Connect with us
Advertisement
Advertisement

Cymraeg

Ddysgu rhywbeth newydd bob dydd

Published

on

Terry Dyddgen-Jones: Gweithio ar llawer o rhaglenni drama

Terry Dyddgen-Jones: Gweithio ar llawer o rhaglenni drama

MAE TERRY DYDDGEN-JONES yn wreiddiol o Grwbin yn Sir Gaerfyrddin a cawsom sgwrs ar set Byw Celwydd. Cyfarwyddwr yw Terry ac sy’ni gweithio ar llawer o rhaglenni drama, mae ei waith yn cynnwys Coronation Street, Hollyoaks, Pam Di Duw?, Eastenders a Emmerdale.

Yn siarad am ei brofiad o weithio ar Byw Celwydd, dywedodd: “Maen wedi bod yn brofiad diddorol iawn oherwydd dim ond yn diwethar rwyf wedi dod nol i Gymru i weithio achos rwyf wedi bod yn gweithio bant a gwnes i gyfres s4c ,Parch cyn hynny…. Ma hwn yn gyfres cwbl wahanol, maen gyfres diddorol iawn yn yr ystyr bod e gyd i ymwneud a gwleidyddiaeth yn y cynulliad.”

Cafodd ychydig o’r gyfres ei ffilmio yn y siambr yn y Senedd ac yn siarad am ei brofiad, ddywedodd: “ Roedd e’n brofiad ffantastig oherwydd roedd James Bond ddim wedi cael caniatâd i fynd i’r Senedd a fuodd lot o fuss ar ôl ni pan oedd nhw ddim yn gallu defnyddio fe fel lleoliad ac wrth gwrs roedd Byw Celwydd yn y lle iawn ar yr amser iawn a hefyd oedd e’n digwydd ffilmio mewn cyfnod pan oedd y gwleidyddion bant am ei wyliau.”

Ma gan Terry llawer o brofiad o weithio ar nifer o gwahanol rhaglennu yn ystod ei yrfa, gan ei fod wedi gweithio ar rhaglennu fel Coronation Street ac Eastenders. Maent yn wahanol, eglurodd Terry hwn try ddweud: “Mae’n wahanol yn y broses storïol. Ma na fwy o straeon falle bod da chi bedair neu bump stori o fewn un bennod mewn hanner awr, ma hon (Byw Celwydd) yn rhaglen awr a mae e gyd yn ymwneud a’r holl bobl ma sydd yn dweud celwydd a ma nhw’n trial twyllo ei gilydd.”

Does gan Terry ddim uchafbwynt penodol ond ma pob dydd yn wahanol: “I fi’n teimlo bo fi’n dysgu rhywbeth newydd bob dydd. Fi’n dod ar y set a rwyf wedi bod yn gweithio yn y diwydiant ers blynyddau ond dw i’n yn dysgu rhywbeth am yn hunain neu am beth dw i’n gwneud bob diwrnod.”

Am gyfarwyddwyr y dyfodol a phobl sydd eisiau mynd i’r fusnes, roddodd Terry gyngor iddynt: “Just trial gwneud profiad gwaith a trial bod yn helpful ag sy’n bosib i drial gwneud cysylltiadau o fewn y diwydiant ac i fod ar gael achos dw i’n credu ma bod ar gal i gwneud rhywbeth.”

Yn y gyfres ddrama boblogaidd, Byw Celwydd, mae Matthew Gravelle yn portreadu Hari James. Aeth yr Herald lan i’r set yng Nghaerdydd i sgwrsio efo Matthew am yr ail gyfres.

I ddisgrifio ei gymeriad dywedodd: “Mae’n go-getting, ddim yn cymerid nonsens. Ma fe’n gyrru Rhiannon sy’n arweinydd parti cenedlaetholwyr ac yn gwneud yn siŵr bo ni’n gwneud y penderfyniadau cywir i’r parti er bod hi ddim yn necessarily yn hapus iawn i wrando ar beth ma fe’n argymell so ma fe’n gorfod trial arwain hi mewn ffordd nad yw hi ddim yn ymwybodol bod hi’n cael ei arwain a trial arwain pobl eraill i helpu i cael trwyddo yn y cynulliad neu unrhyw achos mae hi’n cefnogi.”

Pan gofynnodd y Herald am ddatblygiadau ei gymeriad, eglurodd bod ei gymeriad yn mynd i fod yn fwy rhwystredig a byddwn yn ei weld yn dechrau perthynas newydd ac yn trio bod yn fwy emosiynol.

Mae ei berthynas efo Angharad (cymeriad sy’n cael ei phortreadu gan Cath Ayres) yn datblygu mewn i perthynas mwy proffesiynol ac yn siarad gyda’i gilydd am y perthynas dywedodd nhw: “er bod dal rhywbeth yno” dywedodd Matthew bod ei gymeriad yn gwrthod gadael pethau i fynd or gorffennol.

