Connect with us
Advertisement
Advertisement

Cymraeg

Cara Fi – cyfres gomedi ramantus newydd sbon ar S4C

Published

on

Nansi tu ol bar Yr Angor: Christine Pritchard.

Nansi tu ol bar Yr Angor: Christine Pritchard.

WRTH I’R NOSWEITHIAU gyrraedd yn gynt a’r gwynt yn dechrau rhuo, daw cyfl e i swatio ar nosweithiau Sul gyda cyfres gomedi ramantus newydd sbon S4C – Cara Fi. Dewch draw i Dretarw i gyfarfod Nancy, Nina, Vic a Dai – dim ond rhai o’r cymeriadau sy’n saff o’ch gwneud chi chwerthin dros y misoedd i ddod. Mae’r hwyl yn dechrau, nos Sul (Tach 9) ar S4C.

“Drama gomedi ydy hon, ac o’r darlleniad cynta’ ro’n i’n gwybod bod y rhain yn gymeriadau o gig a gwaed; does ‘na ddim ystrydebau yma,” meddai Christine Pritchard sy’n chwarae Nancy Hopkins, Landledi tafarn Yr Angor yn Nhretarw. Yn ymuno â Christine i bortreadu trigolion ffraeth Tretarw mae Rhian Jones, Steffan Rhodri, Gareth Pierce, Iwan John, Gaynor Morgan-Rees, Saran Morgan, Gwydion Rhys a llawer mwy. “Mae’r cyfres wedi ei lleoli yn Nhretarw – pentref dychmygol yng nghalon Sir Benfro,” meddai Christine.

“Mae Nancy, sydd wedi ei magu yn y pentref, wedi byw yno ar hyd ei hoes ac yn rhedeg tŷ tafarn yno, yn gweld y lle yn marw o’i chwmpas. Mae’r bobl ifanc, yn enwedig y merched, yn gadael y pentref i chwilio am waith, ac yn sgil hynny does dim llawer o blant yn y pentref ac mae’r ysgol ar fi n cau, felly mae Nancy’n penderfynu bod yn rhaid iddi wneud rhywbeth – mae hi’n gweld ei hun fel tipyn o ‘fi xer’!”

Felly heb ofyn caniatâd y dynion sengl lleol mae Nancy yn rhoi llun o bob un ohonynt ar ochr cartonau llaeth llaethdy Tretarw, ac yn eu hanfon at siopau ledled Cymru a Lloegr, gyda’r un pennawd uwch ben bob un ohonynt – Cara Fi. Er mawr syndod i bawb, mae’n edrych yn debyg bod cynllun Nancy wedi taro deuddeg, a bob wythnos daw merch newydd i Dretarw i chwilio am gariad…neu oes ganddyn nhw gymhelliad arall tybed? Ac er bod Vic, Dai, Brian a’r gweddill wedi bod digon parod i ‘gonan a phipsan’ ar y dechrau, buan iawn maen nhw’n dechrau mwynhau cwmni’r merched sydd wedi eu denu i’r pentref gan y cartonau llaeth.

Mae Sarah Lloyd-Gregory, Lisa Jên Brown a Gwawr Loader ymysg yr actorion sy’n portreadu’r merched sy’n dod i Dretarw. “Mae sefyllfa Tretarw yn un sy’n wir am ardaloedd gwledig ar draws Cymru a Lloegr – y bobl ifanc yn symud i ffwrdd – mae’n bwnc llosg,” meddai Christine, a ddaw o Gaernarfon. “Ond tydi’r gyfres ddim yn pregethu, mae hi’n ffraeth, yn ddoniol ac yn glyfar iawn.

Wrth i ni ffi lmio roedden ni gyd fel actorion yn meddwl ‘waw, mae hon yn dda.” Mae’r gyfres wedi ei ffi lmio yn Aber Bach yn Sir Benfro, ac er ei bod yn dod o’r gogledd ac yn byw yng Nghaerdydd, mae Sir Benfro yn agos iawn at galon Christine. “Mae gen i garafán yno, a dwi’n mynd yno bob cyfl e ga’ i! Ond yr her fawr i mi gyda Cara Fi oedd acen ac iaith Sir Benfro. Er mod i wedi treulio lot o amser yn Sir Benfro, ac mae gen i ffrindiau sy’n byw yno, roedd hi’n andros o anodd ceisio cael y tinc a’r synau arbennig sydd yn iaith Sir Benfro.

