Connect with us
Advertisement
Advertisement

Cymraeg

René’r gaucho yn cofio dyddie Tyddewi

Published

on

garregHOELIWYD FY SYLW ar y gyfrol oedd wedi’i gosod ar y cownter ar ben twr o lyfre eraill. Roedd rhywbeth yn ddeniadol yn y clawr. Lliwie cyfoethog. Gwynder copaon o dan orchudd o eira ac yna haul yn goleuo’r rhostir obry o amgylch y llyn.

A’r teitl wedyn; ‘Ramblings of a Patagonian’. Gwyddai perchennog y siop lyfre bitw yng nghesel yr Eglwys Gadeiriol yn Nhyddewi sut i godi archwaeth ar ddarllenydd. Newydd ei chyhoeddi oedd cyfrol Eugenio René Griffiths a rhaid oedd i mi ei phrynu. Teimlwn ramant wrth fodio’r tudalenne.

Mae’r ddau ohonom yr un oedran ond mae’r gŵr o Batagonia wedi byw bywyd llawer mwy cynhyrfus a mentrus na finne. Cofiaf ei lais hudolus pan ddaeth i Gymru yn y 1970au a’i ddull gwahanol o chwarae gitâr. Roedd yna ddireidi yn ei lyged ac agwedd nad oedd yn hidio am gonfensiwn na phrotocol.

Buan y deallais beth oedd y tu ôl i hynny wrth ddarllen y nodiade honedig wasgarog hyn. Magwraeth. Pan fyddwch yn ddibynnol ar y dirwedd o’ch cwmpas am fywoliaeth a rheidrwydd i brofi’n feistr ar yr elfenne, synno’r confensiwn o orie sefydlog a phatrwm pendant i bob diwrnod yn bodoli. Megir ysbryd rhydd.

Mae carlamu ar gefn ceffyl a theimlo’r gwynt yn eich mwng, a hynny o ran rheidrwydd teithio a hela ac nid o ran gweithgaredd orie hamdden a segurdod, yn gwneud dyn a chreadur gwahanol ohonoch. Sefydlir perthynas ddibynnol rhwng dyn a cheffyl. Dim ond y sawl sy’n ishte mewn cadair freichie sy’n gweld rhamant yn y fath ffordd o fyw.

Ond mae René yn wahanol i’r Patagoniad cyffredin. Nid yw’n arddel y gwerthoedd Archentaidd-Cymreig fel y cyfryw. Gwerthoedd y paith yw ei eiddo. Mae’n eu rhannu â’r Tehuelche a’r guanacos a’r Ewropeaid eraill a ymsefydlodd ar hyd y tirwedd maith. Mae hynny’n chwa o awyr iach. Hwyrach bod gan hynny rhywbeth i’w wneud â’r ffaith nad un o’r gweisg adnabyddus sydd wedi cyhoeddi’r llyfr ond cyhoeddwr a sefydlwyd yn benodol ar gyfer cyflawni’r dasg.

Mae René wedi teithio’n helaeth yn Ne America ac ar draws Ewrop. Cawn hanes y siwrneion a’r helyntion. Treuliodd gyfnod yn Nhyddewi. Ni wnaf ddatgelu manylion. Ond teg dweud fod yna gryn sylw i’r Farmers Arms a’r Walpole Court ac i rocesi.

Neilltuir pennod gyfan i adrodd yr hanes a disgrifiad yr awdur ei hun yw bod yna ‘lawer o chwerthin iach a synnwyr cryf o orffwylledd’ yn nodweddu pobol y penrhyn. Cewch chi farnu drosoch eich hun. Mae’n ddarlun gwahanol.

Ond mae’n debyg fod René i’w weld yn gyson yn y bore bach ar gefn Lleucu, y gaseg palomino, a hynny heb gyfrwy, yn trotian os nad yn galapo o amgylch y strydoedd. Mynnai gynnal y gynneddf honno sy’n ymwneud â’r ymdeimlad o oroesi sy’n amlygu ei hun ar doriad gwawr sy’n perthyn i ddyn ac anifail. Nid trin y gaseg fel anifail anwes neu gelficyn hardd a wnâi.

