Connect with us
Advertisement
Advertisement

Cymraeg

Creu Senedd i Gymru

Published

on

Llywydd Elin Jones: Dechrau cyfnod newydd o ddatganoli yng Nghymru

FEL RHAN o ymgynghoriad Comisiwn y Cynulliad ar ddiwygio etholiadol, caiff tri digwyddiad eu cynnal ledled Cymru ym mis Mawrth er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r ymgynghoriad a rhoi’r cyd-destun i waith y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol.

Cynhelir digwyddiadau yn:

Abertawe – Adeilad Ysgol Rheolaeth, Prifysgol Abertawe, Campws Bae Abertawe. SA1 8EN
Dydd Llun 12/03/18, 18:00 – 19:30

Aberystwyth – Y Brif Neuadd, Adeilad Gwleidyddiaeth Ryngwladol, Prifysgol Aberystwyth, Ceredigion. SY23 3FE
Dydd Iau 15/03/18, 18:30 – 20:00

Trefnwyd y digwyddiadau gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn partneriaeth â Sefydliad Ymchwil, Data a Methodoleg Gymdeithasol ac Economaidd Cymru, y Sefydliad Materion Cymreig, ac Academi Morgan.

Bydd cyflwyniad gan banel ac yna sesiwn holi ac ateb, lle ceir cyfle i holi Elin Jones AC, Llywydd y Cynulliad.

Lluniwyd yr ymgynghoriad yn sgîl y pwerau newydd a roddwyd i’r Cynulliad yn Neddf Cymru 2017.

Mae’r Ddeddf yn rhoi’r pŵer i’r Cynulliad wneud penderfyniadau mewn perthynas â maint y sefydliad a sut mae Aelodau’n cael eu hethol.

Yn gynharach y mis hwn, pleidleisiodd y Cynulliad o blaid penderfyniad y Comisiwn i ymgynghori ar argymhellion adroddiad y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad, sef “Senedd sy’n Gweithio i Gymru”.

Ar ôl dadansoddi’r dystiolaeth yn ofalus, roedd y Panel yn argymell bod angen rhwng 20 a 30 o Aelodau Cynulliad ychwanegol ac y dylid eu hethol drwy system etholiadol fwy cyfrannol sy’n rhoi lle canolog i amrywiaeth. Roedd hefyd yn argymell y dylid gostwng yr oedran pleidleisio isaf ar gyfer etholiadau’r Cynulliad Cenedlaethol, i gynnwys pobl ifanc un ar bymtheg a dwy ar bymtheg mlwydd oed.

Bydd yr ymgynghoriad yn diweddu ar 6 Ebrill.

Yn ogystal ag argymhellion y Panel Arbenigol ar Ddiwygio Etholiadol y Cynulliad mae’r ymgynghoriad hefyd yn cynnwys newidiadau posibl eraill o ran pwy all bleidleisio yn etholiadau’r Cynulliad, a phwy all fod yn Aelod o’r Cynulliad, ynghyd â newidiadau i’r gyfraith yn ymwneud â gweinyddiaeth etholiadol a tniadau mewnol y Cynulliad.

Mae’r Comisiwn eisoes wedi ymgynghori ynghylch newid enw’r Cynulliad, ac o ganlyniad i’r ymgynghoriad hwnnw bydd yr enw’n cael ei newid i Senedd Cymru.

Dywedodd Elin Jones AC, y Llywydd: “Mae Deddf Cymru 2017 yn nodi dechrau cyfnod newydd o ddatganoli yng Nghymru, gan roi cyfle inni wneud newidiadau pellgyrhaeddol i’n deddfwrfa. Mae gennym gyfle nawr i greu’r senedd genedlaethol y mae pobl Cymru’n ei haeddu i hyrwyddo eu buddiannau.

“Mae’r ymgynghoriad hwn yn dechrau’r sgwrs gyda phobl a chymunedau Cymru am y math o sefydliad y maen nhw am i’w Senedd Cymru fod. Edrychaf ymlaen at glywed eu barn.”

Cymraeg

Edrych ar ochr dywyll Cymru

Published

on

YMWELD â chorneli cudd cymdeithas – dyna hanfod y gyfres S4C Ein Byd – ac weithiau dyw hi ddim yn ddarlun hardd.

Yn ystod y gyfres bresennol mae’r cyflwynydd Siôn Jenkins yn ymchwilio i bynciau dwys gan gynnwys syrjeri tramor a defnydd cyffuriau yn un o ardaloedd Cymru sydd wedi’i henwi’n un o’r ‘hotspots’ heroin gwaethaf ym Mhrydain.

