Connect with us
Advertisement
Advertisement

Cymraeg

Yr iaith Gymraeg yn ffynnu ym Mhatagonia

Published

on

Mae tir o lynnoedd a mynyddoedd: Patagonia, lle mae'r iaith Gymraeg yn ffynnu.

Mae tir o lynnoedd a mynyddoedd: Patagonia, lle mae’r iaith Gymraeg
yn ffynnu.

MAE ADRODDIAD yn dangos bod yr iaith Gymraeg yn mynd o nerth i nerth ym Mhatagonia.

Bu cynnydd o 19% ers y llynedd yn nifer y bobl sy’n astudio cyrsiau Cymraeg a chynnydd o 54% yn nifer yr oedolion sy’n dysgu’r iaith.

Mae Adroddiad Monitro Blynyddol 2014 sy’n cael ei weithredu ym Mhatagonia gan British Council Cymru, yn dangos poblogrwydd cynyddol y Gymraeg yn y rhanbarth, gyda’r adroddiad yn dangos fod cynnydd o 19% yn nifer y bobl sy’n dysgu Cymraeg (o blant i oedolion), o 985 yn 2013/14 i 1174 yn 2014/15, sy’n gynnydd o 39% ers 2011.

Mae cynnydd sylweddol yn nifer yr oedolion sy’n dysgu’r iaith gyda 268 o oedolion yn mynychu cyrsiau, cynnydd o 54% eleni a 135% ers 2011. Yn ogystal â’r nifer mwyaf erioed o ddysgwyr, yn 2014 y gwelwyd y nifer mwyaf o ddosbarthiadau Cymraeg yn hanes y prosiect, 90 o ddosbarthiadau i gyd, i fyny o 83 yn 2013 a 79 yn 2012.

Dywedodd Gareth Kiff, monitor academaidd y prosiect ac awdur yr adroddiad: “Mae’r cynnydd yn y niferoedd o bobl o bob oedran sy’n dysgu Cymraeg yn ystod y tair blynedd diwethaf yn dyst i waith caled pawb a fu’n ymwneud â’r prosiect ym Mhatagonia a Chymru. Mae’r niferoedd yn tyfu ymhob categori oedran ac erbyn 2016 dylem gyrraedd sefyllfa lle bydd tair ysgol gynradd ddwyieithog. Gwaith y prosiect yw sicrhau bod gan bobl leol berchnogaeth o fentrau o’r fath a sicrhau bod dyfodol tymor hir i’r iaith Gymraeg ym Mhatagonia. Mae hyn yn digwydd ac o ystyried y swm bychan o arian sydd ar gael i ni, mae’r prosiect yn enghraifft o gost effeithiolrwydd mewn cyfnod o galedi economaidd.”

Dywedodd Jenny Scott, cyfarwyddwr British Council Cymru: “Eleni, rydym yn nodi 150 o flynyddoedd ers i ymsefydlwyr o Gymru gyrraedd Patagonia ac mae’r adroddiad yn dangos yn glir sut y mae Prosiect yr Iaith Gymraeg yn helpu’r iaith i ffynnu yn y rhanbarth. Gobeithio y bydd y flwyddyn o ddathlu yn annog mwy o bobl yng nghymuned Gymraeg Patagonia ac yma yng Nghymru i ddysgu’r iaith. Mae prosiect y British Council, sef Connecting Classrooms hefyd yn helpu i greu cysylltiadau rhwng Cymru a Phatagonia gyda phartneriaeth ar waith rhwng Ysgol Pentreuchaf, ger Pwllheli, ac Ysgol yr Hendre yn Nhrelew, Chubut. Mae Ysgol Feithrin y Gaiman, Chubut ac Ysgol Gymraeg Aberystwyth hefyd yn creu partneriaeth ac mae pâr arall o ysgolion wedi mynegi diddordeb.”

Mae Prosiect yr Iaith Gymraeg wedi bod yn hyrwyddo a datblygu’r iaith Gymraeg yn nhalaith Chubut ym Mhatagonia, yr Ariannin ers 1997. Bob blwyddyn mae tri swyddog datblygu iaith o Gymru yn treulio cyfnod rhwng mis Mawrth a mis Rhagfyr yn dysgu ym Mhatagonia. Maent yn datblygu’r iaith mewn cymunedau sy’n siarad Cymraeg drwy ddysgu a gweithgareddau cymdeithasol.

Continue Reading
Click to comment

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Cymraeg

Last ditch plea to HSBC to reverse decision to axe Welsh language phone line

Published

on

AN MS has issued a last ditch plea to HSBC to reverse its “unacceptable” decision to axe its Welsh language phone service.

