Connect with us
Advertisement
Advertisement

Cymraeg

Galw am newid agwedd

Published

on

Galw amMAE AELODAU a chefnogwyr Cymdeithas yr Iaith wedi cyflwyno llythyr at sylw prif swyddogion Cyngor Penfro yn galw arnynt i ddangps parch tuag y Gymraeg wrth hysbysebu swyddi newydd wedi i’r Cyngor hysbysebu am weithiwr cymdeithasol i bobl ifanc yn uniaith Saesneg a gyda sylwadau ‘sarhaus’ tuag at y Gymraeg.

Yn y llythyr, sydd wedi mynd at sylw Prif Weithredwr y Cyngor, Bryn Parry-Jones; Arweinydd y Cyngor, Jamie Adams; a llefarydd y Cyngor ar y Gymraeg, Huw George, mae’r Gymdeithas yn gofyn bod:

• Pob swydd wag o fewn y Cyngor yn cael ei hysbysebu’n ddwyieithog, a bod disgrifiadau swydd ar gael yn Gymraeg

• Cyd-destun yn cael ei roi am y Gymraeg mewn disgrifiadau swydd ac mewn hyfforddiant i staff newydd;

• Bod swyddi gwag o hyn ymlaen yn cael eu hysbysebu gyda gofyniad bod y Gymraeg yn hanfodol, gan ddechrau yn syth gyda swyddi sy’n dod i gysylltiad gyda’r cyhoedd.

• Bod pob cefnogaeth ac anogaeth i staff dderbyn hyfforddiant neu wersi Cymraeg at ddefnydd gwaith a b od hynny ar gael yn ystod oriau gwaith Daeth y Cyng. Huw George i gwrdd gyda’r ymgyrchwyr ac i drafod eu pryderon.

Meddai Bethan Williams fel ymateb:

“Fe wnaethon ni alw ar y tri swyddog yma i gyfiawnhau bod y geiriad wedi ei ganiatáu yn y lle cyntaf – er i’r Cyngor dynnu’r geiriad gwreiddiol yn ôl does dim byd wedi newid. Mae’r ffaith fod y wefan yn dal i fod yn uniaith Saesneg ac nad oes unrhyw ofyn ieithyddol ar weithwyr cymdeithasol yn y Sir yn dangos agwedd y Cyngor Sir tuag at y Gymraeg. Does dim byd wedi newid yma mewn gwirionedd.” a chyfeirio eto at y galwadau yn y llythyr, fyddai’n osgoi sefyllfaoedd fel hyn.

“Fe wnaethon ni ddweud fod agwedd y Cyngor tuag at y Gymraeg yn ei gwneud yn anodd i ni gymeryd y Cyngor Sir o ddifrif yn unrhyw beth maen nhw’n ei wneud, mae hyn yn taflu mwy byth o bryder am hynny.

“Mae cyfle gan y Cyngor Sir i ddangos eu bod o ddifrif dros y Gymraeg – yn enwedig mewn cyfnod pan fod addysg Gymraeg yn cael ei drafod yn y sir. Beth yw pwrpas cynllunio ar gyfer addysg Gymraeg os nad yw’r Cyngor ei hun yn gallu cymeryd y Gymraeg o ddifrif – pa fath o argraff mae hynny’n ei roi i’n pobl ifanc?”

Continue Reading
Click to comment

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Cymraeg

Ffermwr yn dysgu popeth y mae angen iddo wybod am ffermio modern drwy Cyswllt Ffermio

Published

on

CYFLWYNODD ei rieni ef i ochr ymarferol ‘tir a da byw’ ffermio yn ifanc iawn, ond i Dylan Morgan, a aned yn Sir Gaerfyrddin, Cyswllt Ffermio sy’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r unigolyn yma a raddiodd mewn rheoli adeiladu. Dywedodd Dylan fod Cyswllt Ffermio wedi rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arno i fod y ffermwr ifanc blaengar a hyderus ydyw heddiw.

“A’r peth sy’n wych amdano yw, nad oedd rhaid i mi eistedd trwy oriau o ddarlithoedd theori amaeth am dair blynedd!”