A does dim dal nôl – mae Siôn, sydd yn wreiddiol o Landysilio yn Sir Benfro – yn benderfynol o daflu goleuni ar sawl ochr dywyll o fywyd yng Nghymru.

“Mae’r pethau ‘ma’n mynd ymlaen yng Nghymru, ac efallai ‘dyw pobol ddim eisiau cydnabod hynny; ond mae’n bwysig ein bod ni’n dangos y pynciau hyn, a bod pobol yn cael gwybod am eu presenoldeb yn ein cymdeithas,” meddai Siôn. “Dyw bywyd yng Nghymru ddim yn fêl i gyd a thrwy Ein Byd rwy’ eisiau dal drych i fyny ac adlewyrchu’r darlun go iawn.”

Un o gryfderau Ein Byd yw’r berthynas mae Siôn yn datblygu gyda’r bobol sy’n ymddangos yn y gyfres ac sydd ynghanol neu sydd wedi bod trwy brofiadau anodd.

Yn y bennod ‘Syrjeri Tramor’, mae Siôn yn dilyn merch sy’n mynd i Dwrci i gael llawdriniaeth BBL (Brazilian Butt Lift). Mae Siôn gyda hi cyn, yn ystod ac ar ôl y syrjeri ac o ganlyniad, mae’n cael ymatebion gonest a chignoeth am yr holl boen mae hi wedi dioddef er mwyn creu’r corff delfrydol.

Yn y bennod ‘Cyffuriau’ mae Siôn yn dilyn Meinir, menyw yn ei 50au sydd wedi bod yn gaeth i gyffuriau am bron i 20 mlynedd ac ym mhennod ‘Y Sioe Fawr’ mae Siôn yn cael cyfweliad ecsgliwsif gyda mam James Corfield a fu farw yno adeg y Sioe Frenhinol 2017.

“Mae’n well ‘da fi adeiladu perthynas gyda’r bobl rwy’n dilyn yn hytrach na jysd mynd mewn, gwneud y cyfweliad a gadael,” esboniodd Siôn. “Rwy’n berson naturiol chwilfrydig ac rwy’n hoffi cynnal sgyrsiau a dod i wybod mwy am bobl a’u straeon.”

Ond ydyw hi’n anodd gweld y bobol mae’n dod i nabod yn dioddef?

“Newyddiadurwr ydw i ond mae’n gallu bod yn anodd iawn weithiau. Gyda Meinir, er enghraifft, roedd hi’n trio mor galed i ddod dros y cyffuriau ac o’n i’n meddwl ‘dyw’r fenyw ‘ma ddim yn gallu mynd trwy fwy’. Ond bu farw ei chwaer pan oeddem yn ffilmio’r rhaglen ac mae hi mewn perygl o golli ei phresgripsiwn. Roedd un peth ar ôl y llall felly weithiau mae’n anodd peidio teimlo drostyn nhw,” meddai Siôn.

“Ond dyna sy’n wych am Ein Byd – rwy’n cael dangos emosiwn ac empathi a bod fy hun wrth ohebu.”

Un o’r pethau mwyaf anodd i Siôn oedd cyfweld a mam James Corfield. “Roedd hi’n mor annwyl a hefyd mor barod i siarad ond mae hi’n dioddef ers colli ei mab.”

Ym Mhennod 6 ar nos Iau 14 Chwefror bydd Siôn yn bwrw golwg ar y byd steroids, a’r sefyllfa yng Nghymru.

“Byddaf yn gofyn pam fod dynion ifanc yn teimlo bod angen defnyddio steroids, ydyw hi’n ddiogel, beth yw’r peryglon a hefyd sut maen nhw’n cael gafael yn y steroids,” esboniodd Siôn.

“Mae steroids wedi bod o gwmpas am dipyn – ond mae’r defnydd wedi cynyddu yn ddiweddar ym myd rygbi – mae wedi troi mewn i gamp mor gorfforol. Felly mae cymryd steroids wedi troi mewn i rywbeth naturiol i ddynion ifanc i’w wneud.

“Mae’r steroids yn rhoi mantais iddyn nhw yn y gamp ond maen nhw’n dod yn ddibynnol ar y steroids ac mae sgil-effeithiau hirdymor o ganlyniad. Mae unigolyn o Sir Benfro yn sôn am ei brofiadau gyda steroids ac mae e wedi bron colli popeth oherwydd steroids – ei wraig, ei dy – roedd e bron lladd ei hunan.”

