Connect with us
Advertisement
Advertisement

Cymraeg

Bywyd go wyllt yn yr allt o dan y lloer

Published

on

garreg`NA CHI GRIW HWYLIOG yw criw Cerddwyr Teifi. Ma’ nhw’n cerdded unwaith y mis ac yn gwahodd tywyswyr sy’n gyfarwydd â’r fro lle mae’n nhw’n cwrdd i’w harwain. Ma’ nhw’n mentro o olwg Afon Teifi ac yn croesi’r ffin i Sir Benfro bob hyn a hyn. Dyna ddigwyddodd ym mis Ionawr pan gyrhaeddon nhw Faenclochog. Wir i chi, doedd y maes parcio ddim wedi bod mor llawn ers i’r Gymanfa Ganu ddiwethaf gael ei chynnal yng nghapel Tabernacl wrth law.

Gesum i a Gareth Jones y fraint o dywys y criw o amgylch bro’r meini. Fe wedodd rhywun ei fod wedi cownto 74 ohonom yn cerdded ling di long ar hyd y pentre. Sai’n siwr a wedd hynny’n gowir ond wen ni’n griw jogel, ta pu’n i. Pan fyddem yn oedi i adrodd ambell bennill am hyn a’r llall wedd rhaid dishgwl am getyn go hir cyn i rai o’r straglers ddala lan.

Yr arhosfan gyntaf oedd y tu fas i garej Delfan lle cyfansoddodd y prifardd Eirwyn George y cerddi a enillodd iddo ddwy goron genedlaethol. A’r cyfansoddi, wrthgwrs, yn Nelfan yn hytrach nag yn y garej ei hun. Yn groes i’r arfer cafodd ei goroni’r eilwaith pan oedd yn dal ar ei draed. Roedd yr archdderwydd wedi anghofio dweud wrtho am ishte yn y gadair.

Cafwyd englyn comisiwn ar gyfer y daith gan Eirwyn ac mae’n werth dyfynnu ei bortread o ardal Maenclochog.

Tir y manwellt a’r meini, – bro’r oerwynt,

Bro’r aradr ar berci,

Henfro’r ŵyn a’r clogwyni :

Tir ein hiaith yw’n pentre ni.

‘Na bert yn dyfe? Ma’ rhwbeth yn gryno iawn mewn englyn ond o’s e?

Awd ar hyd Feidr Danclawdd wedyn. Wedd y criw wedi rhyfeddu wrth groesi’r nentydd a cherdded trwy’r allt. Penderfynodd sawl un y bydden nhw’n dychwelyd yn y gwanwyn a’r haf pan fydde’r bacse brain yn garped. Holodd un o’r rhocesi a oedd yna dipyn o fywyd gwyllt yn y cyffinie. Yr ateb gafodd hi oedd gwahoddiad i ymuno ag un o’r tywyswyr yn yr allt ar noson loergan ac addewid y bydde pob dim yn go wyllt. Rhyw ddiwrnod fel ‘ni oedd hi.

Ceisiwyd dychmygu’r fro cyn llunio perci a chloddie a phan oedd meini, cylchoedd cerrig a chromlechi yn rhan o’r tirlun. Ni wyddom beth yn gwmws oedd eu harwyddocâd. Cred rhai fod yna dair cromlech yn y cyffinie ar un adeg. Pam? Cromlech sblit falle yn union fel y penderfynodd yr Annibynwyr godi dau gapel o fewn golwg i’w gilydd mewn cyfnod diweddarach ym Maenclochog?

Arhoswyd y tu fas i gapel Horeb y Bedyddwyr i gofnodi’r ffaith fod ‘Wncwl Wili’ y cyn-brif-weinidog, Rhodri Morgan, wedi bod yn fugail yno ar ddechre’r ganrif ddiwethaf. W. J. Rhys oedd ei enw. Adroddwyd am yr annibendod pan wahoddwyd Rhodri i achlysur yn y pentref ar sail hynny. Ond roedd yna W. J. Rees wedi bod yn weinidog yn y fro hefyd gyda’r Annibynwyr. Cafflwyd. Dewiswyd llun o’r W.J. anghywir i’w gyflwyno iddo!

Terfynwyd y daith ym mynwent eglwys y plwyf ar ganol y pentref. Yno ceir dwy garreg ogam. Prin y gellir bod yn fwy hynafol na hynny. Yno hefyd mae carreg fedd Dai Evans Penygraig a chwaraeodd rygbi dros Gymru yn y 1890au. Bois Plascwrt gerllaw yw ei wyrion. Mae’n stori rhyfeddol.