Dywedodd Dylan mai agwedd Cyswllt Ffermio at ei holl wasanaethau hyfforddi a throsglwyddo gwybodaeth yw cyflwyno popeth ar y lefel gywir ar gyfer ffermwyr prysur ond profiadol sy’n gweithio.

“Mae’n ddull o ddysgu ar sail ‘angen gwybod’ sy’n apelio’n fawr ataf gan fy mod yn gallu gwneud lle iddo o amgylch fy nyletswyddau fferm ac ymrwymiadau eraill,” meddai Dylan.

Nid oedd gan Dylan unrhyw fwriad i ddod yn ffermwr pan adawodd Brifysgol Abertawe yn 2011, ond ar ôl ychydig fisoedd yn unig o ffermio’n llawn amser ar fferm bîff a defaid 360 erw ei deulu ger Llanymddyfri, newidiodd ei feddwl yn llwyr.

Roedd yn amlwg yn benderfyniad cywir i’r teulu cyfan ac mae Dylan (32) bellach wedi bod yn ffermio gartref ers bron i un mlynedd ar ddeg.

“Roeddwn i wastad wedi mwynhau helpu gartref pryd bynnag roedd gen i amser rhydd, felly roeddwn i wedi hen arfer ag ochr ymarferol ffermio, ond gan na astudiais i amaethyddiaeth yn y brifysgol, roeddwn i’n teimlo bod yna lawer nad oeddwn i’n ei wybod am iechyd anifeiliaid, pridd a rheoli glaswelltir a’r holl elfennau eraill o ffermio sy’n hanfodol i wella effeithlonrwydd ar y fferm.

“Mae’n hanfodol, fel ffermwyr, fod gan bob un ohonom y wybodaeth sydd ei hangen arnom a systemau yn eu lle i chwarae ein rhan i gadw at y safonau uchaf o les anifeiliaid, cynhyrchu da byw o’r ansawdd uchaf, gan hefyd warchod ein hamgylchedd naturiol a lleihau ein hôl troed carbon.”

Yn gefnogwyr hirdymor gwasanaeth Cynghori Cyswllt Ffermio, a welodd Dylan, ei dad a ffermwyr lleol eraill yn cael cyngor ar faterion yn cynnwys cynllunio rheoli maetholion, archwiliadau carbon a rheoli glaswelltir, mae Dylan yn rhoi llawer o’i amser hamdden i’w ddatblygiad personol.

Gan ddibynnu’n drwm ar ei swyddog datblygu lleol, Alun Bowen, i roi’r wybodaeth ddiweddaraf iddo am yr hyn sydd ar gael, mae Alun wedi cyfeirio Dylan – yn aml yng nghwmni ei dad – at nifer o weithdai iechyd a lles anifeiliaid ar bynciau’n amrywio o ffrwythlondeb y ddiadell a cholledion wyna i wneud y mwyaf o gynhyrchiant buchod sugno, cloffni a rheoli tir. Mae Dylan hefyd wedi dilyn cyrsiau hyfforddi byr â chymhorthdal ac mae’n defnyddio ystod gynhwysfawr y rhaglen o fodiwlau e-ddysgu a ariennir yn llawn yn rheolaidd.

“Mae dysgu ar-lein, mewn cyfnodau byr o 20 munud, gyda chwis ar ddiwedd pob modiwl i sicrhau eich bod wedi cymryd yr holl wybodaeth allweddol i mewn, yn ffordd wych o gynyddu eich gwybodaeth.”

Mae Dylan wedi canolbwyntio’n bennaf ar bynciau iechyd anifeiliaid yn ogystal â rheoli pridd a glaswelltir oherwydd ei fod yn credu’n gryf mewn mabwysiadu agwedd gyfannol at y fferm, gydag ‘arfer gorau ym mhopeth a wnawn’ yn rhan o’u hagenda cynaliadwyedd.

“Diolch i fy ngwybodaeth a sgiliau newydd a thrwy weithredu rhai o’r systemau newydd rydym wedi dysgu amdanynt trwy Cyswllt Ffermio, rydym bellach yn bwydo’r stoc yn llawer mwy effeithlon.

“Mae hyn wedi lleihau ein mewnbynnau’n sylweddol wrth wella perfformiad stoc a chynhyrchiant ac rydym hefyd wedi lleihau lefelau cloffni.”

