Cymraeg
Tynnu’r stops mas i ddathlu ond . . . . ai dim ond 30 mlynedd sydd ar ôl?

PRIN YW’R CAPELI hynny sy’n dathlu 300 mlynedd eu bodolaeth. Prinnach fyth yw’r capeli rheiny sy’n dathlu cyrraedd y fath garreg fi lltir mewn steil. Ond ma’ pobol Bro’r Preseli yn gw’bod shwt ma’ dathlu, gwlei. Dyna fel o’dd hi yng nghapel Llandeilo, yr Annibynwyr, ar gyrion Maenclochog, yn ddiweddar. Tynnwyd y stops i gyd mas i’r eithaf. Ac nid sôn am stops yr organ wdw i. Gwariwyd yn helaeth ar adnewyddu ac addurno, gosod carpedi newydd, peintio’r nenfwd mewn lliw gwyrdd ysgafn, hongian oriel o gynweinidogion ar y wal a threfnu oedfa urddasol ac i bwrpas.
Gosodwyd y cywair cywir gan y gweinidog, y Parch Ken Thomas, wrth iddo sôn yn ei gyfl wyniad am ragoriaethau ddoe ond ar yr un pryd bwysleisio’r angen i gadw llygad ar anghenion yfory. Cymrwyd at y rhannau arweiniol o ddarllen a gweddïo gan un o’r cyn-weinidogion, y Parch D. Gerald Jones, Llangennech. Fe’i dilynwyd gan ieuenctid yr eglwys yn cyfl wyno dwy gân cyn i’r ysgrifennydd, Eifi on Evans, gyfl wyno braslun o hanes yr achos. Soniodd am y digwyddiad cyffrous hwnnw yn 1836 pan benderfynodd Sgweier Llangolman daro ergyd yn erbyn drws y capel ar ei ffordd adref wedi bod yn hela ar brynhawn Sul. Mae’n debyg ei fod yn anffyddiwr.
Yn ffodus doedd yna fawr o ddifrod i’r drws deri. Rhoddwyd datganiad ysgytwol ar gân gan Eleri Roberts ar ran y fam eglwys yn Henllan Amgoed. Ar ran Tabernacl, Maenclochog, soniodd Denzil Jenkins am ei arfer o ymweld â beddrodau’r teulu yn y fynwent wrth dalcen y capel bob tro y mynycha oedfa yn Llandeilo. Soniodd Awen Evans, ar ran gofalaeth Cymdeithas Bro Cerwyn, am ei hawyddfryd i weld ehangu’r Gymanfa Bwnc fl ynyddol i gynnwys holl gapeli’r ofalaeth. Cynrychioli Capel Rhydwilym, y Bedyddwyr, gerllaw, a wnâi Russell Evans, gan gyfeirio at y pledo diarhebol arferai fod yn Llandeilo adeg y Gymanfa Bwnc slawer dydd. Cafwyd gair gan y Parch Geoffrey Eynon ar ran Cyfundeb Penfro. Daeth cyfarchion wrth y cyn-weinidog, y Parch Ddr.
Cerwyn Davies o Ganada yn gresynu na fedrai fod yn bresennol. Cododd y pregethwr gwadd, y Parch Emyr Gwyn Evans, un o blant yr eglwys a fagwyd ar ffarm Blaensawd, ei destun yn Efengyl Ioan:`Yna synhwyrodd Iesu eu bod am ddod a’i gipio ymaith i’w wneud yn frenin, a chiliodd i’r mynydd eto ar ei ben ei hun`. Roedd ffrwyth ei fyfyrdod yn destun cnoi cil wrth iddo bwysleisio mai da o beth yw cofi o a dathlu ond mai’r dyfodol sy’n ein hwynebu. `Ymlaen mae Cannan` meddai. Cyhoeddwyd y Fendith gan y Parch Llunos Edwards a’r cyfeilyddion oedd Mary Llewellyn a Brenda Williams. Yn ieithwedd y wlad gwnaeth pawb eu gwaith yn ddiffws ddiffwdan. Ond wedi dwy awr o oedfa sionc doedd y dathlu ddim ar ben chwaith.
