Cymraeg
Bwyd Epic Chris: Rhannu’r prydau calonnog
Mastermind Cymru Selebs: Pwy fydd y lleiaf o gywilydd?
Sol: Dod â goleuni i’r tywyllwch
Raglenni Nadolig ar S4C
MAE 2020 wedi bod yn flwyddyn ddiddorol i ddweud y lleia’ ac yn bendant fe fydd y Nadolig yn wahanol iawn eleni. Ond un peth na fydd yn newid yw’r wledd o raglenni y bydd S4C yn eu ddarparu i ddiddanu a dathlu dros yr ŵyl. Bydd chwaraeon hefyd yn rhan ganolog o’r amserlen dros y Nadolig, gyda gemau darbi byw o’r Guinness PRO14 ar Clwb Rygbi, a gemau pêl-droed byw o’r JD Cymru Premier ar Sgorio. Felly caewch y drws, cwtshwch mewn gyda phlât o fins peis a gwydryn o rywbeth blasus a mwynhewch ….
SOL
Nos Lun 21 Rhagfyr, 6.30
Mae’r ffilm Sol yn adrodd stori bachgen ifanc sydd wedi cael ei daflu mewn i’r tywyllwch ar ôl iddo golli ei Nain yr oedd yn ei charu’n fawr iawn. Mae Sol yn cael ei anfon ar daith er mwyn dychwelyd â’r goleuni i fyd sydd yn tywyllu. Mae ei daith yn mynd ag e drwy dirlun eang wedi ei greu o atgofion Nain – gyda lluniau wedi eu casglu o’i halbwm ffotograffau. Mae e’n cael ei dywys gan Nain sy’n ferch fach ac yn dod o hyd iddi mewn sawl cyfnod arall yn ystod ei bywyd. Ar ddiwedd y daith, mae Sol yn cyrraedd Cromlech yr Haul, ac yn dod o hyd i’w Nain sydd yn aros iddo yno. Sylweddola ei fod yn gallu derbyn ei deimladau o alar gan fod ei deimladau o gariad tuag ati yn llawer fwy na phoen ei golled.
Comisiynwyd Sol gan ddarlledwyr Celtaidd S4C, TG4 a BBC Alba. Gobeithir y bydd y ffilm animeiddiedig hon yn dod â goleuni a chysur i deuluoedd â phlant ifanc wrth i’r flwyddyn mwyaf tywyll yn ein hanes diweddar ddirwyn i ben.
‘DOLIG EPIC CHRIS
Nos Lun 21 Rhagfyr, 8.00
Yn y bennod Nadoligaidd hon, mae Chris ‘Flamebaster’ Roberts yn helpu achos sy’n agos at ei galon (a’i stepen drws), Porthi Pawb. Wedi’i sefydlu yn sgil y pandemig, mae’r grŵp cymunedol yng Nghaernarfon yn darparu prydau bwyd i aelodau bregus ac oedrannus o’r gymuned. Erbyn hyn, mae’r criw bach o wirfoddolwyr yn coginio hyd at 650 o brydau blasus yr wythnos – pob un ohonynt yn cael eu paratoi a’u dosbarthu o ffreutur ysgol uwchradd flaenorol Chris, Ysgol Syr Hugh Owen. Gyda thymor yr ŵyl rownd y gornel, mae’r tîm gweithgar wedi gofyn i’r cogydd am ffafr – gwyliwch wrth i Chris danio’r barbeciw ar ei hen iard chwarae, cyn dosbarthu bwyd calonnog i gymeriadau o’i hoff gymdogaeth, Twthill! Bydd y gyfres newydd o Bwyd Epic Chris yn dechrau ar Nos Lun 28 Rhagfyr.
CAROL YR ŴYL
Nos Lun 21 Rhagfyr, 9.00
Ers dros ugain mlynedd mae Carol yr Ŵyl wedi profi i fod yn gystadleuaeth boblogaidd, gydag ysgolion cynradd led led Cymru yn cystadlu am y teitl a’r tlws arbennig, wrth gyfansoddi carol neu gân Nadolig newydd sbon. Eleni, yn sgil Covid, fe fydd y gystadleuaeth yn wahanol. Dyma gyfle i glodfori a gwobrwyo Gorau’r Goreuon! Fe fydd holl enillwyr y gystadleuaeth yn mynd benben â’i gilydd, a dau feirniad – Mari Lloyd Pritchard a Huw Foulkes – yn penderfynu yn gyntaf pwy fydd ar y rhestr fer o ddeg cân neu garol, cyn penderfynu ar y dair sy’n dod i’r brig.
