Cymraeg
Sêr disglair y Nadolig yn arwain at Y Gwyll ar S4C


Catrin Finch: Concerto Hedd Wyn
BYDD rhifyn arbennig hirddisgwyliedig o’r gyfres dditectif lwyddiannus ‘Y Gwyll/Hinterland’ ar Ddydd Calan ar S4C yn un o uchafbwyntiau amserlen Nadolig sy’n llawn perfformiadau gwreiddiol, gafaelgar gan rai o sêr mwyaf y byd adloniant yng Nghymru. Bydd Richard Harrington, yr actor tu ôl i gymeriad DCI Mathias yn y gyfres dditectif, yn un o blith nifer o artistiaid bydenwog ar y sianel dros yr ŵyl, gyda Rhys Ifans, Charlotte Church, Bryn Terfel, Wynne Evans, Only Men Aloud, Karl Jenkins a Catrin Finch ymhlith y sêr rhyngwladol eraill sy’n rhan o arlwy’r sianel dros yr ŵyl. Mae S4C yn lansio ei hamserlen Nadolig, wedi ei lapio â dramâu, perfformiadau penigamp mewn rhaglenni adloniant a cherddoriaeth, rhaglenni dogfen am bobl eithriadol, chwaraeon yr ŵyl ac oriau o raglenni safonol i blant a phobl ifanc.
Meddai Dafydd Rhys, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C, “Mae’r Nadolig yn adeg gystadleuol iawn o’r flwyddyn ar y teledu, ond mae gennym amserlen all herio’r gorau sy’n rhoi llwyfan i rai o dalentau mwyaf ein gwlad greadigol ni. “Un o’r uchafbwyntiau mwyaf yw’r darllediad cyntaf o bennod newydd ‘Y Gwyll/Hinterland’ ar Ddydd Calan, rhaglen sy’n helpu i roi S4C a Chymru ar y map. A gyda S4C yn awr ar gael ar gynifer o blatfformau, gan gynnwys y BBC iPlayer, bydd modd i chi fwynhau’r rhaglen ble bynnag y byddwch chi yn y Deyrnas Unedig ar 1 Ionawr.
“Ond wrth arwain at y bennod arbennig o ‘Y Gwyll/Hinterland’ ddydd Calan, bydd rhaglenni’r Nadolig yn cynnig adloniant, drama, chwaraeon a rhaglenni ffeithiol i’w cofio. Gyda sêr rhif y gwlith yn addurno’n hamserlen – bydd hi’n Nadolig disglair ar S4C.” Yn arwain yr ymgyrch Nadolig mae Robin Goch S4C, sef robin frongoch eiconig animeiddiedig y sianel yn amlygu amserlen o raglenni cyffrous. Gallwch ei ddilyn ar yr ymgyrch arlein ac ar Twitter, @RobinGochS4C ac ar Facebook.
Ac os gwelwch robin yn eich gardd neu o gwmpas y lle, ychwanegwch farc ar ein map rhyngweithiol a gorchuddio Cymru gyfan â robins coch! Bydd DCI Tom Mathias a’r tîm yn ôl yn y gyfres dditectif ‘Y Gwyll/Hinterland’ a leolir yn ardal Aberystwyth, Ceredigion, i archwilio i achos o dân bwriadol yn ogystal â stori am dor calon a cholled wrth inni ddarganfod mwy am fywyd a hanes y ditectif. Fe fydd y bennod arbennig yn sicr yn flas o’r hyn sydd i ddod yn yr ail gyfres yn hwyrach yn y flwyddyn. Mae misoedd wedi mynd heibio ers i Mathias gefnu ar ei waith o dan amgylchiadau trasig. Gyda’i gariad wedi marw a gwaed ar ei ddwylo, mae ei holl ddyfodol yn y fantol. Mae ei yrfa yn deilchion, ond mae’r Prif Uwcharolygydd Prosser yn dal i gredu ynddo ac yn ei alw yn ôl i’w waith. Mae gwledd ddrama S4C hefyd yn cynnwys yr addasiad ffilm gyntaf o ‘Under Milk Wood’ ers dros 40 mlynedd, wrth i’r sianel ddarlledu’r fersiwn Gymraeg ‘Dan y Wenallt’ ar 27 Rhagfyr.
Gyda Rhys Ifans fel Y Llais Cyntaf a Chapten Cat a Charlotte Church fel Polly Gardis bydd dehongliad swreal a nwydus newydd y cyfarwyddwr Kevin Allen o addasiad Cymraeg, T James Jones yn taflu goleuni newydd ar ddrama radio Dylan Thomas. Bydd rhifynnau Nadoligaidd o ‘Pobol y Cwm’ a ‘Rownd a Rownd’ hefyd yn ddigon i dynnu dŵr o’r dannedd. Mae dawn gerddorol Cymru yn gwneud i’r byd i wrando a byddwn yn gwerthfawrogi pam mewn rhaglenni Nadolig arbennig gyda’r tenor Wynne Evans, sy’n enwog am lawer mwy o resymau na chymeriad Gio Compario yn ‘Nadolig Wynne’ ar 20 Rhagfyr.