Dwi’n gobeithio wir ‘mod i wedi llwyddo!” Siaradodd yr Herald gyda Steffan Rhodri, seren ‘Gavin and Stacey’, sydd yn chware Vic yn Cara Fi, dwedodd e : “Mae’r cyfres yma yn dilys iawn, gyda’r acen ar ynganiad yn lleol i Sir Benfro. Ond hefyd, gyda cymeriadau o rhanau arall Cymru yn y cyfres, mae’n gynhwysol i bobl Cymru i gyd. Ambell waith mae’r ‘wit’ ar goll yn comedi achos y fordd mae o wedi cael ei ysgrifennu. Mae Cara Fi yn ‘fresh’ ac yn ddoniol achos fod y ‘wit’ wedi cael ei ysgrifennu yn naturiol, ac, fel actor mae yn fwy naturiol i’w neud.

Nid ond gomedi ydi hwn, ond mae’r drama sydd ar gael yn Cara Fi yn go iawn. Mae’r themau sydd yn rhedeg yn Cara Fi, nid dim ond am un bennod ond am y gyfres llawn, yn themau sydd yn efeithio pobl Cymru nawr. Mae pobl yn gadael eu cartrefi i chwilio am waith yn Llundain neu Gaerdydd, ac mae hwn yn fater difrifol.” “Mae Cara Fi yn dangos fod actorion Cymraeg yn hapus i ddod nol i weitho trwy’r iaith Gymraeg” dwedodd comisiynwr ddrama S4C Gwawr Lloyd “Nid am yr arain, ond achos fod y sgript mor wych ac mor gryf.” “Achos fod y sgript mor gryf, rydym yn sicr bydd Cara Fi yn poblogaidd i gwylwyr Cymraeg a Saesneg.” Byddwch yn barod am lawer o chwerthin, ychydig o grio, a mwy na digon o gusanu ar Cara Fi.

Continue Reading
Click to comment

Leave a Reply

Your email address will not be published.

Cymraeg

Effaith trist aflonyddu ar forloi a rhai bach ar arfordir Cymru

Published

on

Gyda mwy o bobl nag erioed yn ymweld â’r parth arfordirol yma yng Nghymru, mae
aflonyddu ar fywyd gwyllt ar gynnydd. Yn ddiweddar, cawsom newyddion trist fod morlo
bach wedi marw ar ôl i’w fam beidio â dychwelyd i’w fwydo yn dilyn achos o aflonyddu a
dychryn gan bobl oedd eisiau tynnu lluniau a ‘selfies’ gyda’r morlo bach.


Yn ystod y tymor magu (rhwng Awst a Rhagfyr) mae’n bosib dewch ar draws morloi bach
gwyn ar draethau neu ar greigiau ar arfordir Cymru – yn aml ar ben eu hunain. Serch hynny
maen debygol bydd y fam ger llaw, felly mae’n hanfodol cadw draw er mwyn iddi allu
ddychwelyd i fwydo’i morlo bach.


Yn ôl Sue Burton, Swyddog yr ACA ar gyfer Sir Benfro Forol “Rhaid cofio bod morloi bach
angen digonedd o ofod personol ag amser er mwyn gorffwys a thyfu. Dim ond am dair
wythnos yn unig caiff y morloi bach eu bwydo gan eu mamau cyn nes bydd yn rhaid iddynt
gofalu am eu hunain. Mae’n hanfodol felly yn ystod yr amser yma eu bod yn cael digonedd o
le heb ymyrraeth. Gall aflonyddu ar forloi arwain at eu marwolaeth”.


Mae’n bwysig iawn cofio bod y creaduriaid eiconig hyfryd yma yn anifeiliaid gwyllt.
Cadwch draw o fywyd gwyllt – Mwynhewch o bell

Continue Reading

Cymraeg

Meddygon teulu dal yma ar gyfer apwyntiadau wyneb yn wyneb

Published

on

Mae meddygon yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro yn atgoffa’u cleifion eu bod yn parhau i gynnig apwyntiadau wyneb yn wyneb i’r rhai sydd angen eu gweld.

Trwy gydol y pandemig, mae meddygfeydd wedi sicrhau bod gwasanaethau hanfodol yn parhau i redeg, gan ddefnyddio ffyrdd arloesol o gyfathrebu â’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.

Erbyn hyn mae llawer o feddygfeydd yn parhau i ddefnyddio ymgynghoriadau ffôn a galwadau fideo lle y bo’n briodol; mae hyn yn rhoi rhyddid i lawer o gleifion siarad â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol (nid o reidrwydd y meddyg teulu) yng nghysur a chyfleustra eu cartrefi eu hunain

Mae gan y rhan fwyaf o feddygfeydd systemau ar-lein megis E-Consult neu Ask My GP, lle gall cleifion ofyn cwestiwn llai brys am eu hiechyd. Gweler gwefan eich meddygfa am fwy o wybodaeth.

