Connect with us
Advertisement
Advertisement

Cymraeg

Atgofi on Yvonne ac Enid ac am ddishgled o de a bishgïen!

Published

on

garregMAE’N ANODD gwybod weithie pryd ma’ cwpla sgrifennu llyfr. A yw pob dim perthnasol wedi’i gynnwys? A drowyd pob carreg i ganfod pob gwybodaeth bosib? A hidlwyd pob dim yn y gwagar? Pan gaiff y deunydd ei ollwng o afael yr awdur a’i gyhoeddi, wel, dyna hi wedyn, mae’n ddomino. Ni ellir ychwanegu ato. Ni cheir cyfl e i gyhoeddi atodiad. Rhaid byw gyda’r diffygion. 

Dyna sut y teimlwn pan gyhoeddwyd `Ar Drywydd Waldo ar Gewn Beic`. Er seiclo i Iwerddon, Pen Llŷn, Llundain, Capel Millin, Kimbolton, Cas-mael, Lyneham, Hwlffordd, a bant â hi, synhwyrwn fod ambell i drywydd heb ei ddilyn. Doedd y daith ddim wedi’i chwpla. Gwyddwn ym mêr fy esgyrn fod yna bobol na chawsant y cyfl e i rannu eu hadnabyddiaeth o Waldo â mi. A dyna oedd yn rhyfedd gydol y daith. O grybwyll yr enw Waldo byddai pobol yn sôn yn afi eithus am eu profi ad o fod yng nghwmni’r gwron. Trysorent y profi ad pa mor ddinod bynnag y bo. Gadawodd argraff. A doedd dim angen i neb bwslo cyn dweud eu stori pa mor ddisymwth bynnag y deuwn ar eu traws.

Rhyfedd y gafael oedd ganddo ar gof pobl. A doedd trwyn y beic ddim wedi’i anelu i gyfeiriad Tyddewi a’r Penrhyn a Solfach i chi’n gweld. Dychmygwch y cyffro pan gesum i alwad ffôn yn dweud bod dwy chwaer o’r ddinas yn barod i rannu eu hatgofi on â mi. Gwyddwn fod yna wledd yn fy nisgwyl. Arferai rhieni Yvonne ac Enid gadw Gwesty’r Allendale yn Nhyddewi. Johnny ‘Batch’ oedd eu tad yn dyfe? Er eu bod wedi hen groesi oed yr addewid deil y cof yn loyw am y 1950au pan letyai Waldo ar eu haelwyd am ryw dair blynedd. Gwrandewch ar yr hyn a ddigwyddodd pan glywyd cnoc ar y drws un noson. `Desodd dyn i’r drws ch’wel a golwg ddyran arno’n gofyn am lety. Belt fowr am ei ganol. Wedi bod lawr yn yr eglwys ac wedi colli’r bws getre medde fe. Mam wedi’i nabod fel ei hathro’n Ysgol Solfach pan wedd hi’n groten ch’wel. Ma fe’n ca’l dod miwn.

Dwi’n cofi o nhad wedyn yn termo mam a gweud, “pam gillwnodd hi’r trampyn hwnnw trw’r drws?” Ond fuodd hi ddim yn hir cyn bo’ nhad a Waldo’n ben partners. `Stafell yn y llofft wedd ‘da Waldo a honno’n llawn llyfre bob man. Wedd y bws yn weito tu fas i’r gwesty ch’wel. Bysech chi’n meddwl y bydde hynny’n hwylus iawn i’r lojer i fynd i ddarlithio. Ond colli’r bws wedd e’n fynych. Wi’n cofi o nhad yn whare offerynne un nosweth a Waldo’n adrodd storis am gymeriade wedyn nes bo dagre ar ei wmed. Ma’ un ohonon ni’n gweud – “Waldo, sdim darlith da chi heno sha Abergweun? Ma’r bws wedi mynd. Beth newch chi nawr?” A mynte fe’n ddidaro, “W, pan welan nhw bo fi ddim na, fe a’n nhw getre, glei”!” Wel, dyna Waldo Williams i’r dim yn dyfe? Doedd amser yn golygu dim iddo. Ac eto bu’n myfyrio llawer am natur amser. Pa ryfedd fod y chwiorydd yn trysori pob cyfarfyddiad â Waldo wedi hynny?