Mae’r teulu’n sgorio cyflwr y corff yn rheolaidd ac yn meincnodi eu holl stoc ac yn dweud bod cyfrif wyau ysgarthol a phrofi elfennau hybrin trwy Cyswllt Ffermio wedi rhoi gwybodaeth werthfawr iddynt sy’n golygu eu bod wedi lleihau eu dibyniaeth ar driniaethau gwrthlyngyrol drwy fabwysiadu dull wedi’i dargedu’n well.

Gyda’i holl gyflawniadau dysgu wedi’u storio ar-lein yn ei gofnod personol y Storfa Sgiliau, mae Dylan yn dweud bod y system yn ffordd ddefnyddiol o nodi unrhyw feysydd y mae’n dal eisiau dysgu amdanynt.

“Mae ffermio yn ddiwydiant sy’n esblygu ac felly mae angen i ffermwyr o bob cenhedlaeth wybod eu bod yn ddigon gwybodus i wynebu’r cyfleoedd a’r heriau sydd o’u blaenau.”

Mae Cyswllt Ffermio yn cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra Cymru a’i ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

I gael rhagor o wybodaeth am holl wasanaethau cymorth a hyfforddiant Cyswllt Ffermio ewch i https://businesswales.gov.wales/farmingconnect/cy neu ffoniwch eich swyddog datblygu Cyswllt Ffermio lleol.

Continue Reading

Cymraeg

Cyfle gwych i ennill gwobr yn atyniadau Awdurdod y Parc dros benwythnos Dydd Gŵyl Dewi

Published

on

BYDD tri atyniad Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn dosbarthu cennin Pedr i ymwelwyr yn rhad ac am ddim ar 4 a 5 Mawrth eleni i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi.

Bydd gan Gastell Caeriw, Pentref Oes Haearn Castell Henllys ac Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc nifer cyfyngedig o gennin Pedr i’w dosbarthu i bobl sy’n ymweld â’r safleoedd dros benwythnos Dydd Gŵyl Dewi.

Yn ôl y Cynghorydd Di Clements, Cadeirydd Awdurdod y Parc: “Rydyn ni’n annog cynifer â phosib o bobl i ymuno â dathliadau Dydd Gŵyl Dewi, a pha ffordd well o ddathlu diwylliant Cymru yn eich cartref na chael tusw o’r blodau lliwgar yma?

“Bydd y cennin Pedr yn cael eu dosbarthu ar sail y cyntaf i’r felin. Oherwydd mai dim ond nifer cyfyngedig fydd ar gael ar bob safle, byddwn yn annog pobl i ymweld â’r safleoedd cyn gynted â phosib ar 4 neu 5 Mawrth er mwyn manteisio ar y cynnig hwn.”

Bydd Parêd blynyddol y Ddraig hefyd yn cael ei gynnal yn Nhyddewi ddydd Sadwrn 4 Mawrth, gyda chriw o ddisgyblion ysgol ac aelodau gofal yn y gymuned yn gadael Oriel y Parc am 11am.

I gael yr amserau agor, gwybodaeth am y digwyddiad a phrisiau mynediad ar gyfer Castell Caeriw, ewch i www.arfordirpenfro.cymru/castell-caeriw/.

I gael yr amserau agor, gwybodaeth am y digwyddiad a phrisiau mynediad ar gyfer Castell Henllys, ewch i www.arfordirpenfro.cymru/castell-henllys/

I gael yr amserau agor a gwybodaeth am y digwyddiad ar gyfer Oriel y Parc, ewch i www.arfordirpenfro.cymru/oriel-y-parc/.

Continue Reading

Cymraeg

Dydd Gŵyl Dewi yn gyfle perffaith i ddathlu bwyd Cymreig

Published

on

MAE Dydd Gŵyl Dewi (1 Mawrth) yn gyfle perffaith i ddathlu’r cynnyrch Cymreig gorau sydd ar gael, ac mae Undeb Amaethwyr Cymru yn annog defnyddwyr, wrth wneud y siopa wythnosol, i ddewis Cig Eidion Cymru Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI) a Chig Oen Cymru Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI) a gynhyrchir yn gynaliadwy.

