Connect with us
Advertisement
Advertisement

Cymraeg

Eryri’n barod i groesawu Eisteddfod Ffermwyr Ifanc

Published

on

Fe wnaeth mam gystadlu yn yr Eisteddfod pan oedd hi'n feichiog hefo fi!: Medda Anni Llyn

BYDD digon o hwyl yn Venue Cymru, Llandudno nos Sadwrn, 18 Tachwedd, wrth i Eryri groesawu Eisteddfod Ffermwyr Ifanc Cymru 2017.

Anni Llŷn, Meinir Howells, Ifan Jones Evans a Terwyn Davies fydd yn dod â holl gyffro’r digwyddiad, o’r cystadlu hwyliog i’r cyffro cefn llwyfan, i wylwyr S4C. Ac mae Anni’n edrych ymlaen yn arw at brofi hwyl y cystadlu eto eleni.

“Mae’r Eisteddfod yn gyfle gwych i aelodau o bob cwr o Gymru – rhai’n ffermwyr ac eraill sydd ddim yn ffermio – ddod at ei gilydd i gael hwyl a dangos diwylliant cefn gwlad Cymru ar ei orau,” meddai’r ferch fferm sy’n wreiddiol o Sarn Meyllteyrn, Pen Llŷn ond sydd bellach yn byw yng Nghaerdydd. “Mae’r amrywiaeth eang o gystadlaethau bob amser yn cynnig gwledd liwgar o adloniant, ac mae’r safon yn gallu bod yn uchel iawn.”

Bydd S4C yn darlledu’r cystadlu brwd yn fyw am 5.00 o’r gloch y prynhawn, ac eto o 8.30 hyd nes i’r holl gystadlu ddod i ben.

Mae gan Anni fwy o reswm i edrych ymlaen at yr Eisteddfod eleni gan ei bod hi’n arfer bod yn aelod o glwb Ffermwyr Ifanc Eryri a gan mai ei mam, Rhian Parry, yw Llywydd Anrhydeddus y digwyddiad eleni.

“Roeddwn i’n arfer cystadlu gyda’r llefaru a’r ddeuawd ddoniol hefo Clwb y Rhiw pan oeddwn i’n iau ac fe wnaeth mam gystadlu yn yr Eisteddfod pan oedd hi’n feichiog hefo fi! Wrth gwrs, mae’n grêt ei bod hi’n Llywydd ac mae pobl Eryri wastad yn groesawgar. Ond er fy nghysylltiadau personol. Mae’r ffaith bod rhaid cynnal yr Eisteddfod y tu hwnt i ffiniau’r sir, yn neuadd fawr Venue Cymru, yn beth da ac yn dangos pa mor boblogaidd yw’r digwyddiad.”

Oes gan Anni hoff gystadlaethau mae hi’n edrych ymlaen at eu gweld yn ystod y noson?

“Mae’r cystadlaethau ysgafn wastad yn hwyl,” meddai Anni. “Y sgets a’r ddeuawd ddoniol ac ati. Dwi fel arfer yn mwynhau’r perfformiadau ond hefyd yn rhyfeddu at ba mor wreiddiol mae’r cynyrchiadau. Mae rhywun yn gallu mwynhau’r comedi a’r gwaith creadigol sydd tu ôl i’r perfformiad – a dwi’n edrych ymlaen yn eiddgar at weld pa sir fydd yn dod i’r brig!”

Ac os ydych chi am fwynhau rhagor o gwmni’r ffermwyr ifanc, bydd rhaglen arbennig ar S4C dros y Nadolig yng nghwmni Lisa Angharad am y gwaith paratoi a’r tynnu coes, cyn ac yn ystod, Eisteddfod y Ffermwyr Ifanc.

Cymraeg

Plant yn cystadlu i ennill teitl Carol yr Ŵyl 2017

Published

on

Elin Fflur: "Mae'r safon yn codi o flwyddyn i flwyddyn"

MAE’R NADOLIG yn prysur agosáu ac mi fydd rhai o gorau plant Cymru yn perfformio carolau gwreiddiol yn y gobaith o gipio gwobr Carol yr Ŵyl 2017.

Mi fydd gwledd o gerddoriaeth mewn dwy raglen arbennig ar S4C (nos Fawrth, 12 a 19 Rhagfyr) wrth i gorau ysgolion cynradd berfformio carolau gwreiddiol wedi’u cyfansoddi gan eu hathrawon cerdd. Mae cyflwynydd y rhaglenni, Elin Fflur, wrth ei bodd yn gwylio’r perfformiadau.