Ar drothwy dathlu 150 mlynedd ers i’r Cymry geisio sefydlu gwladfa ym Mhatagonia mae’r 300 tudalen hwn o lyfr gystel ag unrhywbeth i ganfod naws y bywyd y bu rhai ohonyn nhw’n ei fyw. Mae’n bendramwnwgl o lyfr sy’n ein tywys i gyfeiriadau annisgwyl.

Byddaf yn ei gadw ar fy silff yn agos at fy nghopi o ‘The Autobiography of a Supertramp’, W. H. Davies; ‘Y Tincer Tlawd’ sef hunangofiant Tom Macdonald a heb fod ymhell fydd cyfrol Jack Kerouac, ‘On The Road’. Cyfrole oll gan awduron sy wedi trafaelu a blasu bywyd. Ymddengys mai dilyn y ‘duende’ fu hanes René.

Clywais rywun yn cymharu ei arddull a’i straeon i’r newyddiaduriaeth ‘gonzo’ a boblogeiddiwyd gan Hunter Thompson mewn llyfre fel ‘Fear and Loathing in Las Vegas’. Tipyn o ddweud ac nid heb sail. Ceir yr annisgwyl a’r anghonfensiynol trwyddi draw a hynny’n ddiflewyn-ar-dafod.

Cawn ein cyflwyno i bobl sydd ar ryw olwg yn bobl gyffredin yn hytrach na phobl barchus ac adnabyddus. Ond buan y gwelwn eu bod yn bobl anghyffredin mewn llawer dull a modd. Mae René’r gaucho yn gwybod sut i wneud defnydd o ‘hacienda’ a sut i fwynhau ‘asada’ wrth glymu clyme cyfeillgarwch. Gaucho o Gymro yw’r crwt.

Sgwn i pa lyfr fydd ar gownter Chris Taylor y tro nesaf y rhôf waedd arno yn ei siop?

Continue Reading
Click to comment

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Cymraeg

Ffermwr yn dysgu popeth y mae angen iddo wybod am ffermio modern drwy Cyswllt Ffermio

Published

on

CYFLWYNODD ei rieni ef i ochr ymarferol ‘tir a da byw’ ffermio yn ifanc iawn, ond i Dylan Morgan, a aned yn Sir Gaerfyrddin, Cyswllt Ffermio sy’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r unigolyn yma a raddiodd mewn rheoli adeiladu. Dywedodd Dylan fod Cyswllt Ffermio wedi rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arno i fod y ffermwr ifanc blaengar a hyderus ydyw heddiw.

“A’r peth sy’n wych amdano yw, nad oedd rhaid i mi eistedd trwy oriau o ddarlithoedd theori amaeth am dair blynedd!”

Dywedodd Dylan mai agwedd Cyswllt Ffermio at ei holl wasanaethau hyfforddi a throsglwyddo gwybodaeth yw cyflwyno popeth ar y lefel gywir ar gyfer ffermwyr prysur ond profiadol sy’n gweithio.

“Mae’n ddull o ddysgu ar sail ‘angen gwybod’ sy’n apelio’n fawr ataf gan fy mod yn gallu gwneud lle iddo o amgylch fy nyletswyddau fferm ac ymrwymiadau eraill,” meddai Dylan.

Nid oedd gan Dylan unrhyw fwriad i ddod yn ffermwr pan adawodd Brifysgol Abertawe yn 2011, ond ar ôl ychydig fisoedd yn unig o ffermio’n llawn amser ar fferm bîff a defaid 360 erw ei deulu ger Llanymddyfri, newidiodd ei feddwl yn llwyr.

