Connect with us
Advertisement
Advertisement

Cymraeg

CNC yn datblygu cymhwyster adfer afonydd newydd

Published

on

mapMAE AFONYDD Cymru yn rhai o asedau naturiol mwyaf gwerthfawr y wlad ac mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a’i bartneriaid yn chwarae rôl bwysig yn y gwaith o’u hadfer a’u cynnal.

Mae CNC wedi bod yn gweithio ag Agored Cymru, y corff dyfarnu addysg a hyfforddiant yng Nghymru i ddatblygu cymhwyster Adfer Afonydd newydd sbon a fydd yn fanteisiol i wirfoddolwyr ac afonydd Cymru.

Fel rhan o gynllun peilot, mae CNC a Cambium Training wedi bod yn cynorthwyo a hyfforddi Groundwork Caerphilly, Ymddiriedolaeth Afonydd De Ddwyrain Cymru ac Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De Orllewin Cymru i geisio rhoi prawf ar yr unedau newydd.

Meddai Sue Williams, Arweinydd Tîm Addysg, Dysgu a Sgiliau Sector, CNC: “Mae’r cymhwyster hwn yn canolbwyntio ar y sgiliau sydd eu hangen ar rywun sy’n dechrau gweithio ym maes adfer afonydd, un ai’n broffesiynol neu fel gwirfoddolwr. Gall sefydliadau ei ddefnyddio i hyfforddi eu gwirfoddolwyr yn y gwaith o adfer afonydd, rhannu ymarfer da, datblygu dull cyson o weithio yn y maes hwn, ac mae’r gwirfoddolwyr yn cael achrediad defnyddiol y gallant ei ddefnyddio yn ystod eu gyrfa i’r dyfodol neu er mwyn difyrrwch yn unig.”

Mae’r cymhwyster lefel un hwn yn gyfle i ddysgwyr ddatblygu sgiliau penodol a chael profiad gwaith ‘yn y swydd’ ym maes adfer afonydd ac mae’n cynnwys pynciau megis:

Y ddeddfwriaeth sy’n ymwneud ag afonydd – beth sydd angen ichi wybod cyn cychwyn ar y gwaith

Sut y mae afonydd yn cael eu ffurfio, gwahanol briodweddau, dylanwadau dynol

Rhywogaethau Anfrodorol Ymledol – beth ydynt, a sut allwn ni leihau eu dylanwad?

Arolygon Ar Droed o Afonydd a defnyddio map arolwg ordnans

Sgiliau ymarferol adfer afonydd

Dyma ddechrau datblygiad cyfres o unedau sy’n cwmpasu amrediad eang o bynciau sy’n ymwneud â Dysgu yn yr Awyr Agored a Rheoli Adnoddau Naturiol.

Meddai Janet Barlow, Prif Swyddog Gweithredol, Agored Cymru: “Mae’r ffaith ein bod wedi cael y cyfle i weithio ar y cyd â Cyfoeth Naturiol Cymru i ddatblygu’r cymhwyster unigryw hwn wedi bod yn hynod o gyffrous. Ein rôl, fel y sefydliad dyfarnu delfrydol ar gyfer darparwyr addysg a hyfforddiant yng Nghymru, yw parhau i ddatblygu cyfleoedd gwirioneddol ar gyfer dysgwyr talentog ac uchelgeisiol yng Nghymru. Mae gweithio yn yr awyr agored yn yr amgylchedd hwn yn gyfle rhagorol i ddatblygu sgiliau newydd ac ennill profiad dysgu gwerthfawr y tu allan i’r ystafell ddosbarth.”

Ychwanegodd Daniel Lewis, Cynllunydd Adnoddau Naturiol, CNC: “Mae afonydd iach yn cynnig amrywiaeth eang o fanteision i’r amgylchedd, yr economi a nifer fawr o bobl sy’n eu defnyddio ar gyfer gweithgareddau hamdden. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn awyddus i gynorthwyo’r prosiect cyffrous hwn a fydd yn helpu gwirfoddolwyr a chymunedau i ailgysylltu â’u hafon leol. Byddant yn gallu gwneud gwelliannau amgylcheddol ar yr un pryd â gwella eu rhagolygon eu hunain o ran gwaith.”

Click to comment

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Cymraeg

Welsh language music celebrated in style with more than 1,000 children

Published

on

AROUND 1,500 children from 31 schools across Pembrokeshire came together to celebrate Dydd Miwsig Cymru/Welsh Language Music Day with four unforgettable gigs filled with live music and entertainment.

