Cymraeg
Seren yr Casualty yn cipio coron Cariad@Iaith
SUZANNE PACKER, yr actores o Gaerdydd sy’n adnabyddus fel Tess Bateman ar gyfres Casualty yw enillydd Cariad@Iaith:Love4Language eleni.
Treuliodd Suzanne, a saith o sêr eraill, wythnos yn Nant Gwrtheyrn ym Mhen Llŷn yn dysgu Cymraeg gyda chamerâu S4C yn eu dilyn bob cam o’r ffordd. Wedi wythnos o ddysgu, chwerthin a chwysu roedd gofyn i’r dysgwyr fwrw eu pleidlais gan ddweud pwy, yn eu tyb nhw, oedd wedi bod ar y siwrnai fwyaf yn ystod yr wythnos. Roedd Suzanne wedi gwirioni ar ôl clywed mai hi oedd wedi ennill ond yn fwy na hynny wedi cael modd i fyw yn y Nant a blas go iawn ar y dysgu. “Roedd hi’n dipyn o sioc i mi fy mod i wedi ennill ond ro’n i wedi gwirioni a dweud y gwir! Ond heb air o gelwydd mi wnes i weithio yn galed iawn iawn yn ystod yr wythnos,” meddai Suzanne, sydd bellach yn ôl ar set Casualty yng Nghaerdydd. “Rydw i wedi ceisio dysgu siarad Cymraeg fwy nac unwaith yn y gorffennol ond wedi methu dro ar ôl tro am nifer o resymau, felly’r tro hwn roeddwn i’n benderfynol. Pan ddes i i Gaerdydd i weithio ar Casualty gyntaf nes i benderfynu rhoi fy mab, Paris, sy’n unarddeg, mewn addysg iaith Gymraeg, ac yn ddiweddar nes i benderfynu unwaith ac am byth fy mod eisiau gallu siarad Cymraeg gyda Paris adref. “Mae wedi bod yn gofyn i mi trwy’r wythnos, ‘Mam, pwy sydd yn ennill Cariad@Iaith?’ ond doeddwn i heb ddweud wrtho felly roedd yn dipyn o sypreis ar y noson! Roedd ei Gymraeg yn well na f’un i erbyn iddo gyrraedd pump neu chwech oed, ond nawr gan ei fod tipyn bach yn hyn mae’n deall bod angen llawer o help arna i ac mae’n ceisio fy nysgu chwarae teg. “Roedd Cariad@Iaith yn brofiad arbennig, ac roedd y dull dysgu, desuggestopedia, yn gweithio yn wych i mi. Dwi wedi dod yn llawer mwy hyderus ac yn benderfynol o barhau – dwi eisioes wedi trefnu i gael gwersi un wrth un bob wythnos gyda Siân Jones yma yng Nghaerdydd.” Ar ddiwedd yr wythnos roedd y tiwtoriaid Cymraeg Nia Parry ac Ioan Talfryn yn llawn canmoliaeth i bob un o’r dysgwyr, ac mae Nia Parry yn teimlo bod Suzanne yn llawn haeddu ennill coron Cariad@ Iaith 2014. “Roedd Suzanne yn ddiwyd, yn weithgar ac yn gydwybodol yn y dosbarth, yn barod i daflu ei hun mewn a bod yn rhan o’r holl weithgarwch,” meddai Nia, oedd yn cyd-gyflwyno’r gyfres gyda Matt Johnson yn ogystal â dysgu Cymraeg i’r criw. “Mae gan Suzanne gymhwyster dysgu ac roedd hyn yn amlwg o’r ffordd roedd hi’n ymdrin â’i chydddysgwyr. Roedd hi wastad yn barod i’w cynorthwyo a’u cefnogi ac roedd yn annwyl, yn famol ac yn fugeiliol o hyd. Roedd ganddi gryn dipyn o Gymraeg cyn dod ar Cariad@Iaith ond dw i’n teimlo fel ein bod wedi ei gweld yn blodeuo yn ystod yr wythnos. “Roedd yn bleser pur cael bod yn ei chwmni hi a gweddill y criw yn y ‘stafell ddosbarth a thu hwnt drwy gydol yr wythnos. Wythnos gwbl fythgofiadwy!” Y saith arall oedd ddigon dewr i gymryd rhan mewn gwersi a gweithgareddau dan arweiniad y tiwtoriaid Cymraeg brwdfrydig Nia Parry ac Ioan Talfryn oedd yr actores Siân Reeves, y cantorion Ian ‘H’ Watkins o STEPS a John Owen-Jones, y cyn gôl-geidwad rhyngwladol Neville Southall, enillydd ‘Big Brother’ 2013 Sam Evans, Jenna Jonathan o gyfres MTV ‘The Valleys’ a Behnaz Akhgar sy’n gyflwynydd tywydd ar wasanaethau BBC Cymru. Cyflwynwyd gwobr i Suzanne sef plât ceramig arbennig wedi ei ddylunio gan yr artist Buddug Humphreys, gyda’r frawddeg ‘Cenedl Heb Iaith Cenedl Heb Galon’ wedi ei hysgrifennu arni. Roedd y saith dysgwr arall hefyd yn derbyn llwy garu wedi ei dylunio gan Buddug.