Bydd hefyd cyfle i fynd yn ôl i’r ysgolion sydd wedi cyrraedd y brig yn y gorffennol. Cawn weld ambell i wyneb cyfarwydd ymhlith y cyn-ddisgyblion sydd bellach wedi mynd ati i wneud gyrfa yn y byd perfformio.
PROSIECT PUM MIL
Nos Fawrth 22 Rhagfyr 9.00
Banc Bwyd Llandysul sy’n cael sylw Trystan ac Emma i gloi’r gyfres arbennig hon, ac mae’r prosiect hwn yn un amserol tu hwnt wrth i’r banciau bwyd gynnig gwasanaeth pwysicach nag erioed o’r blaen.
Meddai Sian ap Gwynfor, “Ro ni eisiau gwneud mwy na llenwi boliau – cynnig clust, paned, sgwrs rownd y ford. Ar ôl dechrau cynnwys ryseitiau am brydau cloi a swmpus, roedd galw am gyngor ar eu paratoi.”
Ychwanegodd ei gŵr, y gweinidog Guto Prys ap Gwynfor, “Doedd cyflwr y gegin ddim ond yn caniatáu rhedeg dŵr neu wneud pot o de a’r festri yma yng Nghapel Seion yn oer a llwm.”
A fydd modd creu lle cysurus i drigolion Llandysul? A hynny mewn pryd i gasglu’r hamperau Nadolig?
Meddai Emma, “Mae’n fraint gwneud pob Prosiect, ond roedd gweld yr angen a’r gwaith sy’n mynd mewn i’r banc yn agoriad llygaid. Mae’n braf gorffen blwyddyn anodd i bawb yn gweld cymunedau’n cefnogi ei gilydd.”
DOLIG YSGOL NI: MAESINCLA
Nos Fercher 23 Rhagfyr, 8.00
Mae plant Ysgol Maesincla yn ôl! Ar ôl ennill y wobr Cyfres Ffeithiol orau yng ngwobrau BAFTA Cymru eleni, cawn ddathlu’r Nadolig yng nghwmni plant (ac athrawon!) Ysgol Maesincla wrth iddyn nhw berfformio sioe Nadoligaidd arbennig. Gyda chaneuon Nadolig adnabyddus, ond yr oll yng ngeiriau’r plant, mae cyfeirio at gamel yn “Geffyl ‘fo dau bump” a “grefi piws i fi, favourite yn tŷ ni” yn hollol naturiol i griw Maesincla.
Mae’r plant yn diolch i weithwyr allweddol fel y nyrsys, staff cartrefi’r henoed, yr heddlu yn ogystal â’u rhieni am eu gofal yn ystod y flwyddyn. I blant Maesincla, nid anrhegion yw’r peth pwysicaf eleni, ond fod Mam a Dad yn saff ac yn iach, a bod y teulu i gyd gyda’i gilydd.
Dyma raglen llawn hwyl a chwerthin (ac ambell ddeigryn!) gyda wynebau cyfarwydd, llawn direidi a gonestrwydd criw Maesincla wrth i ni ddathlu gwir ystyr y Nadolig.