Headlining the celebration at the Queen’s Hall, Narberth, was Candelas, one of Wales’ top bands, who delivered an electrifying performance. Pupils also enjoyed a vibrant DJ set from DJ Daf, bringing the Siarter Iaith mascots, Seren a Sbarc, to life with their favourite Welsh music—creating a fun and engaging atmosphere throughout the day.

The event on February 7th was co-organised by Pembrokeshire County Council’s Education Department, as part of their Welsh Language Charter work, and Menter Iaith Sir Benfro, who promote the Welsh language across the county.

Welsh Language Development Officer Catrin Phillips said: “Pembrokeshire pupils embraced the spirit of Dydd Miwsig Cymru, showing that Welsh-language music is not just thriving—it’s louder and prouder than ever!”

Dydd Miwsig Cymru is an annual event dedicated to celebrating and promoting Welsh-language music across Wales and beyond. It aims to inspire people of all ages to explore and enjoy the wealth of music created in Welsh, from traditional folk to rock, pop, and contemporary sounds.

Dathlu cerddoriaeth Gymraeg mewn steil gyda dros 1,000 o blant

Daeth tua 1,500 o blant o 31 o ysgolion ledled Sir Benfro at ei gilydd i ddathlu Dydd Miwsig Cymru mewn pedwar gig bythgofiadwy yn llawn cerddoriaeth fyw ac adloniant.

Yn arwain y dathlu yn Neuadd y Frenhines, Arberth, roedd Candelas, un o fandiau gorau Cymru, a gyflwynodd berfformiad gwefreiddiol. Mwynhaodd y disgyblion set DJ fywiog hefyd gan DJ Daf, gan ddod â masgotiaid y Siarter Iaith, Seren a Sbarc yn fyw gyda’u hoff gerddoriaeth Gymraeg—a chreu awyrgylch hwyliog a difyr drwy gydol y dydd.

Cafodd y digwyddiad ar 7 Chwefror ei gyd-drefnu gan Adran Addysg Cyngor Sir Penfro, fel rhan o’u gwaith Siarter Iaith, a Menter Iaith Sir Benfro, sy’n hyrwyddo’r Gymraeg ar draws y sir.

Dywedodd Catrin Phillips, Swyddog Datblygu’r Gymraeg: “Cofleidiodd disgyblion Sir Benfro ysbryd Dydd Miwsig Cymru, gan ddangos nad ffynnu’n unig mae cerddoriaeth Gymraeg—mae’n fwy amlwg ac yn fwy balch nag erioed!”

Mae Dydd Miwsig Cymru yn ddigwyddiad blynyddol sy’n ymroddedig i ddathlu a hyrwyddo cerddoriaeth Gymraeg ar draws Cymru a thu hwnt. Ei nod yw ysbrydoli pobl o bob oed i archwilio a mwynhau’r cyfoeth o gerddoriaeth sy’n cael ei chreu yn y Gymraeg, o ganu gwerin traddodiadol i roc, pop a chyfoes.

Continue Reading

Cymraeg

Welsh speakers drop to shocking lowest percentage in eight years

Published

on

THE PERCENTAGE of Welsh speakers has fallen to its lowest level in over eight years, with just 27.7% of people in Wales able to speak the language, according to government statistics.

Data from the annual population survey, which covers the year ending 30 September 2024, estimates there are around 851,700 Welsh speakers in Wales. This marks a 1.6% decline compared to the previous year.

Despite the drop, the Welsh government remains resolute in its commitment to increasing the number of Welsh speakers. A spokesperson said: “We are absolutely committed to our goal of having one million Welsh speakers and doubling the daily use of Welsh.”

The ambitious target of one million Welsh speakers by 2050 is measured using census data, rather than the annual population survey.

Census data paints a stark picture
The 2021 census revealed a further decline in Welsh speakers, with only 17.8% of residents—approximately 538,000 people aged three and older—reporting they could speak the language.

Welsh speakers by the numbers
The annual population survey provides further insights:

  • Children lead the way: 48.6% of children and young people aged 3 to 15 reported they could speak Welsh, equating to 237,600 individuals. However, this figure has been gradually declining since 2019.
  • Regional highs and lows:
    • Gwynedd boasts the highest number of Welsh speakers (93,600), followed by Carmarthenshire (93,300) and Cardiff (83,300).
    • Blaenau Gwent and Merthyr Tydfil have the fewest Welsh speakers, with 9,500 and 10,600, respectively.
    • In percentage terms, Gwynedd (77.9%) and the Isle of Anglesey (63.6%) lead, while Rhondda Cynon Taf (13.9%) and Blaenau Gwent (14%) rank lowest.

