Cymraeg
Siarad wast o’r radd fl aena Gan Hefi n Wyn
MAE’R BWRDD CYNGHORI TWRISTIAETH, a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru, wedi bod yn cwrdd â chynrychiolwyr y diwydiant twristiaeth yn y De-ddwyrain cyn iddo gynnal ei gyfarfod ar gyfer mis Rhagfyr. Y cyfarfod o’r Bwrdd a gynhaliwyd ar Dydd Gwener, 12 Rhagfyr, oedd y cyntaf i’r aelodau newydd, sef: Neil Rowlands; George Reid; Mandy Davies; Alun Shurmer a Karl Schmidtke. Cafodd Margaret Llewellyn, Justin Albert, Stephen Leeke a Mike Morgan eu hailbenodi. Mae nhw yn ymuno â Nigel Morgan a Roy Noble.
Y cyfarfod hwn â chynrychiolwyr y diwydiant oedd y trydydd o bedwar “cwrdd â’r bwrdd” cyfarfod i’w gynnal ym mhob un o bedwar rhanbarth Cymru. Bydd y pedwerydd yn cael ei gynnal yn Sir Benfro ym mis Ionawr. Mae’r cyfarfodydd hyn yn ategu’r strwythur rhanbarthol newydd, a fydd yn fodd i feithrin cysylltiadau mwy clòs rhwng y diwydiant a’r Llywodraeth er mwyn cryfhau’r trefniadau rhanbarthol, hynny bydd aelodau penodol o’r Bwrdd hefyd yn ysgwyddo cyfrifoldeb am ranbarthau penodol.
Mae Cadeirydd y Bwrdd Cynghori Twristiaeth, Dan Clayton Jones dywedodd: “Rydyn ni fel Bwrdd yn falch iawn ein bod wedi cael y cyfl e i gyfarfod â chynrychiolwyr y diwydiant yn yr ardal. Roedd yn gyfl e hynod werthfawr i glywed o lygad y ffynnon am y materion sy’n effeithio ar dwristiaeth ac ar fusnesau yn yr ardal. “Byddwn ni’n parhau i gynnal cyfarfodydd y Bwrdd ym mhob un o ranbarthau Cymru. Dw i’n edrych ’mlaen at weithio gyda’r aelodau newydd er mwyn cyrraedd ein nod o sicrhau twf o 10% yn y diwydiant erbyn 2020.”
Bydd Neil Rowlands yn cynrychioli’r Gogledd; bydd George Reid yn gyfrifol am y De-orllewin; bydd Mandy Davies yn cynrychioli’r De-ddwyrain a Mike Morgan y Canolbarth. Y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Ken Skates dywedodd: “Hoffwn i longyfarch aelodau newydd y Bwrdd Cynghori ar gael eu penodi. Dw i’n edrych ’mlaen at gydweithio â nhw. Mae’n gyfnod cyffrous iawn i dwristiaeth. Mae 2014 wedi bod yn fl wyddyn wych i bob golwg, hyd yn oed o’i chymharu â 2013, a oedd yn fl wyddyn hynod lwyddiannus. Mae Llywodraeth Cymru’n cydnabod gwerth twristiaeth ac mae’r sector hwn yn un o’r naw sector allweddol yr ydym am eu gweld yn sicrhau twf yn economi Cymru.
Dw i’n gwerthfawrogi’r profi ad a’r wybodaeth eang sydd gan aelodau’r Bwrdd.” Roedd sefydlu Bwrdd i Gynghori’r Gweinidog ar Dwristiaeth yn un o’r argymhellion allweddol a wnaed yn y Strategaeth ‘Partneriaeth ar gyfer Twf’, a gafodd ei lansio y llynedd. Rôl y Bwrdd yw rhoi cyngor arbenigol uniongyrchol i Lywodraeth Cymru, gan sicrhau bod safbwyntiau a blaenoriaethau’r diwydiant yn helpu i ddylanwadu ar bolisïau, a bod gweithgareddau yn helpu’r sector twristiaeth i dyfu ac yn cefnogi’r cyfraniad y mae’n ei wneud i economi Cymru ac o ran creu swyddi.
