Cymraeg
Prosiect Maelgi: Cymru

MEWN gwaith cyffrous ar y cyd rhwng pysgotwyr a chadwraethwyr, mae prosiect newydd oddi ar arfordir Cymru yn lansio heddiw, 17 Gorffennaf 2018, sy’n canolbwyntio ar chwalu hyd bygythiadau a hanes y maelgi (Squatina squatina), sef rhywogaeth sydd mewn perygl difrifol.
Gofynnir i bysgotwyr, plymwyr, plant ysgol a’r rhai hynny dros 60 mlwydd oed – a phawb arall – gymryd rhan yn y prosiect arloesol newydd hwn sy’n anelu at ddiogelu’r rhywogaeth unigryw hon, a oedd i’w gweld yn helaeth yn nyfroedd Cymru ar un adeg.
Bydd ‘Prosiect Maelgi: Cymru’, dan arweiniad yr elusen gadwraeth ryngwladol Cymdeithas Sŵolegol Llundain (ZSL) a Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), yn cael ei gynnal ochr yn ochr â deuddeg sefydliad partner arall. Nod y prosiect yw rhoi sylw i un o siarcod prinnaf y byd, trwy weithio gyda phum cymuned arfordirol ledled Cymru. Bydd data a gasglwyd o atgofion cymunedau, ymchwil hanesyddol, gwybodaeth pysgotwyr ac arolygon gwyddoniaeth dinasyddion yn helpu i adeiladu dealltwriaeth well a chynllun cadwraeth ar gyfer y rhywogaeth.
Dywedodd Joanna Barker, Rheolwr Prosiectau Morol a Dŵr Croyw yng Nghymdeithas Sŵolegol Llundain: “Mae gennym gyfle cyffrous i ddeall a gwella statws maelgwn yng Nghymru, sydd o bosibl yn un o’r cadarnleoedd olaf ar gyfer y siarc anhygoel hwn. Rydym yn gobeithio y bydd ein dull o gyfuno cadwraeth a gwyddoniaeth gymdeithasol yn helpu i ddarparu buddion i boblogaeth y maelgwn, ond hefyd i’r cymunedau lleol rydym yn gweithio â nhw, sy’n dibynnu ar y môr ar gyfer eu bywoliaeth.”
Gellir dod o hyd i faelgwn (a oedd yn gyffredin ar hyd ochr orllewinol Ynysoedd Prydain ar un adeg) yn llithro ar draws gwely’r môr gyda’u hesgyll sy’n debyg i adenydd. Maen nhw’n tyfu hyd at tua dau fetr a hanner (oddeutu wyth troedfedd) ond nid ydynt yn peri bygythiad i bobl – maen nhw’n byw ar dywod neu fwd ar waelod y môr yn bennaf, gan ysglyfaethu ar bysgod bach a molysgiaid.
Er bod eu niferoedd wedi disgyn yn helaeth ar draws dwyrain Cefnfor yr Iwerydd, y Môr Canoldir a’r Môr Du dros y ganrif ddiwethaf, mae adroddiadau ohonynt wedi cynyddu oddi ar arfordir Cymru, gan roi gobaith newydd i ddyfodol y rhywogaeth.
Dywedodd Ben Wray, ecolegydd morol gyda Cyfoeth Naturiol Cymru: “Rydym yn hynod ddiolchgar i’r 12 o bysgotwyr rydym wedi gweithio â nhw yn ystod ein prosiect peilot y llynedd, a helpodd i lywio’r prosiect cyffrous ac arloesol newydd hwn. Mae achosion o ddal y siarc ar ddamwain yn dangos y gallai Bae Ceredigion yng nghanolbarth Cymru fod yn ardal bwysig ar gyfer y rhywogaeth. Bydd y data hwn yn hanfodol er mwyn adeiladu darlun mwy clir o statws ac ecoleg maelgwn yng Nghymru, yn ogystal â llywio Cynllun Gweithredu Maelgwn Cymru – yr ydym yn gobeithio y bydd yn helpu i arwain y prosiect at lwyddiant.”
Dywedodd Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig: “Mae Cymru yn wlad falch ac eleni rydym ni’n dathlu ein Blwyddyn y Môr. Mae ein moroedd yn cefnogi cynefinoedd a rhywogaethau sy’n ysbrydoli’n fawr ac sydd o bwysigrwydd cenedlaethol a byd-eang.
