Connect with us
Advertisement
Advertisement

Cymraeg

Galw pob gwyliwr dwrgwn

Published

on

Galw pob gwyliwr dwrgwnMAE GWYLIO DWRGWN ar hyd arfordir Sir Benfro ar gynnydd, ond mae angen help ychwanegol i ddarganfod mwy am y ffefryn hwn ymhlith y bywyd gwyllt blewog.

Maw Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro wedi ymuno â Sue Burton, Swyddog Ardal Arbennig Cadwraeth y Môr Sir Benfro (SAC) i ofyn i bobol i roi gwybod os gwelwyd dwrgwn ar gyfer project ymchwil sir gyfan.

Cofnodwyd fod mwy na 60 wedi’u gweld gan aelodau’r cyhoedd ar Arfordir Penfro ers i’r project gychwyn deufis yn ôl.

Dywedodd Ian Meophan, Ceidwad y Parc Cenedlaethol : “Dim ond un math o ddyfrgi sydd gennym yn y DU- y Dyfrgi Ewrasiaidd- sydd i’w weld yn byw fel arfer mewn dŵr croyw, ond yn yr Alban mae’r dwrgwn hyn yn gwneud defnydd cyson o’r môr, ac ymddengys eu bod yn Sir Benfro yn treulio llawer o amser ar yr arfordir hefyd.

“Mae pobol wedi eu gweld o gwmpas Tyddewi, Stackpole ac Abermawr. Mae llawer o’r adroddiadau hyd yn hyn wedi dod oddi wrth gaiacwyr ar y môr, syrffwyr a phobol sy allan yn arfordira. Roedd rhywun hyd yn oed yn lwcus i weld dyfrgi gyda heligog (aderyn môr) yn ei geg.”

Mae Ian yn gwahodd pobol i roi gwybod am yr hyn welon nhw i Galeri Oriel y Parc a’r Ganolfan Groeso yn Nhyddewi, lle gallwch chi binbwyntio’r man lle gweloch chi’r dyfrgi ar y map. Trosglwyddir llyfr log wedyn i Sue Burton Swyddog SAC Morol Sir Benfro ar gyfer y project, sydd yn ail adrodd arolwg arfordirol 2002 ac sydd am benderfynu os yw’r dwrgwn sy’n gwneud defnydd o’r arfordir yn boblogaeth wahanol i’r rhai sy’n defnyddio’r dyfrffyrdd mewndirol.

Dywedodd Sue: “Yr ydym yn gwybod yn barod fod dwrgwn yn defnyddio’r rhan hon o’r arfordir i borthianna a hyd yn oed bridio. Yr hyn yr ydym am ei wybod nawr yw os ydyn nhw’n ei ddefnyddio’n dymhorol neu os ydyw’r un dwrgwn yn defnyddio’r arfordir drwy’r flwyddyn.

“Yn ogystal â dwrgwn newydd a welwyd, mae diddordeb gennym mewn dwrgwn a welwyd yn mynd nôl i 2002, yn enwedig unrhyw rhai a welwyd i’r gogledd o Drefdraeth, ac i’r dwyrain o Bosherston gan mai ychydig iawn o rai a welwyd sydd wedi’u cofnodi gennym yn yr ardaloedd hyn. Yr ydym yn dibynnu’n helaeth ar ddwrgwn a welwyd gan y cyhoedd ac felly mwya‘i gyd o wylwyr, gore gyd!”

Mae Awdurdod y Parc hefyd yn defnyddio gwybodaeth am unrhyw ddwrgwn a welwyd yn bresennol i gynghori darparwyr gweithgareddau awyr agored ynglŷn ag ardaloedd sensitif arbennig, er mwyn iddyn nhw osgoi ymyrryd â’r dwrgwn a’u cynefin.

Rhowch wybod am ddwrgwn a welwyd gennych yn Oriel y Parc ( ar agor bob dydd, 10am-4.30pm) neu ffoniwch Sue Burton ar 01646 696108 neu e-bostiwch SACofficer@PembrokeshireMarineSAC.org.uk, gan roi’r dyddiad, yr amser a’r man lle gweloch chi’r dyfrgi.