Ymneilltuwyd i Neuadd Gymunedol Maenclochog i fwynhau gwledd na chafwyd ei rhagorach erioed yn Sycharth. Ma’ Hafwen Thomas yn gw’bod shwt ma’ trefnu gloddest. Sawl dewis o bwdin wedd ‘na gwedwch? Doedd y bar ddim ar agor. Does dim rhaid wrth alcohol i fwynhau pryd o fwyd, i chwedleua, i hiraethu ac i obeithio. Yn gopsi ar y cwbl torrwyd cacen y dathlu gan Gwyneth Phillips, un o aelodau hynaf a ffyddlonaf y capel. Cynhaliwyd pob dim trwy gyfrwng y Gymraeg sydd ynddo’i hun yn ddigwyddiad amheuthun y dyddie rhain. Ond, mewn sobrwydd, tebyg mai dyna’r dathlu mawr diwethaf yn hanes Llandeilo o ystyried nad yw rhif yr aelodaeth yn fwy na thraean o’r hyn a oedd yn ystod ei anterth o rhyw 150.
Wrth gwrs, nid wrth ei rhif mae mesur llwyddiant ac effeithlonrwydd eglwys. Ond gore gyd po fwyaf yw’r nifer er mwyn rhannu’r baich. Wrth sgwrsio wrth y byrdde yr amcangyfrif, o ystyried yr holl ffactore, oedd y byddid yn cloi’r dryse ymhen 30 mlynedd. Nid yw hynny o reidrwydd yn achos wylofain a rhincian dannedd. Mae’r efengyl yn fwy nag adeilad. Fe ddaw yna eto ffurfi e eraill o ymgynnull ac o addoli a hyrwyddo gwaith y Deyrnas. Ond ers oedfa’r dathlu fe fydd yna bum Sul cyn y cynhelir yr oedfa nesaf yn Llandeilo a hynny pan gofi a’r to hŷn am dair oedfa bob Sul yn ddi-feth. `Yng ngŵydd y tri-chanmlwyddiant – yr hiraeth/ a’r her fydd ein ffyniant,` meddai paladr englyn D. Gerald Jones i’r achlysur.
Cymraeg
Welsh language music celebrated in style with more than 1,000 children

AROUND 1,500 children from 31 schools across Pembrokeshire came together to celebrate Dydd Miwsig Cymru/Welsh Language Music Day with four unforgettable gigs filled with live music and entertainment.
Headlining the celebration at the Queen’s Hall, Narberth, was Candelas, one of Wales’ top bands, who delivered an electrifying performance. Pupils also enjoyed a vibrant DJ set from DJ Daf, bringing the Siarter Iaith mascots, Seren a Sbarc, to life with their favourite Welsh music—creating a fun and engaging atmosphere throughout the day.
The event on February 7th was co-organised by Pembrokeshire County Council’s Education Department, as part of their Welsh Language Charter work, and Menter Iaith Sir Benfro, who promote the Welsh language across the county.
Welsh Language Development Officer Catrin Phillips said: “Pembrokeshire pupils embraced the spirit of Dydd Miwsig Cymru, showing that Welsh-language music is not just thriving—it’s louder and prouder than ever!”
Dydd Miwsig Cymru is an annual event dedicated to celebrating and promoting Welsh-language music across Wales and beyond. It aims to inspire people of all ages to explore and enjoy the wealth of music created in Welsh, from traditional folk to rock, pop, and contemporary sounds.

Dathlu cerddoriaeth Gymraeg mewn steil gyda dros 1,000 o blant
Daeth tua 1,500 o blant o 31 o ysgolion ledled Sir Benfro at ei gilydd i ddathlu Dydd Miwsig Cymru mewn pedwar gig bythgofiadwy yn llawn cerddoriaeth fyw ac adloniant.
Yn arwain y dathlu yn Neuadd y Frenhines, Arberth, roedd Candelas, un o fandiau gorau Cymru, a gyflwynodd berfformiad gwefreiddiol. Mwynhaodd y disgyblion set DJ fywiog hefyd gan DJ Daf, gan ddod â masgotiaid y Siarter Iaith, Seren a Sbarc yn fyw gyda’u hoff gerddoriaeth Gymraeg—a chreu awyrgylch hwyliog a difyr drwy gydol y dydd.
Cafodd y digwyddiad ar 7 Chwefror ei gyd-drefnu gan Adran Addysg Cyngor Sir Penfro, fel rhan o’u gwaith Siarter Iaith, a Menter Iaith Sir Benfro, sy’n hyrwyddo’r Gymraeg ar draws y sir.
Dywedodd Catrin Phillips, Swyddog Datblygu’r Gymraeg: “Cofleidiodd disgyblion Sir Benfro ysbryd Dydd Miwsig Cymru, gan ddangos nad ffynnu’n unig mae cerddoriaeth Gymraeg—mae’n fwy amlwg ac yn fwy balch nag erioed!”