“Rwy’n hynod falch o allu cefnogi’r prosiect hwn, sy’n dwyn ein cymunedau arfordirol, pysgotwyr, gwyddonwyr, grwpiau cadwraeth a’r llywodraeth ynghyd i gydweithio er mwyn darparu data y mae angen mawr amdano ynghylch y rhywogaeth hon sydd mewn perygl difrifol. Bydd y data hwn yn gwella ein dealltwriaeth o ecoleg a dosbarthiad y rhywogaeth, fel bod modd i ni warchod y rhywogaeth yn ein moroedd yn well ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Rwy’n annog ein cymunedau, o’r ifanc i’n cenedlaethau hŷn, i ymgysylltu â’r prosiect newydd a chyffrous hwn a bod yn rhan ohono.”
Bydd y prosiect yn casglu data am faelgwn ledled Cymru, gan ganolbwyntio ar ymgysylltu â rhanddeiliaid mewn pum ardal allweddol: gogledd Ynys Môn, Penrhyn Llŷn, Porthmadog i Aber-arth, Abergwaun i Aberdaugleddau, ac Abertawe i Borthcawl.
Gellir adrodd unrhyw achosion personol o weld maelgwn neu eu dal ar ddamwain trwy ddilyn y ddolen ganlynol: http://angelsharknetwork.com/#map. Gallwch gael mwy o wybodaeth am y prosiect yma: www.angelsharknetwork.com/cymru. Gall y rhai hynny sydd â diddordeb mewn bod yn rhan o’r prosiect gysylltu ag angelshar[email protected] i helpu i gadw un o’r siarcod prinnaf yn y byd.
Cymraeg
Ffermwr yn dysgu popeth y mae angen iddo wybod am ffermio modern drwy Cyswllt Ffermio

CYFLWYNODD ei rieni ef i ochr ymarferol ‘tir a da byw’ ffermio yn ifanc iawn, ond i Dylan Morgan, a aned yn Sir Gaerfyrddin, Cyswllt Ffermio sy’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r unigolyn yma a raddiodd mewn rheoli adeiladu. Dywedodd Dylan fod Cyswllt Ffermio wedi rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arno i fod y ffermwr ifanc blaengar a hyderus ydyw heddiw.
“A’r peth sy’n wych amdano yw, nad oedd rhaid i mi eistedd trwy oriau o ddarlithoedd theori amaeth am dair blynedd!”
Dywedodd Dylan mai agwedd Cyswllt Ffermio at ei holl wasanaethau hyfforddi a throsglwyddo gwybodaeth yw cyflwyno popeth ar y lefel gywir ar gyfer ffermwyr prysur ond profiadol sy’n gweithio.
“Mae’n ddull o ddysgu ar sail ‘angen gwybod’ sy’n apelio’n fawr ataf gan fy mod yn gallu gwneud lle iddo o amgylch fy nyletswyddau fferm ac ymrwymiadau eraill,” meddai Dylan.
Nid oedd gan Dylan unrhyw fwriad i ddod yn ffermwr pan adawodd Brifysgol Abertawe yn 2011, ond ar ôl ychydig fisoedd yn unig o ffermio’n llawn amser ar fferm bîff a defaid 360 erw ei deulu ger Llanymddyfri, newidiodd ei feddwl yn llwyr.
Roedd yn amlwg yn benderfyniad cywir i’r teulu cyfan ac mae Dylan (32) bellach wedi bod yn ffermio gartref ers bron i un mlynedd ar ddeg.
“Roeddwn i wastad wedi mwynhau helpu gartref pryd bynnag roedd gen i amser rhydd, felly roeddwn i wedi hen arfer ag ochr ymarferol ffermio, ond gan na astudiais i amaethyddiaeth yn y brifysgol, roeddwn i’n teimlo bod yna lawer nad oeddwn i’n ei wybod am iechyd anifeiliaid, pridd a rheoli glaswelltir a’r holl elfennau eraill o ffermio sy’n hanfodol i wella effeithlonrwydd ar y fferm.
“Mae’n hanfodol, fel ffermwyr, fod gan bob un ohonom y wybodaeth sydd ei hangen arnom a systemau yn eu lle i chwarae ein rhan i gadw at y safonau uchaf o les anifeiliaid, cynhyrchu da byw o’r ansawdd uchaf, gan hefyd warchod ein hamgylchedd naturiol a lleihau ein hôl troed carbon.”
Yn gefnogwyr hirdymor gwasanaeth Cynghori Cyswllt Ffermio, a welodd Dylan, ei dad a ffermwyr lleol eraill yn cael cyngor ar faterion yn cynnwys cynllunio rheoli maetholion, archwiliadau carbon a rheoli glaswelltir, mae Dylan yn rhoi llawer o’i amser hamdden i’w ddatblygiad personol.