Yn y fynwent hefyd mae bedd Thomas Howells neu Twm Martha Fach fel y nabyddwyd y trempyn. Synnon ni’n siwr ble. Wedd hi’n arfer da ge i droi ei gorff at y clawdd yn ei gwrcwd pan ddeuai rhywun tuag ato ar y ffordd. Credai ei fod yn cwato wedyn. Mae lle i gredu ei fod yn cwato rhywle yn y fynwent ‘fyd.

A rhaid oedd esbonio mai deillio o’r Hen Wyddeleg a wna enw’r pentre o’r gair ‘clocoz’ sy’n golygu ‘tir llawn meini’. A dyna fel oedd hi mae’n siwr pan oedd llwyth y Deisi yn y cyffinie tua’r bedwaredd i’r chweched ganrif. Mae’r ddwy garreg ogam yn yr eglwys yn dyst o’u presenoldeb.

Ma’ na sôn y daw Cerddwyr Teifi nôl i fro’r meini rhyw getyn ‘to.

Continue Reading
Click to comment

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Cymraeg

Ffermwr yn dysgu popeth y mae angen iddo wybod am ffermio modern drwy Cyswllt Ffermio

Published

on

CYFLWYNODD ei rieni ef i ochr ymarferol ‘tir a da byw’ ffermio yn ifanc iawn, ond i Dylan Morgan, a aned yn Sir Gaerfyrddin, Cyswllt Ffermio sy’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r unigolyn yma a raddiodd mewn rheoli adeiladu. Dywedodd Dylan fod Cyswllt Ffermio wedi rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arno i fod y ffermwr ifanc blaengar a hyderus ydyw heddiw.

“A’r peth sy’n wych amdano yw, nad oedd rhaid i mi eistedd trwy oriau o ddarlithoedd theori amaeth am dair blynedd!”

Dywedodd Dylan mai agwedd Cyswllt Ffermio at ei holl wasanaethau hyfforddi a throsglwyddo gwybodaeth yw cyflwyno popeth ar y lefel gywir ar gyfer ffermwyr prysur ond profiadol sy’n gweithio.

“Mae’n ddull o ddysgu ar sail ‘angen gwybod’ sy’n apelio’n fawr ataf gan fy mod yn gallu gwneud lle iddo o amgylch fy nyletswyddau fferm ac ymrwymiadau eraill,” meddai Dylan.

Nid oedd gan Dylan unrhyw fwriad i ddod yn ffermwr pan adawodd Brifysgol Abertawe yn 2011, ond ar ôl ychydig fisoedd yn unig o ffermio’n llawn amser ar fferm bîff a defaid 360 erw ei deulu ger Llanymddyfri, newidiodd ei feddwl yn llwyr.

Roedd yn amlwg yn benderfyniad cywir i’r teulu cyfan ac mae Dylan (32) bellach wedi bod yn ffermio gartref ers bron i un mlynedd ar ddeg.

“Roeddwn i wastad wedi mwynhau helpu gartref pryd bynnag roedd gen i amser rhydd, felly roeddwn i wedi hen arfer ag ochr ymarferol ffermio, ond gan na astudiais i amaethyddiaeth yn y brifysgol, roeddwn i’n teimlo bod yna lawer nad oeddwn i’n ei wybod am iechyd anifeiliaid, pridd a rheoli glaswelltir a’r holl elfennau eraill o ffermio sy’n hanfodol i wella effeithlonrwydd ar y fferm.

“Mae’n hanfodol, fel ffermwyr, fod gan bob un ohonom y wybodaeth sydd ei hangen arnom a systemau yn eu lle i chwarae ein rhan i gadw at y safonau uchaf o les anifeiliaid, cynhyrchu da byw o’r ansawdd uchaf, gan hefyd warchod ein hamgylchedd naturiol a lleihau ein hôl troed carbon.”

Yn gefnogwyr hirdymor gwasanaeth Cynghori Cyswllt Ffermio, a welodd Dylan, ei dad a ffermwyr lleol eraill yn cael cyngor ar faterion yn cynnwys cynllunio rheoli maetholion, archwiliadau carbon a rheoli glaswelltir, mae Dylan yn rhoi llawer o’i amser hamdden i’w ddatblygiad personol.

Gan ddibynnu’n drwm ar ei swyddog datblygu lleol, Alun Bowen, i roi’r wybodaeth ddiweddaraf iddo am yr hyn sydd ar gael, mae Alun wedi cyfeirio Dylan – yn aml yng nghwmni ei dad – at nifer o weithdai iechyd a lles anifeiliaid ar bynciau’n amrywio o ffrwythlondeb y ddiadell a cholledion wyna i wneud y mwyaf o gynhyrchiant buchod sugno, cloffni a rheoli tir. Mae Dylan hefyd wedi dilyn cyrsiau hyfforddi byr â chymhorthdal ac mae’n defnyddio ystod gynhwysfawr y rhaglen o fodiwlau e-ddysgu a ariennir yn llawn yn rheolaidd.

