Connect with us
Advertisement
Advertisement

Cymraeg

Cân i Gymru yn nôl, nôl, nôl

Published

on

MAE hi bron yr amser o’r flwyddyn ble y gall pobl Cymru ddod at ei gilydd i ddathlu diwylliant Cymraeg ac ymfalchïo yn eu Cymreictod. Ydi, mae Cân i Gymru 2020 yn agosáu.

Gyda Elin Fflur a Trystan Ellis-Morris yn cyflwyno, caiff y gystadleuaeth ei darlledu’n fyw ar S4C o Ganolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth ar 29 Chwefror am 8.00.

Meddai Siôn Llwyd o gwmni Avanti, sy’n cynhyrchu’r rhaglen ar gyfer S4C: “Mae’r panel eleni, sef; Bryn Fôn, Georgia Ruth, Ani Glass ac Owain Roberts wedi dewis wyth can wych.

“Ond yn ogystal â chael mwynhau y caneuon gwreiddiol, newydd sbon yma, bydd Bryn Fôn yn mynd â ni nôl i’r nawdegau gyda perfformiad arbennig o Gwlad yr Rasda Gwyn i nodi ei bod hi’n dri deg blwyddyn ers i’r gân gipio tlws Cân i Gymru.

Dywedodd Bryn: “Ma’n ryfeddol meddwl fod deg mlynedd ar hugain wedi mynd heibio ers i Rasda fynd â hi. Mi fydd hi’n braf camu i’r llwyfan heb y pwysa o gystadlu.

“Dwi newydd ffeindio toriadau o hen bapurau newydd oedd fy Mam wedi cadw. Digwydd bod roedd two-page spread am Cân i Gymru 1990 yn rhestru pawb ath trwyddo. Diddorol iawn gan mod i wedi anghofio pwy arall oedd yn cystadlu. Wedi’i rhestru oedd Eryr Wen, Gareth Morlais a dwy ferch o Pen-Llyn. Ar y pryd, doedd gen i ddim syniad y bysa un o’r merchaid hynny yn dod i ganu gyda Sobin a’r Smaeliaid ychydig yn ddiweddarach.

“Roedd hi’n dipyn o dâsg dewis wyth cân gan fod lot o geisiadau da. Mae’r pedwar ohonom yn cynrychioli gwahanol fathau o gerddoriaeth, felly dwi’n credu fod dipyn o drawsdoriad. Mae na amrywiaeth da, rhywbeth i bawb. Fydd hi’n gystadleuaeth agos iawn dwi’m yn ama gan fod sawl cân yn sefyll allan.”

Yr wyth cân sy’n cystadlu am wobr o £5,000 a’r cyfle i gynrychioli Cymru yn yr Ŵyl Ban-geltaidd eleni yw: Arianrhod gan Beth Celyn; Adref yn ôl gan Tesni Jones; Sara Williams, Roo Walker; Dawnsio’n Rhydd gan Ben Hamer a Rhianna Loren; Pan Fyddai’n 80 Oed gan Rhydian Meilir; Morfa Madryn gan Alistair James; Y Tir a’r Môr gan Rhydian Meilir; Cyn i’r Lleni Gau gan Gruffydd Wyn a Tim Goodcare ac Anochel gan Aled Mills.

Ymhlith yr wyth act bydd sawl wyneb cyfarwydd gyda rhai eisoes wedi cystadlu ac ambell un wedi ymddangos ar Britain’s Got Talent a The Voice. Efallai y bydd rhai o’r caneuon yn gyfarwydd hefyd gan fod BBC Radio Cymru am eu chwarae ac rhoi cyfle cynnar i wrando.

Mae Siôn am eich atgoffa fod ffawd y cystadleuwyr yn eich dwylo chi. “Cofiwch godi’r ffôn a pleidleisio. Neu pam ddim bod yn ran o’r gynulleidfa ar y noson? Ma’n rhad ac am ddim, yr oll sydd angen gwneud yw cysylltu â swyddfa docynnau Canolfan y Celfyddydau ar 01970 623232.”