Cymraeg
Ffermwr yn dysgu popeth y mae angen iddo wybod am ffermio modern drwy Cyswllt Ffermio

CYFLWYNODD ei rieni ef i ochr ymarferol ‘tir a da byw’ ffermio yn ifanc iawn, ond i Dylan Morgan, a aned yn Sir Gaerfyrddin, Cyswllt Ffermio sy’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r unigolyn yma a raddiodd mewn rheoli adeiladu. Dywedodd Dylan fod Cyswllt Ffermio wedi rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arno i fod y ffermwr ifanc blaengar a hyderus ydyw heddiw.
“A’r peth sy’n wych amdano yw, nad oedd rhaid i mi eistedd trwy oriau o ddarlithoedd theori amaeth am dair blynedd!”
Dywedodd Dylan mai agwedd Cyswllt Ffermio at ei holl wasanaethau hyfforddi a throsglwyddo gwybodaeth yw cyflwyno popeth ar y lefel gywir ar gyfer ffermwyr prysur ond profiadol sy’n gweithio.
“Mae’n ddull o ddysgu ar sail ‘angen gwybod’ sy’n apelio’n fawr ataf gan fy mod yn gallu gwneud lle iddo o amgylch fy nyletswyddau fferm ac ymrwymiadau eraill,” meddai Dylan.
Nid oedd gan Dylan unrhyw fwriad i ddod yn ffermwr pan adawodd Brifysgol Abertawe yn 2011, ond ar ôl ychydig fisoedd yn unig o ffermio’n llawn amser ar fferm bîff a defaid 360 erw ei deulu ger Llanymddyfri, newidiodd ei feddwl yn llwyr.
Roedd yn amlwg yn benderfyniad cywir i’r teulu cyfan ac mae Dylan (32) bellach wedi bod yn ffermio gartref ers bron i un mlynedd ar ddeg.
“Roeddwn i wastad wedi mwynhau helpu gartref pryd bynnag roedd gen i amser rhydd, felly roeddwn i wedi hen arfer ag ochr ymarferol ffermio, ond gan na astudiais i amaethyddiaeth yn y brifysgol, roeddwn i’n teimlo bod yna lawer nad oeddwn i’n ei wybod am iechyd anifeiliaid, pridd a rheoli glaswelltir a’r holl elfennau eraill o ffermio sy’n hanfodol i wella effeithlonrwydd ar y fferm.
“Mae’n hanfodol, fel ffermwyr, fod gan bob un ohonom y wybodaeth sydd ei hangen arnom a systemau yn eu lle i chwarae ein rhan i gadw at y safonau uchaf o les anifeiliaid, cynhyrchu da byw o’r ansawdd uchaf, gan hefyd warchod ein hamgylchedd naturiol a lleihau ein hôl troed carbon.”
Yn gefnogwyr hirdymor gwasanaeth Cynghori Cyswllt Ffermio, a welodd Dylan, ei dad a ffermwyr lleol eraill yn cael cyngor ar faterion yn cynnwys cynllunio rheoli maetholion, archwiliadau carbon a rheoli glaswelltir, mae Dylan yn rhoi llawer o’i amser hamdden i’w ddatblygiad personol.
Gan ddibynnu’n drwm ar ei swyddog datblygu lleol, Alun Bowen, i roi’r wybodaeth ddiweddaraf iddo am yr hyn sydd ar gael, mae Alun wedi cyfeirio Dylan – yn aml yng nghwmni ei dad – at nifer o weithdai iechyd a lles anifeiliaid ar bynciau’n amrywio o ffrwythlondeb y ddiadell a cholledion wyna i wneud y mwyaf o gynhyrchiant buchod sugno, cloffni a rheoli tir. Mae Dylan hefyd wedi dilyn cyrsiau hyfforddi byr â chymhorthdal ac mae’n defnyddio ystod gynhwysfawr y rhaglen o fodiwlau e-ddysgu a ariennir yn llawn yn rheolaidd.
