Cymraeg
‘Grav’ yn cydio ond ishe’r flanced wedyn
‘NA FACHAN wedd Ray Gravell. Neu a dweud y gwir ‘na fachan yw Ray oherwydd ar ôl gweld perfformiad Gareth Bale o ‘Grav’ yn Theatr y Torch, Milffwrd, fe ddaeth y cawr o Fynydd-y-garreg yn fyw drachefn. Ma’r cynhyrchiad mlân am getyn ‘to cyn mynd ar daith. Gwnewch yn siwr eich bod yn mynd i’w weld. Roeddwn i yno ar noson y gêm rhwng Cymru a Lloegr. Ond taw piau am hynny am y tro.
Sdim dowt fod Grav yn enigma. Yn Gymro crwn. Yn gymeriad. Yn dalp o gadernid ac eto’n fwndel o ansicrwydd. Roedd rhaid iddo ddihuno un o’i gyd-chwaraewyr, pan oedden nhw ar daith, am chwech o’r gloch y bore un tro a hynny dim ond i gael y sicrwydd ei fod ef ei hun wedi cael noson dda o gwsg. Nid pawb ddymunai rannu ystafell ag ef.
Daliodd Gareth Bale ei osgo a’i gwircs i’r dim. Roedd ganddo’r un llais a’r un whisgers. Roedd sgript Owen Thomas yn llifo o farddoniaeth. Wedi’r cyfan roedd Ray yn ddyn geiriau. Roedd yn actor, yn hoff o ganeuon a chaneuon Dafydd Iwan a chaneuon gwerin Gwyddelig yn fwy na dim.
Roedd set Peter Doran o ystafell newid ddi-raen yn gwneud i’r cyfarwydd wynto’r linament. Dyna gynefin Raymond. Clywsom ef yn trafod troeon yr yrfa wrth ymson gyda’i fam gan weu’r trasiedi o hunanladdiad ei dad yn gelfydd i ganol yr holl uchelfannau. Wrth reswm doedd y cyflwyniad ddim yn brin o hiwmor.
Clywsom pa mor ddibynnol oedd y canolwr ar gefnogaeth Delme Thomas, Carwyn James a Phil Bennett i gynnal ei hyder a’i hunangred. Bu’r tri fel tadau dirprwyol iddo. Parod fyddai i’w dilyn trwy ddŵr a thân pe bai rhaid. Neu fel y dywedai’r hen bobol elai rhwng Pihahiroth a Baalseffon dros y tri.
Clywsom y straeon hynny sydd bellach yn rhan o’r chwedloniaeth a dyfodd o amgylch y canolwr gwydn. Ac am bob un o’r rheiny byddai’r cefnogwr rygbi pybyr yn y gynulleidfa yn medru adrodd dyrnaid o rai eraill. Mae’n siŵr mai tasg anoddaf y sgriptiwr oedd penderfynu pa hanesion i’w hepgor. A pha ots os yw’r mireinio wrth fynych ail-adrodd wedi ychwanegu ambell i lathen? Ein Ray ni yw e wedi’r cyfan.
Glywsoch chi am y berthynas rhyngddo a’r dyfarnwr byr o gorff hwnnw Ken Rowlands? ‘Ken y Cafflwr’ arferai Grav ei alw pan ddeuai mewn i’r ystafell newid. Byddai yn ei ben ar unwaith yn begian am ychydig o gicie cosb yn ystod y prynhawn. Ar un achlysur fe gydiodd ynddo gerfydd ei war a’i hongian wrth y bache dillad gan wrthod ei dynnu i lawr nes ei fod yn addo rhoi ambell gic gosb i’r Scarlets. Doedd dim taw arno.
Pan dynnai’r gêm at ei therfyn wedyn a’r sgôr yn go glos dyma Grav draw at Ken wrth i un o’r chwaraewyr gael triniaeth i anaf ac ymbilio arno – ‘dere mlân nawr Ken, os gallu di roi cic gosb i ni o flaen y pyst fydden ni’n ddiolchgar’. Pwy ond Grav fentrai ymddwyn yn y fath fodd heb gael ei ddisgyblu? Beth? Synnoch chi’n fy nghredu i? Wel, Ken Rowlands ei hun oedd yn dweud y straeon.
