Cymraeg
Adrodd am iaith a gyhoeddwyd
CAFODD YR adroddiad ei lunio gan grŵp gorchwyl a gorffen a ffurfiwyd gan y Gweinidog. Elin Rhys oedd Cadeirydd y grŵp hwn. Gofynnwyd i’r grŵp ystyried sut y gallai defnyddio’r Gymraeg a hefyd ddwyieithrwydd gynorthwyo busnesau i dyfu a hefyd hybu datblygu economaidd a sut y gallai datblygu economaidd gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg.
Mae’r adroddiad yn cynnwys 27 argymhelliad. Mae’n ategu’r ffaith fod yr iaith Gymraeg yn ganolog o ran creu amgylchedd busnes sefydlog a ffafriol, ac mae’n tanlinellu pwysigrwydd hyrwyddo sgiliau a buddsoddi mewn seilwaith economaidd gan gynnwys trafnidiaeth a thechnoleg gwybodaeth. Mae’r argymhellion yn ymdrin â nifer o feysydd cyfrifoldeb gweinidogol a sefydliadol.
Wrth ddiolch i Elin Rhys a’r Grŵp am eu hadroddiad dywedodd Mrs Hart:
“Gofynnwyd i’r Grŵp ystyried yr opsiynau ym maes datblygu economaidd a’r Gymraeg a fyddai’n helpu i greu swyddi, twf economaidd ac yn cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg. Gofynnwyd hefyd iddynt ychwanegu at yr arferion da sydd eisoes yn digwydd i wneud argymhellion realistig, ymarferol a chyraeddadwy.
“Bydd y gwaith yn dechrau yn awr i asesu effeithiau a chostau posibl yr argymhellion. Cyhoeddir yr adroddiad ar wefan Llywodraeth Cymru i wneud sylwadau arno. O ran y camau nesaf, mae rhai o’r argymhellion yn cwmpasu nifer o bortffolios gweinidogol ac rwyf wedi ysgrifennu at fy nghyd-aelodau o’r Cabinet am y materion hyn.
“Mae rhai o’r argymhellion yn gofyn am ddull gweithredu seiliedig ar ardal benodol, a byddaf yn ysgrifennu at Gadeiryddion yr Ardaloedd Menter a’r Dinas-ranbarthau i dynnu eu sylw at yr adroddiad. Byddaf yn ysgrifennu hefyd at Ardal Twf lleol Dyffryn Teifi yn gofyn iddyn nhw wneud sylwadau am ganfyddiadau’r adroddiad.”
Ychwanegodd y Gweinidog y bydd yr holl sylwadau a chyfraniadau’n cael eu cymryd i ystyriaeth yn ymateb Llywodraeth Cymru i’r adroddiad. Bwriedir cyhoeddi’r ymateb cyn Toriad yr Haf.
Dywedodd Elin Rhys:
“Mae cysylltiad annatod rhwng y Gymraeg a’r economi, swyddi, cyfoeth a lles cymunedau. Wrth i’r economi geisio adfer ar ôl un o’r dirwasgiadau bydeang gwaethaf erioed roedd hi’n briodol sefydlu’r grŵp hwn er mwyn cynghori ar y cysylltiad hwn a hefyd sut y gallwn fanteisio arno a’i ddatblygu ymhellach er budd pawb.
“Rydym wedi canolbwyntio ar geisio sicrhau canlyniadau positif i’r iaith ac ar feithrin datblygiad economaidd. Mae ein hargymhellion yn eang eu cwmpas, yn adeiladu ar arferion da, yn ymateb i’r dystiolaeth a gyflwynwyd ac yn deillio o drafodaethau diflino a manwl o fewn y Grŵp.”
Bu’r Grŵp yn cynnal sesiynau tystiolaeth lafar, gwnaethpwyd cais agored am dystiolaeth a chynhaliwyd cyfweliadau gyda busnesau lleol hefyd. Roedd hyn oll yn llywio’r gwaith o lunio’r adroddiad a’r argymhellion.
Cafodd y grŵp ei sefydlu, a chafodd yr adroddiad ei lunio, mewn ymateb i ymrwymiad yn Strategaeth y Gymraeg Llywodraeth Cymru ar gyfer 2012-2017, sef Iaith fyw: Iaith byw, i ddatblygu strategaeth glir er mwyn elwa i’r eithaf ar y Gymraeg fel ased economaidd.
Business
A more connected Wales: Ogi to provide Welsh language support through eero
Starting today, Ogi- Wales’s biggest alternative telecoms company- has taken the innovative leap to back the provision of Welsh language on the eero wifi software.
Amazon’s eero delivers fast, reliable and secure wifi to every corner of the home. Using the latest mesh technology, eero brings seamless coverage, whether you’re streaming, gaming, or working from home. The Amazon eero suite of products is available on all Ogi 400, Ogi 500 and Ogi 1Gig packages.
Ogi’s commitment to continuously improving for their Welsh customers is demonstrated through this new partnership. This milestone makes eero one of the few smart home systems to offer Welsh-language support in its mobile app.