Ma’ nhw’n cofi o ei gyfarfod ar hap ar y trên yn Clarbeston Road a chael gwahoddiad am ddishgled i’w ffl at yn Hwlffordd. Doedd dim lle i ishte am fod llyfre ym mhob man, wrth gwrs! A gallaf ddweud wrthoch chi, ma’r chwiorydd yn gw’bod shwt ma g’neud dishgled o de ‘fyd gan fy nghyfarch yn y trydydd person yr un pryd. `Odi fe’n moyn lla’th a shwgir? Cymered e fi shgïen nawr`. Rhoddai hynny fl as ychwanegol i’r wledd. Jawch, dwi’n drychid mlân at ddarlith Aled Gwyn o dan y teitl, ‘Mor agos at ei gilydd y deuem’, yng Nghasma’l nos Wener. A’r un modd at ddarllen ‘Cofi ant Waldo’ gan Alan Llwyd. Dewch draw. Falle bydd Yvonne ac Enid yno. Bydd yno ddishgled o de a phice ar y mân, clo. Ac i bwy mae’r diolch am yr alwad ffôn honno yn fy nghysylltu â’r chwiorydd, gwedwch? Wel, neb llai na fe Trefochlyd wrth gwrs. Peter Rees yw cymwynaswr Penrhyn Dewi. Ond dwi hefyd yn synhwyro na fydd y daith ar drywydd Waldo fyth yn cwpla. Pryd ddaw’r alwad ffôn neu’r e-bost nesaf?

Click to comment

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Cymraeg

Strategaeth yr iaith Gymraeg dan adolygiad yng nghanol galwadau am gyfeiriad cliriach

Published

on

MAE SAMUEL KURTZ AS, Ysgrifennydd Cysgodol y Cabinet dros yr Iaith Gymraeg, wedi annog Llywodraeth Cymru i ailfeddwl eu dull o weithredu targed uchelgeisiol Cymraeg 2050 yn sgil pryderon a godwyd mewn adroddiad diweddar gan y Senedd.

Mae strategaeth Cymraeg 2050 yn anelu at sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn canol y ganrif hon, ond mae amheuon wedi cael eu codi am ei hyfywedd. Mae canfyddiadau’r Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc yn tynnu sylw at heriau fel marweiddio yn nifer yr athrawon Cymraeg a gostyngiad yn y defnydd o’r iaith ymhlith pobl ifanc.

Mae Mr Kurtz, sy’n cynrychioli Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, wedi ymuno â’r galwadau i Lywodraeth Cymru ailystyried eu cynlluniau. Dywedodd:

“Mae Ceidwadwyr Cymreig wedi galw ers tro am strategaeth gliriach gan Lywodraeth Cymru i gyflawni eu targed Cymraeg 2050.

“Gyda nifer y siaradwyr Cymraeg yn gostwng dros y ddau ddegawd diwethaf, mae’n hanfodol bod y duedd hon yn cael ei gwrthdroi. O ystyried y marweiddio yn nifer yr athrawon Cymraeg a’r gostyngiad yn y defnydd o’r Gymraeg ymhlith pobl ifanc, mae angen i Lywodraeth Cymru adolygu pam nad yw eu cynlluniau presennol ar gyfer Cymraeg 2050 yn gweithio ac addasu’r cynlluniau angenrheidiol.”

Persbectif Sir Benfro

Yn Sir Benfro, lle mae treftadaeth yr iaith Gymraeg yn ddwfn, mae’r ddadl yn un arwyddocaol iawn. Mae cymunedau lleol wedi gweld llwyddiant amrywiol wrth gynnal Cymraeg. Mae addysg cyfrwng Cymraeg wedi tyfu mewn rhai ardaloedd, gydag ysgolion fel Ysgol Caer Elen yn Hwlffordd yn chwarae rhan hanfodol, ond mae pryderon yn parhau am ei hygyrchedd ledled y sir.

