Connect with us
Advertisement
Advertisement

Cymraeg

Caniad wrth galon diwylliant ein gwlad

Published

on

Ar hynt caneunon: Cerys Matthews

‘RHYFELGYRCH Gwŷr Harlech’, ‘Myfanwy’, ‘Calon Lân’ a ‘Cwm Rhondda’ – dyma ganeuon wrth galon ein diwylliant.

A bydd Cerys Matthews yn olrhain hanes dwsin o’n caneuon Cymreig mwyaf adnabyddus yn yr ail gyfres o Cerys Matthews a’r Goeden Faled – taith a fydd yn mynd â ni i’r lleoedd mwyaf annisgwyl o nos Wener, 22 Rhagfyr ymlaen ar S4C.

Ym mhob un o’r chwe rhaglen mae’r gantores a’r cyflwynydd radio a theledu hefyd yn perfformio fersiwn newydd o’r caneuon gyda rhai o gerddorion amlycaf y byd gwerin.

Yn ystod y gyfres, mae Cerys, sydd â gwreiddiau yn Sir Benfro, Abertawe a Chaerdydd ond sydd bellach yn byw yn Llundain, yn codi’r llen ar hanes emynau fel ‘Calon Lân’ a ‘Cwm Rhondda’ a chaneuon gwerin fel ‘Ei Di’r Deryn Du’ ac ‘Yr Eneth Ga’dd ei Gwrthod’. Fe fydd hi hefyd yn darganfod mwy am alawon o wledydd eraill fel ‘Finlandia’ a ‘Pererin Wyf’ sydd wedi dod yn hynod boblogaidd ymysg Cymry Cymraeg.

Mae’r siwrnai’n cychwyn gydag un o anthemau mawr cefnogwyr pêl-droed Cymru, ‘Rhyfelgyrch Gwŷr Harlech’ a’r gân emosiynol am dor-calon, ‘Myfanwy’, a ddaeth mor boblogaidd ganol y ganrif ddiwethaf.

“Roedd haf 2016 yn fythgofiadwy am un peth – llwyddiant tîm pêl-droed Cymru yn yr ‘Euros’ ac un o’r caneuon roedd y cefnogwyr yn eu canu i hybu’r bois ar y maes oedd Gwŷr Harlech – ond beth ydy hanes y dôn bwerus?” gofynna Cerys.

Yn wreiddiol yn gân orymdeithio gan un o fyddinodd bychain – milisia – yng Ngogledd Cymru, cafodd ei mabwysiadu yn ddiweddarach gan nifer o gatrodau Cymreig byddin Prydain. Mae sut y datblygodd yn anthem i nifer o gatrodau’n parhau i fod yn ddirgelwch, ond yr hyn a wyddom yw bod yr alaw, fel llawer o alawon Cymreig eraill, wedi cael ei chasglu a’i chyhoeddi gan y Telynor Brenhinol o’r 18fed ganrif, Edward Jones o’r Bala.

Fe gafodd y gân sylw rhyngwladol yn y ffilm Zulu (1964), pan glywyd milwyr Prydain yn ymladd yn Rorke’s Drift yn y rhyfel Anglo-Zulu yn canu ‘The Men of Harlech’ wrth orymdeithio. Fe ddaeth yn anthem bêl-droed o ganol y 1970au ymlaen, diolch i gefnogwyr clwb pêl-droed Wrecsam a’r corau lleol. Yn ddiweddarach, fe gafodd ei mabwysiadu gan gefnogwyr tîm pêl-droed Cymru.

Yn ail hanner y rhaglen, mae Carys yn edrych ar y gân emosiynol Myfanwy, a gafodd ei chyfansoddi gan Joseph Parry, y geiriau gan Richard Davies (Mynyddog) o Lanbrynmair.

