwr Car Hanfodol (ECUA) a Lwfans Gwyliau Blynyddol (ALA). Mae Anthony Barrett, yr Archwilydd Penodedig, wedi cyhoeddi adroddiad er mwyn tynnu sylw’r cyhoedd at fethiant mewn trefniadau llywodraethu yn y Cyngor ac at ddiffygion yn y prosesau a fabwysiadodd wrth wneud y taliadau hyn. Tri mater penodol a arweiniodd yr Archwilydd Penodedig at y casgliad hwn. Yn gyntaf, gwnaethpwyd y penderfyniad i brynu’r lwfansau heb awdurdod priodol nac unrhyw gofnod clir o sut y gwnaethpwyd y penderfyniad. Ni wnaethpwyd y penderfyniad gan gorff o aelodau a gyfansoddwyd yn ffurfiol, er mai, yn achos y Prif Weithredwr, dim ond y Cyngor oedd â’r awdurdod i wneud penderfyniadau o’r fath. Yn ail, roedd gan bob aelod o grwp y Prif Swyddogion achos o wrthdaro buddiannau, gan fod gan bob un ohonynt fuddiant ariannol neu bersonol yn y penderfyniad. Ni ddatgelwyd y buddiannau hyn ac roedd un neu ragor o’r unigolion hyn yn rhan o’r broses o benderfynu.

Yn olaf, nid oes unrhyw dystiolaeth bod y penderfyniad i brynu’r lwfansau hyn ar gyfer y Prif Swyddogion wedi’i gyhoeddi, yn groes i Gyfansoddiad y Cyngor mewn perthynas â phenderfyniadau a ddirprwyir.

Heddiw, dywedodd Anthony Barrett, yr Archwilydd Penodedig a’r Archwilydd Cyffredinol Cynorthwyol: “Mae gan y Cyngor wersi amlwg i’w dysgu ynghylch y prosesau a ddilynwyd wrth benderfynu talu’r Prif Swyddogion am eu hawliau i lwfans car a gwyliau blynyddol. Mae natur anffurfiol y cyfarfodydd a’r penderfyniadau, y gwrthdaro buddiannau, y diffyg cofnodi, y methiant i ddilyn cyngor a chyhoeddi penderfyniadau, – mae’r rhain i gyd yn destun pryder sylweddol ac mae angen i’r cyhoedd fod yn ymwybodol o’r hyn sydd wedi digwydd. Mae gan y Cyngor fis yn awr i ymateb i’r adroddiad ac i dynnu sylw at y camau y mae’n ei gymryd er mwyn sicrhau nad yw hyn byth yn digwydd eto.”

Continue Reading
Click to comment

Leave a Reply

Your email address will not be published.

Cymraeg

Effaith trist aflonyddu ar forloi a rhai bach ar arfordir Cymru

Published

on

Gyda mwy o bobl nag erioed yn ymweld â’r parth arfordirol yma yng Nghymru, mae
aflonyddu ar fywyd gwyllt ar gynnydd. Yn ddiweddar, cawsom newyddion trist fod morlo
bach wedi marw ar ôl i’w fam beidio â dychwelyd i’w fwydo yn dilyn achos o aflonyddu a
dychryn gan bobl oedd eisiau tynnu lluniau a ‘selfies’ gyda’r morlo bach.


Yn ystod y tymor magu (rhwng Awst a Rhagfyr) mae’n bosib dewch ar draws morloi bach
gwyn ar draethau neu ar greigiau ar arfordir Cymru – yn aml ar ben eu hunain. Serch hynny
maen debygol bydd y fam ger llaw, felly mae’n hanfodol cadw draw er mwyn iddi allu
ddychwelyd i fwydo’i morlo bach.


Yn ôl Sue Burton, Swyddog yr ACA ar gyfer Sir Benfro Forol “Rhaid cofio bod morloi bach
angen digonedd o ofod personol ag amser er mwyn gorffwys a thyfu. Dim ond am dair
wythnos yn unig caiff y morloi bach eu bwydo gan eu mamau cyn nes bydd yn rhaid iddynt
gofalu am eu hunain. Mae’n hanfodol felly yn ystod yr amser yma eu bod yn cael digonedd o
le heb ymyrraeth. Gall aflonyddu ar forloi arwain at eu marwolaeth”.


Mae’n bwysig iawn cofio bod y creaduriaid eiconig hyfryd yma yn anifeiliaid gwyllt.
Cadwch draw o fywyd gwyllt – Mwynhewch o bell

Continue Reading

Cymraeg

Meddygon teulu dal yma ar gyfer apwyntiadau wyneb yn wyneb

Published

on

Mae meddygon yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro yn atgoffa’u cleifion eu bod yn parhau i gynnig apwyntiadau wyneb yn wyneb i’r rhai sydd angen eu gweld.