Os ydych chi am drydar am y gystadleuaeth eleni, cofiwch ddefnyddio’r hashnod #CiG2020. Bydd manylion am sut i bleidleisio yn cael eu cyhoeddi ar y rhaglen, a’r gân fuddugol yn cael ei chyhoeddi yn fyw ar S4C yn hwyrach yn y noson.

Continue Reading

Cymraeg

Effaith trist aflonyddu ar forloi a rhai bach ar arfordir Cymru

Published

on

Gyda mwy o bobl nag erioed yn ymweld â’r parth arfordirol yma yng Nghymru, mae
aflonyddu ar fywyd gwyllt ar gynnydd. Yn ddiweddar, cawsom newyddion trist fod morlo
bach wedi marw ar ôl i’w fam beidio â dychwelyd i’w fwydo yn dilyn achos o aflonyddu a
dychryn gan bobl oedd eisiau tynnu lluniau a ‘selfies’ gyda’r morlo bach.


Yn ystod y tymor magu (rhwng Awst a Rhagfyr) mae’n bosib dewch ar draws morloi bach
gwyn ar draethau neu ar greigiau ar arfordir Cymru – yn aml ar ben eu hunain. Serch hynny
maen debygol bydd y fam ger llaw, felly mae’n hanfodol cadw draw er mwyn iddi allu
ddychwelyd i fwydo’i morlo bach.


Yn ôl Sue Burton, Swyddog yr ACA ar gyfer Sir Benfro Forol “Rhaid cofio bod morloi bach
angen digonedd o ofod personol ag amser er mwyn gorffwys a thyfu. Dim ond am dair
wythnos yn unig caiff y morloi bach eu bwydo gan eu mamau cyn nes bydd yn rhaid iddynt
gofalu am eu hunain. Mae’n hanfodol felly yn ystod yr amser yma eu bod yn cael digonedd o
le heb ymyrraeth. Gall aflonyddu ar forloi arwain at eu marwolaeth”.


Mae’n bwysig iawn cofio bod y creaduriaid eiconig hyfryd yma yn anifeiliaid gwyllt.
Cadwch draw o fywyd gwyllt – Mwynhewch o bell

Continue Reading

Cymraeg

Meddygon teulu dal yma ar gyfer apwyntiadau wyneb yn wyneb

Published

on

Mae meddygon yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro yn atgoffa’u cleifion eu bod yn parhau i gynnig apwyntiadau wyneb yn wyneb i’r rhai sydd angen eu gweld.

Trwy gydol y pandemig, mae meddygfeydd wedi sicrhau bod gwasanaethau hanfodol yn parhau i redeg, gan ddefnyddio ffyrdd arloesol o gyfathrebu â’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.

Erbyn hyn mae llawer o feddygfeydd yn parhau i ddefnyddio ymgynghoriadau ffôn a galwadau fideo lle y bo’n briodol; mae hyn yn rhoi rhyddid i lawer o gleifion siarad â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol (nid o reidrwydd y meddyg teulu) yng nghysur a chyfleustra eu cartrefi eu hunain

Mae gan y rhan fwyaf o feddygfeydd systemau ar-lein megis E-Consult neu Ask My GP, lle gall cleifion ofyn cwestiwn llai brys am eu hiechyd. Gweler gwefan eich meddygfa am fwy o wybodaeth.

Mae Fy Iechyd Ar-lein yn parhau i fod yn opsiwn ar-lein 24/7 ar gyfer archebu presgripsiwn meddyginiaeth rheolaidd – mae wedi’i gynllunio i fod yn gyfleus i gleifion ac yn arbennig o ddefnyddiol i’r rhai sy’n hunan-ynysu neu’n gwarchod. Gall cleifion gofrestru ar gyfer hyn drwy eu meddygfa leol.

Mae system brysbennu dros y ffôn neu ar-lein ar waith yn y rhan fwyaf o  feddygfeydd i sicrhau bod cleifion yn siarad ag aelod clinigol o staff am eu hiechyd.