Yn hanesyddol, mae Sir Benfro wedi cael ei hystyried yn ‘ffrynt ieithyddol’, lle mae’r iaith Gymraeg yn cydfodoli â’r Saesneg mewn cydbwysedd cynnil. Mae ardaloedd gwledig wedi dal gafael ar eu traddodiadau ieithyddol, ond mae trefoli a newidiadau demograffig yn peri heriau.

Un mater allweddol yw’r gweithlu addysgu. Heb ddigon o athrawon Cymraeg i ysbrydoli ac addysgu’r genhedlaeth nesaf, mae cyflawni Cymraeg 2050 yn mynd yn fwyfwy anodd. Mae galwadau hefyd wedi bod am fwy o gyfleoedd trochi yn y Gymraeg y tu allan i’r ystafell ddosbarth er mwyn meithrin y defnydd o’r Gymraeg yn y bywyd bob dydd.

Pam mae Cymraeg 2050 yn bwysig

Yng nghanol Cymraeg 2050 mae gweledigaeth i beidio â chadw’r Gymraeg yn unig, ond i’w gwneud yn iaith fyw a llewyrchus. Mae ymgyrchwyr yn dadlau bod strategaeth gadarn yn hanfodol i sicrhau bod yr iaith yn parhau i fod yn berthnasol i genedlaethau’r dyfodol, yn enwedig mewn ardaloedd fel Sir Benfro lle mae treftadaeth ddiwylliannol yn gysylltiedig â’r Gymraeg.

Mae cefnogwyr y targed yn pwysleisio ei botensial i gryfhau hunaniaeth gymunedol ac i roi hwb i gyfleoedd economaidd, o dwristiaeth i ddiwydiannau creadigol, lle mae dwyieithrwydd yn ased sy’n tyfu.

Oes modd ei gyflawni?

Er bod uchelgais Cymraeg 2050 yn cael ei ganmol yn eang, mae cwestiynau yn parhau ynghylch a yw’n gyflawnadwy heb newidiadau sylweddol mewn polisi. Mae’r beirniaid yn dadlau, heb strategaeth gynhwysfawr wedi’i hariannu’n dda sy’n mynd i’r afael ag addysg, seilwaith ac ymgysylltu cymunedol, bod y targed mewn perygl o fod yn ddim mwy na dyhead.

I Sir Benfro, mae’r her yn glir: dathlu a diogelu ei chymunedau Cymraeg tra’n creu cyfleoedd ar gyfer twf ac ymgysylltu â’r Gymraeg i bawb.

Mae galwad Mr Kurtz am weithredu yn ychwanegu at y pwysau cynyddol ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno cynllun sy’n gweithio – nid yn unig ar gyfer nawr, ond ar gyfer cenedlaethau i ddod.

Cymraeg 2050: Iaith ar gyfer y dyfodol

I Sir Benfro a thu hwnt, mae’r blaenoriaeth yn uchel. Mae cyflawni miliwn o siaradwyr Cymraeg yn ymwneud â mwy na niferoedd yn unig – mae’n ymwneud â sicrhau dyfodol lle mae’r iaith yn parhau i fyw a ffynnu, o bentrefi gwledig Gogledd Sir Benfro i strydoedd prysur Aberdaugleddau.

Continue Reading

Business

A more connected Wales: Ogi to provide Welsh language support through eero

Published

on

Starting today, Ogi- Wales’s biggest alternative telecoms company- has taken the innovative leap to back the provision of Welsh language on the eero wifi software.

Amazon’s eero delivers fast, reliable and secure wifi to every corner of the home. Using the latest mesh technology, eero brings seamless coverage, whether you’re streaming, gaming, or working from home. The Amazon eero suite of products is available on all Ogi 400, Ogi 500 and Ogi 1Gig packages.

Ogi’s commitment to continuously improving for their Welsh customers is demonstrated through this new partnership. This milestone makes eero one of the few smart home systems to offer Welsh-language support in its mobile app.

