Connect with us
Advertisement
Advertisement

Cymraeg

Ysgogiad newydd i’r Gymraeg mewn Addysg

Published

on

'Roedd y Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn yn ddiffygiol mewn uchelgais a gweledigaeth': Dywedodd Eluned Morgan

DYSGU Gydol Oes, wedi cyhoeddi bod Aled Roberts wedi’i benodi am gyfnod o 12 mis i ddatblygu ymhellach Gynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg Awdurdodau Lleol.

Mae’n ddyletswydd statudol ar awdurdodau lleol i baratoi a chyflwyno Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg i Weinidogion Cymru eu hystyried. Rhaid i’r cynlluniau osod targedau heriol ar gyfer datblygu addysg Gymraeg yn eu hardaloedd.

Cyflwynwyd y cynlluniau statudol cyntaf ar gyfer y cyfnod 2014-2017 i Weinidogion Cymru ym mis Rhagfyr 2013. Cyflwynwyd yr ail gynlluniau statudol ar gyfer y cyfnod 2017-2020 i Weinidogion Cymru ym mis Rhagfyr 2016. Cynhaliwyd asesiad llawn o’r cynlluniau, a’r casgliad oedd nad oeddent yn mynd yn ddigon pell i sicrhau twf digonol mewn addysg Gymraeg i gyrraedd ein nod ar gyfer miliwn o siaradwyr Cymraeg.

Yn 2017, cyhoeddodd Alun Davies, rhagflaenydd y Gweinidog, y byddai Aled Roberts yn cynnal adolygiad cyflym o’r cynlluniau ac yn cynnig argymhellion ar gyfer dyfodol cynllunio addysg Gymraeg. Derbyniwyd pob un o un deg wyth argymhelliad Aled Roberts, a bydd nawr yn dechrau eu gweithredu. Caiff bwrdd cynghori annibynnol ei sefydlu i ddarparu’r broses graffu angenrheidiol yn ystod y broses hon.

Dywedodd Eluned Morgan: “Roedd y Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg a gyflwynwyd yn 2017 yn ddiffygiol mewn uchelgais a gweledigaeth, a dyna pam y rhoddwyd y dasg o a asesu’r cynlluniau i Aled. Mae hyn yn dystiolaeth glir bod yn rhaid gwella’r system er mwyn datblygu’r sylfaen iawn i gynllunio addysg Gymraeg sy’n adlewyrchu’n well yr uchelgais yn Cymraeg 2050, a’r gydnabyddiaeth bod addysg yn allweddol er mwyn newid pethau.

“Dw i wrth fy modd bod Aled wedi cytuno i barhau â’r gwaith pwysig a ddechreuodd wrth adolygu’r cynlluniau strategol y llynedd, a dw i’n edrych ymlaen at weithio gyda fe i sicrhau bod gyda ni system sy’n addas ar gyfer y dyfodol ac a fydd yn ein helpu i gyflawni’r targedau uchelgeisiol yn Cymraeg 2050.”

Dywedodd Aled Roberts: “Mae strategaeth Cymraeg 2050 yn diffinio uchelgais y Llywodraeth ar gyfer dyfodol ein hiaith. Mae’n cydnabod y rôl hanfodol y bydd y blynyddoedd cynnar ac addysg yn ei chwarae wrth gyflawni ein hamcanion. Dw i’n edrych ymlaen at gael ymgymryd â’r rôl hon ac fe fydda i’n gweithio’n ddiflino gydag eraill i greu’r newid sydd ei angen fel bod ein pobl ifanc yn cael y cyfle i ddysgu a gweithio mewn Cymru wirioneddol ddwyieithog.”

Cymraeg

Anturiaethau Aeron yn y Sioe Frenhinol

Published

on

PROFIAD newydd sy’n wynebu’r cyflwynydd Aeron Pughe yn y Sioe Frenhinol eleni wrth iddo fentro o’r sied gneifio i grwydro’r maes. Yn rhan o griw sylwebu Y Sioe 2018 ar S4C, bydd Aeron yn canolbwyntio ar yr ardaloedd ffwr a phlu, y geifr a’r moch.

“Dwi’m yn siŵr os mai promotion ydi o neu be’,” meddai Aeron. “Y cneifio dwi wedi bod yn sylwebu arno ers tua phum mlynedd, ond, o’r diwedd, dwi wedi ennill yr hawl i gael mynd allan ar gamera byw.

“Dydw i ddim wedi gwneud gymaint â’r ardaloedd hyn yn y gorffennol. Mae ‘na ddigon o geiliogod ym Machynlleth, ac ambell i fochyn a hwch, ond dim fath â’r rhai yn y Sioe!”

