Cymraeg
Blanced dros y sgrin i gwato’r delwedde
NID OES GWAMALU yn y golofn yr wythnos hon. Bues i’n gwylio a gwrando’r rhaglenni i gofio’r holocost. Mae dirdynnol yn air rhy lipa i ddisgrifio’r profiad. Mae’r hyn ddigwyddodd yn y ffwrneisi nwy yn Auschwitz a Buchenwald yn staen ar ddynoliaeth gyfan. Lladd dros chwe miliwn o Iddewon a sipsiwn am mai Iddewon a sipsiwn oedden nhw.
Gwelais a chlywais lu o adroddiade newyddion yn coffau 70 mlynedd ers rhyddhau’r rhai oedd wedi goroesi’r gwersylloedd uffern. Dangoswyd lluniau o bobl wedi’u hamddifadu o bob gronyn o urddas. Diffoddwyd gobaith yn eu llygaid. Doedd eu cyrff yn ddim mwy nag esgyrn. Fe wydden nhw beth oedd eu tynged. Fe’u hebryngwyd fel ŵyn i’r lladdfa.
Gwelais benglogau a lludw. Gwelais rofie a mwg. Gwelais ddamnedigaeth. Gwelais arswyd. Clywais adroddiade Fergal Keane. Safai o flaen rhai o adeiladau’r fall. Gwrandewais ar y seibiau rhwng ei frawddege. Roedden nhw’n diferu o edifeirwch ar ein rhan ni oll. Cyflwynodd y gwir di-gêl.
Gwelodd Fergal hil-laddiad Rwanda â’i lygaid ei hun. Derbyniodd nifer o wobre ac anrhydedde am ansawdd ei newyddiaduriaeth. Dyfarnwyd iddo wobr am ei ddidwylledd newyddiadurol. Byddai dweud fy mod wedi fy sobri’n stond yn gamarweiniol. Ynfydrwydd ac anfadwaith oedd yr arbrofion ymchwil meddygol honedig a wnaed ar efeilliaid yn y gwersylloedd. Tynnwyd organau o’u cyrff yn ddi-hid.
Doedd gan neb enw. Dim ond rhif a hwnnw wedi’i osod ar eu crwyn. Deil ar freichie y rhai a oroesodd hyd y dydd heddi i’w hatgoffa o’r driniaeth annynol. Doedden nhw’n ddim mwy nag anifeiliaid yn disgwyl eu tro mewn lladd-dy.
Pan ddaeth cyfle i wylio awr a hanner o raglen deledu yn cyfleu teimlade hanner dwsin o blant y gaethglud roedd rhaid i mi wneud penderfyniad. Ni fynnwn weld rhagor o ddelwedde erchyll. Ond roeddwn am glywed storïau’r goroeswyr a adawyd yn amddifad a hwythe bellach wedi croesi oed yr addewid.
Taenais flanced drwchus dros sgrin y teledu. Diffoddais pob goleuni yn yr ystafell. Eisteddais mewn tywyllwch. Gwrandewais. Soniodd un ddynes amdani’n ymuno â chibwts. Ni chafodd gydymdeimlad. Cafodd ei dwrdio am nad oedd hi a’i chyd-garcharorion wedi codi yn erbyn eu gormeswyr. Cafodd blentyn yn ifanc. Anodd fu’r berthynas rhyngddi a’i mab. Ni chanfu ganol llonydd.
Gorfu i’r mab wrando drosodd a throsodd ar straeon ei fam am fywyd yn Auschwitz. Nid dyna fynna plentyn ar ei brifiant. Nid straeon tylwyth teg mohonyn nhw. Effeithiwyd arno ynte hefyd wrth ail-fyw profiade ei fam yn ail-law. Dim ond ar ôl oes o therapi y daeth i delerau ag ef ei hun. Iachawyd y berthynas rhwng y fam a’r mab. Ond doedd yna ddim oedolyn wedi gwrando arni hi yn y lle cyntaf.
Soniodd sipsi am deulu ym Mharis yn ei ymgeleddu oddi ar y stryd. Soniodd ei frawd mabwysiedig pa mor aflonydd oedd ac mewn dybryd angen cariad. Daeth i sefyll ar ei draed ei hun, magodd deulu a datblygu gyrfa’n delio â chreiriau.
Llwyddodd y lleill i roi eu profiade bore oes o’r neilltu er nid yn angof. Sefydlodd un ohonynt bractis meddygol nepell o’r siambr nwy lle llofruddiwyd ei deulu. Ni ddangosodd chwerwder. Roedd yntau fel y lleill yn rhoi pwys ar glyme teuluol fel eu prif gynhaliaeth.
