Connect with us
Advertisement
Advertisement

Cymraeg

Galwad frys ar blant i gael brechiad ffliw

Published

on

Influenza_Header 2(2)MAE SWYDDOGION iechyd blaenllaw yng Nghymru wedi gwneud galwad frys ar rieni plant dwy, tair a phedair oed i drefnu fod eu plant yn cael eu brechu rhag ffl iw, gan mai un o bob pump yn unig o’r rhai sy’n gymwys sydd wedi cael eu brechu hyd yn hyn. Mae rhai rhieni’n credu nad yw ffl iw yn cael effaith ddifrifol ar eu plant. Fodd bynnag, mae ffi gyrau a gasglwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos, y llynedd, y cafodd cymaint o blant ag o oedolion eu derbyn i’r ysbyty ac unedau gofal dwys. Cafodd cyfanswm o 42 o blant dan 15 oed eu derbyn i’r ysbyty yng Nghymru dros y gaeaf y llynedd, ac roedd chwech ohonynt wedi gorfod cael gofal dwys.

Ar gyfer unigolion 15 oed a throsodd cafodd 42 eu derbyn ac roedd angen gofal dwys ar chwech ohonynt. Dros y gaeaf y llynedd lefelau isel yn unig o ffl iw fu’n cylchredeg yn y gymuned. Mae rhaglen imiwneiddio rhag ffl iw eleni yn cynnig chwistrell trwyn syml i ddiogelu plant ifanc ond nid yw ond yn effeithiol cyn i’r salwch daro. Mae’r brechlyn rhad ac am ddim ar gael gan eich meddyg teulu ar hyn o bryd, ond mae dyddiad dod i ben yr holl stoc ar ddechrau Ionawr – sy’n golygu fod amser yn mynd yn brin i ddiogelu eich plentyn.

Yn ôl yr ystadegau diweddaraf, dim ond un o bob pump o’r 97,655 plentyn dwy, tair a phedair oed sy’n gymwys gafodd eu himiwneiddio hyd yn hyn yng Nghymru – cwta 22%.* Mae Dr Zed Sibanda, paediatregydd ymgynghorol yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn esbonio pam mae hyn yn bryder: “Bydd y brechlyn ffl iw chwistrell trwyn ar gyfer plant dwy i bedair oed yn dechrau dod i ben ynghanol Rhagfyr, felly dylai rhieni sydd heb drefnu i’w plant gael eu brechu eto weithredu yn syth. Mae plant dwy, tair a phedair oed yn wynebu risg arbennig o ddatblygu cymhlethdodau difrifol ffl iw am nifer o resymau. Un ohonynt yw nad yw eu systemau imiwnedd wedi datblygu’n llawn eto, sy’n golygu na allant ymladd ffl iw cystal â phlant hŷn ac oedolion.”

I’r rhan fwyaf o blant iach, mae ffl iw fel arfer yn golygu ychydig ddyddiau difl as gartref yn y gwely, ond dylai rhieni gofi o y gall ffl iw arwain weithiau at gymhlethdodau difrifol, yn enwedig felly i blant ifanc neu bobl a chanddynt broblemau iechyd hirdymor, fel asthma, ac i grwpiau felly gall beryglu eu bywydau. Fel yr esbonia Dr Sibanda: “Nid yw plant ifanc yn gallu deall ac esbonio os ydynt yn dechrau cael symptomau tebyg i ffl iw – sy’n golygu efallai na wneir diagnosis ffl iw tan yn gymharol hwyr o gymharu ag oedolyn fyddai’n gallu asesu eu hiechyd eu hunain yn rhwyddach.

“Golyga hynny fod y plentyn yn fwy tebygol o ddatblygu cymhlethdodau posib ac o ddioddef yn ddiangen. Ond gellir rhwystro hyn oll trwy un daith syml at y meddyg teulu i gael y brechiad chwistrell trwyn.” Mae Dr Richard Roberts, Pennaeth Rhaglen Heintiau y Gellir eu Hatal trwy Frechlyn yn Iechyd Cyhoeddus Cymru, hefyd yn annog pob rhiant i fynd â’u plant dwy i bedair oed at y meddyg teulu cyn gynted â phosib: “Cynigir y brechiad ar ffurf chwistrell trwyn ar gyfer y rhan fwyaf o blant, sy’n golygu nad oes unrhyw bigiadau.