“Mae dysgu ar-lein, mewn cyfnodau byr o 20 munud, gyda chwis ar ddiwedd pob modiwl i sicrhau eich bod wedi cymryd yr holl wybodaeth allweddol i mewn, yn ffordd wych o gynyddu eich gwybodaeth.”
Mae Dylan wedi canolbwyntio’n bennaf ar bynciau iechyd anifeiliaid yn ogystal â rheoli pridd a glaswelltir oherwydd ei fod yn credu’n gryf mewn mabwysiadu agwedd gyfannol at y fferm, gydag ‘arfer gorau ym mhopeth a wnawn’ yn rhan o’u hagenda cynaliadwyedd.
“Diolch i fy ngwybodaeth a sgiliau newydd a thrwy weithredu rhai o’r systemau newydd rydym wedi dysgu amdanynt trwy Cyswllt Ffermio, rydym bellach yn bwydo’r stoc yn llawer mwy effeithlon.
“Mae hyn wedi lleihau ein mewnbynnau’n sylweddol wrth wella perfformiad stoc a chynhyrchiant ac rydym hefyd wedi lleihau lefelau cloffni.”
Mae’r teulu’n sgorio cyflwr y corff yn rheolaidd ac yn meincnodi eu holl stoc ac yn dweud bod cyfrif wyau ysgarthol a phrofi elfennau hybrin trwy Cyswllt Ffermio wedi rhoi gwybodaeth werthfawr iddynt sy’n golygu eu bod wedi lleihau eu dibyniaeth ar driniaethau gwrthlyngyrol drwy fabwysiadu dull wedi’i dargedu’n well.
Gyda’i holl gyflawniadau dysgu wedi’u storio ar-lein yn ei gofnod personol y Storfa Sgiliau, mae Dylan yn dweud bod y system yn ffordd ddefnyddiol o nodi unrhyw feysydd y mae’n dal eisiau dysgu amdanynt.
“Mae ffermio yn ddiwydiant sy’n esblygu ac felly mae angen i ffermwyr o bob cenhedlaeth wybod eu bod yn ddigon gwybodus i wynebu’r cyfleoedd a’r heriau sydd o’u blaenau.”
Mae Cyswllt Ffermio yn cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra Cymru a’i ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.
I gael rhagor o wybodaeth am holl wasanaethau cymorth a hyfforddiant Cyswllt Ffermio ewch i https://businesswales.gov.wales/farmingconnect/cy neu ffoniwch eich swyddog datblygu Cyswllt Ffermio lleol.
Cymraeg
Cyfle gwych i ennill gwobr yn atyniadau Awdurdod y Parc dros benwythnos Dydd Gŵyl Dewi

BYDD tri atyniad Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn dosbarthu cennin Pedr i ymwelwyr yn rhad ac am ddim ar 4 a 5 Mawrth eleni i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi.
Bydd gan Gastell Caeriw, Pentref Oes Haearn Castell Henllys ac Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc nifer cyfyngedig o gennin Pedr i’w dosbarthu i bobl sy’n ymweld â’r safleoedd dros benwythnos Dydd Gŵyl Dewi.
Yn ôl y Cynghorydd Di Clements, Cadeirydd Awdurdod y Parc: “Rydyn ni’n annog cynifer â phosib o bobl i ymuno â dathliadau Dydd Gŵyl Dewi, a pha ffordd well o ddathlu diwylliant Cymru yn eich cartref na chael tusw o’r blodau lliwgar yma?
“Bydd y cennin Pedr yn cael eu dosbarthu ar sail y cyntaf i’r felin. Oherwydd mai dim ond nifer cyfyngedig fydd ar gael ar bob safle, byddwn yn annog pobl i ymweld â’r safleoedd cyn gynted â phosib ar 4 neu 5 Mawrth er mwyn manteisio ar y cynnig hwn.”
Bydd Parêd blynyddol y Ddraig hefyd yn cael ei gynnal yn Nhyddewi ddydd Sadwrn 4 Mawrth, gyda chriw o ddisgyblion ysgol ac aelodau gofal yn y gymuned yn gadael Oriel y Parc am 11am.