Os oes angen gweld claf wyneb yn wyneb, bydd y feddygfa’n gwneud apwyntiad â’r gweithiwr gofal iechyd proffesiynol mwyaf priodol i’w anghenion.

Dywedodd Dr Siôn James o Feddygfa Tregaron: “Hoffem atgoffa cleifion bod meddygfeydd teulu yn parhau i fod ar gael i chi. Pan fyddwch yn cysylltu â’ch meddygfa, byddwch yn siarad â’r person mwyaf addas ar gyfer eich cyflwr ac os bydd angen i’ch gweld wyneb yn wyneb, yna rhoddir apwyntiad i chi yn y feddygfa.

Gellir trin llawer o gyflyrau dros y ffôn gyda chyngor ac os oes angen, gellir rhoi presgripsiwn i fferyllfa o’ch dewis. Peidiwch ag osgoi ymofyn triniaeth.

Ar gyfer mân anhwylderau, cofiwch y gallai eich fferyllfa gymunedol helpu.”

Ychwanegodd Fferyllydd Cymunedol, Richard Evans: “Yn draddodiadol mae fferyllwyr Cymunedol wedi cynghori cleifion ar ystod eang o anhwylderau. Rydym bob amser yn argymell triniaethau addas i’r cleifion, neu os oes angen, eu cyfeirio at weithiwr gofal iechyd proffesiynol.

Yn ystod y pandemig hwn, gweinyddu presgripsiynau yw’r prif ffocws o hyd, ond mae gwasanaethau eraill ar gael, megis y Gwasanaeth Anhwylderau Cyffredin, Brysbennu a Thrin, cyflenwi meddyginiaethau mewn argyfwng a dulliau atal cenhedlu brys.

Gellir cael mynediad at y gwasanaethau hyn drwy ymgynghoriad dros y ffôn, gyda’r claf neu ofalwr/aelod o’r teulu yn casglu unrhyw feddyginiaeth angenrheidiol.

Cofiwch archebu unrhyw bresgripsiwn meddyginiaeth rheolaidd mewn pryd cyn i chi ei orffen.”

Yn ychwanegol at y wybodaeth arbenigol broffesiynol a gynigir mewn fferyllfeydd, bydd cleifion cymwys yn gallu derbyn eu brechlyn ffliw rhad ac am ddim yn y mwyafrif o’n fferyllfeydd cymunedol y gaeaf hwn. Am restr lawn o fferyllfeydd sy’n cymryd rhan, cliciwch yma https://biphdd.gig.cymru/gofal-iechyd/gwasanaethau-a-thimau/fferyllfa/brechiadau-y-ffliw-tymhorol/

I gael gwybod pa wasanaethau y mae eich fferyllfa gymunedol yn eu cynnig, ewch i: https://biphdd.gig.cymru/gofal-iechyd/gwasanaethau-a-thimau/fferyllfa/

Mae rheolau cadw pellter cymdeithasol yn parhau ar draws safleoedd gofal sylfaenol er diogelwch cleifion a staff. Bydd gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy’n gweld cleifion wyneb yn wyneb i asesu neu ddarparu triniaeth yn defnyddio’r cyfarpar diogelu personol priodol ac mae sgriniau ar waith mewn rhai cownteri a derbynfeydd

Cofiwch wisgo gorchudd wyneb pan ydych yn ymweld ag unrhyw leoliad gofal iechyd.

Continue Reading

Cymraeg

Lansio cystadleuaeth i enwi adeiladau porthladd hanesyddol

Published

on

Mae gan Ddoc Penfro hanes morwrol cyfoethog, gan ei bod yn dref filwrol ers 150 o
flynyddoedd. Heddiw, mae hen Ddociau’r Llynges Frenhinol yn borthladd masnachol
sydd â dyfodol cyffrous yn y diwydiant ynni adnewyddadwy.