Gan ddibynnu’n drwm ar ei swyddog datblygu lleol, Alun Bowen, i roi’r wybodaeth ddiweddaraf iddo am yr hyn sydd ar gael, mae Alun wedi cyfeirio Dylan – yn aml yng nghwmni ei dad – at nifer o weithdai iechyd a lles anifeiliaid ar bynciau’n amrywio o ffrwythlondeb y ddiadell a cholledion wyna i wneud y mwyaf o gynhyrchiant buchod sugno, cloffni a rheoli tir. Mae Dylan hefyd wedi dilyn cyrsiau hyfforddi byr â chymhorthdal ac mae’n defnyddio ystod gynhwysfawr y rhaglen o fodiwlau e-ddysgu a ariennir yn llawn yn rheolaidd.
“Mae dysgu ar-lein, mewn cyfnodau byr o 20 munud, gyda chwis ar ddiwedd pob modiwl i sicrhau eich bod wedi cymryd yr holl wybodaeth allweddol i mewn, yn ffordd wych o gynyddu eich gwybodaeth.”
Mae Dylan wedi canolbwyntio’n bennaf ar bynciau iechyd anifeiliaid yn ogystal â rheoli pridd a glaswelltir oherwydd ei fod yn credu’n gryf mewn mabwysiadu agwedd gyfannol at y fferm, gydag ‘arfer gorau ym mhopeth a wnawn’ yn rhan o’u hagenda cynaliadwyedd.
“Diolch i fy ngwybodaeth a sgiliau newydd a thrwy weithredu rhai o’r systemau newydd rydym wedi dysgu amdanynt trwy Cyswllt Ffermio, rydym bellach yn bwydo’r stoc yn llawer mwy effeithlon.
“Mae hyn wedi lleihau ein mewnbynnau’n sylweddol wrth wella perfformiad stoc a chynhyrchiant ac rydym hefyd wedi lleihau lefelau cloffni.”
Mae’r teulu’n sgorio cyflwr y corff yn rheolaidd ac yn meincnodi eu holl stoc ac yn dweud bod cyfrif wyau ysgarthol a phrofi elfennau hybrin trwy Cyswllt Ffermio wedi rhoi gwybodaeth werthfawr iddynt sy’n golygu eu bod wedi lleihau eu dibyniaeth ar driniaethau gwrthlyngyrol drwy fabwysiadu dull wedi’i dargedu’n well.
Gyda’i holl gyflawniadau dysgu wedi’u storio ar-lein yn ei gofnod personol y Storfa Sgiliau, mae Dylan yn dweud bod y system yn ffordd ddefnyddiol o nodi unrhyw feysydd y mae’n dal eisiau dysgu amdanynt.
“Mae ffermio yn ddiwydiant sy’n esblygu ac felly mae angen i ffermwyr o bob cenhedlaeth wybod eu bod yn ddigon gwybodus i wynebu’r cyfleoedd a’r heriau sydd o’u blaenau.”
Mae Cyswllt Ffermio yn cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra Cymru a’i ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.
I gael rhagor o wybodaeth am holl wasanaethau cymorth a hyfforddiant Cyswllt Ffermio ewch i https://businesswales.gov.wales/farmingconnect/cy neu ffoniwch eich swyddog datblygu Cyswllt Ffermio lleol.
Cymraeg
Cyfle gwych i ennill gwobr yn atyniadau Awdurdod y Parc dros benwythnos Dydd Gŵyl Dewi

BYDD tri atyniad Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn dosbarthu cennin Pedr i ymwelwyr yn rhad ac am ddim ar 4 a 5 Mawrth eleni i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi.
Bydd gan Gastell Caeriw, Pentref Oes Haearn Castell Henllys ac Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc nifer cyfyngedig o gennin Pedr i’w dosbarthu i bobl sy’n ymweld â’r safleoedd dros benwythnos Dydd Gŵyl Dewi.
Yn ôl y Cynghorydd Di Clements, Cadeirydd Awdurdod y Parc: “Rydyn ni’n annog cynifer â phosib o bobl i ymuno â dathliadau Dydd Gŵyl Dewi, a pha ffordd well o ddathlu diwylliant Cymru yn eich cartref na chael tusw o’r blodau lliwgar yma?