Cafodd ei pherfformio yn gyntaf ym 1875 yng Ngholeg Prifysgol Cymru Aberystwyth, ond diolch yn bennaf i Gôr Orpheus Treforys y daeth hi’n enwog yn rhyngwladol a hynny ar ôl yr Ail Ryfel Byd.

Cambria Records wnaeth ryddhau’r record a ddaeth yn ‘hit’ mor fawr a chafodd ei recordio yn Eglwys Tabernacl Treforys, ger Abertawe. Rhwng y ddau bennill cyntaf yn y recordiad mae sŵn ci yn cyfarth… bydd Cerys yn esbonio pam yn y rhaglen ddifyr gyntaf hon.

Cymraeg

Anturiaethau Aeron yn y Sioe Frenhinol

Published

on

PROFIAD newydd sy’n wynebu’r cyflwynydd Aeron Pughe yn y Sioe Frenhinol eleni wrth iddo fentro o’r sied gneifio i grwydro’r maes. Yn rhan o griw sylwebu Y Sioe 2018 ar S4C, bydd Aeron yn canolbwyntio ar yr ardaloedd ffwr a phlu, y geifr a’r moch.

“Dwi’m yn siŵr os mai promotion ydi o neu be’,” meddai Aeron. “Y cneifio dwi wedi bod yn sylwebu arno ers tua phum mlynedd, ond, o’r diwedd, dwi wedi ennill yr hawl i gael mynd allan ar gamera byw.

“Dydw i ddim wedi gwneud gymaint â’r ardaloedd hyn yn y gorffennol. Mae ‘na ddigon o geiliogod ym Machynlleth, ac ambell i fochyn a hwch, ond dim fath â’r rhai yn y Sioe!”

Bydd Aeron yn manteisio ar y cyfle i ymweld ag amryw o fannau gwahanol ar faes y Sioe eleni gan gynnwys yr ardal Goedwigaeth, y Peiriannau a chornel gyfarwydd iawn iddo, y Ffermwyr Ifanc.

“Ro’n i’n rhan o Glwb Ffermwyr Ifanc Bro Ddyfi pan oeddwn i’n ddigon ifanc i fod yn aelod, ac wedi helpu ar ôl hynny,” meddai. “Y rheswm dwi’n cyflwyno heddiw ydi oherwydd y Ffermwyr Ifanc. Mae’n neis iawn ‘mod i’n gallu mynd yn ôl yno i hyrwyddo a chyfweld â phobl o’r mudiad.”

Mi fydd Aeron yn ymuno â sawl wyneb cyfarwydd ar dîm sylwebu’r Sioe eleni, gyda Nia Roberts yn angori’r cyfan bob diwrnod o 9.00 y bore. Yr enwog Dai Jones, Llanilar fydd yn cadw llygad ar y gwartheg, Meinir Howells ar y defaid ac yn sylwebu o’r sied gneifio fydd Alun Elidyr.

Heledd Cynwal a David Oliver fydd yn sylwebu o’r Prif Gylch, gyda ffrwd fyw ar gael ar-lein ar gyfer holl gystadlaethau’r Cylch.

Bydd sylwebaeth Saesneg ar gael ar gyfer holl raglenni’r dydd ac isdeitlau Saesneg ar y rhaglenni uchafbwyntiau gyda’r nos wedi’u cyflwyno gan Ifan Jones Evans.

Bydd Ifan hefyd yn mwynhau cynnwrf y maes ar y nos Sul cyn y Sioe mewn rhaglen ragflas fydd yn edrych ymlaen at yr wythnos ac yn darlledu o Foliant y Maes.

Noddir cyfres Y Sioe 2018 gan Goleg Meirion Dwyfor, Glynllifon.

Continue Reading

Cymraeg

Prosiect Maelgi: Cymru

Published

on

Aber Afon Dyfi: Ardal yn cael eu harolygu

MEWN gwaith cyffrous ar y cyd rhwng pysgotwyr a chadwraethwyr, mae prosiect newydd oddi ar arfordir Cymru yn lansio heddiw, 17 Gorffennaf 2018, sy’n canolbwyntio ar chwalu hyd bygythiadau a hanes y maelgi (Squatina squatina), sef rhywogaeth sydd mewn perygl difrifol.