Mae Sue Burton ynghyd â Geoff Lyles o’r Ymgynghoriaeth Dwrgwn, yn rhoi sgwrs yn nigwyddiad Marine Wildlife Sightings ar Dachwedd 20fed, wedi’i drefnu gan Fforwm Arfordir Penfro a hynny yn Theatr Myrddin, Hwlffordd.

Continue Reading
Click to comment

Leave a Reply

Your email address will not be published.

Cymraeg

Pantycelyn yn croesawu newydd o fyfyrwyr

Published

on

MAE neuadd breswyl enwocaf Cymru wedi ailagor ei drysau heddiw, ddydd Gwener 18 Medi 2020, gyda’r myfyrwyr yn dychwelyd i Brifysgol Aberystwyth ar gyfer dechrau’r flwyddyn academaidd newydd.
Ar ei newydd wedd mae Neuadd Pantycelyn, sydd wedi ei thrawsnewid gan fuddsoddiad o £16.5m, yn cynnig llety o’r radd flaenaf i hyd at 200 o fyfyrwyr a chartref modern a chyfoes i gymuned fyrlymus myfyrwyr Cymraeg y Brifysgol.
Mae pob un o’r ystafelloedd gwely wedi ei hadeiladu o’r newydd ac yn cynnwys ystafell ymolchi en-suite, ac mae rhai o ystafelloedd mwyaf adnabyddus y Neuadd – y Lolfa Fawr, y Lolfa Fach a’r Ystafelloedd Cyffredin Hŷn ac Iau wedi eu gweddnewid.
Ac, yn unol â dymuniadau caredigion y neuadd, mi fydd y traddodiad o gydfwyta yn y Neuadd yn parhau gyda brecwast a phryd bwyd â’r hwyr ar gael yn y Ffreutur o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Yn ogystal â buddsoddiad y Brifysgol ei hun, derbyniodd y prosiect gyfraniad o £5m gan raglen Addysg ac Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru, a bydd Gweinidog Addysg Cymru, Kirsty Williams AS, yn ymweld â’r neuadd ddydd Gwener 18 Medi i’w hailagor, ochr yn ochr ag Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, Yr Athro Elizabeth Treasure.
Dywedodd Yr Athro Treasure; “Mae hwn yn ddiwrnod mawr i ni yma ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac yn benllanw taith bwysig i ni. Wrth ailagor Pantycelyn rydym yn datgan yn glir ein hymroddiad at y Gymraeg a diwylliant Cymru, ac at ddarparu cartref cyfoes a chyffrous i do newydd o fyfyrwyr sydd wedi dewis ymuno gyda ni yma yn Aberystwyth, a phrofi rhagoriaeth academaidd ein Prifysgol, mewn cymuned lle mae’r Gymraeg yn iaith naturiol dydd i ddydd. Mae’n gyfle hefyd i ni gydnabod a diolch i bawb a gyfrannodd at hanes cyfoethog y neuadd unigryw hon, yn fyfyrwyr, yn gyn-fyfyrwyr, yn gyfeillion ac yn aelodau staff, ac sydd wedi chwarae eu rhan wrth wireddu’r freuddwyd o ail-agor Pantycelyn.”
Dywedodd Kirsty Williams: “Mae Neuadd Pantycelyn yn adeilad eiconig o fewn y gymuned Gymraeg ei hiaith ac mae wedi bod yn rhan o wead yr iaith yn lleol ers degawdau, yn ogystal â bod yn bair o dalent i fyfyrwyr sy’n mynd ymlaen i chwarae rhan bwysig yng Nghymru ac yn rhyngwladol.
“Fel rhan o’n nod i gyflawni miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, rydym am ddatblygu addysg ôl-orfodol sy’n cefnogi pobl i ddatblygu sgiliau yn y Gymraeg i’w defnyddio’n gymdeithasol a thrwy gydol eu gyrfaoedd. Mae Pantycelyn, a chymuned ehangach Aberystwyth, yn bwysig wrth feithrin y defnydd o’r Gymraeg ym mhob sefyllfa a chan bawb sy’n medru rhywfaint o’r iaith.
“Rwy’n falch iawn o allu cefnogi adnewyddiad Neuadd Pantycelyn ac edrychaf ymlaen at weld hwn yn gartref i fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith am flynyddoedd lawer i ddod.”
Gydag ailagor y Neuadd, mae Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth (UMCA) yn dychwelyd i’r neuadd gan ymgartrefu mewn swyddfa newydd sbon lle bydd cymorth a chyngor i fyfyrwyr ar gael, a rhaglen lawn o weithgareddau yn cael ei tnu.
Dywedodd Moc Lewis, Llywydd UMCA: “Mae ail agor Pantycelyn yn gam pwysig iawn i bawb yma ym Mhrifysgol Aberystwyth ac mae’r cyfleusterau yn y neuadd newydd yn wych. Fel llais y myfyrwyr, mae’n bwysig i ni fod swyddfa UMCA yma yn y Neuadd fel ein bod yn rhan o’i bywyd dyddiol ac yn cefnogi’r gymuned bwysig hon. Rydym yn ymwybodol iawn o gyfraniad anhygoel y Neuadd dros y degawdau; ein tro ni yw hi nawr i lunio’r bennod nesaf, ac mae heddiw yn ddechrau cyffrous i’r bennod honno yn hanes Pantycelyn.”
Agorwyd Pantycelyn am y tro cyntaf yn 1951 fel neuadd i fechgyn a daeth yn Neuadd Gymraeg ym 1974.
Ar hyd y blynyddoedd profodd cymuned Pantycelyn yn feithrinfa greadigol lenyddol a cherddorol heb ei hail, gyda llu o awduron a beirdd llwyddiannus ymhlith ei chyn breswylwyr, yn ogystal â bandiau sydd wedi gwneud eu marc ar y byd roc a phop Cymraeg.
Fe fu’r neuadd yn gartref i’r hanesydd blaenllaw ac awdur Hanes Cymru, y diweddar Dr John Davies Bwlchllan, a fu’n warden yno rhwng 1974 a 1992.