KEN HUGHES YN CADW ‘DOLIG I FYNDNoson Nadolig 25 Rhagfyr, 7.00 Nôl a ni i’r byngalo clud at y cymeriad hoffus o Gricieth, Ken Hughes, wrth iddo geisio cadw ‘Dolig i fynd. Gyda’r Nadolig yn gallu bod yn gyfnod unig i’r rhai sy’n byw eu hunain, mae Ken yn benderfynol o gael hwyl dros yr ŵyl trwy wahodd Cymru gyfan i dreulio’r Nadolig yn ei gwmni.“Fy mwriad yw codi calonnau a dangos beth yw gwir ystyr y Nadolig. Mi fyddai’n rhannu anrhegion gyda’r cyfeillion sydd wedi bod yn gefn i mi trwy flwyddyn a dathlu’r ffaith fod gobaith. Mae Elis nôl yn y garej, ond mae’n llety bach mwy moethus tro hyn. Dwi wedi ei addurno iddo hefyd. Dwi’n cael sawl her gan fy ffrindiau – gobeithio bydd pawb yn mwynhau gwylio cymaint â dwi wedi mwynhau’r profiad.”Ond nid Ken yn unig sy’n lledaenu llawenydd – tybed pwy fydd yr ymwelydd arbennig sy’n codi gwên ar wyneb y dyn ei hun?
MASTERMIND SELEBS CYMRU
Noson Nadolig 25 Rhagfyr, 9.00
Mae rhai o wynebau cyfarwydd Cymru yn gobeithio serenu wrth i S4C ddod a chwis mwyaf adnabyddus y byd i gartrefi Cymru dros yr Ŵyl. Mewn rhaglen arbennig o Mastermind Selebs Cymru ar ddydd Nadolig, bydd rhai o enwogion Cymru yn rhoi cynnig arni yn y gadair ddu enwog, ac yn datgelu stôr o wybodaeth mewn meysydd digon annisgwyl.
Y selebs dewr fydd yn herio’r gadair ddu yw’r cyn Brif Weinidog Carwyn Jones, y gohebydd chwaraeon a’r gyflwynwraig Catrin Heledd, yr actores Carys Eleri, yr awdur a’r llenor Anni Llŷn a’r cyflwynydd Ameer Davies-Rana.
Betsan Powys fydd yn holi’r cwestiynau gyda rownd gwybodaeth gyffredinol a rownd pwnc arbenigol, ond pwy fydd wedi dewis Strictly Come Dancing, Tîm Rygbi Cymru 1969-1979, Llyfr Mawr y Plant a Star Wars? A phwy ar ddiwedd y rhaglen, fydd yn hawlio tlws arbennig Mastermind Selebs Cymru?
NADOLIG AL LEWIS
Noson Nadolig 25 Rhagfyr, 9.45.
Ar noson Nadolig, bydd y canwr a’r cyfansoddwr Al Lewis yn mynd â ni ar daith bersonol gerddorol o Ben Llŷn i Gaerdydd. Bydd Al yn perfformio rhai o hoff ganeuon Nadoligaidd y genedl, ochr yn ochr â wynebau cyfarwydd fel Kizzy Crawford, Côrdydd a Gwenan Gibbard mewn lleoliadau unigryw ledled Cymru.
Bydd Al hefyd yn rhannu beth mae amser y Nadolig yn ei olygu iddo ef. Meddai Al, “Mi oedd hi’n bleser pur teithio o gwmpas Cymru a pherfformio efo cerddorion a ffrindiau ar ôl cyfnod mor llwm i ni gyd.
“Ro’n i wrth fy modd yn cyd-ganu unwaith eto ac atgoffa’n gilydd pam fod y Nadolig mor bwysig. Gobeithio bydd y rhaglen yn dod a gwên i wynebau’r gwylwyr wrth iddynt gyd-ganu’r hen ffefrynnau efo fi o’u cartrefi!”.
Mae’r wledd gerddorol hon yn argoeli i fod yn ffordd wych i ddathlu’r Nadolig ac i godi canu yng nghartrefi Cymru gyfan.
Cymraeg
Strategaeth yr iaith Gymraeg dan adolygiad yng nghanol galwadau am gyfeiriad cliriach
MAE SAMUEL KURTZ AS, Ysgrifennydd Cysgodol y Cabinet dros yr Iaith Gymraeg, wedi annog Llywodraeth Cymru i ailfeddwl eu dull o weithredu targed uchelgeisiol Cymraeg 2050 yn sgil pryderon a godwyd mewn adroddiad diweddar gan y Senedd.
