Connect with us
Advertisement
Advertisement

Cymraeg

Deyrngedau i hanesydd John Davies

Published

on

johndavies2

Mae hanesydd Cymru: John Davies, a fu farw.

MAE ARWEINYDD Plaid Cymru, Leanne Wood AC, wedi rhoi teyrnged i’r hanesydd John Davies, a fu farw.

Dywedodd arweinydd y Blaid fod gwaith John Davies wedi ‘cyflwyno Cymru i’r byd’, ac y bydd ei gyfraniad i fywyd Cymru yn ysbrydoli cenedlaethau i ddod.

Dywedodd Leanne Wood AC: “John oedd un o haneswyr mwyaf ein cenedl, a bu ei gyfraniad i adrodd hanes ein gwlad yn anfesuradwy. Trwy ei waith arloesol a’i gyfraniad at y mudiad cenedlaethol, chwaraeodd ran mewn ffurfio hanes ein cenedl. Mae marwolaeth John yn golled enfawr i Gymru. Ac yntau’n academydd o’r radd flaenaf, fe wnaeth gwaith John ein galluogi i rannu ein hanes, ac yn sgil hyn cafodd gydnabyddiaeth eang a haeddiannol. Rydym yn gyfoethocach gan fod John wedi rhannu ei ddoniau, ei weledigaeth a’i ddoethineb gyda ni. Trwy ei waith ysgrifenedig, cyflwynodd John Gymru i’r byd. Caiff ei gofio fel rhywun a wnaeth helpu ei genedl i ddeall a dathlu ei gorffennol, a magu ei hunanhyder. Roedd John yn storïwr heb ei ail. Mae gen i atgofion melys iawn hefyd o dreulio oriau difyr yng nghwmni John – yn trafod brwdfrydedd ein dau am y Rhondda yn ogystal â’n gobeithion am gynnydd gwleidyddol. Yn dilyn canlyniad refferendwm 1997 ar ddatganoli, aralleiriodd John eiriau William Wordsworth gan ddatgan, ‘bliss is it at this dawn to be alive’ i ddisgrifio ei lawenydd gyda’r canlyniad. Ac eto, i John, doedd hyn ond megis dechrau ar daith y Gymru gyfoes, a gwn, hyd yn oed ym mlynyddoedd olaf ei fywyd, fod ganddo obeithion mawr am ddyfodol ein gwlad. Rydym yn cydymdeimlo gyda theulu a chyfeillion John ar yr adeg drist hon, ond rwy’n gobeithio y byddant yn cael eu cysuro o wybod y bydd gwaith John a’i gyfraniad i fywyd Cymru yn parhau i fod yn addysg ac yn ysbrydoliaeth i bobl Cymru am genedlaethau i ddod.”

John Davies oedd ysgrifennydd cyntaf Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, ac fe drefnodd brotest gyntaf y mudiad ar bont Trefechan ym 1963.

Dywedodd Sel Jones, Is-gadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: “Bu cyfraniad John Davies i’n hiaith, a’r mudiad cenedlaethol yn gyffredinol, yn amhrisiadwy. Athrylith, ysgolhaig, cofnodydd hanes ei bobl oedd a’i draed ar y ddaear. Bydd colled enbyd ar ei ôl. Fel ein hysgrifennydd cyntaf, fe oedd yn gyfrifol am sefydlu ein mudiad; ond, yn bwysicach na hynny, fe ysbrydolodd e genhedlaeth newydd o ymgyrchwyr iaith. Pobl sydd wedi llwyddo i gadw’n hiaith yn fyw. Mae’n cydymdeimlad gyda’i deulu a’i gyfeillion heddiw, ond bydd ein dyled i John Davies – fel ymgyrchwyr iaith ac fel pobl – yn para am byth.”

Meddai Huw Jones, Cadeirydd Awdurdod S4C: “Gofynnwyd i mi unwaith enwi un llyfr Cymraeg y dylai pawb ei ddarllen. Fy ateb oedd ‘Hanes Cymru’ John Davies. Mae’r gyfrol yn glasur, yn ffrwyth dealltwriaeth academaidd ddofn o’r pwnc ond hefyd yn gyflwyniad hawdd-mynd-ato a llithrig ei iaith, ac yr un mor llwyddiannus yn y cyfieithiad Saesneg gwerthfawr a gafwyd maes o law. Mae’n ddarllen hanfodol i unrhyw un sydd am ddeall Cymru. Gwnaeth John Davies gyfraniad anferth i fywyd deallusol a chenedlaethol Cymru yn ail hanner yr ugeinfed ganrif, a dechrau’r ganrif hon. Roedd yn un o sylfaenwyr Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, wrth gwrs, yn warden cynnar dylanwadol ar Neuadd Pantycelyn, yn gyfrannwr lliwgar a gogleisiol i ddegau o raglenni teledu, yn ogystal â bod yn hanesydd academaidd cynhyrchiol uchel ei barch. Fe fydd y bwlch ar ôl ‘Bwlch Llan’ yn un anferth.”

