Cymraeg
Cerddwyr Cylch Teifi
AR GYFER ein taith gyntaf yn y flwyddyn newydd, buom yn ardal Llangrannog gyda Ros Price-Jones a Russ Price yn arwain.
Aethom ar daith gylch bleserus iawn o ryw dair milltir ac ar y ffordd clywon ni hanes Rhydcolomennod a Gwersyll yr Urdd wrth fynd heibio iddynt. Ymlaen wedyn at lwybr yr arfordir heibio i Bendinas Lochtyn ac wedyn i lawr i’r pentref ger y traeth, lle aeth y rhan fwyaf ohonom i fwynhau lluniaeth yn y Pentre Arms.
Ddydd Sadwrn 9fed Chwefror byddwn yn ardal Aberteifi a Patch, gyda Pob Thomas yn arwain. Byddwn yn gadael y maes parcio (tâl) ar bwys yr hen archfarchnad ar lan Afon Teifi (SN 175 459; Cod post: SA43 1HR) am 10:30.
Awn ar daith unffordd, ddwy awr o ychydig yn llai na 3 milltir ar dir gwastad; byddwn yn dilyn Llwybr yr Arfordir yr holl ffordd i’r maes parcio rhwng Penyrergyd a Gwbert (Jubilee) lle gosodir ceir ymlaen llaw i fynd â’r gyrwyr yn ôl i Aberteifi. Cerddwn ddwy filltir ar lwybr troed (a all fod yn fwdlyd mewn mannau) i Nantydderwen a’r filltir olaf ar y palmant wrth ochr y ffordd. Ni fydd sticlau. Cawn ddysgu am hanes a byd natur yr ardal wrth gerdded. Wedyn bydd cyfle i gymdeithasu dros luniaeth yng Nghaffi Gorffwysfa’r Pysgotwyr wrth y man cychwyn.
Fis Mawrth 9fed, awn i ardal Rhos-y-bwlch (Rosebush) gyda Gwyndaf a Heather Tomos yn arwain. Byddwn yn gadael maes parcio’r pentref (SN 075 295; Cod post: SA66 7QX) am 10:30yb a mynd ar daith gylch ychydig yn llai na dwy awr o ryw ddwy filltir a chwarter ar draciau cadarn a thir gwastad.
Cerddwn heibio i flaenau tai teras y pentref tuag at y Preselau cyn troi i’r chwith ac yn nes ymlaen i’r chwith eto i ddychwelyd i’r maes parcio. Ni fydd sticlau. Byddwn i’n dysgu ychydig am hanes pentref Rhos-y-bwlch / Rosebush, y chwareli llechi a’r rheilffordd, a byd natur yr ardal. Ar ôl cerdded, bydd yn bosibl cael lluniaeth yn y Dafarn Sinc.
Mae croeso cynnes i bawb ar bob taith. Darllenwch fanylion y daith i sicrhau eich bod yn ddigon abl i’w chyflawni heb oedi’n ormodol; dewch â dillad addas, yn enwedig esgidiau sy’n gymwys i dir gwlyb ac anwastad: a chymerwch ofal arbennig wrth groesi ffyrdd ac wrth gerdded ar hyd ffyrdd heb balmant neu ar lethrau serth.
Isod, mae manylion bras ein teithiau nesaf. Os hoffech ragor o fanylion, neu i fod ar y rhestr bostio, cysylltwch â [email protected] 01239 654561
D.S. Dylai’r codau post fod yn agos i’r lle iawn, ond yn aml ni fyddant yn dangos yr union le.
9 Chwefror: Ardal Aberteifi a Patch
Gadael y maes parcio (tâl) ar lan afon Teifi (SN 175 459) (Cod post SA43 1HR) am 10.30yb.
Arweinydd: Pob Thomas
9 Mawrth: Rhos-y-bwlch / Rosebush
Gadael maes parcio Rosebush (SN075 295) (Cod post SA66 7QX) am 10.30yb.
Arweinwyr: Gwyndaf a Heather Tomos
13 Ebrill: Llanbedr Pont Steffan
Gadael maes parcio Clwb Rygbi Llambed (SN578 486) (Cod post SA48 7HZ) am 10.30yb.