I ddisgrifio’r ddrama mewn ychydig o eiriau dywedodd gyda ychydig o help oddi wrth Cath Ayres (sy’n portreadu Angharad Wyn) “Drama wleidyddol sy’n ymdrin a storïau cyfredol i ni yng Nghrymu’n benodol a law a llaw mae gyda ni fywydau personol cymhleth hefyd wedi gwëi yn hyd i greu drama ffantastig!”

Continue Reading
Click to comment

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

Cymraeg

Ffermwr yn dysgu popeth y mae angen iddo wybod am ffermio modern drwy Cyswllt Ffermio

Published

on

CYFLWYNODD ei rieni ef i ochr ymarferol ‘tir a da byw’ ffermio yn ifanc iawn, ond i Dylan Morgan, a aned yn Sir Gaerfyrddin, Cyswllt Ffermio sy’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r unigolyn yma a raddiodd mewn rheoli adeiladu. Dywedodd Dylan fod Cyswllt Ffermio wedi rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen arno i fod y ffermwr ifanc blaengar a hyderus ydyw heddiw.

“A’r peth sy’n wych amdano yw, nad oedd rhaid i mi eistedd trwy oriau o ddarlithoedd theori amaeth am dair blynedd!”

Dywedodd Dylan mai agwedd Cyswllt Ffermio at ei holl wasanaethau hyfforddi a throsglwyddo gwybodaeth yw cyflwyno popeth ar y lefel gywir ar gyfer ffermwyr prysur ond profiadol sy’n gweithio.

“Mae’n ddull o ddysgu ar sail ‘angen gwybod’ sy’n apelio’n fawr ataf gan fy mod yn gallu gwneud lle iddo o amgylch fy nyletswyddau fferm ac ymrwymiadau eraill,” meddai Dylan.

Nid oedd gan Dylan unrhyw fwriad i ddod yn ffermwr pan adawodd Brifysgol Abertawe yn 2011, ond ar ôl ychydig fisoedd yn unig o ffermio’n llawn amser ar fferm bîff a defaid 360 erw ei deulu ger Llanymddyfri, newidiodd ei feddwl yn llwyr.

Roedd yn amlwg yn benderfyniad cywir i’r teulu cyfan ac mae Dylan (32) bellach wedi bod yn ffermio gartref ers bron i un mlynedd ar ddeg.

“Roeddwn i wastad wedi mwynhau helpu gartref pryd bynnag roedd gen i amser rhydd, felly roeddwn i wedi hen arfer ag ochr ymarferol ffermio, ond gan na astudiais i amaethyddiaeth yn y brifysgol, roeddwn i’n teimlo bod yna lawer nad oeddwn i’n ei wybod am iechyd anifeiliaid, pridd a rheoli glaswelltir a’r holl elfennau eraill o ffermio sy’n hanfodol i wella effeithlonrwydd ar y fferm.

“Mae’n hanfodol, fel ffermwyr, fod gan bob un ohonom y wybodaeth sydd ei hangen arnom a systemau yn eu lle i chwarae ein rhan i gadw at y safonau uchaf o les anifeiliaid, cynhyrchu da byw o’r ansawdd uchaf, gan hefyd warchod ein hamgylchedd naturiol a lleihau ein hôl troed carbon.”

Yn gefnogwyr hirdymor gwasanaeth Cynghori Cyswllt Ffermio, a welodd Dylan, ei dad a ffermwyr lleol eraill yn cael cyngor ar faterion yn cynnwys cynllunio rheoli maetholion, archwiliadau carbon a rheoli glaswelltir, mae Dylan yn rhoi llawer o’i amser hamdden i’w ddatblygiad personol.

Gan ddibynnu’n drwm ar ei swyddog datblygu lleol, Alun Bowen, i roi’r wybodaeth ddiweddaraf iddo am yr hyn sydd ar gael, mae Alun wedi cyfeirio Dylan – yn aml yng nghwmni ei dad – at nifer o weithdai iechyd a lles anifeiliaid ar bynciau’n amrywio o ffrwythlondeb y ddiadell a cholledion wyna i wneud y mwyaf o gynhyrchiant buchod sugno, cloffni a rheoli tir. Mae Dylan hefyd wedi dilyn cyrsiau hyfforddi byr â chymhorthdal ac mae’n defnyddio ystod gynhwysfawr y rhaglen o fodiwlau e-ddysgu a ariennir yn llawn yn rheolaidd.

“Mae dysgu ar-lein, mewn cyfnodau byr o 20 munud, gyda chwis ar ddiwedd pob modiwl i sicrhau eich bod wedi cymryd yr holl wybodaeth allweddol i mewn, yn ffordd wych o gynyddu eich gwybodaeth.”