Business
A more connected Wales: Ogi to provide Welsh language support through eero
Starting today, Ogi- Wales’s biggest alternative telecoms company- has taken the innovative leap to back the provision of Welsh language on the eero wifi software.
Amazon’s eero delivers fast, reliable and secure wifi to every corner of the home. Using the latest mesh technology, eero brings seamless coverage, whether you’re streaming, gaming, or working from home. The Amazon eero suite of products is available on all Ogi 400, Ogi 500 and Ogi 1Gig packages.
Ogi’s commitment to continuously improving for their Welsh customers is demonstrated through this new partnership. This milestone makes eero one of the few smart home systems to offer Welsh-language support in its mobile app.
Within the eero app, engineers have incorporated familiar Welsh-language terms to further the experience for users.
Speaking about the new feature, Ogi’s Brand Marketing Director, Sarah Vining, said: “Ogi’s mission has always been to provide world-class services that are inherently Welsh.”
“Working with the team at eero, we’re not only bringing cutting-edge technology to Welsh homes but also making it more accessible for our customers, and for users all over Wales too. This partnership reflects our shared vision to make the internet more accessible to everyone.”
“Our mission is to bring fast, reliable, and secure wifi to customers around the world.” said Mark Sieglock, eero EVP, Software and Services. “We’re thrilled to partner with Ogi to add Welsh language support, making the eero app more accessible to Welsh speakers in Wales.”
Welsh language support is now available to all eero users by downloading the latest software update (release 6.47.0)
Cymraeg
Hybu’r Gymraeg drwy sioe lwyfan
Ar faes Eisteddfod yr Urdd heddiw ym Meifod (29 Mai) caiff sioe lwyfan newydd ei dangos a fydd yn hyrwyddo’r Gymraeg i bobl ifanc ledled Cymru. Manon Steffan Ros sydd wedi creu’r sioe Geiriau i gwmni Mewn Cymeriad yn dilyn comisiwn gan Gomisiynydd y Gymraeg.
Bydd y sioe, sydd wedi ei hanelu at bobl ifanc ym mlynyddoedd 7, 8 a 9 ysgolion uwchradd, yn cyd-fynd â phecyn addysg newydd sydd wedi ei ddatblygu gan y Comisiynydd ac a fydd ar gael ar lwyfan addysgol, Hwb.
Yn ôl Manon Steffan Ros, roedd yn braf derbyn y cais i wneud y gwaith hwn er yn un heriol,
“Er mwyn hybu’r Gymraeg i’n pobl ifanc a’u hannog i’w defnyddio mae angen manteisio ar amryw o ffyrdd i wneud hynny. Mae sioe lwyfan, sydd yn mynd mewn i ysgolion, yn gyfle gwych i bwysleisio rôl y Gymraeg yn ein bywydau bob dydd, drwy ddefnyddio cerddoriaeth gyfoes a iaith sydd yn berthnasol iddyn nhw.