Mae’r cynhyrchiad hwn yn mynd i redeg ac i redeg cyn hired â rhai o gynhyrchiade’r West End. Ac mae’n siŵr y bydd perfformiad neu ddau yn Llundain rhywbryd. Mae ganddo’r coesau i fod yn rhyngwladol ei apêl. Eisoes mae sôn am fynd ag e i Iwerddon a’r Alban. Mae ganddo’r un apêl â chyngerdd gan Max Boyce.
Mae’n ddathliad o Gymreictod diedifar. Saesneg yw’r iaith, ie, am mai dyna oedd yr iaith rhwng Ray a’i fam. Ond does dim amau’r modd y cofleidiai Ray y Gymraeg a’r modd y medrai dynnu pobl at ei gilydd ar sail ei frwdfrydedd afieithus dros bopeth Cymreig.
Fy ngobaith wedi’r cyflwyniad oedd dathlu buddugoliaeth dros yr hen elyn drwy wylio’r ornest ar y sgrin maint y llwyfan yn y theatr. Ond och ac aw. Ni fedrai’r Cymry ddygymod â’r bustych rhemp yn yr ail hanner. Byddai’r byd ar ben yng ngolwg Ray.
Pe bawn adref mae’n siŵr y buaswn wedi gosod y flanced dros y sgrin. Hwyrach y bydd ei hangen gydol y gêm pan chwaraeir yr Alban yng Nghaeredin ‘fory.
Cymraeg
Ffermwr yn dysgu popeth y mae angen iddo wybod am ffermio modern drwy Cyswllt Ffermio

CYFLWYNODD ei rieni ef i ochr ymarferol ‘tir a da byw’ ffermio yn ifanc iawn, ond i Dylan Morgan, a aned yn Sir Gaerfyrddin, Cyswllt Ffermio sy’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r unigolyn yma a raddiodd mewn rheoli adeiladu. Dywedodd Dylan fod Cyswllt Ffermio wedi rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arno i fod y ffermwr ifanc blaengar a hyderus ydyw heddiw.
“A’r peth sy’n wych amdano yw, nad oedd rhaid i mi eistedd trwy oriau o ddarlithoedd theori amaeth am dair blynedd!”
Dywedodd Dylan mai agwedd Cyswllt Ffermio at ei holl wasanaethau hyfforddi a throsglwyddo gwybodaeth yw cyflwyno popeth ar y lefel gywir ar gyfer ffermwyr prysur ond profiadol sy’n gweithio.
“Mae’n ddull o ddysgu ar sail ‘angen gwybod’ sy’n apelio’n fawr ataf gan fy mod yn gallu gwneud lle iddo o amgylch fy nyletswyddau fferm ac ymrwymiadau eraill,” meddai Dylan.
Nid oedd gan Dylan unrhyw fwriad i ddod yn ffermwr pan adawodd Brifysgol Abertawe yn 2011, ond ar ôl ychydig fisoedd yn unig o ffermio’n llawn amser ar fferm bîff a defaid 360 erw ei deulu ger Llanymddyfri, newidiodd ei feddwl yn llwyr.
Roedd yn amlwg yn benderfyniad cywir i’r teulu cyfan ac mae Dylan (32) bellach wedi bod yn ffermio gartref ers bron i un mlynedd ar ddeg.
“Roeddwn i wastad wedi mwynhau helpu gartref pryd bynnag roedd gen i amser rhydd, felly roeddwn i wedi hen arfer ag ochr ymarferol ffermio, ond gan na astudiais i amaethyddiaeth yn y brifysgol, roeddwn i’n teimlo bod yna lawer nad oeddwn i’n ei wybod am iechyd anifeiliaid, pridd a rheoli glaswelltir a’r holl elfennau eraill o ffermio sy’n hanfodol i wella effeithlonrwydd ar y fferm.
“Mae’n hanfodol, fel ffermwyr, fod gan bob un ohonom y wybodaeth sydd ei hangen arnom a systemau yn eu lle i chwarae ein rhan i gadw at y safonau uchaf o les anifeiliaid, cynhyrchu da byw o’r ansawdd uchaf, gan hefyd warchod ein hamgylchedd naturiol a lleihau ein hôl troed carbon.”
Yn gefnogwyr hirdymor gwasanaeth Cynghori Cyswllt Ffermio, a welodd Dylan, ei dad a ffermwyr lleol eraill yn cael cyngor ar faterion yn cynnwys cynllunio rheoli maetholion, archwiliadau carbon a rheoli glaswelltir, mae Dylan yn rhoi llawer o’i amser hamdden i’w ddatblygiad personol.
