Connect with us
Advertisement
Advertisement

Cymraeg

Cerddorion ac awduron o Gymru yn teithio i Melbourne i drafod Dylan

Published

on

bandMAE CERDDORION ac awduron o Gymru yn teithio i Awstralia y mis yma i gymryd rhan yng Ngŵyl Awduron Melbourne i nodi canrif ers geni Dylan Thomas.

Bydd yr awduron o Gymru, Rachel Trezise a John Williams, yn siarad am lenyddiaeth gyfoes o Gymru a gwaddol Dylan. Byddent hefyd yn cael eu hymuno gan Gareth Bonello a Richard James am ddwy awr o gerddoriaeth, llenyddiaeth a ffilm wedi dylanwadu gan Dylan Thomas, o dan y teitl ‘In Chapters’, cyfuniad celfyddydau a ddechreuwyd gan Richard a John sydd yn cynnal digwyddiadau multi-media.

Bydd y cerddorion ac ysgrifenwyr Cymraeg hefyd yn cydweithio gyda 2 ysgrifennwr newydd a 2 grŵp o gerddorion o Awstralia, wrth greu gwaith newydd o dan ddylanwad Dylan Thomas.

Mae’r digwyddiadau yn rhan o ‘Starless and Bible Black’, sef dathliad rhyngwladol o waith Dylan Thomas.

Dywedodd Dan Thomas, pennaeth y celfyddydau yn British Council Cymru, sy’n arwain rhaglen Starless and Bible Black: ‘’Rydym yn falch o nodi canmlwyddiant Dylan Thomas ac o godi proffil talent creadigol o Gymru yn yr Ŵyl. Bydd ein digwyddiadau hefyd yn cynnwys dangos dwy ffilm o Gymru ar y sgrîn fawr yn Federation Square ym Melbourne sef: Sleep Furiously, ffilm ddogfen lwyddiannus Gideon Koppel’ am fywyd ym mhentref Trefeurig yng Ngheredigion a The Colour of Saying gan Richard James a’r artist Anthony Shapland, sy’n archwilio agweddau lleisiol, telynegol, rhythmig a llenyddol ar fyd Dylan Thomas yng Ngorllewin Cymru.”

Dywedodd cyfarwyddwraig artistig Gŵyl Awduron Melbourne, Lisa Dempster: “Mae gwaith Dylan Thomas wedi cael effaith barhaol ac mae Gŵyl Awduron Melbourne yn falch o gael ymuno â chymuned lenyddol ryngwladol i ddathlu ei waddol.

“Mae’r dathliad rhyngwladol Dylan Thomas 100 yn creu’r cyfle perffaith i Ŵyl Awduron Melbourne archwilio ysgrifennu Cymreig cyfoes hefyd, ac rydym yn edrych ymlaen at ddod â lleisiau cyffrous o’r rhan ddiddorol honno o’r byd i gysylltu ag awduron a darllenwyr o Awstralia.’’

Dywedodd Helen O’Neill, Cyfarwyddwr y Cyngor yn Awstralia: ‘’Mae Dylan Thomas wedi gwreiddio barddoniaeth a drama o Gymru ym mhrofiad diwylliannol Awstralia, yn bennaf oherwydd bod ei ddrama i leisiau, Under Milkwood, wedi llwyddo i gyrraedd cymaint o bobl ar y llwyfan, mewn recordiadau ac mewn print.

“Ym mlwyddyn ei ganmlwyddiant mae cyfle gwych i ymgysylltu â chenhedlaeth newydd o artistiaid o Gymru sydd wedi adeiladu ar ei waddol ac sydd wedi cysylltu Cymru a’r Cymry â’r byd drwy ysgrifennu, cerddoriaeth, gwneud ffilm a pherfformio.’’

Bydd Gŵyl Awduron Melbourne yn digwydd rhwng 21 a 31 Awst. Bydd yr ŵyl yn denu cynulleidfa o dros 40,000 ac yn cynnwys 300 o’r awduron gorau o bedwar ban y byd.