Mae’n gyfl ym, syml ac yn gwbl ddi boen: “Hyd yn oed os yw trwyn plentyn yn rhedeg neu os yw’n tisian yn syth ar ôl cael y chwistrell, fe fyddant wedi’u diogelu o hyd.” Hon yw’r fl wyddyn gyntaf i blant pedair oed gael eu cynnwys yn yr ymgyrch brechu rhag ffl iw dymhorol rad ac am ddim, wedi i blant dwy a thair oed gael eu cyfl wyno y llynedd. Mae hyn yn rhan o raglen fl ynyddol, a’r disgwyl ar ôl ei chyfl wyno’n llawn yw y bydd pob plentyn dwy i un ar bymtheg oed yn cael cynnig y brechlyn bob hydref.

Mae hyn ar ben y grwpiau cymwys eraill fel pobl 65 oed a throsodd, pobl mewn grwpiau ‘risg’ o chwe mis ymlaen a chanddynt gyfl yrau iechyd hirdymor, a phob menyw feichiog. Bob blwyddyn mae’r brechlyn rhag ffl iw yn cael ei newid er mwyn ymateb i unrhyw fathau newydd o’r fi rws ffl iw sy’n cylchredeg. Caiff fi rws y ffl iw ei wasgaru trwy ddiferion sy’n cael eu chwistrellu i’r awyr pan mae person sydd wedi’i heintio yn pesychu neu’n tisian. Mae cyswllt uniongyrchol â dwylo neu arwynebau a heintiwyd hefyd yn gallu gwasgaru’r haint.

Gall ledu’n gyfl ym iawn, yn enwedig felly mewn cymunedau caeedig fel ysbytai, cartrefi preswyl ac, wrth gwrs, grwpiau chwarae. Mae’r rhaglen brechiadau ffl iw fl ynyddol yn ceisio sicrhau bod pawb sydd ei angen yn cael amddiffyniad am ddim bob blwyddyn rhag y ffl iw. Y rheswm yw diogelu unigolion bregus a phobl sy’n wynebu’r risg mwyaf o ddioddef cymhlethdodau difrifol ffl iw. Bob blwyddyn, mae’r pigiad ffl iw ar gael yn rhad ac am ddim i’r grwpiau hyn trwy feddygon teulu a rhai fferyllfeydd cymunedol, ac mae’r rhan fwyaf o blant cymwys yn cael brechlyn chwistrell trwyn gan eu meddyg teulu neu yn yr ysgol os ydynt ym mlwyddyn 7.

Continue Reading
Click to comment

Leave a Reply

Your email address will not be published.

Cymraeg

Academyddion Aberystwyth yng Ngŵyl y Gelli

Published

on

Bydd tri academydd o Brifysgol Aberystwyth ar raglen Gŵyl y Gelli eleni, a ddarlledir am ddim ar-lein o’r Gelli Gandryll o 26 Mai tan 6 Mehefin.

Yn yr ŵyl, fe gyflwynir yr Athro Mererid Hopwood, a ymunodd â Phrifysgol Aberystwyth fel Athro’r Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ym mis Ionawr 2021, yn Gymrawd Rhyngwladol newydd Cymru Greadigol Gŵyl y Gelli.  Ac fe drafodir rhai cwestiynau sy’n berthnasol iawn i’r byd sydd ohoni, yng nghyd-destun pandemig COVID-19, mewn dwy ddarlith a fydd yn cael eu traddodi gan academyddion o Aberystwyth.

Yn ei darlith ‘Women and Leadership’ am 13:00 ddydd Sadwrn 29 Mai, fe fydd y Dr Jenny Mathers o’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yn gofyn a fyddai’r byd yn wahanol – ac yn well – pe bai mwy o fenywod yn dal yr awenau mewn safleoedd arweinyddiaeth.

Mae’r Dr Mathers yn esbonio sail ei darlith:  “Byddaf yn edrych eto ar y pwnc llosg hwn yng nghyd-destun y pandemig byd-eang. Rhywedd yw rhan o’r esboniad am y gwahaniaeth mawr rhwng profiadau COVID Seland Newydd o dan Jacinda Ardern a’r Unol Daleithiau o dan America.  Mae rhai wedi dadlau y gallasai effeithiau Argyfwng Ariannol Byd-Eang 2008 wedi’u lleddfu pe buasai mwy o fenywod wrth fyrddau rheoli’r prif sefydliadau ariannol. Ond mae arweinwyr benywaidd yn dal i fod yn gymharol brin, ac mae’r menywod sy’n arwain llywodraethau a sefydliadau drwy argyfyngau yn cael eu trin yn fwy garw na dynion mewn safleoedd cyfatebol.”
Ddydd Mercher 2 Mehefin, 13:00, bydd y Dr Siobhan Maderson, Cymrawd Ôl-Ddoethurol yr ESRC yn Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, yn siarad am ‘The Great Reset: Co-designing an inclusive, sustainable, post-pandemic future’.

