Connect with us
Advertisement
Advertisement

Cymraeg

Dewch i ddarganfod hanes William Smith a’i fapiau rhyfeddol yn Oriel y Parc

Published

on

‘A Delineation of the Strata of England and Wales, with part of Scotland’: Created in 1815

‘A Delineation of the Strata of England and Wales, with part of Scotland’: Created in 1815

Y DDAEAREG ARBENNIG ac amrywiol yw un o’r rhesymau pam y rhoddwyd statws Parc Cenedlaethol i Arfordir Sir Benfro yn 1952. Ond sut y gwyddom beth sydd o dan ein traed wrth inni gerdded ar hyd y dirwedd anhygoel hon? 

Yr hydref hwn, dewch i ddarganfod hanes William Smith yn Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc. Dyma’r gŵr a ddatblygodd yr hyn sy’n cael ei ystyried y map daearegol go iawn cyntaf o unrhyw wlad.

Bydd Cofnodi’r Creigiau: Mapiau Rhyfeddol William Smith yn cael ei arddangos yn Oriel y Parc tan 26 Mawrth 2017.

Dywedodd Rheolwr Oriel y Parc, Jenn Jones: “Dangosodd mapiau trawiadol Smith y wlad mewn ffordd na welwyd mo’i thebyg o’r blaen. Oherwydd eu bod wedi’u lliwio’n ofalus â llaw, maent heddiw’n cael eu gweld fel gweithiau celf yn eu rhinwedd eu hunain.

“Mae’r mapiau’n dangos daeareg amrywiol Sir Benfro yn glir ac yn taflu rhywfaint o oleuni ar yr hyn sy’n gorwedd o dan y dirwedd a welwn ni yn y Parc Cenedlaethol heddiw.

“Gan sefyll ochr yn ochr ag arddangosfeydd modern, mae’r casgliad hwn yn pontio’r bwlch rhwng y byd celf a’r byd daeareg, gan ddangos sut y mae’r ddau fyd wedi dylanwadu ar ei gilydd.

Dros 200 mlynedd ar ôl cyhoeddi ei waith aruthrol ‘A Delineation of the Strata of England and Wales, with part of Scotland’, mae mapiau Smith, a gafodd eu lliwio’n hyfryd â llaw, yn eiconau yn y byd daeareg.

Mae dau argraffiad gwahanol yn cael eu dangos yn llawn yn yr arddangosfa hon ynghyd â dogfennau unigryw a mapiau llai, i gyd yn portreadu hanes bywyd a gwaith Smith.

Gweddnewidiodd Smith ddealltwriaeth pobl o strata creigiau a chanfod y gellid defnyddio ffosiliau i nodi dilyniannau creigiau. Bu ei waith o yn ddefnyddiol iawn ar gyfer dod o hyd i lo a deunyddiau crai eraill, ar adeg pan oedd y chwyldro diwydiannol yn ei anterth.

Dangoswyd yr arddangosfa hon yn wreiddiol yn yr Arddangosfa Genedlaethol yng Nghaerdydd yn 2015, fel rhan o ddathliadau deucanmlwyddiant William Smith. Diolch i SRK Consulting am ariannu’r gweithgareddau Dysgu.

I gyd-fynd â Cofnodi’r Creigiau, bydd Oriel y Parc hefyd yn arddangos Gwir Liw’r Graig: Celf a Daeareg yn y Brif Oriel.

Bydd yr elfen hon o’r arddangosfa yn cynnwys map wedi ei greu gan Rodney Harris yn ystod ei gyfnod preswyl yn Ysgol Gwyddorau Daear Prifysgol Bryste. Ailgreadigaeth o fap 1815 William Smith yw hwn, a defnyddiodd Harris bigmentau daearegol a gafwyd o samplau cyfatebol o greigiau wedi’u malu’n fân o bob ardal o’r DU. Mae’r map graddfa-lawn hwn yn ddehongliad unigryw ac annisgwyl o wir liwiau tirwedd Prydain.

Bydd map Harris yn cael ei arddangos yn Oriel y Parc, ynghyd â gwaith pedwar artist sydd wedi’u hysbrydoli gan ddeunydd neu natur ddaearegol Arfordir Sir Benfro – Adam Buick, Brendan Stuart Burns, Mike Perry a Graham Sutherland.