Nodiadau i olygyddion

Rachel Tresize: fe’i ganed yng Nghwmparc, Rhondda, enillydd gwobr Dylan Thomas, mae ei llyfrau’n cynnwys: In and Out of the Goldfish Bowl, Dial M for Merthyr a Cosmic Latte.

John Williams: awdur o Gaerdydd a ysgrifennodd Bloody Valentine, Cardiff Dead a The Cardiff Trilogy.

Richard James: gitarydd, basydd, a chyfansoddwr caneuon a chanwr o Sir Benfro, sylfaenydd y band Gorky’s Zygotic Mynci.

Gareth Bonello: cyfansoddwr caneuon o Gaerdydd sy’n ysgrifennu ac yn recordio dan yr enw llwyfan The Gentle Good.

 

Click to comment

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Cymraeg

Strategaeth yr iaith Gymraeg dan adolygiad yng nghanol galwadau am gyfeiriad cliriach

Published

on

MAE SAMUEL KURTZ AS, Ysgrifennydd Cysgodol y Cabinet dros yr Iaith Gymraeg, wedi annog Llywodraeth Cymru i ailfeddwl eu dull o weithredu targed uchelgeisiol Cymraeg 2050 yn sgil pryderon a godwyd mewn adroddiad diweddar gan y Senedd.

Mae strategaeth Cymraeg 2050 yn anelu at sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn canol y ganrif hon, ond mae amheuon wedi cael eu codi am ei hyfywedd. Mae canfyddiadau’r Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc yn tynnu sylw at heriau fel marweiddio yn nifer yr athrawon Cymraeg a gostyngiad yn y defnydd o’r iaith ymhlith pobl ifanc.

Mae Mr Kurtz, sy’n cynrychioli Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, wedi ymuno â’r galwadau i Lywodraeth Cymru ailystyried eu cynlluniau. Dywedodd:

“Mae Ceidwadwyr Cymreig wedi galw ers tro am strategaeth gliriach gan Lywodraeth Cymru i gyflawni eu targed Cymraeg 2050.

“Gyda nifer y siaradwyr Cymraeg yn gostwng dros y ddau ddegawd diwethaf, mae’n hanfodol bod y duedd hon yn cael ei gwrthdroi. O ystyried y marweiddio yn nifer yr athrawon Cymraeg a’r gostyngiad yn y defnydd o’r Gymraeg ymhlith pobl ifanc, mae angen i Lywodraeth Cymru adolygu pam nad yw eu cynlluniau presennol ar gyfer Cymraeg 2050 yn gweithio ac addasu’r cynlluniau angenrheidiol.”

Persbectif Sir Benfro

Yn Sir Benfro, lle mae treftadaeth yr iaith Gymraeg yn ddwfn, mae’r ddadl yn un arwyddocaol iawn. Mae cymunedau lleol wedi gweld llwyddiant amrywiol wrth gynnal Cymraeg. Mae addysg cyfrwng Cymraeg wedi tyfu mewn rhai ardaloedd, gydag ysgolion fel Ysgol Caer Elen yn Hwlffordd yn chwarae rhan hanfodol, ond mae pryderon yn parhau am ei hygyrchedd ledled y sir.

Yn hanesyddol, mae Sir Benfro wedi cael ei hystyried yn ‘ffrynt ieithyddol’, lle mae’r iaith Gymraeg yn cydfodoli â’r Saesneg mewn cydbwysedd cynnil. Mae ardaloedd gwledig wedi dal gafael ar eu traddodiadau ieithyddol, ond mae trefoli a newidiadau demograffig yn peri heriau.