“Dwi wir yn mwynhau gweld cymaint o ysgolion yn cystadlu ac mae’r safon yn codi o flwyddyn i flwyddyn. Mae hi’n anhygoel meddwl bod dros 100 o garolau gwreiddiol wedi eu cyfansoddi ers dechrau’r gystadleuaeth. Mae naws y rhaglenni mor Nadoligaidd ac yn cael pawb i deimlo ysbryd yr Ŵyl!” meddai’r gantores a’r gyflwynwraig o Sir Fôn.

“Mi ro’n i’n canu yng nghôr Ysgol Gynradd Llanfairpwll ac roedd fy mam yn ein harwain ar yr un cyfnod a dwi’n dal i hiraethu am hynny. Does dim byd tebyg i greu sŵn mawr melys mewn côr!”

Yr ysgolion sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol yw: Ysgol Gymraeg Sant Curig, Y Barri; Ysgol yr Hendy, Pontarddulais; Ysgol y Graig, Llangefni; Ysgol Iolo Morganwg, Bro Morgannwg; Ysgol Y Felinheli; Ysgol Gynradd Dolau, Pontyclun; Ysgol Gynradd Dolbadarn, Caernarfon; Ysgol Gymraeg y Gaiman, Patagonia; Ysgol Rhos Helyg, Llangeitho ac Ysgol Gymraeg Aberystwyth.

Y tenor ac aelod Only Men Aloud, Steffan Rhys Hughes, a’r actores a chantores Elin Llwyd yw’r beirniaid eleni. Nhw fydd â’r dasg anodd o feirniadu’r perfformiadau a dewis y côr buddugol.

“Dwi wrth fy modd bod Ysgol y Gaiman wedi penderfynu cystadlu eleni. Es i draw i’r ysgol ym Mhatagonia ryw dair blynedd yn ôl ac mae gweld bod cyffro Carol yr Ŵyl wedi cyrraedd ochr arall y byd yn hynod o gyffrous!

“Tydi hi ddim yn gyfrinach fy mod i’n caru’r Nadolig,” meddai Elin Fflur, sydd wedi dechrau paratoi at yr Ŵyl yn barod. “Mae fy addurniadau i fyny ers canol Tachwedd a does gen i ddim cywilydd yn cyfaddef hynny!

“Fy hoff beth yw bod pawb yn cael gorffen gwaith a dod ynghyd a does dim brys ar neb i fynd i nunlle. Mae’n amser bendigedig gyda’r goleuadau lliwgar, Siôn Corn, carolau a siopa yn y ffeiriau Nadolig. Bydda i’n treulio’r Nadolig ar Ynys Môn gyda’r teulu i gyd, dwi’n methu aros!”

Continue Reading

Cymraeg

Lyn Ebenezer yn ‘Gofidio am y Gymraeg a Chefn Gwlad’

Published

on

Wedi mynegi ei ofid dros y Gymraeg a chefn gwlad: Awdur Lyn Ebenezer

MAE’R AWDUR Lyn Ebenezer wedi mynegi ei ofid dros y Gymraeg a chefn gwlad mewn cyfrol o atgofion a gyhoeddir yr wythnos hon.

Cyflwynai Y Meini Llafar i ‘holl Blant y Bont: y gorffennol a’r dyfodol – os fydd yna un’. Ynddo, amlygir y teimladau o golli yr hen ffordd o fyw a’r gofid o weld dirywiad y gymdeithas a’r iaith Gymraeg yn amlwg.

‘Fel sy’n gyffredin i’n hardaloedd gwledig, gadael wna’r ifanc cynhenid i chwilio am waith. Mewnfudwyr ddaw yn eu lle, y mwyafrif ohonynt yn henoed. Rhwng allfudiad yr ifanc a mewnfudiad estroniaid, marw mae’r bywyd cymdeithasol Cymraeg.’ meddai Lyn, ‘Mae’r mannau lle bu pobol yn crynhoi i ddal pen rheswm a thynnu coes bellach yn wag. Ildiodd sgwrsio pen ffordd ei le i drydar a thecstio digymeriad. Collwyd yr arferiad o sgwrsio.’

Cofnododd Lyn ei atgofion am hen ffordd o fyw drwy ddilyn trywydd cerfiadau enwau pobl ei ardal sydd wedi eu naddu ar y bont yn Bontrhydfendigaid.