Yna bydd y basbariton bydenwog Bryn Terfel yn dod â gwledd o garolau gwerin draddodiadol ar Ddydd Nadolig a ffilmiwyd yn Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan. Yn ogystal, mae’r cantorion enwog Only Men Aloud yn eu hôl gyda dwy raglen arbennig. Bydd ‘Only Men Aloud: Y Bois ar Enlli’ yn dilyn pererindod y bois i Ynys Enlli ar Noswyl y Nadolig, ac yna cawn fwynhau eu perfformiadau lliwgar yn ‘Only Men Aloud: Y Sioe’ ar Ddydd Nadolig. Yn hoff o gerddoriaeth glasurol?
Yna, byddwch yn siŵr o fwynhau’r perfformiad cyntaf o ddarn o waith newydd Karl Jenkins a choncerto Catrin Finch fel teyrnged i’r rhai a gollodd eu bywyd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf yn ‘Catrin Finch: Concerto Hedd Wyn’. Nid yw’r tymor o ewyllys da yn ymestyn i’r caeau chwarae rygbi a phêldroed gyda darllediadau byw o’r ddwy gêm dderbi Pro 12 rhwng y Gweilch a’r Scarlets yn ‘Clwb Rygbi’ a’r holl gyffro o Uwch Gynghrair pêldroed Cymru yn ‘Clwb’.
Daw straeon o fyd y campau ac o’r galon ynghyd mewn portread gonest a gafaelgar o’r darlledwr a sylwebydd Huw Llywelyn Davies tra bod stori ddirdynnol i’w hadrodd yn y gyfres ‘Gohebwyr’ wrth i John Stevenson olrhain hanes newyddiadurwyr am fywyd a marwolaeth ffotograffydd i’r wasg Ian Parry. Ac mae digon o le ar ôl i fyd natur wrth i’r naturiaethwr Iolo Williams fynd ar drywydd bywyd gwyllt y Nadolig yn ‘Natur Nadolig Iolo’.
Cymraeg
Welsh language music celebrated in style with more than 1,000 children

AROUND 1,500 children from 31 schools across Pembrokeshire came together to celebrate Dydd Miwsig Cymru/Welsh Language Music Day with four unforgettable gigs filled with live music and entertainment.
Headlining the celebration at the Queen’s Hall, Narberth, was Candelas, one of Wales’ top bands, who delivered an electrifying performance. Pupils also enjoyed a vibrant DJ set from DJ Daf, bringing the Siarter Iaith mascots, Seren a Sbarc, to life with their favourite Welsh music—creating a fun and engaging atmosphere throughout the day.
The event on February 7th was co-organised by Pembrokeshire County Council’s Education Department, as part of their Welsh Language Charter work, and Menter Iaith Sir Benfro, who promote the Welsh language across the county.
Welsh Language Development Officer Catrin Phillips said: “Pembrokeshire pupils embraced the spirit of Dydd Miwsig Cymru, showing that Welsh-language music is not just thriving—it’s louder and prouder than ever!”
Dydd Miwsig Cymru is an annual event dedicated to celebrating and promoting Welsh-language music across Wales and beyond. It aims to inspire people of all ages to explore and enjoy the wealth of music created in Welsh, from traditional folk to rock, pop, and contemporary sounds.

Dathlu cerddoriaeth Gymraeg mewn steil gyda dros 1,000 o blant
Daeth tua 1,500 o blant o 31 o ysgolion ledled Sir Benfro at ei gilydd i ddathlu Dydd Miwsig Cymru mewn pedwar gig bythgofiadwy yn llawn cerddoriaeth fyw ac adloniant.
Yn arwain y dathlu yn Neuadd y Frenhines, Arberth, roedd Candelas, un o fandiau gorau Cymru, a gyflwynodd berfformiad gwefreiddiol. Mwynhaodd y disgyblion set DJ fywiog hefyd gan DJ Daf, gan ddod â masgotiaid y Siarter Iaith, Seren a Sbarc yn fyw gyda’u hoff gerddoriaeth Gymraeg—a chreu awyrgylch hwyliog a difyr drwy gydol y dydd.
Cafodd y digwyddiad ar 7 Chwefror ei gyd-drefnu gan Adran Addysg Cyngor Sir Penfro, fel rhan o’u gwaith Siarter Iaith, a Menter Iaith Sir Benfro, sy’n hyrwyddo’r Gymraeg ar draws y sir.