Gofynnir i bysgotwyr, plymwyr, plant ysgol a’r rhai hynny dros 60 mlwydd oed – a phawb arall – gymryd rhan yn y prosiect arloesol newydd hwn sy’n anelu at ddiogelu’r rhywogaeth unigryw hon, a oedd i’w gweld yn helaeth yn nyfroedd Cymru ar un adeg.

Bydd ‘Prosiect Maelgi: Cymru’, dan arweiniad yr elusen gadwraeth ryngwladol Cymdeithas Sŵolegol Llundain (ZSL) a Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), yn cael ei gynnal ochr yn ochr â deuddeg sefydliad partner arall. Nod y prosiect yw rhoi sylw i un o siarcod prinnaf y byd, trwy weithio gyda phum cymuned arfordirol ledled Cymru. Bydd data a gasglwyd o atgofion cymunedau, ymchwil hanesyddol, gwybodaeth pysgotwyr ac arolygon gwyddoniaeth dinasyddion yn helpu i adeiladu dealltwriaeth well a chynllun cadwraeth ar gyfer y rhywogaeth.

Dywedodd Joanna Barker, Rheolwr Prosiectau Morol a Dŵr Croyw yng Nghymdeithas Sŵolegol Llundain: “Mae gennym gyfle cyffrous i ddeall a gwella statws maelgwn yng Nghymru, sydd o bosibl yn un o’r cadarnleoedd olaf ar gyfer y siarc anhygoel hwn. Rydym yn gobeithio y bydd ein dull o gyfuno cadwraeth a gwyddoniaeth gymdeithasol yn helpu i ddarparu buddion i boblogaeth y maelgwn, ond hefyd i’r cymunedau lleol rydym yn gweithio â nhw, sy’n dibynnu ar y môr ar gyfer eu bywoliaeth.”

Gellir dod o hyd i faelgwn (a oedd yn gyffredin ar hyd ochr orllewinol Ynysoedd Prydain ar un adeg) yn llithro ar draws gwely’r môr gyda’u hesgyll sy’n debyg i adenydd. Maen nhw’n tyfu hyd at tua dau fetr a hanner (oddeutu wyth troedfedd) ond nid ydynt yn peri bygythiad i bobl – maen nhw’n byw ar dywod neu fwd ar waelod y môr yn bennaf, gan ysglyfaethu ar bysgod bach a molysgiaid.

Er bod eu niferoedd wedi disgyn yn helaeth ar draws dwyrain Cefnfor yr Iwerydd, y Môr Canoldir a’r Môr Du dros y ganrif ddiwethaf, mae adroddiadau ohonynt wedi cynyddu oddi ar arfordir Cymru, gan roi gobaith newydd i ddyfodol y rhywogaeth.

Dywedodd Ben Wray, ecolegydd morol gyda Cyfoeth Naturiol Cymru: “Rydym yn hynod ddiolchgar i’r 12 o bysgotwyr rydym wedi gweithio â nhw yn ystod ein prosiect peilot y llynedd, a helpodd i lywio’r prosiect cyffrous ac arloesol newydd hwn. Mae achosion o ddal y siarc ar ddamwain yn dangos y gallai Bae Ceredigion yng nghanolbarth Cymru fod yn ardal bwysig ar gyfer y rhywogaeth. Bydd y data hwn yn hanfodol er mwyn adeiladu darlun mwy clir o statws ac ecoleg maelgwn yng Nghymru, yn ogystal â llywio Cynllun Gweithredu Maelgwn Cymru – yr ydym yn gobeithio y bydd yn helpu i arwain y prosiect at lwyddiant.”