Within the eero app, engineers have incorporated familiar Welsh-language terms to further the experience for users.


Speaking about the new feature, Ogi’s Brand Marketing Director, Sarah Vining, said: “Ogi’s mission has always been to provide world-class services that are inherently Welsh.”

“Working with the team at eero, we’re not only bringing cutting-edge technology to Welsh homes but also making it more accessible for our customers, and for users all over Wales too. This partnership reflects our shared vision to make the internet more accessible to everyone.”

“Our mission is to bring fast, reliable, and secure wifi to customers around the world.” said Mark Sieglock, eero EVP, Software and Services. “We’re thrilled to partner with Ogi to add Welsh language support, making the eero app more accessible to Welsh speakers in Wales.”

Welsh language support is now available to all eero users by downloading the latest software update (release 6.47.0)

Continue Reading

Cymraeg

Hybu’r Gymraeg drwy sioe lwyfan

Published

on

Ar faes Eisteddfod yr Urdd heddiw ym Meifod (29 Mai) caiff sioe lwyfan newydd ei dangos a fydd yn hyrwyddo’r Gymraeg i bobl ifanc ledled Cymru. Manon Steffan Ros sydd wedi creu’r sioe Geiriau i gwmni Mewn Cymeriad yn dilyn comisiwn gan Gomisiynydd y Gymraeg.

Bydd y sioe, sydd wedi ei hanelu at bobl ifanc ym mlynyddoedd 7, 8 a 9 ysgolion uwchradd, yn cyd-fynd â phecyn addysg newydd sydd wedi ei ddatblygu gan y Comisiynydd ac a fydd ar gael ar lwyfan addysgol, Hwb.

Yn ôl Manon Steffan Ros, roedd yn braf derbyn y cais i wneud y gwaith hwn er yn un heriol,

“Er mwyn hybu’r Gymraeg i’n pobl ifanc a’u hannog i’w defnyddio mae angen manteisio ar amryw o ffyrdd i wneud hynny. Mae sioe lwyfan, sydd yn mynd mewn i ysgolion, yn gyfle gwych i bwysleisio rôl y Gymraeg yn ein bywydau bob dydd, drwy ddefnyddio cerddoriaeth gyfoes a iaith sydd yn berthnasol iddyn nhw.

“Roedd yn her, serch hynny, i ddatblygu sgript a oedd yn cyfleu yr holl elfennau yma, tra ar yr un pryd yn hyrwyddo’r neges gyffredinol fod angen defnyddio’r Gymraeg er mwyn iddi oroesi.

“Gobeithio bydd y sioe yn gyfrwng i arwain at drafodaeth bellach ymysg pobl ifanc a’u hathrawon am bwysigrwydd y Gymraeg.”

I gyd-fynd â’r sioe, mae pecyn addysg wedi ei greu hefyd sydd yn cynnig amryw ddeunyddiau ar gyfer gwersi. Mae’r pecyn yn cynnwys cyflwyniadau ac atodiadau sydd yn rhannu gwybodaeth am y Gymraeg, ei phwysigrwydd fel sgil mewn bywyd bob dydd, ieithoedd lleiafrifol eraill ar draws y byd, yn ogystal ag egluro rôl Comisiynydd y Gymraeg.

Yn ôl Efa Gruffudd Jones., Comisiynydd y Gymraeg, y gobaith yw fod y gwaith hyn yn ymateb i angen,

“Rwyf wedi nodi yn aml fod plant a phobl ifanc yn flaenoriaeth i fi ac rydym yn gyson yn derbyn ceisiadau gan ysgolion am wybodaeth am ein gwaith. Y nod gyda’r pecyn hwn yw cynnig pecyn ymarferol y gellir dewis gweithgareddau ohono.

“Bydd hefyd, gobeithio, yn gymorth i athrawon a ddisgyblion ddeall yn well, nid yn unig rôl Comisiynydd y Gymraeg ond sefyllfa’r Gymraeg ar lefel genedlaethol a rhyngwladol.

“Gobeithio y caiff ei ddefnyddio’n eang.” 