Soniodd un Iddew am yr Almaenwr ifanc o filwr a ddatblygodd gyfeillgarwch ag ef yn groes i ofynion ei ddyletswydde. Mynnai iddo gofio am y mymryn hwnnw o garedigrwydd yn hytrach na’r casineb a welai ar bob llaw. Ymhob tywyllwch mae yna gannwyll yn olau yn rhywle. Teg gofyn lle’r oedd Duw yng nghanol hyn i gyd. Ni chredaf ei fod o blaid Natsïaeth. Bydded i bawb ohonom ateb yn ôl ei oleuni ei hun.
Yn ôl tystiolaeth y rhaglen perthyn rhyw wytnwch anghyffredin i ddyn wedi’r cyfan waeth faint y bo ei ddioddefaint. Ni chredaf fod hwnnw’n deillio ohono ef ei hun yn unig. Mae’n rhaid bod yna gymorth o rywle.
Tynnais y flanced oddi ar lygad y sgrin. Cyneuais y golau. Dychwelodd mymryn o olau i’r galon. ‘Touched by Auschwitz’ oedd enw’r rhaglen. Fe’m cyffyrddwyd. Er i mi ddweud na fydde gwamalu’r wythnos hon mae’n anodd ymwrthod. Wedi’r cyfan roedd gwresogrwydd a hiwmor yn nodwedd o gyfranwyr y rhaglen. Falle y daw’r flanced yn handi pe na bai Cymru’n gwneud yn rhy dda erbyn yr ail hanner heno.
Cymraeg
Ffermwr yn dysgu popeth y mae angen iddo wybod am ffermio modern drwy Cyswllt Ffermio

CYFLWYNODD ei rieni ef i ochr ymarferol ‘tir a da byw’ ffermio yn ifanc iawn, ond i Dylan Morgan, a aned yn Sir Gaerfyrddin, Cyswllt Ffermio sy’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r unigolyn yma a raddiodd mewn rheoli adeiladu. Dywedodd Dylan fod Cyswllt Ffermio wedi rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arno i fod y ffermwr ifanc blaengar a hyderus ydyw heddiw.
“A’r peth sy’n wych amdano yw, nad oedd rhaid i mi eistedd trwy oriau o ddarlithoedd theori amaeth am dair blynedd!”
Dywedodd Dylan mai agwedd Cyswllt Ffermio at ei holl wasanaethau hyfforddi a throsglwyddo gwybodaeth yw cyflwyno popeth ar y lefel gywir ar gyfer ffermwyr prysur ond profiadol sy’n gweithio.
“Mae’n ddull o ddysgu ar sail ‘angen gwybod’ sy’n apelio’n fawr ataf gan fy mod yn gallu gwneud lle iddo o amgylch fy nyletswyddau fferm ac ymrwymiadau eraill,” meddai Dylan.
Nid oedd gan Dylan unrhyw fwriad i ddod yn ffermwr pan adawodd Brifysgol Abertawe yn 2011, ond ar ôl ychydig fisoedd yn unig o ffermio’n llawn amser ar fferm bîff a defaid 360 erw ei deulu ger Llanymddyfri, newidiodd ei feddwl yn llwyr.
Roedd yn amlwg yn benderfyniad cywir i’r teulu cyfan ac mae Dylan (32) bellach wedi bod yn ffermio gartref ers bron i un mlynedd ar ddeg.
“Roeddwn i wastad wedi mwynhau helpu gartref pryd bynnag roedd gen i amser rhydd, felly roeddwn i wedi hen arfer ag ochr ymarferol ffermio, ond gan na astudiais i amaethyddiaeth yn y brifysgol, roeddwn i’n teimlo bod yna lawer nad oeddwn i’n ei wybod am iechyd anifeiliaid, pridd a rheoli glaswelltir a’r holl elfennau eraill o ffermio sy’n hanfodol i wella effeithlonrwydd ar y fferm.
“Mae’n hanfodol, fel ffermwyr, fod gan bob un ohonom y wybodaeth sydd ei hangen arnom a systemau yn eu lle i chwarae ein rhan i gadw at y safonau uchaf o les anifeiliaid, cynhyrchu da byw o’r ansawdd uchaf, gan hefyd warchod ein hamgylchedd naturiol a lleihau ein hôl troed carbon.”