Roedd yn amlwg yn benderfyniad cywir i’r teulu cyfan ac mae Dylan (32) bellach wedi bod yn ffermio gartref ers bron i un mlynedd ar ddeg.

“Roeddwn i wastad wedi mwynhau helpu gartref pryd bynnag roedd gen i amser rhydd, felly roeddwn i wedi hen arfer ag ochr ymarferol ffermio, ond gan na astudiais i amaethyddiaeth yn y brifysgol, roeddwn i’n teimlo bod yna lawer nad oeddwn i’n ei wybod am iechyd anifeiliaid, pridd a rheoli glaswelltir a’r holl elfennau eraill o ffermio sy’n hanfodol i wella effeithlonrwydd ar y fferm.

“Mae’n hanfodol, fel ffermwyr, fod gan bob un ohonom y wybodaeth sydd ei hangen arnom a systemau yn eu lle i chwarae ein rhan i gadw at y safonau uchaf o les anifeiliaid, cynhyrchu da byw o’r ansawdd uchaf, gan hefyd warchod ein hamgylchedd naturiol a lleihau ein hôl troed carbon.”

Yn gefnogwyr hirdymor gwasanaeth Cynghori Cyswllt Ffermio, a welodd Dylan, ei dad a ffermwyr lleol eraill yn cael cyngor ar faterion yn cynnwys cynllunio rheoli maetholion, archwiliadau carbon a rheoli glaswelltir, mae Dylan yn rhoi llawer o’i amser hamdden i’w ddatblygiad personol.

Gan ddibynnu’n drwm ar ei swyddog datblygu lleol, Alun Bowen, i roi’r wybodaeth ddiweddaraf iddo am yr hyn sydd ar gael, mae Alun wedi cyfeirio Dylan – yn aml yng nghwmni ei dad – at nifer o weithdai iechyd a lles anifeiliaid ar bynciau’n amrywio o ffrwythlondeb y ddiadell a cholledion wyna i wneud y mwyaf o gynhyrchiant buchod sugno, cloffni a rheoli tir. Mae Dylan hefyd wedi dilyn cyrsiau hyfforddi byr â chymhorthdal ac mae’n defnyddio ystod gynhwysfawr y rhaglen o fodiwlau e-ddysgu a ariennir yn llawn yn rheolaidd.

“Mae dysgu ar-lein, mewn cyfnodau byr o 20 munud, gyda chwis ar ddiwedd pob modiwl i sicrhau eich bod wedi cymryd yr holl wybodaeth allweddol i mewn, yn ffordd wych o gynyddu eich gwybodaeth.”

Mae Dylan wedi canolbwyntio’n bennaf ar bynciau iechyd anifeiliaid yn ogystal â rheoli pridd a glaswelltir oherwydd ei fod yn credu’n gryf mewn mabwysiadu agwedd gyfannol at y fferm, gydag ‘arfer gorau ym mhopeth a wnawn’ yn rhan o’u hagenda cynaliadwyedd.

“Diolch i fy ngwybodaeth a sgiliau newydd a thrwy weithredu rhai o’r systemau newydd rydym wedi dysgu amdanynt trwy Cyswllt Ffermio, rydym bellach yn bwydo’r stoc yn llawer mwy effeithlon.

“Mae hyn wedi lleihau ein mewnbynnau’n sylweddol wrth wella perfformiad stoc a chynhyrchiant ac rydym hefyd wedi lleihau lefelau cloffni.”

Mae’r teulu’n sgorio cyflwr y corff yn rheolaidd ac yn meincnodi eu holl stoc ac yn dweud bod cyfrif wyau ysgarthol a phrofi elfennau hybrin trwy Cyswllt Ffermio wedi rhoi gwybodaeth werthfawr iddynt sy’n golygu eu bod wedi lleihau eu dibyniaeth ar driniaethau gwrthlyngyrol drwy fabwysiadu dull wedi’i dargedu’n well.