Mae Dylan wedi canolbwyntio’n bennaf ar bynciau iechyd anifeiliaid yn ogystal â rheoli pridd a glaswelltir oherwydd ei fod yn credu’n gryf mewn mabwysiadu agwedd gyfannol at y fferm, gydag ‘arfer gorau ym mhopeth a wnawn’ yn rhan o’u hagenda cynaliadwyedd.

“Diolch i fy ngwybodaeth a sgiliau newydd a thrwy weithredu rhai o’r systemau newydd rydym wedi dysgu amdanynt trwy Cyswllt Ffermio, rydym bellach yn bwydo’r stoc yn llawer mwy effeithlon.

“Mae hyn wedi lleihau ein mewnbynnau’n sylweddol wrth wella perfformiad stoc a chynhyrchiant ac rydym hefyd wedi lleihau lefelau cloffni.”

Mae’r teulu’n sgorio cyflwr y corff yn rheolaidd ac yn meincnodi eu holl stoc ac yn dweud bod cyfrif wyau ysgarthol a phrofi elfennau hybrin trwy Cyswllt Ffermio wedi rhoi gwybodaeth werthfawr iddynt sy’n golygu eu bod wedi lleihau eu dibyniaeth ar driniaethau gwrthlyngyrol drwy fabwysiadu dull wedi’i dargedu’n well.

Gyda’i holl gyflawniadau dysgu wedi’u storio ar-lein yn ei gofnod personol y Storfa Sgiliau, mae Dylan yn dweud bod y system yn ffordd ddefnyddiol o nodi unrhyw feysydd y mae’n dal eisiau dysgu amdanynt.

“Mae ffermio yn ddiwydiant sy’n esblygu ac felly mae angen i ffermwyr o bob cenhedlaeth wybod eu bod yn ddigon gwybodus i wynebu’r cyfleoedd a’r heriau sydd o’u blaenau.”

Mae Cyswllt Ffermio yn cael ei ddarparu gan Menter a Busnes a Lantra Cymru a’i ariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig.

I gael rhagor o wybodaeth am holl wasanaethau cymorth a hyfforddiant Cyswllt Ffermio ewch i https://businesswales.gov.wales/farmingconnect/cy neu ffoniwch eich swyddog datblygu Cyswllt Ffermio lleol.

Continue Reading

Cymraeg

Cyfle gwych i ennill gwobr yn atyniadau Awdurdod y Parc dros benwythnos Dydd Gŵyl Dewi

Published

on

BYDD tri atyniad Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn dosbarthu cennin Pedr i ymwelwyr yn rhad ac am ddim ar 4 a 5 Mawrth eleni i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi.

Bydd gan Gastell Caeriw, Pentref Oes Haearn Castell Henllys ac Oriel a Chanolfan Ymwelwyr Oriel y Parc nifer cyfyngedig o gennin Pedr i’w dosbarthu i bobl sy’n ymweld â’r safleoedd dros benwythnos Dydd Gŵyl Dewi.

Yn ôl y Cynghorydd Di Clements, Cadeirydd Awdurdod y Parc: “Rydyn ni’n annog cynifer â phosib o bobl i ymuno â dathliadau Dydd Gŵyl Dewi, a pha ffordd well o ddathlu diwylliant Cymru yn eich cartref na chael tusw o’r blodau lliwgar yma?

“Bydd y cennin Pedr yn cael eu dosbarthu ar sail y cyntaf i’r felin. Oherwydd mai dim ond nifer cyfyngedig fydd ar gael ar bob safle, byddwn yn annog pobl i ymweld â’r safleoedd cyn gynted â phosib ar 4 neu 5 Mawrth er mwyn manteisio ar y cynnig hwn.”

Bydd Parêd blynyddol y Ddraig hefyd yn cael ei gynnal yn Nhyddewi ddydd Sadwrn 4 Mawrth, gyda chriw o ddisgyblion ysgol ac aelodau gofal yn y gymuned yn gadael Oriel y Parc am 11am.

I gael yr amserau agor, gwybodaeth am y digwyddiad a phrisiau mynediad ar gyfer Castell Caeriw, ewch i www.arfordirpenfro.cymru/castell-caeriw/.

I gael yr amserau agor, gwybodaeth am y digwyddiad a phrisiau mynediad ar gyfer Castell Henllys, ewch i www.arfordirpenfro.cymru/castell-henllys/

I gael yr amserau agor a gwybodaeth am y digwyddiad ar gyfer Oriel y Parc, ewch i www.arfordirpenfro.cymru/oriel-y-parc/.