Mae’r Dr Maderson yn esbonio: “Wrth i’r rhaglen frechu at COVID-19 fynd rhagddi, mae llawer ohonom yn dechrau mentro teimlo’n obeithiol am y dyfodol, er ein bod hefyd yn ymwybodol o’r difrod cymdeithasol ac economaidd a achoswyd gan y pandemig. Yn fy narlith arall byddaf yn ystyried sut olwg allai fod yn ar y normal newydd a sut y gellir sicrhau bod yr ailgychwyn yn gweithio er lles pawb – a rhywogaethau eraill – yn yr amgylchedd ehangach. Bydd fy nghyflwyniad yn cloriannu camgymeriadau’r gorffennol, edrych ar fentrau’r presennol ac ystyried gweledigaethau llawn dewrder a dychymyg at y dyfodol.”

Bydd y ddwy ddarlith yn cael eu recordio ymlaen llaw, ac fe fydd y Doethuriaid Mathers a Maderson ill dwy ar gael wrth i’w darlithoedd gael eu darlledu a thoc wedyn i ateb cwestiynau gan y gynulleidfa yn y llif sgwrsio.

Bydd darlith yr Athro Hopwood ddydd Sul 30 Mai yn trafod sut mae’r beirdd wedi dychmygu iaith a sut mae’r dychymyg hwnnw yn ein helpu i ddeall yr elfen hanfodol hon o lenyddiaeth.

Mae’r ysgolhaig o Brifysgol Aberystwyth wedi ennill prif gystadlaethau’r Brifwyl dair gwaith, a hi oedd y fenyw gyntaf i ennill y Gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol, yn 2001. Mae wedi bod yn Fardd Plant Cymru ac wedi ennill gwobr Glyndŵr am ei chyfraniad at lenyddiaeth. Roedd ei chasgliad o farddoniaeth Nes Draw yn fuddugol yng nghategori barddoniaeth Llyfr y Flwyddyn yn 2016.
Dywedodd yr Athro Hopwood: “Fel Cymrawd Rhyngwladol Cymru Greadigol Gŵyl y Gelli eleni, mae’n arbennig o braf gweld yr Ŵyl yn ymestyn nid yn unig dramor ond hefyd yn nes at adref. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at barhau’r drafodaeth ddechreuodd llynedd am ddwyieithrwydd, gan ystyried eleni sut mae llenorion wedi dychmygu iaith ar hyd yr oesoedd.”

Ychwanegodd yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: “A ninnau’n brifysgol sydd ag enw da am ragoriaeth ein gwaith dysgu ac ymchwil, mae gennym lawer o werthoedd cyffredin â Gŵyl y Gelli – yn fan lle y gellir trin a thrafod materion pennaf yr oes.  Mae’n bleser gennym fod yn bartner i Ŵyl y Gelli, 2021, gan barhau â’n perthynas ehangach a fagwyd drwy fentrau megis Taith ‘Scribblers’ Gŵyl y Gelli, ‘Hay Levels’ a’n cynlluniau am ŵyl flynyddol ar y cyd yn yr Hen Goleg yn Aberystwyth ar ôl iddo ailagor tua diwedd 2023.”

Bydd y rhaglen ddigidol o ddigwyddiadau am ddim i Ŵyl y Gelli 2021 yn dod â llenorion a darllenwyr ynghyd am amrywiaeth o sgyrsiau, trafodaethau, gweithdai a pherfformiadau ar-lein, yn llawn ysbrydoliaeth, o ddydd Mercher 26 Mai tan ddydd Sul 6 Mehefin.  I weld y rhaglen lawn o ddigwyddiadau ac i gofrestru ar-lein yn rhad ac am ddim, gweler: www.hayfestival.com

Continue Reading

Cymraeg

Cadeirydd Newydd HCC yn Nodi Blaenoriaethau

Published

on

Yn ei chyfarfod Bwrdd cyntaf fel cadeirydd newydd Hybu Cig Cymru (HCC), mae Catherine Smith wedi nodi blaenoriaethau’r bwrdd ardoll ar gyfer y flwyddyn ariannol newydd.