Mae Dydd Miwsig Cymru yn ddigwyddiad blynyddol sy’n ymroddedig i ddathlu a hyrwyddo cerddoriaeth Gymraeg ar draws Cymru a thu hwnt. Ei nod yw ysbrydoli pobl o bob oed i archwilio a mwynhau’r cyfoeth o gerddoriaeth sy’n cael ei chreu yn y Gymraeg, o ganu gwerin traddodiadol i roc, pop a chyfoes.
Cymraeg
Welsh speakers drop to shocking lowest percentage in eight years

THE PERCENTAGE of Welsh speakers has fallen to its lowest level in over eight years, with just 27.7% of people in Wales able to speak the language, according to government statistics.
Data from the annual population survey, which covers the year ending 30 September 2024, estimates there are around 851,700 Welsh speakers in Wales. This marks a 1.6% decline compared to the previous year.
Despite the drop, the Welsh government remains resolute in its commitment to increasing the number of Welsh speakers. A spokesperson said: “We are absolutely committed to our goal of having one million Welsh speakers and doubling the daily use of Welsh.”
The ambitious target of one million Welsh speakers by 2050 is measured using census data, rather than the annual population survey.
Census data paints a stark picture
The 2021 census revealed a further decline in Welsh speakers, with only 17.8% of residents—approximately 538,000 people aged three and older—reporting they could speak the language.
Welsh speakers by the numbers
The annual population survey provides further insights:
- Children lead the way: 48.6% of children and young people aged 3 to 15 reported they could speak Welsh, equating to 237,600 individuals. However, this figure has been gradually declining since 2019.
- Regional highs and lows:
- Gwynedd boasts the highest number of Welsh speakers (93,600), followed by Carmarthenshire (93,300) and Cardiff (83,300).
- Blaenau Gwent and Merthyr Tydfil have the fewest Welsh speakers, with 9,500 and 10,600, respectively.
- In percentage terms, Gwynedd (77.9%) and the Isle of Anglesey (63.6%) lead, while Rhondda Cynon Taf (13.9%) and Blaenau Gwent (14%) rank lowest.
How often is Welsh spoken?
Among those who can speak Welsh:
- 13.9% (428,800 people) speak it daily.
- 5.6% (171,300) use it weekly.
- 6.7% (204,700) speak it less often.
- 1.5% (46,500) never speak Welsh despite being able to.
The remaining 72.3% of people in Wales do not speak Welsh at all.
Understanding Welsh
Beyond speaking:
- 32.2% (989,300 people) reported they could understand spoken Welsh.
- 24.4% (751,600) can read Welsh.
- 22.1% (680,100) can write in the language.
Survey sample size questioned
The annual population survey, conducted by the Office for National Statistics (ONS), has faced criticism over falling sample sizes in recent years. However, the ONS confirmed to the BBC that 14,881 responses were used for the Welsh language questions in the latest survey.
The figures underline the challenges facing efforts to revitalize the Welsh language, even as the government strives to meet its ambitious 2050 targets.
Cymraeg
Strategaeth yr iaith Gymraeg dan adolygiad yng nghanol galwadau am gyfeiriad cliriach

MAE SAMUEL KURTZ AS, Ysgrifennydd Cysgodol y Cabinet dros yr Iaith Gymraeg, wedi annog Llywodraeth Cymru i ailfeddwl eu dull o weithredu targed uchelgeisiol Cymraeg 2050 yn sgil pryderon a godwyd mewn adroddiad diweddar gan y Senedd.
Mae strategaeth Cymraeg 2050 yn anelu at sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn canol y ganrif hon, ond mae amheuon wedi cael eu codi am ei hyfywedd. Mae canfyddiadau’r Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc yn tynnu sylw at heriau fel marweiddio yn nifer yr athrawon Cymraeg a gostyngiad yn y defnydd o’r iaith ymhlith pobl ifanc.
Mae Mr Kurtz, sy’n cynrychioli Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, wedi ymuno â’r galwadau i Lywodraeth Cymru ailystyried eu cynlluniau. Dywedodd:
“Mae Ceidwadwyr Cymreig wedi galw ers tro am strategaeth gliriach gan Lywodraeth Cymru i gyflawni eu targed Cymraeg 2050.
“Gyda nifer y siaradwyr Cymraeg yn gostwng dros y ddau ddegawd diwethaf, mae’n hanfodol bod y duedd hon yn cael ei gwrthdroi. O ystyried y marweiddio yn nifer yr athrawon Cymraeg a’r gostyngiad yn y defnydd o’r Gymraeg ymhlith pobl ifanc, mae angen i Lywodraeth Cymru adolygu pam nad yw eu cynlluniau presennol ar gyfer Cymraeg 2050 yn gweithio ac addasu’r cynlluniau angenrheidiol.”
