Connect with us
Advertisement
Advertisement

Cymraeg

£500m ar gyfer ysgolion newydd

Published

on

Jane Hutt: Yn bwysig i ‘parhau i wella ansawdd amgylcheddau dysgu’.

Jane Hutt: Yn bwysig i ‘parhau i wella ansawdd amgylcheddau dysgu’.

CYLLID a Gweinidog Busnes Llywodraeth Jane Hutt wedi cyhoeddi £ 500m o fuddsoddiad newydd arloesol ar gyfer y cam nesaf y Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif, gan ddechrau yn 2019. Bwriad Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif yw gwireddu gweledigaeth Llywodraeth Cymru o ddarparu addysg o’r radd fl aenaf mewn lleoliadau o safon fyd-eang i holl ddysgwyr Cymru. Yn ystod dadl yn y cyfarfod llawn ar Gyllideb Ddrafft 2015-16, cadarnhaodd y Gweinidog y byddai’r £500m yn cael ei fuddsoddi drwy’r model buddsoddi nad yw’n dosbarthu elw (NPD), gan ychwanegu at y cynllun NPD yng Nghymru sydd eisoes yn cynnwys ailddatblygu canolfan ganser Felindre a deuoli rhannau 5 a 6 o’r A465.

Bydd cyfnod nesaf Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif – Band B – yn cychwyn ar ôl cwblhau Band A yn 2018-19. Daw’r buddsoddiad newydd hwn yn Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif ar ben y £170m o gyllid arloesol drwy’r Fenter Benthyca Llywodraeth Leol, sydd eisoes yn cyfl ymu Band A y Rhaglen gan ddwy fl ynedd. Ddydd Llun, aeth y Gweinidog Cyllid a’r Gweinidog Addysg ar ymweliad â Chymuned Ddysgu Penarth, sydd wedi cael cyllid o £33.3m gan Lywodraeth Cymru. Mae’r Gymuned Ddysgu yn cynnwys dwy ysgol sydd newydd eu hadeiladu, gyda chyfl euster anghenion addysgol arbennig.

Dywedodd Jane Hutt: “Mae hwn yn fuddsoddiad sylweddol sy’n dangos ein bod ni fel Llywodraeth yn ymrwymedig i gynnig yr amgylchedd dysgu gorau posibl i’n pobl ifanc. Mae Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif yn cynnig canolfannau dysgu modern a chyfoes ac roeddwn i’n arbennig o falch o gael ymweld â Chymuned Ddysgu Penarth i weld sut mae wedi rhagori yn sgil cael buddsoddiad cyfalaf.

Bydd cyfnod nesaf Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif yn cychwyn yn 2019 a bydd gwaith yn dechrau nawr i gynllunio a pharatoi’r ail gyfnod buddsoddi, lle bydd hanner biliwn o bunnoedd ar gael drwy’r model NPD. Byddwn yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i sicrhau ein bod yn cyfl awni’r canlyniadau rydyn ni eisiau eu gweld – sef parhau i wella ansawdd amgylcheddau dysgu gan ddefnyddio’n hasedau yn fwyfwy gofalus ac effeithiol.”

Dywedodd y Gweinidog Addysg Huw Lewis: “Mae ein Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif yn cynnig manteision gwirioneddol i ddysgwyr ym mhob cwr o Gymru a bydd y £500m ychwanegol hwn yn ein galluogi i wneud mwy fyth i wella ysgolion. Mae’r fath fuddsoddiad sylweddol yn y sefyllfa ariannol heriol sydd ohoni yn dangos ein hymrwymiad i gynnig yr amgylchedd cywir a’r safon orau bosibl o addysg i’n dysgwyr, a rhoi eu lles wrth wraidd ein penderfyniadau.” Yn ystod y ddadl yn y cyfarfod llawn, tynnodd y Gweinidog Cyllid sylw at sut mae atal problemau ac ymyrraeth gynnar wrth wraidd cynlluniau gwariant Llywodraeth Cymru ar gyfer 2015-16. Hefyd, tynnodd y Gweinidog sylw at bwysigrwydd mynd i’r afael ag ariannu Cymru.