“Bydd y cennin Pedr yn cael eu dosbarthu ar sail y cyntaf i’r felin. Oherwydd mai dim ond nifer cyfyngedig fydd ar gael ar bob safle, byddwn yn annog pobl i ymweld â’r safleoedd cyn gynted â phosib ar 4 neu 5 Mawrth er mwyn manteisio ar y cynnig hwn.”
Bydd Parêd blynyddol y Ddraig hefyd yn cael ei gynnal yn Nhyddewi ddydd Sadwrn 4 Mawrth, gyda chriw o ddisgyblion ysgol ac aelodau gofal yn y gymuned yn gadael Oriel y Parc am 11am.
I gael yr amserau agor, gwybodaeth am y digwyddiad a phrisiau mynediad ar gyfer Castell Caeriw, ewch i www.arfordirpenfro.cymru/castell-caeriw/.
I gael yr amserau agor, gwybodaeth am y digwyddiad a phrisiau mynediad ar gyfer Castell Henllys, ewch i www.arfordirpenfro.cymru/castell-henllys/
I gael yr amserau agor a gwybodaeth am y digwyddiad ar gyfer Oriel y Parc, ewch i www.arfordirpenfro.cymru/oriel-y-parc/.
Cymraeg
Dydd Gŵyl Dewi yn gyfle perffaith i ddathlu bwyd Cymreig

MAE Dydd Gŵyl Dewi (1 Mawrth) yn gyfle perffaith i ddathlu’r cynnyrch Cymreig gorau sydd ar gael, ac mae Undeb Amaethwyr Cymru yn annog defnyddwyr, wrth wneud y siopa wythnosol, i ddewis Cig Eidion Cymru Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI) a Chig Oen Cymru Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI) a gynhyrchir yn gynaliadwy.
Dywedodd Llywydd UAC Glyn Roberts: “Mae gan Gig Eidion Cymru Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI) a Chig Oen Cymru Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI) stori wych i’w hadrodd ac rwy’n falch o fod ymhlith ffermwyr, sydd nid yn unig yn cynhyrchu bwyd gwych, ond hefyd yn barod i rannu’n stori ni. Mae stori cig coch Cymru yn wych, yn enwedig o ran bod yn amgylcheddol gynaliadwy.
“Mae defnyddwyr yn fwyfwy ymwybodol o ôl troed carbon eu bwyd a’r ffordd y mae wedi’i gynhyrchu. Wrth ddewis Cig Oen a Chig Eidion Cymru Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI) gallant fod yn dawel eu meddwl ei fod wedi’i gynhyrchu gyda natur mewn golwg. Mae mor faethlon a chynaliadwy ag y gall fod, ac rwy’n annog pawb i ddewis ein cynnyrch Cymreig ni yn gyntaf.”
Fodd bynnag, roedd Mr Roberts yn glir bod ffermwyr yng Nghymru angen cefnogaeth, nid yn unig gan Lywodraeth Cymru ond hefyd gan Lywodraeth y DU, os yw ein dulliau cynaliadwy o gynhyrchu bwyd am barhau am genedlaethau i ddod.
“Mae ffermio yng Nghymru yn rhoi sylfaen gadarn i’n heconomi – cynhyrchu bwyd, darparu cyflogaeth, a chwarae rhan hollbwysig wrth ofalu am ein hamgylchedd. Rydym am i’n ffermwyr barhau i gynhyrchu bwyd yn eu rôl fel ceidwaid cefn gwlad am flynyddoedd lawer i ddod.
“Yr hyn sy’n bygwth y system honno yw cytundebau masnach gyda gwledydd sydd â safonau cynhyrchu gwahanol iawn i’n rhai ni, sy’n anfantais i’n ffermwyr o ran bod yn gystadleuol. Felly, rwy’n annog Llywodraeth y DU eto heddiw i roi ein diwydiant ffermio yn gyntaf, fel y mae cenhedloedd eraill yr ydym yn cyd-drafod â nhw yn ei wneud.”
-
News7 days ago
County mourns loss of revered priest and community pillar, Father McGreal
-
News4 days ago
Decades-old naval shell in front garden prompts bomb squad alert
-
News7 days ago
Body found in missing person search in Carmarthenshire
-
News5 days ago
Concerns raised as council social worker charged with child sex offences
-
News7 days ago
Update on search for Angharad, reported missing in Carmarthenshire
-
News4 days ago
Deep Space Radar base to be built in Brawdy, creating 100 jobs
-
Sport3 days ago
Spotlight – Milford United
-
Sport5 days ago
It’s all eyes on the Obs’ once again – West Wales Cup preview