Un ysgol sydd wedi cael cyfle i weld y sioe eisoes yw Ysgol Bro Hyddgen ym Machynlleth yn nalgylch yr Eisteddfod. Mae Nansi Lloyd yn mlwyddyn 7 ac fe wnaeth fwynhau yn fawr,

“Roedd y sioe yn symud yn gyflym oedd yn grêt ac roeddem i gyd yn meddwl fod y defnydd o gerddoriaeth Gymraeg gyfoes yn dda iawn. Fe wnaeth i fi feddwl am pam mod i’n siarad Cymraeg a phwysleisio pa mor bwysig yw siarad yr iaith yn naturiol bob dydd, ac nid yn yr ysgol yn unig.

“Rwy’n gobeithio mynd i’w gweld eto yn yr Eisteddfod.”

Mae Alaw Jones yn athrawes yn ysgol Bro Hyddgen ac yn gweld gwerth yn y sioe a’r pecyn addysg,

“Mae yn medru bod yn heriol cyflwyno’r Gymraeg yn enwedig mewn oes lle mae cyfryngau cymdeithasol yn chwarae rôl mor flaenllaw yn mywydau pobl ifanc. Roedd y sioe hon yn gyfrwng i arwain ar drafodaeth bellach am y Gymraeg yn ein cymdeithas heddiw a braf oedd gweld ymateb y bobl ifanc i’r sioe.

“Mae’r pecyn addysg yn adnodd defnyddiol a fydd yn ein caniatáu i drafod y Gymraeg mewn cyd-destun ehangach, cyd-destun rhyngwladol, ac yn pwysleisio manteision siarad yr iaith o safbwynt sgil yn y byd gwaith.”

Caiff y sioe, Geiriau¸ ei pherfformio ar stondin Llywodraeth Cymru am 2pm ar ddydd Mercher, 29 Mai a bydd sesiwn holi ac ateb yn dilyn yng nghwmni Efa Gruffudd Jones, Manon Steffan Ros ac Owen Alun sydd yn perfformio’r sioe.

Continue Reading

News18 hours ago

St Davids Lifeboat responds to Mayday call from wind farm support vessel

ST DAVIDS RNLI responded to a Mayday call at 5:55am on Sunday (Jan 19) after a fire broke out on...

Business2 days ago

Residents meet with local politicians over A477 road safety concerns 

MEMBERS of the Eglwyscummin Community Council and residents of the village of Red Roses today (Friday 17th January) called a road-side...

Crime2 days ago

Milford paedophile caught with 1600 indecent images of children avoids jail

A PAEDOPHILE has avoided prison sentence after being caught with nearly 1,600 sickening indecent images and videos of children on...

News4 days ago

Landslides close section of Pembrokeshire coastal path once again

A SECTION of a south Pembrokeshire beach-side coastal path has been closed once again after a number of landslips in...

Community4 days ago

Stricken vessel now off Broad Haven as pollution experts stand-by

A dramatic turn of events has seen the survey vessel KMS Terramare redirected to Broad Haven, where it is set...

News5 days ago

Housing plans for former Penally asylum seeker camp

THE EARLY stages of plans for a potential housing scheme at a Pembrokeshire military training camp, controversially used to house...

News5 days ago

Survey vessel stranded at Newgale beach prompts RNLI response

A 24.5-METRE survey vessel, the MTS Terramare, found itself in a precarious situation after becoming stranded on Newgale Beach on...

Health6 days ago

Cancer patients face long waits for diagnosis and treatment in Wales

A REPORT released by Audit Wales has revealed that cancer care in Wales continues to struggle with significant delays in...

Crime7 days ago

Father of baby girl killed in Tenby incident says its been like a ‘horror movie’

A SIX-MONTH-OLD baby girl has tragically died after her pram was struck by a car in a multi-storey car park...

Crime7 days ago

Ex-prison officer exposes failures and mismanagement at HMP Parc

A FORMER prison officer has come forward with allegations of systemic failings at HMP Parc in Bridgend, claiming that neglect,...

Popular This Week