Dywedodd Catrin Phillips, Swyddog Datblygu’r Gymraeg: “Cofleidiodd disgyblion Sir Benfro ysbryd Dydd Miwsig Cymru, gan ddangos nad ffynnu’n unig mae cerddoriaeth Gymraeg—mae’n fwy amlwg ac yn fwy balch nag erioed!”
Mae Dydd Miwsig Cymru yn ddigwyddiad blynyddol sy’n ymroddedig i ddathlu a hyrwyddo cerddoriaeth Gymraeg ar draws Cymru a thu hwnt. Ei nod yw ysbrydoli pobl o bob oed i archwilio a mwynhau’r cyfoeth o gerddoriaeth sy’n cael ei chreu yn y Gymraeg, o ganu gwerin traddodiadol i roc, pop a chyfoes.
Cymraeg
Welsh speakers drop to shocking lowest percentage in eight years

THE PERCENTAGE of Welsh speakers has fallen to its lowest level in over eight years, with just 27.7% of people in Wales able to speak the language, according to government statistics.
Data from the annual population survey, which covers the year ending 30 September 2024, estimates there are around 851,700 Welsh speakers in Wales. This marks a 1.6% decline compared to the previous year.
Despite the drop, the Welsh government remains resolute in its commitment to increasing the number of Welsh speakers. A spokesperson said: “We are absolutely committed to our goal of having one million Welsh speakers and doubling the daily use of Welsh.”
The ambitious target of one million Welsh speakers by 2050 is measured using census data, rather than the annual population survey.
Census data paints a stark picture
The 2021 census revealed a further decline in Welsh speakers, with only 17.8% of residents—approximately 538,000 people aged three and older—reporting they could speak the language.
Welsh speakers by the numbers
The annual population survey provides further insights:
- Children lead the way: 48.6% of children and young people aged 3 to 15 reported they could speak Welsh, equating to 237,600 individuals. However, this figure has been gradually declining since 2019.
- Regional highs and lows:
- Gwynedd boasts the highest number of Welsh speakers (93,600), followed by Carmarthenshire (93,300) and Cardiff (83,300).
- Blaenau Gwent and Merthyr Tydfil have the fewest Welsh speakers, with 9,500 and 10,600, respectively.
- In percentage terms, Gwynedd (77.9%) and the Isle of Anglesey (63.6%) lead, while Rhondda Cynon Taf (13.9%) and Blaenau Gwent (14%) rank lowest.
How often is Welsh spoken?
Among those who can speak Welsh:
- 13.9% (428,800 people) speak it daily.
- 5.6% (171,300) use it weekly.
- 6.7% (204,700) speak it less often.
- 1.5% (46,500) never speak Welsh despite being able to.
The remaining 72.3% of people in Wales do not speak Welsh at all.
Understanding Welsh
Beyond speaking:
- 32.2% (989,300 people) reported they could understand spoken Welsh.
- 24.4% (751,600) can read Welsh.
- 22.1% (680,100) can write in the language.
Survey sample size questioned
The annual population survey, conducted by the Office for National Statistics (ONS), has faced criticism over falling sample sizes in recent years. However, the ONS confirmed to the BBC that 14,881 responses were used for the Welsh language questions in the latest survey.
The figures underline the challenges facing efforts to revitalize the Welsh language, even as the government strives to meet its ambitious 2050 targets.
Cymraeg
Strategaeth yr iaith Gymraeg dan adolygiad yng nghanol galwadau am gyfeiriad cliriach

MAE SAMUEL KURTZ AS, Ysgrifennydd Cysgodol y Cabinet dros yr Iaith Gymraeg, wedi annog Llywodraeth Cymru i ailfeddwl eu dull o weithredu targed uchelgeisiol Cymraeg 2050 yn sgil pryderon a godwyd mewn adroddiad diweddar gan y Senedd.
Mae strategaeth Cymraeg 2050 yn anelu at sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn canol y ganrif hon, ond mae amheuon wedi cael eu codi am ei hyfywedd. Mae canfyddiadau’r Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc yn tynnu sylw at heriau fel marweiddio yn nifer yr athrawon Cymraeg a gostyngiad yn y defnydd o’r iaith ymhlith pobl ifanc.
Mae Mr Kurtz, sy’n cynrychioli Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, wedi ymuno â’r galwadau i Lywodraeth Cymru ailystyried eu cynlluniau. Dywedodd:
“Mae Ceidwadwyr Cymreig wedi galw ers tro am strategaeth gliriach gan Lywodraeth Cymru i gyflawni eu targed Cymraeg 2050.