Continue Reading

Cymraeg

Dydd Gŵyl Dewi yn gyfle perffaith i ddathlu bwyd Cymreig

Published

on

MAE Dydd Gŵyl Dewi (1 Mawrth) yn gyfle perffaith i ddathlu’r cynnyrch Cymreig gorau sydd ar gael, ac mae Undeb Amaethwyr Cymru yn annog defnyddwyr, wrth wneud y siopa wythnosol, i ddewis Cig Eidion Cymru Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI) a Chig Oen Cymru Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI) a gynhyrchir yn gynaliadwy.

Dywedodd Llywydd UAC Glyn Roberts: “Mae gan Gig Eidion Cymru Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI) a Chig Oen Cymru Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI) stori wych i’w hadrodd ac rwy’n falch o fod ymhlith ffermwyr, sydd nid yn unig yn cynhyrchu bwyd gwych, ond hefyd yn barod i rannu’n stori ni. Mae stori cig coch Cymru yn wych, yn enwedig o ran bod yn amgylcheddol gynaliadwy.

“Mae defnyddwyr yn fwyfwy ymwybodol o ôl troed carbon eu bwyd a’r ffordd y mae wedi’i gynhyrchu. Wrth ddewis Cig Oen a Chig Eidion Cymru Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig (PGI) gallant fod yn dawel eu meddwl ei fod wedi’i gynhyrchu gyda natur mewn golwg. Mae mor faethlon a chynaliadwy ag y gall fod, ac rwy’n annog pawb i ddewis ein cynnyrch Cymreig ni yn gyntaf.”

Fodd bynnag, roedd Mr Roberts yn glir bod ffermwyr yng Nghymru angen cefnogaeth, nid yn unig gan Lywodraeth Cymru ond hefyd gan Lywodraeth y DU, os yw ein dulliau cynaliadwy o gynhyrchu bwyd am barhau am genedlaethau i ddod.

“Mae ffermio yng Nghymru yn rhoi sylfaen gadarn i’n heconomi – cynhyrchu bwyd, darparu cyflogaeth, a chwarae rhan hollbwysig wrth ofalu am ein hamgylchedd. Rydym am i’n ffermwyr barhau i gynhyrchu bwyd yn eu rôl fel ceidwaid cefn gwlad am flynyddoedd lawer i ddod.

“Yr hyn sy’n bygwth y system honno yw cytundebau masnach gyda gwledydd sydd â safonau cynhyrchu gwahanol iawn i’n rhai ni, sy’n anfantais i’n ffermwyr o ran bod yn gystadleuol. Felly, rwy’n annog Llywodraeth y DU eto heddiw i roi ein diwydiant ffermio yn gyntaf, fel y mae cenhedloedd eraill yr ydym yn cyd-drafod â nhw yn ei wneud.”

Continue Reading

News2 hours ago

Search for missing Pembrokeshire man scaled back by police

FOLLOWING nine days of extensive searches on land and sea, we can confirm that the search for missing man Jai...

News1 day ago

Sinead James: ‘I heard a loud bang and a scream from Lola at around midnight’

“I WISH i did everything different, i wish i never had him in my house, i wish i never met...

News2 days ago

Haverfordwest mayor vote descends into chaos as fiery dispute breaks out among councillors

SCENES of pandemonium, including three councillors resigning and the mayor being called a disgrace to the town, broke out during...

News2 days ago

Dramatic early hours rescue of 18-year-old in water by Angle RNLI

THE RNLI Angle lifeboat launched on service shortly after 4am on Tuesday morning (Mar 28) to assist in the search...

News3 days ago

Dog in difficulty rescued between St Nons and Caerfai Bay by RNLI

ST DAVIDS inshore lifeboat was tasked at 11am on Monday (Feb 27) to a dog in difficulty at the bottom...

News3 days ago

Mismanagement of public accounts ‘has cost the people of Wales millions’

SIGNIFICANT funds for essential public services have been lost due to shortcomings in the Welsh Government’s accounting, according to a Senedd Committee....

Business4 days ago

Developer Conygar disposes of Haverfordwest 729 home site

A DEVELOPER, involved in a major 700-plus-housing scheme in Haverfordwest, has disposed of its site so it can concentrate on...

News4 days ago

Haverfordwest’s mayor reported to the DVLA by deputy over driving safety fears

HAVERFORDWEST’S mayor, who said he had received anonymous warning letters, was reported to the DVLA by his own deputy mayor...

Business4 days ago

Freeport status ‘will put region at forefront of global green energy revolution’

THE CELTIC FREEPORT will put south west Wales at the forefront of the world’s green energy revolution, the Deputy Leader...

News7 days ago

Lola murder trial: “WTF has he been doing to my baby”

THIS was the question Sinead James, 30, asked officers when shown images of Lola’s injuries during an interview. Transcripts from...

Popular This Week