Continue Reading

Cymraeg

Covid-19 a newid yn yr hinsawdd

Published

on

WRTH i gyfyngiadau’r cyfnod clo gael eu llacio gam wrth gam, gwelwn y byd o’n cwmpas yn prysuro unwaith eto. Ac er ein bod dal yng nghanol Pandemig sydd wedi cael effaith echrydus, i nifer ohonom mae’r cyfnod wedi cynnig cyfle i arafu ac ail-ymgysylltu gyda byd natur.

Yn y rhaglen Newid Hinsawdd, Newid Byd: Covid-19 ar nos Iau 10 Medi, bydd Steffan Griffiths a Daf Wyn yn edrych ar effaith y Pandemig ar hinsawdd y byd ac yn gofyn ai dyma ein cyfle euraidd i droi’r cloc yn ôl ar y difrod i’n hamgylchedd?

Mae’r pwnc yn agos iawn at galon Steffan, cyflwynydd y tywydd ar S4C, sydd ag MA mewn Rhewlifeg, sef effaith hinsawdd ar rewlifoedd.

“Fel rhywun sydd wedi astudio’r maes ers dros ddegawd, ‘roedd gweld pysgod yn dychwelyd i ddyfroedd clir Venice a golygfeydd tebyg ledled y byd yn bositif iawn. Ac er bod y ffigyrau’n swnio’n drawiadol; lefelau teithio lawr 65% ar draws Ewrop, lefelau llygredd aer wedi disgyn 40%, a CO2 wedi gostwng 17% ym mis Ebrill yn unig, roeddwn i eisiau gwybod mwy am y gwir effaith ar yr amgylchedd a beth yw’r rhagolygon chwe mis yn ddiweddarach.

