Cymraeg
Merched Parchus – Blin, blêr a gwarthus

SENGL am y tro cyntaf ers iddi gael boobs, a nôl ble oedd hi ddeng mlynedd yn ôl yn nhŷ ei rhieni – mae’r “ffeminydd wael” a’r awdures ddiog Carys yn methu, wir yn methu. Yr unig beth sydd wedi newid yw bod ganddi 2:1 a dim hymen.
Tra bod pawb o’i hamgylch yn llwyddo i gyflawni insta-perffeithrwydd, yr unig beth sy’n lleddfu tor-calon Carys yw podlediadau Americanaidd am lofruddiaethau graffig, sy’n ddihangfa lwyr o’i realiti llwm.
Mae’n benderfynol o ail-greu ei hun yn oedolyn go iawn, ond gyda llais mewnol Carys yn mynegi ei gwir deimladau, mae ei hobsesiwn tywyll yn creu ffantasiâu gwaedlyd tra’i bod hi’n brwydro ei hofnau, #lifegoals a’i hanallu i gymryd cyfrifoldeb am ei hapusrwydd ei hun.
Er ei bod yn dibynnu ar ei ffrindiau – Lowri, Dan a Siriol – a’i theulu i ddatrys ei holl broblemau, mae niwl y straeon trosedd a’i hobsesiwn â hi ei hun yn ei dallu hi i wir broblemau ei ffrindiau.
Byddwch yn barod i binjio Merched Parchus ar-lein ar ffurf Bocs Set am y tro cyntaf ar S4C ar wasanaeth S4C Clic ar yr 12 Ebrill ac yn wythnosol ar deledu traddodiadol o 19 Ebrill.
Cyfres ffraeth, onest a thywyll, crëwyd Merched Parchus a’i wireddu gan rai o dalentau newydd mwyaf cyffrous Cymru sef Hanna Jarman (o Gaerdydd) a Mari Beard (o Aberystwyth). Mae’r ddwy, sydd wedi ysgrifennu’r gyfres ac sydd yn chwarae’r ddwy brif gymeriad Carys (Hanna) a Lowri (Mari), yn hapus iawn bod y ddrama yn mynd i arwain y chwildro digidol ar S4C.
“Sgenai’m teledu, felly wi’n gwylio popeth ar laptop,” meddai Hanna. “A fi’n gwylio pethau ar fy ffôn mwy a mwy – pethau fel YouTube a Netflix. Ac mae’r genhedlaeth sydd yn dod ar ein hôl ni’n meddwl ‘live telly? Whaaat?’ dyn nhw ddim yn ei wylio fe o gwbl. I ni mae e’n gwneud gymaint o synnwyr. Fi’n rili falch mai ni yw’r cyntaf ar S4C i gael rhywbeth wedi darlledu ar-lein yn gyntaf.”
Mae pob pennod o Merched Parchus yn cynnwys ffantasi wedi’i ysbrydoli gan y podlediad y mae Carys yn gwrando arno. Mae’r troseddi erchyll yma yn treiddio mewn i realiti Carys ag yn adlewyrchu ei meddylfryd tywyll gyda chanlyniadau gwaedlyd ac weithiau brawychus.
Felly pam yr obsesiwn gyda’r podlediau trosedd?
“Mae Hanna a fi yn eitha’ obsessed gyda straeon am lofruddiaethau a “serial killers”. Mae hi’n naturiol i ni ysgrifennu am beth ydyn ni’n gwybod felly benderfynon ni ddefnyddio elfen o “true crime” yn y gyfres,” esboniodd Mari.
Mae Hanna’n cytuno. “Ro’n ni eisiau trafod y ffaith bod llofruddiaeth nawr yn cael ei hystyried yn adloniant a bod hyn ddim yn beth iachus. Hefyd o’n ni eisiau ceisio dod o hyd i ffordd i Carys osgoi ei realiti hi ac adlewyrchu ei hiselder hi.”