Arweinydd: Gillian Jones
Cymraeg
Strategaeth yr iaith Gymraeg dan adolygiad yng nghanol galwadau am gyfeiriad cliriach
MAE SAMUEL KURTZ AS, Ysgrifennydd Cysgodol y Cabinet dros yr Iaith Gymraeg, wedi annog Llywodraeth Cymru i ailfeddwl eu dull o weithredu targed uchelgeisiol Cymraeg 2050 yn sgil pryderon a godwyd mewn adroddiad diweddar gan y Senedd.
Mae strategaeth Cymraeg 2050 yn anelu at sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn canol y ganrif hon, ond mae amheuon wedi cael eu codi am ei hyfywedd. Mae canfyddiadau’r Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc yn tynnu sylw at heriau fel marweiddio yn nifer yr athrawon Cymraeg a gostyngiad yn y defnydd o’r iaith ymhlith pobl ifanc.
Mae Mr Kurtz, sy’n cynrychioli Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, wedi ymuno â’r galwadau i Lywodraeth Cymru ailystyried eu cynlluniau. Dywedodd:
“Mae Ceidwadwyr Cymreig wedi galw ers tro am strategaeth gliriach gan Lywodraeth Cymru i gyflawni eu targed Cymraeg 2050.
“Gyda nifer y siaradwyr Cymraeg yn gostwng dros y ddau ddegawd diwethaf, mae’n hanfodol bod y duedd hon yn cael ei gwrthdroi. O ystyried y marweiddio yn nifer yr athrawon Cymraeg a’r gostyngiad yn y defnydd o’r Gymraeg ymhlith pobl ifanc, mae angen i Lywodraeth Cymru adolygu pam nad yw eu cynlluniau presennol ar gyfer Cymraeg 2050 yn gweithio ac addasu’r cynlluniau angenrheidiol.”
Persbectif Sir Benfro
Yn Sir Benfro, lle mae treftadaeth yr iaith Gymraeg yn ddwfn, mae’r ddadl yn un arwyddocaol iawn. Mae cymunedau lleol wedi gweld llwyddiant amrywiol wrth gynnal Cymraeg. Mae addysg cyfrwng Cymraeg wedi tyfu mewn rhai ardaloedd, gydag ysgolion fel Ysgol Caer Elen yn Hwlffordd yn chwarae rhan hanfodol, ond mae pryderon yn parhau am ei hygyrchedd ledled y sir.
Yn hanesyddol, mae Sir Benfro wedi cael ei hystyried yn ‘ffrynt ieithyddol’, lle mae’r iaith Gymraeg yn cydfodoli â’r Saesneg mewn cydbwysedd cynnil. Mae ardaloedd gwledig wedi dal gafael ar eu traddodiadau ieithyddol, ond mae trefoli a newidiadau demograffig yn peri heriau.
Un mater allweddol yw’r gweithlu addysgu. Heb ddigon o athrawon Cymraeg i ysbrydoli ac addysgu’r genhedlaeth nesaf, mae cyflawni Cymraeg 2050 yn mynd yn fwyfwy anodd. Mae galwadau hefyd wedi bod am fwy o gyfleoedd trochi yn y Gymraeg y tu allan i’r ystafell ddosbarth er mwyn meithrin y defnydd o’r Gymraeg yn y bywyd bob dydd.
Pam mae Cymraeg 2050 yn bwysig
Yng nghanol Cymraeg 2050 mae gweledigaeth i beidio â chadw’r Gymraeg yn unig, ond i’w gwneud yn iaith fyw a llewyrchus. Mae ymgyrchwyr yn dadlau bod strategaeth gadarn yn hanfodol i sicrhau bod yr iaith yn parhau i fod yn berthnasol i genedlaethau’r dyfodol, yn enwedig mewn ardaloedd fel Sir Benfro lle mae treftadaeth ddiwylliannol yn gysylltiedig â’r Gymraeg.
Mae cefnogwyr y targed yn pwysleisio ei botensial i gryfhau hunaniaeth gymunedol ac i roi hwb i gyfleoedd economaidd, o dwristiaeth i ddiwydiannau creadigol, lle mae dwyieithrwydd yn ased sy’n tyfu.
Oes modd ei gyflawni?
Er bod uchelgais Cymraeg 2050 yn cael ei ganmol yn eang, mae cwestiynau yn parhau ynghylch a yw’n gyflawnadwy heb newidiadau sylweddol mewn polisi. Mae’r beirniaid yn dadlau, heb strategaeth gynhwysfawr wedi’i hariannu’n dda sy’n mynd i’r afael ag addysg, seilwaith ac ymgysylltu cymunedol, bod y targed mewn perygl o fod yn ddim mwy na dyhead.