Llŷr Gruffydd, who represents North Wales in the Senedd, has spoken out as January 15, the date when the phone line is due to come to an end fast approaches.

The Plaid Cymru politician said executives at the baking giant still have an “opportunity to do the right thing”.

HSBC came under fire after politicians were informed of the bank’s decision to axe its Welsh language service by letter on Wednesday, November 8.

The Senedd’s Culture Committee wrote to the corporation accusing it of “contempt” towards Welsh speakers.

It added that its “failure to maintain an approach consistent with its values is considered disingenuous and disturbing”.

The committee also questioned statements made by José Carvalho, HSBC’s head of wealth and personal banking, who spoke in front of it on November 29.

The banker said that the Welsh-language helpline receives around 22 calls a day, and that the bank had ended up “with only 6% of the calls that are coming in being answered in Welsh” by them.

However, the committee hit back saying this indicates a fundamental failure of service by the bank because it means 94% of calls to the service are not being answered in Welsh,.

The Committee said that the “low number of calls” to the line “reflects” the bank’s “inability to provide a functioning and coherent service that meets the needs of its Welsh speaking customers.”

Llŷr Gruffydd said: “HSBC still has an opportunity to do the right thing by reversing its unacceptable and wrongheaded decision to bring its Welsh language phone service to an end.

“Executives at HSBC should remember that many customers use their banking services because of its Welsh language phone service.

“The bank argues that there isn’t sufficient demand for the helpline because it receives 22 calls a day on average.

“But it’s abundantly clear from the data that with only 6% of those calls being answered in Welsh, they’ve not been coming anywhere near to providing an adequate service.

“Phone calls that are made to the helpline in Welsh should be answered in Welsh. It’s no wonder that a lot of Welsh speakers have given up on phoning it.

“Instead of scrapping the service HSBC’s should invest in it properly for at least 12 months, and that includes ensuring that it is well-advertised. Then at the end of that period it could make a much better assessment of demand.

“The bank’s pledge to ‘arrange a call back in Welsh, within 3 working days is astonishingly disrespectful to Welsh speakers, as well as utterly insensitive to the financial pressures some people will face.

“For a significant number of people, accessing their bank through Welsh is not a ‘choice’ as HSBC claimed.

“HSBC say they ‘have confirmed that all customers can bank in English’, which is frankly an attitude that belongs to the last century. It is also untrue, especially for many elderly and vulnerable people.

“There is understandably a huge amount of anger and frustration right across Wales with HSBC’s general attitude towards the Welsh language.

“Recently I was contacted by a constituent who was quite rightly angry because she had been asked by a member of HSBC’s customer care team to resend a Welsh language query in English.

“That is one of many examples of HSBC’s complete and utter disregard for Welsh speakers.

“As a Welsh speaker myself and as a member of the Senedd’s Culture Committee, I share the real sense of frustration that’s out there.

“Many of their customers in Wales have also seen their local branches close over the last decade.

“The impact of this on their older customers is particularly acute, as well as those who don’t have access to digital technology.

“Though HSBC likes to describe itself as the world’s local bank, it is abundantly clear that this is not the case in Wales as it abandons Welsh speakers and abandons our high streets by shutting down local branches.”

Continue Reading

Cymraeg

Ffermwr yn dysgu popeth y mae angen iddo wybod am ffermio modern drwy Cyswllt Ffermio

Published

on

CYFLWYNODD ei rieni ef i ochr ymarferol ‘tir a da byw’ ffermio yn ifanc iawn, ond i Dylan Morgan, a aned yn Sir Gaerfyrddin, Cyswllt Ffermio sy’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r unigolyn yma a raddiodd mewn rheoli adeiladu. Dywedodd Dylan fod Cyswllt Ffermio wedi rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arno i fod y ffermwr ifanc blaengar a hyderus ydyw heddiw.

“A’r peth sy’n wych amdano yw, nad oedd rhaid i mi eistedd trwy oriau o ddarlithoedd theori amaeth am dair blynedd!”

Dywedodd Dylan mai agwedd Cyswllt Ffermio at ei holl wasanaethau hyfforddi a throsglwyddo gwybodaeth yw cyflwyno popeth ar y lefel gywir ar gyfer ffermwyr prysur ond profiadol sy’n gweithio.

“Mae’n ddull o ddysgu ar sail ‘angen gwybod’ sy’n apelio’n fawr ataf gan fy mod yn gallu gwneud lle iddo o amgylch fy nyletswyddau fferm ac ymrwymiadau eraill,” meddai Dylan.