Ychwanegodd Jane Hutt: “Rydym yn wynebu dewisiadau anoddach bob blwyddyn, a bydd hyn yn parhau wrth i’r polisi o gynni a thoriadau barhau yn y tymor canolig. Dyna pam ei bod yn hanfodol ystyried ar frys y ffordd y mae Cymru’n cael ei hariannu – fel y mae holl bleidiau’r Cynulliad wedi cytuno. Mae ein pleidlais unfrydol o blaid y cynnig yn galw am ddechrau trafodaethau ar unwaith ynghylch ariannu teg, gyda’r nod o osod cyllid gwaelodol yn fuan, yn cyfl eu neges glir ac unedig. Rwy’n edrych ymlaen at gymryd rhan yn y trafodaethau hyn gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig.”

Continue Reading
Click to comment

Leave a Reply

Your email address will not be published.

Cymraeg

Effaith trist aflonyddu ar forloi a rhai bach ar arfordir Cymru

Published

on

Gyda mwy o bobl nag erioed yn ymweld â’r parth arfordirol yma yng Nghymru, mae
aflonyddu ar fywyd gwyllt ar gynnydd. Yn ddiweddar, cawsom newyddion trist fod morlo
bach wedi marw ar ôl i’w fam beidio â dychwelyd i’w fwydo yn dilyn achos o aflonyddu a
dychryn gan bobl oedd eisiau tynnu lluniau a ‘selfies’ gyda’r morlo bach.


Yn ystod y tymor magu (rhwng Awst a Rhagfyr) mae’n bosib dewch ar draws morloi bach
gwyn ar draethau neu ar greigiau ar arfordir Cymru – yn aml ar ben eu hunain. Serch hynny
maen debygol bydd y fam ger llaw, felly mae’n hanfodol cadw draw er mwyn iddi allu
ddychwelyd i fwydo’i morlo bach.


Yn ôl Sue Burton, Swyddog yr ACA ar gyfer Sir Benfro Forol “Rhaid cofio bod morloi bach
angen digonedd o ofod personol ag amser er mwyn gorffwys a thyfu. Dim ond am dair
wythnos yn unig caiff y morloi bach eu bwydo gan eu mamau cyn nes bydd yn rhaid iddynt
gofalu am eu hunain. Mae’n hanfodol felly yn ystod yr amser yma eu bod yn cael digonedd o
le heb ymyrraeth. Gall aflonyddu ar forloi arwain at eu marwolaeth”.


Mae’n bwysig iawn cofio bod y creaduriaid eiconig hyfryd yma yn anifeiliaid gwyllt.
Cadwch draw o fywyd gwyllt – Mwynhewch o bell

Continue Reading

Cymraeg

Meddygon teulu dal yma ar gyfer apwyntiadau wyneb yn wyneb

Published

on

Mae meddygon yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro yn atgoffa’u cleifion eu bod yn parhau i gynnig apwyntiadau wyneb yn wyneb i’r rhai sydd angen eu gweld.

Trwy gydol y pandemig, mae meddygfeydd wedi sicrhau bod gwasanaethau hanfodol yn parhau i redeg, gan ddefnyddio ffyrdd arloesol o gyfathrebu â’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.

Erbyn hyn mae llawer o feddygfeydd yn parhau i ddefnyddio ymgynghoriadau ffôn a galwadau fideo lle y bo’n briodol; mae hyn yn rhoi rhyddid i lawer o gleifion siarad â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol (nid o reidrwydd y meddyg teulu) yng nghysur a chyfleustra eu cartrefi eu hunain

Mae gan y rhan fwyaf o feddygfeydd systemau ar-lein megis E-Consult neu Ask My GP, lle gall cleifion ofyn cwestiwn llai brys am eu hiechyd. Gweler gwefan eich meddygfa am fwy o wybodaeth.

Mae Fy Iechyd Ar-lein yn parhau i fod yn opsiwn ar-lein 24/7 ar gyfer archebu presgripsiwn meddyginiaeth rheolaidd – mae wedi’i gynllunio i fod yn gyfleus i gleifion ac yn arbennig o ddefnyddiol i’r rhai sy’n hunan-ynysu neu’n gwarchod. Gall cleifion gofrestru ar gyfer hyn drwy eu meddygfa leol.