Bydd yr arddangosfa hefyd yn cynnwys astudiaeth golchiad inc cynnar a phwysig o Carn Llwyd gan Graham Sutherland. Derbyniodd Amgueddfa Cymru y llun hwn yn ddiweddar fel rhodd gan y Gronfa Gelf er cof am Dennis Farr.

Mae’r gweithiau sy’n cael eu harddangos yn rhoi persbectif newydd, wedi’u hysbrydoli nid gan olygfeydd ond gan ffurfiau a gweadau arwyneb ffisegol y dirwedd – sef lliw y ddaear ei hun.

Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro sy’n berchen ar Oriel y Parc, a dyma gartref Amgueddfa Cymru yn Sir Benfro.

Am ragor o wybodaeth ewch i www.orielyparc.co.uk neu ffoniwch 01437 720392.

Click to comment

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Business

A more connected Wales: Ogi to provide Welsh language support through eero

Published

on

Starting today, Ogi- Wales’s biggest alternative telecoms company- has taken the innovative leap to back the provision of Welsh language on the eero wifi software.

Amazon’s eero delivers fast, reliable and secure wifi to every corner of the home. Using the latest mesh technology, eero brings seamless coverage, whether you’re streaming, gaming, or working from home. The Amazon eero suite of products is available on all Ogi 400, Ogi 500 and Ogi 1Gig packages.

Ogi’s commitment to continuously improving for their Welsh customers is demonstrated through this new partnership. This milestone makes eero one of the few smart home systems to offer Welsh-language support in its mobile app.

Within the eero app, engineers have incorporated familiar Welsh-language terms to further the experience for users.


Speaking about the new feature, Ogi’s Brand Marketing Director, Sarah Vining, said: “Ogi’s mission has always been to provide world-class services that are inherently Welsh.”

“Working with the team at eero, we’re not only bringing cutting-edge technology to Welsh homes but also making it more accessible for our customers, and for users all over Wales too. This partnership reflects our shared vision to make the internet more accessible to everyone.”

“Our mission is to bring fast, reliable, and secure wifi to customers around the world.” said Mark Sieglock, eero EVP, Software and Services. “We’re thrilled to partner with Ogi to add Welsh language support, making the eero app more accessible to Welsh speakers in Wales.”

Welsh language support is now available to all eero users by downloading the latest software update (release 6.47.0)

Continue Reading

Cymraeg

Hybu’r Gymraeg drwy sioe lwyfan

Published

on

Ar faes Eisteddfod yr Urdd heddiw ym Meifod (29 Mai) caiff sioe lwyfan newydd ei dangos a fydd yn hyrwyddo’r Gymraeg i bobl ifanc ledled Cymru. Manon Steffan Ros sydd wedi creu’r sioe Geiriau i gwmni Mewn Cymeriad yn dilyn comisiwn gan Gomisiynydd y Gymraeg.

Bydd y sioe, sydd wedi ei hanelu at bobl ifanc ym mlynyddoedd 7, 8 a 9 ysgolion uwchradd, yn cyd-fynd â phecyn addysg newydd sydd wedi ei ddatblygu gan y Comisiynydd ac a fydd ar gael ar lwyfan addysgol, Hwb.

Yn ôl Manon Steffan Ros, roedd yn braf derbyn y cais i wneud y gwaith hwn er yn un heriol,

“Er mwyn hybu’r Gymraeg i’n pobl ifanc a’u hannog i’w defnyddio mae angen manteisio ar amryw o ffyrdd i wneud hynny. Mae sioe lwyfan, sydd yn mynd mewn i ysgolion, yn gyfle gwych i bwysleisio rôl y Gymraeg yn ein bywydau bob dydd, drwy ddefnyddio cerddoriaeth gyfoes a iaith sydd yn berthnasol iddyn nhw.

“Roedd yn her, serch hynny, i ddatblygu sgript a oedd yn cyfleu yr holl elfennau yma, tra ar yr un pryd yn hyrwyddo’r neges gyffredinol fod angen defnyddio’r Gymraeg er mwyn iddi oroesi.

“Gobeithio bydd y sioe yn gyfrwng i arwain at drafodaeth bellach ymysg pobl ifanc a’u hathrawon am bwysigrwydd y Gymraeg.”