How often is Welsh spoken?
Among those who can speak Welsh:

  • 13.9% (428,800 people) speak it daily.
  • 5.6% (171,300) use it weekly.
  • 6.7% (204,700) speak it less often.
  • 1.5% (46,500) never speak Welsh despite being able to.

The remaining 72.3% of people in Wales do not speak Welsh at all.

Understanding Welsh
Beyond speaking:

  • 32.2% (989,300 people) reported they could understand spoken Welsh.
  • 24.4% (751,600) can read Welsh.
  • 22.1% (680,100) can write in the language.

Survey sample size questioned
The annual population survey, conducted by the Office for National Statistics (ONS), has faced criticism over falling sample sizes in recent years. However, the ONS confirmed to the BBC that 14,881 responses were used for the Welsh language questions in the latest survey.

The figures underline the challenges facing efforts to revitalize the Welsh language, even as the government strives to meet its ambitious 2050 targets.

Continue Reading

Cymraeg

Strategaeth yr iaith Gymraeg dan adolygiad yng nghanol galwadau am gyfeiriad cliriach

Published

on

MAE SAMUEL KURTZ AS, Ysgrifennydd Cysgodol y Cabinet dros yr Iaith Gymraeg, wedi annog Llywodraeth Cymru i ailfeddwl eu dull o weithredu targed uchelgeisiol Cymraeg 2050 yn sgil pryderon a godwyd mewn adroddiad diweddar gan y Senedd.

Mae strategaeth Cymraeg 2050 yn anelu at sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn canol y ganrif hon, ond mae amheuon wedi cael eu codi am ei hyfywedd. Mae canfyddiadau’r Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc yn tynnu sylw at heriau fel marweiddio yn nifer yr athrawon Cymraeg a gostyngiad yn y defnydd o’r iaith ymhlith pobl ifanc.

Mae Mr Kurtz, sy’n cynrychioli Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, wedi ymuno â’r galwadau i Lywodraeth Cymru ailystyried eu cynlluniau. Dywedodd:

“Mae Ceidwadwyr Cymreig wedi galw ers tro am strategaeth gliriach gan Lywodraeth Cymru i gyflawni eu targed Cymraeg 2050.

“Gyda nifer y siaradwyr Cymraeg yn gostwng dros y ddau ddegawd diwethaf, mae’n hanfodol bod y duedd hon yn cael ei gwrthdroi. O ystyried y marweiddio yn nifer yr athrawon Cymraeg a’r gostyngiad yn y defnydd o’r Gymraeg ymhlith pobl ifanc, mae angen i Lywodraeth Cymru adolygu pam nad yw eu cynlluniau presennol ar gyfer Cymraeg 2050 yn gweithio ac addasu’r cynlluniau angenrheidiol.”

Persbectif Sir Benfro

Yn Sir Benfro, lle mae treftadaeth yr iaith Gymraeg yn ddwfn, mae’r ddadl yn un arwyddocaol iawn. Mae cymunedau lleol wedi gweld llwyddiant amrywiol wrth gynnal Cymraeg. Mae addysg cyfrwng Cymraeg wedi tyfu mewn rhai ardaloedd, gydag ysgolion fel Ysgol Caer Elen yn Hwlffordd yn chwarae rhan hanfodol, ond mae pryderon yn parhau am ei hygyrchedd ledled y sir.

Yn hanesyddol, mae Sir Benfro wedi cael ei hystyried yn ‘ffrynt ieithyddol’, lle mae’r iaith Gymraeg yn cydfodoli â’r Saesneg mewn cydbwysedd cynnil. Mae ardaloedd gwledig wedi dal gafael ar eu traddodiadau ieithyddol, ond mae trefoli a newidiadau demograffig yn peri heriau.

Un mater allweddol yw’r gweithlu addysgu. Heb ddigon o athrawon Cymraeg i ysbrydoli ac addysgu’r genhedlaeth nesaf, mae cyflawni Cymraeg 2050 yn mynd yn fwyfwy anodd. Mae galwadau hefyd wedi bod am fwy o gyfleoedd trochi yn y Gymraeg y tu allan i’r ystafell ddosbarth er mwyn meithrin y defnydd o’r Gymraeg yn y bywyd bob dydd.