“Mae dysgu ar-lein, mewn cyfnodau byr o 20 munud, gyda chwis ar ddiwedd pob modiwl i sicrhau eich bod wedi cymryd yr holl wybodaeth allweddol i mewn, yn ffordd wych o gynyddu eich gwybodaeth.”

Mae Dylan wedi canolbwyntio’n bennaf ar bynciau iechyd anifeiliaid yn ogystal â rheoli pridd a glaswelltir oherwydd ei fod yn credu’n gryf mewn mabwysiadu agwedd gyfannol at y fferm, gydag ‘arfer gorau ym mhopeth a wnawn’ yn rhan o’u hagenda cynaliadwyedd.

“Diolch i fy ngwybodaeth a sgiliau newydd a thrwy weithredu rhai o’r systemau newydd rydym wedi dysgu amdanynt trwy Cyswllt Ffermio, rydym bellach yn bwydo’r stoc yn llawer mwy effeithlon.

“Mae hyn wedi lleihau ein mewnbynnau’n sylweddol wrth wella perfformiad stoc a chynhyrchiant ac rydym hefyd wedi lleihau lefelau cloffni.”

Mae’r teulu’n sgorio cyflwr y corff yn rheolaidd ac yn meincnodi eu holl stoc ac yn dweud bod cyfrif wyau ysgarthol a phrofi elfennau hybrin trwy Cyswllt Ffermio wedi rhoi gwybodaeth werthfawr iddynt sy’n golygu eu bod wedi lleihau eu dibyniaeth ar driniaethau gwrthlyngyrol drwy fabwysiadu dull wedi’i dargedu’n well.

Gyda’i holl gyflawniadau dysgu wedi’u storio ar-lein yn ei gofnod personol y Storfa Sgiliau, mae Dylan yn dweud bod y system yn ffordd ddefnyddiol o nodi unrhyw feysydd y mae’n dal eisiau dysgu amdanynt.

“Mae ffermio yn ddiwydiant sy’n esblygu ac felly mae angen i ffermwyr o bob cenhedlaeth wybod eu bod yn ddigon gwybodus i wynebu’r cyfleoedd a’r heriau sydd o’u blaenau.”

Mae Cyswllt Ffermio yn cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra Cymru a’i ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

I gael rhagor o wybodaeth am holl wasanaethau cymorth a hyfforddiant Cyswllt Ffermio ewch i https://businesswales.gov.wales/farmingconnect/cy neu ffoniwch eich swyddog datblygu Cyswllt Ffermio lleol.

Continue Reading

Cymraeg

Cyfle gwych i ennill gwobr yn atyniadau Awdurdod y Parc dros benwythnos Dydd Gŵyl Dewi

Published

on

BYDD tri atyniad Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn dosbarthu cennin Pedr i ymwelwyr yn rhad ac am ddim ar 4 a 5 Mawrth eleni i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi.

Bydd gan Gastell Caeriw, Pentref Oes Haearn Castell Henllys ac Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc nifer cyfyngedig o gennin Pedr i’w dosbarthu i bobl sy’n ymweld â’r safleoedd dros benwythnos Dydd Gŵyl Dewi.

Yn ôl y Cynghorydd Di Clements, Cadeirydd Awdurdod y Parc: “Rydyn ni’n annog cynifer â phosib o bobl i ymuno â dathliadau Dydd Gŵyl Dewi, a pha ffordd well o ddathlu diwylliant Cymru yn eich cartref na chael tusw o’r blodau lliwgar yma?

“Bydd y cennin Pedr yn cael eu dosbarthu ar sail y cyntaf i’r felin. Oherwydd mai dim ond nifer cyfyngedig fydd ar gael ar bob safle, byddwn yn annog pobl i ymweld â’r safleoedd cyn gynted â phosib ar 4 neu 5 Mawrth er mwyn manteisio ar y cynnig hwn.”

Bydd Parêd blynyddol y Ddraig hefyd yn cael ei gynnal yn Nhyddewi ddydd Sadwrn 4 Mawrth, gyda chriw o ddisgyblion ysgol ac aelodau gofal yn y gymuned yn gadael Oriel y Parc am 11am.

I gael yr amserau agor, gwybodaeth am y digwyddiad a phrisiau mynediad ar gyfer Castell Caeriw, ewch i www.arfordirpenfro.cymru/castell-caeriw/.

I gael yr amserau agor, gwybodaeth am y digwyddiad a phrisiau mynediad ar gyfer Castell Henllys, ewch i www.arfordirpenfro.cymru/castell-henllys/

I gael yr amserau agor a gwybodaeth am y digwyddiad ar gyfer Oriel y Parc, ewch i www.arfordirpenfro.cymru/oriel-y-parc/.