Trwy gydol y pandemig, mae meddygfeydd wedi sicrhau bod gwasanaethau hanfodol yn parhau i redeg, gan ddefnyddio ffyrdd arloesol o gyfathrebu â’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.

Erbyn hyn mae llawer o feddygfeydd yn parhau i ddefnyddio ymgynghoriadau ffôn a galwadau fideo lle y bo’n briodol; mae hyn yn rhoi rhyddid i lawer o gleifion siarad â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol (nid o reidrwydd y meddyg teulu) yng nghysur a chyfleustra eu cartrefi eu hunain

Mae gan y rhan fwyaf o feddygfeydd systemau ar-lein megis E-Consult neu Ask My GP, lle gall cleifion ofyn cwestiwn llai brys am eu hiechyd. Gweler gwefan eich meddygfa am fwy o wybodaeth.

Mae Fy Iechyd Ar-lein yn parhau i fod yn opsiwn ar-lein 24/7 ar gyfer archebu presgripsiwn meddyginiaeth rheolaidd – mae wedi’i gynllunio i fod yn gyfleus i gleifion ac yn arbennig o ddefnyddiol i’r rhai sy’n hunan-ynysu neu’n gwarchod. Gall cleifion gofrestru ar gyfer hyn drwy eu meddygfa leol.

Mae system brysbennu dros y ffôn neu ar-lein ar waith yn y rhan fwyaf o  feddygfeydd i sicrhau bod cleifion yn siarad ag aelod clinigol o staff am eu hiechyd.

Os oes angen gweld claf wyneb yn wyneb, bydd y feddygfa’n gwneud apwyntiad â’r gweithiwr gofal iechyd proffesiynol mwyaf priodol i’w anghenion.

Dywedodd Dr Siôn James o Feddygfa Tregaron: “Hoffem atgoffa cleifion bod meddygfeydd teulu yn parhau i fod ar gael i chi. Pan fyddwch yn cysylltu â’ch meddygfa, byddwch yn siarad â’r person mwyaf addas ar gyfer eich cyflwr ac os bydd angen i’ch gweld wyneb yn wyneb, yna rhoddir apwyntiad i chi yn y feddygfa.

Gellir trin llawer o gyflyrau dros y ffôn gyda chyngor ac os oes angen, gellir rhoi presgripsiwn i fferyllfa o’ch dewis. Peidiwch ag osgoi ymofyn triniaeth.

Ar gyfer mân anhwylderau, cofiwch y gallai eich fferyllfa gymunedol helpu.”

Ychwanegodd Fferyllydd Cymunedol, Richard Evans: “Yn draddodiadol mae fferyllwyr Cymunedol wedi cynghori cleifion ar ystod eang o anhwylderau. Rydym bob amser yn argymell triniaethau addas i’r cleifion, neu os oes angen, eu cyfeirio at weithiwr gofal iechyd proffesiynol.

Yn ystod y pandemig hwn, gweinyddu presgripsiynau yw’r prif ffocws o hyd, ond mae gwasanaethau eraill ar gael, megis y Gwasanaeth Anhwylderau Cyffredin, Brysbennu a Thrin, cyflenwi meddyginiaethau mewn argyfwng a dulliau atal cenhedlu brys.

Gellir cael mynediad at y gwasanaethau hyn drwy ymgynghoriad dros y ffôn, gyda’r claf neu ofalwr/aelod o’r teulu yn casglu unrhyw feddyginiaeth angenrheidiol.

Cofiwch archebu unrhyw bresgripsiwn meddyginiaeth rheolaidd mewn pryd cyn i chi ei orffen.”

Yn ychwanegol at y wybodaeth arbenigol broffesiynol a gynigir mewn fferyllfeydd, bydd cleifion cymwys yn gallu derbyn eu brechlyn ffliw rhad ac am ddim yn y mwyafrif o’n fferyllfeydd cymunedol y gaeaf hwn. Am restr lawn o fferyllfeydd sy’n cymryd rhan, cliciwch yma https://biphdd.gig.cymru/gofal-iechyd/gwasanaethau-a-thimau/fferyllfa/brechiadau-y-ffliw-tymhorol/

I gael gwybod pa wasanaethau y mae eich fferyllfa gymunedol yn eu cynnig, ewch i: https://biphdd.gig.cymru/gofal-iechyd/gwasanaethau-a-thimau/fferyllfa/

Mae rheolau cadw pellter cymdeithasol yn parhau ar draws safleoedd gofal sylfaenol er diogelwch cleifion a staff. Bydd gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy’n gweld cleifion wyneb yn wyneb i asesu neu ddarparu triniaeth yn defnyddio’r cyfarpar diogelu personol priodol ac mae sgriniau ar waith mewn rhai cownteri a derbynfeydd

Cofiwch wisgo gorchudd wyneb pan ydych yn ymweld ag unrhyw leoliad gofal iechyd.