‘Bu’r hen bont yn rhan o’m bywyd i erioed. Fe’i croeswn hi’n ddyddiol ar droed ar fy ffordd i’r ysgol a saif ar y bryn uwchlaw’r pentre. Bu’n gymaint rhan o’m bywyd â’r ysgol ei hun, lawn gymaint â’r capel a’r festri, hen neuadd y pentre, y siop a gweithdy’r crydd’ meddai, ‘Fydd neb ers degawdau bellach yn ymgasglu ar y bont i sgwrsio, heb sôn am naddu enwau ar y meini. Fydd plant nac oedolion ddim yn ymgasglu bellach i gymdeithasu mewn mannau canolog fel ar sgwâr neu ar bont.’

‘Yn wir, ddim yn unlle… Yn syml, collwyd yr arferiad o sgwrsio pen ffordd.’ ychwanegodd.

Mae Y Meini Llafar yn adleisio newid cymdeithas gyfan, yn hytrach na dim ond ei ardal. Mae’r rhai a bortreadir yn perthyn i gymdeithas gyfan sydd wedi diflannu, a hynny o fewn y tri chwarter canrif diwethaf.

‘Gadawsant eu marc ar y bont ac yn ddwfn ar fy nghof innau. Yma ym Mhontrhydfendigaid mae’r afon yn dal i lifo. Ac mae meini’r hen bont yn dal i lefaru, er dim ond i’r rhai sy’n deall eu hiaith ac sy’n barod i wrando. A phrinhau mae’r rheiny.’ meddai Lyn.

Yn y gyfrol ceir portreadau o gymeriadau fel Ianto John y Potshwr, Tom Lloyd Florida Shop a Guy Morgan, un o arwyr cynnar clwb pêl-droed y Bont, a cheir atgofion lu am gyfeillion a theulu a fu mor ganolog i’w fywyd.

Ceir hefyd deyrnged ardderchog i’w Wncwl Dai, a laddwyd yn y Rhyfel Mawr yn ddim ond 19 oed, yn ogystal â’r bryddest bwerus iddo a ddaeth yn agos i’r brig ar gyfer y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol ym Môn eleni.

Cafodd y bryddest ganmoliaeth arbennig gan y beirniaid a chafodd dawn Lyn ei ganmol gan Emyr Llewelyn a ddyweodd, ‘Dawn brin yw medru sgrifennu’n ddifyr ac yn ddiddorol gan ddal sylw’r darllenydd o’r dechrau i’r diwedd. Mae gan Lyn Ebenezer y ddawn honno a hynny am ei fod yn feistr llwyr ar yr iaith Gymraeg ac yn medru sgrifennu’n syml ac eto’n grefftus.’

Continue Reading

Cymraeg

Cofio Dic gan Idris Reynolds yw Llyfr y Flwyddyn 2017

Published

on

Chwith i'r dde: Beirnwyr Caitrin Beard ac Eirian James, Caryl Lewis, Idris Reynolds, Aneirin Karadog a beiriniad Mari George (Llun. Camera Sioned)

MEWN seremoni fawreddog yng Nghaerdydd, cyhoeddodd Llenyddiaeth Cymru mai Cofio Dic gan Idris Reynolds yw prif enillydd Cymraeg Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2017.

Daeth Cofio Dic, a gyhoeddwyd gan Wasg Gomer, i’r brig yn y categori Ffeithiol Greadigol eleni gan sicrhau cyfanswm o £4,000 i’r awdur yn ogystal â thlws arbennig wedi’i greu gan yr artist Angharad Pearce Jones. Cyflwynwyd y brif wobr i Idris gan Weinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas AC.

Cyfrol o atgofion am y Prifardd a’r cyn-Archdderwydd, Dic Jones, un o feirdd mwyaf ail hanner yr ugeinfed ganrif, yw Cofio Dic. Roedd Idris Reynolds yn un o gyfeillion Dic, a thrwy ei atgofion ohono down i wybod ychydig mwy am y dyn o dan yr wyneb a chael cip hefyd ar y gymdeithas a’r amgylchiadau a ddylanwadodd ar ei awen.

Enillydd y Wobr Farddoniaeth yw’r Prifardd Aneirin Karadog gyda’i gyfrol, Bylchau (Cyhoeddiadau Barddas). Dyma gasgliad sy’n myfyrio ar y bylchau a adewir gan golled bersonol a chyhoeddus, a cholled i iaith a diwylliant, ac am yr hyn sy’n tyfu yn y bylchau hynny drachefn. Y gyfrol fuddugol yng nghategori Ffuglen 2017 yw Y Gwreiddyn (Y Lolfa) gan Caryl Lewis, cyfrol o straeon yn ymwneud â natur, perthynas dyn â’i gyd-ddyn, henaint, cariad a cholled. Dyma’r trydydd tro i Caryl ddod i’r brig gyda gwaith o ffuglen. Derbyniodd enillwyr y categorïau wobr ariannol o £1,000 yr un. Enillydd Gwobr Barn y Bobl Golwg360 eleni yw Guto Dafydd, a swynodd ddarllenwyr Cymru gyda’i nofel Ymbelydredd (Y Lolfa).