Yn y cyfarfod – a gynhaliwyd yn rhithiol oherwydd cyfyngiadau COVID – croesawyd dau aelod newydd, sef Jack Evershed ac Emlyn Roberts. Cafwyd ddadansoddiad o ofynion y  defnyddwyr wrth i Brydain ddod allan o’r cyfnod clo, a chadarnhawyd blaenoriaethau’r sefydliad ar gyfer y flwyddyn i ddod.  Hwn oedd cyfarfod cyntaf y Bwrdd ers diwygio’r Ardoll Cig Coch ym mis Ebrill er mwyn rhoi gwell chwarae teg i Gymru.

Mae diwygio’r ardoll, a gyflawnwyd yn sgil y Bil Amaeth yn San Steffan a thrafodaethau rhwng y tair llywodraeth, yn golygu y caiff yr ardoll i gynhyrchwyr ar anifeiliaid sy’n cael eu magu yng Nghymru ond sy’n cael eu lladd dros y ffin ei throsglwyddo i HCC ac na fydd Cymru’n ei cholli.

Dywedodd Catherine Smith: “Roedd diwygio’r Ardoll yn hir ddisgwyliedig, a bydd yn rhoi mwy o dryloywder a thegwch i ffermwyr yma yng Nghymru.

“Mae gennym gynlluniau cyffrous ar gyfer y flwyddyn sy’n dod, pan fyddwn yn adeiladu ar y gwaith cadarnhaol iawn a wnaed gan HCC wrth ymateb yn effeithiol i heriau COVID a Brexit.

“Yn ganolog i’n cynlluniau, mae datblygu’r ymgysylltiad llwyddiannus â’r defnyddwyr a’r gwaith o adeiladu brand sydd wedi gweld cynnydd yng ngwerthiant cig coch dros y flwyddyn ddiwethaf, a Chig Oen Cymru a Chig Eidion Cymru yn cael eu gwerthu gan fwy o fân-werthwyr mawr.

“Rydym hefyd yn bwriadu gweithio’n agos â llywodraethau a’r cyrff sy’n bartneriaid i ni yn Lloegr a’r Alban i sicrhau mynediad i farchnadoedd newydd ar gyfer ein cynhyrchion ac i ddatblygu masnach.

“Yn ogystal, bydd HCC yn rhoi blaenoriaeth uchel iawn i hyrwyddo’r modd rydym yn arwain y byd o ran cynhyrchu cig oen a chig eidion yma yng Nghymru, gan adeiladu ar ein gweledigaeth, ‘Y Ffordd Gymreig’. Ar ben hyn, byddwn yn gwneud gwaith hanfodol, ochr yn ochr â phartneriaid mewn rhannau eraill o Brydain, i amddiffyn a gwella enw da ein diwydiant. Bydd yna gerrig milltir allweddol eleni – fel uwchgynhadledd COP26 yn Glasgow. Mae’n hanfodol bod y cyhoedd yn deall nad yw pob dull o ffermio ledled y byd yr un fath, a bod gennym gyfraniad cadarnhaol i’w wneud tuag at gynaliadwyedd a diogelwch bwyd yn fyd-eang.”

Continue Reading

Cymraeg

Gwersyll yr Urdd Llangrannog fydd cartref Eisteddfod T 2021

Published

on

Mae Urdd Gobaith Cymru yn falch o gyhoeddi mai Gwersyll yr Urdd Llangrannog yng Ngheredigion fydd lleoliad yr ŵyl ddigidol Eisteddfod T eleni, a gynhelir yn ystod hanner tymor y Sulgwyn.

Darlledwyd Eisteddfod T 2020 o stiwdio dros dro yng Ngwersyll yr Urdd Caerdydd. Eleni, mae’r Urdd yn addo gŵyl ddigidol fwy arloesol fyth o gael darlledu Eisteddfod T o stiwdio arbennig yng Ngwersyll yr Urdd Llangrannog. Cynhelir yr ŵyl yn ystod wythnos arferol yr Eisteddfod, sef o ddydd Llun, 31 Mai hyd at ddydd Gwener, 4 Mehefin.