Within the eero app, engineers have incorporated familiar Welsh-language terms to further the experience for users.
Speaking about the new feature, Ogi’s Brand Marketing Director, Sarah Vining, said: “Ogi’s mission has always been to provide world-class services that are inherently Welsh.”
“Working with the team at eero, we’re not only bringing cutting-edge technology to Welsh homes but also making it more accessible for our customers, and for users all over Wales too. This partnership reflects our shared vision to make the internet more accessible to everyone.”
“Our mission is to bring fast, reliable, and secure wifi to customers around the world.” said Mark Sieglock, eero EVP, Software and Services. “We’re thrilled to partner with Ogi to add Welsh language support, making the eero app more accessible to Welsh speakers in Wales.”
Welsh language support is now available to all eero users by downloading the latest software update (release 6.47.0)
Cymraeg
Hybu’r Gymraeg drwy sioe lwyfan
Ar faes Eisteddfod yr Urdd heddiw ym Meifod (29 Mai) caiff sioe lwyfan newydd ei dangos a fydd yn hyrwyddo’r Gymraeg i bobl ifanc ledled Cymru. Manon Steffan Ros sydd wedi creu’r sioe Geiriau i gwmni Mewn Cymeriad yn dilyn comisiwn gan Gomisiynydd y Gymraeg.
Bydd y sioe, sydd wedi ei hanelu at bobl ifanc ym mlynyddoedd 7, 8 a 9 ysgolion uwchradd, yn cyd-fynd â phecyn addysg newydd sydd wedi ei ddatblygu gan y Comisiynydd ac a fydd ar gael ar lwyfan addysgol, Hwb.
Yn ôl Manon Steffan Ros, roedd yn braf derbyn y cais i wneud y gwaith hwn er yn un heriol,
“Er mwyn hybu’r Gymraeg i’n pobl ifanc a’u hannog i’w defnyddio mae angen manteisio ar amryw o ffyrdd i wneud hynny. Mae sioe lwyfan, sydd yn mynd mewn i ysgolion, yn gyfle gwych i bwysleisio rôl y Gymraeg yn ein bywydau bob dydd, drwy ddefnyddio cerddoriaeth gyfoes a iaith sydd yn berthnasol iddyn nhw.
“Roedd yn her, serch hynny, i ddatblygu sgript a oedd yn cyfleu yr holl elfennau yma, tra ar yr un pryd yn hyrwyddo’r neges gyffredinol fod angen defnyddio’r Gymraeg er mwyn iddi oroesi.
“Gobeithio bydd y sioe yn gyfrwng i arwain at drafodaeth bellach ymysg pobl ifanc a’u hathrawon am bwysigrwydd y Gymraeg.”
I gyd-fynd â’r sioe, mae pecyn addysg wedi ei greu hefyd sydd yn cynnig amryw ddeunyddiau ar gyfer gwersi. Mae’r pecyn yn cynnwys cyflwyniadau ac atodiadau sydd yn rhannu gwybodaeth am y Gymraeg, ei phwysigrwydd fel sgil mewn bywyd bob dydd, ieithoedd lleiafrifol eraill ar draws y byd, yn ogystal ag egluro rôl Comisiynydd y Gymraeg.
Yn ôl Efa Gruffudd Jones., Comisiynydd y Gymraeg, y gobaith yw fod y gwaith hyn yn ymateb i angen,
“Rwyf wedi nodi yn aml fod plant a phobl ifanc yn flaenoriaeth i fi ac rydym yn gyson yn derbyn ceisiadau gan ysgolion am wybodaeth am ein gwaith. Y nod gyda’r pecyn hwn yw cynnig pecyn ymarferol y gellir dewis gweithgareddau ohono.
“Bydd hefyd, gobeithio, yn gymorth i athrawon a ddisgyblion ddeall yn well, nid yn unig rôl Comisiynydd y Gymraeg ond sefyllfa’r Gymraeg ar lefel genedlaethol a rhyngwladol.
“Gobeithio y caiff ei ddefnyddio’n eang.”
Un ysgol sydd wedi cael cyfle i weld y sioe eisoes yw Ysgol Bro Hyddgen ym Machynlleth yn nalgylch yr Eisteddfod. Mae Nansi Lloyd yn mlwyddyn 7 ac fe wnaeth fwynhau yn fawr,
“Roedd y sioe yn symud yn gyflym oedd yn grêt ac roeddem i gyd yn meddwl fod y defnydd o gerddoriaeth Gymraeg gyfoes yn dda iawn. Fe wnaeth i fi feddwl am pam mod i’n siarad Cymraeg a phwysleisio pa mor bwysig yw siarad yr iaith yn naturiol bob dydd, ac nid yn yr ysgol yn unig.
“Rwy’n gobeithio mynd i’w gweld eto yn yr Eisteddfod.”