Mae Siôn yn falch iawn o Ein Byd a’r hyn mae’r gyfres wedi ei chyflawni. “Rwy’n meddwl bod Ein Byd yn cynnig rhywbeth ffres a newydd ac rwy’ wrth fy modd yn gweithio ar y gyfres,” meddai Siôn.

Continue Reading

Cymraeg

Mae treth newydd yn cefnogi prosiectau amgylcheddol

Published

on

MAE PROSIECTAU, fel gwelliannau i fannau gwyrdd lleol, ardal addysgol awyr agored i blant a rhaglenni cadwraeth i ddiogelu anifeiliaid a phlanhigion prin, ar fin elwa ar fwy na £1miliwn oddi wrth Gynllun Cymunedol Treth Gwarediadau Tirlenwi (LDTCS) Llywodraeth Cymru.

Rhaglen ariannu newydd yw’r cynllun sy’n cael ei reoli gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA).

Bydd grantiau’n cael eu rhoi i gyfanswm o 27 o brosiectau ledled Cymru yn rownd ariannu gyntaf y cynllun.

Gwnaeth Llywodraeth Cymru greu’r cynllun i gefnogi cymunedau lleol a phrosiectau amgylcheddol mewn ardaloedd y mae safleoedd tirlenwi wedi effeithio arnyn nhw. Treth Gwarediadau Tirlenwi (LDT) newydd Cymru, a gymerodd le Treth Tirlenwi’r DU ym mis Ebrill 2018, fydd yn talu amdano.

Mae’r LDT yn dreth ar yr hyn y ceir gwared arno mewn safleoedd tirlenwi a chaiff ei chodi yn ôl pwysau’r gwastraff.

Dyma’r tro i cyntaf i arian o’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi gael ei ddefnyddio i gefnogi cynllun ariannu penodol Gymreig.

Bydd hyd at £50,000 yr un ar gael i helpu prosiectau llwyddiannus sy’n ymdrin â’r amgylchedd, natur, ailddefnyddio, bioamrywiaeth a rheoli gwastraff.

Dyma rai o’r prosiectau fydd yn cael arian:
Pembrokeshire Remakery – £49,900 i helpu prosiect cymunedol sy’n ailaddysgu’r gymuned sut i atgyweirio a thrwsio a chyfrannu at leihau’r gwastraff sy’n mynd i domennydd sbwriel.

Canolfan Teuluoedd y Betws, Sir Gaerfyrddin – £8,000 i brosiect i wella safle awyr agored lle gall rheini a’u plant ddysgu sut i arddio, tyfu eu bwyd eu hunain a gwneud mwy o weithgarwch corfforol.

Ysgol y Lawnt, Caerffili – £10,600 i gefnogi prosiect i weddnewid tir yr ysgol o fod yn goedlan brysgwydd wyllt a segur yn safle ar gyfer gweithgareddau ac addysg awyr agored fydd yn gwella lles disgyblion a bioamrywiaeth.

Menter Môn – £49,900 i gefnogi prosiect sy’n mynd i’r afael â’r minc ar Ynys Môn a’i fygythiad i fioamrywiaeth yr ynys. O wneud dim, gallai’r ysglyfaethwr estron hwn ddifa llygod y dŵr a rhydyddion yr ynys.

Ymddiriedolaeth Natur Vincent yn y Gogledd – £49,900 ar gyfer prosiect sy’n gweithio gyda chymunedau lleol ac yn hyfforddi gwirfoddolwyr newydd i helpu’r boblogaeth o felaod i ymadfer ac i oroesi yn y tymor hir.

Mae ceisiadau ar gyfer yr ail rownd ariannu newydd gau. Ond caiff dwy rownd ariannu eu cynnal bob blwyddyn. Roedd yr ail rownd ariannu’n gwahodd prosiectau o arwyddocâd cenedlaethol sy’n costio rhwng £50,000 a £250,000 i ymgeisio.

Roedd Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, yn uchel ei chlod o’r cynllun a dywedodd y byddai’n arwain at nifer o fuddiannau amgylcheddol ehangach: “Rwy wrth fy modd bod y Dreth Gwarediadau Tirlenwi wedi helpu 27 o brosiectau gyda rhagor na £1miliwn trwy Gynllun Cymunedol newydd y Dreth Gwarediadau Tirlenwi.

“Daw’r prosiectau hyn â manteision mawr i gymunedau, yr amgylchedd a natur a bydd eu heffaith yn para am genedlaethau.”

Dywedodd Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd: “Gyda heriau Brexit ar ein gwarthaf, mae’n bwysicach nag erioed ein bod yn manteisio ar bob cyfle i ariannu prosiectau ymarferol sy’n dod â budd i’r bobl.