Yn wahanol i’r llynedd, bwriedir cynnal prif seremonïau Eisteddfod T ar leoliad yng Ngwersyll Llangrannog, a hynny o fewn cyfyngiadau Covid-19, ac mae’r trefnwyr wedi llwyddo i ail-recordio perfformiadau rhai unigolion mewn stiwdios darlledu.

Meddai Siân Eirian, Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd a’r Celfyddydau: “Hoffwn ddiolch o galon i’r 12,000 sydd wedi cystadlu yn Eisteddfod T y tro hwn – sy’n ddwbl niferoedd llynedd. O Fôn i Fynwy ac o Drelew i Dubai, mae’r ymateb wedi bod yn syfrdanol.

“Mi ydan ni fel trefnwyr mor falch mai Gwersyll yr Urdd Llangrannog fydd cartref Eisteddfod T eleni. Mae’r ganolfan yn lleoliad eiconig yng Nghymru, a gwerth cenedlaethau o atgofion melys yn perthyn i’r lle. Bydd medru cynnal prif seremonïau’r ŵyl yno yn fonws, hefyd.”

Dywedodd Eifion Evans, Prif Weithredwr Cyngor Sir Ceredigion: “Rydym yn croesawu Eisteddfod T yma i Geredigion gyda balchder a hyder y cawn wythnos o gystadlu brwd a diogel. Mae’r Gwersyll yn Llangrannog yn adnodd hynod o bwysig i’r mudiad ac i ni yng Ngheredigion, a braf iawn yw gweld yr Urdd yn gwneud defnydd o’r Gwersyll mewn ffordd greadigol i hybu adloniant i blant a phobl ifanc Cymru. Mae’r Cyngor Sir a’r Mudiad wedi gweithio’n agos iawn dros y misoedd diwethaf i sicrhau trefniadau a fydd yn boddhau gofynion a rheolau Covid-19 yn llawn. Edrychwn ymlaen yn fawr i weld y wledd o gystadlu a mwynhau dros wythnos yr Eisteddfod.”

Meddai Lowri Jones, Cyfarwyddwr Gwersyll yr Urdd Llangrannog: “Mi fydd hi’n bleser croesawu cyflwynwyr a chriw ffilmio Eisteddfod T i’r gwersyll, a chael cynnig Bae Ceredigion yn gefndir i wythnos llawn bwrlwm a hwyl.”

Continue Reading
News9 hours ago

Plan to rescue rare butterfly from extinction in Pembrokeshire

THE PEMBROKESHIRE Coast National Park Authority is stepping up efforts to save the marsh fritillary butterfly, which was once widespread...

News9 hours ago

Santander turns away customers due to nationwide computer glitch

CUSTOMERS of Santander in Haverfordwest were being turned away this morning by branch staff saying that they were unable to...

News2 days ago

Cllr Mike James is new Chairman of Pembrokeshire County Council

PEMBROKESHIRE COUNTY COUNCIL has a new Chairman. Cllr Mike James became Chairman at the virtual Annual Meeting of Council today...

News2 days ago

New international travel rules for Wales confirmed by First Minister

International travel will restart for people in Wales from Monday 17 May, the Welsh Government has confirmed today. As part...

News2 days ago

Permit applications open for Tenby pedestrianisation scheme

PEMBROKESHIRE COUNTY COUNCIL is now accepting applications for vehicle access during this year’s Pedestrianisation of Tenby. The scheme, which is...

News4 days ago

Public engagement exercise over new hospital between St Clears and Narberth

HYWEL DDA is asking the people of Pembrokeshire to help it further shape and deliver future services by taking part...

News4 days ago

Police looking for a couple with a dog after teenage girl bitten in Haverfordwest

POLICE hunting for the owners of a ‘pitbull’ type dog which bit a teenage girl in Haverfordwest last month. Dyfed-Powys...

Business5 days ago

An experimental nuclear fusion reactor could be built in Pembrokeshire

PEMBROKESHIRE could be the location of an experimental nuclear fusion reactor, which could produce abundent clean energy, if the council...

News5 days ago

Graffiti damages area of scientific and historical interest in Pembrokeshire

GRAFFITI painted on stones of historical and environmental importance at Pembrokeshire Coast National Park has caused environmental damage that could...

News6 days ago

Plaid’s Dafydd Llywelyn re-elected as Police and Crime Commissioner

THE NEW Police and Crime Commissioner for the Dyfed Powys Area has been announced. Incumbent, Dafydd Llywelyn, of Plaid Cymru...

Popular This Week