Continue Reading
Click to comment

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Cymraeg

Last ditch plea to HSBC to reverse decision to axe Welsh language phone line

Published

on

AN MS has issued a last ditch plea to HSBC to reverse its “unacceptable” decision to axe its Welsh language phone service.

Llŷr Gruffydd, who represents North Wales in the Senedd, has spoken out as January 15, the date when the phone line is due to come to an end fast approaches.

The Plaid Cymru politician said executives at the baking giant still have an “opportunity to do the right thing”.

HSBC came under fire after politicians were informed of the bank’s decision to axe its Welsh language service by letter on Wednesday, November 8.

The Senedd’s Culture Committee wrote to the corporation accusing it of “contempt” towards Welsh speakers.

It added that its “failure to maintain an approach consistent with its values is considered disingenuous and disturbing”.

The committee also questioned statements made by José Carvalho, HSBC’s head of wealth and personal banking, who spoke in front of it on November 29.

The banker said that the Welsh-language helpline receives around 22 calls a day, and that the bank had ended up “with only 6% of the calls that are coming in being answered in Welsh” by them.

However, the committee hit back saying this indicates a fundamental failure of service by the bank because it means 94% of calls to the service are not being answered in Welsh,.

The Committee said that the “low number of calls” to the line “reflects” the bank’s “inability to provide a functioning and coherent service that meets the needs of its Welsh speaking customers.”

Llŷr Gruffydd said: “HSBC still has an opportunity to do the right thing by reversing its unacceptable and wrongheaded decision to bring its Welsh language phone service to an end.

“Executives at HSBC should remember that many customers use their banking services because of its Welsh language phone service.

“The bank argues that there isn’t sufficient demand for the helpline because it receives 22 calls a day on average.

“But it’s abundantly clear from the data that with only 6% of those calls being answered in Welsh, they’ve not been coming anywhere near to providing an adequate service.

“Phone calls that are made to the helpline in Welsh should be answered in Welsh. It’s no wonder that a lot of Welsh speakers have given up on phoning it.

“Instead of scrapping the service HSBC’s should invest in it properly for at least 12 months, and that includes ensuring that it is well-advertised. Then at the end of that period it could make a much better assessment of demand.

“The bank’s pledge to ‘arrange a call back in Welsh, within 3 working days is astonishingly disrespectful to Welsh speakers, as well as utterly insensitive to the financial pressures some people will face.

“For a significant number of people, accessing their bank through Welsh is not a ‘choice’ as HSBC claimed.

“HSBC say they ‘have confirmed that all customers can bank in English’, which is frankly an attitude that belongs to the last century. It is also untrue, especially for many elderly and vulnerable people.

“There is understandably a huge amount of anger and frustration right across Wales with HSBC’s general attitude towards the Welsh language.

“Recently I was contacted by a constituent who was quite rightly angry because she had been asked by a member of HSBC’s customer care team to resend a Welsh language query in English.

“That is one of many examples of HSBC’s complete and utter disregard for Welsh speakers.

“As a Welsh speaker myself and as a member of the Senedd’s Culture Committee, I share the real sense of frustration that’s out there.

“Many of their customers in Wales have also seen their local branches close over the last decade.

“The impact of this on their older customers is particularly acute, as well as those who don’t have access to digital technology.

“Though HSBC likes to describe itself as the world’s local bank, it is abundantly clear that this is not the case in Wales as it abandons Welsh speakers and abandons our high streets by shutting down local branches.”

Continue Reading

Cymraeg

Ffermwr yn dysgu popeth y mae angen iddo wybod am ffermio modern drwy Cyswllt Ffermio

Published

on

CYFLWYNODD ei rieni ef i ochr ymarferol ‘tir a da byw’ ffermio yn ifanc iawn, ond i Dylan Morgan, a aned yn Sir Gaerfyrddin, Cyswllt Ffermio sy’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r unigolyn yma a raddiodd mewn rheoli adeiladu. Dywedodd Dylan fod Cyswllt Ffermio wedi rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arno i fod y ffermwr ifanc blaengar a hyderus ydyw heddiw.

“A’r peth sy’n wych amdano yw, nad oedd rhaid i mi eistedd trwy oriau o ddarlithoedd theori amaeth am dair blynedd!”

Dywedodd Dylan mai agwedd Cyswllt Ffermio at ei holl wasanaethau hyfforddi a throsglwyddo gwybodaeth yw cyflwyno popeth ar y lefel gywir ar gyfer ffermwyr prysur ond profiadol sy’n gweithio.