Persbectif Sir Benfro
Yn Sir Benfro, lle mae treftadaeth yr iaith Gymraeg yn ddwfn, mae’r ddadl yn un arwyddocaol iawn. Mae cymunedau lleol wedi gweld llwyddiant amrywiol wrth gynnal Cymraeg. Mae addysg cyfrwng Cymraeg wedi tyfu mewn rhai ardaloedd, gydag ysgolion fel Ysgol Caer Elen yn Hwlffordd yn chwarae rhan hanfodol, ond mae pryderon yn parhau am ei hygyrchedd ledled y sir.
Yn hanesyddol, mae Sir Benfro wedi cael ei hystyried yn ‘ffrynt ieithyddol’, lle mae’r iaith Gymraeg yn cydfodoli â’r Saesneg mewn cydbwysedd cynnil. Mae ardaloedd gwledig wedi dal gafael ar eu traddodiadau ieithyddol, ond mae trefoli a newidiadau demograffig yn peri heriau.
Un mater allweddol yw’r gweithlu addysgu. Heb ddigon o athrawon Cymraeg i ysbrydoli ac addysgu’r genhedlaeth nesaf, mae cyflawni Cymraeg 2050 yn mynd yn fwyfwy anodd. Mae galwadau hefyd wedi bod am fwy o gyfleoedd trochi yn y Gymraeg y tu allan i’r ystafell ddosbarth er mwyn meithrin y defnydd o’r Gymraeg yn y bywyd bob dydd.
Pam mae Cymraeg 2050 yn bwysig
Yng nghanol Cymraeg 2050 mae gweledigaeth i beidio â chadw’r Gymraeg yn unig, ond i’w gwneud yn iaith fyw a llewyrchus. Mae ymgyrchwyr yn dadlau bod strategaeth gadarn yn hanfodol i sicrhau bod yr iaith yn parhau i fod yn berthnasol i genedlaethau’r dyfodol, yn enwedig mewn ardaloedd fel Sir Benfro lle mae treftadaeth ddiwylliannol yn gysylltiedig â’r Gymraeg.
Mae cefnogwyr y targed yn pwysleisio ei botensial i gryfhau hunaniaeth gymunedol ac i roi hwb i gyfleoedd economaidd, o dwristiaeth i ddiwydiannau creadigol, lle mae dwyieithrwydd yn ased sy’n tyfu.
Oes modd ei gyflawni?
Er bod uchelgais Cymraeg 2050 yn cael ei ganmol yn eang, mae cwestiynau yn parhau ynghylch a yw’n gyflawnadwy heb newidiadau sylweddol mewn polisi. Mae’r beirniaid yn dadlau, heb strategaeth gynhwysfawr wedi’i hariannu’n dda sy’n mynd i’r afael ag addysg, seilwaith ac ymgysylltu cymunedol, bod y targed mewn perygl o fod yn ddim mwy na dyhead.
I Sir Benfro, mae’r her yn glir: dathlu a diogelu ei chymunedau Cymraeg tra’n creu cyfleoedd ar gyfer twf ac ymgysylltu â’r Gymraeg i bawb.
Mae galwad Mr Kurtz am weithredu yn ychwanegu at y pwysau cynyddol ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno cynllun sy’n gweithio – nid yn unig ar gyfer nawr, ond ar gyfer cenedlaethau i ddod.
Cymraeg 2050: Iaith ar gyfer y dyfodol
I Sir Benfro a thu hwnt, mae’r blaenoriaeth yn uchel. Mae cyflawni miliwn o siaradwyr Cymraeg yn ymwneud â mwy na niferoedd yn unig – mae’n ymwneud â sicrhau dyfodol lle mae’r iaith yn parhau i fyw a ffynnu, o bentrefi gwledig Gogledd Sir Benfro i strydoedd prysur Aberdaugleddau.
-
Crime14 hours ago
Calls for urgent reform as violence among teens rises in Wales
-
Top News2 days ago
Pembrokeshire man sentenced for driving four times over drink-drive limit
-
News3 days ago
Oil tanker and cargo ship ablaze after collision in North Sea
-
News6 hours ago
Delays to Wales’ tribunal system ‘deeply troubling’
-
News7 days ago
Pembrokeshire Council Tax rise for residents at 9.35% agreed
-
News3 days ago
Pembrokeshire becomes latest council to consider devolution of Crown Estate
-
Crime3 days ago
John Cooper appeal file still under review, but CCRC says process ‘will take time’
-
Farming7 days ago
Plaid Cymru demands pause to ‘destructive’ farm tax