I Sir Benfro, mae’r her yn glir: dathlu a diogelu ei chymunedau Cymraeg tra’n creu cyfleoedd ar gyfer twf ac ymgysylltu â’r Gymraeg i bawb.
Mae galwad Mr Kurtz am weithredu yn ychwanegu at y pwysau cynyddol ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno cynllun sy’n gweithio – nid yn unig ar gyfer nawr, ond ar gyfer cenedlaethau i ddod.
Cymraeg 2050: Iaith ar gyfer y dyfodol
I Sir Benfro a thu hwnt, mae’r blaenoriaeth yn uchel. Mae cyflawni miliwn o siaradwyr Cymraeg yn ymwneud â mwy na niferoedd yn unig – mae’n ymwneud â sicrhau dyfodol lle mae’r iaith yn parhau i fyw a ffynnu, o bentrefi gwledig Gogledd Sir Benfro i strydoedd prysur Aberdaugleddau.
Business
A more connected Wales: Ogi to provide Welsh language support through eero
Starting today, Ogi- Wales’s biggest alternative telecoms company- has taken the innovative leap to back the provision of Welsh language on the eero wifi software.
Amazon’s eero delivers fast, reliable and secure wifi to every corner of the home. Using the latest mesh technology, eero brings seamless coverage, whether you’re streaming, gaming, or working from home. The Amazon eero suite of products is available on all Ogi 400, Ogi 500 and Ogi 1Gig packages.
Ogi’s commitment to continuously improving for their Welsh customers is demonstrated through this new partnership. This milestone makes eero one of the few smart home systems to offer Welsh-language support in its mobile app.
Within the eero app, engineers have incorporated familiar Welsh-language terms to further the experience for users.
Speaking about the new feature, Ogi’s Brand Marketing Director, Sarah Vining, said: “Ogi’s mission has always been to provide world-class services that are inherently Welsh.”
“Working with the team at eero, we’re not only bringing cutting-edge technology to Welsh homes but also making it more accessible for our customers, and for users all over Wales too. This partnership reflects our shared vision to make the internet more accessible to everyone.”
“Our mission is to bring fast, reliable, and secure wifi to customers around the world.” said Mark Sieglock, eero EVP, Software and Services. “We’re thrilled to partner with Ogi to add Welsh language support, making the eero app more accessible to Welsh speakers in Wales.”
Welsh language support is now available to all eero users by downloading the latest software update (release 6.47.0)
Cymraeg
Hybu’r Gymraeg drwy sioe lwyfan
Ar faes Eisteddfod yr Urdd heddiw ym Meifod (29 Mai) caiff sioe lwyfan newydd ei dangos a fydd yn hyrwyddo’r Gymraeg i bobl ifanc ledled Cymru. Manon Steffan Ros sydd wedi creu’r sioe Geiriau i gwmni Mewn Cymeriad yn dilyn comisiwn gan Gomisiynydd y Gymraeg.
Bydd y sioe, sydd wedi ei hanelu at bobl ifanc ym mlynyddoedd 7, 8 a 9 ysgolion uwchradd, yn cyd-fynd â phecyn addysg newydd sydd wedi ei ddatblygu gan y Comisiynydd ac a fydd ar gael ar lwyfan addysgol, Hwb.
Yn ôl Manon Steffan Ros, roedd yn braf derbyn y cais i wneud y gwaith hwn er yn un heriol,
“Er mwyn hybu’r Gymraeg i’n pobl ifanc a’u hannog i’w defnyddio mae angen manteisio ar amryw o ffyrdd i wneud hynny. Mae sioe lwyfan, sydd yn mynd mewn i ysgolion, yn gyfle gwych i bwysleisio rôl y Gymraeg yn ein bywydau bob dydd, drwy ddefnyddio cerddoriaeth gyfoes a iaith sydd yn berthnasol iddyn nhw.
“Roedd yn her, serch hynny, i ddatblygu sgript a oedd yn cyfleu yr holl elfennau yma, tra ar yr un pryd yn hyrwyddo’r neges gyffredinol fod angen defnyddio’r Gymraeg er mwyn iddi oroesi.