“Mae’n ddull o ddysgu ar sail ‘angen gwybod’ sy’n apelio’n fawr ataf gan fy mod yn gallu gwneud lle iddo o amgylch fy nyletswyddau fferm ac ymrwymiadau eraill,” meddai Dylan.

Nid oedd gan Dylan unrhyw fwriad i ddod yn ffermwr pan adawodd Brifysgol Abertawe yn 2011, ond ar ôl ychydig fisoedd yn unig o ffermio’n llawn amser ar fferm bîff a defaid 360 erw ei deulu ger Llanymddyfri, newidiodd ei feddwl yn llwyr.

Roedd yn amlwg yn benderfyniad cywir i’r teulu cyfan ac mae Dylan (32) bellach wedi bod yn ffermio gartref ers bron i un mlynedd ar ddeg.

“Roeddwn i wastad wedi mwynhau helpu gartref pryd bynnag roedd gen i amser rhydd, felly roeddwn i wedi hen arfer ag ochr ymarferol ffermio, ond gan na astudiais i amaethyddiaeth yn y brifysgol, roeddwn i’n teimlo bod yna lawer nad oeddwn i’n ei wybod am iechyd anifeiliaid, pridd a rheoli glaswelltir a’r holl elfennau eraill o ffermio sy’n hanfodol i wella effeithlonrwydd ar y fferm.

“Mae’n hanfodol, fel ffermwyr, fod gan bob un ohonom y wybodaeth sydd ei hangen arnom a systemau yn eu lle i chwarae ein rhan i gadw at y safonau uchaf o les anifeiliaid, cynhyrchu da byw o’r ansawdd uchaf, gan hefyd warchod ein hamgylchedd naturiol a lleihau ein hôl troed carbon.”

Yn gefnogwyr hirdymor gwasanaeth Cynghori Cyswllt Ffermio, a welodd Dylan, ei dad a ffermwyr lleol eraill yn cael cyngor ar faterion yn cynnwys cynllunio rheoli maetholion, archwiliadau carbon a rheoli glaswelltir, mae Dylan yn rhoi llawer o’i amser hamdden i’w ddatblygiad personol.

Gan ddibynnu’n drwm ar ei swyddog datblygu lleol, Alun Bowen, i roi’r wybodaeth ddiweddaraf iddo am yr hyn sydd ar gael, mae Alun wedi cyfeirio Dylan – yn aml yng nghwmni ei dad – at nifer o weithdai iechyd a lles anifeiliaid ar bynciau’n amrywio o ffrwythlondeb y ddiadell a cholledion wyna i wneud y mwyaf o gynhyrchiant buchod sugno, cloffni a rheoli tir. Mae Dylan hefyd wedi dilyn cyrsiau hyfforddi byr â chymhorthdal ac mae’n defnyddio ystod gynhwysfawr y rhaglen o fodiwlau e-ddysgu a ariennir yn llawn yn rheolaidd.

“Mae dysgu ar-lein, mewn cyfnodau byr o 20 munud, gyda chwis ar ddiwedd pob modiwl i sicrhau eich bod wedi cymryd yr holl wybodaeth allweddol i mewn, yn ffordd wych o gynyddu eich gwybodaeth.”

Mae Dylan wedi canolbwyntio’n bennaf ar bynciau iechyd anifeiliaid yn ogystal â rheoli pridd a glaswelltir oherwydd ei fod yn credu’n gryf mewn mabwysiadu agwedd gyfannol at y fferm, gydag ‘arfer gorau ym mhopeth a wnawn’ yn rhan o’u hagenda cynaliadwyedd.

“Diolch i fy ngwybodaeth a sgiliau newydd a thrwy weithredu rhai o’r systemau newydd rydym wedi dysgu amdanynt trwy Cyswllt Ffermio, rydym bellach yn bwydo’r stoc yn llawer mwy effeithlon.

“Mae hyn wedi lleihau ein mewnbynnau’n sylweddol wrth wella perfformiad stoc a chynhyrchiant ac rydym hefyd wedi lleihau lefelau cloffni.”

Mae’r teulu’n sgorio cyflwr y corff yn rheolaidd ac yn meincnodi eu holl stoc ac yn dweud bod cyfrif wyau ysgarthol a phrofi elfennau hybrin trwy Cyswllt Ffermio wedi rhoi gwybodaeth werthfawr iddynt sy’n golygu eu bod wedi lleihau eu dibyniaeth ar driniaethau gwrthlyngyrol drwy fabwysiadu dull wedi’i dargedu’n well.

Gyda’i holl gyflawniadau dysgu wedi’u storio ar-lein yn ei gofnod personol y Storfa Sgiliau, mae Dylan yn dweud bod y system yn ffordd ddefnyddiol o nodi unrhyw feysydd y mae’n dal eisiau dysgu amdanynt.