Un mater allweddol yw’r gweithlu addysgu. Heb ddigon o athrawon Cymraeg i ysbrydoli ac addysgu’r genhedlaeth nesaf, mae cyflawni Cymraeg 2050 yn mynd yn fwyfwy anodd. Mae galwadau hefyd wedi bod am fwy o gyfleoedd trochi yn y Gymraeg y tu allan i’r ystafell ddosbarth er mwyn meithrin y defnydd o’r Gymraeg yn y bywyd bob dydd.

Pam mae Cymraeg 2050 yn bwysig

Yng nghanol Cymraeg 2050 mae gweledigaeth i beidio â chadw’r Gymraeg yn unig, ond i’w gwneud yn iaith fyw a llewyrchus. Mae ymgyrchwyr yn dadlau bod strategaeth gadarn yn hanfodol i sicrhau bod yr iaith yn parhau i fod yn berthnasol i genedlaethau’r dyfodol, yn enwedig mewn ardaloedd fel Sir Benfro lle mae treftadaeth ddiwylliannol yn gysylltiedig â’r Gymraeg.

Mae cefnogwyr y targed yn pwysleisio ei botensial i gryfhau hunaniaeth gymunedol ac i roi hwb i gyfleoedd economaidd, o dwristiaeth i ddiwydiannau creadigol, lle mae dwyieithrwydd yn ased sy’n tyfu.

Oes modd ei gyflawni?

Er bod uchelgais Cymraeg 2050 yn cael ei ganmol yn eang, mae cwestiynau yn parhau ynghylch a yw’n gyflawnadwy heb newidiadau sylweddol mewn polisi. Mae’r beirniaid yn dadlau, heb strategaeth gynhwysfawr wedi’i hariannu’n dda sy’n mynd i’r afael ag addysg, seilwaith ac ymgysylltu cymunedol, bod y targed mewn perygl o fod yn ddim mwy na dyhead.

I Sir Benfro, mae’r her yn glir: dathlu a diogelu ei chymunedau Cymraeg tra’n creu cyfleoedd ar gyfer twf ac ymgysylltu â’r Gymraeg i bawb.

Mae galwad Mr Kurtz am weithredu yn ychwanegu at y pwysau cynyddol ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno cynllun sy’n gweithio – nid yn unig ar gyfer nawr, ond ar gyfer cenedlaethau i ddod.

Cymraeg 2050: Iaith ar gyfer y dyfodol

I Sir Benfro a thu hwnt, mae’r blaenoriaeth yn uchel. Mae cyflawni miliwn o siaradwyr Cymraeg yn ymwneud â mwy na niferoedd yn unig – mae’n ymwneud â sicrhau dyfodol lle mae’r iaith yn parhau i fyw a ffynnu, o bentrefi gwledig Gogledd Sir Benfro i strydoedd prysur Aberdaugleddau.

Continue Reading

Business

A more connected Wales: Ogi to provide Welsh language support through eero

Published

on

Starting today, Ogi- Wales’s biggest alternative telecoms company- has taken the innovative leap to back the provision of Welsh language on the eero wifi software.

Amazon’s eero delivers fast, reliable and secure wifi to every corner of the home. Using the latest mesh technology, eero brings seamless coverage, whether you’re streaming, gaming, or working from home. The Amazon eero suite of products is available on all Ogi 400, Ogi 500 and Ogi 1Gig packages.

Ogi’s commitment to continuously improving for their Welsh customers is demonstrated through this new partnership. This milestone makes eero one of the few smart home systems to offer Welsh-language support in its mobile app.

Within the eero app, engineers have incorporated familiar Welsh-language terms to further the experience for users.


Speaking about the new feature, Ogi’s Brand Marketing Director, Sarah Vining, said: “Ogi’s mission has always been to provide world-class services that are inherently Welsh.”

“Working with the team at eero, we’re not only bringing cutting-edge technology to Welsh homes but also making it more accessible for our customers, and for users all over Wales too. This partnership reflects our shared vision to make the internet more accessible to everyone.”