Mae Alaw Jones yn athrawes yn ysgol Bro Hyddgen ac yn gweld gwerth yn y sioe a’r pecyn addysg,
“Mae yn medru bod yn heriol cyflwyno’r Gymraeg yn enwedig mewn oes lle mae cyfryngau cymdeithasol yn chwarae rôl mor flaenllaw yn mywydau pobl ifanc. Roedd y sioe hon yn gyfrwng i arwain ar drafodaeth bellach am y Gymraeg yn ein cymdeithas heddiw a braf oedd gweld ymateb y bobl ifanc i’r sioe.
“Mae’r pecyn addysg yn adnodd defnyddiol a fydd yn ein caniatáu i drafod y Gymraeg mewn cyd-destun ehangach, cyd-destun rhyngwladol, ac yn pwysleisio manteision siarad yr iaith o safbwynt sgil yn y byd gwaith.”
Caiff y sioe, Geiriau¸ ei pherfformio ar stondin Llywodraeth Cymru am 2pm ar ddydd Mercher, 29 Mai a bydd sesiwn holi ac ateb yn dilyn yng nghwmni Efa Gruffudd Jones, Manon Steffan Ros ac Owen Alun sydd yn perfformio’r sioe.
Cymraeg
Last ditch plea to HSBC to reverse decision to axe Welsh language phone line
AN MS has issued a last ditch plea to HSBC to reverse its “unacceptable” decision to axe its Welsh language phone service.
Llŷr Gruffydd, who represents North Wales in the Senedd, has spoken out as January 15, the date when the phone line is due to come to an end fast approaches.
The Plaid Cymru politician said executives at the baking giant still have an “opportunity to do the right thing”.
HSBC came under fire after politicians were informed of the bank’s decision to axe its Welsh language service by letter on Wednesday, November 8.
The Senedd’s Culture Committee wrote to the corporation accusing it of “contempt” towards Welsh speakers.
It added that its “failure to maintain an approach consistent with its values is considered disingenuous and disturbing”.
The committee also questioned statements made by José Carvalho, HSBC’s head of wealth and personal banking, who spoke in front of it on November 29.
The banker said that the Welsh-language helpline receives around 22 calls a day, and that the bank had ended up “with only 6% of the calls that are coming in being answered in Welsh” by them.
However, the committee hit back saying this indicates a fundamental failure of service by the bank because it means 94% of calls to the service are not being answered in Welsh,.
The Committee said that the “low number of calls” to the line “reflects” the bank’s “inability to provide a functioning and coherent service that meets the needs of its Welsh speaking customers.”
Llŷr Gruffydd said: “HSBC still has an opportunity to do the right thing by reversing its unacceptable and wrongheaded decision to bring its Welsh language phone service to an end.
“Executives at HSBC should remember that many customers use their banking services because of its Welsh language phone service.
“The bank argues that there isn’t sufficient demand for the helpline because it receives 22 calls a day on average.
“But it’s abundantly clear from the data that with only 6% of those calls being answered in Welsh, they’ve not been coming anywhere near to providing an adequate service.
“Phone calls that are made to the helpline in Welsh should be answered in Welsh. It’s no wonder that a lot of Welsh speakers have given up on phoning it.
“Instead of scrapping the service HSBC’s should invest in it properly for at least 12 months, and that includes ensuring that it is well-advertised. Then at the end of that period it could make a much better assessment of demand.
“The bank’s pledge to ‘arrange a call back in Welsh, within 3 working days is astonishingly disrespectful to Welsh speakers, as well as utterly insensitive to the financial pressures some people will face.
“For a significant number of people, accessing their bank through Welsh is not a ‘choice’ as HSBC claimed.
“HSBC say they ‘have confirmed that all customers can bank in English’, which is frankly an attitude that belongs to the last century. It is also untrue, especially for many elderly and vulnerable people.
“There is understandably a huge amount of anger and frustration right across Wales with HSBC’s general attitude towards the Welsh language.
“Recently I was contacted by a constituent who was quite rightly angry because she had been asked by a member of HSBC’s customer care team to resend a Welsh language query in English.
“That is one of many examples of HSBC’s complete and utter disregard for Welsh speakers.
“As a Welsh speaker myself and as a member of the Senedd’s Culture Committee, I share the real sense of frustration that’s out there.
“Many of their customers in Wales have also seen their local branches close over the last decade.
“The impact of this on their older customers is particularly acute, as well as those who don’t have access to digital technology.
“Though HSBC likes to describe itself as the world’s local bank, it is abundantly clear that this is not the case in Wales as it abandons Welsh speakers and abandons our high streets by shutting down local branches.”
-
Business2 days ago
Specsavers relocates to landmark new store following £1.2 million investment
-
Crime4 days ago
Pembroke man faces rape and sexual assault charges
-
Community6 days ago
Special guests for Torch showing of ‘Attack on Sorpe Dam’
-
Community3 days ago
Waldo Lounge in Haverfordwest is now officially open!
-
News3 days ago
A tribute to Honey Arteya Foxx French, written by her family
-
Top News5 days ago
Pembrokeshire’s ‘coal king’ lifts one of world’s oldest 127 kg lifting stones
-
News5 days ago
Police appeal after Nerf gun bullet hit baby
-
News5 days ago
Inquest hears social media bullying was factor in teen’s tragic death