Gyda’i holl gyflawniadau dysgu wedi’u storio ar-lein yn ei gofnod personol y Storfa Sgiliau, mae Dylan yn dweud bod y system yn ffordd ddefnyddiol o nodi unrhyw feysydd y mae’n dal eisiau dysgu amdanynt.

“Mae ffermio yn ddiwydiant sy’n esblygu ac felly mae angen i ffermwyr o bob cenhedlaeth wybod eu bod yn ddigon gwybodus i wynebu’r cyfleoedd a’r heriau sydd o’u blaenau.”

Mae Cyswllt Ffermio yn cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra Cymru a’i ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

I gael rhagor o wybodaeth am holl wasanaethau cymorth a hyfforddiant Cyswllt Ffermio ewch i https://businesswales.gov.wales/farmingconnect/cy neu ffoniwch eich swyddog datblygu Cyswllt Ffermio lleol.

Continue Reading

Cymraeg

Cyfle gwych i ennill gwobr yn atyniadau Awdurdod y Parc dros benwythnos Dydd Gŵyl Dewi

Published

on

BYDD tri atyniad Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn dosbarthu cennin Pedr i ymwelwyr yn rhad ac am ddim ar 4 a 5 Mawrth eleni i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi.

Bydd gan Gastell Caeriw, Pentref Oes Haearn Castell Henllys ac Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc nifer cyfyngedig o gennin Pedr i’w dosbarthu i bobl sy’n ymweld â’r safleoedd dros benwythnos Dydd Gŵyl Dewi.

Yn ôl y Cynghorydd Di Clements, Cadeirydd Awdurdod y Parc: “Rydyn ni’n annog cynifer â phosib o bobl i ymuno â dathliadau Dydd Gŵyl Dewi, a pha ffordd well o ddathlu diwylliant Cymru yn eich cartref na chael tusw o’r blodau lliwgar yma?

“Bydd y cennin Pedr yn cael eu dosbarthu ar sail y cyntaf i’r felin. Oherwydd mai dim ond nifer cyfyngedig fydd ar gael ar bob safle, byddwn yn annog pobl i ymweld â’r safleoedd cyn gynted â phosib ar 4 neu 5 Mawrth er mwyn manteisio ar y cynnig hwn.”

Bydd Parêd blynyddol y Ddraig hefyd yn cael ei gynnal yn Nhyddewi ddydd Sadwrn 4 Mawrth, gyda chriw o ddisgyblion ysgol ac aelodau gofal yn y gymuned yn gadael Oriel y Parc am 11am.

I gael yr amserau agor, gwybodaeth am y digwyddiad a phrisiau mynediad ar gyfer Castell Caeriw, ewch i www.arfordirpenfro.cymru/castell-caeriw/.

I gael yr amserau agor, gwybodaeth am y digwyddiad a phrisiau mynediad ar gyfer Castell Henllys, ewch i www.arfordirpenfro.cymru/castell-henllys/

I gael yr amserau agor a gwybodaeth am y digwyddiad ar gyfer Oriel y Parc, ewch i www.arfordirpenfro.cymru/oriel-y-parc/.

Continue Reading

Cymraeg

Dydd Gŵyl Dewi yn gyfle perffaith i ddathlu bwyd Cymreig

Published

on

MAE Dydd Gŵyl Dewi (1 Mawrth) yn gyfle perffaith i ddathlu’r cynnyrch Cymreig gorau sydd ar gael, ac mae Undeb Amaethwyr Cymru yn annog defnyddwyr, wrth wneud y siopa wythnosol, i ddewis Cig Eidion Cymru Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI) a Chig Oen Cymru Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI) a gynhyrchir yn gynaliadwy.