“Our mission is to bring fast, reliable, and secure wifi to customers around the world.” said Mark Sieglock, eero EVP, Software and Services. “We’re thrilled to partner with Ogi to add Welsh language support, making the eero app more accessible to Welsh speakers in Wales.”

Welsh language support is now available to all eero users by downloading the latest software update (release 6.47.0)

Continue Reading

Cymraeg

Hybu’r Gymraeg drwy sioe lwyfan

Published

on

Ar faes Eisteddfod yr Urdd heddiw ym Meifod (29 Mai) caiff sioe lwyfan newydd ei dangos a fydd yn hyrwyddo’r Gymraeg i bobl ifanc ledled Cymru. Manon Steffan Ros sydd wedi creu’r sioe Geiriau i gwmni Mewn Cymeriad yn dilyn comisiwn gan Gomisiynydd y Gymraeg.

Bydd y sioe, sydd wedi ei hanelu at bobl ifanc ym mlynyddoedd 7, 8 a 9 ysgolion uwchradd, yn cyd-fynd â phecyn addysg newydd sydd wedi ei ddatblygu gan y Comisiynydd ac a fydd ar gael ar lwyfan addysgol, Hwb.

Yn ôl Manon Steffan Ros, roedd yn braf derbyn y cais i wneud y gwaith hwn er yn un heriol,

“Er mwyn hybu’r Gymraeg i’n pobl ifanc a’u hannog i’w defnyddio mae angen manteisio ar amryw o ffyrdd i wneud hynny. Mae sioe lwyfan, sydd yn mynd mewn i ysgolion, yn gyfle gwych i bwysleisio rôl y Gymraeg yn ein bywydau bob dydd, drwy ddefnyddio cerddoriaeth gyfoes a iaith sydd yn berthnasol iddyn nhw.

“Roedd yn her, serch hynny, i ddatblygu sgript a oedd yn cyfleu yr holl elfennau yma, tra ar yr un pryd yn hyrwyddo’r neges gyffredinol fod angen defnyddio’r Gymraeg er mwyn iddi oroesi.

“Gobeithio bydd y sioe yn gyfrwng i arwain at drafodaeth bellach ymysg pobl ifanc a’u hathrawon am bwysigrwydd y Gymraeg.”

I gyd-fynd â’r sioe, mae pecyn addysg wedi ei greu hefyd sydd yn cynnig amryw ddeunyddiau ar gyfer gwersi. Mae’r pecyn yn cynnwys cyflwyniadau ac atodiadau sydd yn rhannu gwybodaeth am y Gymraeg, ei phwysigrwydd fel sgil mewn bywyd bob dydd, ieithoedd lleiafrifol eraill ar draws y byd, yn ogystal ag egluro rôl Comisiynydd y Gymraeg.

Yn ôl Efa Gruffudd Jones., Comisiynydd y Gymraeg, y gobaith yw fod y gwaith hyn yn ymateb i angen,

“Rwyf wedi nodi yn aml fod plant a phobl ifanc yn flaenoriaeth i fi ac rydym yn gyson yn derbyn ceisiadau gan ysgolion am wybodaeth am ein gwaith. Y nod gyda’r pecyn hwn yw cynnig pecyn ymarferol y gellir dewis gweithgareddau ohono.

“Bydd hefyd, gobeithio, yn gymorth i athrawon a ddisgyblion ddeall yn well, nid yn unig rôl Comisiynydd y Gymraeg ond sefyllfa’r Gymraeg ar lefel genedlaethol a rhyngwladol.

“Gobeithio y caiff ei ddefnyddio’n eang.” 