Mae Fy Iechyd Ar-lein yn parhau i fod yn opsiwn ar-lein 24/7 ar gyfer archebu presgripsiwn meddyginiaeth rheolaidd – mae wedi’i gynllunio i fod yn gyfleus i gleifion ac yn arbennig o ddefnyddiol i’r rhai sy’n hunan-ynysu neu’n gwarchod. Gall cleifion gofrestru ar gyfer hyn drwy eu meddygfa leol.

Mae system brysbennu dros y ffôn neu ar-lein ar waith yn y rhan fwyaf o  feddygfeydd i sicrhau bod cleifion yn siarad ag aelod clinigol o staff am eu hiechyd.

Os oes angen gweld claf wyneb yn wyneb, bydd y feddygfa’n gwneud apwyntiad â’r gweithiwr gofal iechyd proffesiynol mwyaf priodol i’w anghenion.

Dywedodd Dr Siôn James o Feddygfa Tregaron: “Hoffem atgoffa cleifion bod meddygfeydd teulu yn parhau i fod ar gael i chi. Pan fyddwch yn cysylltu â’ch meddygfa, byddwch yn siarad â’r person mwyaf addas ar gyfer eich cyflwr ac os bydd angen i’ch gweld wyneb yn wyneb, yna rhoddir apwyntiad i chi yn y feddygfa.

Gellir trin llawer o gyflyrau dros y ffôn gyda chyngor ac os oes angen, gellir rhoi presgripsiwn i fferyllfa o’ch dewis. Peidiwch ag osgoi ymofyn triniaeth.

Ar gyfer mân anhwylderau, cofiwch y gallai eich fferyllfa gymunedol helpu.”

Ychwanegodd Fferyllydd Cymunedol, Richard Evans: “Yn draddodiadol mae fferyllwyr Cymunedol wedi cynghori cleifion ar ystod eang o anhwylderau. Rydym bob amser yn argymell triniaethau addas i’r cleifion, neu os oes angen, eu cyfeirio at weithiwr gofal iechyd proffesiynol.

Yn ystod y pandemig hwn, gweinyddu presgripsiynau yw’r prif ffocws o hyd, ond mae gwasanaethau eraill ar gael, megis y Gwasanaeth Anhwylderau Cyffredin, Brysbennu a Thrin, cyflenwi meddyginiaethau mewn argyfwng a dulliau atal cenhedlu brys.

Gellir cael mynediad at y gwasanaethau hyn drwy ymgynghoriad dros y ffôn, gyda’r claf neu ofalwr/aelod o’r teulu yn casglu unrhyw feddyginiaeth angenrheidiol.

Cofiwch archebu unrhyw bresgripsiwn meddyginiaeth rheolaidd mewn pryd cyn i chi ei orffen.”

Yn ychwanegol at y wybodaeth arbenigol broffesiynol a gynigir mewn fferyllfeydd, bydd cleifion cymwys yn gallu derbyn eu brechlyn ffliw rhad ac am ddim yn y mwyafrif o’n fferyllfeydd cymunedol y gaeaf hwn. Am restr lawn o fferyllfeydd sy’n cymryd rhan, cliciwch yma https://biphdd.gig.cymru/gofal-iechyd/gwasanaethau-a-thimau/fferyllfa/brechiadau-y-ffliw-tymhorol/

I gael gwybod pa wasanaethau y mae eich fferyllfa gymunedol yn eu cynnig, ewch i: https://biphdd.gig.cymru/gofal-iechyd/gwasanaethau-a-thimau/fferyllfa/

Mae rheolau cadw pellter cymdeithasol yn parhau ar draws safleoedd gofal sylfaenol er diogelwch cleifion a staff. Bydd gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy’n gweld cleifion wyneb yn wyneb i asesu neu ddarparu triniaeth yn defnyddio’r cyfarpar diogelu personol priodol ac mae sgriniau ar waith mewn rhai cownteri a derbynfeydd

Cofiwch wisgo gorchudd wyneb pan ydych yn ymweld ag unrhyw leoliad gofal iechyd.