Y panel beirniadu Cymraeg eleni yw: y beirniad llenyddol Catrin Beard; y bardd ac awdur Mari George; ac Eirian James, perchennog y siop lyfrau annibynnol arobryn, Palas Print yng Nghaernarfon.

Enillydd y brif wobr yn Saesneg yw Alys Conran gyda’i nofel gyntaf, Pigeon (Parthian). Mae’r nofel hon yn cyflwyno taith trwy atgofion plentyndod; stori am ddymuno’r annhebygol ac am bŵer iaith. Wedi dod i’r brig yng nghategori Ffuglen Saesneg Ymddiriedolaeth Rhys Davies, aeth Alys ymlaen i ennill y brif wobr a gyflwynwyd iddi gan Gadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru, Phil George. Llwyddodd i sicrhau’r hat-trick wrth iddi gipio People’s Choice Award Wales Arts Review yn ogystal.

Enillydd Gwobr Farddoniaeth Roland Mathias 2017 yw John Freeman gyda’i gasgliad What Possessed Me (Worple Press). Enillydd y Wobr Ffeithiol Greadigol Saesneg yw Peter Lord gyda The Tradition (Parthian). Beirniaid y wobr Saesneg eleni yw: yr awdur arobryn Tyler Keevil; yr Uwch Ddarlithydd Dimitra Fimi; ac enillydd Gwobr Farddoniaeth Costa, Jonathan Edwards.

Cyhoeddwyd yr enillwyr mewn Seremoni Wobrwyo a gynhaliwyd yn The Tramshed, Caerdydd ar nos Lun 13 Tachwedd yng nghwmni beirniaid y gystadleuaeth, awduron y Rhestr Fer a’u gwesteion, cyhoeddwyr, partneriaid Llenyddiaeth Cymru ac aelodau o’r cyhoedd.

Dywedodd Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru: “Mae Seremoni Wobrwyo Llyfr y Flwyddyn yn ddigwyddiad arwyddocaol yn y calendr llenyddol yng Nghymru, ac yn gyfle gwych i ddathlu’n hawduron gorau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Llongyfarchiadau gwresog i’r holl enillwyr.”

Continue Reading
News5 hours ago

Milford Haven: Teen delivers speech in House of Commons

THE CHAIR of the Pembrokeshire Youth Assembly, 17-year-old Bethany Roberts of Milford Haven, has been congratulated for delivering a speech...

News8 hours ago

Toilets ‘smashed to pieces’ as council vows to crack down on vandals

PEMBROKESHIRE COUNTY COUNCIL has vowed to crack down on acts of vandalism in the county and is asking the public...

News22 hours ago

Milford Haven: Fire at storeroom next to Sir Charles Whetham

FIRE FIGHTERS have been dealing with a blaze which broke out in a storage building at the bottom of Pill...

News1 day ago

Grinch protest at MP’s office over pay cap

PROMINENT Welsh Conservative MP Stephen Crabb received a visit from a group of Grinch lookalikes outside his office in Haverfordwest...

News1 day ago

New warning about men attempting to stop cars on Murco road

A WOMAN has posted a warning on Facebook after her husband’s car was approached by three men on the old...

News2 days ago

Walwyn’s Castle: Major fire and explosions at Capestone Farm

EMERGENCY SERVICES are currently dealing with a major explosion and fire at Capestone Farm in Walwyn’s Castle. It is understood...

News2 days ago

Plans submitted for £7m SkyDome project at Bluestone

BLUESTONE has submitted a planning application for its groundbreaking ‘SkyDome’ project. If Pembrokeshire County Council approves the plans, the undercover...

News2 days ago

Have your say on proposed changes to parking charges

PEMBROKESHIRE COUNTY COUNCIL is inviting views on its proposals to make changes to car parking charges in car parks where...

News3 days ago

Winter Giant Lantern Parade: An illuminated legend in Cardigan

CARDIGAN is rejoicing after this year’s Winter Giant Lantern Parade held on 8 December. The event wove a magical spell...

News5 days ago

Fishguard: Woman tried to smuggle deported husband through port

A LITHUANIAN woman who tried to smuggle her husband back into the UK through the port of Fishguard has been...

Popular This Week