Continue Reading

Cymraeg

Dydd Gŵyl Dewi yn gyfle perffaith i ddathlu bwyd Cymreig

Published

on

MAE Dydd Gŵyl Dewi (1 Mawrth) yn gyfle perffaith i ddathlu’r cynnyrch Cymreig gorau sydd ar gael, ac mae Undeb Amaethwyr Cymru yn annog defnyddwyr, wrth wneud y siopa wythnosol, i ddewis Cig Eidion Cymru Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI) a Chig Oen Cymru Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI) a gynhyrchir yn gynaliadwy.

Dywedodd Llywydd UAC Glyn Roberts: “Mae gan Gig Eidion Cymru Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI) a Chig Oen Cymru Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI) stori wych i’w hadrodd ac rwy’n falch o fod ymhlith ffermwyr, sydd nid yn unig yn cynhyrchu bwyd gwych, ond hefyd yn barod i rannu’n stori ni. Mae stori cig coch Cymru yn wych, yn enwedig o ran bod yn amgylcheddol gynaliadwy.

“Mae defnyddwyr yn fwyfwy ymwybodol o ôl troed carbon eu bwyd a’r ffordd y mae wedi’i gynhyrchu. Wrth ddewis Cig Oen a Chig Eidion Cymru Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI) gallant fod yn dawel eu meddwl ei fod wedi’i gynhyrchu gyda natur mewn golwg. Mae mor faethlon a chynaliadwy ag y gall fod, ac rwy’n annog pawb i ddewis ein cynnyrch Cymreig ni yn gyntaf.”

Fodd bynnag, roedd Mr Roberts yn glir bod ffermwyr yng Nghymru angen cefnogaeth, nid yn unig gan Lywodraeth Cymru ond hefyd gan Lywodraeth y DU, os yw ein dulliau cynaliadwy o gynhyrchu bwyd am barhau am genedlaethau i ddod.

“Mae ffermio yng Nghymru yn rhoi sylfaen gadarn i’n heconomi – cynhyrchu bwyd, darparu cyflogaeth, a chwarae rhan hollbwysig wrth ofalu am ein hamgylchedd. Rydym am i’n ffermwyr barhau i gynhyrchu bwyd yn eu rôl fel ceidwaid cefn gwlad am flynyddoedd lawer i ddod.

“Yr hyn sy’n bygwth y system honno yw cytundebau masnach gyda gwledydd sydd â safonau cynhyrchu gwahanol iawn i’n rhai ni, sy’n anfantais i’n ffermwyr o ran bod yn gystadleuol. Felly, rwy’n annog Llywodraeth y DU eto heddiw i roi ein diwydiant ffermio yn gyntaf, fel y mae cenhedloedd eraill yr ydym yn cyd-drafod â nhw yn ei wneud.”

Continue Reading

News9 mins ago

Two lives saved after children get in trouble in surf off Pendine

TENBY’S all-weather lifeboat was requested to launch at 1.40pm on Thursday 1st June, following a report of children in difficulty...

News5 hours ago

Dragon collaborates with Withybush Hospital Cancer Day Unit Appeal

DRAGON LNG Group has told The Herald it is delighted to announce its charity of the year for the period...

News6 hours ago

Pembrokeshire’s Democracy Champions of the future join forces

Young people from Pembrokeshire’s secondary schools recently attended a special event designed to help them become Democracy Champions.These Democracy Champions...

News1 day ago

Former councillor’s pub works expected to be refused

ALTERATIONS to a bar in a seaside village’s conservation area, partly owned by a former county councillor, are expected to...

News1 day ago

One week to go until deadline for 20 MPH consultation, says Council

IN JULY 2022, the Senedd passed legislation to reduce the default speed limit from 30mph to 20mph on restricted roads...

News2 days ago

National Park planners set to refuse toilet conversion to ice cream parlour

A SCHEME to turn surplus public toilets to a takeaway ice cream parlour/coffee bar is expected to be refused by...

Charity4 days ago

Child swept out to sea rescued by kayakers as lifeboat launches

THE KATHLEEN ANN, embarked on its second call-out of the day at 3.55pm on Sunday, 28th May, following reports of...

News4 days ago

Girl, five, dies in house fire in Pontyglasier, near Crymych

IN A TRAGIC incident that has sent shockwaves through the Pembrokeshire community, a five-year-old girl, Alysia Salisbury, lost her life...

News4 days ago

Reports of a child fatality in devastating house fire near Crymych

THE HERALD understands that in a heart-wrenching incident that unfolded last night, a young child lost their life in a...

News5 days ago

Builder convicted for fraudulently claiming £16,000 in benefits during lockdown

A BUILDER who possessed two properties in Pembrokeshire has been found guilty of unlawfully receiving over £16,000 in benefits following...

Popular This Week