I gael yr amserau agor, gwybodaeth am y digwyddiad a phrisiau mynediad ar gyfer Castell Caeriw, ewch i www.arfordirpenfro.cymru/castell-caeriw/.
I gael yr amserau agor, gwybodaeth am y digwyddiad a phrisiau mynediad ar gyfer Castell Henllys, ewch i www.arfordirpenfro.cymru/castell-henllys/
I gael yr amserau agor a gwybodaeth am y digwyddiad ar gyfer Oriel y Parc, ewch i www.arfordirpenfro.cymru/oriel-y-parc/.
Cymraeg
Dydd Gŵyl Dewi yn gyfle perffaith i ddathlu bwyd Cymreig

MAE Dydd Gŵyl Dewi (1 Mawrth) yn gyfle perffaith i ddathlu’r cynnyrch Cymreig gorau sydd ar gael, ac mae Undeb Amaethwyr Cymru yn annog defnyddwyr, wrth wneud y siopa wythnosol, i ddewis Cig Eidion Cymru Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI) a Chig Oen Cymru Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI) a gynhyrchir yn gynaliadwy.
Dywedodd Llywydd UAC Glyn Roberts: “Mae gan Gig Eidion Cymru Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI) a Chig Oen Cymru Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI) stori wych i’w hadrodd ac rwy’n falch o fod ymhlith ffermwyr, sydd nid yn unig yn cynhyrchu bwyd gwych, ond hefyd yn barod i rannu’n stori ni. Mae stori cig coch Cymru yn wych, yn enwedig o ran bod yn amgylcheddol gynaliadwy.
“Mae defnyddwyr yn fwyfwy ymwybodol o ôl troed carbon eu bwyd a’r ffordd y mae wedi’i gynhyrchu. Wrth ddewis Cig Oen a Chig Eidion Cymru Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI) gallant fod yn dawel eu meddwl ei fod wedi’i gynhyrchu gyda natur mewn golwg. Mae mor faethlon a chynaliadwy ag y gall fod, ac rwy’n annog pawb i ddewis ein cynnyrch Cymreig ni yn gyntaf.”
Fodd bynnag, roedd Mr Roberts yn glir bod ffermwyr yng Nghymru angen cefnogaeth, nid yn unig gan Lywodraeth Cymru ond hefyd gan Lywodraeth y DU, os yw ein dulliau cynaliadwy o gynhyrchu bwyd am barhau am genedlaethau i ddod.
“Mae ffermio yng Nghymru yn rhoi sylfaen gadarn i’n heconomi – cynhyrchu bwyd, darparu cyflogaeth, a chwarae rhan hollbwysig wrth ofalu am ein hamgylchedd. Rydym am i’n ffermwyr barhau i gynhyrchu bwyd yn eu rôl fel ceidwaid cefn gwlad am flynyddoedd lawer i ddod.
“Yr hyn sy’n bygwth y system honno yw cytundebau masnach gyda gwledydd sydd â safonau cynhyrchu gwahanol iawn i’n rhai ni, sy’n anfantais i’n ffermwyr o ran bod yn gystadleuol. Felly, rwy’n annog Llywodraeth y DU eto heddiw i roi ein diwydiant ffermio yn gyntaf, fel y mae cenhedloedd eraill yr ydym yn cyd-drafod â nhw yn ei wneud.”
-
News5 days ago
Homeowner prosecuted by National Park nearly £3k out of pocket
-
News16 hours ago
Police confirm body found in search for Huw
-
Business6 days ago
A glimpse of the new ferry soon to serve Pembrokeshire as it arrives in Ireland
-
News4 days ago
Former councillor’s pub works expected to be refused
-
News2 days ago
Milford Haven couple found guilty in waste disposal case
-
News2 days ago
Pembrokeshire College staff member struck off for unacceptable professional conduct
-
Charity7 days ago
Child swept out to sea rescued by kayakers as lifeboat launches
-
News7 days ago
Reports of a child fatality in devastating house fire near Crymych