Un ysgol sydd wedi cael cyfle i weld y sioe eisoes yw Ysgol Bro Hyddgen ym Machynlleth yn nalgylch yr Eisteddfod. Mae Nansi Lloyd yn mlwyddyn 7 ac fe wnaeth fwynhau yn fawr,

“Roedd y sioe yn symud yn gyflym oedd yn grêt ac roeddem i gyd yn meddwl fod y defnydd o gerddoriaeth Gymraeg gyfoes yn dda iawn. Fe wnaeth i fi feddwl am pam mod i’n siarad Cymraeg a phwysleisio pa mor bwysig yw siarad yr iaith yn naturiol bob dydd, ac nid yn yr ysgol yn unig.

“Rwy’n gobeithio mynd i’w gweld eto yn yr Eisteddfod.”

Mae Alaw Jones yn athrawes yn ysgol Bro Hyddgen ac yn gweld gwerth yn y sioe a’r pecyn addysg,

“Mae yn medru bod yn heriol cyflwyno’r Gymraeg yn enwedig mewn oes lle mae cyfryngau cymdeithasol yn chwarae rôl mor flaenllaw yn mywydau pobl ifanc. Roedd y sioe hon yn gyfrwng i arwain ar drafodaeth bellach am y Gymraeg yn ein cymdeithas heddiw a braf oedd gweld ymateb y bobl ifanc i’r sioe.

“Mae’r pecyn addysg yn adnodd defnyddiol a fydd yn ein caniatáu i drafod y Gymraeg mewn cyd-destun ehangach, cyd-destun rhyngwladol, ac yn pwysleisio manteision siarad yr iaith o safbwynt sgil yn y byd gwaith.”

Caiff y sioe, Geiriau¸ ei pherfformio ar stondin Llywodraeth Cymru am 2pm ar ddydd Mercher, 29 Mai a bydd sesiwn holi ac ateb yn dilyn yng nghwmni Efa Gruffudd Jones, Manon Steffan Ros ac Owen Alun sydd yn perfformio’r sioe.

Continue Reading

Health24 hours ago

Pressures remain high despite the end of ambulance ‘critical incident’

AMBULANCE service pressures remain high despite the end of a 48-hour critical incident declared by the Welsh Ambulance Service. The...

Crime24 hours ago

Pembroke man to face court over historical child sexual offences

A SIXTY-YEAR-OLD man is due to appear in court on Thursday (Jan 2) facing multiple historical child sexual offence charges...

Community2 days ago

Former Port Chair Dr Chris Martin Awarded OBE in New Year Honours

DR CHRIS MARTIN, former Chair of the Port of Milford Haven and a proud Pembrokeshire native, has been awarded an...

Health2 days ago

Critical incident declared by Welsh Ambulance Service due to demand

A “CRITICAL INCIDENT” was declared by the Welsh Ambulance Service on Monday (Dec 30) evening due to significantly increased demand...

News3 days ago

Pembrokeshire County Councillor Andrew Edwards resigns suddenly

THE CHIEF EXECUTIVE of PembroTHE CHIEF executive of Pembrokeshire County Council, Will Bramble, has released a statement announcing that Cllr...

Health3 days ago

Hospital visiting precautions in place ‘to protect patients’

VISITORS to hospitals across Carmarthenshire, Ceredigion, and Pembrokeshire are being asked to only attend if they are free of any...

Business4 days ago

Three daily sailings from Pembroke to Ireland from January 7

THE PORT OF MILFORD HAVEN has confirmed it will facilitate a third daily ferry sailing from Pembroke Dock Ferry Terminal...

Crime6 days ago

Youths failed to stop, then crashed into Milford Haven home

POLICE in Milford Haven have arrested two male youths following a fail-to-stop incident that ended with their car crashing into...

Community6 days ago

Milford Haven mum gives birth to triplets amid medical emergency

PREGNANCY is often a challenging experience, but for Ellie Davies from Milford Haven, it became even more stressful when she...

Charity7 days ago

Over 1,100 festive bathers enjoy Tenby’s famous Boxing Day Swim

A RECORD-BREAKING number of 1,150 festive bathers have had a splashing time in the Tenby Boxing Day Swim this morning....

Popular This Week