Bydd Aeron yn manteisio ar y cyfle i ymweld ag amryw o fannau gwahanol ar faes y Sioe eleni gan gynnwys yr ardal Goedwigaeth, y Peiriannau a chornel gyfarwydd iawn iddo, y Ffermwyr Ifanc.

“Ro’n i’n rhan o Glwb Ffermwyr Ifanc Bro Ddyfi pan oeddwn i’n ddigon ifanc i fod yn aelod, ac wedi helpu ar ôl hynny,” meddai. “Y rheswm dwi’n cyflwyno heddiw ydi oherwydd y Ffermwyr Ifanc. Mae’n neis iawn ‘mod i’n gallu mynd yn ôl yno i hyrwyddo a chyfweld â phobl o’r mudiad.”

Mi fydd Aeron yn ymuno â sawl wyneb cyfarwydd ar dîm sylwebu’r Sioe eleni, gyda Nia Roberts yn angori’r cyfan bob diwrnod o 9.00 y bore. Yr enwog Dai Jones, Llanilar fydd yn cadw llygad ar y gwartheg, Meinir Howells ar y defaid ac yn sylwebu o’r sied gneifio fydd Alun Elidyr.

Heledd Cynwal a David Oliver fydd yn sylwebu o’r Prif Gylch, gyda ffrwd fyw ar gael ar-lein ar gyfer holl gystadlaethau’r Cylch.

Bydd sylwebaeth Saesneg ar gael ar gyfer holl raglenni’r dydd ac isdeitlau Saesneg ar y rhaglenni uchafbwyntiau gyda’r nos wedi’u cyflwyno gan Ifan Jones Evans.

Bydd Ifan hefyd yn mwynhau cynnwrf y maes ar y nos Sul cyn y Sioe mewn rhaglen ragflas fydd yn edrych ymlaen at yr wythnos ac yn darlledu o Foliant y Maes.

Noddir cyfres Y Sioe 2018 gan Goleg Meirion Dwyfor, Glynllifon.

Continue Reading

Cymraeg

Prosiect Maelgi: Cymru

Published

on

Aber Afon Dyfi: Ardal yn cael eu harolygu

MEWN gwaith cyffrous ar y cyd rhwng pysgotwyr a chadwraethwyr, mae prosiect newydd oddi ar arfordir Cymru yn lansio heddiw, 17 Gorffennaf 2018, sy’n canolbwyntio ar chwalu hyd bygythiadau a hanes y maelgi (Squatina squatina), sef rhywogaeth sydd mewn perygl difrifol.

Gofynnir i bysgotwyr, plymwyr, plant ysgol a’r rhai hynny dros 60 mlwydd oed – a phawb arall – gymryd rhan yn y prosiect arloesol newydd hwn sy’n anelu at ddiogelu’r rhywogaeth unigryw hon, a oedd i’w gweld yn helaeth yn nyfroedd Cymru ar un adeg.

Bydd ‘Prosiect Maelgi: Cymru’, dan arweiniad yr elusen gadwraeth ryngwladol Cymdeithas Sŵolegol Llundain (ZSL) a Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC), yn cael ei gynnal ochr yn ochr â deuddeg sefydliad partner arall. Nod y prosiect yw rhoi sylw i un o siarcod prinnaf y byd, trwy weithio gyda phum cymuned arfordirol ledled Cymru. Bydd data a gasglwyd o atgofion cymunedau, ymchwil hanesyddol, gwybodaeth pysgotwyr ac arolygon gwyddoniaeth dinasyddion yn helpu i adeiladu dealltwriaeth well a chynllun cadwraeth ar gyfer y rhywogaeth.

Dywedodd Joanna Barker, Rheolwr Prosiectau Morol a Dŵr Croyw yng Nghymdeithas Sŵolegol Llundain: “Mae gennym gyfle cyffrous i ddeall a gwella statws maelgwn yng Nghymru, sydd o bosibl yn un o’r cadarnleoedd olaf ar gyfer y siarc anhygoel hwn. Rydym yn gobeithio y bydd ein dull o gyfuno cadwraeth a gwyddoniaeth gymdeithasol yn helpu i ddarparu buddion i boblogaeth y maelgwn, ond hefyd i’r cymunedau lleol rydym yn gweithio â nhw, sy’n dibynnu ar y môr ar gyfer eu bywoliaeth.”

Gellir dod o hyd i faelgwn (a oedd yn gyffredin ar hyd ochr orllewinol Ynysoedd Prydain ar un adeg) yn llithro ar draws gwely’r môr gyda’u hesgyll sy’n debyg i adenydd. Maen nhw’n tyfu hyd at tua dau fetr a hanner (oddeutu wyth troedfedd) ond nid ydynt yn peri bygythiad i bobl – maen nhw’n byw ar dywod neu fwd ar waelod y môr yn bennaf, gan ysglyfaethu ar bysgod bach a molysgiaid.