Gan ddibynnu’n drwm ar ei swyddog datblygu lleol, Alun Bowen, i roi’r wybodaeth ddiweddaraf iddo am yr hyn sydd ar gael, mae Alun wedi cyfeirio Dylan – yn aml yng nghwmni ei dad – at nifer o weithdai iechyd a lles anifeiliaid ar bynciau’n amrywio o ffrwythlondeb y ddiadell a cholledion wyna i wneud y mwyaf o gynhyrchiant buchod sugno, cloffni a rheoli tir. Mae Dylan hefyd wedi dilyn cyrsiau hyfforddi byr â chymhorthdal ac mae’n defnyddio ystod gynhwysfawr y rhaglen o fodiwlau e-ddysgu a ariennir yn llawn yn rheolaidd.
“Mae dysgu ar-lein, mewn cyfnodau byr o 20 munud, gyda chwis ar ddiwedd pob modiwl i sicrhau eich bod wedi cymryd yr holl wybodaeth allweddol i mewn, yn ffordd wych o gynyddu eich gwybodaeth.”
Mae Dylan wedi canolbwyntio’n bennaf ar bynciau iechyd anifeiliaid yn ogystal â rheoli pridd a glaswelltir oherwydd ei fod yn credu’n gryf mewn mabwysiadu agwedd gyfannol at y fferm, gydag ‘arfer gorau ym mhopeth a wnawn’ yn rhan o’u hagenda cynaliadwyedd.
“Diolch i fy ngwybodaeth a sgiliau newydd a thrwy weithredu rhai o’r systemau newydd rydym wedi dysgu amdanynt trwy Cyswllt Ffermio, rydym bellach yn bwydo’r stoc yn llawer mwy effeithlon.
“Mae hyn wedi lleihau ein mewnbynnau’n sylweddol wrth wella perfformiad stoc a chynhyrchiant ac rydym hefyd wedi lleihau lefelau cloffni.”
Mae’r teulu’n sgorio cyflwr y corff yn rheolaidd ac yn meincnodi eu holl stoc ac yn dweud bod cyfrif wyau ysgarthol a phrofi elfennau hybrin trwy Cyswllt Ffermio wedi rhoi gwybodaeth werthfawr iddynt sy’n golygu eu bod wedi lleihau eu dibyniaeth ar driniaethau gwrthlyngyrol drwy fabwysiadu dull wedi’i dargedu’n well.
Gyda’i holl gyflawniadau dysgu wedi’u storio ar-lein yn ei gofnod personol y Storfa Sgiliau, mae Dylan yn dweud bod y system yn ffordd ddefnyddiol o nodi unrhyw feysydd y mae’n dal eisiau dysgu amdanynt.
“Mae ffermio yn ddiwydiant sy’n esblygu ac felly mae angen i ffermwyr o bob cenhedlaeth wybod eu bod yn ddigon gwybodus i wynebu’r cyfleoedd a’r heriau sydd o’u blaenau.”
Mae Cyswllt Ffermio yn cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra Cymru a’i ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.
I gael rhagor o wybodaeth am holl wasanaethau cymorth a hyfforddiant Cyswllt Ffermio ewch i https://businesswales.gov.wales/farmingconnect/cy neu ffoniwch eich swyddog datblygu Cyswllt Ffermio lleol.
Cymraeg
Cyfle gwych i ennill gwobr yn atyniadau Awdurdod y Parc dros benwythnos Dydd Gŵyl Dewi

BYDD tri atyniad Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn dosbarthu cennin Pedr i ymwelwyr yn rhad ac am ddim ar 4 a 5 Mawrth eleni i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi.
Bydd gan Gastell Caeriw, Pentref Oes Haearn Castell Henllys ac Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc nifer cyfyngedig o gennin Pedr i’w dosbarthu i bobl sy’n ymweld â’r safleoedd dros benwythnos Dydd Gŵyl Dewi.
Yn ôl y Cynghorydd Di Clements, Cadeirydd Awdurdod y Parc: “Rydyn ni’n annog cynifer â phosib o bobl i ymuno â dathliadau Dydd Gŵyl Dewi, a pha ffordd well o ddathlu diwylliant Cymru yn eich cartref na chael tusw o’r blodau lliwgar yma?
“Bydd y cennin Pedr yn cael eu dosbarthu ar sail y cyntaf i’r felin. Oherwydd mai dim ond nifer cyfyngedig fydd ar gael ar bob safle, byddwn yn annog pobl i ymweld â’r safleoedd cyn gynted â phosib ar 4 neu 5 Mawrth er mwyn manteisio ar y cynnig hwn.”