Mae dramâu sydd wedi cael ei ysgrifennu gan fenywod ar gyfer menywod yn mynd o nerth i nerth ar hyn o bryd ac mae Merched Parchus yn rhan o’r symudiad hwn.
Comisiynwyd Merched Parchus gan Gwawr Lloyd – comisiynydd drama S4C a’i chynhyrchu gan Gynyrchiadau ie ie, sy’n hybu gwaith gan fenywod ifanc yng Nghymru. Cyfansoddwyd y sgôr gan y cerddor rhyngwladol o Gaerfyrddin Cate Le Bon – y tro cyntaf i Cate gyfansoddi cerddoriaeth ar gyfer ffilm neu deledu.
Felly, oedd gweithio gyda thîm o fenywod yn brofiad da i Hanna a Mari?
“Un o’r rhesymau aethon at ie ie yn y lle cyntaf oedd ei hethos nhw. Ma Alice Lusher (Cynhyrchydd) a Catryn Ramasut (Uwch Gynhyrchydd) eisiau gweithio gyda’r talent benywaidd mwyaf blaenllaw yng Nghymru – roedd hynna’n bwysig iawn i ni,” meddai Mari.
Cymraeg
Effaith trist aflonyddu ar forloi a rhai bach ar arfordir Cymru

Gyda mwy o bobl nag erioed yn ymweld â’r parth arfordirol yma yng Nghymru, mae
aflonyddu ar fywyd gwyllt ar gynnydd. Yn ddiweddar, cawsom newyddion trist fod morlo
bach wedi marw ar ôl i’w fam beidio â dychwelyd i’w fwydo yn dilyn achos o aflonyddu a
dychryn gan bobl oedd eisiau tynnu lluniau a ‘selfies’ gyda’r morlo bach.
Yn ystod y tymor magu (rhwng Awst a Rhagfyr) mae’n bosib dewch ar draws morloi bach
gwyn ar draethau neu ar greigiau ar arfordir Cymru – yn aml ar ben eu hunain. Serch hynny
maen debygol bydd y fam ger llaw, felly mae’n hanfodol cadw draw er mwyn iddi allu
ddychwelyd i fwydo’i morlo bach.
Yn ôl Sue Burton, Swyddog yr ACA ar gyfer Sir Benfro Forol “Rhaid cofio bod morloi bach
angen digonedd o ofod personol ag amser er mwyn gorffwys a thyfu. Dim ond am dair
wythnos yn unig caiff y morloi bach eu bwydo gan eu mamau cyn nes bydd yn rhaid iddynt
gofalu am eu hunain. Mae’n hanfodol felly yn ystod yr amser yma eu bod yn cael digonedd o
le heb ymyrraeth. Gall aflonyddu ar forloi arwain at eu marwolaeth”.
Mae’n bwysig iawn cofio bod y creaduriaid eiconig hyfryd yma yn anifeiliaid gwyllt.
Cadwch draw o fywyd gwyllt – Mwynhewch o bell
Cymraeg
Meddygon teulu dal yma ar gyfer apwyntiadau wyneb yn wyneb

Mae meddygon yn Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro yn atgoffa’u cleifion eu bod yn parhau i gynnig apwyntiadau wyneb yn wyneb i’r rhai sydd angen eu gweld.
Trwy gydol y pandemig, mae meddygfeydd wedi sicrhau bod gwasanaethau hanfodol yn parhau i redeg, gan ddefnyddio ffyrdd arloesol o gyfathrebu â’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.
Erbyn hyn mae llawer o feddygfeydd yn parhau i ddefnyddio ymgynghoriadau ffôn a galwadau fideo lle y bo’n briodol; mae hyn yn rhoi rhyddid i lawer o gleifion siarad â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol (nid o reidrwydd y meddyg teulu) yng nghysur a chyfleustra eu cartrefi eu hunain
Mae gan y rhan fwyaf o feddygfeydd systemau ar-lein megis E-Consult neu Ask My GP, lle gall cleifion ofyn cwestiwn llai brys am eu hiechyd. Gweler gwefan eich meddygfa am fwy o wybodaeth.