I gyd-fynd â’r sioe, mae pecyn addysg wedi ei greu hefyd sydd yn cynnig amryw ddeunyddiau ar gyfer gwersi. Mae’r pecyn yn cynnwys cyflwyniadau ac atodiadau sydd yn rhannu gwybodaeth am y Gymraeg, ei phwysigrwydd fel sgil mewn bywyd bob dydd, ieithoedd lleiafrifol eraill ar draws y byd, yn ogystal ag egluro rôl Comisiynydd y Gymraeg.

Yn ôl Efa Gruffudd Jones., Comisiynydd y Gymraeg, y gobaith yw fod y gwaith hyn yn ymateb i angen,

“Rwyf wedi nodi yn aml fod plant a phobl ifanc yn flaenoriaeth i fi ac rydym yn gyson yn derbyn ceisiadau gan ysgolion am wybodaeth am ein gwaith. Y nod gyda’r pecyn hwn yw cynnig pecyn ymarferol y gellir dewis gweithgareddau ohono.

“Bydd hefyd, gobeithio, yn gymorth i athrawon a ddisgyblion ddeall yn well, nid yn unig rôl Comisiynydd y Gymraeg ond sefyllfa’r Gymraeg ar lefel genedlaethol a rhyngwladol.

“Gobeithio y caiff ei ddefnyddio’n eang.” 

Un ysgol sydd wedi cael cyfle i weld y sioe eisoes yw Ysgol Bro Hyddgen ym Machynlleth yn nalgylch yr Eisteddfod. Mae Nansi Lloyd yn mlwyddyn 7 ac fe wnaeth fwynhau yn fawr,

“Roedd y sioe yn symud yn gyflym oedd yn grêt ac roeddem i gyd yn meddwl fod y defnydd o gerddoriaeth Gymraeg gyfoes yn dda iawn. Fe wnaeth i fi feddwl am pam mod i’n siarad Cymraeg a phwysleisio pa mor bwysig yw siarad yr iaith yn naturiol bob dydd, ac nid yn yr ysgol yn unig.

“Rwy’n gobeithio mynd i’w gweld eto yn yr Eisteddfod.”

Mae Alaw Jones yn athrawes yn ysgol Bro Hyddgen ac yn gweld gwerth yn y sioe a’r pecyn addysg,

“Mae yn medru bod yn heriol cyflwyno’r Gymraeg yn enwedig mewn oes lle mae cyfryngau cymdeithasol yn chwarae rôl mor flaenllaw yn mywydau pobl ifanc. Roedd y sioe hon yn gyfrwng i arwain ar drafodaeth bellach am y Gymraeg yn ein cymdeithas heddiw a braf oedd gweld ymateb y bobl ifanc i’r sioe.

“Mae’r pecyn addysg yn adnodd defnyddiol a fydd yn ein caniatáu i drafod y Gymraeg mewn cyd-destun ehangach, cyd-destun rhyngwladol, ac yn pwysleisio manteision siarad yr iaith o safbwynt sgil yn y byd gwaith.”

Caiff y sioe, Geiriau¸ ei pherfformio ar stondin Llywodraeth Cymru am 2pm ar ddydd Mercher, 29 Mai a bydd sesiwn holi ac ateb yn dilyn yng nghwmni Efa Gruffudd Jones, Manon Steffan Ros ac Owen Alun sydd yn perfformio’r sioe.

Continue Reading

Cymraeg

Last ditch plea to HSBC to reverse decision to axe Welsh language phone line

Published

on

AN MS has issued a last ditch plea to HSBC to reverse its “unacceptable” decision to axe its Welsh language phone service.

Llŷr Gruffydd, who represents North Wales in the Senedd, has spoken out as January 15, the date when the phone line is due to come to an end fast approaches.

The Plaid Cymru politician said executives at the baking giant still have an “opportunity to do the right thing”.

HSBC came under fire after politicians were informed of the bank’s decision to axe its Welsh language service by letter on Wednesday, November 8.

The Senedd’s Culture Committee wrote to the corporation accusing it of “contempt” towards Welsh speakers.

It added that its “failure to maintain an approach consistent with its values is considered disingenuous and disturbing”.

The committee also questioned statements made by José Carvalho, HSBC’s head of wealth and personal banking, who spoke in front of it on November 29.

The banker said that the Welsh-language helpline receives around 22 calls a day, and that the bank had ended up “with only 6% of the calls that are coming in being answered in Welsh” by them.

However, the committee hit back saying this indicates a fundamental failure of service by the bank because it means 94% of calls to the service are not being answered in Welsh,.