Mae strategaeth Cymraeg 2050 yn anelu at sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn canol y ganrif hon, ond mae amheuon wedi cael eu codi am ei hyfywedd. Mae canfyddiadau’r Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc yn tynnu sylw at heriau fel marweiddio yn nifer yr athrawon Cymraeg a gostyngiad yn y defnydd o’r iaith ymhlith pobl ifanc.
Mae Mr Kurtz, sy’n cynrychioli Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, wedi ymuno â’r galwadau i Lywodraeth Cymru ailystyried eu cynlluniau. Dywedodd:
“Mae Ceidwadwyr Cymreig wedi galw ers tro am strategaeth gliriach gan Lywodraeth Cymru i gyflawni eu targed Cymraeg 2050.
“Gyda nifer y siaradwyr Cymraeg yn gostwng dros y ddau ddegawd diwethaf, mae’n hanfodol bod y duedd hon yn cael ei gwrthdroi. O ystyried y marweiddio yn nifer yr athrawon Cymraeg a’r gostyngiad yn y defnydd o’r Gymraeg ymhlith pobl ifanc, mae angen i Lywodraeth Cymru adolygu pam nad yw eu cynlluniau presennol ar gyfer Cymraeg 2050 yn gweithio ac addasu’r cynlluniau angenrheidiol.”
Persbectif Sir Benfro
Yn Sir Benfro, lle mae treftadaeth yr iaith Gymraeg yn ddwfn, mae’r ddadl yn un arwyddocaol iawn. Mae cymunedau lleol wedi gweld llwyddiant amrywiol wrth gynnal Cymraeg. Mae addysg cyfrwng Cymraeg wedi tyfu mewn rhai ardaloedd, gydag ysgolion fel Ysgol Caer Elen yn Hwlffordd yn chwarae rhan hanfodol, ond mae pryderon yn parhau am ei hygyrchedd ledled y sir.
Yn hanesyddol, mae Sir Benfro wedi cael ei hystyried yn ‘ffrynt ieithyddol’, lle mae’r iaith Gymraeg yn cydfodoli â’r Saesneg mewn cydbwysedd cynnil. Mae ardaloedd gwledig wedi dal gafael ar eu traddodiadau ieithyddol, ond mae trefoli a newidiadau demograffig yn peri heriau.
Un mater allweddol yw’r gweithlu addysgu. Heb ddigon o athrawon Cymraeg i ysbrydoli ac addysgu’r genhedlaeth nesaf, mae cyflawni Cymraeg 2050 yn mynd yn fwyfwy anodd. Mae galwadau hefyd wedi bod am fwy o gyfleoedd trochi yn y Gymraeg y tu allan i’r ystafell ddosbarth er mwyn meithrin y defnydd o’r Gymraeg yn y bywyd bob dydd.
Pam mae Cymraeg 2050 yn bwysig
Yng nghanol Cymraeg 2050 mae gweledigaeth i beidio â chadw’r Gymraeg yn unig, ond i’w gwneud yn iaith fyw a llewyrchus. Mae ymgyrchwyr yn dadlau bod strategaeth gadarn yn hanfodol i sicrhau bod yr iaith yn parhau i fod yn berthnasol i genedlaethau’r dyfodol, yn enwedig mewn ardaloedd fel Sir Benfro lle mae treftadaeth ddiwylliannol yn gysylltiedig â’r Gymraeg.
Mae cefnogwyr y targed yn pwysleisio ei botensial i gryfhau hunaniaeth gymunedol ac i roi hwb i gyfleoedd economaidd, o dwristiaeth i ddiwydiannau creadigol, lle mae dwyieithrwydd yn ased sy’n tyfu.
Oes modd ei gyflawni?
Er bod uchelgais Cymraeg 2050 yn cael ei ganmol yn eang, mae cwestiynau yn parhau ynghylch a yw’n gyflawnadwy heb newidiadau sylweddol mewn polisi. Mae’r beirniaid yn dadlau, heb strategaeth gynhwysfawr wedi’i hariannu’n dda sy’n mynd i’r afael ag addysg, seilwaith ac ymgysylltu cymunedol, bod y targed mewn perygl o fod yn ddim mwy na dyhead.
I Sir Benfro, mae’r her yn glir: dathlu a diogelu ei chymunedau Cymraeg tra’n creu cyfleoedd ar gyfer twf ac ymgysylltu â’r Gymraeg i bawb.