Yn gefnogwyr hirdymor gwasanaeth Cynghori Cyswllt Ffermio, a welodd Dylan, ei dad a ffermwyr lleol eraill yn cael cyngor ar faterion yn cynnwys cynllunio rheoli maetholion, archwiliadau carbon a rheoli glaswelltir, mae Dylan yn rhoi llawer o’i amser hamdden i’w ddatblygiad personol.
Gan ddibynnu’n drwm ar ei swyddog datblygu lleol, Alun Bowen, i roi’r wybodaeth ddiweddaraf iddo am yr hyn sydd ar gael, mae Alun wedi cyfeirio Dylan – yn aml yng nghwmni ei dad – at nifer o weithdai iechyd a lles anifeiliaid ar bynciau’n amrywio o ffrwythlondeb y ddiadell a cholledion wyna i wneud y mwyaf o gynhyrchiant buchod sugno, cloffni a rheoli tir. Mae Dylan hefyd wedi dilyn cyrsiau hyfforddi byr â chymhorthdal ac mae’n defnyddio ystod gynhwysfawr y rhaglen o fodiwlau e-ddysgu a ariennir yn llawn yn rheolaidd.
“Mae dysgu ar-lein, mewn cyfnodau byr o 20 munud, gyda chwis ar ddiwedd pob modiwl i sicrhau eich bod wedi cymryd yr holl wybodaeth allweddol i mewn, yn ffordd wych o gynyddu eich gwybodaeth.”
Mae Dylan wedi canolbwyntio’n bennaf ar bynciau iechyd anifeiliaid yn ogystal â rheoli pridd a glaswelltir oherwydd ei fod yn credu’n gryf mewn mabwysiadu agwedd gyfannol at y fferm, gydag ‘arfer gorau ym mhopeth a wnawn’ yn rhan o’u hagenda cynaliadwyedd.
“Diolch i fy ngwybodaeth a sgiliau newydd a thrwy weithredu rhai o’r systemau newydd rydym wedi dysgu amdanynt trwy Cyswllt Ffermio, rydym bellach yn bwydo’r stoc yn llawer mwy effeithlon.
“Mae hyn wedi lleihau ein mewnbynnau’n sylweddol wrth wella perfformiad stoc a chynhyrchiant ac rydym hefyd wedi lleihau lefelau cloffni.”
Mae’r teulu’n sgorio cyflwr y corff yn rheolaidd ac yn meincnodi eu holl stoc ac yn dweud bod cyfrif wyau ysgarthol a phrofi elfennau hybrin trwy Cyswllt Ffermio wedi rhoi gwybodaeth werthfawr iddynt sy’n golygu eu bod wedi lleihau eu dibyniaeth ar driniaethau gwrthlyngyrol drwy fabwysiadu dull wedi’i dargedu’n well.
Gyda’i holl gyflawniadau dysgu wedi’u storio ar-lein yn ei gofnod personol y Storfa Sgiliau, mae Dylan yn dweud bod y system yn ffordd ddefnyddiol o nodi unrhyw feysydd y mae’n dal eisiau dysgu amdanynt.
“Mae ffermio yn ddiwydiant sy’n esblygu ac felly mae angen i ffermwyr o bob cenhedlaeth wybod eu bod yn ddigon gwybodus i wynebu’r cyfleoedd a’r heriau sydd o’u blaenau.”
Mae Cyswllt Ffermio yn cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra Cymru a’i ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.
I gael rhagor o wybodaeth am holl wasanaethau cymorth a hyfforddiant Cyswllt Ffermio ewch i https://businesswales.gov.wales/farmingconnect/cy neu ffoniwch eich swyddog datblygu Cyswllt Ffermio lleol.
Cymraeg
Cyfle gwych i ennill gwobr yn atyniadau Awdurdod y Parc dros benwythnos Dydd Gŵyl Dewi

BYDD tri atyniad Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn dosbarthu cennin Pedr i ymwelwyr yn rhad ac am ddim ar 4 a 5 Mawrth eleni i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi.
Bydd gan Gastell Caeriw, Pentref Oes Haearn Castell Henllys ac Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc nifer cyfyngedig o gennin Pedr i’w dosbarthu i bobl sy’n ymweld â’r safleoedd dros benwythnos Dydd Gŵyl Dewi.
Yn ôl y Cynghorydd Di Clements, Cadeirydd Awdurdod y Parc: “Rydyn ni’n annog cynifer â phosib o bobl i ymuno â dathliadau Dydd Gŵyl Dewi, a pha ffordd well o ddathlu diwylliant Cymru yn eich cartref na chael tusw o’r blodau lliwgar yma?