Nid oedd gan Dylan unrhyw fwriad i ddod yn ffermwr pan adawodd Brifysgol Abertawe yn 2011, ond ar ôl ychydig fisoedd yn unig o ffermio’n llawn amser ar fferm bîff a defaid 360 erw ei deulu ger Llanymddyfri, newidiodd ei feddwl yn llwyr.

Roedd yn amlwg yn benderfyniad cywir i’r teulu cyfan ac mae Dylan (32) bellach wedi bod yn ffermio gartref ers bron i un mlynedd ar ddeg.

“Roeddwn i wastad wedi mwynhau helpu gartref pryd bynnag roedd gen i amser rhydd, felly roeddwn i wedi hen arfer ag ochr ymarferol ffermio, ond gan na astudiais i amaethyddiaeth yn y brifysgol, roeddwn i’n teimlo bod yna lawer nad oeddwn i’n ei wybod am iechyd anifeiliaid, pridd a rheoli glaswelltir a’r holl elfennau eraill o ffermio sy’n hanfodol i wella effeithlonrwydd ar y fferm.

“Mae’n hanfodol, fel ffermwyr, fod gan bob un ohonom y wybodaeth sydd ei hangen arnom a systemau yn eu lle i chwarae ein rhan i gadw at y safonau uchaf o les anifeiliaid, cynhyrchu da byw o’r ansawdd uchaf, gan hefyd warchod ein hamgylchedd naturiol a lleihau ein hôl troed carbon.”

Yn gefnogwyr hirdymor gwasanaeth Cynghori Cyswllt Ffermio, a welodd Dylan, ei dad a ffermwyr lleol eraill yn cael cyngor ar faterion yn cynnwys cynllunio rheoli maetholion, archwiliadau carbon a rheoli glaswelltir, mae Dylan yn rhoi llawer o’i amser hamdden i’w ddatblygiad personol.

Gan ddibynnu’n drwm ar ei swyddog datblygu lleol, Alun Bowen, i roi’r wybodaeth ddiweddaraf iddo am yr hyn sydd ar gael, mae Alun wedi cyfeirio Dylan – yn aml yng nghwmni ei dad – at nifer o weithdai iechyd a lles anifeiliaid ar bynciau’n amrywio o ffrwythlondeb y ddiadell a cholledion wyna i wneud y mwyaf o gynhyrchiant buchod sugno, cloffni a rheoli tir. Mae Dylan hefyd wedi dilyn cyrsiau hyfforddi byr â chymhorthdal ac mae’n defnyddio ystod gynhwysfawr y rhaglen o fodiwlau e-ddysgu a ariennir yn llawn yn rheolaidd.

“Mae dysgu ar-lein, mewn cyfnodau byr o 20 munud, gyda chwis ar ddiwedd pob modiwl i sicrhau eich bod wedi cymryd yr holl wybodaeth allweddol i mewn, yn ffordd wych o gynyddu eich gwybodaeth.”

Mae Dylan wedi canolbwyntio’n bennaf ar bynciau iechyd anifeiliaid yn ogystal â rheoli pridd a glaswelltir oherwydd ei fod yn credu’n gryf mewn mabwysiadu agwedd gyfannol at y fferm, gydag ‘arfer gorau ym mhopeth a wnawn’ yn rhan o’u hagenda cynaliadwyedd.

“Diolch i fy ngwybodaeth a sgiliau newydd a thrwy weithredu rhai o’r systemau newydd rydym wedi dysgu amdanynt trwy Cyswllt Ffermio, rydym bellach yn bwydo’r stoc yn llawer mwy effeithlon.

“Mae hyn wedi lleihau ein mewnbynnau’n sylweddol wrth wella perfformiad stoc a chynhyrchiant ac rydym hefyd wedi lleihau lefelau cloffni.”

Mae’r teulu’n sgorio cyflwr y corff yn rheolaidd ac yn meincnodi eu holl stoc ac yn dweud bod cyfrif wyau ysgarthol a phrofi elfennau hybrin trwy Cyswllt Ffermio wedi rhoi gwybodaeth werthfawr iddynt sy’n golygu eu bod wedi lleihau eu dibyniaeth ar driniaethau gwrthlyngyrol drwy fabwysiadu dull wedi’i dargedu’n well.

Gyda’i holl gyflawniadau dysgu wedi’u storio ar-lein yn ei gofnod personol y Storfa Sgiliau, mae Dylan yn dweud bod y system yn ffordd ddefnyddiol o nodi unrhyw feysydd y mae’n dal eisiau dysgu amdanynt.

“Mae ffermio yn ddiwydiant sy’n esblygu ac felly mae angen i ffermwyr o bob cenhedlaeth wybod eu bod yn ddigon gwybodus i wynebu’r cyfleoedd a’r heriau sydd o’u blaenau.”