“I ddod i’r afael a’r sefyllfa yng Nghymru a thu hwnt, mae Daf a finnau yn siarad gyda Chymry ar wasgar, o Sir Benfro i Ben Llŷn, o Hong Kong i Hanoi, i glywed o lygaid y ffynnon sut mae’n milltir sgwâr wedi newid.”
Gyda llai o deithio a llai o lygredd, mae ansawdd yr awyr wedi gwella yn rhai o ddinasoedd prysuraf y byd. Ond a ydyw’r sefyllfa mor galonogol mewn gwirionedd?

Mae Daf, sydd yn wyneb cyfarwydd o’i waith yn cyflwyno Heno a Prynhawn Da, hefyd yn frwdfrydig am ddarganfod yr ateb; “Yn Newid Hinsawdd, Newid Byd yn 2019, aeth Steff a fi i edrych ar y cysylltiad rhwng tywydd eithafol 2018 a chynhesu byd eang, a gweld fod yr hinsawdd yn newid ar stepen ein drws. Wnetho ‘ni sôn fod y byd ddwy funud i ddeuddeg ar gloc Dydd y Farn, y Doomsday clock. Felly gyda thywydd eithafol yn dal i ddigwydd yng Nghymru a thu hwnt, a 2020 yn flwyddyn wahanol i ddweud y lleiaf, ble y ni nawr?”.

Er bod yr amgylchedd yn sicr wedi elwa o’r cyfnod clo, mae arbenigwyr yn honni mai eiliadau, yn hytrach na munudau, sydd ar ôl ar y cloc dychmygol sy’n mesur y posibiliad o drychineb naturiol wedi greu gan ddynoliaeth. Bydd Steffan a Daf yn holi arbenigwyr o’r maes hinsawdd ac ar gymdeithaseg i gael eu barn nhw.
“Wedi hyn oll fennu, a fyddwn yn mynd nôl i hen arferion ac yn gwneud mwy o niwed i’r blaned nag erioed o’r blaen?” meddai Daf.

Meddai Steffan; “Mae 90% o drychinebau naturiol yr ugain mlynedd diwethaf wedi bod yn gysylltiedig ag argyfwng hinsawdd. Pethau fel corwyntoedd, llifogydd a sychder. Roedd chwe mis cyntaf 2020 y cynhesaf ar record. Felly oes ‘na ddigon yn cael ei wneud ar lawr gwlad? Beth allwn ni ei wneud i sicrhau nad ydym yn disgyn yn ôl?”.

Gyda golygfeydd syfrdanol, a phwnc sy’n berthnasol i bawb, bydd hon yn raglen fydd yn herio’r cydwybod wrth ofyn, a fydd Covid-19 yn gatalydd i droi’r cloc yn ôl ar y difrod i’r amgylchedd, neu yw hi eisoes yn rhy hwyr?

Continue Reading

Cymraeg

Rhybudd wrth i’r cynllun cymorth ddod i ben

Published

on

MAE Helen Mary Jones AS, Gweinidog Cysgodol Plaid Cymru dros yr Economi, wedi adnewyddu galwadau am ymestyn y cynllun ar gyfer sectorau sydd – hyd yma – wedi methu agor, neu’n methu agor yn broffidiol.

Datgelodd arolwg diweddar o 801 o berchnogion busnes twristiaeth yng Nghymru nad yw 22% o fusnesau wedi gallu agor eto (ar 6 Awst 2020), gyda 47% o atyniadau twristiaeth Cymru dal ar gau. Nid oes newyddion eto ynglŷn â phryd y gallai theatrau, neuaddau cyngerdd a lleoliadau cerddoriaeth eraill agor yng Nghymru.
Gyda Chynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws Llywodraeth y DU yn dod i ben ar 31 Hydref 2020, bydd gan fusnesau sy’n aros ar gau ar ôl y dyddiad hwn “benderfyniad torcalonnus, ond anochel i’w wneud” meddai Helen Mary Jones AS.

Dywed Ms Jones, mae biliynau o daliadau ffyrlo i fusnesau wedi eu gwneud yn ystod y pandemig. Os caiff staff gael eu diswyddo o 1 Tachwedd ymlaen wrth i’r cynllun ddod i ben bydd hyn yn wastraff o filiynau o bunnoedd.
Dywedodd Helen Mary Jones, Gweinidog Cysgodol Plaid Cymru dros yr Economi: “Mae’n amlwg y bydd rhai sectorau o’r economi yn cymryd llawer mwy o amser i wella nag eraill. Yng Nghymru, mae rhai rhannau o letygarwch a’r rhan fwyaf o ddiwydiant y celfyddydau yn dal ar gau i ffrydiau incwm.