“Hoffwn ddymuno pob lwc i bawb sy’n gwneud cais yn y rownd nesaf.”

Dywedodd Ruth Marks, Prif Weithredwr WCVA: “Mae’r ymgeiswyr llwyddiannus yn cynrychioli amrywiaeth gyffrous o brosiectau o bob rhan o’r wlad. O weithredu i wella cyfleusterau cymunedol lleol, gwella’r amgylchedd naturiol a lleihau gwastraff, caiff y prosiectau hyn effaith ardderchog yng Nghymru.

“Gwnaeth y rownd gyntaf ennyn llawer iawn o ddiddordeb ac mae WCVA yn falch o gael gweithio gyda Llywodraeth Cymru a’n partneriaid yn y Cynghorau Gwirfoddol Sirol i roi’r cynllun hwn ar waith.”

Continue Reading

Cymraeg

Brecwastau FUW wedi codi bron £15,000 i elusen

Published

on

MAE WYTHNOS Brecwast Ffermdy blynyddol FUW wedi codi mwy nag ymwybyddiaeth o’r bwyd gwych sy’n cael ei gynhyrchu gan ffermwyr trwy gydol y flwyddyn.

Yn ystod yr wythnos (21-27 Ionawr) cynhaliwyd dros 27 o frecwastau ledled Cymru, sydd wedi codi bron £15,000 ar gyfer apêl elusen Llywydd yr FUW.

Dywedodd Glyn Roberts, Llywydd FUW: “Mae ein staff, aelodau a’r gwirfoddolwyr gwych wedi gwneud gwaith anhygoel unwaith eto eleni. Bydd yr arian sydd wedi cael ei godi yn mynd i’n hachosion elusennol – Cymdeithas Alzheimer Cymru a’r FCN – ac mae bron £35,000 yn y gronfa hon hyd yn hyn.

“Mae cymunedau ffermio yn gymunedau clos ac mae hyn yn brawf o beth y gellir ei gyflawni pan pawb yn dod at ei gilydd, ac yn rhannu’r un nod gyffredin. Drwy’r digwyddiadau hyn, rydym wedi eistedd o amgylch bwrdd y gegin i siarad, rhannu ein syniadau am #AmaethAmByth, ac wedi cryfhau cysylltiadau cyfredol, yn ogystal â sefydlu rhai newydd.

“Bydd yr arian a godwyd yn ein cymunedau gwledig yn mynd tuag at helpu eraill yn ein cymunedau – ni ddylem byth anghofio mai pobl sy’n ffurfio ein cymunedau a bod modd cyflawni pethau anhygoel”.

Continue Reading
News4 hours ago

Milford Haven: Man remanded in custody following Haven Hotel ‘attack’

A MILFORD HAVEN man has been remanded inro custody following a vicious attack at a public house in the town....

News6 hours ago

Japanese dignitaries visit Pembrokeshire to study maritime heritage

JAPANESE visitors have been given unique insights into their long naval and maritime heritage connections with Pembrokeshire. In a visit...

News8 hours ago

Petrol station could be demolished to make way for Costa Drive Thru

THE PETROL station at Withybush Retail Park could be demolished to make way for a Costa Coffee drive-thru. Milford Haven...

News20 hours ago

Lemmy Best, 27, in court over Haven Hotel violence – five were injured

POLICE arrested a man who caused “mayhem” in a Milford Haven pub on Sunday evening (Mar 17). Police said that...

News1 day ago

Milford Waterfront development promoted at prestigious international property event

MILFORD WATERFRONT was one of six Welsh projects to be showcased by the Department of International Trade at MIPIM, an...

News3 days ago

Barclays branches in Milford Haven, Pembroke and Narberth will all close soon

THREE of the five remaining Barclays Bank branches in Pembrokeshire will be closing in the coming months The Pembrokeshire Herald...

News3 days ago

Pembrokeshire College: Student film-makers highlight driving dangers

CREATIVE media students at Pembrokeshire College have highlighted the ‘Fatal 5’ of driving. The students were invited to create short...

News4 days ago

Council counters in Fishguard, Neyland and Milford Haven to shut

PEMBROKESHIRE COUNTY COUNCIL will be closing its customer service centres in Fishguard, Neyland and Milford Haven at the end of...

News4 days ago

Reports damning for City Deal management

THE PUBLICATION of two reports on Friday, March 15, has shone a light into corners of the Swansea Bay City...

News4 days ago

Pembroke Dock: Defendant jailed for bringing a knife to court

A PEMBROKE DOCK man has been jailed after turning up to court carrying a craft knife. Wayne Steven Davies, 30,...

Popular This Week