Mae Cyswllt Ffermio yn cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra Cymru a’i ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

I gael rhagor o wybodaeth am holl wasanaethau cymorth a hyfforddiant Cyswllt Ffermio ewch i https://businesswales.gov.wales/farmingconnect/cy neu ffoniwch eich swyddog datblygu Cyswllt Ffermio lleol.

Continue Reading

Cymraeg

Cyfle gwych i ennill gwobr yn atyniadau Awdurdod y Parc dros benwythnos Dydd Gŵyl Dewi

Published

on

BYDD tri atyniad Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn dosbarthu cennin Pedr i ymwelwyr yn rhad ac am ddim ar 4 a 5 Mawrth eleni i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi.

Bydd gan Gastell Caeriw, Pentref Oes Haearn Castell Henllys ac Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc nifer cyfyngedig o gennin Pedr i’w dosbarthu i bobl sy’n ymweld â’r safleoedd dros benwythnos Dydd Gŵyl Dewi.

Yn ôl y Cynghorydd Di Clements, Cadeirydd Awdurdod y Parc: “Rydyn ni’n annog cynifer â phosib o bobl i ymuno â dathliadau Dydd Gŵyl Dewi, a pha ffordd well o ddathlu diwylliant Cymru yn eich cartref na chael tusw o’r blodau lliwgar yma?

“Bydd y cennin Pedr yn cael eu dosbarthu ar sail y cyntaf i’r felin. Oherwydd mai dim ond nifer cyfyngedig fydd ar gael ar bob safle, byddwn yn annog pobl i ymweld â’r safleoedd cyn gynted â phosib ar 4 neu 5 Mawrth er mwyn manteisio ar y cynnig hwn.”

Bydd Parêd blynyddol y Ddraig hefyd yn cael ei gynnal yn Nhyddewi ddydd Sadwrn 4 Mawrth, gyda chriw o ddisgyblion ysgol ac aelodau gofal yn y gymuned yn gadael Oriel y Parc am 11am.

I gael yr amserau agor, gwybodaeth am y digwyddiad a phrisiau mynediad ar gyfer Castell Caeriw, ewch i www.arfordirpenfro.cymru/castell-caeriw/.

I gael yr amserau agor, gwybodaeth am y digwyddiad a phrisiau mynediad ar gyfer Castell Henllys, ewch i www.arfordirpenfro.cymru/castell-henllys/

I gael yr amserau agor a gwybodaeth am y digwyddiad ar gyfer Oriel y Parc, ewch i www.arfordirpenfro.cymru/oriel-y-parc/.

Continue Reading

News6 hours ago

Council seeking legal advice to address Withyhedge enforcement

PEMBROKESHIRE County Council says it has sought legal advice and is contemplating legal proceedings against Withyhedge Landfill operators RML, in...

News9 hours ago

Beautiful, funny and lovely: Family pay tribute to Sian Batchelor

THE family of a woman has paid tribute to a “beautiful, funny, lovely person.” Sian Batchelor, aged 32, was found...

Community10 hours ago

Locals’ concern as St Davids scout hut threatened with demolition

THERE is widespread concern over the future of St David’s Scout Hut in Ffynnon Wen, which faces potential closure and...

News1 day ago

Police investigating after woman found dead on beach near Pennar  

DYFED-POWYS POLICE have confirmed they are investigating the death of a woman who was found on a beach near Pennar...

News1 day ago

Police discover body in search for Luke Stephenson, 19

POLICE have confirmed the sad news that they have discovered a body during their search for 19-year-old Luke Stephenson, reported missing from the...

Crime3 days ago

Llandissilio man accused of making hundreds of child abuse images

A 25-YEAR-OLD Llandissilio man has appeared before a District Judge charged with making 258 Category A images of a child....

Community4 days ago

Solemn tributes at Freshwater West for WWII maritime tragedy

IN an emotional gathering at Freshwater West, Pembrokeshire, the public and veterans convened on April 29, to honour the memory...

Community5 days ago

Barley Saturday makes a grand return to Cardigan

ON SATURDAY (Apr 27), the historic town of Cardigan in West Wales is abuzz with excitement as it hosts its...

Community5 days ago

Train disruption expected due to essential works at Clarbeston Road

PASSENGERS are being asked to check before they travel between Carmarthen and Milford Haven/Fishguard Harbour next week when Network Rail...

News5 days ago

Council secures injunction to order removal of waste and scrap

A PEMBROKESHIRE man must remove abandoned cars, scrap and other waste from his land within weeks or face a potential...

Popular This Week