Bydd Parêd blynyddol y Ddraig hefyd yn cael ei gynnal yn Nhyddewi ddydd Sadwrn 4 Mawrth, gyda chriw o ddisgyblion ysgol ac aelodau gofal yn y gymuned yn gadael Oriel y Parc am 11am.
I gael yr amserau agor, gwybodaeth am y digwyddiad a phrisiau mynediad ar gyfer Castell Caeriw, ewch i www.arfordirpenfro.cymru/castell-caeriw/.
I gael yr amserau agor, gwybodaeth am y digwyddiad a phrisiau mynediad ar gyfer Castell Henllys, ewch i www.arfordirpenfro.cymru/castell-henllys/
I gael yr amserau agor a gwybodaeth am y digwyddiad ar gyfer Oriel y Parc, ewch i www.arfordirpenfro.cymru/oriel-y-parc/.
Cymraeg
Dydd Gŵyl Dewi yn gyfle perffaith i ddathlu bwyd Cymreig

MAE Dydd Gŵyl Dewi (1 Mawrth) yn gyfle perffaith i ddathlu’r cynnyrch Cymreig gorau sydd ar gael, ac mae Undeb Amaethwyr Cymru yn annog defnyddwyr, wrth wneud y siopa wythnosol, i ddewis Cig Eidion Cymru Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI) a Chig Oen Cymru Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI) a gynhyrchir yn gynaliadwy.
Dywedodd Llywydd UAC Glyn Roberts: “Mae gan Gig Eidion Cymru Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI) a Chig Oen Cymru Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI) stori wych i’w hadrodd ac rwy’n falch o fod ymhlith ffermwyr, sydd nid yn unig yn cynhyrchu bwyd gwych, ond hefyd yn barod i rannu’n stori ni. Mae stori cig coch Cymru yn wych, yn enwedig o ran bod yn amgylcheddol gynaliadwy.
“Mae defnyddwyr yn fwyfwy ymwybodol o ôl troed carbon eu bwyd a’r ffordd y mae wedi’i gynhyrchu. Wrth ddewis Cig Oen a Chig Eidion Cymru Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI) gallant fod yn dawel eu meddwl ei fod wedi’i gynhyrchu gyda natur mewn golwg. Mae mor faethlon a chynaliadwy ag y gall fod, ac rwy’n annog pawb i ddewis ein cynnyrch Cymreig ni yn gyntaf.”
Fodd bynnag, roedd Mr Roberts yn glir bod ffermwyr yng Nghymru angen cefnogaeth, nid yn unig gan Lywodraeth Cymru ond hefyd gan Lywodraeth y DU, os yw ein dulliau cynaliadwy o gynhyrchu bwyd am barhau am genedlaethau i ddod.
“Mae ffermio yng Nghymru yn rhoi sylfaen gadarn i’n heconomi – cynhyrchu bwyd, darparu cyflogaeth, a chwarae rhan hollbwysig wrth ofalu am ein hamgylchedd. Rydym am i’n ffermwyr barhau i gynhyrchu bwyd yn eu rôl fel ceidwaid cefn gwlad am flynyddoedd lawer i ddod.
“Yr hyn sy’n bygwth y system honno yw cytundebau masnach gyda gwledydd sydd â safonau cynhyrchu gwahanol iawn i’n rhai ni, sy’n anfantais i’n ffermwyr o ran bod yn gystadleuol. Felly, rwy’n annog Llywodraeth y DU eto heddiw i roi ein diwydiant ffermio yn gyntaf, fel y mae cenhedloedd eraill yr ydym yn cyd-drafod â nhw yn ei wneud.”
-
News7 days ago
Lola murder trial: “WTF has he been doing to my baby”
-
News2 days ago
Dramatic early hours rescue of 18-year-old in water by Angle RNLI
-
News1 day ago
Sinead James: ‘I heard a loud bang and a scream from Lola at around midnight’
-
News2 days ago
Haverfordwest mayor vote descends into chaos as fiery dispute breaks out among councillors
-
News1 day ago
Pembrokeshire chef, Daniel Jones, wins Pub Chef of the Year 2023
-
News3 days ago
Dog in difficulty rescued between St Nons and Caerfai Bay by RNLI
-
Business4 days ago
Developer Conygar disposes of Haverfordwest 729 home site
-
News4 days ago
Haverfordwest’s mayor reported to the DVLA by deputy over driving safety fears