Mae galwad Mr Kurtz am weithredu yn ychwanegu at y pwysau cynyddol ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno cynllun sy’n gweithio – nid yn unig ar gyfer nawr, ond ar gyfer cenedlaethau i ddod.
Cymraeg 2050: Iaith ar gyfer y dyfodol
I Sir Benfro a thu hwnt, mae’r blaenoriaeth yn uchel. Mae cyflawni miliwn o siaradwyr Cymraeg yn ymwneud â mwy na niferoedd yn unig – mae’n ymwneud â sicrhau dyfodol lle mae’r iaith yn parhau i fyw a ffynnu, o bentrefi gwledig Gogledd Sir Benfro i strydoedd prysur Aberdaugleddau.
Business
A more connected Wales: Ogi to provide Welsh language support through eero
Starting today, Ogi- Wales’s biggest alternative telecoms company- has taken the innovative leap to back the provision of Welsh language on the eero wifi software.
Amazon’s eero delivers fast, reliable and secure wifi to every corner of the home. Using the latest mesh technology, eero brings seamless coverage, whether you’re streaming, gaming, or working from home. The Amazon eero suite of products is available on all Ogi 400, Ogi 500 and Ogi 1Gig packages.
Ogi’s commitment to continuously improving for their Welsh customers is demonstrated through this new partnership. This milestone makes eero one of the few smart home systems to offer Welsh-language support in its mobile app.
Within the eero app, engineers have incorporated familiar Welsh-language terms to further the experience for users.
Speaking about the new feature, Ogi’s Brand Marketing Director, Sarah Vining, said: “Ogi’s mission has always been to provide world-class services that are inherently Welsh.”
“Working with the team at eero, we’re not only bringing cutting-edge technology to Welsh homes but also making it more accessible for our customers, and for users all over Wales too. This partnership reflects our shared vision to make the internet more accessible to everyone.”
“Our mission is to bring fast, reliable, and secure wifi to customers around the world.” said Mark Sieglock, eero EVP, Software and Services. “We’re thrilled to partner with Ogi to add Welsh language support, making the eero app more accessible to Welsh speakers in Wales.”
Welsh language support is now available to all eero users by downloading the latest software update (release 6.47.0)
Cymraeg
Hybu’r Gymraeg drwy sioe lwyfan
Ar faes Eisteddfod yr Urdd heddiw ym Meifod (29 Mai) caiff sioe lwyfan newydd ei dangos a fydd yn hyrwyddo’r Gymraeg i bobl ifanc ledled Cymru. Manon Steffan Ros sydd wedi creu’r sioe Geiriau i gwmni Mewn Cymeriad yn dilyn comisiwn gan Gomisiynydd y Gymraeg.
Bydd y sioe, sydd wedi ei hanelu at bobl ifanc ym mlynyddoedd 7, 8 a 9 ysgolion uwchradd, yn cyd-fynd â phecyn addysg newydd sydd wedi ei ddatblygu gan y Comisiynydd ac a fydd ar gael ar lwyfan addysgol, Hwb.
Yn ôl Manon Steffan Ros, roedd yn braf derbyn y cais i wneud y gwaith hwn er yn un heriol,
“Er mwyn hybu’r Gymraeg i’n pobl ifanc a’u hannog i’w defnyddio mae angen manteisio ar amryw o ffyrdd i wneud hynny. Mae sioe lwyfan, sydd yn mynd mewn i ysgolion, yn gyfle gwych i bwysleisio rôl y Gymraeg yn ein bywydau bob dydd, drwy ddefnyddio cerddoriaeth gyfoes a iaith sydd yn berthnasol iddyn nhw.
“Roedd yn her, serch hynny, i ddatblygu sgript a oedd yn cyfleu yr holl elfennau yma, tra ar yr un pryd yn hyrwyddo’r neges gyffredinol fod angen defnyddio’r Gymraeg er mwyn iddi oroesi.
“Gobeithio bydd y sioe yn gyfrwng i arwain at drafodaeth bellach ymysg pobl ifanc a’u hathrawon am bwysigrwydd y Gymraeg.”