Dywedodd Llywydd UAC Glyn Roberts: “Mae gan Gig Eidion Cymru Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI) a Chig Oen Cymru Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI) stori wych i’w hadrodd ac rwy’n falch o fod ymhlith ffermwyr, sydd nid yn unig yn cynhyrchu bwyd gwych, ond hefyd yn barod i rannu’n stori ni. Mae stori cig coch Cymru yn wych, yn enwedig o ran bod yn amgylcheddol gynaliadwy.

“Mae defnyddwyr yn fwyfwy ymwybodol o ôl troed carbon eu bwyd a’r ffordd y mae wedi’i gynhyrchu. Wrth ddewis Cig Oen a Chig Eidion Cymru Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI) gallant fod yn dawel eu meddwl ei fod wedi’i gynhyrchu gyda natur mewn golwg. Mae mor faethlon a chynaliadwy ag y gall fod, ac rwy’n annog pawb i ddewis ein cynnyrch Cymreig ni yn gyntaf.”

Fodd bynnag, roedd Mr Roberts yn glir bod ffermwyr yng Nghymru angen cefnogaeth, nid yn unig gan Lywodraeth Cymru ond hefyd gan Lywodraeth y DU, os yw ein dulliau cynaliadwy o gynhyrchu bwyd am barhau am genedlaethau i ddod.

“Mae ffermio yng Nghymru yn rhoi sylfaen gadarn i’n heconomi – cynhyrchu bwyd, darparu cyflogaeth, a chwarae rhan hollbwysig wrth ofalu am ein hamgylchedd. Rydym am i’n ffermwyr barhau i gynhyrchu bwyd yn eu rôl fel ceidwaid cefn gwlad am flynyddoedd lawer i ddod.

“Yr hyn sy’n bygwth y system honno yw cytundebau masnach gyda gwledydd sydd â safonau cynhyrchu gwahanol iawn i’n rhai ni, sy’n anfantais i’n ffermwyr o ran bod yn gystadleuol. Felly, rwy’n annog Llywodraeth y DU eto heddiw i roi ein diwydiant ffermio yn gyntaf, fel y mae cenhedloedd eraill yr ydym yn cyd-drafod â nhw yn ei wneud.”

Continue Reading

News2 days ago

Deep Space Radar base to be built in Brawdy, creating 100 jobs

IN A MAJOR announcement today (Dec 2) the Defence Secretaries of Australia, the United Kingdom, and the United States have...

News3 days ago

Decades-old naval shell in front garden prompts bomb squad alert

AN UNASSUMING naval shell, a longstanding fixture in the front garden of a Milford Haven home for 74 years, unexpectedly...

News3 days ago

Concerns raised as council social worker charged with child sex offences

A WOMAN, whose grandson is being helped by social services and is classed as a vulnerable child, is one of...

Crime4 days ago

Burglar admits to string of thefts across county

JOHN SMITH, 45, of Stover Avenue in Sageston, pleaded guilty to a series of calculated burglaries spanning across Pembrokeshire this...

News4 days ago

Tenby holiday park solar panels plans get thumbs-up

PLANS for nearly 600 solar panels at a Pembrokeshire holiday park have been approved by council officers. Kiln Park Estates...

News4 days ago

At least’ 150% second homes tax premium on cards in Pembrokeshire

A CALL for the second homes and empty property council tax premiums in cash-strapped Pembrokeshire to rise to at least...

News4 days ago

Shocking waiting times for ambulances and at A&E

ONLY 56% of October’s most urgent “red calls” for ambulances in the Hywel Dda health board area failed to reach...

News5 days ago

County mourns loss of revered priest and community pillar, Father McGreal

THE CATHOLIC community in Pembrokeshire is in mourning this week after the passing of one of its most well-known priests,...

Sport5 days ago

This week’s Pembrokeshire rugby round up – 25/11/23

THERE was plenty of rugby to choose from up and down the county last weekend. We round up the latest...

News6 days ago

Police investigating after van and bike collide in Dale

DYFED-POWYS POLICE is investigating a collision which occurred at approximately 10am on Monday, October 23 2023. A bike and a...

Popular This Week