“Mae ffermio yn ddiwydiant sy’n esblygu ac felly mae angen i ffermwyr o bob cenhedlaeth wybod eu bod yn ddigon gwybodus i wynebu’r cyfleoedd a’r heriau sydd o’u blaenau.”

Mae Cyswllt Ffermio yn cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra Cymru a’i ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

I gael rhagor o wybodaeth am holl wasanaethau cymorth a hyfforddiant Cyswllt Ffermio ewch i https://businesswales.gov.wales/farmingconnect/cy neu ffoniwch eich swyddog datblygu Cyswllt Ffermio lleol.

Continue Reading

Cymraeg

Cyfle gwych i ennill gwobr yn atyniadau Awdurdod y Parc dros benwythnos Dydd Gŵyl Dewi

Published

on

BYDD tri atyniad Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn dosbarthu cennin Pedr i ymwelwyr yn rhad ac am ddim ar 4 a 5 Mawrth eleni i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi.

Bydd gan Gastell Caeriw, Pentref Oes Haearn Castell Henllys ac Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc nifer cyfyngedig o gennin Pedr i’w dosbarthu i bobl sy’n ymweld â’r safleoedd dros benwythnos Dydd Gŵyl Dewi.

Yn ôl y Cynghorydd Di Clements, Cadeirydd Awdurdod y Parc: “Rydyn ni’n annog cynifer â phosib o bobl i ymuno â dathliadau Dydd Gŵyl Dewi, a pha ffordd well o ddathlu diwylliant Cymru yn eich cartref na chael tusw o’r blodau lliwgar yma?

“Bydd y cennin Pedr yn cael eu dosbarthu ar sail y cyntaf i’r felin. Oherwydd mai dim ond nifer cyfyngedig fydd ar gael ar bob safle, byddwn yn annog pobl i ymweld â’r safleoedd cyn gynted â phosib ar 4 neu 5 Mawrth er mwyn manteisio ar y cynnig hwn.”

Bydd Parêd blynyddol y Ddraig hefyd yn cael ei gynnal yn Nhyddewi ddydd Sadwrn 4 Mawrth, gyda chriw o ddisgyblion ysgol ac aelodau gofal yn y gymuned yn gadael Oriel y Parc am 11am.

I gael yr amserau agor, gwybodaeth am y digwyddiad a phrisiau mynediad ar gyfer Castell Caeriw, ewch i www.arfordirpenfro.cymru/castell-caeriw/.

I gael yr amserau agor, gwybodaeth am y digwyddiad a phrisiau mynediad ar gyfer Castell Henllys, ewch i www.arfordirpenfro.cymru/castell-henllys/

I gael yr amserau agor a gwybodaeth am y digwyddiad ar gyfer Oriel y Parc, ewch i www.arfordirpenfro.cymru/oriel-y-parc/.

Continue Reading

News19 hours ago

Police issue update on the search for Luke, missing from Pembroke Dock

POLICE have made the difficult decision to end the search for Luke, following a joint decision by all the agencies...

Entertainment2 days ago

NoFit State Circus set to thrill Pembrokeshire this summer

NoFit State Circus is set to captivate Pembrokeshire once again this summer, as they bring back their thrilling big top...

News3 days ago

Search for missing teenager Luke continues at Pembroke Dock

THE SEARCH for the missing 19-year-old, Luke, continues unabated into its fourth day, with efforts increasingly centred around the waterways...

Crime4 days ago

Estate agents admit health and safety failings following fatal market incident

WEST WALES estate agents J J Morris have appeared before Pembrokeshire law courts charged with failing to discharge general health,...

Crime4 days ago

Pembroke man sent ‘grossly offensive and disgusting’ message to sister

A DISTRICT Judge has described how a Pembroke man sent a ‘disgusting, appalling and grossly offensive’ message to his sister...

News5 days ago

Dragon LNG ‘monitoring’ scrap car blaze in Waterston

A BLAZE has broken out at the Waterston Car Dismantler’s business in Waterston, Milford Haven. Dragon LNG which is situated...

News1 week ago

Major search in the area of The Cleddau Bridge and Hobbs Point

A MULTI-AGENCY rescue response was initiated first thing on Saturday following reports of a person in difficulty in the area...

News1 week ago

Newgale pub fire: Cause undetermined, but ruled accidental

THE MID and West Fire and Rescue Service (MAWWFRS) has recently concluded its investigation into the fire that devastated the...

Sport1 week ago

Jasmine, Lleucu, Carys & Courtney: The Pride of Pembrokeshire

Four rugby players from Pembrokeshire are gearing up to take on Ireland in the Women’s Six Nations this weekend. Jasmine...

Crime1 week ago

Independent inquiry into child sex abuse commissioned by Caldey

WE have reported on this story for years, but in a very significant development this week, Caldey Island Abbey has...

Popular This Week