Mae Porthladd Aberdaugleddau yn rhan allweddol o brosiect Ardal Forol Doc Penfro
Bargen Ddinesig Bae Abertawe gwerth £60 miliwn, a fydd yn darparu’r cyfleusterau,
y gwasanaethau a’r gofodau sydd eu hangen i sefydlu canolfan o’r radd flaenaf ar
gyfer ynni morol a pheirianneg. Fel rhan o hyn, mae angen adnewyddu pedwar
rhandy rhestredig Gradd II sy’n sownd yn siediau awyrennau Sunderland er mwyn
eu moderneiddio ar gyfer yr 21ain ganrif a’u cynnig fel gweithleoedd modern hyblyg.
Bydd y gwaith adeiladu’n dechrau ym mis Tachwedd 2021 ac yn ôl yr amserlen bydd
yn cael ei gwblhau erbyn mis Tachwedd 2022.


Heddiw, mae’r Porthladd yn lansio cystadleuaeth i enwi’r pedwar rhandy ac mae’n
gwahodd ceisiadau gan aelodau o’r gymuned. Awgrymir pedair thema: treftadaeth,
dyfodol adnewyddadwy, hanes morol a hanes cymdeithasol, ond croesewir pob
syniad.


Dywedodd Steve Edwards, Cyfarwyddwr Masnachol y Porthladd, “Mae Porthladd
Penfro yn llawn hanes ac rydyn ni am sicrhau ein bod yn cadw’r adeiladau hyn yn
ddiogel fel y gellir eu defnyddio yn y bennod gyffrous nesaf. Mae Ardal Forol Doc
Penfro yn cynnig cyfleoedd enfawr i’r dref yn ogystal â’r rhanbarth cyfan, felly mae’n
bwysig iawn ein bod yn creu llety dymunol fel y gall busnesau sefydlu eu hunain
yma. Rydyn ni am gynnwys y gymuned gyfan yn ein cynlluniau drwy wahodd enwau
cofiadwy gyda chefndir difyr er mwyn ategu’r datblygiadau.”
I gyflwyno eich awgrymiadau, ewch i i www.mhpa.co.uk/naming-competition erbyn
dydd Llun 18 Hydref.


Ariennir Ardal Forol Doc Penfro gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe, Cronfa
Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, a thrwy fuddsoddiad preifat.

Continue Reading

News20 hours ago

Households and businesses off the gas grid to receive energy bill support

£200 energy bill support to begin arriving with households off the gas grid across Great Britain.Businesses using alternative fuels will...

Health22 hours ago

Health unions cancel strikes after Welsh Government’s pay offer

HEALTH unions in Wales postponed strike action due for this week following an improved pay offer from the Welsh Government.This...

News23 hours ago

Huge 13% rise in fire service costs for council taxpayers in mid and west Wales

TAX payers in Mid and West Wales will pay 13% more towards the region’s fire service in 2023-24 compared to...

News2 days ago

Freshwater West cordoned off over night due to ‘item of ordnance’ being found

EMERGENCY SERVICES were called to Freshwater West on Sunday, after a potentially dangerous item was found. The area remained sealed...

News3 days ago

Community backs fundraiser to help injured Pembrokeshire paramedic

OVER six thousand pounds have been raised to support a local paramedic who was badly injured in a road traffic...

News5 days ago

Wales v Ireland travel advice from Transport for Wales

TRANSPORT FOR WALES is offering rugby supporters rail and bus services for Wales’ opening game of the Six Nations against...

Business5 days ago

Planning approved for change of use in Tenby’s ‘drinking quarter’

THE RESTROSPECTIVE planning applications made by Mike Evans were granted approval by national park planners. A former national park member...

News5 days ago

MP’s call for better County rail links to boost tourism

PRESELI MP Stephen Crabb has called on the Welsh Economy Minister Vaughan Gething to improve rail services into Pembrokeshire as...

News6 days ago

Dyfed-Powys police precept to rise by 7.75 per cent

POLICE and Crime Commissioner Dafydd Llywelyn has announced a 7.75 per cent rise in the Dyfed-Powys Police precept for 2023-24,...

Business7 days ago

Ferry staff concerned over rumours Pembroke Dock to Rosslare route coming to an end

CONCERNS are growing amongst Irish Ferries staff operating out of Pembroke Dock as rumours continue to circulate that the company...

Popular This Week