Continue Reading

Cymraeg

Lansio cystadleuaeth i enwi adeiladau porthladd hanesyddol

Published

on

Mae gan Ddoc Penfro hanes morwrol cyfoethog, gan ei bod yn dref filwrol ers 150 o
flynyddoedd. Heddiw, mae hen Ddociau’r Llynges Frenhinol yn borthladd masnachol
sydd â dyfodol cyffrous yn y diwydiant ynni adnewyddadwy.


Mae Porthladd Aberdaugleddau yn rhan allweddol o brosiect Ardal Forol Doc Penfro
Bargen Ddinesig Bae Abertawe gwerth £60 miliwn, a fydd yn darparu’r cyfleusterau,
y gwasanaethau a’r gofodau sydd eu hangen i sefydlu canolfan o’r radd flaenaf ar
gyfer ynni morol a pheirianneg. Fel rhan o hyn, mae angen adnewyddu pedwar
rhandy rhestredig Gradd II sy’n sownd yn siediau awyrennau Sunderland er mwyn
eu moderneiddio ar gyfer yr 21ain ganrif a’u cynnig fel gweithleoedd modern hyblyg.
Bydd y gwaith adeiladu’n dechrau ym mis Tachwedd 2021 ac yn ôl yr amserlen bydd
yn cael ei gwblhau erbyn mis Tachwedd 2022.


Heddiw, mae’r Porthladd yn lansio cystadleuaeth i enwi’r pedwar rhandy ac mae’n
gwahodd ceisiadau gan aelodau o’r gymuned. Awgrymir pedair thema: treftadaeth,
dyfodol adnewyddadwy, hanes morol a hanes cymdeithasol, ond croesewir pob
syniad.


Dywedodd Steve Edwards, Cyfarwyddwr Masnachol y Porthladd, “Mae Porthladd
Penfro yn llawn hanes ac rydyn ni am sicrhau ein bod yn cadw’r adeiladau hyn yn
ddiogel fel y gellir eu defnyddio yn y bennod gyffrous nesaf. Mae Ardal Forol Doc
Penfro yn cynnig cyfleoedd enfawr i’r dref yn ogystal â’r rhanbarth cyfan, felly mae’n
bwysig iawn ein bod yn creu llety dymunol fel y gall busnesau sefydlu eu hunain
yma. Rydyn ni am gynnwys y gymuned gyfan yn ein cynlluniau drwy wahodd enwau
cofiadwy gyda chefndir difyr er mwyn ategu’r datblygiadau.”
I gyflwyno eich awgrymiadau, ewch i i www.mhpa.co.uk/naming-competition erbyn
dydd Llun 18 Hydref.


Ariennir Ardal Forol Doc Penfro gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe, Cronfa
Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, a thrwy fuddsoddiad preifat.

Continue Reading

HERALD SPECIAL REPORT

News14 hours ago

County lines intensification week sees drug supply disrupted into west Wales

Officers from Dyfed-Powys Police carried out 11 raids during a week of action tackling county lines drug gangs. COUNTY LINES...

News18 hours ago

Pembroke Dock: Pensioner sentenced to 20 years for child sex offences

A PENSIONER from Pembroke Dock has been given an extended sentence of 20 years in prison with a further year...

News23 hours ago

Civil Aviation Authority launches #ShotOnMyDrone competition

THE UK Civil Aviation Authority (CAA) has launched a new photography campaign and competition – #ShotOnMyDrone – to both highlight the amazing images that...

News1 day ago

Police appeal following burglary in Bunkers Hill, Milford Haven

POLICE in Milford Haven are investigating a burglary which occurred sometime between September 24 and October 4 in Bunkers Hill,...

Health1 day ago

Ombudsman slates Health Board

HYWEL DDA UHB failed a mother and son when it abruptly ended support services for individuals with long-term needs. The...

News1 day ago

Milford Haven ‘Seal Hospital’ demolished

A FORMER storage tank that was used for 17 years as a hospital for Seals was demolished yesterday (Thursday, Oct...

News1 day ago

Leaflet to calm fears over A&E downgrade

Health board will explain how to get urgent care for children, as local NHS continues to be under extreme pressure...

News1 day ago

Council in email data protection blunder

A ‘HUMAN ERROR’ is being blamed for a recent data protection blunder at Pembrokeshire County Council after an email which...

News2 days ago

Unprecedented demand on health and social care services in local area

Joint statement by Hywel Dda University Health Board, the Welsh Ambulance Service NHS Trust, Pembrokeshire County Council, Carmarthenshire County Council...

News2 days ago

Child taken to hospital following collision with car outside school

AN EARLY morning collision outside Ysgol Harri Tudor school, Pembroke, has seen a child taken to hospital. The collision happened...

Popular This Week