“Pan ddaw’r cynllun ffyrlo i ben yn sydyn ym mis Hydref, bydd un canlyniad dinistriol: i’r sefydliadau sydd wedi cadw staff ar ffyrlo, ond heb ffrydiau incwm, ni fydd ganddynt ddewis ond diswyddo staff. Bydd yn benderfyniad torcalonnus, ond anochel i’w wneud.

“Mae San Steffan eisoes wedi gwario biliynau ar alluogi busnesau i gadw staff. Bydd eu diswyddo ar ddiwedd y cynllun yn gwastraffu miliynau o bunnoedd.

“Rydym eisoes wedi gweld addasiadau i’r cynllun er mwyn galluogi gweithwyr ar gyflogau isel i gael incwm bach os cânt eu gorfodi i ynysu. Gan ei bod yn ymddangos bod cloeon lleol yn debygol yn ein brwydr yn erbyn y feirws, hoffwn weld hyn yn cael ei ehangu i bob gweithiwr sy’n cael ei orfodi i ynysu ond na allant weithio o gartref. Yn allweddol, mae angen i’r swm fod yn ddigonol fel nad yw gweithwyr yn cael eu rhoi mewn sefyllfa amhosibl o deimlo mae eu hunig ddewis yw mynd i’r gwaith pan fyddant yn sâl neu’n ynysu, rhag ofn eu bod wedi’u heintio. Mae taliad o £13 y dydd yn ddechrau i’w groesawu, ond mae angen i hyn fod yn fwy.
“Rhaid i Lywodraeth Cymru gymryd rhywfaint o gyfrifoldeb am hyn hefyd. Os na fydd San Steffan yn ymestyn y cynllun ffyrlo i’r sectorau yr effeithir arnynt fwyaf, yna mae angen i Lywodraeth Cymru edrych ar ba gymorth y gallent ei ddarparu.”

Continue Reading
News1 day ago

No one wants a ‘concentration camp’ for asylum seekers in Penally

A COUNTY COUNCILLOR is slamming the Home Office for creating a “concentration camp” in Pembrokeshire. Cllr Paul Dowson says that...

News3 days ago

Alcohol sale restrictions come into force

ALL LICENSED premises in Pembrokeshire must now stop selling alcohol at 10pm. The move is part of further Welsh Government...

News3 days ago

Police and Crime Commissioner demands halt to movements of asylum seekers to Penally

THE LOCAL Police and Crime Commissioner is calling on Home Secretary to halt further movements of asylum seekers to Penally...

News4 days ago

Multi agency response at Milford Docks

AN incident at Milford Haven Docks this morning required a multi agency response. The Herald received a report of a...

News4 days ago

Charity organiser targeted by extremists over Penally Camp collection appeal

LOCAL charity organiser Tracy Olin and her family have been targeted by extremists opposed to the location of asylum seekers...

News4 days ago

NHS COVID-19 app launches across Wales

People are being urged to download the NHS COVID-19 app to help stop the spread of coronavirus and protect themselves...

News5 days ago

Migrants, asylum seekers, refugees and immigrants: What’s the difference?

IN THE WEEK that the First Minister said that a military camp is not the correct place to house people...

News6 days ago

As further protest planned, police say last nights scenes ‘endangered everyone’

A FURTHER protest is planned for tonight in Penally. It follows a similar protest last night which saw demonstrators clash...

News7 days ago

Multi-storey car park face coverings reminder

USERS of Pembrokeshire’s two multi-storey car parks are being reminded to wear face coverings inside both facilities. The County Council’s...

News1 week ago

Waterston: Planned chimney blow-down results in just a partial collapse

THE PLANNED blow-down of the disused stack at Dragon LNG has ended in only a partial collapse, with most of...

Popular This Week