Pam mae Cymraeg 2050 yn bwysig

Yng nghanol Cymraeg 2050 mae gweledigaeth i beidio â chadw’r Gymraeg yn unig, ond i’w gwneud yn iaith fyw a llewyrchus. Mae ymgyrchwyr yn dadlau bod strategaeth gadarn yn hanfodol i sicrhau bod yr iaith yn parhau i fod yn berthnasol i genedlaethau’r dyfodol, yn enwedig mewn ardaloedd fel Sir Benfro lle mae treftadaeth ddiwylliannol yn gysylltiedig â’r Gymraeg.

Mae cefnogwyr y targed yn pwysleisio ei botensial i gryfhau hunaniaeth gymunedol ac i roi hwb i gyfleoedd economaidd, o dwristiaeth i ddiwydiannau creadigol, lle mae dwyieithrwydd yn ased sy’n tyfu.

Oes modd ei gyflawni?

Er bod uchelgais Cymraeg 2050 yn cael ei ganmol yn eang, mae cwestiynau yn parhau ynghylch a yw’n gyflawnadwy heb newidiadau sylweddol mewn polisi. Mae’r beirniaid yn dadlau, heb strategaeth gynhwysfawr wedi’i hariannu’n dda sy’n mynd i’r afael ag addysg, seilwaith ac ymgysylltu cymunedol, bod y targed mewn perygl o fod yn ddim mwy na dyhead.

I Sir Benfro, mae’r her yn glir: dathlu a diogelu ei chymunedau Cymraeg tra’n creu cyfleoedd ar gyfer twf ac ymgysylltu â’r Gymraeg i bawb.

Mae galwad Mr Kurtz am weithredu yn ychwanegu at y pwysau cynyddol ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno cynllun sy’n gweithio – nid yn unig ar gyfer nawr, ond ar gyfer cenedlaethau i ddod.

Cymraeg 2050: Iaith ar gyfer y dyfodol

I Sir Benfro a thu hwnt, mae’r blaenoriaeth yn uchel. Mae cyflawni miliwn o siaradwyr Cymraeg yn ymwneud â mwy na niferoedd yn unig – mae’n ymwneud â sicrhau dyfodol lle mae’r iaith yn parhau i fyw a ffynnu, o bentrefi gwledig Gogledd Sir Benfro i strydoedd prysur Aberdaugleddau.

Continue Reading

News3 hours ago

Body found in tent in Pembrokeshire woodland

Death not believed to be suspicious POLICE are investigating the unexplained death of a man whose body was discovered in...

Community13 hours ago

West Wales sewage crisis: New calls for accountability amid environmental concerns

THE SEWAGE pollution crisis engulfing West Wales continues to deepen, with new data and growing public pressure exposing serious environmental...

Charity1 day ago

Charity distances itself from viral post as £4,000 theft claim goes viral

A VIRAL social media post accusing a man of stealing £4,000 from a veterans’ charity has been described as “unauthorised...

Crime1 day ago

Police appeal after woman seriously injured in Haverfordwest assault

POLICE in Haverfordwest are appealing for witnesses following a serious assault in the Castle Square area. A woman was taken...

Health1 day ago

NHS performance in Wales ‘a mixed bag’ as latest figures released

THE NUMBER of Welsh NHS patients waiting more than two years for treatment has fallen by 26%, according to data...

News2 days ago

Fury as ex-MP Simon Hart handed peerage

Tell-all book and Nazi graffiti scandal reignite calls for answers FORMER South Pembrokeshire MP Simon Hart is facing mounting criticism...

Crime2 days ago

Two Pembrokeshire vape shops face court closure orders

Court hearing due to take place on April 17 at Haverfordwest Magistrates’ Court TWO vape shops in Pembrokeshire are facing...

News3 days ago

Landmark ruling: Supreme Court backs biological definition of woman

IN A LANDMARK judgment with far-reaching implications, the UK Supreme Court has ruled unanimously that the legal definition of a...

News3 days ago

Driver lies injured in rain for hours at Fishguard Port after fall from lorry

VOLUNTEERS AND EMERGENCY SERVICES STEP IN AFTER SHOCKING AMBULANCE DELAY A LORRY driver who suffered serious injuries after falling from...

News3 days ago

Festival pulls appearance by ex-MP despite acclaim for honest memoir

A PLANNED appearance by former Carmarthen East and Dinefwr MP Jonathan Edwards at this year’s Llandeilo Lit Fest has been...

Popular This Week