Er bod eu niferoedd wedi disgyn yn helaeth ar draws dwyrain Cefnfor yr Iwerydd, y Môr Canoldir a’r Môr Du dros y ganrif ddiwethaf, mae adroddiadau ohonynt wedi cynyddu oddi ar arfordir Cymru, gan roi gobaith newydd i ddyfodol y rhywogaeth.

Dywedodd Ben Wray, ecolegydd morol gyda Cyfoeth Naturiol Cymru: “Rydym yn hynod ddiolchgar i’r 12 o bysgotwyr rydym wedi gweithio â nhw yn ystod ein prosiect peilot y llynedd, a helpodd i lywio’r prosiect cyffrous ac arloesol newydd hwn. Mae achosion o ddal y siarc ar ddamwain yn dangos y gallai Bae Ceredigion yng nghanolbarth Cymru fod yn ardal bwysig ar gyfer y rhywogaeth. Bydd y data hwn yn hanfodol er mwyn adeiladu darlun mwy clir o statws ac ecoleg maelgwn yng Nghymru, yn ogystal â llywio Cynllun Gweithredu Maelgwn Cymru – yr ydym yn gobeithio y bydd yn helpu i arwain y prosiect at lwyddiant.”

Dywedodd Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig: “Mae Cymru yn wlad falch ac eleni rydym ni’n dathlu ein Blwyddyn y Môr. Mae ein moroedd yn cefnogi cynefinoedd a rhywogaethau sy’n ysbrydoli’n fawr ac sydd o bwysigrwydd cenedlaethol a byd-eang.

“Rwy’n hynod falch o allu cefnogi’r prosiect hwn, sy’n dwyn ein cymunedau arfordirol, pysgotwyr, gwyddonwyr, grwpiau cadwraeth a’r llywodraeth ynghyd i gydweithio er mwyn darparu data y mae angen mawr amdano ynghylch y rhywogaeth hon sydd mewn perygl difrifol. Bydd y data hwn yn gwella ein dealltwriaeth o ecoleg a dosbarthiad y rhywogaeth, fel bod modd i ni warchod y rhywogaeth yn ein moroedd yn well ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Rwy’n annog ein cymunedau, o’r ifanc i’n cenedlaethau hŷn, i ymgysylltu â’r prosiect newydd a chyffrous hwn a bod yn rhan ohono.”

Bydd y prosiect yn casglu data am faelgwn ledled Cymru, gan ganolbwyntio ar ymgysylltu â rhanddeiliaid mewn pum ardal allweddol: gogledd Ynys Môn, Penrhyn Llŷn, Porthmadog i Aber-arth, Abergwaun i Aberdaugleddau, ac Abertawe i Borthcawl.

Gellir adrodd unrhyw achosion personol o weld maelgwn neu eu dal ar ddamwain trwy ddilyn y ddolen ganlynol: http://angelsharknetwork.com/#map. Gallwch gael mwy o wybodaeth am y prosiect yma: www.angelsharknetwork.com/cymru. Gall y rhai hynny sydd â diddordeb mewn bod yn rhan o’r prosiect gysylltu ag angelsharks@zsl.org i helpu i gadw un o’r siarcod prinnaf yn y byd.

Continue Reading

Cymraeg

Yn llai yng Nghymru yn curo plant

Published

on

'Dyma'r union newid o ran agwedd rydym eisiau ei weld yng Nghymru': Meddai Huw Irranca Davies

MAE NIFER y rhieni â phlant ifanc yng Nghymru sydd wedi dweud eu bod yn smacio eu plant wedi lleihau’n sylweddol a dim ond nifer fach o rieni sydd wedi dweud eu bod yn gyfforddus â’r syniad, yn ôl gwaith ymchwil newydd a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru.

Mae’r gwaith ymchwil ‘Agweddau rhieni tuag at reoli ymddygiad plant ifanc 2017’ wedi darganfod bod 11% o rieni â phlant ifanc wedi smacio eu plant yn y 6 mis diwethaf fel dull o reoli ymddygiad eu plant. Nodwyd 22% yn 2015, felly mae’r ffigwr bellach wedi haneru.

n ôl y gwaith ymchwil, roedd 81% o rieni yn anghytuno “bod angen smacio plentyn drwg weithiau”, dyma gynnydd sylweddol ers 2015 lle’r oedd 71% yn anghytuno.