Dywedodd Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig: “Mae Cymru yn wlad falch ac eleni rydym ni’n dathlu ein Blwyddyn y Môr. Mae ein moroedd yn cefnogi cynefinoedd a rhywogaethau sy’n ysbrydoli’n fawr ac sydd o bwysigrwydd cenedlaethol a byd-eang.

“Rwy’n hynod falch o allu cefnogi’r prosiect hwn, sy’n dwyn ein cymunedau arfordirol, pysgotwyr, gwyddonwyr, grwpiau cadwraeth a’r llywodraeth ynghyd i gydweithio er mwyn darparu data y mae angen mawr amdano ynghylch y rhywogaeth hon sydd mewn perygl difrifol. Bydd y data hwn yn gwella ein dealltwriaeth o ecoleg a dosbarthiad y rhywogaeth, fel bod modd i ni warchod y rhywogaeth yn ein moroedd yn well ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Rwy’n annog ein cymunedau, o’r ifanc i’n cenedlaethau hŷn, i ymgysylltu â’r prosiect newydd a chyffrous hwn a bod yn rhan ohono.”

Bydd y prosiect yn casglu data am faelgwn ledled Cymru, gan ganolbwyntio ar ymgysylltu â rhanddeiliaid mewn pum ardal allweddol: gogledd Ynys Môn, Penrhyn Llŷn, Porthmadog i Aber-arth, Abergwaun i Aberdaugleddau, ac Abertawe i Borthcawl.

Gellir adrodd unrhyw achosion personol o weld maelgwn neu eu dal ar ddamwain trwy ddilyn y ddolen ganlynol: http://angelsharknetwork.com/#map. Gallwch gael mwy o wybodaeth am y prosiect yma: www.angelsharknetwork.com/cymru. Gall y rhai hynny sydd â diddordeb mewn bod yn rhan o’r prosiect gysylltu ag angelsharks@zsl.org i helpu i gadw un o’r siarcod prinnaf yn y byd.

Continue Reading

Cymraeg

Yn llai yng Nghymru yn curo plant

Published

on

'Dyma'r union newid o ran agwedd rydym eisiau ei weld yng Nghymru': Meddai Huw Irranca Davies

MAE NIFER y rhieni â phlant ifanc yng Nghymru sydd wedi dweud eu bod yn smacio eu plant wedi lleihau’n sylweddol a dim ond nifer fach o rieni sydd wedi dweud eu bod yn gyfforddus â’r syniad, yn ôl gwaith ymchwil newydd a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru.

Mae’r gwaith ymchwil ‘Agweddau rhieni tuag at reoli ymddygiad plant ifanc 2017’ wedi darganfod bod 11% o rieni â phlant ifanc wedi smacio eu plant yn y 6 mis diwethaf fel dull o reoli ymddygiad eu plant. Nodwyd 22% yn 2015, felly mae’r ffigwr bellach wedi haneru.

n ôl y gwaith ymchwil, roedd 81% o rieni yn anghytuno “bod angen smacio plentyn drwg weithiau”, dyma gynnydd sylweddol ers 2015 lle’r oedd 71% yn anghytuno.

Mae nifer y rhieni a ddywedodd ei bod hi’n bosibl y byddant yn smacio plentyn o dan amgylchiadau penodol wedi lleihau o 44% i 31%. O fewn y nifer hwn, dim ond 5% ddywedodd eu bod yn gyfforddus â’r syniad ac y byddent yn smacio plentyn pan fo angen, gyda 26% pellach yn dweud nad oeddent yn hoffi’r syniad, ond y byddent yn gwneud hynny os mai dyna oedd yr opsiwn olaf.

Nodwyd ystod eang o dechnegau eraill gan rieni ar gyfer rheoli ymddygiad eu plant. Y technegau a nodwyd amlaf oedd:

Canmol ymddygiad da;
Cadw at yr un arferion o ddydd i ddydd;
Dweud na; a
Dweud y drefn wrthyn nhw.