“Roedd yn her, serch hynny, i ddatblygu sgript a oedd yn cyfleu yr holl elfennau yma, tra ar yr un pryd yn hyrwyddo’r neges gyffredinol fod angen defnyddio’r Gymraeg er mwyn iddi oroesi.
“Gobeithio bydd y sioe yn gyfrwng i arwain at drafodaeth bellach ymysg pobl ifanc a’u hathrawon am bwysigrwydd y Gymraeg.”
I gyd-fynd â’r sioe, mae pecyn addysg wedi ei greu hefyd sydd yn cynnig amryw ddeunyddiau ar gyfer gwersi. Mae’r pecyn yn cynnwys cyflwyniadau ac atodiadau sydd yn rhannu gwybodaeth am y Gymraeg, ei phwysigrwydd fel sgil mewn bywyd bob dydd, ieithoedd lleiafrifol eraill ar draws y byd, yn ogystal ag egluro rôl Comisiynydd y Gymraeg.
Yn ôl Efa Gruffudd Jones., Comisiynydd y Gymraeg, y gobaith yw fod y gwaith hyn yn ymateb i angen,
“Rwyf wedi nodi yn aml fod plant a phobl ifanc yn flaenoriaeth i fi ac rydym yn gyson yn derbyn ceisiadau gan ysgolion am wybodaeth am ein gwaith. Y nod gyda’r pecyn hwn yw cynnig pecyn ymarferol y gellir dewis gweithgareddau ohono.
“Bydd hefyd, gobeithio, yn gymorth i athrawon a ddisgyblion ddeall yn well, nid yn unig rôl Comisiynydd y Gymraeg ond sefyllfa’r Gymraeg ar lefel genedlaethol a rhyngwladol.
“Gobeithio y caiff ei ddefnyddio’n eang.”
Un ysgol sydd wedi cael cyfle i weld y sioe eisoes yw Ysgol Bro Hyddgen ym Machynlleth yn nalgylch yr Eisteddfod. Mae Nansi Lloyd yn mlwyddyn 7 ac fe wnaeth fwynhau yn fawr,
“Roedd y sioe yn symud yn gyflym oedd yn grêt ac roeddem i gyd yn meddwl fod y defnydd o gerddoriaeth Gymraeg gyfoes yn dda iawn. Fe wnaeth i fi feddwl am pam mod i’n siarad Cymraeg a phwysleisio pa mor bwysig yw siarad yr iaith yn naturiol bob dydd, ac nid yn yr ysgol yn unig.
“Rwy’n gobeithio mynd i’w gweld eto yn yr Eisteddfod.”
Mae Alaw Jones yn athrawes yn ysgol Bro Hyddgen ac yn gweld gwerth yn y sioe a’r pecyn addysg,
“Mae yn medru bod yn heriol cyflwyno’r Gymraeg yn enwedig mewn oes lle mae cyfryngau cymdeithasol yn chwarae rôl mor flaenllaw yn mywydau pobl ifanc. Roedd y sioe hon yn gyfrwng i arwain ar drafodaeth bellach am y Gymraeg yn ein cymdeithas heddiw a braf oedd gweld ymateb y bobl ifanc i’r sioe.
“Mae’r pecyn addysg yn adnodd defnyddiol a fydd yn ein caniatáu i drafod y Gymraeg mewn cyd-destun ehangach, cyd-destun rhyngwladol, ac yn pwysleisio manteision siarad yr iaith o safbwynt sgil yn y byd gwaith.”
Caiff y sioe, Geiriau¸ ei pherfformio ar stondin Llywodraeth Cymru am 2pm ar ddydd Mercher, 29 Mai a bydd sesiwn holi ac ateb yn dilyn yng nghwmni Efa Gruffudd Jones, Manon Steffan Ros ac Owen Alun sydd yn perfformio’r sioe.