The Committee said that the “low number of calls” to the line “reflects” the bank’s “inability to provide a functioning and coherent service that meets the needs of its Welsh speaking customers.”

Llŷr Gruffydd said: “HSBC still has an opportunity to do the right thing by reversing its unacceptable and wrongheaded decision to bring its Welsh language phone service to an end.

“Executives at HSBC should remember that many customers use their banking services because of its Welsh language phone service.

“The bank argues that there isn’t sufficient demand for the helpline because it receives 22 calls a day on average.

“But it’s abundantly clear from the data that with only 6% of those calls being answered in Welsh, they’ve not been coming anywhere near to providing an adequate service.

“Phone calls that are made to the helpline in Welsh should be answered in Welsh. It’s no wonder that a lot of Welsh speakers have given up on phoning it.

“Instead of scrapping the service HSBC’s should invest in it properly for at least 12 months, and that includes ensuring that it is well-advertised. Then at the end of that period it could make a much better assessment of demand.

“The bank’s pledge to ‘arrange a call back in Welsh, within 3 working days is astonishingly disrespectful to Welsh speakers, as well as utterly insensitive to the financial pressures some people will face.

“For a significant number of people, accessing their bank through Welsh is not a ‘choice’ as HSBC claimed.

“HSBC say they ‘have confirmed that all customers can bank in English’, which is frankly an attitude that belongs to the last century. It is also untrue, especially for many elderly and vulnerable people.

“There is understandably a huge amount of anger and frustration right across Wales with HSBC’s general attitude towards the Welsh language.

“Recently I was contacted by a constituent who was quite rightly angry because she had been asked by a member of HSBC’s customer care team to resend a Welsh language query in English.

“That is one of many examples of HSBC’s complete and utter disregard for Welsh speakers.

“As a Welsh speaker myself and as a member of the Senedd’s Culture Committee, I share the real sense of frustration that’s out there.

“Many of their customers in Wales have also seen their local branches close over the last decade.

“The impact of this on their older customers is particularly acute, as well as those who don’t have access to digital technology.

“Though HSBC likes to describe itself as the world’s local bank, it is abundantly clear that this is not the case in Wales as it abandons Welsh speakers and abandons our high streets by shutting down local branches.”

Continue Reading

Farming2 days ago

Farmers fight back: Inheritance tax row at Welsh Labour conference

THE Welsh Labour conference in Llandudno, Conwy, on Saturday (Nov 16) became the backdrop for a large and impassioned protest...

News2 days ago

Four shouts in busy period for Angle RNLI

AT 10:32am on Friday, November 15, Angle RNLI’s all-weather lifeboat was launched following a Pan Pan call from an 18ft...

Health2 days ago

Eluned Morgan on NHS: ‘I’ve listened, I’ve heard, I’m making it happen’

FIRST Minister Eluned Morgan is set to announce an additional £22 million to tackle NHS waiting lists, bringing the total...

Crime2 days ago

Man jailed for growing £500,000 worth of drugs in Pembroke

A MAN has been jailed after police uncovered a cannabis farm worth up to £500,000 at a former Lloyds Pharmacy...

News4 days ago

Milford Haven man admits to downloading indecent images of children

A MILFORD HAVEN man has been sentenced after admitting to downloading over 1,000 indecent images and videos of children, including...

Business6 days ago

Bristol Trader to temporarily serve menu at the Castle Hotel

The team of a popular riverside pub in Pembrokeshire, devastated by a recent fire, will relocate to a new town...

News7 days ago

Ferry diverts to aid yacht after medical emergency alert in Irish Sea

FISHGUARD RNLI lifeboat launched on Sunday night (Nov 10) after HM Coastguard requested assistance for a 40ft yacht, approximately 28...

Community7 days ago

Those who gave their lives in service honoured at Freshwater West

A REMEMBRANCE service took place at 11:00am on Monday (Nov 11) at Freshwater West Bay, South Pembrokeshire, marking a poignant...

Community1 week ago

Remembrance service honours fallen at Haverfordwest’s war memorial

CROWDS gathered in Salutation Square for a solemn Remembrance Service at the historic Pembrokeshire County War Memorial, paying tribute to...

News2 weeks ago

Large fire at Bramble Hall Farm – Arson suspected

FIREFIGHTERS have brought a large blaze under control at Bramble Hall Farm in Pembroke Dock. The fire broke out in...

Popular This Week