Bwriad Llywodraeth Cymru yw dod â chosbi plant yn gorfforol i ben yng Nghymru. Mae’r ddeddfwriaeth arfaethedig yn rhan o becyn ehangach o fesurau y mae Llywodraeth Cymru’n eu gweithredu i gefnogi plant i gael y dechrau gorau mewn bywyd, ac i gefnogi rhieni i wneud y gorau y gallan nhw.

Pan ofynnwyd i rieni a ddylai smacio plant gael ei wahardd yn llwyr, roedd y farn rhwng y rhai sy’n cytuno â’r gwaharddiad â’r rhai sy’n anghytuno yn weddol gytbwys, gyda 48% yn cytuno â gwaharddiad a 39% yn anghytuno. Yn 2015 roedd 46% yn cytuno â’r gwaharddiad a 43% yn anghytuno, felly mae newid bach wedi bod o blaid y gwaharddiad.

Gan groesawu’r gwaith ymchwil, dywedodd Huw Irranca-Davies, y Gweinidog Plant: “Rwy’n falch iawn i weld, o’r gwaith ymchwil hwn bod cyn lleied o rieni yn credu bod angen smacio plant ar adegau, a bod llai fyth o rieni yn defnyddio cosbau corfforol i reoli ymddygiad eu plant.

“Dyma’r union newid o ran agwedd rydym eisiau ei weld yng Nghymru. Er ei bod hi’n wych gweld bod 81% yn teimlo nad yw smacio plentyn yn dderbyniol ar unrhyw adeg, fel llywodraeth, rydym eisiau sicrhau bod pob rhiant yn cydnabod nad yw smacio plentyn yn dderbyniol ar unrhyw adeg. Dyma pam rydyn ni’n bwriadu cyflwyno deddfwriaeth i’w gwneud hi’n glir bod cosbi plentyn yn gorfforol bellach yn annerbyniol yng Nghymru.”

Continue Reading
News12 hours ago

Mount Estate: Man arrested after gas explosion threat

ARMED POLICE have arrested a man on the Mount Estate in Milford Haven this afternoon (Oct 16) after responding to...

News14 hours ago

Work goes on for NRW in aftermath of storm

AFTER a weekend of heavy rain and floods which hit South West Wales particularly hard, the clear up has begun....

News17 hours ago

Police appeal following five burglaries

DYFED-POWYS POLICE is appealing for information that could help their investigation into five burglaries in the Solva and St Davids areas....

News1 day ago

Milford Haven: Rescuers attend to ‘females on roof’

POLICE have been dealing with a 999 call from the Mount Estate, Milford Haven this evening (Oct 15), following concerns...

News1 day ago

Letterston: Man jailed after £10,000 blackmail plot

A LETTERSTON man tried to blackmail £10,000 from a man who had sexual activity with him when they were both...

News2 days ago

Police say ‘stop protecting’ murder suspect Steve Baxter

JUST over two weeks ago Simon Clark, aged 54, was found dead at Grove Caravan Park in Pendine, Carmarthenshire. Dyfed-Powys...

News2 days ago

Pembrokeshire man drowned in stormy Cardiff waters

A PEMBROKESHIRE man tragically drowned in the stormy waters at Penarth Marina near Cardiff on the weekend. The 32-year-old, who...

News2 days ago

Police name Carmarthenshire man killed by Storm Callum landslide

DYFED-POWYS POLICE has confirmed the man who died in a landslide at Cwmduad during Storm Callum yesterday (Oct 13) is...

News3 days ago

Police urge for only ‘essential travel’ during Storm Callum

DYFED-POWYS POLICE is urging people not to put themselves at risk, as they deal with the fallout of Storm Callum....

News4 days ago

New Transport For Wales train service to start tomorrow

TRANSPORT FOR WALES is taking over the national rail service from Arriva Trains Wales tomorrow (Oct 14). Arriva, who has...

Popular This Week