Cymraeg
Last ditch plea to HSBC to reverse decision to axe Welsh language phone line
AN MS has issued a last ditch plea to HSBC to reverse its “unacceptable” decision to axe its Welsh language phone service.
Llŷr Gruffydd, who represents North Wales in the Senedd, has spoken out as January 15, the date when the phone line is due to come to an end fast approaches.
The Plaid Cymru politician said executives at the baking giant still have an “opportunity to do the right thing”.
HSBC came under fire after politicians were informed of the bank’s decision to axe its Welsh language service by letter on Wednesday, November 8.
The Senedd’s Culture Committee wrote to the corporation accusing it of “contempt” towards Welsh speakers.
It added that its “failure to maintain an approach consistent with its values is considered disingenuous and disturbing”.
The committee also questioned statements made by José Carvalho, HSBC’s head of wealth and personal banking, who spoke in front of it on November 29.
The banker said that the Welsh-language helpline receives around 22 calls a day, and that the bank had ended up “with only 6% of the calls that are coming in being answered in Welsh” by them.
However, the committee hit back saying this indicates a fundamental failure of service by the bank because it means 94% of calls to the service are not being answered in Welsh,.
The Committee said that the “low number of calls” to the line “reflects” the bank’s “inability to provide a functioning and coherent service that meets the needs of its Welsh speaking customers.”
Llŷr Gruffydd said: “HSBC still has an opportunity to do the right thing by reversing its unacceptable and wrongheaded decision to bring its Welsh language phone service to an end.
“Executives at HSBC should remember that many customers use their banking services because of its Welsh language phone service.
“The bank argues that there isn’t sufficient demand for the helpline because it receives 22 calls a day on average.
“But it’s abundantly clear from the data that with only 6% of those calls being answered in Welsh, they’ve not been coming anywhere near to providing an adequate service.
“Phone calls that are made to the helpline in Welsh should be answered in Welsh. It’s no wonder that a lot of Welsh speakers have given up on phoning it.
“Instead of scrapping the service HSBC’s should invest in it properly for at least 12 months, and that includes ensuring that it is well-advertised. Then at the end of that period it could make a much better assessment of demand.
“The bank’s pledge to ‘arrange a call back in Welsh, within 3 working days is astonishingly disrespectful to Welsh speakers, as well as utterly insensitive to the financial pressures some people will face.
“For a significant number of people, accessing their bank through Welsh is not a ‘choice’ as HSBC claimed.
“HSBC say they ‘have confirmed that all customers can bank in English’, which is frankly an attitude that belongs to the last century. It is also untrue, especially for many elderly and vulnerable people.
“There is understandably a huge amount of anger and frustration right across Wales with HSBC’s general attitude towards the Welsh language.
“Recently I was contacted by a constituent who was quite rightly angry because she had been asked by a member of HSBC’s customer care team to resend a Welsh language query in English.
“That is one of many examples of HSBC’s complete and utter disregard for Welsh speakers.
“As a Welsh speaker myself and as a member of the Senedd’s Culture Committee, I share the real sense of frustration that’s out there.
“Many of their customers in Wales have also seen their local branches close over the last decade.
“The impact of this on their older customers is particularly acute, as well as those who don’t have access to digital technology.
“Though HSBC likes to describe itself as the world’s local bank, it is abundantly clear that this is not the case in Wales as it abandons Welsh speakers and abandons our high streets by shutting down local branches.”
-
Business6 days ago
Original Factory Shop to close Haverfordwest branch in December
-
Community7 days ago
Sunderland flying boat database will tell stories of the past
-
News6 days ago
Large fire at Bramble Hall Farm – Arson suspected
-
News2 days ago
‘Chariots of Fire’ Olympic pianist heads west for recital in local church
-
News3 days ago
Milford Haven RNLI Fundraisers celebrate successful fun run
-
Crime7 days ago
Tree surgeon ‘hits a nerve’ after hearing derogatory comments about his mother
-
Top News2 days ago
“The sense of power and the great surge of energy that this earth provides is all I want my paintings to share”
-
News3 days ago
Lifeboat launched to assist injured climber at St Govans