Continue Reading

Cymraeg

Lansio cystadleuaeth i enwi adeiladau porthladd hanesyddol

Published

on

Mae gan Ddoc Penfro hanes morwrol cyfoethog, gan ei bod yn dref filwrol ers 150 o
flynyddoedd. Heddiw, mae hen Ddociau’r Llynges Frenhinol yn borthladd masnachol
sydd â dyfodol cyffrous yn y diwydiant ynni adnewyddadwy.


Mae Porthladd Aberdaugleddau yn rhan allweddol o brosiect Ardal Forol Doc Penfro
Bargen Ddinesig Bae Abertawe gwerth £60 miliwn, a fydd yn darparu’r cyfleusterau,
y gwasanaethau a’r gofodau sydd eu hangen i sefydlu canolfan o’r radd flaenaf ar
gyfer ynni morol a pheirianneg. Fel rhan o hyn, mae angen adnewyddu pedwar
rhandy rhestredig Gradd II sy’n sownd yn siediau awyrennau Sunderland er mwyn
eu moderneiddio ar gyfer yr 21ain ganrif a’u cynnig fel gweithleoedd modern hyblyg.
Bydd y gwaith adeiladu’n dechrau ym mis Tachwedd 2021 ac yn ôl yr amserlen bydd
yn cael ei gwblhau erbyn mis Tachwedd 2022.


Heddiw, mae’r Porthladd yn lansio cystadleuaeth i enwi’r pedwar rhandy ac mae’n
gwahodd ceisiadau gan aelodau o’r gymuned. Awgrymir pedair thema: treftadaeth,
dyfodol adnewyddadwy, hanes morol a hanes cymdeithasol, ond croesewir pob
syniad.


Dywedodd Steve Edwards, Cyfarwyddwr Masnachol y Porthladd, “Mae Porthladd
Penfro yn llawn hanes ac rydyn ni am sicrhau ein bod yn cadw’r adeiladau hyn yn
ddiogel fel y gellir eu defnyddio yn y bennod gyffrous nesaf. Mae Ardal Forol Doc
Penfro yn cynnig cyfleoedd enfawr i’r dref yn ogystal â’r rhanbarth cyfan, felly mae’n
bwysig iawn ein bod yn creu llety dymunol fel y gall busnesau sefydlu eu hunain
yma. Rydyn ni am gynnwys y gymuned gyfan yn ein cynlluniau drwy wahodd enwau
cofiadwy gyda chefndir difyr er mwyn ategu’r datblygiadau.”
I gyflwyno eich awgrymiadau, ewch i i www.mhpa.co.uk/naming-competition erbyn
dydd Llun 18 Hydref.


Ariennir Ardal Forol Doc Penfro gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe, Cronfa
Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, a thrwy fuddsoddiad preifat.

Continue Reading

Business20 hours ago

New McDonald’s restaurant to be built in Milford Haven if planning approved

MC DONALD’S will be coming to Milford Haven if plans are passed by local councillors. Planning applications have been submitted...

Business2 days ago

Employment figures show ‘labour market is strong’ says local MP Stephen Crabb

FIGURES published yesterday by the Office for National Statistics show that unemployment is falling across the country while the number...

News2 days ago

Pembroke Dock: Five years in jail for Asda cashpoint robbery

A PEMBROKE DOCK man has been jailed for five years for robbing a woman at knifepoint at the cashpoint at...

News3 days ago

War Graves Week is coming to Milford Haven

THE COMMONWEALTH War Graves Commission (CWGC) will be bringing War Graves Week to Milford Haven and offering free tours at...

Crime3 days ago

Former County Councillor with £80 per week ‘speed’ habit fined in court

FORMER County Councillor Paul Dowson – who says he has an £80 per week ‘speed’ habit – has admitted possession...

Crime3 days ago

Disqualified driver who caused A40 crash broke down in tears in court

A BANNED driver who caused a multi-vehicle pile-up on the A40 on Saturday (May 14) said in court on Monday...

Crime4 days ago

Father says his two-year-old son was ‘1cm from death’ from dog bite injuries to head

A MILFORD HAVEN man has been ordered to carry out 120 hours of community service after he admitted losing control...

Crime4 days ago

Haverfordwest man accused of murder appears in court

THE MAN accused of the murder of Lisa Fraser has appeared in front of the bench at Haverfordwest Magistrates’ Court...

Crime4 days ago

Haverfordwest man Matthew Harris charged with the murder of Lisa Fraser

DYFED-POWYS POLICE has confirmed that they have tonight (Sunday, May 15) charged 41-year-old Matthew Harris, of Barn Court, Haverfordwest with...

Crime6 days ago

Tribute to Pembroke Dock murder victim Lisa Fraser, 52, released by family

DYFED-POWYS POLICE have confirmed that enquiries are ongoing today (May 14) as officers seek to understand the circumstances surrounding the...

Popular This Week