“Bydd y cennin Pedr yn cael eu dosbarthu ar sail y cyntaf i’r felin. Oherwydd mai dim ond nifer cyfyngedig fydd ar gael ar bob safle, byddwn yn annog pobl i ymweld â’r safleoedd cyn gynted â phosib ar 4 neu 5 Mawrth er mwyn manteisio ar y cynnig hwn.”
Bydd Parêd blynyddol y Ddraig hefyd yn cael ei gynnal yn Nhyddewi ddydd Sadwrn 4 Mawrth, gyda chriw o ddisgyblion ysgol ac aelodau gofal yn y gymuned yn gadael Oriel y Parc am 11am.
I gael yr amserau agor, gwybodaeth am y digwyddiad a phrisiau mynediad ar gyfer Castell Caeriw, ewch i www.arfordirpenfro.cymru/castell-caeriw/.
I gael yr amserau agor, gwybodaeth am y digwyddiad a phrisiau mynediad ar gyfer Castell Henllys, ewch i www.arfordirpenfro.cymru/castell-henllys/
I gael yr amserau agor a gwybodaeth am y digwyddiad ar gyfer Oriel y Parc, ewch i www.arfordirpenfro.cymru/oriel-y-parc/.
Cymraeg
Dydd Gŵyl Dewi yn gyfle perffaith i ddathlu bwyd Cymreig

MAE Dydd Gŵyl Dewi (1 Mawrth) yn gyfle perffaith i ddathlu’r cynnyrch Cymreig gorau sydd ar gael, ac mae Undeb Amaethwyr Cymru yn annog defnyddwyr, wrth wneud y siopa wythnosol, i ddewis Cig Eidion Cymru Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI) a Chig Oen Cymru Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI) a gynhyrchir yn gynaliadwy.
Dywedodd Llywydd UAC Glyn Roberts: “Mae gan Gig Eidion Cymru Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI) a Chig Oen Cymru Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI) stori wych i’w hadrodd ac rwy’n falch o fod ymhlith ffermwyr, sydd nid yn unig yn cynhyrchu bwyd gwych, ond hefyd yn barod i rannu’n stori ni. Mae stori cig coch Cymru yn wych, yn enwedig o ran bod yn amgylcheddol gynaliadwy.
“Mae defnyddwyr yn fwyfwy ymwybodol o ôl troed carbon eu bwyd a’r ffordd y mae wedi’i gynhyrchu. Wrth ddewis Cig Oen a Chig Eidion Cymru Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI) gallant fod yn dawel eu meddwl ei fod wedi’i gynhyrchu gyda natur mewn golwg. Mae mor faethlon a chynaliadwy ag y gall fod, ac rwy’n annog pawb i ddewis ein cynnyrch Cymreig ni yn gyntaf.”
Fodd bynnag, roedd Mr Roberts yn glir bod ffermwyr yng Nghymru angen cefnogaeth, nid yn unig gan Lywodraeth Cymru ond hefyd gan Lywodraeth y DU, os yw ein dulliau cynaliadwy o gynhyrchu bwyd am barhau am genedlaethau i ddod.
“Mae ffermio yng Nghymru yn rhoi sylfaen gadarn i’n heconomi – cynhyrchu bwyd, darparu cyflogaeth, a chwarae rhan hollbwysig wrth ofalu am ein hamgylchedd. Rydym am i’n ffermwyr barhau i gynhyrchu bwyd yn eu rôl fel ceidwaid cefn gwlad am flynyddoedd lawer i ddod.
“Yr hyn sy’n bygwth y system honno yw cytundebau masnach gyda gwledydd sydd â safonau cynhyrchu gwahanol iawn i’n rhai ni, sy’n anfantais i’n ffermwyr o ran bod yn gystadleuol. Felly, rwy’n annog Llywodraeth y DU eto heddiw i roi ein diwydiant ffermio yn gyntaf, fel y mae cenhedloedd eraill yr ydym yn cyd-drafod â nhw yn ei wneud.”
-
News6 days ago
Decades-old naval shell in front garden prompts bomb squad alert
-
News7 days ago
Concerns raised as council social worker charged with child sex offences
-
Sport5 days ago
Spotlight on Milford United Football Club
-
News6 days ago
Deep Space Radar base to be built in Brawdy, creating 100 jobs
-
Sport5 days ago
West Wales Cup Round Up 02/12/23
-
Sport1 day ago
Spotlight: Herald Sport speaks with referee Marty Jones
-
News1 day ago
Police probe after outboard motor stolen in Neyland
-
News7 days ago
Future for Wales: Navigating Major Climate Changes for Sustainability