“Gyda nifer y siaradwyr Cymraeg yn gostwng dros y ddau ddegawd diwethaf, mae’n hanfodol bod y duedd hon yn cael ei gwrthdroi. O ystyried y marweiddio yn nifer yr athrawon Cymraeg a’r gostyngiad yn y defnydd o’r Gymraeg ymhlith pobl ifanc, mae angen i Lywodraeth Cymru adolygu pam nad yw eu cynlluniau presennol ar gyfer Cymraeg 2050 yn gweithio ac addasu’r cynlluniau angenrheidiol.”
Persbectif Sir Benfro
Yn Sir Benfro, lle mae treftadaeth yr iaith Gymraeg yn ddwfn, mae’r ddadl yn un arwyddocaol iawn. Mae cymunedau lleol wedi gweld llwyddiant amrywiol wrth gynnal Cymraeg. Mae addysg cyfrwng Cymraeg wedi tyfu mewn rhai ardaloedd, gydag ysgolion fel Ysgol Caer Elen yn Hwlffordd yn chwarae rhan hanfodol, ond mae pryderon yn parhau am ei hygyrchedd ledled y sir.
Yn hanesyddol, mae Sir Benfro wedi cael ei hystyried yn ‘ffrynt ieithyddol’, lle mae’r iaith Gymraeg yn cydfodoli â’r Saesneg mewn cydbwysedd cynnil. Mae ardaloedd gwledig wedi dal gafael ar eu traddodiadau ieithyddol, ond mae trefoli a newidiadau demograffig yn peri heriau.
Un mater allweddol yw’r gweithlu addysgu. Heb ddigon o athrawon Cymraeg i ysbrydoli ac addysgu’r genhedlaeth nesaf, mae cyflawni Cymraeg 2050 yn mynd yn fwyfwy anodd. Mae galwadau hefyd wedi bod am fwy o gyfleoedd trochi yn y Gymraeg y tu allan i’r ystafell ddosbarth er mwyn meithrin y defnydd o’r Gymraeg yn y bywyd bob dydd.
Pam mae Cymraeg 2050 yn bwysig
Yng nghanol Cymraeg 2050 mae gweledigaeth i beidio â chadw’r Gymraeg yn unig, ond i’w gwneud yn iaith fyw a llewyrchus. Mae ymgyrchwyr yn dadlau bod strategaeth gadarn yn hanfodol i sicrhau bod yr iaith yn parhau i fod yn berthnasol i genedlaethau’r dyfodol, yn enwedig mewn ardaloedd fel Sir Benfro lle mae treftadaeth ddiwylliannol yn gysylltiedig â’r Gymraeg.
Mae cefnogwyr y targed yn pwysleisio ei botensial i gryfhau hunaniaeth gymunedol ac i roi hwb i gyfleoedd economaidd, o dwristiaeth i ddiwydiannau creadigol, lle mae dwyieithrwydd yn ased sy’n tyfu.
Oes modd ei gyflawni?
Er bod uchelgais Cymraeg 2050 yn cael ei ganmol yn eang, mae cwestiynau yn parhau ynghylch a yw’n gyflawnadwy heb newidiadau sylweddol mewn polisi. Mae’r beirniaid yn dadlau, heb strategaeth gynhwysfawr wedi’i hariannu’n dda sy’n mynd i’r afael ag addysg, seilwaith ac ymgysylltu cymunedol, bod y targed mewn perygl o fod yn ddim mwy na dyhead.
I Sir Benfro, mae’r her yn glir: dathlu a diogelu ei chymunedau Cymraeg tra’n creu cyfleoedd ar gyfer twf ac ymgysylltu â’r Gymraeg i bawb.
Mae galwad Mr Kurtz am weithredu yn ychwanegu at y pwysau cynyddol ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno cynllun sy’n gweithio – nid yn unig ar gyfer nawr, ond ar gyfer cenedlaethau i ddod.
Cymraeg 2050: Iaith ar gyfer y dyfodol
I Sir Benfro a thu hwnt, mae’r blaenoriaeth yn uchel. Mae cyflawni miliwn o siaradwyr Cymraeg yn ymwneud â mwy na niferoedd yn unig – mae’n ymwneud â sicrhau dyfodol lle mae’r iaith yn parhau i fyw a ffynnu, o bentrefi gwledig Gogledd Sir Benfro i strydoedd prysur Aberdaugleddau.
-
Health2 days ago
Pembrokeshire man’s shock diagnosis sparks call for awareness
-
News2 days ago
Workman injured in Pembroke road roller incident
-
News1 day ago
Police appeal after fatal crash on A477 involving two vehicles
-
Crime1 day ago
Goodwick man jailed for stealing prescription tablets from partner
-
Business2 days ago
Overseas workers allowed to live in caravans at business
-
News2 days ago
Spring statement slammed as disability cuts spark fear in Wales
-
News3 days ago
Woman found guilty of threatening neighbour on Pembrokeshire housing estate
-
News22 hours ago
Park issues clarification on campsite restrictions following backlash