Dywedodd Llywydd UAC Glyn Roberts: “Mae gan Gig Eidion Cymru Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI) a Chig Oen Cymru Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI) stori wych i’w hadrodd ac rwy’n falch o fod ymhlith ffermwyr, sydd nid yn unig yn cynhyrchu bwyd gwych, ond hefyd yn barod i rannu’n stori ni. Mae stori cig coch Cymru yn wych, yn enwedig o ran bod yn amgylcheddol gynaliadwy.

“Mae defnyddwyr yn fwyfwy ymwybodol o ôl troed carbon eu bwyd a’r ffordd y mae wedi’i gynhyrchu. Wrth ddewis Cig Oen a Chig Eidion Cymru Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI) gallant fod yn dawel eu meddwl ei fod wedi’i gynhyrchu gyda natur mewn golwg. Mae mor faethlon a chynaliadwy ag y gall fod, ac rwy’n annog pawb i ddewis ein cynnyrch Cymreig ni yn gyntaf.”

Fodd bynnag, roedd Mr Roberts yn glir bod ffermwyr yng Nghymru angen cefnogaeth, nid yn unig gan Lywodraeth Cymru ond hefyd gan Lywodraeth y DU, os yw ein dulliau cynaliadwy o gynhyrchu bwyd am barhau am genedlaethau i ddod.

“Mae ffermio yng Nghymru yn rhoi sylfaen gadarn i’n heconomi – cynhyrchu bwyd, darparu cyflogaeth, a chwarae rhan hollbwysig wrth ofalu am ein hamgylchedd. Rydym am i’n ffermwyr barhau i gynhyrchu bwyd yn eu rôl fel ceidwaid cefn gwlad am flynyddoedd lawer i ddod.

“Yr hyn sy’n bygwth y system honno yw cytundebau masnach gyda gwledydd sydd â safonau cynhyrchu gwahanol iawn i’n rhai ni, sy’n anfantais i’n ffermwyr o ran bod yn gystadleuol. Felly, rwy’n annog Llywodraeth y DU eto heddiw i roi ein diwydiant ffermio yn gyntaf, fel y mae cenhedloedd eraill yr ydym yn cyd-drafod â nhw yn ei wneud.”

Continue Reading

News4 hours ago

Third-time refusal call for £6m Stepaside holiday scheme

A PROPOSED £6m expansion of a south Pembrokeshire holiday park, previously given a ‘minded to’ backing by planners, has been...

News4 hours ago

Pembrokeshire firm fined over £6,000 for environmental offences

GRIFFITHS WASTE SOLUTIONS, a waste management company located at Withybush Industrial Estate in Pembrokeshire, has been slapped with a £6,300...

Health6 hours ago

Appointment of Hywel Dda University Health Board Chair

EARLIER this year, Miss Maria Battle, Chair of Hywel Dda University Health Board shared her intention to retire at the...

News9 hours ago

Arts Council of Wales supports the Torch with funding for the future

THE ARTS COUNCIL OF WALES has today released the outcome of its Investment Review relating to revenue funding for arts...

News1 day ago

Count down is on for the opening of new venue HANGAR in Milford Haven

MILFORD HAVEN’S entertainment scene has been taken to new heights with the highly anticipated opening of HANGAR! This extraordinary venue...

News3 days ago

St Davids RNLI responds to kayaker in distress near Jack Sound

AT 3:30pm on Saturday, 23rd September, the St Davids RNLI lifeboat was dispatched in response to reports of a kayaker...

News6 days ago

Wales to the World: celebrating maps in a brand new exhibition

ON SATURDAY (Sept 23) an exciting new exhibition of maps from the National Library of Wales will open at the...

News6 days ago

fflecsi Bwcabus Service to cease as funding comes an end

THE FFLECSI Bwcabus service will end on 31st October 2023. The news comes after the Welsh Government confirmed that it...

News1 week ago

Pembrokeshire restaurant fined for employing illegal workers

A PEMBROKESHIRE-BASED restaurant, Panache Indian, located on Queen Street, Pembroke Dock, has been slapped with a hefty fine after being...

News1 week ago

Council to stop supplying grey bin bags to save money

PEMBROKESHIRE COUNTY COUNCIL has confirmed it is ceasing provision of grey bags and reverting to “household provided” black bags for...

Popular This Week