I gyd-fynd â’r sioe, mae pecyn addysg wedi ei greu hefyd sydd yn cynnig amryw ddeunyddiau ar gyfer gwersi. Mae’r pecyn yn cynnwys cyflwyniadau ac atodiadau sydd yn rhannu gwybodaeth am y Gymraeg, ei phwysigrwydd fel sgil mewn bywyd bob dydd, ieithoedd lleiafrifol eraill ar draws y byd, yn ogystal ag egluro rôl Comisiynydd y Gymraeg.
Yn ôl Efa Gruffudd Jones., Comisiynydd y Gymraeg, y gobaith yw fod y gwaith hyn yn ymateb i angen,
“Rwyf wedi nodi yn aml fod plant a phobl ifanc yn flaenoriaeth i fi ac rydym yn gyson yn derbyn ceisiadau gan ysgolion am wybodaeth am ein gwaith. Y nod gyda’r pecyn hwn yw cynnig pecyn ymarferol y gellir dewis gweithgareddau ohono.
“Bydd hefyd, gobeithio, yn gymorth i athrawon a ddisgyblion ddeall yn well, nid yn unig rôl Comisiynydd y Gymraeg ond sefyllfa’r Gymraeg ar lefel genedlaethol a rhyngwladol.
“Gobeithio y caiff ei ddefnyddio’n eang.”
Un ysgol sydd wedi cael cyfle i weld y sioe eisoes yw Ysgol Bro Hyddgen ym Machynlleth yn nalgylch yr Eisteddfod. Mae Nansi Lloyd yn mlwyddyn 7 ac fe wnaeth fwynhau yn fawr,
“Roedd y sioe yn symud yn gyflym oedd yn grêt ac roeddem i gyd yn meddwl fod y defnydd o gerddoriaeth Gymraeg gyfoes yn dda iawn. Fe wnaeth i fi feddwl am pam mod i’n siarad Cymraeg a phwysleisio pa mor bwysig yw siarad yr iaith yn naturiol bob dydd, ac nid yn yr ysgol yn unig.
“Rwy’n gobeithio mynd i’w gweld eto yn yr Eisteddfod.”
Mae Alaw Jones yn athrawes yn ysgol Bro Hyddgen ac yn gweld gwerth yn y sioe a’r pecyn addysg,
“Mae yn medru bod yn heriol cyflwyno’r Gymraeg yn enwedig mewn oes lle mae cyfryngau cymdeithasol yn chwarae rôl mor flaenllaw yn mywydau pobl ifanc. Roedd y sioe hon yn gyfrwng i arwain ar drafodaeth bellach am y Gymraeg yn ein cymdeithas heddiw a braf oedd gweld ymateb y bobl ifanc i’r sioe.
“Mae’r pecyn addysg yn adnodd defnyddiol a fydd yn ein caniatáu i drafod y Gymraeg mewn cyd-destun ehangach, cyd-destun rhyngwladol, ac yn pwysleisio manteision siarad yr iaith o safbwynt sgil yn y byd gwaith.”
Caiff y sioe, Geiriau¸ ei pherfformio ar stondin Llywodraeth Cymru am 2pm ar ddydd Mercher, 29 Mai a bydd sesiwn holi ac ateb yn dilyn yng nghwmni Efa Gruffudd Jones, Manon Steffan Ros ac Owen Alun sydd yn perfformio’r sioe.
-
Top News2 days ago
Pembrokeshire man jailed after repeatedly punching pregnant wife
-
Top News2 days ago
Police investigate dogs seen persistently chasing sheep on Pembrokeshire airfield
-
Entertainment5 days ago
Reef’s 30th Anniversary Tour hits Tenby in 2025
-
News6 days ago
Thai mother’s harrowing 999 call: “I felt like a robot, I felt twisted, I killed my son”
-
News3 days ago
Dyfed-Powys Police launches attempted murder investigation
-
Health6 days ago
As many as 100,000 people in Wales could have Long Covid
-
Crime6 days ago
Seventeen deaths at Parc Prison: Calls for action after MP inquiry
-
Community6 days ago
Man, 83, dies in property fire near Llanybydder