Mae Fy Iechyd Ar-lein yn parhau i fod yn opsiwn ar-lein 24/7 ar gyfer archebu presgripsiwn meddyginiaeth rheolaidd – mae wedi’i gynllunio i fod yn gyfleus i gleifion ac yn arbennig o ddefnyddiol i’r rhai sy’n hunan-ynysu neu’n gwarchod. Gall cleifion gofrestru ar gyfer hyn drwy eu meddygfa leol.
Mae system brysbennu dros y ffôn neu ar-lein ar waith yn y rhan fwyaf o feddygfeydd i sicrhau bod cleifion yn siarad ag aelod clinigol o staff am eu hiechyd.
Os oes angen gweld claf wyneb yn wyneb, bydd y feddygfa’n gwneud apwyntiad â’r gweithiwr gofal iechyd proffesiynol mwyaf priodol i’w anghenion.
Dywedodd Dr Siôn James o Feddygfa Tregaron: “Hoffem atgoffa cleifion bod meddygfeydd teulu yn parhau i fod ar gael i chi. Pan fyddwch yn cysylltu â’ch meddygfa, byddwch yn siarad â’r person mwyaf addas ar gyfer eich cyflwr ac os bydd angen i’ch gweld wyneb yn wyneb, yna rhoddir apwyntiad i chi yn y feddygfa.
Gellir trin llawer o gyflyrau dros y ffôn gyda chyngor ac os oes angen, gellir rhoi presgripsiwn i fferyllfa o’ch dewis. Peidiwch ag osgoi ymofyn triniaeth.
Ar gyfer mân anhwylderau, cofiwch y gallai eich fferyllfa gymunedol helpu.”
Ychwanegodd Fferyllydd Cymunedol, Richard Evans: “Yn draddodiadol mae fferyllwyr Cymunedol wedi cynghori cleifion ar ystod eang o anhwylderau. Rydym bob amser yn argymell triniaethau addas i’r cleifion, neu os oes angen, eu cyfeirio at weithiwr gofal iechyd proffesiynol.
Yn ystod y pandemig hwn, gweinyddu presgripsiynau yw’r prif ffocws o hyd, ond mae gwasanaethau eraill ar gael, megis y Gwasanaeth Anhwylderau Cyffredin, Brysbennu a Thrin, cyflenwi meddyginiaethau mewn argyfwng a dulliau atal cenhedlu brys.
Gellir cael mynediad at y gwasanaethau hyn drwy ymgynghoriad dros y ffôn, gyda’r claf neu ofalwr/aelod o’r teulu yn casglu unrhyw feddyginiaeth angenrheidiol.
Cofiwch archebu unrhyw bresgripsiwn meddyginiaeth rheolaidd mewn pryd cyn i chi ei orffen.”
Yn ychwanegol at y wybodaeth arbenigol broffesiynol a gynigir mewn fferyllfeydd, bydd cleifion cymwys yn gallu derbyn eu brechlyn ffliw rhad ac am ddim yn y mwyafrif o’n fferyllfeydd cymunedol y gaeaf hwn. Am restr lawn o fferyllfeydd sy’n cymryd rhan, cliciwch yma https://biphdd.gig.cymru/gofal-iechyd/gwasanaethau-a-thimau/fferyllfa/brechiadau-y-ffliw-tymhorol/
I gael gwybod pa wasanaethau y mae eich fferyllfa gymunedol yn eu cynnig, ewch i: https://biphdd.gig.cymru/gofal-iechyd/gwasanaethau-a-thimau/fferyllfa/
Mae rheolau cadw pellter cymdeithasol yn parhau ar draws safleoedd gofal sylfaenol er diogelwch cleifion a staff. Bydd gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy’n gweld cleifion wyneb yn wyneb i asesu neu ddarparu triniaeth yn defnyddio’r cyfarpar diogelu personol priodol ac mae sgriniau ar waith mewn rhai cownteri a derbynfeydd
Cofiwch wisgo gorchudd wyneb pan ydych yn ymweld ag unrhyw leoliad gofal iechyd.