Mae system brysbennu dros y ffôn neu ar-lein ar waith yn y rhan fwyaf o  feddygfeydd i sicrhau bod cleifion yn siarad ag aelod clinigol o staff am eu hiechyd.

Os oes angen gweld claf wyneb yn wyneb, bydd y feddygfa’n gwneud apwyntiad â’r gweithiwr gofal iechyd proffesiynol mwyaf priodol i’w anghenion.

Dywedodd Dr Siôn James o Feddygfa Tregaron: “Hoffem atgoffa cleifion bod meddygfeydd teulu yn parhau i fod ar gael i chi. Pan fyddwch yn cysylltu â’ch meddygfa, byddwch yn siarad â’r person mwyaf addas ar gyfer eich cyflwr ac os bydd angen i’ch gweld wyneb yn wyneb, yna rhoddir apwyntiad i chi yn y feddygfa.

Gellir trin llawer o gyflyrau dros y ffôn gyda chyngor ac os oes angen, gellir rhoi presgripsiwn i fferyllfa o’ch dewis. Peidiwch ag osgoi ymofyn triniaeth.

Ar gyfer mân anhwylderau, cofiwch y gallai eich fferyllfa gymunedol helpu.”

Ychwanegodd Fferyllydd Cymunedol, Richard Evans: “Yn draddodiadol mae fferyllwyr Cymunedol wedi cynghori cleifion ar ystod eang o anhwylderau. Rydym bob amser yn argymell triniaethau addas i’r cleifion, neu os oes angen, eu cyfeirio at weithiwr gofal iechyd proffesiynol.

Yn ystod y pandemig hwn, gweinyddu presgripsiynau yw’r prif ffocws o hyd, ond mae gwasanaethau eraill ar gael, megis y Gwasanaeth Anhwylderau Cyffredin, Brysbennu a Thrin, cyflenwi meddyginiaethau mewn argyfwng a dulliau atal cenhedlu brys.

Gellir cael mynediad at y gwasanaethau hyn drwy ymgynghoriad dros y ffôn, gyda’r claf neu ofalwr/aelod o’r teulu yn casglu unrhyw feddyginiaeth angenrheidiol.

Cofiwch archebu unrhyw bresgripsiwn meddyginiaeth rheolaidd mewn pryd cyn i chi ei orffen.”

Yn ychwanegol at y wybodaeth arbenigol broffesiynol a gynigir mewn fferyllfeydd, bydd cleifion cymwys yn gallu derbyn eu brechlyn ffliw rhad ac am ddim yn y mwyafrif o’n fferyllfeydd cymunedol y gaeaf hwn. Am restr lawn o fferyllfeydd sy’n cymryd rhan, cliciwch yma https://biphdd.gig.cymru/gofal-iechyd/gwasanaethau-a-thimau/fferyllfa/brechiadau-y-ffliw-tymhorol/

I gael gwybod pa wasanaethau y mae eich fferyllfa gymunedol yn eu cynnig, ewch i: https://biphdd.gig.cymru/gofal-iechyd/gwasanaethau-a-thimau/fferyllfa/

Mae rheolau cadw pellter cymdeithasol yn parhau ar draws safleoedd gofal sylfaenol er diogelwch cleifion a staff. Bydd gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy’n gweld cleifion wyneb yn wyneb i asesu neu ddarparu triniaeth yn defnyddio’r cyfarpar diogelu personol priodol ac mae sgriniau ar waith mewn rhai cownteri a derbynfeydd

Cofiwch wisgo gorchudd wyneb pan ydych yn ymweld ag unrhyw leoliad gofal iechyd.

Continue Reading

Cymraeg

Lansio cystadleuaeth i enwi adeiladau porthladd hanesyddol

Published

on

Mae gan Ddoc Penfro hanes morwrol cyfoethog, gan ei bod yn dref filwrol ers 150 o
flynyddoedd. Heddiw, mae hen Ddociau’r Llynges Frenhinol yn borthladd masnachol
sydd â dyfodol cyffrous yn y diwydiant ynni adnewyddadwy.