Mae nifer y rhieni a ddywedodd ei bod hi’n bosibl y byddant yn smacio plentyn o dan amgylchiadau penodol wedi lleihau o 44% i 31%. O fewn y nifer hwn, dim ond 5% ddywedodd eu bod yn gyfforddus â’r syniad ac y byddent yn smacio plentyn pan fo angen, gyda 26% pellach yn dweud nad oeddent yn hoffi’r syniad, ond y byddent yn gwneud hynny os mai dyna oedd yr opsiwn olaf.

Nodwyd ystod eang o dechnegau eraill gan rieni ar gyfer rheoli ymddygiad eu plant. Y technegau a nodwyd amlaf oedd:

Canmol ymddygiad da;
Cadw at yr un arferion o ddydd i ddydd;
Dweud na; a
Dweud y drefn wrthyn nhw.

Bwriad Llywodraeth Cymru yw dod â chosbi plant yn gorfforol i ben yng Nghymru. Mae’r ddeddfwriaeth arfaethedig yn rhan o becyn ehangach o fesurau y mae Llywodraeth Cymru’n eu gweithredu i gefnogi plant i gael y dechrau gorau mewn bywyd, ac i gefnogi rhieni i wneud y gorau y gallan nhw.

Pan ofynnwyd i rieni a ddylai smacio plant gael ei wahardd yn llwyr, roedd y farn rhwng y rhai sy’n cytuno â’r gwaharddiad â’r rhai sy’n anghytuno yn weddol gytbwys, gyda 48% yn cytuno â gwaharddiad a 39% yn anghytuno. Yn 2015 roedd 46% yn cytuno â’r gwaharddiad a 43% yn anghytuno, felly mae newid bach wedi bod o blaid y gwaharddiad.

Gan groesawu’r gwaith ymchwil, dywedodd Huw Irranca-Davies, y Gweinidog Plant: “Rwy’n falch iawn i weld, o’r gwaith ymchwil hwn bod cyn lleied o rieni yn credu bod angen smacio plant ar adegau, a bod llai fyth o rieni yn defnyddio cosbau corfforol i reoli ymddygiad eu plant.

“Dyma’r union newid o ran agwedd rydym eisiau ei weld yng Nghymru. Er ei bod hi’n wych gweld bod 81% yn teimlo nad yw smacio plentyn yn dderbyniol ar unrhyw adeg, fel llywodraeth, rydym eisiau sicrhau bod pob rhiant yn cydnabod nad yw smacio plentyn yn dderbyniol ar unrhyw adeg. Dyma pam rydyn ni’n bwriadu cyflwyno deddfwriaeth i’w gwneud hi’n glir bod cosbi plentyn yn gorfforol bellach yn annerbyniol yng Nghymru.”

Continue Reading
News2 days ago

Stephen Crabb MP speaks out in 40 hour Brexit debate

PRESELI MP Stephen Crabb has spoken out against a so-called ‘No Deal Brexit’ which would see Britain leave the EU...

News3 days ago

Police searching for two missing teenage boys

Dyfed-Powys Police is concerned about 15-year-old Shane and 14-year-old Ewan who are missing from Pembrokeshire. Shane is described as white,...

News3 days ago

Have you seen this missing 14-year-old boy from Haverfordwest?

DYFED-POWYS POLICE is concerned for the welfare of 14-year-old Ewan who is missing from Haverfordwest. Ewan is described as white...

News4 days ago

Dashcam footage: Lorry on wrong side of road nearly hits car

A NEAR MISS with a lorry which was driving on the wrong side of the road left a local motorist...

News4 days ago

Heavy rain leads to flooding, yellow warning issued [UPDATED]

A YELLOW weather warning is in place over Pembrokeshire today (Dec 5) as heavy rainfall is causing flooding around the...

News5 days ago

Police CCTV now operating in Milford Haven

FOUR new CCTV cameras have been installed in Milford Haven. They are located at Upper Charles Street, Lower Charles Street,...

News5 days ago

Haverfordwest: Man jailed under new emergency services law

A HAVERFORDWEST man has been the first person in Wales to be prosecuted under the new law designed to protect...

News6 days ago

Haverfordwest: Week of activities planned for £3m cultural centre

THE OPENING of Glan-yr-afon/The Riverside, Haverfordwest’s new flagship cultural centre, will be marked with a week-long programme of activities. The...

News6 days ago

First Minister election ballot closed

THE SPECULATION as to who will succeed Carwyn Jones as First Minister of Wales will soon conclude, as the ballot...

News1 week ago

Driver’s face slashed in attempted Friday night car-jacking

A 32-YEAR-OLD man from Pembroke says that he was slashed in the face by a man who smashed the driver’s...

Popular This Week