Cymraeg
Lansio cystadleuaeth i enwi adeiladau porthladd hanesyddol

Mae gan Ddoc Penfro hanes morwrol cyfoethog, gan ei bod yn dref filwrol ers 150 o
flynyddoedd. Heddiw, mae hen Ddociau’r Llynges Frenhinol yn borthladd masnachol
sydd â dyfodol cyffrous yn y diwydiant ynni adnewyddadwy.
Mae Porthladd Aberdaugleddau yn rhan allweddol o brosiect Ardal Forol Doc Penfro
Bargen Ddinesig Bae Abertawe gwerth £60 miliwn, a fydd yn darparu’r cyfleusterau,
y gwasanaethau a’r gofodau sydd eu hangen i sefydlu canolfan o’r radd flaenaf ar
gyfer ynni morol a pheirianneg. Fel rhan o hyn, mae angen adnewyddu pedwar
rhandy rhestredig Gradd II sy’n sownd yn siediau awyrennau Sunderland er mwyn
eu moderneiddio ar gyfer yr 21ain ganrif a’u cynnig fel gweithleoedd modern hyblyg.
Bydd y gwaith adeiladu’n dechrau ym mis Tachwedd 2021 ac yn ôl yr amserlen bydd
yn cael ei gwblhau erbyn mis Tachwedd 2022.
Heddiw, mae’r Porthladd yn lansio cystadleuaeth i enwi’r pedwar rhandy ac mae’n
gwahodd ceisiadau gan aelodau o’r gymuned. Awgrymir pedair thema: treftadaeth,
dyfodol adnewyddadwy, hanes morol a hanes cymdeithasol, ond croesewir pob
syniad.
Dywedodd Steve Edwards, Cyfarwyddwr Masnachol y Porthladd, “Mae Porthladd
Penfro yn llawn hanes ac rydyn ni am sicrhau ein bod yn cadw’r adeiladau hyn yn
ddiogel fel y gellir eu defnyddio yn y bennod gyffrous nesaf. Mae Ardal Forol Doc
Penfro yn cynnig cyfleoedd enfawr i’r dref yn ogystal â’r rhanbarth cyfan, felly mae’n
bwysig iawn ein bod yn creu llety dymunol fel y gall busnesau sefydlu eu hunain
yma. Rydyn ni am gynnwys y gymuned gyfan yn ein cynlluniau drwy wahodd enwau
cofiadwy gyda chefndir difyr er mwyn ategu’r datblygiadau.”
I gyflwyno eich awgrymiadau, ewch i i www.mhpa.co.uk/naming-competition erbyn
dydd Llun 18 Hydref.
Ariennir Ardal Forol Doc Penfro gan Fargen Ddinesig Bae Abertawe, Cronfa
Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, a thrwy fuddsoddiad preifat.
-
Business7 days ago
Ferry staff concerned over rumours Pembroke Dock to Rosslare route coming to an end
-
News7 days ago
Man sadly passed away in hospital following incident in Haven Drive, Milford Haven
-
Crime5 days ago
Eight bungling police officers ‘raided’ home of autistic child ‘by mistake’
-
News3 days ago
Community backs fundraiser to help injured Pembrokeshire paramedic
-
News7 days ago
Haverfordwest: Fire crews attend kitchen fire in Abbots Close
-
News18 hours ago
Green light given to turn former public toilet into holiday let
-
News2 days ago
Freshwater West cordoned off over night due to ‘item of ordnance’ being found
-
News23 hours ago
Appeal for witnesses following assault on rail replacement bus