Mae Porthladd Aberdaugleddau yn rhan allweddol o brosiect Ardal Forol Doc Penfro
Bargen Ddinesig Bae Abertawe gwerth £60 miliwn, a fydd yn darparu’r cyfleusterau,
y gwasanaethau a’r gofodau sydd eu hangen i sefydlu canolfan o’r radd flaenaf ar
gyfer ynni morol a pheirianneg. Fel rhan o hyn, mae angen adnewyddu pedwar
rhandy rhestredig Gradd II sy’n sownd yn siediau awyrennau Sunderland er mwyn
eu moderneiddio ar gyfer yr 21ain ganrif a’u cynnig fel gweithleoedd modern hyblyg.
Bydd y gwaith adeiladu’n dechrau ym mis Tachwedd 2021 ac yn ôl yr amserlen bydd
yn cael ei gwblhau erbyn mis Tachwedd 2022.


Heddiw, mae’r Porthladd yn lansio cystadleuaeth i enwi’r pedwar rhandy ac mae’n
gwahodd ceisiadau gan aelodau o’r gymuned. Awgrymir pedair thema: treftadaeth,
dyfodol adnewyddadwy, hanes morol a hanes cymdeithasol, ond croesewir pob
syniad.


Dywedodd Steve Edwards, Cyfarwyddwr Masnachol y Porthladd, “Mae Porthladd
Penfro yn llawn hanes ac rydyn ni am sicrhau ein bod yn cadw’r adeiladau hyn yn
ddiogel fel y gellir eu defnyddio yn y bennod gyffrous nesaf. Mae Ardal Forol Doc
Penfro yn cynnig cyfleoedd enfawr i’r dref yn ogystal â’r rhanbarth cyfan, felly mae’n
bwysig iawn ein bod yn creu llety dymunol fel y gall busnesau sefydlu eu hunain
yma. Rydyn ni am gynnwys y gymuned gyfan yn ein cynlluniau drwy wahodd enwau
cofiadwy gyda chefndir difyr er mwyn ategu’r datblygiadau.”
I gyflwyno eich awgrymiadau, ewch i i www.mhpa.co.uk/naming-competition erbyn
dydd Llun 18 Hydref.


Ariennir Ardal Forol Doc Penfro gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe, Cronfa
Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, a thrwy fuddsoddiad preifat.

Continue Reading

HERALD SPECIAL REPORT

News3 hours ago

Unprecedented demand on health and social care services in local area

Joint statement by Hywel Dda University Health Board, the Welsh Ambulance Service NHS Trust, Pembrokeshire County Council, Carmarthenshire County Council...

News4 hours ago

Child taken to hospital following collision with car outside school

AN EARLY morning collision outside Ysgol Harri Tudor school, Pembroke, has seen a child taken to hospital. The collision happened...

News1 day ago

‘Exercise caution’ say police following altercation with man ‘living in woods’

POLICE are encouraging the public to ‘exercise caution’ whilst walking in Gwenarth Woods, Little Milford, after multiple reports of an...

News1 day ago

Souper day planned to spruce up Narberth

SEVERAL community groups have come together to plan another spruce up Narberth and to build on the town’s strong community...

Education1 day ago

We Swim Wild brings micro plastic research to the Pembrokeshire Coast

THE PILOT session of Pobl Dwr was filmed for an upcoming episode of ITV’s Coast and Country series with Sean...

News1 day ago

Keep your distance warning as Portuguese Man O’ Wars wash up

BEACH walkers are being advised to keep clear of Portuguese Man o’ Wars that are being reported washed ashore along...

News3 days ago

Garage fire spread to house in Neyland

FIRE CREWS from Haverfordwest, Milford Haven and Pembroke Dock were called to assist with a residential fire in Neyland on...

Health5 days ago

Former director of Withybush says ‘lives will be lost without urgent NHS shake-up’

PEOPLE will die unless there is an urgent shake-up of NHS care, a former emergency medicine director has warned. Dr...

Education5 days ago

County Councillors approve massive investment for Pembrokeshire schools

PEMBROKESHIRE COUNTY COUNCILLORS have this week recognised the need for further significant investment in local schools. The decision was taken...

News5 days ago

Welsh Conservatives pay tribute to murdered MP, Sir David Amess

THE WELSH CONSERVATIVES have released a statement following the murder of serving Member of Parliament, Sir David Amess on Friday...

Popular This Week