“Gobeithio bydd y sioe yn gyfrwng i arwain at drafodaeth bellach ymysg pobl ifanc a’u hathrawon am bwysigrwydd y Gymraeg.”
I gyd-fynd â’r sioe, mae pecyn addysg wedi ei greu hefyd sydd yn cynnig amryw ddeunyddiau ar gyfer gwersi. Mae’r pecyn yn cynnwys cyflwyniadau ac atodiadau sydd yn rhannu gwybodaeth am y Gymraeg, ei phwysigrwydd fel sgil mewn bywyd bob dydd, ieithoedd lleiafrifol eraill ar draws y byd, yn ogystal ag egluro rôl Comisiynydd y Gymraeg.
Yn ôl Efa Gruffudd Jones., Comisiynydd y Gymraeg, y gobaith yw fod y gwaith hyn yn ymateb i angen,
“Rwyf wedi nodi yn aml fod plant a phobl ifanc yn flaenoriaeth i fi ac rydym yn gyson yn derbyn ceisiadau gan ysgolion am wybodaeth am ein gwaith. Y nod gyda’r pecyn hwn yw cynnig pecyn ymarferol y gellir dewis gweithgareddau ohono.
“Bydd hefyd, gobeithio, yn gymorth i athrawon a ddisgyblion ddeall yn well, nid yn unig rôl Comisiynydd y Gymraeg ond sefyllfa’r Gymraeg ar lefel genedlaethol a rhyngwladol.
“Gobeithio y caiff ei ddefnyddio’n eang.”
Un ysgol sydd wedi cael cyfle i weld y sioe eisoes yw Ysgol Bro Hyddgen ym Machynlleth yn nalgylch yr Eisteddfod. Mae Nansi Lloyd yn mlwyddyn 7 ac fe wnaeth fwynhau yn fawr,
“Roedd y sioe yn symud yn gyflym oedd yn grêt ac roeddem i gyd yn meddwl fod y defnydd o gerddoriaeth Gymraeg gyfoes yn dda iawn. Fe wnaeth i fi feddwl am pam mod i’n siarad Cymraeg a phwysleisio pa mor bwysig yw siarad yr iaith yn naturiol bob dydd, ac nid yn yr ysgol yn unig.
“Rwy’n gobeithio mynd i’w gweld eto yn yr Eisteddfod.”
Mae Alaw Jones yn athrawes yn ysgol Bro Hyddgen ac yn gweld gwerth yn y sioe a’r pecyn addysg,
“Mae yn medru bod yn heriol cyflwyno’r Gymraeg yn enwedig mewn oes lle mae cyfryngau cymdeithasol yn chwarae rôl mor flaenllaw yn mywydau pobl ifanc. Roedd y sioe hon yn gyfrwng i arwain ar drafodaeth bellach am y Gymraeg yn ein cymdeithas heddiw a braf oedd gweld ymateb y bobl ifanc i’r sioe.
“Mae’r pecyn addysg yn adnodd defnyddiol a fydd yn ein caniatáu i drafod y Gymraeg mewn cyd-destun ehangach, cyd-destun rhyngwladol, ac yn pwysleisio manteision siarad yr iaith o safbwynt sgil yn y byd gwaith.”
Caiff y sioe, Geiriau¸ ei pherfformio ar stondin Llywodraeth Cymru am 2pm ar ddydd Mercher, 29 Mai a bydd sesiwn holi ac ateb yn dilyn yng nghwmni Efa Gruffudd Jones, Manon Steffan Ros ac Owen Alun sydd yn perfformio’r sioe.
-
Top News2 days ago
Pembrokeshire man jailed after repeatedly punching pregnant wife
-
Top News2 days ago
Police investigate dogs seen persistently chasing sheep on Pembrokeshire airfield
-
Entertainment5 days ago
Reef’s 30th Anniversary Tour hits Tenby in 2025
-
News5 days ago
Thai mother’s harrowing 999 call: “I felt like a robot, I felt twisted, I killed my son”
-
News7 days ago
Pembrokeshire loses out as Labour ‘rewards its heartlands’
-
News3 days ago
Dyfed-Powys Police launches attempted murder investigation
-
Health6 days ago
As many as 100,000 people in Wales could have Long Covid
-
Crime6 days ago
Seventeen deaths at Parc Prison: Calls for action after MP inquiry